– Senedd Cymru am 5:13 pm ar 1 Mawrth 2022.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022. Dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i wneud y cyflwyniad yma. Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd, a chyfarchion o Dŷ Ddewi ar Ddydd Gŵyl Dewi. O ran Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020, mae'n rhaid adolygu'r mesurau coronafeirws bob tair wythnos. Cafodd yr adolygiad tair wythnos diwethaf ei gwblhau ar 10 Chwefror. Gyda mwy a mwy o bobl wedi cael y brechiad, gan gynnwys y brechiad atgyfnerthu, a diolch i waith caled ac ymdrechion pawb dros Gymru gyfan, rŷn ni'n hyderus bod cyfraddau'r coronafeirws yn syrthio. Gallwn ni edrych ymlaen felly at ddyddiau gwell o'n blaenau ni. Gam wrth gam ac yn ofalus, fe allwn ni ddechrau dileu rhai o'r mesurau amddiffyn sy'n dal i fod ar waith ar lefel rhybudd 0. Ond dydyn ni ddim am ddileu'r holl fesurau i gyd gyda'i gilydd. Rhaid cofio nad yw'r pandemig drosodd eto. Yng Nghymru, fe fyddwn ni'n dal i wneud penderfyniadau ar gyfer diogelu iechyd y bobl sy'n seiliedig ar dystiolaeth wyddonol sydd ar gael i ni.
Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio'r prif reoliadau ac fe ddaethon nhw i mewn i effaith ar 18 Chwefror 2022. Roedd y rhain yn cynnwys dileu'r gofyniad cyfreithiol i ddangos pàs COVID er mwyn cael mynediad i ddigwyddiadau awyr agored a lleoliadau, gan gynnwys clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd. Ond, wrth gwrs, fe all digwyddiadau a lleoliadau barhau i ddefnyddio pàs os byddan nhw'n dymuno gwneud hynny.
Mae'r rheoliadau'n cael eu diwygio hefyd i ymestyn yr exemptions ar gyfer unigolion sydd wedi cael eu brechu'n llawn sy'n cael eu nodi fel cysylltiadau agos i rywun sydd wedi profi'n bositif am y coronafeirws. Felly, o hyn ymlaen, does dim rhaid i'r rheini sydd wedi cael brechlynnau sydd wedi'u cymeradwyo dramor i hunanynysu rhagor os ydyn nhw wedi cael eu hadnabod fel cysylltiad agos.
Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn ymestyn y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 tan 28 Mawrth 2022. Er gwaethaf y diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y rheoliadau hyn, mae Cymru'n dal i fod ar lefel rhybudd 0 ac mae'n dal i fod yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu'r angen am y cyfyngiadau a'r gofynion yn y prif reoliadau ac ystyried pa mor gymesur ydyn nhw bob 21 diwrnod. Ddydd Gwener, pan fyddwn ni'n rhannu canlyniad ein hadolygiad 21 diwrnod nesaf o'r rheoliadau, fe fyddwn ni hefyd yn cyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer y tymor hir.
Dwi'n annog Aelodau i gefnogi'r cynnig. Diolch, Llywydd.
Gweinidog, a gaf i ategu’r sylwadau a wnaethoch chi ar gyflwyno'r brechiadau yn llwyddiannus, a phawb sydd wedi gweithio mor galed i ddarparu'r brechiadau hynny i'n galluogi i gyrraedd lle rydyn ni wedi’i gyrraedd nawr wrth lacio'r cyfyngiadau ar ein bywydau bob dydd? Wrth gwrs, mae hyn ar ôl dwy flynedd o amser anodd iawn i gymunedau a phobl ledled Cymru. Felly, rydw i’n croesawu rhan helaeth o'r rheoliadau heddiw.
Byddwch yn gwybod, wrth gwrs, Gweinidog, am fy ngwrthwynebiad i a'r Ceidwadwyr Cymreig i basys COVID; roedd y rhain yn benderfyniad anghywir a dydyn ni heb weld y dystiolaeth eu bod wedi bod yn effeithiol. Fodd bynnag, y penderfyniad cywir yw fod Llywodraeth Cymru bellach yn cael gwared ar y pasys COVID, felly rydw i, wrth gwrs, yn croesawu hynny. Fe wnaethoch chi sôn yn eich sylwadau, Gweinidog, y bydd elfen wirfoddol o hyd i’r pasys COVID, felly byddai gen i ddiddordeb gwybod pa lefel o adnoddau sydd ei hangen gan Lywodraeth Cymru i wasanaethu hynny'n wirfoddol i'r rhai sy'n manteisio ar yr opsiwn hwnnw.
Gweinidog, rydych chi’n aml yn sôn bod Lloegr yn eithriad. Wel, wrth gwrs, mae Cymru'n eithriad nawr o ran dod â chyfyngiadau COVID i ben. Rydyn ni wedi cael dyddiad gan Lywodraeth yr Alban; rydyn ni’n gwybod fod y dyddiad wedi mynd heibio i Loegr ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi bod cyfreithiau COVID yn dod i ben ar gyfer y rhan honno o'r DU. Felly, mae Cymru bellach yn eithriad. A gaf i ofyn, yn y set nesaf o reoliadau, allwn ni nawr ddisgwyl i chi roi'r dyddiad i ni pan ddaw'r holl gyfreithiau COVID sy'n weddill i ben?
Yn gynharach y prynhawn yma, Gweinidog, fe wnes i ac Aelodau eraill o'r Siambr hon gyfarfod grwpiau o grŵp teuluoedd profedigaeth COVID. Mae bob amser yn emosiynol iawn i'r bobl hynny sy'n adrodd eu straeon am aelodau o'r teulu sydd, yn drist, wedi marw, ond beth maen nhw’n ei ddisgwyl yw ymchwiliad sy'n benodol i Gymru. Felly, gaf i ofyn eto, Gweinidog, i chi roi sylw i'r union bwynt hwn? Maen nhw am gael ymchwiliad ac rydyn ni’n gwybod bod llawer o gyrff iechyd ledled Cymru am gael ymchwiliad Cymru gyfan. Rydych chi wedi dweud, ac mae'r Prif Weinidog wedi dweud dro ar ôl tro, fod Cymru'n gwneud pethau'n wahanol. Rydyn ni yn gwneud pethau'n wahanol, felly byddwn i’n cwestiynu pam y byddech chi’n hoffi cuddio rhag y craffu hwnnw y byddai ymchwiliad penodol i Gymru gyfan yn ei gyflwyno. Felly, ar yr adeg hwyr hon nawr, Gweinidog, rwy’n gobeithio y gallwch chi ddod â rhywfaint o gadarnhad positif i'r teuluoedd hynny heddiw sydd unwaith eto'n gofyn am yr ymchwiliad penodol hwnnw i Gymru gyfan.
Dim ond ychydig o sylwadau sydd gen i. Prin ydy'r newidiadau, mewn difrif, ond mae bob un yn arwyddocaol wrth inni symud tuag at gyfnod mwy endemig. Ond, mae'n gwneud synnwyr, fel sylw cyntaf, i ymestyn y prif reoliadau tan ddiwedd Mawrth. Dŷn ni'n dal ddim wedi rhoi'r pandemig y tu cefn i ni, ond yn ymarferol, prin iawn ydy'r mesurau amddiffyn statudol sy'n dal mewn lle. Mi ydw i'n gwneud y sylw unwaith eto ein bod ni yn fan hyn yn sôn am newidiadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn barod, a gan fod pethau'n symud yn eithaf graddol erbyn hyn, dwi’n meddwl y gallem ni fod yn delio â materion mewn ffordd mwy amserol. Ac, wrth gwrs, rydym ni eisiau gallu edrych ymlaen tuag at y camau olaf yna o godi cyfyngiadau neu godi y mesurau amddiffyn.
Ychydig o sylwadau gen i—rhyw ddau bryder. Gaf i ofyn i'r Gweinidog beth ydy'r safbwynt bellach ar barhad profi yng Nghymru, a beth ydy'r dadleuon mae'r Gweinidog yn eu rhoi i Lywodraeth Prydain ynglŷn â hyn? Mae o wedi cael ei godi gan aelodau o'r cyhoedd, etholwyr i mi: os oes yn rhaid talu am brofion llif unffordd, er enghraifft, yn Lloegr, wel, beth fydd goblygiadau hynny i Gymru, lle, wrth gwrs, mae presgripsiwns am ddim? Ac yn enwedig, mi fydd angen meddwl yn ofalus beth fydd angen ei wneud o ran darparu profion ar gyfer pobl sy'n agored i niwed neu ofalwyr, er enghraifft.
Y mater arall: os ydy gofynion hunanynysu yn dod i ben fel camau nesaf, sut mae sicrhau cefnogaeth i'r rhai mwyaf bregus? Achos, fel efo cymaint o elfennau o'r pandemig, mae'r bregus a charfannau bregus o fewn cymdeithas wedi dioddef yn anghyfartal, a'r peth olaf rydym ni eisiau ei wneud ydy gweld parhad o'r anghyfartaledd yna wrth inni symud allan o'r pandemig. Felly, mi fyddwn i'n croesawu sylwadau ar hynny.
Ac yn olaf gen innau hefyd, mi oedd hi'n fraint gen i noddi digwyddiad yma yn y Senedd heddiw yma, lle cafodd Aelodau ar draws y pleidiau gyfle i gyfarfod â rhai o'r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid dros y ddwy flynedd ddiwethaf—ymgyrchwyr sydd wedi bod yn galw am ymchwiliad annibynnol penodol i Gymru. Mi wnes i, fel nifer o rai eraill, drio rhoi'r achos mor frwd a phenderfynol ag y gallem ni dros gael ymchwiliad penodol Cymreig. Methu a wnaethom ni yn hynny o beth, a dwi'n gresynu at hynny; mae'r teuluoedd hefyd. Ond rŵan, beth sydd angen sicrhau ydy bod yr ymchwiliad sydd ar gyfer y Deyrnas Gyfunol gyfan yn edrych ar bethau o bersbectif Cymreig. Felly, dwi wedi ysgrifennu heddiw at dîm yr ymchwiliad cyhoeddus hwnnw i ofyn am sicrwydd y bydd yr ymgyrchwyr Cymreig a'u timau cyfreithiol nhw yn cael bod yn dystion sylfaenol i'r ymchwiliad hwnnw, a nid fel rhyw ychwanegiad at y criw ymgyrchu yn Lloegr neu drwy y Deyrnas Unedig. A wnaiff y Gweinidog ymuno â'm galwad i i sicrhau eu bod nhw yn cael eu trin fel grŵp ar wahân, er mwyn sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed o fewn yr ymchwiliad hwnnw?
Y Gweinidog iechyd nawr i ymateb i'r cyfraniadau. Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Wrth gwrs—[Anghlywadwy.]
Ocê. Rŷn ni wedi'ch colli chi am gyfnod.
Mae'n ymddangos fod gennym ni broblem dechnegol gydag ymateb y Gweinidog.
Ydych chi'n fy nghlywed i?
Ydyn. Trïwch eto. Dechreuwch o'r dechrau eto, Gweinidog. Dwi'n credu efallai eich bod chi nôl gyda ni nawr. Rŷch chi'n bell yn Nhyddewi fanna, mae'n amlwg, felly trïwch eto.
Ocê, diolch yn fawr. Jest i ddweud ein bod ni i gyd yn hapus iawn bod y brechlynnau a'r cynllun brechu wedi bod yn hynod o lwyddiannus yma yng Nghymru. Wrth gwrs, rŷn ni mewn sefyllfa nawr lle dŷn ni ddim yn mynd i barhau gyda'r pasys, ond, wrth gwrs, mae cyfle gan bobl, os ydyn nhw'n moyn, i ddefnyddio'r rheini. Ac, wrth gwrs, os ydy hi yn rhywbeth maen nhw'n penderfynu ei gwneud, wrth gwrs, bydd hwnna'n rhywbeth a fydd yn rhaid iddyn nhw ei benderfynu ac, yn amlwg, bydd yna ddim adnoddau yn dod o Lywodraeth Cymru ar gyfer hynny o ganlyniad i hynny.
Yn wahanol i Loegr, Russell, rydyn ni'n hoffi dilyn y wyddoniaeth yn hytrach na'r wleidyddiaeth yma yng Nghymru o ran delio â COVID, ac rwy'n falch iawn o ddweud ei bod hi'n ymddangos bod y cyhoedd yng Nghymru wedi ymateb yn gadarnhaol i hynny, gyda thua 70 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru yn cefnogi'r dull mae Llywodraeth Cymru wedi'i gymryd yng Nghymru, o'i gymharu â thua 40 y cant yn cefnogi dull y Ceidwadwyr yn Lloegr. Duw a ŵyr sut y daethon nhw i 40 y cant, ond dyna ni.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn hefyd i bobl nodi y bydd yr adolygiad 21 diwrnod, wrth gwrs, pan fyddwch chi'n clywed o ran ein cynlluniau hirdymor, y dydd Gwener nesaf hwn, gan y Prif Weinidog.
Rwy'n falch o glywed eich bod chi wedi cwrdd â'r grŵp teuluoedd mewn profedigaeth. Mae'r rhain bob amser yn gyfarfodydd anodd iawn. Mae'r bobl hyn wedi colli anwyliaid ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n hynod sensitif a dealladwy. Mae llawer ohonom ni wedi colli anwyliaid i COVID ac, wrth gwrs, pan ddaw'n fater o ymchwiliad penodol i Gymru, rydyn ni wedi gwneud ein safbwynt yn gwbl glir ar hynny droeon yn y Siambr.
Rhun, o ran parhad profi, bydd lot mwy o fanylion ynglŷn â beth yw'n cynlluniau ni ar gyfer profi yn y dyfodol ar ddydd Gwener. Rŷn ni, wrth gwrs, yn ymwybodol iawn o ba mor bwysig yw hi i ddiogelu pobl sydd yn fregus a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig hefyd eich bod chi wedi cwrdd â'r bobl sydd wedi colli anwyliaid a dwi'n siŵr y clywoch chi'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog y prynhawn yma ynglŷn â'u cyfle nhw i gwrdd â phobl o ran beth sy'n digwydd yn Lloegr gyda'r inquiry yna. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.