– Senedd Cymru am 5:38 pm ar 2 Mawrth 2022.
Fe fyddwn ni nawr yn symud ymlaen i'r ddadl fer. Os gall y rhai ohonoch chi sy'n gadael y Siambr wneud hynny'n dawel.
Y rheini ohonoch sy'n gadael y Siambr, os gallwch wneud hynny'n dawel ac yn gyflym. Rwyf ar fin galw ar John Griffiths i gyflwyno ei ddadl fer. Rwy'n credu ein bod ni'n ddigon tawel yn awr, John, i chi barhau. John Griffiths.
Diolch, Lywydd. Lywydd, ym 1963, bron i 60 mlynedd yn ôl, gwahoddodd Clwb Rygbi Casnewydd yr All Blacks i Rodney Parade. Ac yn groes i'r disgwyl, fe wnaeth tîm Bryn Meredith nad oeddent wedi disgleirio rhyw lawer cyn y pwynt hwnnw, guro tîm o Seland Newydd a gâi ei ystyried yn un o'r goreuon yn ei gyfnod. Hyd heddiw siaradir am y gêm, ac rwy'n siŵr y bydd ar feddyliau nifer o bobl pan fyddant yn mynychu cinio oriel anfarwolion Clwb Rygbi Casnewydd yn ddiweddarach y mis hwn. Mae'r hanes hwnnw, yn fy marn i, yn dangos bod gan Gasnewydd hanes balch iawn yn y byd chwaraeon, yn ogystal â dyfodol disglair a chadarnhaol iawn hefyd yn y byd chwaraeon, rwy'n siŵr.
Sylfaen chwaraeon yng Nghasnewydd, mewn gwirionedd, yw'r cyfleusterau a'r ymrwymiad ar lawr gwlad a welir yn y ddinas. Ac mae cyfleusterau Casnewydd Fyw yn bwysig iawn; maent ymhlith rhai o'r goreuon yng Nghymru. Y pwll nofio, y ganolfan tenis, Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas a gweithgaredd y pentref chwaraeon rhyngwladol yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys y trac athletau a'r defnydd ohono gan Glwb Pêl-droed Casnewydd fel stadiwm.
Lywydd, o yfory ymlaen cynhelir y pencampwriaethau beicio trac cenedlaethol yn felodrom Geraint Thomas, a ailenwyd wrth gwrs ar ôl enillydd Tour de France yn 2018, un o'n hallforion chwaraeon mwyaf enwog yng Nghymru. Y felodrom hwnnw yw'r unig leoliad dan do o'i fath ar draws Cymru gyfan, a dyma lle y bu tîm Olympiaid Prydain yn hyfforddi o'r blaen. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fynd draw i weld y pencampwriaethau beicio trac cenedlaethol yr wythnos hon, gan obeithio cyfarfod â rhai o'r beicwyr, yn ogystal â helpu i wneud cyflwyniadau. Rwy'n credu bod y digwyddiad hwn yn dangos pa mor wych yw dinas Casnewydd yn dal i fod yn y byd chwaraeon hyd heddiw a pha mor angerddol yw'r ddinas ynglŷn â chwaraeon, boed yn bêl-droed, yn athletau, yn griced, yn rygbi, neu'n llu o gampau chwaraeon eraill. Ac mae'n dda iawn cael cyfle heno i dynnu sylw at lawer o waith da sy'n digwydd yn lleol.
Efallai y caf ddechrau gyda rygbi a phêl-droed, Lywydd, ac mae gennym hanes balch Clwb Rygbi Casnewydd a'r Dreigiau wrth gwrs yn y byd rygbi proffesiynol. Ac maent yn gwneud llawer o waith da iawn yn y gymuned, drwy gysylltu â sefydliadau y gymuned chwaraeon ar lawr gwlad, a chan edrych yn eang ar eu cylch gwaith, drwy gysylltu ag ymgyrchoedd Llywodraeth Cymru, â Chyngor Dinas Casnewydd, a llu o sefydliadau gwirfoddol eraill.
Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd yn gwneud pethau tebyg. Maent wedi gwneud llawer o waith da iawn gydag iechyd meddwl, ac iechyd meddwl dynion yn arbennig, yn ddiweddar, ar flaen y gad ymhlith clybiau pêl-droed proffesiynol a sut y maent yn cysylltu â'r agenda iechyd mewn perthynas â her—her fawr—iechyd meddwl yr ydym i gyd yn ei hwynebu ar hyn o bryd. Ac mae ganddynt gangen gymunedol weithgar iawn sy'n gwneud llawer o waith da gydag ysgolion a chyda chymunedau ar lawr gwlad yng Nghasnewydd. Mae County in the Community yn bwysig iawn, a byddaf yn dychwelyd ato yn nes ymlaen.
Lywydd, mae Clwb Criced Casnewydd hefyd yn bennawd arall o ran yr hyn sydd gennym yn y ddinas, ac maent wedi'u lleoli yn y pentref chwaraeon rhyngwladol, rhan arall o'r lleoliad daearyddol gwych hwnnw ar gyfer chwaraeon yn y ddinas. Fel y rhan fwyaf o grwpiau a sefydliadau, mae'n amlwg fod COVID-19 wedi effeithio ar Glwb Criced Casnewydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac oherwydd newidiadau yn y pentref chwaraeon, ni chaniatawyd defnydd o'r cyfleusterau a ddefnyddir ganddynt ar gyfer sesiynau criced yn ystod misoedd y gaeaf am gyfnod, ac effeithiodd hynny ar eu gallu i gynnal sesiynau plant ac oedolion, gyda chwaraewyr yn gorfod mynd i rywle arall, i Gaerdydd a Glyn Ebwy, i hyfforddi. Rwyf wedi cwrdd â'r brodyr Knight, Mike a David, prif gynheiliaid Clwb Criced Casnewydd, i drafod y materion hyn, a hoffwn gofnodi'r ymrwymiad anhygoel sydd gan y brodyr a'r holl wirfoddolwyr o'u cwmpas i hyrwyddo criced ar sail wirfoddol, a sicrhau ei fod yn dal i fod ar gael yng Nghasnewydd i blant iau, i fenywod, i ferched, i uwch dimau'r dynion, i leiafrifoedd ethnig. Mae'r hyn y mae Clwb Criced Casnewydd yn ei gynnig yn eang iawn.
A byddai cyfleuster hyfforddi dan do newydd, rhwydi dan do newydd, yn allweddol iddynt allu bwrw ymlaen â'u hymdrechion. A gwn fod y Dirprwy Weinidog chwaraeon yn ymwybodol o'u huchelgais i ddatblygu'r prosiect hwnnw a'r datblygiad hwnnw, a byddai'n galluogi talent leol i barhau i ddisgleirio a'r agenda gynhwysol iawn honno sydd gan Glwb Criced Casnewydd i ffynnu. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y gwelwn Lywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, yn ogystal â Criced Cymru a Morgannwg, a chwaraeodd eu gemau Ail XI yng Nghasnewydd, i gyd yn cefnogi'r fenter hon, ac wrth gwrs, Casnewydd Fyw ei hun, gan gydnabod mai Clwb Criced Casnewydd yw un o'r clybiau mwyaf amrywiol a chynhwysol, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y DU gyfan. A byddai pwysigrwydd y cyfleuster dan do hwnnw mor—. Byddai'n caniatáu i gymaint mwy ddatblygu, pe bai'n mynd yn ei flaen. Felly, Ddirprwy Weinidog, rwy'n gobeithio y byddwch yn cyfarfod â chynrychiolwyr y clwb, gan gynnwys y brodyr Knight, i drafod eu huchelgeisiau'n fanylach.
Mae Parkrun Cymru a'r ffordd y mae'n gweithredu yng Nghasnewydd yn arwydd arall o ba mor weithgar a brwdfrydig ac egnïol yw'r boblogaeth leol. Ac mae'r ddau parkrun yng Nghasnewydd, un yng Nglan yr Afon ac un yn Nhŷ Tredegar yn etholaeth fy nghyd-Aelod Jayne Bryant, yn ennyn cefnogaeth dda iawn, ac maent yn ei gwneud hi'n bosibl i lawer ddigwydd er mwyn annog ffitrwydd ac iechyd da yng Nghymru, er enghraifft drwy'r rhaglen Couch to 5K a'r cysylltiadau â meddygfeydd lleol i sicrhau bod pobl yn gwybod mai un ffordd ymlaen tuag at iechyd da yw dilyn yr agenda ataliol honno a chysylltu â'r digwyddiadau parkrun a'r cyfan y maent yn ei alluogi yng Nghasnewydd, yn ein dinas.
Fis Hydref diwethaf, cyflwynais ddatganiad barn ar bwysigrwydd y gweithgaredd hwn, ac roeddwn yn falch iawn ei fod wedi cael cefnogaeth gan Aelodau'r Senedd ar draws y Senedd. Rwy'n gobeithio eto, Ddirprwy Weinidog, y bydd Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd a sefydliadau eraill yn parhau i ymrwymo i weithio gyda Parkrun Cymru a digwyddiadau parkrun lleol fel y rhai yng Nghasnewydd i hyrwyddo mentrau iechyd ataliol yn rhagweithiol a deall pwysigrwydd hynny a sut y mae angen inni symud ymlaen fwyfwy i'r sylfaen honno. Ddirprwy Weinidog, rwy'n siŵr y byddech yn gallu dweud wrthym am y trafodaethau yr ydych yn eu cael i wneud hynny.
Wrth gwrs, rydym yn sôn am rai o'r chwaraewyr allweddol, rhai o'r sefydliadau allweddol yn y byd chwaraeon yng Nghasnewydd, ond mae hyn i gyd yn dibynnu ar chwaraeon ar lawr gwlad ac mae'n rhaid iddynt gysylltu â chwaraeon ar lawr gwlad, a'r llu o glybiau, gyda'r holl wirfoddolwyr sy'n eu gwneud yn bosibl, mewn pêl-droed, mewn rygbi, mewn criced, mewn athletau, sy'n dangos yr angerdd ynghylch chwaraeon yng Nghasnewydd fel dinas. Gwn yn iawn faint o'r sefydliadau hynny, faint o deuluoedd, faint o bobl ifanc, faint o fenywod, lleiafrifoedd ethnig sy'n rhan o'r ymdrech honno i wneud hyn oll yn bosibl.
Ledled Casnewydd, mae County in the Community, cangen elusennol a chymunedol Clwb Pêl-droed Casnewydd, yn cyflwyno sesiynau Premier League Kicks yn rhai o rannau mwyaf difreintiedig y ddinas. Maent yn defnyddio chwaraeon i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, cynyddu cyfranogiad menywod a darparu cyfleoedd cynhwysol i'r rhai sy'n byw gydag anabledd. Yn Ringland yn Nwyrain Casnewydd, maent wedi ymgysylltu â dros 100 o bobl ifanc mewn sesiynau am ddim ac wedi cael eu cefnogi gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert. Yn debyg i Glwb Criced Casnewydd, yn ystod misoedd y gaeaf, maent yn darparu'r cyfleoedd hynny, gan barhau drwy gydol y flwyddyn. Ond rwy'n gwybod bod problemau wedi bod—problemau gyda diffyg goleuadau a chyfleusterau glân.
Ac mae'r prosiect y mae County in the Community yn ei ddatblygu yn Ringland wedi dangos i mi, hyd yn oed wrth i'r broses o adfywio ein cymunedau fynd rhagddi, ei bod weithiau'n ymddangos nad yw cyfleusterau chwaraeon yn flaenllaw yn hynny o beth, pan fo gwir angen iddynt fod. Ddirprwy Weinidog, gwn fod gennym brosiectau yng Nghasnewydd i adeiladu ar ein hanes chwaraeon i gysylltu â'r ganolfan iechyd a lles newydd yn Ringland, Parc a Dwyrain Casnewydd, cyfleuster a fyddai'n cynnwys meddygfa, gwasanaethau deintyddol, cyfleusterau i deuluoedd a therapi, fferylliaeth, gwasanaethau bydwreigiaeth, nyrsys cymunedol a gofal cymdeithasol i oedolion. Yn rhan o'r datblygiad hwnnw, dylem fanteisio ar y cyfle i wella cyfleusterau chwaraeon yn yr ardal, gan wneud cysylltiadau hollbwysig ag iechyd. Felly, roeddwn yn meddwl tybed, Ddirprwy Weinidog, a yw hyn yn rhywbeth y gallech chi, gyda'r Gweinidog iechyd, y bwrdd iechyd a chyngor y ddinas, ynghyd â rhanddeiliaid allweddol eraill, sicrhau ei fod yn cael ei archwilio.
Yn olaf gennyf fi heno, hoffwn dynnu sylw at hanner marathon Casnewydd, sy'n cael ei gynnal ddydd Sul, ac unwaith eto mae'n gwneud llawer i roi chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar flaen yr hyn sy'n digwydd yn lleol ac ym meddyliau pobl leol. Mae wedi'i drefnu, wrth gwrs, gan Ofal Hosbis Dewi Sant, sy'n sefydliad hynod bwysig yng Nghasnewydd—yn gwneud cymaint o waith da i deuluoedd lleol gyda gofal diwedd oes, a thrwy'r hanner marathon, mae'n codi llawer iawn o arian hanfodol ac yn galluogi rhedwyr i godi arian ar gyfer llu o elusennau hanfodol eraill ac yn amlwg, mae'n cael llawer o bobl i ddod yn fwy egnïol a heini yng Nghasnewydd a thu hwnt.
Y llynedd, nid oedd modd cynnal y ras ar ei ffurf arferol ac roedd yn rhithwir oherwydd COVID-19, ond ddydd Sul, bydd cymaint o redwyr yn cymryd rhan, gan fy nghynnwys i, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr. Mae'r digwyddiad wedi tyfu a thyfu dros y blynyddoedd—mae'n fwy ac yn well o un flwyddyn i'r llall, a bydd yn parhau i ddatblygu. Ddirprwy Weinidog, rwy'n gwybod ei bod ychydig yn hwyr i gofrestru erbyn hyn, ond rwy'n siŵr y byddai'r trefnwyr yn falch iawn o'ch clywed yn rhoi eich cefnogaeth i'r digwyddiad ddydd Sul. Rwy'n gobeithio bod yr hyn y gallais ei amlinellu mewn amser cyfyngedig yn rhoi blas o rywfaint o'r hyn sy'n digwydd yng Nghasnewydd a pha mor frwd ac angerddol yw Casnewydd ar lawr gwlad ac ar y lefel broffesiynol ynglŷn â chymryd rhan lawn mewn chwaraeon yng Nghymru a sicrhau bod hynny'n datblygu'n gryfach byth wrth inni symud ymlaen. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i fy nghyfaill, John Griffiths, am godi hyn heddiw ac am ganiatáu munud o'i amser i mi. Mae gan Gasnewydd hanes cyfoethog o gyfrannu at wead chwaraeon Cymru. Mae ein clybiau ar lawr gwlad, fel y rhai y mae John wedi sôn amdanynt, wedi meithrin a chefnogi cymaint o dalent. Hyd yn oed cyn curo'r All Blacks ym 1963, roedd gennym Arthur 'Monkey' Gould, yr ystyrid mai ef oedd seren gyntaf rygbi Cymru a'r byd, ac a oedd yn nhîm yr Invincibles yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, i rai fel Tony Pulis a Mike Flynn a'u heffaith ar bêl-droed, Christian Malcolm a oedd yn rhedwr o'r radd flaenaf ac sydd bellach yn hyfforddwr o'r radd flaenaf, a Mica Moore a'i llwyddiannau bobsledio. Mae pobl Casnewydd bob amser wedi chwarae eu rhan.
Yn fwy diweddar, cefais fy nghalonogi'n fawr wrth weld mabolgampwyr Casnewydd yn defnyddio eu llwyfan a'u gwreiddiau i newid meddylfryd ac ysbrydoli ein cymunedau—pobl fel Ashton Hewitt a Leon Brown o'r Dreigiau yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae Ashton yn gwneud cymaint i geisio trechu hiliaeth a gwahaniaethu mewn rygbi a chwaraeon yn gyffredinol, ac yn y gymdeithas, ac mae'r ddau chwaraewr yn llysgenhadon balch i'r rhaglen Dyfodol Cadarnhaol, gyda'r nod o ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol ac i efelychu eu cyflawniadau yn y byd chwaraeon. Mae gan Gasnewydd enw da am chwaraeon y gall fod yn falch ohono. Mae cymaint o hynny'n deillio o ymrwymiad a chefnogaeth pobl ar lefel gymunedol. Hir y parhaed.
Galwaf ar Ddirprwy Weinidog y celfyddydau a chwaraeon i ymateb i'r ddadl—Dawn Bowden.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i John am arwain y ddadl y prynhawn yma ac am gyfraniad Jayne hefyd? Rwy'n cydnabod angerdd John am chwaraeon a hamdden, a Jayne, mewn gwirionedd—mae'n gefnogwr rygbi a phêl-droed mawr, rwy'n gwybod—ond yn sicr mae John bob amser wedi bod yn gadarn ei gefnogaeth i'r gwahanol glybiau a chyfleusterau chwaraeon yn ei etholaeth, a chredaf ei fod wedi cyfleu hynny'n huawdl iawn y prynhawn yma, neu heno.
Hoffwn ddechrau fy ymateb drwy ddweud bod cefnogi ein clybiau a'n digwyddiadau chwaraeon cymunedol ledled Cymru yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon ar lefel elitaidd a chymunedol. Mae buddsoddi yng cyfleusterau chwaraeon ein gwlad hefyd yn ymrwymiad personol i mi, fel y gallwn ddatblygu mwy o'n talent fel cenedl. Mae ein buddsoddiad ar lefel elitaidd, buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf i gefnogi llwyddiant chwaraeon ein gwlad ar y llwyfan byd-eang, yn allweddol i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.
Yng Nghasnewydd a'r ardaloedd cyfagos, hoffwn feddwl y gallwn ddatblygu'r genhedlaeth hon i efelychu sbrintwyr Olympaidd tebyg i Christian Malcolm, y mae Jayne eisoes wedi sôn amdano, a Jamie Baulch; y bocsiwr a enillodd fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad, Sean McGoldrick; y saethwr Paralympaidd, Pippa Britton, enillydd medal byd ac aelod allweddol o fwrdd Chwaraeon Cymru; Kyron Duke, a enillodd fedal arian Baralympaidd ar y waywffon a thaflu maen; y pêl-droediwr, Chris Gunter, gyda mwy na 100 o gapiau rhyngwladol dros Gymru; y nofiwr a enillodd fedal aur Baralympaidd, Liz Johnson; y chwaraewyr rygbi, Taine Basham ac Aaron Wainwright; neu Cerys Hale, un o'n menywod arloesol, sydd wedi derbyn cytundeb rygbi rhyngwladol yn ddiweddar i chwarae dros Gymru. Gallwn barhau, ond credaf ei bod yn deg dweud bod Casnewydd wedi cynhyrchu ei chyfran deg o dalent Cymru dros y blynyddoedd, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n parhau.
Rhaid imi ychwanegu hefyd fod Casnewydd wedi bod yn ganolfan hyfforddi i athletwyr rhagorol: y Paralympiaid Jordan Howe, Rhys Jones a James Ledger, i gyd wedi'u hyfforddi gan Christian Malcolm yn y ddinas; a llawer o feicwyr sydd wedi hyfforddi yn felodrom cenedlaethol Geraint Thomas, gan gynnwys James Ball, enillydd medal arian Baralympaidd. Ac yn y fan hon, hoffwn ddymuno pob lwc i'r rhai a ddewiswyd i gymryd rhan yng Ngemau'r Gymanwlad sydd i ddod yn Birmingham, ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn cystadlu, ac yn dod â medalau yn ôl gyda hwy, gobeithio.
Ond rhaid inni geisio cefnogi a galluogi'r genhedlaeth nesaf yn awr, a'n hymrwymiad yw buddsoddi mewn cyfleusterau newydd a rhai sy'n bodoli'n barod i wella sylfaen ein chwaraeon cymunedol, a dyna pam, mor ddiweddar â'r mis diwethaf, y cyhoeddais £4.5 miliwn o gyllid cyfalaf pellach eleni i gefnogi'r ymrwymiad hwn, gan ddod â chyfanswm ein buddsoddiad yn 2021-22 i fwy na £13.2 miliwn. Mae rhai o'r buddsoddiadau hynny wedi'u gwneud yng Nghasnewydd, megis darparu cyfleusterau perfformiad uchel newydd yng Nghlwb Golff Parc, galluogi mynediad i'r anabl yng nghlwb bowls Beechwood, cyfrannu at alluogi dosbarthiadau bocsio i ferched a menywod yng Nghlwb Bocsio St Michael, ac uwchraddio'r goleuadau hyfforddi yng nghlwb rygbi Tŷ-du, i enwi ond ychydig o'r rhain.
Ac fel y nododd John yn ei gyfraniad, mae Clwb Criced Casnewydd yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer cyfleusterau newydd, a gwn eu bod wedi cael eu hannog i siarad â Criced Cymru a Chwaraeon Cymru i drafod hyn, a bydd fy swyddogion yn fwy na pharod i wneud y cyflwyniadau hynny os oes angen.
Ond wrth gwrs, rhaid inni beidio ag anghofio'r cyfleusterau o'r radd flaenaf sydd gennym eisoes yng Nghasnewydd, ac mae John eto wedi sôn am rai o'r rheini, ond mae gennym y Celtic Manor, a gynhaliodd Gwpan Ryder 2010 ac unwaith eto, nodaf felodrom cenedlaethol Geraint Thomas, sydd, fel y soniodd John, yn cynnal y Bencampwriaeth Beicio Trac Cenedlaethol yr wythnos hon. Heb y cyfleusterau deniadol a hygyrch hyn, ni allwn obeithio cynyddu cyfranogiad ar draws y campau, yn enwedig ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, a dyma'r allwedd i gefnogi datblygiad ein plant a datblygu mynediad at chwaraeon, megis buddsoddi mewn chwaraeon merched a menywod.
Fodd bynnag, dim ond rhan o'r darlun yw'r cyllid a ddarparwn i Chwaraeon Cymru a chyrff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon. Rydym hefyd wedi buddsoddi yn hanner marathon Casnewydd a marathon Casnewydd dros y blynyddoedd diwethaf, gan groesawu niferoedd mawr o redwyr, gan gynnwys John, fel y soniodd eisoes. Rwy'n clywed eich bod yn mynd i'w redeg eto am y nawfed flwyddyn yn olynol, rwy'n meddwl, John. Felly, mae honno'n dipyn o gamp. Nid wyf yn gwybod a ydych chi'n anelu at amser cymhwyso ar gyfer Gemau'r Gymanwlad neu rywbeth, ond pob lwc i chi ddydd Sul, beth bynnag. Ac mae'r digwyddiadau hyn, wrth gwrs, yn dod â chefnogwyr a gwylwyr i mewn, gan hyrwyddo'r ddinas fel lleoliad chwaraeon gwych, a chyfrannu'n sylweddol at yr economi leol. Yr wythnos hon, mae Casnewydd hefyd yn cynnal cystadleuaeth snwcer agored Cymru, gan ddenu rhai o chwaraewyr gorau'r byd i'r ddinas, yn cynnwys Iulian Boiko, dyn ifanc yn ei arddegau o Wcráin y mae'n rhaid ei ganmol am gystadlu ar yr adeg anodd hon iddo'n bersonol, a Ng On-yee o Hong Kong, y fenyw gyntaf i gystadlu yn y gystadleuaeth.
Drwy gydol y pandemig, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi cymorth sylweddol i dimau chwaraeon proffesiynol yng Nghasnewydd—y Dreigiau a Chlwb Pêl-droed Casnewydd—i'w diogelu rhag effaith lawn cyfyngiadau COVID drwy'r gronfa chwaraeon gwylwyr. Rydym wedi rhoi cymorth iddynt i wrthbwyso colli incwm gan gefnogwyr a'u galluogi i fod yn gystadleuol yn eu priod gynghreiriau. Ac mae'n dda gweld, wrth gwrs, fel yr amlinellodd John unwaith eto, y camau a gymerwyd gan sefydliadau fel y Dreigiau a Chlwb Pêl-droed Casnewydd, a'r gwaith a wnânt i gefnogi eu cymuned.
Felly, gan edrych i'r dyfodol, Ddirprwy Lywydd, rydym eisoes wedi ymrwymo £24 miliwn o gyllid cyfalaf i Chwaraeon Cymru dros y tair blynedd nesaf ac o'm rhan i, dim ond man cychwyn ein huchelgais yw hynny, a byddwn yn ceisio adeiladu ar y buddsoddiad cychwynnol hwnnw, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ledled Cymru gyfan, ac nid Casnewydd yn unig, gyda llaw. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud cyfleusterau ar gyfer ein chwaraeon a'n gweithgareddau corfforol yn hygyrch i bawb os ydym am ryddhau manteision chwaraeon i bawb yng Nghymru, o'r rhai sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad i'r rhai ar lefel elît. Mae cyfleusterau modern, hygyrch a chynaliadwy yn hanfodol i annog pobl i ddychwelyd at chwaraeon neu i ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon.
Mae'r ystad addysg, drwy ein hysgolion a'n colegau, hefyd yn darparu llwyfan pwysig ar gyfer ein cyfleusterau chwaraeon. Mae gan ein rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu, rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn flaenorol, ran bwysig i'w chwarae yn darparu cyfleusterau chwaraeon. Mae awdurdod lleol Casnewydd wedi elwa ar fuddsoddiadau o'r fath, sydd wedi eu galluogi i ddatblygu prosiectau sy'n cynnwys cyfleusterau cymunedol a chwaraeon. Rydym wedi darparu buddsoddiad yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed sydd newydd ei sefydlu, ysgol arbennig Ysgol Bryn Derw, ac Ysgol Basaleg, y mae ei chyfleusterau i gyd ar gael at ddefnydd ehangach y gymuned. Yn ysgol Is Coed, mae cyllid wedi helpu i ddarparu cae chwaraeon 3G maint llawn dan lifoleuadau i rai dan 18 oed, prif neuadd fawr gyda ffreutur a lle bwyta ar wahân, ac yn Ysgol Basaleg, mae buddsoddiad wedi helpu i ddarparu cae rygbi 3G maint llawn dan lifoleuadau a chae pêl-droed 3G llai o faint i rai dan 16 oed.
Ac wrth gwrs, mae gwerth chwaraeon i iechyd, y gymdeithas a'r economi wedi ei gydnabod yn eang, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn chwaraeon drwy bŵer ataliol chwaraeon. Soniodd John am ddigwyddiadau parkrun yn y cyd-destun hwnnw, ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef ar hynny, oherwydd mae pŵer ataliol chwaraeon hefyd yn cynnwys presgripsiynu cymdeithasol, lle byddem yn cysylltu'n agos â chydweithwyr ym maes iechyd y cyhoedd ac yn gweithio ar y cyd i ddarparu cyfleoedd i sefydliadau a chlybiau chwaraeon gyfrannu a chymryd rhan mewn unrhyw ffordd bosibl i wireddu ymrwymiad mor bwysig yn y rhaglen lywodraethu.
Ond i ddychwelyd at brif elfen y ddadl, yr ymrwymiad i chwaraeon ar lawr gwlad, heb amheuaeth, yw carreg sylfaen ein llwyddiant ehangach fel gwlad ar lwyfan y byd. Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon ledled Cymru mewn ffordd gynaliadwy sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang i sicrhau mynediad cyfartal ac i gefnogi ein hathletwyr a'n hyfforddwyr talentog lle bynnag y maent yn byw a beth bynnag fo'u cefndir. Rydym eisoes wedi cael deialog gadarnhaol ac adeiladol gyda rhai o'n partneriaid cenedlaethol ynghylch cyflawni'r amcanion hynny gyda'n gilydd, ac edrychaf ymlaen at drafodaethau pellach yn y dyfodol agos. Diolch yn fawr.
Diolch i bawb. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.