2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 2 Mawrth 2022.
3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gasglu a defnyddio data biometrig disgyblion mewn ysgolion? OQ57698
O'n cyfarfod ym mis Rhagfyr, rwy'n gwybod y byddwch yn ymwybodol na allwn atal ysgolion yn gyfreithiol rhag casglu a defnyddio data biometrig. Fodd bynnag, o ganlyniad i'r trafodaethau a'r materion y mae'r Aelod wedi ein helpu i'w deall yn well, mae swyddogion wrthi'n adolygu'r canllawiau i ysgolion ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau, pan gaiff data ei gasglu a'i ddefnyddio, ei fod yn cael ei wneud yn y ffordd briodol.
Diolch. Ym mis Mawrth 2020, gosododd Bwrdd Diogelu Data Ewrop ddirwy ar ysgol Bwylaidd am ddefnyddio data biometrig, neu olion bysedd, ar gyfer 680 o blant yn ffreutur yr ysgol yn gyfnewid am eu prydau ysgol. Er y nodwyd bod yr ysgol wedi cael caniatâd ysgrifenedig gan rieni, pwysleisiodd y bwrdd nad oedd data biometrig yn hanfodol ar gyfer arferion amser cinio. Ni chaent ddefnyddio dulliau sy'n ymyrryd â phreifatrwydd plant. Weinidog, gallwch ddychmygu fy arswyd pan gefais wybod bod yr un arferion hyn yn digwydd mewn ysgolion ledled Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl a ledled Cymru. Yn fwy pryderus fyth, mae'r defnydd o ddata biometrig yn cael ei werthu i ysgolion a rhieni gan gwmnïau diegwyddor fel opsiwn mwy diogel. Weinidog, ni allaf bwysleisio hyn ddigon: nid yw'n ddiogel nac yn gymesur. Gellir ailosod cyfrineiriau a chodau PIN. Pan fydd eich data biometrig wedi ei beryglu, mae wedi ei beryglu am oes. Mae'n atal y plant, am weddill eu hoes, rhag gallu defnyddio eu holion bysedd am resymau diogelwch. Rydym hefyd yn addysgu ein plant ac yn normaleiddio'r arfer o ddefnyddio eu cyrff yn gyfnewid am brydau bwyd fel rhan o drafodiad yn ein hysgolion ym mhobman. Credaf fod angen dadl ei hun ar y pwnc hwn, ond yn y cyfamser, a wnaiff y Gweinidog sicrhau bod diogelu data yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon a sicrhau, fan lleiaf, nad yw plant yn dioddef yn sgil tramgwyddau data wrth i dechnolegau sy'n dod i'r amlwg gyrraedd ein hysgolion?
Mae hwn yn fater pwysig iawn, ac rwy'n cymeradwyo'r Aelod yn llwyr am hyrwyddo'r mater yn gyson, ac os caf ddweud, mewn modd mor arbenigol, yn y Siambr a thu hwnt. Mae gan ysgolion opsiwn, fel y dywed yn ei chwestiwn, i ddefnyddio systemau biometrig fel un o'r dulliau dilysu a ddefnyddiant i ddarparu, er enghraifft, arlwyo heb arian yng nghyd-destun prydau ysgol am ddim ac yn y blaen. Mae hynny wedi helpu i ddileu rhywfaint o'r stigma.
Fodd bynnag, fel y dywedais, o ganlyniad i'r trafodaethau a gawsom, mae swyddogion wedi bod yn ymgysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Comisiynydd Plant Cymru, yn ogystal â Chomisiynydd Biometreg Cymru a Lloegr, er mwyn diwygio'r canllawiau hynny. Bydd y canllawiau'n cynnwys gwybodaeth fanwl am rwymedigaethau ysgolion mewn perthynas â diogelu data, asesiadau effaith ac, yn hollbwysig, asesiadau o'r effaith ar hawliau plant cyn gwneud penderfyniad i gyflwyno system fiometrig. Bydd yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan a bydd ar gael i rieni, i ofalwyr, ac i bobl ifanc eu hunain. Mae preifatrwydd dysgwyr ifanc yn gwbl hanfodol, a bydd y canllawiau'n atgyfnerthu'r neges nad yw cymryd rhan mewn system fiometrig yn orfodol a bod yn rhaid i rieni a gofalwyr roi caniatâd ysgrifenedig cyn y gellir casglu unrhyw ddata biometrig. Ac rwy'n gobeithio y byddai'n croesawu'r ffaith hefyd y bydd fersiwn addas i blant o'r canllawiau yn cael ei chyhoeddi hefyd fel bod plant a phobl ifanc yng Nghymru yn deall eu hawliau eu hunain i breifatrwydd yn y ffordd y maent yn ymdrin â'r mathau hyn o gwestiynau mewn ysgolion. Byddwn yn gofyn am adborth uniongyrchol gan ddysgwyr ifanc yn ddiweddarach y mis hwn ynghylch cynnwys y canllawiau hynny.
Weinidog, rwyf wedi gweld budd data biometrig mewn ysgolion, fel cynghorydd awdurdod lleol. Fe'i cyflwynwyd i helpu i leihau'r stigma ynghylch prydau ysgol am ddim. Pan fo pawb yn defnyddio'r un ciw a'r un system dalu, mae'n lleihau'r perygl o fwlio ac aflonyddu. Fodd bynnag, mae rhai rhieni a phlant yn poeni, ac yn poeni'n briodol, ynglŷn â'r defnydd o'r data biometrig a lle mae eu manylion yn cael eu storio ac a ydynt yn ddiogel. Felly, Weinidog, a wnewch chi achub ar y cyfle hwn i dawelu meddwl rhieni ac unigolion pryderus ynghylch risg tramgwyddau data yn dilyn gosod dyfeisiau biometrig, ac a allwch chi gadarnhau a fu unrhyw achosion o dramgwyddau data mewn ysgolion neu golegau ledled Cymru? Diolch, Lywydd.
Diolch i James Evans am y cwestiwn hwnnw. Fe'i cyfeiriaf at yr ateb a roddais i Sarah Murphy eiliad yn ôl mewn perthynas â hynny. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw ysgolion neu golegau yng Nghymru sy'n defnyddio'r dechnoleg fiometrig fwy newydd megis systemau adnabod wynebau, er enghraifft, ond rwy'n ei sicrhau, fel y gwneuthum gyda Sarah Murphy, y bydd y canllawiau'n nodi ar gyfer ysgolion a rhieni a gofalwyr, ond hefyd ar gyfer dysgwyr, y fframwaith hawliau a'u hawliau mewn perthynas â hyn. Hefyd, mewn maes lle mae'r dechnoleg yn aml yn newid yn gyflym iawn, byddwn yn ymrwymo i adolygu hynny'n rhagweithiol wrth i dechnolegau newydd ddod i'r amlwg.