1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 9 Mawrth 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.
Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Mae Ewrop, ac yn wir, y byd i gyd, wedi’u syfrdanu gan y digwyddiadau yn Wcráin. Bydd rhyfel cwbl ddiangen ac anwaraidd, a achoswyd gan unigolyn a ddallwyd gan ei olwg wrthnysig ei hun ar y byd, yn arwain at ganlyniadau ymhell y tu hwnt i ffiniau dwyrain Ewrop. Rwy'n hyderus y byddai pob Aelod sy'n eistedd yn y Siambr hon yn cytuno â hynny. Mae gennym rwymedigaeth foesol yma yng Nghymru i wneud popeth a allwn i gefnogi ein ffrindiau o Wcráin sy'n ffoi rhag y rhyfel. Dyna pam rwy'n croesawu'r ffaith bod yr Ysgrifennydd amddiffyn, Ben Wallace, wedi datgan y gall ac y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud mwy.
Ond mae’r argyfwng presennol yn codi cwestiynau hollbwysig ynghylch parodrwydd ein gwasanaethau cyhoeddus, a fydd yn hollbwysig wrth ddarparu’r cymorth a’r gefnogaeth angenrheidiol i’n cyfeillion o Wcráin a fydd yn ceisio ailadeiladu bywydau newydd yma yng Nghymru. Dyma lle bydd ein hawdurdodau lleol, a’r gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddol ehangach, unwaith eto, ar y rheng flaen. Ond er mwyn iddynt ymateb i'r her, mae'n rhaid rhoi'r offer iddynt wneud y gwaith. Nawr, Weinidog, gwn ichi ddweud ddoe eich bod wedi cynnal sgyrsiau cychwynnol gyda phartneriaid llywodraeth leol ar y mater. Fodd bynnag, bydd blaengynllunio'n hanfodol wrth baratoi ar gyfer pa senario bynnag a all godi, gan y gwn y bydd angen ystod eang o wasanaethau i gefnogi ein ffrindiau o Wcráin. Fodd bynnag, mae’r gwasanaethau hyn, ac awdurdodau lleol yn wir, eisoes o dan bwysau aruthrol oherwydd y pandemig. Weinidog, pa asesiad a wnaethoch o'r adnoddau y bydd eu hangen ar gynghorau i ddarparu gwasanaethau i bobl sy’n cyrraedd Cymru, megis llety, cyflogaeth, addysg, tai, mynediad at gyllid personol, ac adnoddau hanfodol eraill? Ac yn olaf, pa drafodaethau a gawsoch gyda chyd-Aelodau o bob rhan o Lywodraeth Cymru am y gwersi y gellir eu dysgu o'r cynllun i adsefydlu dinasyddion Affganistan, fel y gall cynllun newydd ddarparu'r cymorth a'r gefnogaeth orau sy'n bosibl?
Diolch i Peter Fox am ei gwestiwn, ac rwy’n cytuno'n fawr â’r sylwadau ar ddechrau ei gyfraniad mewn perthynas ag arswyd yr ymosodiad digymell a’n dymuniad i wneud popeth a allwn i gefnogi pobl yn Wcráin, gan ddefnyddio’r holl ysgogiadau sydd ar gael i ni. Hoffwn roi sicrwydd i fy holl gyd-Aelodau fod gwaith yn mynd rhagddo drwy'r dydd, bob dydd, mewn perthynas â hyn ar draws Llywodraeth Cymru, ac ar draws llywodraeth leol er mwyn paratoi i groesawu ffoaduriaid o Wcráin i Gymru. Mae gwaith yn mynd rhagddo yn arbennig ym maes tai. Yn amlwg, mae angen inni sicrhau fod gennym fannau addas i dderbyn pobl i mewn i Gymru, ac yna, i symud ymlaen i'r cymunedau a fydd yn eu croesawu. Ac mewn perthynas â'i chynllun noddi, rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried darparu'r math hwnnw o rôl gydgysylltu i Lywodraeth Cymru gan ein bod wedi gwneud hynny o'r blaen. Rydym wedi gwneud hynny'n llwyddiannus iawn, yn fy marn i, drwy’r pandemig, lle rydym wedi wynebu her debyg i gartrefu niferoedd mawr o bobl yn gyflym iawn, ac rydym wedi gwneud hynny drwy ein hymateb i ddigartrefedd a chysgu allan yn ystod y pandemig. Felly, mae gennym brofiad diweddar y gallwn adeiladu arno yn hynny o beth.
Rydym wedi cael sgyrsiau gwirioneddol gynhyrchiol a chadarnhaol ar lefel swyddogol gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â chyllid. Yr hyn y byddem yn disgwyl ei weld fyddai cynllun ariannu y pen, fel y gwelsom gyda chynlluniau adsefydlu blaenorol, yn hytrach na swm canlyniadol Barnett, gan nad dyna fyddai’r mecanwaith priodol yn yr achos penodol hwn. Ond rydym yn cael y trafodaethau hynny ynglŷn ag anghenion gofal iechyd, anghenion tai, integreiddio, a chynorthwyo pobl i gael gwaith hefyd pan fyddant yn cyrraedd yma.
Diolch am eich ymateb, Weinidog; mae hynny'n galonogol, a bydd y rheini ohonom ar y meinciau hyn yn gwneud popeth a allwn i helpu'r ymdrech i sicrhau'r canlyniadau cadarnhaol hynny.
Nawr, Weinidog, yr wythnos diwethaf, adroddodd y BBC fod oddeutu £200 miliwn o gynlluniau pensiwn llywodraeth leol Cymru wedi'u clymu mewn cronfeydd a chwmnïau Rwsiaidd ar hyn o bryd. Mewn cyfnodau mwy arferol, byddai buddsoddiadau o’r fath yn arferol, ond wrth gwrs, nid ydym mewn cyfnod arferol. Felly, mae'n gwbl hanfodol sicrhau bod Cymru'n chwarae ei rhan i gosbi Rwsia am eu hymosodiad anghyfreithlon drwy sicrhau nad yw'r un geiniog o arian cyhoeddus Cymru yn cefnogi cyfundrefn Rwsia yn anfwriadol mewn unrhyw ffordd. Fel y gwyddoch, Weinidog, y cynghorau fydd yn penderfynu pa gamau i’w cymryd ar y mater hwn, ond bydd llawer o gynghorau yn pendroni pa gyngor y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi ynghylch dyfodol cronfeydd pensiwn llywodraeth leol, yn ogystal â lleihau unrhyw effaith ariannol ar bensiynau pobl yma yng Nghymru. Wrth ddweud hyn, rwy’n cydnabod nad mater i gynghorau Cymru yn unig yw hyn, nac i wasanaethau cyhoeddus eraill yn wir. Ac felly, Weinidog, byddai gennyf fi, a’r cyhoedd yn gyffredinol, rwy’n siŵr, ddiddordeb mewn gwybod pa asesiad a wnaethoch o’r graddau y mae arian cyhoeddus Cymru wedi'i glymu wrth asedau Rwsiaidd ar hyn o bryd. Er budd Cymru, mae angen inni gael gwybod ar unwaith a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw asedau wedi'u clymu yn Rwsia, ac rwy'n mawr obeithio y gallwch sôn am hynny. A fydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ei rôl o ran cefnogi polisïau buddsoddi cyfrifol i helpu i sicrhau bod arian Cymru yn cael ei ddefnyddio i gefnogi mentrau cadarnhaol yng Nghymru a thu hwnt?
Rwy’n ddiolchgar i chi am godi’r mater penodol hwnnw, a thros gyfnod o amser, rwyf wedi cael trafodaethau da iawn gyda chynrychiolwyr y cynllun pensiwn llywodraeth leol mewn perthynas ag amryw o faterion—er enghraifft, rhoi'r gorau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil, sydd unwaith eto yn faes pryder cyffredin rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Ond mewn perthynas â phensiynau yn benodol, mae hyn yn rhywbeth yr oeddwn yn dymuno ymchwilio iddo ers dechrau'r argyfwng, a chawsom sgyrsiau â llywodraeth leol yn y cyfarfod yr ydych wedi clywed amdano, a gynhaliwyd yn agos at ddechrau'r argyfwng. Bryd hynny, rhoddodd llywodraeth leol sicrwydd eu bod wedi gwneud rhywfaint o ymchwilio cynnar a'u bod yn tybio bod llai nag 1 y cant o'u cynllun pensiwn yn agored i fuddiannau Rwsiaidd, os caf ei roi felly. Ac yn amlwg, maent yn awyddus i wneud yr hyn a allant i symud y buddsoddiad hwnnw a'i addasu at ddibenion gwahanol yn rhywle arall. Felly, gofynnais y cwestiwn hwnnw i lywodraeth leol yn gynnar, ond nid oeddwn yn hapus i wneud hynny hyd nes fy mod wedi gofyn yr un cwestiwn i mi fy hun. Felly, rydym yn aros am wybodaeth gan dîm pensiwn y Senedd hefyd i sicrhau bod gennym drefn arnom ein hunain, os mynnwch, o ran ein pensiynau.
Yn ehangach, yn y sector cyhoeddus, dim ond y cynllun pensiwn llywodraeth leol sy’n cael ei ariannu, felly mae’n defnyddio cyfraniadau gan aelodau i fuddsoddi mewn asedau i ddarparu incwm yn y dyfodol ar gyfer costau pensiwn yn y dyfodol. Mae’r rhan fwyaf os nad yr holl gyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru yn rhan o gynlluniau nad ydynt yn cael eu hariannu. Felly, mae cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil, cynllun pensiwn y GIG, y cynllun pensiwn athrawon ac yn y blaen yn defnyddio refeniw treth cyfredol a chyfraniadau aelodau cyfredol i ariannu’r costau pensiwn cyfredol hynny, felly nid ydynt yn buddsoddi mewn asedau. Ac unwaith eto, yn ehangach, wrth feddwl am asedau, nid oes gan Lywodraeth Cymru y mathau hynny o asedau dramor yn y ffordd y mae gan Lywodraethau eraill, felly nid oes angen inni boeni am hynny.
Mae hynny'n ddefnyddiol iawn. Diolch am hynny, Weinidog. Weinidog, mae’r gymuned ryngwladol wedi dod at ei gilydd, yn gwbl briodol, i osod sancsiynau eang ar Putin a’i gyfeillion. Wrth gwrs, mae’r rhain yn gwbl angenrheidiol, ac mae’r rhain yn debygol o gael eu cynyddu. Fodd bynnag, bydd pawb yn teimlo effaith y sancsiynau hyn—o deuluoedd sy’n gweithio’n galed i fusnesau bach a mawr, ac yn wir, ein gwasanaethau cyhoeddus ein hunain. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith y sancsiynau a’r rhyfel ar economi Cymru a theuluoedd ledled Cymru? Er enghraifft, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael ag effaith cynnydd sylweddol ym mhris tanwydd ar drafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru? Ac yn olaf, Weinidog, efallai y bydd y rhyfel yn effeithio ar gost ac argaeledd nwyddau sy'n cael eu mewnforio i Gymru, pa asesiad a wnaethoch o'r effaith ar gaffael cyhoeddus?
Unwaith eto, diolch am eich cwestiwn. Mae sawl elfen yn eich cwestiwn, a cheisiaf roi sylw iddynt yn fyr, ond yn amlwg, rwy'n awyddus i gael trafodaeth bellach gyda'r Aelodau, os oes ganddynt ddiddordeb, ar elfennau penodol ohono. Felly, rydym wedi gwneud llawer o waith dadansoddi ar draws Llywodraeth Cymru i ddeall beth y gallai'r effeithiau fod, o ran sancsiynau, ond hefyd y sefyllfa ehangach mewn perthynas â'r argyfwng. Felly, rydym wedi edrych ar farchnadoedd ynni a chwyddiant cyffredinol. Mae’r effeithiau yng Nghymru, o ran ein defnydd o nwy ac olew o Rwsia, yn llai nag mewn rhannau eraill o Ewrop: mae llai na 5 y cant o’n nwy, er enghraifft, yn dod o Rwsia, gyda’r gweddill yn dod o fôr y Gogledd a Norwy, yn ogystal â nwy naturiol hylifedig o wledydd fel Qatar a'r Unol Daleithiau. Ond wrth gwrs, mae prisiau ynni yn cael eu gosod ar sail fyd-eang, felly mae'n anochel y byddwn yn teimlo effaith rhywfaint o hynny, ac rydym wedi gwneud gwaith ychwanegol i edrych ar beth fyddai'r effaith ar yr economi pe bai pris casgen o olew yn codi'n uwch na $100. Rydym wedi edrych ar wahanol senarios, a'r effaith bosibl, a'r dewisiadau posibl wedyn gan Fanc Lloegr o ran cyfraddau llog ac ati.
Rydym hefyd wedi edrych yn benodol ar fwyd. Atebodd y Prif Weinidog gwestiynau ddoe ynghylch prisiau a'r hyn y bydd hynny’n ei olygu i’r gallu i gynnal prisiau yma yng Nghymru. Credaf ein bod yn debygol o weld prisiau’n codi o ganlyniad i’r sefyllfa. Gwrtaith: unwaith eto, soniodd y Prif Weinidog am hynny ddoe. Rydym hefyd wedi gwneud ymchwil ar fetelau a diemwntau. Ceir rhai materion sy’n benodol i Gymru yma, er enghraifft yn y diwydiant modurol. Mae Fforwm Modurol Cymru wedi siarad ag aelodau sy'n cyflenwi cydrannau i gyfleusterau gweithgynhyrchu ceir Rwsiaidd, ac felly rydym yn aros i ddeall yr effeithiau posibl ar werthiant ac effeithiau pellach posibl y tu hwnt i hynny. Ac yn amlwg, y diwydiant awyrofod—daw oddeutu hanner titaniwm y byd ar gyfer awyrofod o Rwsia, ac mae awyrofod a'r diwydiant modurol yn ddiwydiannau pwysig iawn i ni yma yng Nghymru. Felly, rydym wedi gwneud gwaith dadansoddi mewn perthynas â hynny hefyd. Felly, mae gennym yr effeithiau mawr posibl hyn ar yr economi, ond hefyd effeithiau ar aelwydydd unigol. Ac nid wyf am ailadrodd y pecyn cymorth a roddwyd ar waith gennym, ond bydd yr Aelodau'n gyfarwydd bellach â'r pecyn sy'n ymwneud â phrisiau tanwydd a'r taliad o £150 ac yn y blaen.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Weinidog, byddwch chi'n gwybod, dwi'n siwr, fod pob 1 y cant yn ychwanegol o werth caffael cyhoeddus sydd yn aros yng Nghymru yn gyfwerth â 2,000 o swyddi newydd, a dyna pam roedd maniffesto Plaid Cymru, wrth gwrs, eisiau gweld cynnydd, o'r 52 y cant o'r gwerth yna sy'n aros yng Nghymru ar hyn o bryd i 75 y cant, fel bod hynny, wrth gwrs, yn ei dro, yn creu 46,000 o swyddi ychwanegol yng Nghymru.
Nawr, yn y cyfamser, mae awdurdodau lleol o dan arweiniad Plaid Cymru wedi bod yn gweithio i sicrhau bod mwy o'u cyllid nhw yn aros oddi mewn i'r economi leol yna. Mae Cyngor Gwynedd, er enghraifft, wedi treialu strategaeth 'cadw'r budd yn lleol', sy'n ystyried y ffordd orau o ddefnyddio'u harian yn lleol, a dros bedair blynedd wedi cynyddu gwariant lleol y cyngor o £56 miliwn i £78 miliwn, sy'n gynnydd sylweddol iawn o 39 y cant. A chyngor sir Gaerfyrddin, eto o dan arweiniad Plaid Cymru, oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i roi y cynllun adfer COVID ar waith, gan ddiogelu 10,000 o swyddi a chefnogi llawer iawn mwy o feicrofusnesau a fyddai fel arall wedi llithro drwy rwyd cymorth y Llywodraeth. A thrwy'r cytundeb cydweithredu, wrth gwrs, rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, dwi'n hynod o falch fod y nod yma o sefydlu targed caffael nawr yn cael ei edrych arno o ddifri er mwyn sicrhau'r budd uchaf posib i'r economi yma yng Nghymru.
Nawr, mae angen sicrhau, wrth gwrs, ar yr un pryd, fod unrhyw nodau neu dargedau cenedlaethol yn cael eu trosglwyddo i'r lefel leol. Gaf i ofyn, felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod yr arfer da rŷn ni'n gweld mewn awdurdodau lleol sy'n cael eu harwain gan Blaid Cymru yn cael ei efelychu gan awdurdodau eraill?
Byddwn yn dweud bod gennym arferion da ledled Cymru, a bod yn deg â'r holl awdurdodau lleol sy’n cael eu rhedeg gan amrywiaeth o bleidiau gwahanol wrth gwrs. Rydym yn gweld arferion da ledled Cymru, ac rwy’n falch iawn fod rhan o’n cytundeb cydweithio'n ymwneud â chynyddu faint o arian sy’n cael ei wario yma yng Nghymru a'i gadw yma yng Nghymru yn y math o economi sylfaenol yr ydym yn awyddus iawn i'w rhoi ar waith. Cyfeiriwyd at 52 y cant—cefais gyfarfod â’ch Aelod dynodedig yn ddiweddar lle buom yn sôn am rai o heriau’r ffigur hwnnw yn yr ystyr ei fod ond yn cyfeirio at ble y caiff yr anfoneb ei hanfon, yn y bôn, yn hytrach na chanfod ble y caiff y gwariant ei wneud, ac yn enwedig ble y caiff y gwariant ei wneud yn y cadwyni cyflenwi. Felly, mae gennym waith yn mynd rhagddo i geisio mireinio'r ffigur hwnnw ymhellach i gael gwell dealltwriaeth ohono, ac mae rhan o'r gwaith hwnnw wedyn yn ymwneud ag edrych ar ble y ceir bylchau yn y gadwyn gyflenwi. Felly, rydym yn caffael pethau o'r tu allan i Gymru—beth ydynt, ac a allwn eu gwneud yma, ac a allwn eu gwneud yn well, ac a allwn eu gwneud mewn ffordd sy'n creu swyddi lleol? Felly, mae hwnnw'n waith pwysig a fydd, rwy’n siŵr, yn ein cynorthwyo i gyflawni'r uchelgais a rennir gennym i gynyddu faint o arian a gedwir yma yng Nghymru o'r sector cyhoeddus.
Ac mae'r wobr yna o ddegau o filoedd o swyddi ychwanegol, wrth gwrs, yn medru digwydd heb wario pres ychwanegol, oherwydd mae'n bres rŷn ni'n gwario ar gaffael yn barod, ond mae yna fodd i'w wario fe mewn ffordd wahanol. Felly, dwi'n croesawu'r ffaith bod hyn yn cael ei edrych arno o ddifrif.
Ond nid dim ond buddion economaidd, wrth gwrs, sy'n dod yn sgil cryfhau a gwella polisi caffael; mae yna lwyth o elfennau positif eraill. Rŷn ni'n gwybod y gallai helpu i leihau allyriadau carbon. Does ond angen meddwl am dorri milltiroedd bwyd, er enghraifft, fel un enghraifft. Mae'n gallu cryfhau yr economi gylchol, mae'n gallu gwella safonau cynnyrch, ac yn y cyd-destun bwyd eto mae hynny'n gallu arwain at well canlyniadau o safbwynt iechyd cyhoeddus hefyd.
Ac mae'r sector bwyd a'r diwydiant amaeth yn benodol yn un elfen bwysig iawn o'r gwaith yma, achos mi fyddai darparu bwyd lleol maethlon drwy ysgolion, drwy ysbytai, drwy sefydliadau gofal ac yn y blaen nid yn unig yn creu marchnadoedd domestig newydd a fyddai'n cryfhau'r sector yn economaidd, ond mi fyddai hefyd, wrth gwrs, yn lleihau rhywfaint ar fewnforio. Ac yn y cyd-destun rhyngwladol y clywon ni amdano fe yn y cwestiynau blaenorol, mi ddylai fod creu mwy o gydnerthedd bwyd a mwy o ddiogelwch bwyd yn flaenoriaeth i ni i gyd.
Gaf i ofyn, felly, pa drafodaethau ydych chi fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am gaffael o fewn y Llywodraeth wedi'u cael gyda'r Gweinidog cefn gwlad ynglŷn â'r Bil amaeth, gan ei bod hi'n gwbl allweddol, wrth gwrs, fod y cynlluniau a'r amcanion caffael, rŷn ni i gyd dwi'n siŵr yn eu rhannu fan hyn, yn clymu i mewn yn agos â'r Bil, a bod y Bil hefyd wedyn yn ategu ac yn cefnogi'r ymdrechion i greu marchnadoedd lleol newydd?
Mae hyn yn sicr yn rhywbeth sy’n rhan o’r ymagwedd tuag at y Bil amaethyddiaeth, ac mae’n un o’r pethau y gwn fod y Gweinidog materion gwledig hefyd wedi bod yn eu trafod gyda Peter Fox mewn perthynas â’i gynigion ar gyfer Bil, a fyddai’n ceisio sicrhau ein bod yn caffael mwy o fwyd yn lleol. Credaf fod hwn yn un maes lle mae gennym arferion da yn dod i'r amlwg yn y gwaith sy'n cael ei arwain gan Gaerffili. Maent yn arwain ar gaffael bwyd i geisio sicrhau bod mwy o gyfle i'r sector cyhoeddus gaffael ar y cyd, er mwyn gwneud i arbedion maint weithio iddynt. Rydym yn edrych hefyd ar beth arall y gallwn ei wneud i ddechrau—. Mewn gwirionedd, mae hyn yn rhan o broblem y bylchau yn y gadwyn gyflenwi, ond ar raddfa lai o lawer, ond mae'n ymwneud ag edrych o ble rydym yn caffael ein bwyd. Felly, er gwaethaf yr holl ffermydd ieir sy'n ymddangos ledled Cymru, un o'r pethau rhyfedd yw ei bod yn ymddangos nad ydym yn gallu llunio contractau dofednod gyda ffermwyr Cymru, a'r rheswm am hynny yw ei bod yn well ganddynt werthu i'r archfarchnadoedd ar hyn o bryd. Felly, rydym yn cael trafodaethau ynglŷn â sut y gallwn greu llinell ddofednod a fyddai wedyn yn defnyddio'r marchnadoedd i mewn i'r sector cyhoeddus. Felly, rydym yn gweithio'n galed yn y maes penodol hwn, weithiau mewn ffordd fanwl a phenodol iawn.