1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 16 Mawrth 2022.
4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at system les i Gymru? OQ57799
Rydym yn cydgynhyrchu siarter gyda rhanddeiliaid a fydd yn sail i ddarparu system fudd-daliadau gydlynol a thosturiol i Gymru. Fodd bynnag, mae'r ffocws uniongyrchol ar sicrhau bod ein taliadau cymorth ariannol presennol a newydd yn cyrraedd aelwydydd ledled Cymru y mae eu hincwm dan fwy o bwysau nag erioed o'r blaen.
Rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol o'r gwaith gan Sefydliad Bevan ar y system budd-daliadau Cymreig. Eu dadansoddiad nhw o'r sefyllfa bresennol yw er bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig lefelau digynsail o gefnogaeth, mae ymdrechion yn cael eu tanseilio gan y ffordd gymhleth y mae cymorth yn cael ei weinyddu. Mae'r sefydliad yn dadlau y byddai angen i deulu incwm isel sydd â dau o blant gyflwyno hyd at naw ffurflen gais wahanol. Gallai creu system ddiwygiedig o grantiau a lwfansau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, sy'n golygu eich bod yn gallu gwneud cais am yr holl gymorth y mae gennych hawl iddo mewn un lle, wella mynediad teuluoedd incwm isel at gymorth drwy ei wneud yn haws. Mae'r misoedd diwethaf wedi dangos pa mor bwysig yw hi nawr inni fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, felly dwi'n gofyn i'r Gweinidog i gyflymu gwaith y Llywodraeth ar hyn. Mae angen arnom ni system fwy cydlynol ar waith nawr sy'n cael y gefnogaeth i bocedi'r rhai sydd ei hangen fwyaf mor fuan â phosib.
Diolch yn fawr, Luke Fletcher, am eich cwestiwn pwysig iawn.
Mae'n hanfodol ein bod yn cael y cyllid, y budd-daliadau, i'r aelwydydd ar yr incwm isaf, ac mae angen inni symud hynny ymlaen, gan ddysgu gwersi a bwrw ymlaen â llawer o'r argymhellion, byddwn yn dweud, a wnaed gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn y Senedd flaenorol ynghylch y nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau. Soniais am ddatblygu siarter ar gyfer system budd-daliadau Cymru, ond hefyd, gan fynd at graidd eich cwestiwn, i alluogi system fwy cydgysylltiedig a symlach fel y gall mwy o bobl gael yr hyn y mae ganddynt hawl i'w gael. Ar hyn o bryd, rydym yn trafod i sicrhau bod gennym brotocol treth gyngor ar gyfer awdurdodau lleol, rhywbeth a fydd yn hollbwysig er mwyn cael mynediad at y cyllidebau hynny gyda'n siarter. Ond gallaf eich sicrhau bod hyn yn brif flaenoriaeth er mwyn datblygu'r system nawdd cymdeithasol yr ydym ni yng Nghymru yn credu y dylai fod yn dosturiol, yn deg yn y ffordd y mae'n trin pobl, ac wedi ei chynllunio fel ei bod yn gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at drechu tlodi. Mae'r system nawdd cymdeithasol bresennol yn y DU yn syrthio'n fyr iawn o'r nod mewn sawl ffordd.