1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 16 Mawrth 2022.
Galwaf nawr ar lefarwyr y pleidiau, a llefarydd y Ceidwadwyr, yn gyntaf. Mark Isherwood.
Diolch. Fel y gwyddoch o ohebiaeth, mae cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng ngogledd Cymru wedi mynegi pryderon difrifol nad yw asesiadau llety Sipsiwn/Teithwyr awdurdodau lleol wedi ymgysylltu â hwy, ac felly, mae'r asesiadau hynny wedi methu nodi eu hanghenion llety. Ysgrifennodd eiriolwr ar eu rhan at eich adran, gan nodi eu bod yn parhau i ymgyrchu am safleoedd newydd, hyd yn oed os yw gwleidyddion o bob plaid a swyddogion proffesiynol yn eu hanwybyddu’n llwyr, ac nad yw'r gyfraith a’r canllawiau presennol yng Nghymru—cyfraith a chanllawiau Llywodraeth Cymru—yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn adeiladu safleoedd preswyl neu safleoedd tramwy newydd, nac yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer safleoedd preifat. O ran eich cyfrifoldebau eich hun yng Nghymru, nid yw ymateb eich is-adran cymunedau ond yn datgan, 'Rydym yn argymell yn gryf fod awdurdodau lleol yn dilyn y canllawiau'n agos, ynghyd ag unrhyw astudiaethau sydd ar y gweill ar hyn o bryd.' Sut rydych chi, felly, yn ymateb i'r Sipsiwn yng ngogledd Cymru sydd wedi dweud, 'Hiliaeth yw cael cyfarfodydd am safleoedd heb fod Sipsiwn yno. Cyn bo hir, ni fydd gennym unrhyw safleoedd tramwy yng ngogledd Cymru na de Cymru. Rwy'n teimlo bod y bobl yr oeddwn am ymddiried ynddynt wedi gwneud tro gwael â ni, a dywedwch wrthynt am beidio â chwyno pan fydd y teuluoedd sydd angen safleoedd tramwy a safleoedd parhaol, nad ydynt wedi'u cynnwys yng nghynlluniau'r cyngor, yn mynd i mewn i gaeau ac ati'?
Diolch, Mark Isherwood, am gwestiynau pwysig iawn mewn perthynas â chyflawni ein hymrwymiadau i Sipsiwn, Roma a Theithwyr er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau statudol i ddarparu safleoedd digonol a phriodol lle bo angen. Ac fe wnaethom ail-greu'r ddyletswydd hon—Llywodraeth Cymru a'r Senedd yma—i nodi a diwallu'r angen am lety priodol. Mae hynny o fewn—ac roeddech chi yma—Deddf Tai (Cymru) 2014, ac mewn gwirionedd, rydym wedi gweld ymhell dros 200 o leiniau newydd yn cael eu creu neu eu hadnewyddu, yn bennaf ar safleoedd llai, a hynny o'i gymharu â'r hyn a oedd ar gael cyn hynny, sef llond llaw yn unig, ac rydym hefyd yn ariannu awdurdodau lleol i adeiladu lleiniau newydd ac adnewyddu llawer mwy.
Mae'n hanfodol fod Sipsiwn/Roma/Teithwyr yn cymryd rhan yn y broses gyda'u hawdurdodau lleol. Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw hyn ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi a chael gwared ar rwystrau i ddiwallu anghenion. Rydym yn ariannu Teithio Ymlaen, fel y gwyddoch wrth gwrs, drwy TGP Cymru i ddarparu cyngor ac eiriolaeth i gefnogi cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ac mae’r cyllid hwnnw’n parhau hefyd. Ond mae'n wir—rwy'n credu eich bod yn iawn, Mark—y ffaith bod gennym gyfle eto yn awr i adolygu, o ganlyniad i'r asesiadau llety—mae'r dyddiad cau wedi bod—ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, ac mae angen inni edrych ar hyn o safbwynt cydymffurfiaeth, canllawiau, ansawdd yr ymgysylltu a chyfrifo anghenion.
Roeddech chi a minnau’n bresennol yn 2005 yn lansiad yr adroddiad ar anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yn Llandrindod, os cofiaf yn iawn, a dilynwyd hynny gan y ddeddfwriaeth. Ond y pwynt yma yw bod aelodau’r gymuned eu hunain yn dweud nad yw eu llais wedi’i glywed yn yr asesiad a gyflwynwyd i chi, ac felly nad yw’n adlewyrchu gwir angen ac mae’n creu bom amser o broblemau ar gyfer y dyfodol.
Ond i symud ymlaen, mae eich cyfrifoldebau cydraddoldeb a hawliau dynol hefyd yn cynnwys cam-drin domestig. Mae Hourglass Cymru, yr unig elusen yng Nghymru sy’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar roi diwedd ar niweidio a cham-drin pobl hŷn, wedi gweld cynnydd o 47 y cant yn y galwadau a atebwyd yn ystod y pandemig, gyda dros 25 y cant yn dod y tu allan i oriau gwaith arferol. Dangosodd arolwg barn yn 2020 gan Hourglass fod dros 443,000 o ddioddefwyr cam-drin hŷn yng Nghymru, ac mae eu llinell gymorth rhadffôn genedlaethol yn darparu cymorth a chyngor i’r dioddefwyr hyn ac unrhyw un sydd â phryderon yn ymwneud â cham-drin ac esgeuluso pobl hŷn. A heddiw, mae Hourglass Cymru wedi lansio gwasanaeth 24/7 i gefnogi pobl hŷn a’u teuluoedd, y gwasanaeth cyntaf o’i fath yng Nghymru gydag arbenigedd mewn perthynas â cham-drin pobl hŷn. Mae Swyddfa Gartref y DU—
Mae angen ichi ofyn y cwestiwn yn awr, os gwelwch yn dda.
Iawn. Mae Swyddfa Gartref y DU wedi cefnogi’r gwasanaeth hwn yn Lloegr, ac yng Nghymru, mae Hourglass yn defnyddio eu cronfeydd wrth gefn eu hunain i ariannu’r gwasanaeth. Pa ystyriaeth a roddwyd gennych felly i sicrhau’r un lefel o gymorth arbenigol i bobl hŷn sydd mewn perygl, ac a wnewch chi gyfarfod ag Hourglass Cymru i drafod y gwasanaeth hanfodol hwn ac ystyried darparu cymorth arbenigol?
Diolch, Mark Isherwood. Wel, rwy'n fwy na pharod i gyfarfod ag Hourglass. Ond hefyd, rwyf wedi cyfarfod â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru mewn perthynas â'r mater hwn, sydd, ei hun a chyda’i thîm, wedi gwneud ymchwil ac wedi ymgysylltu â phobl hŷn i nodi achosion o gam-drin pobl oedrannus. Mae hyn yn hanfodol i gam nesaf ein strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Rydym wedi ymgynghori ar y mater, rydym yn datblygu'r strategaeth genedlaethol bum mlynedd nesaf, mae gennym sefydliadau partner allweddol, a byddaf yn ymateb i hynny cyn bo hir. Ond mae’n wir fod yn rhaid inni edrych ar hyn yn enwedig mewn perthynas â’r pandemig a’r effaith a gafodd y cyfyngiadau symud a’r pandemig ar bobl hŷn hefyd. Felly, rwy’n ddiolchgar ichi am dynnu fy sylw at hyn y prynhawn yma.
Byddant yn falch o glywed eich cynnig i gyfarfod oherwydd, fel y dywedant, mae cam-drin pobl hŷn yn parhau i fod yn faes nad yw’n cael ei gefnogi’n ddigonol ac nad adroddir yn ei gylch yn ddigonol.
Fy nghwestiwn olaf. Mae eich cyfrifoldebau mewn perthynas â chydraddoldeb a hawliau dynol hefyd yn cynnwys tlodi mislif. Gan weithio gyda'u llysgenhadon actif, datblygodd Grŵp Llandrillo Menai ymgyrch 'Nid Yw'n Rhwystr'. Ym mis Chwefror 2019, cyn COVID a chyfyngiadau symud y Llywodraeth, gwnaethant ffilmio a chyfweld ag amryw o athletwyr o bob rhan o ogledd Cymru i rannu eu profiad o reoli eu mislif wrth barhau i hyfforddi, ac fel rhan o hynny, mae’r coleg am hyrwyddo pwysigrwydd parhau â gweithgarwch corfforol i dynnu sylw at fanteision lleihau symptomau mislif ac na ddylai'r mislif fod yn rhwystr rhag cymryd rhan mewn dysgu na gweithgarwch llesol. Maent hefyd wedi datblygu adnoddau ymarfer corff ategol am ddim y gall dysgwyr eu gwneud gartref a chynghorion ar hunanofal a hylendid mislif. Wel, fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, felly, pa drafodaeth yr ydych yn ei chael gyda’r Gweinidog addysg ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i barhau i gefnogi dysgwyr addysg bellach a dysgwyr mewn addysg seiliedig ar waith sy’n cael mislif, gan gynnwys dysgwyr traws, yn y tymor hwy?
Gwneuthum ddatganiad ychydig wythnosau yn ôl, fel y byddwch yn cofio, ar urddas mislif, yn tynnu sylw unwaith eto at y ffaith ein bod wedi blaenoriaethu hyn yn ein rhaglen lywodraethu. Mae gennym ein cynllun gweithredu strategol ar urddas mislif o ganlyniad i ymgynghori, ac rwy'n cadeirio grŵp bord gron gyda rhanddeiliaid allanol, gan gynnwys y rheini o'r sector addysg, ysgolion a cholegau. Ac yn wir, rydym wedi darparu £110,000 ychwanegol i awdurdodau lleol eleni, ond mae hynny'n ychwanegol at y £3.3 miliwn i awdurdodau lleol a cholegau bob blwyddyn. Yr hyn sy'n hollbwysig yw'r ffaith bod dysgwyr yn cymryd rhan yn y grŵp bord gron. Mae gennym lysgenhadon, ac fe fyddwch wedi cyfarfod â hwy, ac mae’r cyfarfod nesaf yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar 22 Ebrill.
Ar ran Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae 3 miliwn o ffoaduriaid bellach wedi gadael Wcráin. Mae’r DU yn ei gwneud yn ofynnol i’r ffoaduriaid hynny wneud cais am fisâu, ac mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod dileu rheolau fisâu, er bod hyn yn gwrth-ddweud ein rhwymedigaethau rhyngwladol o dan gonfensiwn ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig 1951, sy’n nodi na ddylai unrhyw un sy'n ffoi rhag rhyfel, o ble bynnag y deuant, orfod gwneud cais am fisa cyn ceisio diogelwch.
Mae grŵp o ffoaduriaid o Abertawe, yr ail ddinas noddfa erioed yn y DU, wedi ysgrifennu llythyr agored at y Llywodraeth, yn galw am fwy o gymorth i bawb mewn amgylchiadau eithafol ledled y byd i gael ffordd ddiogel o gyrraedd y DU. O ystyried y safbwynt ar fisâu a nodwyd gan y Prif Weinidog yr wythnos hon, yn groes i safbwynt eich cyd-bleidwyr Llafur yn San Steffan, gan gynnwys ASau Llafur hŷn o Gymru, a wnewch chi ddatgan heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso am hepgor gofynion fisâu yn llwyr ar gyfer pob ffoadur, yn unol â’n nod i Gymru ddod yn uwch-noddwr i’r rheini sy’n ffoi o Wcráin ac yn genedl noddfa go iawn?
Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr, Sioned Williams. Ac wrth gwrs, rwy’n cymeradwyo ymrwymiad y Prif Weinidog i hyn. Mae angen inni sicrhau nad oes unrhyw rwystrau rhag cefnogi pobl sy’n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin. Rydym am ddarparu noddfa a diogelwch yng Nghymru. Rydym am iddynt ddod yma. Gellir gwneud unrhyw wiriadau sydd eu hangen pan fyddant wedi cyrraedd yma, felly rwy'n cymeradwyo'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn llwyr. Ac roedd yn ei ddweud fel Prif Weinidog Cymru, sy’n gyfrifol am bolisi Llywodraeth Cymru ar y mater, ond nid yw'r pwerau hynny wedi’u datganoli, felly yr hyn sy’n bwysig yw bod y Prif Weinidog wedi cadarnhau ein bwriad i ddod yn uwch-noddwr ar gyfer cynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU.
Rwyf newydd gyhoeddi diweddariad heddiw, yn dilyn datganiad y Prif Weinidog ddydd Llun, ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gwblhau’r manylion er mwyn sicrhau y gellir gwneud y trefniadau paru cyntaf o dan y cynllun hwn. Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’n holl awdurdodau lleol. Cyfarfu pob un ohonynt â’n swyddogion ddoe. Drwy sefydliadau trydydd sector, rydym bellach yn datblygu cysylltiadau â rhwydweithiau a grwpiau o Wcreiniaid ledled Cymru gyfan, ac rwy'n ddiolchgar am y cysylltiadau sydd wedi'u rhannu â mi o bob rhan o'r Siambr. Ac wrth gwrs, dyma lle mae'n rhaid i ni ein hunain fod yn barod gyda'r canolfannau croeso, y gwasanaethau cofleidiol y gall fod eu hangen ar bobl sy'n cyrraedd o ardaloedd rhyfel.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ac mae’n dda clywed bod cynnydd yn cael ei wneud ar ein hymateb i gynllun noddi’r DU, gan fod y cynllun hwnnw ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin yn gwbl annigonol. Mae'r system yn rhy araf, mae'n anghyson, ac mae wedi cadw awdurdodau lleol Cymru yn y tywyllwch. Ysgrifennodd arweinydd Cyngor Gwynedd ddoe at Brif Weinidog y DU, yn mynegi cryn bryder ynghylch yr hyn y maent wedi’i alw’n ymateb annigonol ac anaddas gan Lywodraeth y DU, ac yn tynnu sylw at y modd y maent wedi mynegi parodrwydd i ddarparu noddfa i ffoaduriaid a sicrhau bod llety ar gael yn awr, ond heb gael unrhyw wybodaeth am fwriadau Llywodraeth y DU.
Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch dod yn uwch-noddwr i ffoaduriaid o Wcráin i’w groesawu’n fawr, felly a wnewch chi ddarparu rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r cynnig hwn a sut y bwriadwch weithio gydag awdurdodau lleol i greu strwythur cymorth cyfannol a chadarn? Rwy’n deall bod Llywodraeth y DU wedi cytuno i ddarparu £10,000 i awdurdodau lleol ar gyfer unigolyn, ond ni cheir unrhyw gymorth i sefydliadau elusennol. Felly, pa adnoddau y credwch y byddant ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol, ac a fydd unrhyw gyllid ar gael i sefydliadau trydydd sector allu darparu cymorth arbenigol hanfodol i bobl sy'n cyrraedd?
Wel, diolch yn fawr iawn unwaith eto am eich cwestiwn dilynol. Mewn gwirionedd, rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth yr Alban, fel y gwyddoch, fel bod Prif Weinidog yr Alban a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi codi’r cynnig hwn inni ddod yn uwch-noddwyr, yn seiliedig ar ein profiad mewn gwirionedd, ein hymrwymiad fel cenedl noddfa, ein profiad o ganlyniad i’r bobl a adawodd Affganistan, ond hefyd am flynyddoedd cyn hynny, degawdau o groesawu pobl i Gymru, gan ein bod yn gweithio fel tîm. Yn wir, cyfarfuom â holl arweinwyr llywodraeth leol Cymru, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a minnau, cyn gynted ag y gallem. Rwyf am ddweud hefyd, yn ogystal â bod arweinydd Cyngor Gwynedd wedi mynegi ei bryderon, ysgrifennodd y Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ar unwaith hefyd wrth i bethau ddechrau symud, am ei fod yn pryderu am y rhwystrau gyda fisâu. Felly, ysgrifennodd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gyd hefyd. Cyfarfu pob un o’r prif weithredwyr â’n swyddogion ddoe, a byddwn yn bwrw ymlaen â hyn.
Fel yr adroddodd y Prif Weinidog ddoe, rwy'n credu, cawsom lythyr yn ôl gan Michael Gove ato ef a Nicola Sturgeon yn cydnabod y byddem yn chwarae rôl yr uwch-noddwr, a hefyd yn rhoi mwy o fanylion i ni. Byddaf yn rhoi diweddariad i chi bob dydd yn ôl pob tebyg, a'r awdurdodau hynny hefyd. Er enghraifft, maent wedi cytuno i dariff tebyg i'r un a ddyrannwyd ar gyfer y cynllun i adsefydlu dinasyddion Affganistan—£10,500 am bob unigolyn sy'n cael budd. I noddwyr unigol, rydym wedi clywed, yn amlwg, am y £350 y mis, diolch, a thariff ar gyfer costau addysg hefyd, yn amrywio yn dibynnu ar y grŵp oedran, ac addysg gynradd/uwchradd hefyd. Felly, mae cryn dipyn o fanylion yn cael eu darparu. Rydym yn gweithio, fel y dywedais, gyda’n cyd-Aelodau yn Llywodraeth yr Alban i sicrhau, drwy’r llwybr uwch-noddwyr, y gallwn ddarparu llwybr clir a chefnogol i bobl allu ymuno â ni.
Ar y trydydd sector, byddwn hefyd yn datblygu cronfa 'croeso i Gymru' y gallwn gyfrannu ati fel Llywodraeth, ond hefyd, mae gennym seilwaith o sefydliadau trydydd sector. Rydym wedi cyfarfod â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ond mae pob awdurdod hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda'u cynghorau gwasanaethau gwirfoddol. Ond mae llawer o ymddiriedolaethau elusennol yng Nghymru yn awyddus i gyfrannu, felly bydd modd inni ddarparu cronfa wedyn ar gyfer—. Mae hyn oll yn cael ei ddatblygu, felly rwy’n siarad wrth inni weithio ar hyn, ond bydd ar gyfer y grwpiau gwirfoddol, y grwpiau cymunedol, y cysylltiadau sy’n cael eu darparu. Felly, ar bob lefel, bydd dull tîm Cymru, y llwybr uwch-noddwyr ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin yno, ac rwy'n gobeithio y bydd pob cyd-Aelod yn gweld, heddiw fy natganiad diweddaraf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi, a byddwn yn parhau i wneud hynny dros y dyddiau nesaf.