– Senedd Cymru am 4:27 pm ar 23 Mawrth 2022.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: 'Cyfeiriad newydd ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau trwm'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Paul Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw.
Ddirprwy Lywydd, os gall yr Aelodau fwrw golwg yn ôl i'r hydref diwethaf, byddant yn cofio'r problemau gyda'r gadwyn gyflenwi a oedd yn effeithio ar ein bywydau: rhai siopau'n mynd yn brin o gynhyrchion penodol, blaengyrtiau petrol yn mynd yn sych, ac ymdrechion brys gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ymyrryd a chefnogi ein cadwyni cyflenwi hanfodol. Penderfynodd y pwyllgor gynnal ymchwiliad i'r problemau hyn gyda'r gadwyn gyflenwi ac mae wedi cyhoeddi adroddiad, 'Cyfeiriad Newydd ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Nwyddau Trwm: Mynd i'r afael â diffyg gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a phroblemau cysylltiedig â’r gadwyn gyflenwi'.
Nawr, yn ystod ein hymchwiliad, gwelsom fod y problemau sy'n arwain at fethiannau'r gadwyn gyflenwi yn niferus ac yn gymhleth. Roeddent yn cynnwys y pandemig, trefniadau masnachu newydd ar ôl inni adael yr UE, a hyd yn oed digwyddiadau byd-eang fel llong Ever Given yn mynd yn sownd yng nghamlas Suez. Fodd bynnag, un o'r prif resymau dros yr aflonyddwch oedd prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm.
Gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yw asgwrn cefn ein rhwydwaith logisteg ac fel y gwelsom y llynedd, daeth nifer o ffactorau at ei gilydd i achosi prinder gyrwyr. Clywodd y pwyllgor fod y DU yn brin o rhwng 60,000 a 100,000 o yrwyr cyn y pandemig. Y diffyg hanesyddol hwn oedd un o'r ffactorau allweddol a arweiniodd at y prinder enbyd o yrwyr. Fodd bynnag, eglurodd Logistics UK fod y cyfuniad o derfynu aelodaeth o'r UE a diwedd cyfnod pontio'r UE, ynghyd â phandemig COVID, wedi trawsnewid y prinder yn argyfwng difrifol. Yna cafodd y problemau eu dwysáu ymhellach pan gafodd profion gyrru cerbydau nwyddau trwm eu gohirio yn ystod y pandemig, gan achosi ôl-groniad ac amser aros o 10 wythnos am brawf gyrru.
Ac felly wynebodd y diwydiant storm berffaith yn 2020-21, pan ddaeth nifer o broblemau at ei gilydd ar yr un pryd. Penderfynodd y pwyllgor ganolbwyntio ar y problemau hynny, gan y bydd sicrhau bod gan Gymru ddigon o yrwyr cerbydau nwyddau trwm yn hanfodol os ydym am gadw cadwyni cyflenwi ar agor ac osgoi methiannau tebyg yn y dyfodol. Roedd ein hymchwiliad yn fyr ac yn bwrpasol. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan nifer o sefydliadau, gan gynnwys cludwyr, perchnogion busnesau ac undebau llafur. Gwnaethom hefyd ymgysylltu'n uniongyrchol â gyrwyr cerbydau nwyddau trwm o'r gorffennol a'r presennol, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a ddarparodd dystiolaeth i'r ymchwiliad.
Roedd yr adborth a gawsom o'r ymgysylltiad â gyrwyr yn bwerus ac ein gosod ar ben ffordd. Nid wyf am ailadrodd yr hyn a ddywedodd rhai o'r cyfranogwyr, rhag imi gael fy hel o'r Siambr hon. Fodd bynnag, mae'n amlwg fod yna sawl problem ynghlwm wrth y profiad o fod yn yrrwr cerbyd nwyddau trwm ar hyn o bryd. Cafodd llawer o'r themâu a ddaeth yn amlwg gan y gyrwyr eu hadleisio, mewn iaith fwy seneddol, gan randdeiliaid eraill.
Nawr, mae'r adroddiad yn gwneud 11 o argymhellion ynghylch gwella hyfforddiant ac amodau gwaith gyrwyr cerbydau nwyddau trwm. Mae'r pwyllgor yn edrych ar gynllun logisteg a chludo nwyddau Llywodraeth Cymru sydd ar y ffordd fel cyfle i roi'r rhain ar waith. Ac fe amlinellaf yn fras rai o'r argymhellion yn y man. Os cyflawnir yr argymhellion hyn, mae'r pwyllgor yn credu y bydd hyn yn gwella'r profiad o fod yn yrrwr cerbyd nwyddau trwm ac yn creu opsiwn gyrfa mwy deniadol i'r rhai sydd yn y proffesiwn ar hyn o bryd, a'r rhai sy'n ystyried ymuno â'r proffesiwn, gan ddenu gyrwyr newydd, a chadw gyrwyr presennol yn y diwydiant.
Mae'r pwyllgor yn argymell gwella hyfforddiant gyrwyr a datblygiad proffesiynol parhaus er mwyn dod â newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant a helpu datblygiad gyrfa'r rhai sydd eisoes yn gyrru. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r diwydiant i adeiladu ar raglenni prentisiaeth presennol a chynyddu mynediad i yrwyr newydd.
Un o'r meysydd pryder allweddol a godwyd gan yrwyr oedd y profiad cyffredinol o yrru cerbyd nwyddau trwm. Roeddent yn sôn am fannau gorffwys o ansawdd gwael gyda bwyd gwael ond drud, cyfleusterau budr a diffyg diogelwch yn aml. Un o'r darnau mwyaf pryderus o dystiolaeth a glywsom oedd bod gyrwyr yn ystyried ymosodiadau a lladradau fel perygl sy'n mynd gyda'r swydd, ac mae hynny'n gwbl annerbyniol. Dywedodd un gyrrwr wrthym,
'Ni allwch gysgu'n iawn pan fyddwch yn poeni y bydd rhywun yn dwyn oddi wrthych. Mae pob sŵn bach yn eich deffro. Nid oes neb eisiau gyrru pan fydd wedi blino.'
Dywedodd gyrrwr arall wrthym:
'Mae rhywun wedi dwyn oddi arnaf dros 10 gwaith. Mae'n beth ofnadwy i'w gyfaddef ond rydych yn ei ddisgwyl. Y tro diwethaf, fe wnaethant dorri tri thwll yn y llen a oedd yn ddigon mawr i yrru cerbyd drwyddynt, roedd hanner fy llwyth ar y gilfan yn barod i gael ei ddwyn. Mae hyd yn oed yr heddlu yn ei ystyried yn berygl galwedigaethol. Fel gyrwyr, rydym yn ei dderbyn.'
Wel, Ddirprwy Lywydd, ni ddylai gyrwyr cerbydau nwyddau trwm orfod ei dderbyn. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio'n gyflym gyda'u partneriaid i wella cyfleusterau gorffwys i yrwyr a sicrhau bod y cyfleusterau hynny mor ddiogel â phosibl. Dylai hyn gynnwys arolygu'r ddarpariaeth bresennol, llenwi bylchau lle maent yn bodoli a gweithio i ddatblygu system safonau wirfoddol fel y gall gyrwyr weld beth yw ansawdd a lefel ddiogelwch mannau gorffwys yn hawdd.
Fel y soniwyd yn gynharach, mae strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth Cymru, 'Llwybr Newydd', yn cynnwys ymrwymiad i greu cynllun logisteg a chludo nwyddau newydd. O ystyried y prinder dybryd o yrwyr, mae'r pwyllgor yn teimlo y dylid blaenoriaethu'r cynllun newydd.
Nawr, rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion yn ein hadroddiad. Fodd bynnag, rwy'n pryderu y bydd yr argymhellion pwysicaf, er enghraifft yr arolwg o fannau gorffwys a gwaith i lenwi bylchau yn y ddarpariaeth, yn cael eu gweithredu fel rhan o'r cynllun logisteg a chludo nwyddau, nad oes disgwyl iddo gael ei gwblhau nes 2024. Rwy'n annog y Llywodraeth i flaenoriaethu'r rhannau hyn o'r cynllun ac os yw'n bosibl, cwblhau'r elfennau hyn o'r gwaith cyn 2024. Mae hyn yn gwbl hanfodol.
Fis diwethaf, cefais lythyr gan y sefydliad Alltudion ar Waith, a ddywedodd wrthyf fod gan lawer o bobl Affganistan a gyrhaeddodd Gymru y llynedd brofiad o yrru cerbydau mawr ac y byddai ganddynt ddiddordeb mewn gyrfaoedd fel gyrwyr cerbydau nwyddau trwm. Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidogion perthnasol ynglŷn â hyn ac edrychaf ymlaen at ymateb maes o law. Tra bod y sefyllfa gyda dyfodiad ffoaduriaid o Wcráin yn dal i ddatblygu, efallai y bydd yn addas i'r Llywodraeth feddwl am ymestyn unrhyw beth a gynigir i'r bobl sy'n cyrraedd o Affganistan i gynnwys pobl sy'n cyrraedd o Wcráin hefyd.
O gadw bwyd ar ein silffoedd i ddarparu cyflenwadau meddygol hanfodol, mae'n deg dweud bod gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn rhai o arwyr di-glod y pandemig. Byddai gweithredu argymhellion yr adroddiad hwn yn gwella profiad gyrwyr a mynediad i'r diwydiant. Er bod y problemau a welsom cyn y Nadolig wedi'u datrys i raddau helaeth, mae cadwyni cyflenwi'n dal i fod dan bwysau ac rydym yn byw mewn cyfnod cythryblus. Nid yw'n bosibl rhagweld a fydd ergyd arall yn taro ein cadwyni cyflenwi byd-eang na phryd y bydd hynny'n digwydd. Mae hyn yn golygu ei bod yn eithriadol o bwysig ein bod yn canolbwyntio ar wella'r rhannau o'r system y mae gennym reolaeth drostynt.
Fel aelod o bwyllgor yr economi, hoffwn ddechrau drwy adleisio diolch ein Cadeirydd, Paul Davies, i bawb a gefnogodd neu a gymerodd ran yn ein hymchwiliad. Mae'n bwnc pwysig iawn sydd yn ei hanfod yn ymchwilio i rywbeth sy'n cyffwrdd â bywydau holl ddinasyddion Cymru yn ddyddiol, hynny yw, y ffordd y mae nwyddau a chynhyrchion yn cyrraedd ein silffoedd yn ein cymunedau, a sut rydym yn trin y bobl sy'n chwarae rôl hanfodol yn cludo’r nwyddau hynny, sut rydym yn sicrhau eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi a’u bod yn gallu cael mynediad at gyfleusterau priodol yn ystod y cyfnodau gorffwys gwerthfawr hynny, sy'n bwysig ar gyfer eu llesiant, ond hefyd ar gyfer eu diogelwch a diogelwch eraill.
Ar gyfer fy nghyfraniad i’r ddadl heddiw, hoffwn nodi tri edefyn o’n gwaith sy’n fy nharo fel rhai arbennig o bwysig. Yn gyntaf, argymhelliad 1 ynghylch hyfforddiant a phrentisiaethau: rwy’n cydnabod sylwadau Llywodraeth Cymru yn eu hymateb fod eu gallu i ymyrryd yn y maes polisi penodol hwn, yn y mater penodol hwn, yn gyfyngedig gan y cedwir rhai cyfrifoldebau yn ôl. Fodd bynnag, fel yr aiff eu hymateb ymlaen i’w nodi, mae’r argymhelliad hwn yn cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru ynghylch sgiliau, ac wrth gwrs, yr addewid pwysig ynglŷn â phrentisiaethau ar gyfer tymor y Senedd hon.
Crybwyllwyd nifer o ymyriadau yn ymateb Llywodraeth Cymru, megis y cyfrif dysgu personol, ReAct, a phrentisiaethau logisteg, a hoffwn wybod gan y Dirprwy Weinidog sut y mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y cyrsiau hyn ar gyfer pobl sy’n gweithio neu sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector. Mae rhoi cyhoeddusrwydd i’r cyfleoedd hyn mor bwysig os ydym am fynd i’r afael â’r prinder o 50,000 yn nifer y gyrwyr.
Yn yr un modd, mae argymhellion 7 ac 8 yn faterion a gedwir yn ôl i raddau helaeth, ond lle mae’r materion canolog sydd wrth eu gwraidd yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r agenda gwaith teg, a byddwn yn croesawu rhagor o fanylion ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu ag undebau llafur perthnasol i lobïo Gweinidogion y DU, fel y gellir cyflawni’r dyheadau a rennir rhwng y pwyllgor a Gweinidogion Cymru.
Rwyf hefyd am ystyried argymhellion 3 i 5 yn gryno, ac mae pob un yn ymwneud â darparu mannau gorffwys digonol. Rwy'n teimlo bod yr argymhellion yn allweddol i’r gwaith hwn. Fel y clywodd y pwyllgor, anghysur a achosir gan gyfleusterau gorffwys annigonol, neu ddiffyg cyfleusterau gorffwys hyd yn oed, yw un o’r ffactorau mwyaf sy’n peri i yrwyr cerbydau nwyddau trwm adael y diwydiant.
Hoffwn esbonio fy mhwynt yn gryno drwy gyfeirio at un o arwyr fy mhlentyndod, sef yr eicon ffeministaidd, Long Distance Clara. Efallai y bydd y rheini sy'n cofio Pigeon Street yn cofio mai Long Distance Clara oedd y gyrrwr jygarnotiaid pellter hir a oedd yn chwalu ystrydebau, ac a allai yrru o un pegwn i'r llall, o'r dwyrain i'r gorllewin; nid oedd unman yn rhy bell i Clara. Fodd bynnag, efallai fod ei llwyddiant yn seiliedig ar y cinio poeth y gallai fod yn sicr ohono ar ddiwedd ei thaith. Ac roedd y rôl bwysig a chwaraeai, y pellteroedd y gellid disgwyl iddi eu teithio, yn oddefadwy oherwydd yr adegau o orffwys ac ymlacio y gallai eu cymryd ar ei thaith.
Mae’r pwynt yn un difrifol, gan y cododd y gyrwyr a roddodd dystiolaeth i ni lu o bryderon ynghylch prinder mannau diogel i barcio. Pan fyddai lleoedd ar gael i barcio, gallai'r cyfleusterau fod yn is na'r safon ac yn anaddas i'r diben. Dywedwyd wrthym am gawodydd wedi torri, teils wedi torri a chyfleusterau golchi budr, a soniodd y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd am arosfannau lle nad oedd toiledau hyd yn oed. Ac yna, efallai yn fwyaf difrifol, nid oedd y cyfleusterau hyn yn ddiogel—fel y mae ein Cadeirydd wedi crybwyll—gyda thystion yn dweud bod eiddo wedi'i ddwyn oddi arnynt hyd at 10 gwaith. Nid yw hyn yn ddigon da.
Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion. Fodd bynnag, byddwn yn croesawu unrhyw wybodaeth ychwanegol y gellid ei rhoi ynghylch amserlenni ar gyfer cyflawni’r gwelliannau hyn, fel y gall gyrwyr cerbydau nwyddau trwm gael cyfleusterau diogel sy’n addas i'r diben at eu defnydd, a gallwn gael gwared ar y rhwystr penodol hwnnw sy’n cael cymaint o effaith. Diolch.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelod a Chadeirydd y pwyllgor, yr Aelod dros Breseli Sir Benfro, am ei gadeiryddiaeth ragorol drwy gydol yr ymchwiliad hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i glercod a staff y pwyllgor am eu cymorth.
Credaf fod hwn, adroddiad cyntaf y pwyllgor, yn anhygoel o gryf. Yn ystod cyfarfodydd taflu syniadau ein pwyllgor ar y flaenraglen waith, cofiaf fod prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm wedi cael ei godi am fod archfarchnadoedd, gorsafoedd petrol a chadwyni cyflenwi eraill yn teimlo'r pwysau oherwydd y prinder gyrwyr. Deilliodd y syniad o gynnal ymchwiliad byr, cryno a chlir i’r mater o’r pwysau uniongyrchol a deimlid a’n hawydd i ddysgu beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i recriwtio a chadw’r gyrwyr gwerthfawr hyn.
Roedd y dystiolaeth a gasglwyd yn hynod werthfawr, ac rwy’n ddiolchgar i’r rheini a gyfrannodd, yn enwedig y gyrwyr cerbydau nwyddau trwm sydd wedi cynnig eu tystiolaeth uniongyrchol hanfodol a’u profiad o'r sefyllfa ar lawr gwlad. Ni ddylem danbrisio pwysigrwydd adroddiadau tystion allweddol, gan fod cymaint o werth i'w geiriau. Y gyrwyr cerbydau nwyddau trwm hyn a sicrhaodd fod y wlad yn parhau i symud drwy gydol y pandemig. Gwnaethant gynorthwyo i gadw silffoedd wedi'u stocio, a hwy yw'r rhai sydd â'r ddealltwriaeth orau o'r sefyllfa y mae'r adroddiad hwn yn ceisio'i disgrifio. Mae'r ddogfen yn nodi'r materion allweddol sy'n wynebu gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yng Nghymru. Mae hefyd yn darparu argymhellion ymarferol a chyflawnadwy y byddwn yn annog y Llywodraeth i’w hystyried o ddifrif.
Gan droi at yr adroddiad ei hun, mae’r Cadeirydd yn iawn i dynnu sylw at effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd a phandemig COVID-19 yn dilyn hynny. Fodd bynnag, roedd yr amodau yr oedd y gyrwyr hyn yn gweithredu ynddynt yn bodoli ymhell cyn y ddau ddigwyddiad. Fe wnaeth y prinder cronig o yrwyr cerbydau nwyddau trwm a oedd yn bodoli eisoes gynyddu effaith y digwyddiadau difrifol a digynsail hyn, a oedd yn ffactorau hollbwysig yn y problemau dilynol gyda'r gadwyn gyflenwi.
Ceir 11 o argymhellion y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith i ddiogelu dyfodol cadwyn gyflenwi Cymru. Hoffwn ddefnyddio fy nghyfraniad heddiw i ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar brofiad ein gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, ffactor pwysig os ydym yn dymuno gwneud y sector hwn mor fuddiol ac apelgar â phosibl i’r genhedlaeth nesaf o yrwyr. Dywedodd un o’r gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a roddodd dystiolaeth am brofiad gyrwyr:
'Mae'n ffiaidd; cawn ein trin fel anifeiliaid, dim cyfleusterau addas, oriau anghymdeithasol iawn, dim cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac mae'r rhan fwyaf o yrwyr yn cael ysgariad.'
A yw'n syndod ein bod yn wynebu prinder difrifol o ran recriwtio os mai dyma brofiad gyrrwr cerbydau nwyddau trwm? Nid yw'r amodau hyn yn adlewyrchu amgylchedd gwaith modern a boddhaus.
Mae'n rhaid inni ymbellhau hefyd oddi wrth y camsyniad cyffredin mai ar hyd yr M4 yn ne Cymru yn unig y ceir gorsafoedd gwasanaeth. Mae nwyddau’n symud o’r gogledd i’r de i'r un graddau ag y maent yn symud o’r dwyrain i’r gorllewin, ac mae’r A55 yn llwybr cludo nwyddau pwysig yng ngogledd Cymru. Ac mae ansawdd y gorsafoedd gwasanaeth yn loteri. Am bob gorsaf wasanaeth sydd â chyfleusterau glân a chroesawgar, mae un arall nad yw felly, yn anffodus. Nid yw’n syndod fod hyn wedi’i godi gan yrwyr cerbydau nwyddau trwm, ac rwy’n synnu nad yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r anghysondebau hyn yn ansawdd gorsafoedd gwasanaeth a safleoedd parcio, gan nad oes arolwg gan Lywodraeth Cymru o safleoedd parcio—rhywbeth y mae Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth y DU wedi mynegi pryderon yn ei gylch yn eu tystiolaeth i’r pwyllgor. Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i dderbyn argymhelliad 3, a chreu rhestr fanwl o leoliadau a chyfleusterau, yn debyg i’r hyn sydd ar gael dros y ffin.
Rwy'n annog y Dirprwy Weinidog i fyfyrio ar gynnwys yr adroddiad hwn a chydnabod ansawdd uchel ei gynnwys, ei gyfraniadau a’i gasgliadau, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i dderbyn yr argymhellion a wnaed gan y pwyllgor ac ymrwymo i’w rhoi ar waith fel mater o frys. Diolch.
Yn gyntaf, fel aelod o’r pwyllgor, hoffwn ddiolch i’r rheini a roddodd dystiolaeth, ac wrth gwrs, i’r clercod, ac yn y blaen, am eu gwaith ar hyn ac am lunio'r adroddiad hwn. Ac wrth gwrs, diolch i Gadeirydd ein pwyllgor am ei waith ar hyn ac am gyflwyno'r adroddiad i'r Senedd heddiw.
Hoffwn sôn am ddwy agwedd benodol ar yr adroddiad. Yn gyntaf, roedd y dystiolaeth a gawsom gan y gyrwyr eu hunain yn drawiadol ac yn llawn gwybodaeth, yn enwedig wrth dynnu sylw at rai o’r profiadau negyddol ar y ffyrdd, ac yn fwyaf nodedig at ansawdd a phrinder mannau gorffwys, y cytunodd cynrychiolwyr y diwydiant cludo nwyddau ei bod yn broblem, yn ogystal â diogelwch gyrwyr yn y mannau hyn. Clywsom am gyfleusterau golchi gwael, gyda theils a chawodydd wedi torri. Clywsom am y perygl o gael eiddo wedi'i ddwyn wrth barcio dros nos, gydag un gyrrwr yn nodi bod eiddo wedi'i ddwyn oddi wrtho dros 10 gwaith, fel y clywsom eisoes, a chaiff hynny ei dderbyn fel un o beryglon y gwaith. Mae'n anghredadwy fod hynny'n digwydd yn y sector hwn. Felly, roeddwn yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion 3 i 6. Er nad yw hyn yn datrys y broblem yn y tymor byr, bydd yn gwneud cryn dipyn i sicrhau y gallwn greu mannau gorffwys mwy diogel a glanach ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn y dyfodol, ond rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â hyn cyn gynted â phosibl.
Ar oriau ac amodau gwaith gyrwyr, credaf fod datgysylltiad clir iawn rhwng yr hyn yr oedd cynrychiolwyr y diwydiant cludo nwyddau yn dweud wrthym ei fod yn digwydd a’r realiti fel yr oedd gyrwyr yn ei disgrifio i ni, nad yw, mae’n rhaid imi ddweud, fel cyn-weithiwr yn y sector lletygarwch, yn fy synnu o gwbl. Os ydych yn dymuno dysgu am realiti gwaith, mae'n werth ichi siarad â'r rheini sy'n gwneud y gwaith hwnnw o ddydd i ddydd. Bydd yr Aelodau'n gweld y rheolau ynghylch oriau gyrru ar dudalen 9 yn yr adroddiad, ond dywedodd y gyrwyr eu hunain yn glir fod cyflogwyr yn aml yn pwyso arnynt i flaenlwytho oriau er mwyn aros o fewn eu lwfans cyfartalog. Yn aml, roedd hynny'n golygu gweithio wythnosau 60 awr, sy'n flinderus yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae gennym waith i’w wneud i fynd i’r afael â hyn, felly unwaith eto, rwy’n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhellion ar hyn, a byddwn yn eu hannog i weithredu ar yr argymhellion hynny cyn gynted â phosibl.
Yn olaf, pwynt ar wahân i’r adroddiad, ond pwynt pwysig inni ei nodi, yw’r elfen gapasiti honno i hyfforddi gyrwyr. Mae Rhun ap Iorwerth a minnau wedi sôn am y mater hwn ers cyhoeddi ein hadroddiad fel pwyllgor, a thynnodd ef sylw at fater lleol yn ei ardal. Yn lleol i Rhun, mae ganddynt restrau aros o hyd at 10 wythnos a mwy am brofion gyrru. Mae hyfforddwr wedi gadael ei swydd yn yr ardal yn ddiweddar, gan olygu y bydd yn dod yn anoddach i yrwyr dan hyfforddiant drefnu prawf. Cyfunwch hyn â phenderfyniad yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau ym mis Chwefror 2020 i gau’r ganolfan brawf yng Nghaernarfon a daw’r her hyd yn oed yn fwy amlwg. Y bwriad yw cau Caernarfon, gyda llaw, a symud y profion i safle yn Wrecsam, gan olygu y bydd angen i bobl o’r gogledd-orllewin deithio ar draws y gogledd i gael eu profi, gan ychwanegu ymhellach at y broblem gyda chapasiti.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae nifer o heriau i fynd i'r afael â hwy yma, ac rwy'n gobeithio bod y Llywodraethau ar ddwy ochr yr M4 o ddifrif ynglŷn â gwneud hynny.
Yn dilyn yr hyn a ddywedodd Luke mewn gwirionedd, nid yw'n bosibl archebu prawf gyrru yn Wrecsam o gwbl, i unrhyw un, hyd yn oed gyrwyr sy'n dysgu gyrru ceir ar hyn o bryd.
Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl heddiw. Os ydym am ddatrys y broblem ynghylch yr angen am fwy o yrwyr lorïau, mae'n rhaid inni fynd i’r afael â mater cadw gyrwyr, fel y crybwyllwyd eisoes. Nid yw'n waith hawdd, a dylem fod yn ddiolchgar i'r rheini sy'n ei wneud, yn enwedig am bopeth y maent wedi'i wneud drwy gydol y pandemig. Os ydym am fod o ddifrif ynghylch cadw gyrwyr, mae'n amlwg fod yn rhaid inni wella'r amodau y maent yn gweithio ynddynt a'r cyfleusterau sydd ar gael iddynt. Mae hynny’n golygu gwrando ar leisiau’r rheini sy’n gweithio yn y proffesiwn, fel sydd wedi digwydd yn y pwyllgor.
Nid yw'n gyfrinach nad yw'r cyfleusterau sydd ar gael i yrwyr yn y DU yn ddigonol a'u bod yn cymharu'n wael â chyfleusterau sydd ar gael mewn gwledydd cyfagos. Dywedwyd wrthyf fod llawer o gilfannau ar lwybrau allweddol, gan gynnwys cefnffyrdd, wedi'u gau. Roedd y rhain yn darparu seibiant hanfodol i yrwyr. Nid yw'r mannau parcio ar gyfer cerbydau nwyddau trwm yn ddigon da. Mae gyrwyr a chludwyr wedi bod yn ymgyrchu am gyfleusterau gwell ers blynyddoedd. Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol a busnesau yng Nghymru i unioni’r sefyllfa hon. Mae angen man diogel i orffwys ar yrwyr lle y gallant ddefnyddio toiledau a chawodydd gweddus, fel y crybwyllwyd eisoes. Felly rwy'n croesawu’r ymateb gan Lywodraeth Cymru i argymhelliad 3 i gynnwys archwiliad o gyfleusterau gorffwys yn y cynllun logisteg a chludo nwyddau newydd o dan strategaeth drafnidiaeth Cymru.
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn yr ymyriad. Gallwn gau fy llygaid yn awr a chredu fy mod yn gwrando ar gyn-Aelod rhanbarthol o ogledd Cymru, y diweddar Brynle Williams, a oedd yn siarad yn gyson am yr union fater hwn oddeutu 14 mlynedd yn ôl ynglŷn â mannau gorffwys i yrwyr ac yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i gynnal yr archwiliad hwnnw a gweithio gyda darparwyr i wella eu gwasanaethau. A ydych yn cytuno â mi ei bod yn wirioneddol ddigalon clywed nad yw’r gwasanaethau hynny wedi gwella dros y 14 mlynedd diwethaf a bod angen eu gwella yn y blynyddoedd i ddod fel mater o frys?
Ie, dywedais hynny mewn gwirionedd, ein bod wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd. Rwy'n cofio Brynle o Gilcain, ac rwy'n ei gofio'n cymryd rhan yn y ddadl honno hefyd, cyn iddo ddod yn AC.
Roeddwn ar fin dweud hefyd fod y mannau gorffwys hyn mor bwysig. Roeddwn am awgrymu, efallai, er hwylustod i yrwyr sy'n gyrru dros ffiniau'n gyson, y dylid cynnwys hyn mewn un map ar gyfer y DU gyfan. Os yw’r gwaith o fapio cyfleusterau yn Lloegr yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, fel y credaf sy’n digwydd drwy asiantaeth, a wnaiff Llywodraeth Cymru ofyn iddynt ei ymestyn i gynnwys Cymru ar yr un pryd er mwyn arbed amser ac arian? Os ydym am gadw gyrwyr yn y diwydiant hwn, mae'n rhaid inni weithredu’n gyflym, a hyderaf y bydd Llywodraeth Cymru'n gwneud hynny. Diolch.
Galwaf ar Ddirprwy Weinidog y celfyddydau a chwaraeon, Dawn Bowden.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r pwyllgor am eu hadroddiad ac am gyflwyno’r ddadl hon, ac am eu hymgysylltiad parhaus ar y mater hwn? Fel Llywodraeth, rydym yn sicr yn dal i bryderu am y prinder parhaus o yrrwr cerbydau nwyddau trwm a llafur yn y sector logisteg ehangach, sydd, fel y nododd Paul Davies yn ei sylwadau agoriadol, wedi’i waethygu gan broblemau a chyfyngiadau’n deillio o ddiwedd y cyfnod pontio i adael yr UE, yn ogystal â'r pwysau o ganlyniad i'r pandemig.
Mae'r prinder gyrwyr, wrth gwrs, yn gwaethygu problemau domestig a byd-eang ehangach gyda chadwyni cyflenwi, gan arwain at godi costau yn gyffredinol ac amseroedd cyflenwi hirach ar gyfer ystod eang o nwyddau. Ar hyn o bryd, credwn nad oes unrhyw sector penodol yn economi Cymru yn wynebu risgiau difrifol o ganlyniad i broblemau cyflenwi, ond bydd cydnerthedd cadwyn gyflenwi Cymru yn parhau i fod yn fregus wrth inni ddod allan o gyfnod y gaeaf. Rydym yn fwy agored nag arfer i niwed felly yn sgil digwyddiadau aflonyddgar, megis tywydd garw, argyfwng Wcráin, a gweithredu diwydiannol mewn porthladdoedd. Ceir risg uwch o brinder annisgwyl a heb rybudd o nwyddau critigol, gyda’r posibilrwydd o effeithiau ehangach ar wasanaethau cyhoeddus a busnesau. Mae’r rhesymau dros y prinder wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd, gan gynnwys gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn ymddeol yn y DU, niferoedd sylweddol o yrwyr o’r UE yn dychwelyd i Ewrop ar ôl Brexit, newidiadau treth IR35 yn effeithio ar yrwyr, ac wrth gwrs, fel y clywsom, yr ôl-groniad o bobl sy'n aros am brofion gyrru oherwydd COVID.
Amcangyfrifodd yr Adran Drafnidiaeth fod prinder o rhwng 70,000 a 90,000 o yrwyr cerbydau nwyddau trwm, ac er bod y prinder wedi bod yn datblygu ers nifer o flynyddoedd, fel y nododd Sam Kurtz, mae wedi’i gyflymu gan effeithiau Brexit a’r pandemig, fel rwyf wedi'i nodi eisoes. Ond barn y diwydiant yw nad yw'r rhain yn broblemau sy'n gyfyngedig i yrwyr cerbydau nwyddau trwm Cymru; mae’r broblem, fel y gwyddom, yn broblem ledled y DU. Ac er bod y rhan fwyaf o'r pwerau sy'n ymwneud â'r materion hyn yn bwerau a gedwir yn ôl, gan gynnwys oriau gyrwyr a thrwyddedu gyrwyr, gan gynnwys hyfforddi, profi ac ardystio, rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i wneud mwy i gefnogi'r diwydiant.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn a all i liniaru’r materion hyn ymhellach. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r diwydiant, ac rydym wedi addasu rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau presennol i ehangu’r cyllid sydd ar gael i hyfforddi gyrwyr lorïau. Mae'r rhain yn cynnwys y cyfrifon dysgu personol a rhaglen ReAct. Mae gan ein rhaglen brentisiaeth nifer o opsiynau sy’n canolbwyntio ar logisteg, gan gynnwys lefel 2 a lefel 3 mewn gyrru cerbydau nwyddau. Ac mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda Cymru'n Gweithio, gwasanaeth cyfarwyddyd i oedolion Gyrfa Cymru, i sicrhau bod ffoaduriaid sy'n ymgartrefu yng Nghymru yn gallu cael mynediad at raglen ReAct, a'i rhaglen olynol, ReAct+. Gall y rhaglen ddarparu hyd at £1,500 tuag at y gost o gaffael trwydded yrru'r DU a chymwysterau cysylltiedig, megis y dystysgrif cymhwysedd proffesiynol i yrwyr.
Yn ogystal, fel y nodwyd, rydym wedi ymrwymo i gynllun logisteg a chludo nwyddau newydd i Gymru, o dan strategaeth drafnidiaeth Cymru, a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, y sector, a phartneriaid eraill, i ddatblygu’r cynllun hwn ac i sicrhau ein bod yn ymgorffori’r argymhellion o adroddiad y pwyllgor yn y cynllun. Ond byddaf yn siarad â fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, i weld a allwn fynd i'r afael â mater archwilio cyfleusterau gyrwyr, gan ei bod yn ymddangos bod honno'n thema arbennig o gyffredin a phwysig a godwyd gan y pwyllgor a thrwy'r dystiolaeth a gafwyd.
Mae cyrff y diwydiant yn ddiolchgar am y mesurau a ddatblygwyd gan Lywodraeth y DU wrth gwrs, ond maent yn parhau i fod o’r farn y byddai newidiadau tymor byr i bolisi mewnfudo, ochr yn ochr â newidiadau rheoleiddiol i gyflwyno llwybr carlam i ddod â gyrwyr i mewn i’r diwydiant, yn helpu i leddfu’r pwysau yn y tymor byr. Yn fwy hirdymor, mae cyfle i wrthdroi’r problemau sydd wedi bod yn datblygu yn y diwydiant dros nifer o flynyddoedd, ac i greu sector mwy cynaliadwy a gwydn sy’n cynnig cyflog ac amodau gwaith tecach i yrwyr. Ni ddylai mesurau dros dro Llywodraeth y DU danseilio’r dyhead mwy hirdymor hwn.
Ni ellir gwahanu'r heriau y mae cyflogwyr gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn eu hwynebu gyda recriwtio a chadw gweithwyr oddi wrth yr amodau gwaith y mae cyflogwyr yn eu darparu. Mae a wnelo hyn â mwy na chyflog yn unig, mae'n ymwneud â gyrwyr yn cael eu trin yn dda a chyda pharch gan gyflogwyr sy'n eu gwerthfawrogi. Felly, mae rôl arweiniol bwysig i’r diwydiant yma, ac rydym yn annog y diwydiant i weithio’n adeiladol gydag undebau llafur i wella’r cynnig i yrwyr, gan y byddai amodau gwaith gwell yn helpu i ddenu a chadw gyrwyr a chreu marchnad lafur iachach a mwy gwydn. Byddai hyn o fudd i gyflogwyr a gweithwyr y diwydiant.
Rydym yn credu mewn partneriaeth gymdeithasol, a gellir gweld hynny yn y ffaith bod gennym Weinidog partneriaeth gymdeithasol, sy'n eistedd yma heddiw. Rydym am weithio gyda’r diwydiant cludo nwyddau, ac rydym yn gweithio gydag undebau llafur ac yn cael sgyrsiau gonest â hwy ynglŷn â sut yr awn y tu hwnt i atebion tymor byr i fynd i’r afael â heriau’r gweithlu, a chreu newid mwy hirdymor a chynaliadwy i'r profiad o weithio. Cytunaf yn llwyr â Vikki Howells ei bod yn rhesymol disgwyl i Lywodraeth y DU edrych ar sut y gallant gynyddu nifer y gyrwyr benywaidd yn y sector. Ar hyn o bryd, dim ond 2 y cant o yrwyr sy'n fenywod, ac mae hwnnw’n amlwg yn faes lle y gallai recriwtio wedi’i dargedu helpu i wella’r ystadegyn hwnnw.
Mae'n amlwg fod y diwydiant o'r farn fod gwell cyfleusterau i yrwyr yn hanfodol er mwyn cynyddu cyfraddau recriwtio, ac rydym wedi sôn am hynny eisoes. Felly, roedd Llywodraeth Cymru yn siomedig o glywed y bydd y £32.5 miliwn o gyllid newydd i wella cyfleusterau parcio lorïau ar gael i Loegr yn unig. Er bod y rhain yn faterion a gedwir yn ôl, rydym wedi sefydlu grwpiau traws-bolisi i adolygu’r problemau diweddaraf, gan gynnwys hyfforddiant ac amodau ar ochr y ffordd. Rydym yn mynd ati i weithio ar nifer o feysydd i fynd i’r afael â’r sector a’i gefnogi, ac mae hyn yn cynnwys gweithio ar ystod o fesurau lliniaru ac ymyriadau gydag amrywiol adrannau Llywodraeth y DU, yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau a chyrff cynrychiadol ym maes logisteg.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda Gyrfa Cymru i hyrwyddo ystod o gyfleoedd sydd ar gael ar draws y diwydiant logisteg yng Nghymru a sut i gael mynediad at yrru cerbydau nwyddau trwm fel gyrfa. Mae gennym gysylltiad rheolaidd â changhennau Cymru o’r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd a Logistics UK i gasglu gwybodaeth gan y diwydiant am brinder gyrwyr a bwydo hyn yn ôl i Lywodraeth y DU. Rydym wedi ymestyn mesurau i lacio amseroedd cyrffyw ar gyfer danfon nwyddau er mwyn helpu i ddarparu mwy o hyblygrwydd gweithredol.
Ddirprwy Lywydd, er gwaethaf y pryderon dilys am brinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, ceir rhai arwyddion fod y sefyllfa'n gwella. Mae'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd yn amcangyfrif bod y prinder gyrwyr wedi lleihau oddeutu 15,000 dros y chwe mis diwethaf o'r amcangyfrif blaenorol o oddeutu 100,000 o swyddi gwag. Fodd bynnag, er bod mwy o ymgeiswyr yn cael eu denu i’r sector gan gyflogau uwch a’r mesurau a roddwyd ar waith gan y Llywodraeth ledled y DU, mae llawer o bobl o fewn y diwydiant yn credu y bydd yn dal i gymryd misoedd lawer, os nad blynyddoedd, i unioni'r sefyllfa’n llawn. Felly, byddwn yn parhau i weithio gyda’r pwyllgor a chyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y sector yn cael y cymorth sydd ei angen arno i barhau i gyflawni ar gyfer y DU gyfan. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Paul Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r Aelodau am gyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma? Rydym wedi clywed cyfraniadau craff iawn gan Aelodau ar rai o’r materion sy’n wynebu’r sector a’r effaith y mae'r prinder gyrwyr yn ei chael ar yr economi ehangach. Rwy’n ddiolchgar i’r holl Aelodau, boed yn aelodau o'r pwyllgor ai peidio, am eu hymwneud ar y mater hwn.
Cyn imi ymateb i gyfraniadau unigol yr Aelodau, hoffwn ailadrodd pa mor bwysig yw gyrwyr cerbydau nwyddau trwm i’n heconomi a dweud eu bod yn parhau i chwarae rhan enfawr yn cludo nwyddau ledled y wlad, a thu hwnt, yn wir. Dyna pam ei bod yn hollbwysig fod recriwtio gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn flaenoriaeth i Lywodraethau ledled y DU, ac y ceir buddsoddi hirdymor yng ngweithlu domestig y DU.
Rwy’n ddiolchgar am gyfraniad yr Aelod dros Gwm Cynon, a thynnodd sylw at ba mor bwysig yw gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn ein bywydau bob dydd. Y gyrwyr hyn sy'n sicrhau ein bod yn gallu derbyn nwyddau a chynhyrchion sy'n sicrhau ein bod yn gallu byw ein bywydau o ddydd i ddydd. Gwnaeth bwynt pwysig iawn hefyd am bwysigrwydd hyfforddiant, ac mae’n iawn i ofyn sut y mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y cyrsiau sydd ar gael i yrwyr cerbydau nwyddau trwm. Mae hyn yn hanfodol i ddatblygiad proffesiynol parhaus gyrwyr.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar i fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Yn ei gyfraniad, canolbwyntiodd ar brofiad gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, ac mae'n iawn i dynnu sylw at y cyfleusterau mannau gorffwys amrywiol eu safon sydd ar gael i yrwyr cerbydau nwyddau trwm ledled y wlad. Mae hefyd yn llygad ei le yn dweud ei bod yn hollbwysig bellach fod argymhelliad 3 yn cael ei dderbyn cyn gynted â phosibl, gan fod angen inni weld y rhestr honno o wasanaethau fel y gellir gwella cyfleusterau mannau gorffwys ledled Cymru.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Aelod dros Orllewin De Cymru. Soniodd yn gwbl briodol am y profiadau ofnadwy a glywsom gan yrwyr cerbydau nwyddau trwm a’r ffaith bod yr ôl-groniad o brofion wedi gwneud pethau’n waeth o ran y prinder a welsom. Tynnodd sylw hefyd at ba mor bwysig yw hi i'r ddwy Lywodraeth gydweithio. Mae’n bwysig fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio er mwyn ceisio datrys rhai o’r materion hyn.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Aelod dros Ogledd Cymru am ei chyfraniad ar ba mor bwysig yw'r cyfleusterau mannau gorffwys hyn i helpu i wella profiad gyrwyr cerbydau nwyddau trwm.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar i arweinydd yr wrthblaid am ein hatgoffa o’n diweddar gyd-Aelod, Brynle Williams, a fu'n ymgyrchu'n ddiflino pan oedd yn y lle hwn dros wella profiad gyrwyr cerbydau nwyddau trwm.
Nawr, mae cyfraniadau’r Aelodau wedi canolbwyntio, yn gwbl briodol, ar brofiadau gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, a chredaf ei bod yn deg dweud bod angen gwneud cryn dipyn i wneud y profiad yn llawer mwy diogel a chysurus i yrwyr cerbydau nwyddau trwm. Pan fydd gyrwyr yn cyfeirio at y ddeddfwriaeth ar oriau gyrwyr fel ‘bwystfilo’, gwyddom fod rhywbeth wedi mynd o’i le yn ddifrifol. Disgrifiodd y gyrwyr a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor sut yr oedd eu cyflogwyr yn pwyso arnynt i weithio 60 awr yr wythnos, ac mae hynny, wrth gwrs, yn flinderus yn gorfforol ac yn gallu arwain at lefelau uchel o straen a phryder. Felly, rwy'n arbennig o falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad i weithio gyda Llywodraeth y DU ar unrhyw adolygiad o ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar amodau gwaith gyrwyr cerbydau nwyddau trwm. Wrth gwrs, gan nad yw’r ddeddfwriaeth hon wedi’i datganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi'i chyfyngu o ran yr hyn y gall ei wneud. Fodd bynnag, mae'n bwysig fod y sector a gyrwyr yng Nghymru yn cael eu cynnwys a'u clywed fel y gall unrhyw adolygiad sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu hystyried.
Rwyf hefyd yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gynnal archwiliad o gyfleusterau gorffwys i yrwyr yng Nghymru a chreu’r rhestr genedlaethol honno, yn debyg i’r hyn sydd ar gael ar gyfer Lloegr. Rwy’n ddiolchgar i’r Dirprwy Weinidog, yn ei sylwadau y prynhawn yma, ac rwy’n gobeithio’n fawr y bydd yn gallu creu'r rhestr honno cyn gynted â phosibl. Derbyniodd y pwyllgor adroddiadau brawychus hefyd am y cyfleusterau gorffwys y mae gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn parhau i orfod eu dioddef. Fel y dywedodd yr Aelod dros Gwm Cynon, clywsom am gawodydd wedi torri, teils wedi torri a chyfleusterau golchi budr, a chyfeiriwyd at gost bwyd a diod mewn gorsafoedd gwasanaeth, gydag un gyrrwr yn dweud wrthym y codwyd tâl o £1.80 arno am gwpanaid o ddŵr poeth. Rwy'n credu y bydd pob Aelod yn y Siambr yn cytuno â mi pan ddywedaf hyn: mae'n rhaid inni wneud yn well.
Daw hynny â mi at gyfraniad y Dirprwy Weinidog, a hoffwn ddiolch iddi am ei hymateb adeiladol i’r ddadl y prynhawn yma. Rwy’n sylweddoli na all ei chyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi, glicio ar ei fysedd a datrys y problemau sy’n wynebu’r sector, ac mewn llawer o feysydd, nid yw gweithredu yn rhan o gylch gorchwyl Llywodraeth Cymru. Serch hynny, lle mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o argymhellion y pwyllgor a lle y gall wneud hynny, mae wedi addo gweithredu, ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Llywodraeth am hynny. Mae'n gwbl hanfodol yn awr fod yr argymhellion hynny'n cael eu rhoi ar waith yn llawn, a bod camau'n cael eu cymryd i gefnogi'r sector a mynd i'r afael â rhai o'r heriau y mae wedi'u hwynebu ers amser maith. Rydym am i yrwyr deimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi yn eu rolau.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw a dweud bod y pwyllgor yn edrych ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf maes o law am y cynnydd a wneir ar weithredu argymhellion ein hadroddiad? Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.