2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 29 Mawrth 2022.
4. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am drigolion Cymru sydd wedi cael eu diswyddo'n anghyfreithlon gan P&O? OQ57905
Wel, diolch i Jack Sargeant am y cwestiwn pwysig yna, Dirprwy Lywydd. Mae penderfyniad P&O Ferries i ddiswyddo ei weithlu ffyddlon heb ymgynghori a hynny ar unwaith yn annerbyniol ac yn anghyfreithlon. Rydym ni wedi ei gwneud yn glir i Lywodraeth y DU na ddylen nhw sefyll o'r neilltu a chaniatáu ras garlam i'r gwaelod ar hawliau gweithwyr yn y diwydiant hwn nac unrhyw un arall.
Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Bydd yr Aelodau'n gwybod mai isafswm cyflog y DU yw £8.91. Y cyflog cyfartalog newydd yn P&O yw £5.50, a chafodd hyn ei gyflwyno ar ôl iddyn nhw ddiswyddo eu gweithlu ffyddlon yn anghyfreithlon heb ymgynghori. Fel y dywed y Prif Weinidog yn gywir, mae hon yn weithred warthus, anghyfreithlon gan benaethiaid P&O, ac mae'n un sy'n annerbyniol i mi. Prif Weinidog, mae'r distawrwydd o feinciau'r Ceidwadwyr yn Siambr y Senedd heddiw yn fyddarol, onid yw? Ond nid yw'n syndod—[Torri ar draws.] Ond nid yw'n syndod. Wedi'r cyfan, eu cydweithwyr nhw—[Torri ar draws.] Eu cydweithwyr nhw yn San Steffan, yn San Steffan, a rwystrodd y Bil diswyddo ac ailgyflogi a oedd yn ceisio gwahardd yr arferion hyn.
A gaf i ofyn i'r Aelodau ganiatáu i'r cwestiwn gael ei ofyn os gwelwch yn dda, er mwyn i mi allu ei glywed?
Dirprwy Lywydd, nid yw'n syndod, oherwydd Bil a gyflwynwyd gan Aelod Seneddol y Blaid Lafur ydoedd. Ond mae'r heclo y trodd hyn i mewn iddo o'r meinciau draw yn y fan yna yn atgyfnerthu'r neges, onid yw? Maen nhw'n atgyfnerthu'r neges nad yw Plaid Geidwadol y DU yn poeni am bobl gyffredin sy'n gweithio yng Nghymru a ledled y DU. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i anfon neges syml iawn, ond pwerus i Lywodraeth Geidwadol y DU fod angen deddfwriaeth arnom ni yn awr i roi terfyn ar arferion diswyddo ac ailgyflogi, a bod angen i ni hefyd ddirymu'r holl gyfreithiau gwrth-undebau llafur sy'n tynnu pŵer oddi ar bobl gyffredin sy'n gweithio?
Wel, Dirprwy Lywydd, mae Jack Sargeant wedi gwneud y pwyntiau hynny'n rymus iawn. Addawodd Llywodraeth y DU, Llywodraeth hon y DU, mewn araith gan y frenhines yn 2019 y byddai'n dod â Bil cyflogaeth gerbron Tŷ'r Cyffredin. Ble mae'r Bil hwnnw wedi bod? Nid yw unman i'w weld, wrth gwrs. A phe bai wedi'i gyflwyno, efallai y byddai cyfle wedi bod i fynd i'r afael â'r hyn y mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn ei ddisgrifio fel ymelwa ar fwlch yn y gyfraith. Dwy fil ac un deg naw, Llywydd. Dyma ni yn 2022, ac nid oes unrhyw arwydd o'r Bil hwnnw a addawyd, ac mae hynny'n dweud wrthych chi, fel y dywed Jack Sargeant, bopeth y mae angen i chi ei wybod am agwedd y Llywodraeth Geidwadol bresennol hon at hawliau gweithwyr. Cefais y fraint o gwrdd â Barry Gardiner, yr Aelod Seneddol a gyflwynodd y Bil Aelod preifat i wahardd diswyddo ac ailgyflogi. Disgrifiodd y Prif Weinidog yr arfer o ddiswyddo ac ailgyflogi fel un annerbyniol, ac eto caniataodd i feincwyr cefn y Ceidwadwyr yn Nhŷ'r Cyffredin atal y Bil Aelod preifat hwnnw pan allai fod wedi gwneud cymaint o les ac yn sicr byddai wedi gwneud gwahaniaeth yn achos P&O. Nawr, mae'r Prif Weinidog wedi honni y bydd P&O yn cael ei erlyn o dan adran 194 o Ddeddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992, ond nid oes unrhyw arwydd o hynny'n digwydd ychwaith. Mae'r diffyg gweithredu yn fyddarol, fel y dywed Jack Sargeant. Yr hyn a glywn ni gan Weinidogion Ceidwadol yw'r esgusodion mwyaf llipa yn wyneb diystyru y gyfraith yn fwriadol gan P&O. Roedd yn syfrdanol bod Peter Hebblethwaite yn barod i fynd i bwyllgor dethol yn Nhŷ'r Cyffredin a chydnabod y ffaith nad oedd 'dim amheuaeth o gwbl'—dyna a ddywedodd—
'ei bod yn ofynnol i ni ymgynghori â'r undebau.'
Wel, nid oedd dim amheuaeth oherwydd dyna yr oedd y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw ei wneud. Aeth ymlaen wedyn i ddweud, 'Fe wnaethom ni ddewis peidio â gwneud hynny—fe wnaethom ni ddewis torri'r gyfraith yn fwriadol.' Ble mae'r camau y mae angen i'r Llywodraeth hon eu cymryd yn San Steffan i fynd i'r afael â'r math hwnnw o ddiystyru'r gyfraith yn fwriadol ac amddiffyn y gweithwyr y digwyddodd hyn iddyn nhw?
Mae'n drueni mawr bod rhai Aelodau yn y Siambr hon yn chwarae gwleidyddiaeth gyda'r mater yma. Ac er mwyn i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy glywed, ac Aelodau eraill, mae ymddygiad P&O Ferries yn sgandal ac yn hollol annerbyniol, ac rydyn ni fel grŵp fan hyn wedi gwneud hynny yn hollol glir. Nawr, o ystyried y sefyllfa ddifrifol yma, ac o ystyried ei bod hi'n ymddangos bod prif weithredwr y cwmni hwn wedi cyfaddef iddo fe dorri'r gyfraith, ai eich barn chi felly fyddai y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fynd â'r mater hwn nawr i'r llysoedd i'w erlyn ef a'r cwmni?
Wel, wrth gwrs. Wrth gwrs, mae diddordeb yn y pwnc yma yng Nghymru, ac mae cyfrifoldeb ar Weinidogion yn San Steffan i fynd i'r llysoedd ac i fynd ar ôl y cwmni sydd wedi torri'r gyfraith. Ond, yn fwy na hynny, Dirprwy Lywydd, rydyn ni'n gwybod bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i ddelio â'r cwmni sy'n rhedeg P&O yn y rhaglen free ports sydd gyda nhw. Dydy hi ddim yn dderbyniol i ni i fynd ar ôl P&O pan maen nhw'n dal i weithio gyda'r cwmni sydd y tu ôl i P&O. Mae lot mwy—mae lot mwy—i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ei wneud, ac nid yw hynny'n chwarae gwleidyddiaeth o gwbl; mae jest yn bod yn glir am ble mae'r cyfrifoldeb yn aros.