– Senedd Cymru am 6:18 pm ar 30 Mawrth 2022.
Fe fyddwn ni nawr yn symud ymlaen i'r ddadl fer, ac mae'r ddadl fer heddiw i'w chyflwyno gan Adam Price.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gennyf fy mod yn gallu cynnal y ddadl yma heno, er mwyn tynnu sylw at y sefyllfa bresennol yng Nghymru o ran clefyd niwronau motor, a'r mynediad at driniaeth a chyfleusterau sydd ar gael yma yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'n bleser gyda fi gadarnhau fy mod i wedi cytuno i roi un munud o fy amser i Peter Fox, sydd wedi arwain cymaint ar y mater yma.
Mae clefyd niwronau motor, neu MND, fel mae'n cael ei alw yn gyffredinol, yn glefyd angheuol sydd yn datblygu yn hynod o gyflym, gan effeithio ar yr ymennydd a llinyn y cefn. Mae'r clefyd yn ymosod ar y nerfau sydd yn rheoli symudiad y corff, i'r fath raddfa bod cyhyrau’r corff yn methu â gweithio dim mwy. Arweinia hyn at bobl yn cael eu cloi mewn corff sydd yn eu methu, gyda siarad a symud yn amhosib, ac yn y diwedd, yn methu ag anadlu ac yn marw o ganlyniad i MND.
Yn ôl y data, mae'r risg o berson yn datblygu MND o gwmpas un mewn 300. Yng Nghymru, ar unrhyw un adeg, mae tua 200 o bobl yn byw gydag MND. Mae'r rhif yma yn is na'r disgwyl, efallai, o ganlyniad i allu'r clefyd i ddatblygu'n hynod o gyflym. I draean o'r bobl sy'n derbyn diagnosis o MND, mae hyn yn golygu y byddant, mae'n drist i nodi, yn marw o fewn blwyddyn o'r diagnosis hwnnw. Mae dros hanner o'r rheini sydd yn byw gydag MND yn marw o fewn dwy flynedd o dderbyn y diagnosis. Pwysig iawn yw cofio, wrth gwrs, nad oes unrhyw wellhad o MND yn bodoli ar hyn y bryd, gwaetha'r modd. Gyda sefyllfa mor ddifrifol â hyn yn wynebu’r rheina sy'n byw gydag MND, mae'n hollol amlwg bod ymchwil a phrofion clinigol yn chwarae rôl allweddol wrth inni frwydro yn erbyn y clefyd erchyll yma. Positif, felly, yw'r newyddion fod profion clinigol ar waith yma yng Nghymru, ond yn anffodus, yr adborth sy'n dod o'r broses yma yw fod cynnydd yn araf iawn.
Roedd adroddiad ym mis Ionawr eleni yn nodi o’r 50 person oedd wedi cofrestru ar gyfer y profion hyn ers mis Medi 2021, dim ond un person oedd wedi cael eu gweld. Tra fy mod i'n mawr obeithio bod y profion wedi cyflymu ers hynny, hoffwn fod yn hollol glir nad beirniadaeth o'r arbenigwyr clinigol yw'r diffyg cynnydd yma. Mae’r diffyg cynnydd yma yn dangos diffyg capasiti yn y system i fedru gwthio’r gwaith yma ymlaen. O'r hyn rwy'n deall, mae’r unigolion sydd ynghlwm â’r rhaglen yma yn aml yn gwneud y gwaith ar ben pentwr o gyfrifoldebau eraill ym maes niwroleg. Onid oes achos yma dros benodi niwrolegydd arweiniol gyda briff penodol dros ymchwil a thriniaeth MND a fyddai’n gallu gyrru’r rhaglen profion allweddol yma ymlaen? Mae’r Gymdeithas MND wedi dweud yn benodol fod prinder o staff yn ffactor enfawr, gyda phrinder o niwrolegwyr i fedru rhedeg y profion, sydd yn her enfawr, mae’n amlwg. Mae’r athro niwroleg Ammar Al-Chalabi wedi adleisio'r pwynt yma gan ddweud y byddai Cymru’n buddio’n enfawr o gael niwrolegydd arweiniol gyda’r blaenoriaethau yma wedi'u gosod yn glir yn eu contract nhw.
Arf arall sydd gennym yn y frwydr yn erbyn y clefyd yw’r profion MND-SMART, a ddechreuodd ddiwedd y llynedd yng Nghymru. Mae MND-SMART yn brawf arloesol sydd yn edrych am gyffuriau newydd sydd yn medru arafu datblygiad MND, gyda’r bwriad o ddatblygu ymhellach i fedru stopio'r clefyd, ac yn y diwedd, gwrthdroi'r clefyd i gleifion sydd wedi datblygu symptomau estynedig. Yn anffodus, mae mynediad at y profion yma yn dal i fod yn anodd iawn i bobl sy’n byw gyda MND. Yn bresennol, briff rhwydwaith MND de Cymru yw darparu gofal amlddisgyblaethol ar gyfer pobl sydd yn byw gydag MND ar hyd de Cymru a rhan ddeheuol o’r canolbarth, ac maen nhw’n derbyn cyllid gan y gwasanaeth iechyd a gan y Gymdeithas MND. Y rhwydwaith sydd felly gyda’r cyfrifoldeb am ddarparu’r profion SMART, wrth gymryd rhan mewn astudiaethau eraill.
Rwyf wedi bod yn sgwrsio gyda theulu yn fy etholaeth i sydd wedi profi’r problemau systematig sydd gyda ni ar hyn o bryd gydag ymchwil a thriniaeth MND, sef teulu’r Gledhills. Cafodd Bob Gledhill ddiagnosis o MND yn Hydref 2020, ac yn anffodus nid oedd y profion SMART yng Nghymru ar gael pan dderbyniodd y diagnosis hwnnw. Roedd gwraig Bob, Lowri, am wneud unrhyw beth roedd hi'n medru ei wneud i sicrhau mynediad i Bob at brofion SMART. Aeth Lowri mor bell â Rhydychen i geisio cofrestru ei gwr mewn rhaglen SMART ond heb unrhyw lwyddiant. Yn anffodus, nid yw canolfannau profi yn awyddus i gofrestru pobl sydd yn byw’n bell i ffwrdd. Roedd hyn yn amlwg yn hynod o rwystredig iddyn nhw fel teulu wrth i amser fynd yn ei flaen, a hwythau yn dal yn edrych am fynediad at y driniaeth oedd yn cynnig y siawns orau o wella’r sefyllfa, waeth pa mor fach fo’r siawns hwnnw.
Ers hynny, mae Bob wedi derbyn gwahoddiad i fod yn rhan o’r prawf SMART yng Nghymru, a thra bod hyn yn ddatblygiad positif, rwyf ar ddeall fod Bob dal heb gael ei weld gan arbenigwr fel rhan o’r broses hynny, a hyn nawr tua 18 mis—blwyddyn a hanner—ers iddo dderbyn ei ddiagnosis. Cyfeiriaf yn ôl at yr ystadegau a ddyfynnais i ar ddechrau'r ddadl yma, sy’n amlygu’r ffaith fod amser yn bendant yn erbyn rhywun mewn sefyllfa fel Bob erbyn hyn. Fe fyddwch chi eich hun, Weinidog, yn deall fod MND fel clefyd yn annaroganadwy ac yn datblygu yn gyflym iawn, ac o ganlyniad i hyn mae mynediad amserol at wasanaethau a all gynnig unrhyw driniaeth yn dyngedfennol. Nid yw amser ar ochr pobl fel Bob sydd yn byw gydag MND. Siaradais i â Lowri am ei phrofiadau hi a’u profiadau nhw fel teulu, ac rwyf am ddarllen i chi ei geiriau hi, os gallaf i:
'Yn bersonol, does dim geiriau mewn bodolaeth sydd yn medru portreadu yn effeithiol beth mae ein teulu ni wedi profi yn y flwyddyn a hanner ers i Bob cael y diagnosis o glefyd niwronau motor. Sut ydych chi’n disgrifio'r dirywiad di-baid o ryddid personol sy’n dod gyda’r clefyd yma, sydd yn eich rhwystro rhag cyflawni hyd yn oed y tasgau mwyaf syml—y tasgau sydd yn eich diffinio chi, ac yn eich gwneud chi'r person ydych chi? Sut galla i ddechrau disgrifio sut mae’n teimlo i wylio rhywun rydych chi’n caru yn baglu a chwympo dro ar ôl tro, ond eu bod nhw mor rhwystredig ac eisiau bod yn annibynnol, eu bod nhw’n gwrthod help i godi eto? Sut ydych chi’n disgrifio'r dewrder sydd ei angen ar berson i fedru codi dro ar ôl tro pan fod pob tro yn fwy anodd na’r un diwethaf yn ddyddiol? Sut galla i ddisgrifio'r effaith o lythyr arall yn dweud nad oes modd cael mynediad at y profion clinigol, pan fod bywyd eich partner nawr yn fater o fisoedd yn hytrach na blynyddoedd? Sut galla i ddisgrifio'r cryfder sydd ei angen i barhau i frwydro dros gleifion MND pan fod yr ymateb sydd yn dod yn ôl o’r system bob tro yn dweud wrthych chi ei bod yn well rhoi’r ffidl yn y to, dweud diolch am y gadair olwyn, ac eistedd yn dawel yn y gornel?'
Rwy’n siŵr ein bod ni i gyd am ddymuno’r gorau i Bob, Lowri a'r teulu wrth iddyn nhw barhau i ymdrechu mor galed trwy gyfnod mor heriol. Wrth gwrs, mae datblygiadau diweddar ar lefel y Deyrnas Unedig, gyda £50 miliwn wedi ei addo ym mis Tachwedd y llynedd i ddatblygu athrofa ymchwil MND cenedlaethol, i'w croesawu. Er mwyn i ni yng Nghymru fod yn rhan o’r prosiect yma gyda’r corff newydd, mae angen i ni ddatblygu sefydliad neu ganolfan lloeren, ac wedyn fe fydd modd i ni gael mynediad at y cyllid mor allweddol yma.
I mi, Weinidog, ar ôl darllen mas a chlywed yn uniongyrchol eiriau Lowri, mae’r datrysiad gorau i’r sefyllfa yma yng Nghymru yn hollol glir—mae angen niwrolegydd arweiniol ar gontract llawn amser yma yng Nghymru, wedi ei ariannu neu ei gefnogi’n sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Fe fyddai'r rôl yma yn medru datblygu hygyrchedd yr ymchwil clinigol i bobl sy’n byw gydag MND, arwain y cynnydd o dreialon a phrofion yng Nghymru, a sicrhau fod gan Gymru rôl yn yr athrofa ymchwil MND cenedlaethol newydd. A wnewch chi felly, Weinidog, er mwyn cefnogi'r bobl hynny yng Nghymru, fel teulu’r Gledhills, sydd yn byw â’r clefyd creulon yma, a’r rheini a fydd yn derbyn diagnosis MND yn y dyfodol, ymrwymo i hynny, fel bod modd i ni yng Nghymru adeiladu'r capasiti o fewn ein gwlad ein hunain i roi'r gefnogaeth orau posib i’r teuluoedd cwbl, cwbl arwrol yma, sydd yn delio â goblygiadau clefyd niwronau motor, ac i leddfu'r boen a'r pwysau arnyn nhw rwyf wedi gweld yn uniongyrchol? Dwi'n gwybod bod gyda chi, Weinidog, brofiad yn eich teulu eich hunan. Gad inni gymryd y cam yma a fydd yn golygu cymaint i gymaint o deuluoedd ar draws Cymru.
A gaf fi ddiolch i Adam Price am gyflwyno'r ddadl hon heddiw a chaniatáu munud o'i amser imi, ond hefyd am y ffordd huawdl y gwnaethoch ddisgrifio'r sefyllfa unwaith eto? Mae hwn yn glefyd dinistriol sy'n effeithio mor ofnadwy ar deuluoedd, fel yr ydych wedi'i ddisgrifio mor dda, Adam. Ac mae'r broblem y mae Bob a Lowri yn ei hwynebu yn cael ei hailadrodd mewn llawer o deuluoedd ledled Cymru. Efallai mai dim ond nifer fach ydynt gyda'i gilydd, ond mae'n grŵp mor bwysig o bobl sydd angen ein cefnogaeth.
Rwyf wedi gwneud llawer o waith gyda'r Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor dros y flwyddyn ddiwethaf ac fel chi, Adam, wedi clywed yn uniongyrchol gan bobl sy'n byw gydag chlefyd niwronau motor, ac mae'n glefyd dinistriol sy'n datblygu mor ddinistriol o gyflym, gan effeithio ar yr hen a'r ifanc fel ei gilydd, a chael effaith enfawr ar y teulu cyfan. Ac ni allant weld unrhyw ffordd allan, oherwydd nid yw'n gwneud dim heblaw gwaethygu—nid oes golau ar ben draw'r twnnel. Mae'n drist dros ben; nid yw amser o'u plaid.
Dim ond 0.2 y cant o'r bobl a ddewiswyd ar gyfer ymchwil yng Nghymru oedd â chlefyd niwronau motor, sy'n golygu bod llai na £30,000 o arian Llywodraeth Cymru wedi'i wario ar ymchwil ar gyfer y cyflwr penodol hwn. Nid yw'n ddigon. Mae ymchwil clefyd niwronau motor Cymru yn grŵp newydd, fel y nododd Adam, sy'n anelu at wella ymchwil glinigol ledled Cymru a sicrhau bod model yng Nghymru yn cael ei ddarparu i fod yn rhan o Sefydliad Ymchwil Clefyd Niwronau Motor cenedlaethol y DU fel rhan o'r £50 miliwn a ddyfarnwyd gan Lywodraeth y DU. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog hefyd a fyddech yn ystyried cytuno i gyfarfod â chynrychiolwyr grŵp ymchwil clefyd niwronau motor Cymru i glywed sut y byddai niwrolegydd arweiniol i Gymru, sy'n arbenigo ar glefyd niwronau motor, a chyda swyddogaeth gofal ac ymchwil, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r bobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yng Nghymru.
Rydym wedi codi hyn sawl gwaith yn y Siambr, neu drafferthion pobl â chlefyd niwronau motor, a chredaf fod angen inni barhau i wneud hynny, oherwydd bob dydd, bob munud ac awr y byddwn yn aros, mae'r bobl hynny'n dioddef yn hirach ac yn hirach ac nid oes ffordd allan iddynt, felly rhaid inni weithredu'n gyflym. Diolch.
Galwaf yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Adam Price am ddod â'r mater pwysig hwn i'r Siambr a diolch hefyd i Peter Fox sydd, rwy'n gwybod, wedi hyrwyddo'r achos hwn ers iddo ddod i'r Senedd.
Pan gawsom ddadl ar hyn fis Rhagfyr diwethaf, roedd yr un faint o dosturi tuag at bobl â chlefyd niwronau motor a'u teuluoedd a'u hanwyliaid ag a glywais heddiw. Mae gan rai ohonom, fel y nodwyd gennych chi, Adam, brofiad personol o hyn. Dioddefodd fy annwyl ewythr Robert farwolaeth anhygoel o greulon. A chredaf mai dyna un o'r pethau sy'n gwneud hyn mor anodd, o'i gymharu â salwch arall, yw creulondeb y cyflwr ofnadwy hwn ac yn sicr mae'n ddiagnosis nad oes neb am ei gael. Ac yn sicr, ni allaf ddechrau deall beth y mae Bob a Lowri a'r teulu yn mynd drwyddo, ond cefais gipolwg bach ar hynny yn sgil y dioddefaint ofnadwy yr aeth fy ewythr drwyddo. A diolch byth, nid yw'n glefyd cyffredin, ond i'r bobl sy'n cael diagnosis, nid yw hynny'n gysur o gwbl. Mae clefyd niwronau motor yn glefyd gwirioneddol ddinistriol sy'n byrhau bywyd heb unrhyw driniaeth na gwellhad, a disgwyliad oes i lawer yw dwy i bum mlynedd o ddechrau'r symptomau. Ac fel y dywedoch chi, Adam, mae tua 200 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chlefyd niwronau motor ar unrhyw adeg, ac maent yn gwneud hynny. Ac rydym yn ceisio rhoi mynediad iddynt at gyfres o fesurau cymorth ar gyfer eu hanghenion corfforol, seicolegol a chymdeithasol, a chredaf ei bod yn hanfodol inni sicrhau ein bod yn parhau i wneud hynny er mwyn eu galluogi i fyw bywyd urddasol a chadw mor annibynnol â phosibl.
Nawr, mae mynediad at gymorth perthynol, corfforol a seicogymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn i fywydau pobl, a gall yr ystod o therapïau a meddyginiaethau corfforol a seicogymdeithasol helpu i reoli eu symptomau a chadw eu sgiliau, eu galluoedd a'u hannibyniaeth cyhyd ag y bo modd, a gall y rhain gynnwys technolegau cynorthwyol, gan gynnwys offer i gynorthwyo neu i gymryd lle lleferydd, a symudedd neu addasu cartrefi pobl i'w gwneud mor hygyrch â phosibl, fel y gallant barhau i wneud y pethau sy'n bwysig iddynt.
Nawr, darperir ein gwasanaeth cyfathrebu ategol ac amgen arbenigol, wedi'i ategu gan gymorth lleol gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ym mhob bwrdd iechyd a darperir mynediad at wasanaethau cyfarpar cyfathrebu arbenigol ledled Cymru. Yn 2018 gwnaed buddsoddiad ychwanegol o £608,000 i ehangu'r gwasanaeth a chynyddu swyddi therapi lleferydd ac iaith. Felly, er eich bod yn nodi nad yw'r arian yn mynd tuag at ymchwil yn y ffordd yr hoffech, mewn gwirionedd mae'r arian yn mynd tuag at wneud eu bywyd ychydig yn well tra byddant yn dal i fod gyda ni, ac mae hynny'n sicrhau bod y tîm amlbroffesiynol lleol hwnnw'n parhau i gynorthwyo'r bobl hynny cyhyd ag y bo modd.
Mae parhad gofal, cydgysylltu, partneriaeth a chydweithredu rhwng gwasanaethau a chydgynhyrchu gyda'r rhai sy'n derbyn y gwasanaethau hyn hefyd yn bwysig iawn. Yn ne Cymru, datblygwyd model gofal rhwydwaith drwy rwydwaith gofal clefyd niwronau motor de Cymru, ac mae hwn yn fodel y mae canolfannau eraill yn y DU bellach yn ceisio'i efelychu, ac mae cydweithwyr o Ogledd Iwerddon wedi treulio amser gyda thîm de Cymru i ddysgu am y model rhwydwaith, gyda'r bwriad o fabwysiadu dull tebyg. Mae'r model rhwydwaith hwnnw'n seiliedig ar gydweithredu a phartneriaeth, gan alluogi hyblygrwydd ac ystwythder o fewn y gwasanaethau i ymateb i anghenion cleifion a'u teuluoedd mewn modd amserol. Ac yn y gogledd, dyfarnwyd tystysgrif partneriaeth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gan y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor, a hynny i gydnabod y berthynas bartneriaeth adeiladol a hynod lwyddiannus dros nifer o flynyddoedd rhwng y bwrdd iechyd a'r Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor i wella safon y gwasanaeth i bobl yr effeithiwyd arnynt gan glefyd niwronau motor. Mae'r bwrdd iechyd a'r gymdeithas wedi gweithio'n llwyddiannus mewn partneriaeth â phobl â chlefyd niwronau motor, eu teuluoedd, gofalwyr a staff, i gydgynhyrchu cyfleoedd cyffrous ac arloesol i siapio gwasanaethau clefyd niwronau motor yn y gogledd, ac mae hynny'n cynnwys penodi dau gydgysylltydd gofal clefyd niwronau motor, sydd, ochr yn ochr ag amrywiaeth o bartneriaid eraill, yn cefnogi pawb sydd â chlefyd niwronau motor yng ngogledd Cymru.
Ond fel y gwyddom, mae lle i wella bob amser. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol i wella gwasanaethau i bawb sydd â chyflyrau niwrolegol ledled Cymru, gan gynnwys clefyd niwronau motor, ac mae'r grŵp hwn yn rhoi blaenoriaeth i wella mynediad at gymorth seicogymdeithasol ac arbenigedd niwroleg glinigol amlbroffesiynol. Ac yn absenoldeb opsiynau triniaeth iachusol, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd gan dreialon clinigol rôl bwysig i'w chwarae wrth inni chwilio am driniaeth ar gyfer clefyd niwronau motor. Ac mae Llywodraeth Cymru, drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn darparu seilwaith i gefnogi a chynyddu'r ymchwil ledled Cymru, ac mae hynny'n cynnwys cyllid o tua £15 miliwn i sefydliadau'r GIG, i'w galluogi i gynnal treialon clinigol o ansawdd uchel mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys clefyd niwronau motor. Ac rwy'n ymwybodol, drwy fy nghydweithwyr yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, fod nifer o astudiaethau cyflwr niwronau motor ar y gweill ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mewn rhai achosion, mae cymorth hefyd ar gael i gleifion sy'n gymwys ar gyfer astudiaethau ymchwil clinigol y tu allan i Gymru, er enghraifft yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canolfan Walton, sy'n darparu gofal arbenigol i'n cleifion sydd â chyflwr niwronau motor yng ngogledd Cymru.
Rwy'n cydnabod bod angen inni dyfu'r ystod o astudiaethau cyflwr niwronau motor sy'n cael eu cynnal yng Nghymru, gan adeiladu ar y prawf SMART cyfredol hwnnw yr ydych yn pwysleisio ei fod eisoes yn recriwtio. Ond fe roddaf ystyriaeth i'r syniad o benodi niwrolegydd arweiniol yn y maes hwn.
Yn y gyllideb ym mis Mawrth, fe wnaethom ni ychwanegu £2 filiwn at y gyllideb addasiadau, gyda chyllid ychwanegol ar gyfer gofal a thrwsio ar gyfer awdurdodau lleol, fel bod pobl yn gallu addasu eu tai nhw wrth eu bod nhw'n gwaethygu. Mae'r mwyafrif o addasiadau yn fach ac yn cael eu cwblhau mewn diwrnodau. Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ychwanegu £2 filiwn at y cyllid i awdurdodau lleol.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog, ac rwy'n croesawu'r hyn rŷch chi wedi ei ddweud, eich bod chi yn mynd i roi ystyriaeth i'r syniad yma o niwrolegydd arweiniol. Fel rhan o'r ystyriaeth hynny, ac fel roedd Peter Fox wedi gofyn, a fuasech chi'n fodlon cwrdd â'r rhwydwaith ymchwil MND i glywed y dadleuon a'r manteision fyddai'n deillio o hynny yn uniongyrchol? Rwy'n sicr y byddai e'n cael ei groesawu'n fawr gan y teuluoedd pe baech chi yn fodlon ymrwymo i wneud hynny.
Byddwn i'n hapus i wneud hynny, ond gadewch i fi gael edrych ar beth yw'r cyngor sy'n dod o fy mlaen i. Ond dwi'n hapus iawn i edrych i mewn i ymchwilio os bydd hyn yn rhywbeth y byddem ni eisiau gweld, ac os yw'r arbenigedd yma ar gael ar gyfer y math hwn o sylw. Felly, dwi'n hapus i wneud hynny, a gobeithio y gallwn ni gwrdd gyda chi a Peter Fox hefyd.
Mae jest gwerth dweud i orffen fod addasiadau bach ar gael i bobl, ond mae yna addasiadau mawr. Y drafferth yw bod pobl yn rhedeg allan o amser ar gyfer yr addasiadau mawr, felly mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'u partneriaid i ganfod a manteisio ar gyfleoedd i wneud y gwelliannau sy'n hollbwysig i bobl sy'n byw gydag MND, fel nad oes neb yn teimlo fel eu bod nhw ar eu pen eu hun. Diolch yn fawr.
A daw hynny â'r trafodion i ben am heddiw.