– Senedd Cymru am 2:42 pm ar 3 Mai 2022.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi ar fesurau i reoli ffin, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad. Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddyfodol mesurau rheoli ffiniau ym Mhrydain Fawr.
Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig yn ddiweddar ar 28 Ebrill, yr wythnos diwethaf, bydd yr Aelodau'n cofio i mi wneud datganiad blaenorol i'r Senedd ym mis Ionawr eleni ar gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer archwiliadau dogfennol, hunaniaeth a chorfforol ar nwyddau mewn safleoedd rheoli ffiniau o 1 Gorffennaf eleni a sut yr oeddem ni'n bwriadu eu gweithredu yma yng Nghymru.
Cafodd cyfarfod byr iawn ei gynnal, a gafodd ei alw ar fyr rybudd gan Lywodraeth y DU i gyfarfod â Llywodraethau datganoledig eraill, ar 27 Ebrill. Ni pharhaodd y cyfarfod fwy na hanner awr. Yn y cyfarfod hwn, cefais fy hysbysebu y byddai cyflwyno mwy o safleoedd rheoli ffiniau yn cael ei atal tan ddiwedd 2023 ac y byddai Llywodraeth y DU yn cyflymu ei rhaglen i ddigideiddio ffiniau Prydain. Rwy'n siomedig i ddweud bod hyn yn rhywbeth na chafodd ei drafod ymlaen llaw ar lefel weinidogol gyda Llywodraethau datganoledig.
Dywedodd y Gweinidog dros Gyfleoedd Brexit Llywodraeth y DU, Jacob Rees-Mogg, yn ei ddatganiad ysgrifenedig i Senedd y DU ar 28 Ebrill fod cyflwyno mesurau rheoli ffiniau yn bygwth cynyddu'r pwysau ar fusnesau a defnyddwyr sydd eisoes dan bwysau, sy'n ymdrin â chostau byw cynyddol a phrisiau ynni uwch. Roedd hefyd mewn perygl o achosi aflonyddwch yn ein porthladdoedd ac i gadwyni cyflenwi, gan gynyddu prisiau bwyd a nwyddau i ddefnyddwyr a busnesau hyd yn oed ymhellach, ar yr adeg waethaf bosibl.
Er fy mod i'n cytuno y bydd y newidiadau hyn yn cyfrannu rhywfaint at leddfu'r pwysau hynny, rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf o'r Aelodau'n cytuno â mi y dylai Llywodraeth y DU fod yn gwneud llawer mwy i ymdrin â'r argyfwng costau byw. Rwy'n ailadrodd ein galwadau gan Lywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU gyflwyno mesurau ymarferol yn ddi-oed i gefnogi pobl, busnesau a chymunedau.
Dirprwy Lywydd, rwyf i wedi'i wneud yn glir i Weinidogion y DU y byddai angen amser ar Lywodraeth Cymru i ystyried holl oblygiadau penderfyniad diweddar iawn Llywodraeth y DU a'i effaith ar Gymru. Yn benodol, mae angen i ni ddeall cynigion manwl Llywodraeth y DU ar sut i drin nwyddau o ynys Iwerddon. Yr un mor bwysig, mae angen i ni weithio gyda'n gilydd ar sut i sicrhau bioddiogelwch. Gwyddom ni, wrth gwrs, am ganlyniadau ofnadwy achosion o glefyd anifeiliaid neu blanhigion.
Yn ogystal, mae angen i Lywodraeth Cymru weld ar frys ddeddfwriaeth ddrafft y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei chyflwyno, y mae'n rhaid iddi ddod i rym cyn 30 Mehefin. Mae hyn yn allweddol i benderfynu a fydd angen i ni gyflwyno ein deddfwriaeth ein hunain ar gyfer Cymru, ac ychydig iawn o amser sydd ar ôl nawr er mwyn gwneud hynny. Rwy'n galw eto ar Lywodraeth y DU i weithio gyda ni ar frys i roi terfyn ar yr ansicrwydd hwn. Mae hyn yn hanfodol er mwyn i Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon gyflawni ein cyfrifoldebau yn unol â'n gweithdrefnau democrataidd sefydledig.
Hyd nes ein bod ni'n deall cynigion manylach, ni allaf i wneud sylwadau ar effaith y cyhoeddiad ar ein rhaglen waith, gwariant nac ymrwymiadau eraill ar gyfer y dyfodol. Rwyf i eisoes wedi dweud wrth yr Aelodau fod y Llywodraeth hon yn credu y dylai unrhyw wariant ar fesurau rheoli ffiniau, ar ôl i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, gael ei ariannu gan Drysorlys y DU. Os rhywbeth, mae'r cyhoeddiad newydd hwn yn ychwanegu at gryfder ein safbwynt ni. Mae penderfyniadau Llywodraeth y DU wedi pennu ffurf ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd. Mae penderfyniadau Llywodraeth y DU yn parhau i effeithio'n uniongyrchol ar gyfrifoldebau datganoledig gyda chanlyniadau ariannol. Mae arnaf i ofn nad ydym ni'n gwybod eto a fydd y newid polisi diweddaraf hwn yn effeithio ar ymrwymiad presennol Llywodraeth y DU i ariannu costau angenrheidiol adeiladu safleoedd rheoli ffiniau.
Dirprwy Lywydd, mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn hynod o rwystredig i Lywodraeth Cymru, i'n porthladdoedd ac i fusnesau Cymru. Mae arnaf i ofn dweud, er ein bod ni wedi bod yn cynllunio ar gyfer cyflwyno mesurau rheoli ffiniau, ein bod ni wedi cael ein llesteirio drwyddi draw oherwydd diffyg gwybodaeth. Mae cyfarfodydd ar y cyd gyda Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig eraill yn y maes hwn wedi cael eu gohirio dro ar ôl tro, ac mae Gweinidogion y DU yn dal heb ymateb i fy llythyr diweddaraf, o fis Mawrth eleni.
Hoffwn i atgoffa'r Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi etifeddu ymrwymiad polisi Llywodraeth y DU i ddatblygu safleoedd rheoli ffiniau mewndirol lle na allai porthladdoedd ddarparu ar eu cyfer, ac yr oeddem ni'n bwrw ymlaen â'r gwaith o geisio bod yn barod erbyn 1 Gorffennaf. Mae hyn wedi cymryd cannoedd o oriau o amser gweision sifil a llawer iawn o amser gweinidogol. Nid yw'n fy nghynnwys i'n unig; mae'n cynnwys Gweinidogion yn gyffredinol, gan gynnwys, yn benodol, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, ac, yn wir, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. Ac rydym ni wedi gwario £6 miliwn o arian cyhoeddus ar y rhaglen waith hon hyd yn hyn.
Mae ymgysylltiad Llywodraeth y DU â'r Llywodraethau datganoledig o ran gwneud penderfyniadau wedi bod yn gwbl annerbyniol. Mae'n gwbl groes i'r ffyrdd o weithio a gafodd eu rhagweld yn yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol a'r fframweithiau cyffredin. Dirprwy Lywydd, mae hyn, a dweud y gwir, yn amharchus i Lywodraeth ddatganoledig, ac i'r Senedd hon y mae angen iddi graffu arnom ni a'n dwyn i gyfrif.
Wrth symud ymlaen, yr wyf i eisiau cydweithio â Llywodraeth y DU i sicrhau bod gennym ni'r system gywir ar gyfer mewnforio nwyddau—system sy'n ddiogel ac yn effeithlon. Er mwyn gwneud hynny, mae angen newid agwedd ac ymgysylltiad gwirioneddol. Os oes modd cyflawni system fewnforio ddiogel ac effeithlon drwy ddefnyddio technolegau newydd arloesol i symleiddio prosesau a lleihau ffrithiant, yna mae hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, ei gefnogi. Ond yn yr un modd, byddwn ni eisiau cael sicrwydd bod ein cyfrifoldebau strategol hirdymor i ddiogelu iechyd pobl, anifeiliaid a phlanhigion yn y wlad hon yn cael grym priodol a digonol.
Ac yn olaf, hoffwn i ymddiheuro ymlaen llaw i'r Aelodau nad wyf i'n debygol o allu ymateb i geisiadau am wybodaeth ychwanegol fanwl ar hyn o bryd, gan nad ydym ni'n gwybod yr atebion i rai cwestiynau amlwg iawn. Serch hynny, mae'n bwysig bod Aelodau'n cael cyfle i wneud sylwadau ac i ofyn cwestiynau, a byddaf i'n ystyried y sylwadau a'r cwestiynau gan Aelodau yn fy ngohebiaeth ddilynol â Llywodraeth y DU, a'r hyn a fydd, gobeithio, yn ymgysylltu mwy rheolaidd a defnyddiol â nhw. Fel y dywedais i, byddaf i'n ysgrifennu at Weinidogion y DU cyn bo hir i wneud rhai o'r pwyntiau hyn, a byddaf i, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddatblygiadau.
Ar ran y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Rwy'n sylweddoli bod y penderfyniad i gyflwyno archwiliadau rheoli mewnforion wedi'i ddileu'n gyflym a heb ddeialog ystyrlon â Llywodraethau ledled y DU, ac felly, o ganlyniad, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael llawer iawn o amser i ystyried y goblygiadau i Gymru mewn gwirionedd. Serch hynny, rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad hwn fel y gall Aelodau geisio deall y sefyllfa'n well a'r hyn y mae'n ei olygu, wrth symud ymlaen. Ac er gwybodaeth, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu y dylai archwiliadau priodol cael eu gwneud ar ein ffiniau, a gobeithiaf y gall Llywodraeth y DU fwrw ymlaen â'r mater hwn cyn gynted â phosibl. Ond yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu nad dyma'r amser iawn i wneud newidiadau eraill i archwiliadau rheoli mewnforion ar y ffin, yn dilyn ymgynghoriad â'r byd diwydiant, er mwyn lleddfu'r pwysau cynyddol ar fusnesau a defnyddwyr sydd eisoes dan bwysau. Byddai gennyf i ddiddordeb mawr mewn cael gwybod pa sylwadau, serch hynny, sydd wedi cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yn ystod y misoedd diwethaf ynglŷn â'r mater hwn. Mae'r datganiad heddiw, wrth gwrs, yn cyfeirio at gostau byw cynyddol a phrisiau ynni uwch, felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni pa sylwadau penodol y mae wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU cyn ei phenderfyniad i ddileu archwiliadau rheoli mewnforion.
Nawr, fel y mae datganiad heddiw yn ei nodi, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyhoeddi model gweithredu targed yn yr hydref, a bydd y model hwnnw'n destun ymgynghoriad â diwydiant a gweinyddiaethau datganoledig. Mae hyn yn golygu bod amser i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch sut y dylai'r system yn y dyfodol edrych a sut y dylai weithredu. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni beth yw barn Llywodraeth Cymru ynghylch sut y dylai'r model edrych, ac a allai gadarnhau pa drafodaethau y mae'n eu cynnal gyda rhanddeiliaid yng Nghymru ynghylch yr hyn y maen nhw eisiau'i weld o ran y model newydd?
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod rhai wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU. Er enghraifft, mae SEF Langdon wedi dweud y bydd y newid mewn polisi tuag at ffin ddigidol fwy clyfar gan Lywodraeth y DU yn caniatáu llif rhydd o gynhyrchion bwyd diogel i Brydain Fawr ac y gallai'r penderfyniad arwain at fwy o gwmnïau o'r UE yn allforio i farchnad Prydain Fawr unwaith eto, cynyddu cystadleuaeth ac yn y pen draw gostwng prisiau i'r defnyddiwr. Ac felly, mae'n debyg bod cyfle ar hyn o bryd i lunio polisi tymor hwy a chael y model hwn yn iawn mewn ffordd sy'n gweithio gyda busnesau ac sy'n sicrhau bargen dda i ddefnyddwyr hefyd. Yn naturiol, mae costau wedi bod o ganlyniad i'r gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma i sefydlu safleoedd rheoli ffiniau yng Nghymru, yn fwyaf nodedig yng Nghaergybi, ac mae'r datganiad heddiw'n amcangyfrif bod £6 miliwn eisoes wedi'i wario hyd yma. Fodd bynnag, os ydy archwiliadau rheoli mewnforio yn cael eu cyflwyno'n ddiweddarach a bod prisiau wedi cynyddu, efallai y ceir mwy o gostau yn y dyfodol. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym beth fydd dull Llywodraeth Cymru o gyllidebu ar gyfer hyn yn y dyfodol, o gofio bod modd gwneud penderfyniad i'w hailgyflwyno'n ddiweddarach, yr un mor gyflym ag y cafodd y penderfyniad i'w dileu ei wneud?
Nawr, mae'n amlwg bod Llywodraeth y DU yn ceisio digideiddio ffiniau Prydain, ac mae'r datganiad heddiw'n cyfeirio at y technolegau newydd hynny i symleiddio prosesau a lleihau ffrithiannau. Mae Llywodraeth y DU wedi cyfeirio at y ffenestr fasnach sengl a ddaw i rym y flwyddyn nesaf, sy'n canoli mynediad data i un man ac a fyddai'n caniatáu rhannu data'n well ymhlith asiantaethau'r Llywodraeth ac yn arwain at gostau is wrth fewnforio ac allforio nwyddau i fusnesau, a byddai gennyf i ddiddordeb mawr mewn dysgu ychydig mwy am y technolegau newydd sy'n cael eu defnyddio i leddfu llif masnach. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog rannu gyda ni unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae wedi'i chael ynglŷn â defnyddio unrhyw dechnolegau a data newydd, a'r rhan y bydd y dechnoleg newydd hon yn ei chwarae yn y dyfodol.
Mae'r Gweinidog wedi crybwyll clefydau anifeiliaid yn ei ddatganiad a bydd hefyd yn ymwybodol o'r bygythiad o glwyf moch Affricanaidd sy'n dod i mewn i'r DU drwy stociau heintiedig o Ewrop, neu deithwyr yn dod â chynhyrchion porc halogedig i'r wlad. Mae'n fater sydd wedi'i godi gan Gymdeithas Cyfanwerthwyr Cig yr Alban, sy'n credu y gallai'r DU fod yn peryglu ein diwydiant domestig, a gwn i fod Cymdeithas Milfeddygon Prydain wedi codi pryderon tebyg hefyd. Felly, a wnaiff ddweud wrthym ni pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda'r Gweinidog materion gwledig, yn ogystal â'r prif swyddog milfeddygol ac undebau'r ffermwyr, o ran effaith mewnforion heb eu harchwilio a sut y gallai effeithio ar ffermio yng Nghymru, yn ogystal â beth yw eu barn am unrhyw fodelau newydd yn y dyfodol?
Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, byddai'n esgeulus i mi beidio â gofyn am ddyfodol safleoedd a oedd yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru, o gofio bod Johnston yn fy etholaeth i. Rwy'n sylweddoli ei bod hi'n ddyddiau cynnar, ond efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym ni pa effaith y gallai'r newidiadau ei chael ar safleoedd posibl ac a fydd Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried safleoedd eraill, wrth symud ymlaen, gan ei bod hi nawr wedi penderfynu dileu lleoliad Johnston yn fy etholaeth i. Felly, wrth gloi, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw? Rwy'n gobeithio y gall deialog llawer mwy agored ac ystyrlon ddigwydd rhwng y ddwy Lywodraeth, wrth symud ymlaen, yn y maes hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am y cynlluniau newydd wrth iddyn nhw gael eu datblygu. Diolch.
Diolch i'r Aelod am y gyfres o gwestiynau, y byddaf i'n ceisio eu hateb cyn gynted â phosibl. O ran y gynrychiolaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chyflwyno i Lywodraeth y DU ar gostau byw, a pholisi'r ffin ar gostau byw, rydym ni wedi mynd drwy hyn sawl gwaith yn y Siambr. Mewn sgwrs uniongyrchol sydd wedi digwydd o fewn y Llywodraeth hon, ond hefyd sylwadau wedi'i cyflwyno i Lywodraeth y DU, byddwch chi wedi clywed y galwadau rheolaidd am ardoll ffawdelw ar y gorelw mewn cyfleustodau wedi'u preifateiddio, ac roedd llawer o gwestiynau'r Prif Weinidog heddiw'n ymwneud â phwyntiau ynghylch yr argyfwng costau byw.
O ran ffiniau, fy rhwystredigaeth i yw ein bod ni wedi ceisio ymgysylltu â Gweinidogion y DU ar y sefyllfa sy'n datblygu'n gyflym, ac nid ydym ni wedi gwneud cynnydd oherwydd nid oes parodrwydd wedi bod i ymgysylltu â ni, fel yr oedd yr Aelod wedi cydnabod yn ei agoriad, gan gydnabod nad oes deialog ystyrlon wedi digwydd gyda Llywodraethau datganoledig. Rwyf i wedi nodi mai ar 24 Mawrth y cafodd fy llythyr diweddar ei anfon at Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a dim ymateb hyd yn hyn, sy'n anghwrtais.
O ran sut y dylai'r model yn y dyfodol edrych, wel, mewn sawl ffordd mae gennym ni diddordeb, mewn gwirionedd, mewn cyfrifoldebau datganoledig, wrth gwrs, yn ymwneud ag archwiliadau iechydol a ffytoiechydol—yn y bôn, iechyd planhigion ac anifeiliaid, a chynhyrchion sy'n seiliedig arnyn nhw. Nawr, yr anhawster, o ran sut y bydd y model yn y dyfodol yn edrych, yw bod hynny i gyd wedi'i ohirio. Roeddem ni'n mynd i gael model, yr oeddem ni'n bwriadu gwario arian ar greu safleoedd rheoli ffiniau, ac mewn sawl ffordd yr oedd yn waeth nag yn Lloegr, gyda mwy o arian wedi'i wario ar recriwtio staff a hefyd creu cyfleusterau ffisegol. Roeddem i fod i roi contract i Kier Construction, yr wyf i wedi'i gyhoeddi'n gyhoeddus o'r blaen, i greu cyfleusterau parhaol yng Nghaergybi yng ngwanwyn 2023. Nid ydym ni'n siŵr nawr a ydym ni'n mynd i fwrw ymlaen â'r rheini, oherwydd nid oes gennym ni'r sicrwydd ynghylch yr hyn y bydd angen i ni ei greu i gynnal yr hyn a ddylai fod yn system effeithiol a chydlynol ledled Prydain ar gyfer mewnforion. Felly, ni allaf i ddweud wrthych chi yn ddiffuant sut olwg fydd ar y model newydd gan nad ydym ni wedi cael y trafodaethau hynny ac nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi syniad clir i ni sut y dylai model newydd edrych yn eu barn nhw, ar wahân i'r hyn a fydd yn seiliedig ar dechnoleg. Dyna pam na allwn ni ymgysylltu'n fanwl â rhanddeiliaid yn dilyn y cyhoeddiad. Dyna hefyd pam na allaf i ddweud dim i ateb eich cwestiwn arall am y dechnoleg newydd i leddfu llif nwyddau, a diweddariad arno. Nid ydym ni ond wedi cael gwybod mai technoleg fydd hi, nid beth yw'r dechnoleg, nid pa mor bell ymlaen ydyw, na hyd yn oed sut y mae modd ei chaffael, na hyd yn oed beth fyddai'r gost i genhedloedd yn y DU ar gyfer math newydd o system. Oherwydd, mewn gwirionedd, mae gennym ni gyfrifoldebau datganoledig, ond mae'n gwneud llawer iawn o synnwyr i gael dull gweithredu cyffredin ym mhob rhan o'r DU. Ac mae'n mynd ymlaen at y pwynt y gwnaethoch chi ynghylch clwy moch Affricanaidd y byddaf i'n dod ato. Felly, rydym eisiau bod yn gydweithredol, ond mae angen i bobl siarad â ni, i rannu gwybodaeth ac yn wir i ymgysylltu go iawn ynghylch beth fydd yr ateb technolegol a faint y gall ei wneud. Gallai gyflymu llif rhai nwyddau, ond, mewn gwirionedd, mae'n ddigon posibl y bydd terfynau.
Ac mae'n dod at rai o'r pwyntiau yr ydych wedi'u gwneud ynghylch clwy moch, er enghraifft. Ar hyn o bryd mae gennym ni archwiliadau cyrchfan ar 5 y cant o dda byw sy'n dod i mewn. Mae hynny'n golygu nad yw 19 allan o 20 yn cael eu harchwilio yn y gyrchfan. Er hynny, mewn sgwrs—gwnaethoch chi ofyn i mi am sgwrs gyda'r prif filfeddyg a gyda Lesley Griffiths, yn rhinwedd ei swydd yn Weinidog materion gwledig—. Cefais i sgwrs yr wythnos diwethaf â Lesley Griffiths a siaradais â'r prif filfeddyg y bore yma, ac, yn wir, rydym ni'n ymwybodol bod rhai o'r archwiliadau cyrchfannau hynny'n datgelu heriau. Nawr, yr her yw bod mwy o risgiau, mewn gwirionedd, ar gyfandir Ewrop ar hyn o bryd. Mae'r archwiliadau cyrchfannau'n codi rhai o'r rheini ond nid pob un ohonyn nhw. Felly, mewn gwirionedd, o safbwynt bioddiogelwch, mae cael archwiliadau ar ffiniau yn bwysicach oherwydd ein bod ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ac, fel y mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain wedi'i nodi, nid oes gennym ni nawr fynediad i'r system arolygu a rhybuddio cynnar sydd gan aelod-wladwriaethau'r UE; mae ganddyn nhw system wyliadwriaeth integredig ac ymatebol iawn nad ydym ni'n rhan ohoni. Ac nid oes gennym ni wedyn archwiliadau mesurau rheoli ffiniau i geisio ychwanegu at ein hamddiffyniadau ein hunain gan nad ydym ni nawr yn rhan o'r system honno—nid oes gennym ni gyfle i fanteisio arni. Felly, mae gennym ni sefyllfa sy'n gwaethygu o ran peidio â bod yn rhan o hynny heb, felly, greu'r seilwaith mewnforio i ddarparu mwy o ddiogelwch i gymunedau ffermio. Rwy'n gwybod y bydd yr Aelod yn ymwybodol o hynny o'i etholaeth ei hun.
O ran heriau i fusnesau mewnforio ac allforio—ac nid i'r gymuned ffermio'n unig, ond mae'n enghraifft amlwg, a dyna pam mae'r NFU wedi bod mor glir a beirniadol ynglŷn â'r penderfyniad—ni fydd nwyddau sy'n dod i mewn o'r Undeb Ewropeaidd yn destun archwiliadau, ond, mewn gwirionedd, bydd ffermwyr Prydain sy'n dymuno allforio eu cynnyrch yn destun yr archwiliadau hynny. Felly, mae sefyllfa annheg wedi'i hymestyn ar gyfer amrywiaeth o fusnesau, ac mae'n ddealladwy pam y mae'r NFU wedi bod yn feirniadol iawn o'r newid sydd wedi digwydd ar fyr rybudd.
Fe wnaf ymdrin â'ch pwyntiau olaf am safleoedd rheoli ffiniau. Wel, nid yw Johnston ar yr agenda. Rydym ni wedi esbonio'r rheswm am hynny, o'r blaen, yn y datganiad yr wyf i wedi'i wneud. Wrth gwrs, bydd angen i ni edrych ar safleoedd eraill, ond, er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni ddeall beth fydd y seilwaith yn y dyfodol. Prin y gallaf i osod a chyfarwyddo swyddogion i fynd i edrych ar y rheini heb ddeall sut y bydd mesurau rheoli ffiniau yn y dyfodol yn edrych, faint o seilwaith ffisegol fydd ei angen a ble y byddai angen iddyn nhw fod a pha mor agos at ein porthladdoedd.
Mae hynny hefyd yn mynd at eich pwynt am gostau yn y dyfodol. Bydd angen i Drysorlys y DU lunio barn ar gostau yn y dyfodol. Rydym ni eisiau iddyn nhw ariannu'n briodol gostau mesurau rheoli ffiniau sy'n deillio'n uniongyrchol o benderfyniad y DU i gyflwyno unrhyw ffurf o adael yr Undeb Ewropeaidd gyda'r archwiliadau newydd y mae'n ofynnol i ni eu cynnal. Mae'n gwbl debygol y bydd costau adeiladu'n codi. Nid wyf i'n siŵr a fydd angen i ni aildendro ar gyfer yr ymarfer yr ydym ni eisoes wedi'i wneud, ond mae'r holl ansicrwydd hwn yn crisialu'n daclus yr her o fyr rybudd a phenderfyniad hwyr iawn a chyfeiriad polisi cwbl newydd gyda dyddiad terfynu mewn golwg heb ddealltwriaeth glir o sut i gyrraedd yno.
Ar ran Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ni allwn i gredu fy mod i'n cael y briff hwnnw gan y Gweinidog a'i swyddogion yr wythnos diwethaf, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y briff hwnnw. Ond a bod yn deg, nid wyf i'n credu y gallai'r Gweinidog gredu ei fod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am newid meddwl mor sydyn pan ddaeth i gyfleusterau ffin. Rwy'n digwydd cynrychioli'r ail borthladd fferi gyrru i mewn ac allan prysuraf yn y DU, canolfan allforio fawr, fawr i Gymru, felly rwyf i wedi dilyn datblygiad seilwaith ffiniau yn eithaf agos.
Hyd yn oed lle yr ydym ni wedi gweld seilwaith yn cael ei sefydlu eisoes, gyda safle Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, mae'n dod â phroblemau newydd yn ei sgil. Wrth gwrs, mae swyddi newydd i'w croesawu bob amser, a bydd cefnogwyr Brexit yn clodfori'r swyddi sydd wedi'u creu yng Nghaergybi yn safle rheoli ffiniau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, gan anwybyddu colli swyddi, gan gynnwys yng Nghaergybi, yn sgil ymadael á'r Undeb Ewropeaidd. Rwy'n dychmygu'r bws Brexit hwnnw pan welwn eto'r gwirionedd am arbedion Brexit yn dod mor amlwg.
Mae'r Gweinidog yn sôn am y £6 miliwn sydd wedi'i wario gan y Llywodraeth, efallai y gall ddweud wrthym ni faint sydd wedi'i wario gan lywodraeth leol, sydd â llai byth o adnoddau ac sy'n gorfod datblygu awdurdodau iechyd porthladdoedd o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. O ganlyniad i'r newid meddwl munud olaf hwn gan Lywodraeth y DU, heb rybudd, heb drafodaeth, mae eu cynlluniau'n nhw'n ansicr iawn hefyd ac nid ydyn nhw'n siŵr beth sy'n digwydd nesaf. Fel yr oeddwn i'n ei ddweud, hyd yn oed gyda safle Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, yr ydym ni wedi colli arhosfan tryciau a oedd yn rhan mor bwysig o seilwaith y porthladd. Felly, rydym ni'n gweld problem ar ôl problem.
Mae gennym ni fater penodol nawr, fodd bynnag, o ran iechyd anifeiliaid, bioddiogelwch, ac nid yw'n syndod bod undebau'r ffermwyr a Chymdeithas Milfeddygon Prydain mor gryf yn eu condemniad o weithredoedd Llywodraeth y DU yn y dyddiau diwethaf. Fel y mae'r Gweinidog wedi'i wneud yn glir, mae ein ffermwyr yn gorfod mynd drwy archwiliadau ar allforion. Nid yw hwn yn deg. Tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym ni pa drafodaethau sydd eisoes yn cael eu cynnal ynghylch cefnogi ein ffermwyr gan fod yr annhegwch hwn wedi dod yn fwy annheg byth.
Rydym ni nawr wedi colli'r diogelu a ddaeth o fod yn rhan o'r systemau gwyliadwriaeth Ewropeaidd tynn iawn hynny ar fioddiogelwch. Byddai bylchau'n cael eu llenwi gan yr archwiliadau newydd a fyddai'n cael eu cyflwyno. Tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni nawr pa fesurau rhagofalus y bydd angen eu rhoi ar waith ar unwaith gan ein bod ni'n disgyn rhwng dwy stôl, nid y systemau gwyliadwriaeth Ewropeaidd yr oeddem ni'n rhan ohonyn nhw o'r blaen na'r archwiliadau newydd a fyddai'n cael eu rhoi ar waith oherwydd y safleoedd rheoli ffiniau newydd hyn. Rwy'n sylweddoli nad yw'r Gweinidog yn gallu rhoi atebion manwl, efallai, ar hyn o bryd, ond rwy'n ei annog i geisio atebion cyn gynted â phosibl.
Wrth gloi, hoffwn i gynnig fy nghefnogaeth lwyr i'r Gweinidog, wrth iddo ymdrechu i berswadio Llywodraeth y DU i roi i Gymru, pobl Cymru, porthladdoedd Cymru a'r ffermwyr a'r rhai sydd â diddordeb mewn bioddiogelwch y parch y maen nhw'n ei haeddu, oherwydd, unwaith eto, rydym ni wedi gweld diffyg parch amlwg yng ngweithredoedd Llywodraeth y DU yn ystod y dyddiau diwethaf.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Fe geisiaf ymdrin â phob un ohonyn nhw.
O ran gwariant y cyngor, rwyf i wedi addo, yn dilyn trafodaethau gyda fy nghyd-Weinidogion, i'r ddau gyngor, sir Benfro a Chyngor Sir Ynys Môn, y byddai'r gost o recriwtio yr oedden nhw'n ymgymryd ag ef yn cael ei chynnwys. Mae llond llaw o gynigion swyddi wedi'u gwneud ar Ynys Môn, ac felly byddwn ni'n sicrhau nad yw'r costau hynny'n cael eu trosglwyddo i dalwyr y dreth gyngor. Bydd recriwtio'n cael ei ohirio o ystyried y dewis newydd sydd wedi'i wneud. Os nad yw rheoli mewnforio yn dod i mewn, mae'n anodd cyfiawnhau wedyn bwrw ymlaen â recriwtio. Felly, unwaith eto, mae hynny'n broblem fwy i DEFRA yn Lloegr, lle maen nhw wedi recriwtio llawer mwy o bobl. Mae hefyd yn her i CThEM, o ystyried y bobl yr oedden nhw wedi'u recriwtio o'r blaen ac sydd wedi cael eu hadleoli hefyd.
O ran yr heriau sy'n gysylltiedig â busnesau allforio, nid ffermio'n unig ond amrywiaeth o rai eraill lle'r ydych chi'n gwybod nad oes chwarae teg, mae'n un peth i oddef hynny am gyfnod, ond nawr i'w ymestyn am bron i ddwy flynedd, mae'n hawdd iawn deall pam mae pobl wedi'u cynhyrfu. Ac, yn wir, mae sefydliadau porthladdoedd yn Lloegr yn arbennig sydd wedi gwario llawer o'u harian eu hunain, nid arian cyhoeddus yn unig, ar baratoi ar gyfer archwiliadau eraill yn anhapus eu bod nhw wedi gwario'r arian hwnnw ac mae'n ddigon posibl y caiff hynny ei drosglwyddo i bobl sy'n defnyddio cyfleusterau'r porthladd hynny hefyd.
Pan yr ydym ni'n meddwl am y ffordd y mae masnach yn llifo ar draws ynys Iwerddon, o Gymru ac ar draws y bont dir ac i mewn i gyfandir Ewrop, gallwch chi weld bod hyn yn ganlyniad sy'n mynd y tu hwnt i Gymru hefyd. Fodd bynnag, mae hynny hefyd yn amlygu'r pwyntiau yr ydych chi'n eu gwneud am fioddiogelwch, am y ffaith y byddan nhw'n debygol o deithio i rannau eraill hefyd, unwaith y bydd planhigion a da byw yn y DU, ni waeth o ble y maen nhw wedi dod. Ni fydd geifr a allai ddod i mewn o gyfandir Ewrop o reidrwydd yn aros yn ne-ddwyrain Lloegr. Felly, dyna pam y mae'r archwiliadau cyrchfannau wir yn broblem.
Ac mae pwynt cost yma hefyd. Mae'r pwynt am fioddiogelwch ac a yw'n fwy synhwyrol cynnal yr archwiliadau hynny wrth eu mewnforio yn hytrach nag yn y gyrchfan. Rwyf i eisoes wedi dweud wrth Paul Davies mai fy nealltwriaeth i yw bod tua 5 y cant o'r rheini'n cael eu harchwilio yn y gyrchfan, felly mae'n sampl, nid pob un. Mae hefyd yn ddrutach o lawer i gynnal y system honno oherwydd bod angen mwy o filfeddygon arnoch chi, a mwy o anghyfleustra i fynd o gwmpas ac archwilio yn y gyrchfan yn hytrach na gallu gwneud hynny mewn ffordd a fyddai'n haws i awdurdodau porthladd ei rheoli mewn un lle penodol. Mae yna hefyd, wrth gwrs, y rheswm ymarferol iawn nad oes gennym ni ormod o filfeddygon. Felly, cael digon o filfeddygon i staffio'r system yn iawn—. Ac rwy'n gwybod rhywfaint am feddygaeth filfeddygol, o gofio yr oedd fy nhad yn filfeddyg am gyfnod hir hefyd. Felly, rwy'n deall bod problem ymarferol iawn yma ynglŷn â chynnal system yn effeithiol i ymdrin â bioddiogelwch ac yna cael y bobl i wneud hynny'n effeithiol hefyd.
Nawr, mae'r rheini i gyd yn faterion yr wyf i wedi'u trafod gyda Lesley Griffiths a gyda'n prif filfeddyg, ac yr ydym ni wedi rhoi arweiniad ein bod ni eisiau i brif filfeddygon gael sgwrs i geisio rhoi rhyw fath o ddealltwriaeth i ni ynghylch sut y byddai system nesaf sy'n seiliedig ar risg yn edrych—y system orau bosibl o ystyried ble yr ydym ni. Ond, mewn gwirionedd, mae ein pryder yn ymwneud mwy â dyfodol technoleg yn hyn o beth. Yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, nid yw da byw'n cydweithredu o gwbl pan ddaw'n fater o ateb cwestiynau ynghylch a oes ganddyn nhw glefyd heintus. Felly, mewn gwirionedd, bydd angen i chi wneud rhyw fath o archwiliad corfforol. Hyd yn hyn nid wyf i wedi gweld sut, mewn unrhyw ffordd gredadwy, y gallech chi gael technoleg i asesu'r risg o anifeiliaid, anifeiliaid byw neu blanhigion yn dod i mewn i'r wlad, i asesu'r risg bioddiogelwch. Felly, mae'n bosibl y gallwch chi ddefnyddio technoleg ar gyfer rhywfaint o'r hyn sydd ei angen, ond nid wyf i'n credu mai dyma fydd yr ateb llawn.
Gweinidog, rwyf innau hefyd yn pryderu am gost yr oedi i gyngor Ynys Môn, a allai fod wedi cronni costau cyflogaeth a refeniw incwm yn eu cynlluniau busnes wrth symud ymlaen am y flwyddyn, ac i'r cwmni adeiladu a fydd, o dan reolau caffael, wedi ystyried cyflogaeth a phrentisiaethau lleol y mae mawr eu hangen i adeiladu'r safle.
Os un o'r rhesymau dros oedi yw bod Llywodraeth y DU yn edrych ar ffin ddigidol symlach, pam nad ydyn nhw wedi dychwelyd y negeseuon e-bost gan FibreSpeed, yr wyf fi a gwleidyddion eraill wedi cael copi ohonyn nhw, gan gynnwys yr AS lleol? Maen nhw wedi bod yn rhoi gwybod i swyddogion Llywodraeth y DU fod cysylltiad rhwydwaith ffibr uchel sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac wedi'i ariannu gan Ewrop ar hyn o bryd, a allai gael ei ddefnyddio gan unrhyw gludwr telathrebu neu ddarparwr gwasanaeth rhyngrwyd i ddarparu bandiau eang uchel. Bydd yn osgoi unrhyw osodiad drud a bydd yn caniatáu mynediad ar unwaith at unrhyw ofynion data, symudol a thelathrebu. Rwyf i hefyd wedi codi hyn sawl gwaith. Os gwelwch yn dda, a wnaiff eich swyddogion fynd ar drywydd hyn gyda swyddogion Llywodraeth y DU oherwydd ymddengys nad ydym ni'n mynd i unman ag ef?
A, Gweinidog, yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud wrthym ni heddiw yw bod Jacob Rees-Mogg wedi gwneud y penderfyniad i gadw mewnforion yn rhydd o ffrithiant, gan helpu busnesau tramor tra bod ffermwyr a busnesau o Gymru a Phrydain y mae angen iddyn nhw allforio nawr yn wynebu biwrocratiaeth barhaus o waith papur a chost. Ac a ydych chi'n cytuno bod hyn yn enghraifft o beidio â thrin yn yr un modd, ac y dylai Llywodraeth y DU fod wedi ymdrin ag ef yn llawer gwell? A pha iawndal y byddan nhw'n ei gael? Diolch.
Ie, rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig, ynglŷn â staff sydd wedi eu recriwtio gan y cynghorau eisoes ac ynglŷn â sicrhau bod y cytundebau hynny'n cael eu hanrhydeddu hefyd a bod gan y bobl hyn waith i'w wneud. Mae hyn yn ymwneud hefyd â gwastraff amser, egni ac ymdrech yn y ddau awdurdod lleol, ac rwy'n amau na fydd y staff yn awdurdod sir Benfro nac, yn wir, ar Ynys Môn yn croesawu'r ffaith ei bod hi'n ymddangos bod yr amser a dreuliwyd ganddyn nhw wedi mynd yn ofer a heb unrhyw sicrwydd ynghylch pryd y daw hyn i ben neu pan ddaw ateb pendant.
A'r posibilrwydd hefyd o ran rhai swyddi a fyddai wedi dod yn sgil adeiladu cyfleusterau dros dro a pharhaol, nid oes modd rhoi unrhyw sicrwydd i neb ynglŷn â hynny. Ond mae angen i ni wybod, o fewn cyfnod cymharol fyr, beth fydd angen i ni ei wneud, oherwydd os na chawn ni'r swyddi parhaol erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf yng Nghaergybi fel roeddem ni'n bwriadu, fe fydd angen i ni wybod beth yw'r cynllun i'r dyfodol, sut olwg fydd ar gyfleusterau amgen, a oes angen i ni ailosod ein caffaeliad, a fydd hi'n costio mwy o arian cyhoeddus y byddai'r Trysorlys, fel arfer, yn ei ddarparu a'i gefnogi, a'r pwynt anochel a wnaeth Paul Davies hefyd am y ffaith y byddai'r costau yn debygol o gynyddu yn ystod y cyfnod hwnnw.
Yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, mae chwyddiant yn tueddu i beidio ag aros yn ei unfan, ac ar hyn o bryd, fe fydd chwyddiant yn sicr yn cynyddu'r costau mewn amrywiaeth o brosiectau adeiladu, ond bydd yn effeithio hefyd ar y llafur a'r sgiliau sydd ar gael i ymgymryd â'r prosiect adeiladu ar amser, a bod â'r amser hwnnw i allu nid yn unig paratoi'r cyfleusterau neu'r systemau, ond sy'n hanfodol i'r busnesau eu hunain fod yn barod hefyd. Fe fydd angen iddyn nhw gynllunio ar gyfer unrhyw system newydd hefyd, ac mae hynny'n cynnwys eich pwynt chi am FibreSpeed a'r seilwaith sydd yno eisoes, ac fe fyddaf i'n siŵr o sicrhau bod fy swyddogion i'n gwneud gwaith dilynol gyda Llywodraeth y DU. Mae hyn yn cyffwrdd â'ch pwynt chi am yr angen i ddeall, wrth ddilyn hynny, sut un fydd y system newydd, gan sicrhau nad ydym ni'n dyblygu nac yn creu set ychwanegol o seilwaith yn ddiangen, ond mewn gwirionedd mae angen i ni ddeall beth fydd y cynllun i'r dyfodol beth bynnag.
Heb unrhyw eironi o gwbl, fe ddywedodd Jacob Rees-Mogg fod cyflwyno'r mesurau rheoli ffiniau fel gweithred o hunan-niweidio. Wel, fe geir dewisiadau amgen i'r sefyllfa yr ydym ni ynddi hi, ond y dewis a wnaethpwyd yn y cytundeb a negodwyd gyda'r Undeb Ewropeaidd ar gyfer sut y byddai masnach yn gweithio, ac os oes dewis arall, mae angen i bob un ohonom ni ddeall beth fyddai hwnnw, pan fyddai hwnnw'n dod i rym, ac mae'n rhaid cael sgwrs briodol a pharchus gyda Llywodraeth Cymru er mwyn i ni allu adrodd yn briodol i Senedd Cymru yma ynglŷn â'r dewisiadau y mae angen i ni eu gwneud ar ran pobl Cymru.
Diolch i'r Gweinidog.