– Senedd Cymru am 3:12 pm ar 3 Mai 2022.
Eitem 4 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, diweddariad ar Wcráin, a galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad. Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle, unwaith eto, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin sy'n ffoi rhag y rhyfel erchyll hwn yn y gobaith o gael noddfa. Gyda phob diwrnod sy'n mynd heibio, rydym ni'n clywed rhagor o straeon dirdynnol gan gynnwys, dros y penwythnos, yr achos o nifer fechan o sifiliaid yn cael dianc o'r gwaith dur dan gyrch yn Mariupol oherwydd ymdrechion ar y cyd gan y Cenhedloedd Unedig a'r Groes Goch. Mae Putin yn raddol gynyddu maint yr ymladd yn nwyrain Wcráin, gan ddod â mwy o bobl ddiniwed i berygl, ond mae gwrthwynebiad ffyrnig gan luoedd arfog Wcráin yn eu hwynebu nhw yn y fan honno.
Fe wyddom ni fod dros 5.5 miliwn o bobl wedi dianc rhag y gwrthdaro hwn, ac mae hi'n galonogol nodi ein bod ni wedi gweld rhywfaint o gynnydd yn niferoedd y fisâu a ganiatawyd gan y Swyddfa Gartref. Ledled y Deyrnas Unedig fe welsom ni bron i 120,000 o geisiadau am fisâu yn cael eu cyflwyno, gyda 86,100 yn cael eu rhoi a 27,100 o bobl yn cyrraedd. O'r bobl hyn, fe ddaeth 16,000 yn rhan o gynllun teuluoedd Wcráin, a 11,100 yn rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin. Mae data a gyhoeddwyd ar 27 Ebrill yn dangos bod 2,300 o fisâu wedi cael eu rhoi drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin i bobl sydd â noddwyr yng Nghymru. Mae cyfanswm o 670 o'r rhain ar lwybr uwch-noddwr Llywodraeth Cymru. Rydym ni'n gweld cynnydd cyson yn nifer y bobl sy'n cyrraedd Cymru, gan gynnwys i'n canolfannau croeso ni, ac rydym ni'n disgwyl y bydd y niferoedd hyn yn cynyddu wrth i fwy o fisâu gael eu cymeradwyo ac wrth i fwy o bobl wneud eu trefniadau ar gyfer teithio.
Ac er ein bod ni wedi gweld cynnydd o ran cymeradwyo fisâu, mae pryderon yn parhau o ran y dull o brosesu'r fisâu hyn a bod hwnnw'n achosi dryswch ac oedi i'r ffoaduriaid. Mae hyn yn arbennig o wir am deuluoedd nad ydyn nhw'n gallu teithio nes y bydd pob aelod o'u grŵp wedi cael ei fisa unigol, yn hytrach na bod y fisâu yn cael eu trin i gyd gyda'i gilydd. I'r rhai sydd wedi gallu cael noddfa yma, mae hi'n hanfodol, wrth gwrs, ein bod ni'n sicrhau bod yr amddiffyniadau diogelu gorau posibl ar waith. Mae hwn yn bryder a godais gyda Llywodraeth y DU sawl tro. Mae hi'n hanfodol bod y cynllun Cartrefi i Wcráin, er ei fod i'w ganmol mewn sawl ffordd—. Rydym ni'n cydnabod bod diffygion yn ei ddyluniad sy'n gallu gwneud rhai sydd angen noddfa yn agored i niwed. Rydym ni'n gweithio yn ddiflino ar draws cyrff cyhoeddus Cymru i leihau a lliniaru'r peryglon hyn, ond nid ydym ni'n gallu eu dileu nhw'n llwyr. Rydym ni'n parhau i godi ein pryderon ni gyda Llywodraeth y DU ac rydym ni'n ymyrryd pan fo'n hynny'n bosibl i atal niwed, ond ni fyddwn ni'n llwyddo ym mhob achos.
Cafodd cynlluniau blaenorol, fel rhai i gefnogi pobl yn ffoi o Affganistan, eu gweinyddu a'u monitro gan y Llywodraeth, yn debyg iawn i'n cynllun uwch-noddwr ni yng Nghymru. Roedd hyn yn caniatáu i bobl gael eu cefnogi o'r foment y gwnaethon nhw gyrraedd a chaniatáu rhoi gweithdrefnau diogelu priodol ar waith. Ar 5 Ebrill, fe wnaethom ni gyhoeddi canllawiau ynglŷn â sut y gall cyrff cyhoeddus helpu i amddiffyn pobl sy'n byw ar aelwydydd Wcrainaidd. Rydym ni hefyd yn rhoi manylion i awdurdodau lleol am y bobl sy'n cyrraedd o Wcráin drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin, i ganiatáu cynnal gwiriadau eiddo a diogelu a chynnig gwasanaethau cymorth.
Mae'r cyngor sydd gennym ni ar-lein yn annog rhai a allai gynnig llety neu geiswyr noddfa i ddefnyddio system paru Reset, yn hytrach na systemau mwy anffurfiol. Mae gan Reset flynyddoedd o brofiad yn gweithio gyda ffoaduriaid a noddwyr yng Nghymru ac yn gwybod sut i sicrhau rhyw gyfradd o gysondeb, a sicrhau bod ystyriaethau diogelu yn cael sylw. Rwy'n pryderu yn arbennig ynglŷn â pha mor agored i niwed yw ffoaduriaid o Wcráin, gyda'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n fenywod a phlant, i weithredoedd pobl ddigydwybod sy'n ceisio cymryd mantais arnyn nhw a'u cam-drin nhw.
Rydym ni wedi cyhoeddi canllawiau ar wahân hefyd ynglŷn â diogelu a chaethwasiaeth fodern ar gyfer yr awdurdodau lleol a'r noddwyr, ac wedi rhoi cyngor i staff canolfannau croesawu a chanolfannau cyswllt. Fe ddisgwylir i drydedd fersiwn o'r canllawiau diogelu a chaethwasiaeth fodern gael ei chyhoeddi'r wythnos nesaf. Rwyf i wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i adolygu'r gweithdrefnau sydd ar waith yn barhaus, ac maen nhw wedi rhoi sicrwydd bod eu desg gymorth wedi cael ei hehangu i ymateb i bryderon o ran diogelu. Rydym ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol i egluro sut y gellir gwneud atgyfeiriadau, ac rwy'n dal i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod y gweithdrefnau gorau ar waith. Rydych chi'n ymwybodol hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi lansio llinell gymorth ar 28 Mawrth ar gyfer pobl sy'n cyrraedd Cymru o Wcráin, yn ogystal ag ar gyfer pobl sy'n noddwyr iddyn nhw. Mae'r llinell gymorth yn ceisio rhoi cyngor ac arweiniad, ac fe gafodd honno ei hymestyn erbyn hyn i fod ar waith 24/7 i sicrhau bod cymorth ar gael bob amser pan fydd ei angen.
Fe wnes i gyfarfod ag Arglwydd Harrington, y Gweinidog Ffoaduriaid, a Neil Gray Aelod o Senedd yr Alban, Gweinidog Diwylliant, Ewrop a Datblygu Rhyngwladol Llywodraeth yr Alban, wythnos diwethaf, lle codwyd materion yn ymwneud ag oedi, diogelu, ac ariannu. Nid yw cymorth ariannol fyth wedi cael ei ddarparu ar gyfer gweithredu ein canolfannau croeso uwch-noddwr ni, er mai'r rhain sy'n cynnig y llwybr mwyaf diogel a'r cymorth cofleidiol mwyaf cynhwysfawr. Fe fydd costau sylweddol heb eu hateb hyd yn hyn yn deillio o'r cynlluniau i gael fisâu i bobl o Wcráin. Mewn rhaglenni ailsefydlu eraill, fe fu yna gronfeydd hanfodol ar wahân ar gyfer gofal iechyd a hyfforddiant iaith Saesneg, yn ogystal â chyllid integreiddio ar gyfer blwyddyn 2 a blwyddyn 3, ac ni chyhoeddwyd yr un ohonyn nhw eto gan Weinidogion Llywodraeth y DU. Yn anffodus, nid yw Llywodraeth y DU yn rhoi'r cyllid angenrheidiol i Lywodraeth Cymru nac awdurdodau lleol Cymru ar hyn o bryd i allu cefnogi pobl sy'n cyrraedd o dan y cynllun teuluoedd mewn modd priodol. Rydym ni'n pwyso ar Lywodraeth y DU i roi'r un gyfradd o gymorth i deuluoedd o Wcráin â'r noddwyr a'r Wcrainiaid sy'n dod o dan gynllun Cartrefi i Wcráin.
Yn olaf, fe hoffwn i ddiolch unwaith eto i'r busnesau, y sefydliadau, yr unigolion a'r teuluoedd ledled Cymru sydd, drwy eu haelioni a'u hymdrechion, yn parhau i amlygu ysbryd haelfrydig ein cenedl ni. Rwyf i am gloi, fel o'r blaen, drwy ailadrodd bod cymorth, cyngor a chymorth ar gael drwy ein llinell gymorth rhad ac am ddim i noddwyr a phobl sy'n dod o Wcráin. Fe all noddwyr yng Nghymru ffonio'r llinell gymorth am ddim am gyngor bedair awr ar hugain y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae croeso cynnes yn aros ein cenedl noddfa ni. Diolch.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch. Diolch i chi am eich datganiad, sy'n amlwg yn datblygu yn rhywbeth a fydd yn digwydd bob wythnos ar hyn o bryd. Wrth eich holi chi ddydd Mawrth diwethaf, fe gyfeiriais i at eich datganiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cartrefi i Wcráin ar 21 Ebrill. Yn eich diweddariad dilynol chi ynglŷn â'r gefnogaeth i Wcráin ddydd Iau diwethaf ar 28 Ebrill, roeddech chi'n cyfeirio at y ffigurau diweddaraf gan Lywodraeth y DU ac roeddech chi'n dweud bod 2,300 o fisâu wedi cael eu rhoi i bobl o Wcráin ar 27 Ebrill ac ymlaen i ddod i Gymru drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin, y mae Llywodraeth Cymru yn uwch-noddwr iddo ar gyfer 670 ohonyn nhw. Yn gyfan gwbl, fe dderbyniwyd cyfanswm o 117,600 o geisiadau am fisa drwy gynlluniau Wcráin y DU, gyda 86,100 o fisâu yn cael eu caniatáu, fel roeddech chi'n dweud yn eich datganiad, a chyfanswm o 27,100 o ddeiliaid fisa wedi cyrraedd yn y DU.
Beth, felly, yw eich dealltwriaeth chi o ran y niferoedd sydd wedi cyrraedd yng Nghymru hyd yma, naill ai'n gyfan gwbl o dan y cynllun uwch-noddwyr, neu'n fwy cyffredinol o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin? Rydych chi'n dweud eich bod chi wedi cyfarfod â'r Arglwydd Harrington, Gweinidog Ffoaduriaid y DU, a gyda Neil Gray Aelod o Senedd yr Alban, Gweinidog Diwylliant, Ewrop a Datblygu Rhyngwladol Llywodraeth yr Alban, yr wythnos diwethaf,
'lle codwyd materion yn ymwneud ag oedi, diogelu, ac ariannu.'
Yn dilyn fy nghwestiynau i ynglŷn â hynny'r wythnos diwethaf, pa drafodaethau pellach a gawsoch chi'n benodol felly gyda'r Arglwydd Richard Harrington ynglŷn â'r rhesymau am y bwlch rhwng y niferoedd cynyddol o fisâu a ganiatawyd a'r cynnydd yng nghyfanswm y bobl sy'n cyrraedd ac am yr hyn sy'n cael ei wneud i nodi ac ymdrin â hynny?
Yn eich diweddariad ddydd Iau diwethaf, roeddech chi'n dweud bod dadansoddiad o awdurdodau lleol ar gael hefyd. Er hynny, mae hyn yn dangos amrywiad enfawr yn nifer y fisâu a ganiatawyd, yn amrywio o 162 yng Nghaerdydd a 153 yn sir Fynwy, gyda chyfartaledd o 63 ar draws chwe sir y gogledd, hyd at 18 ym Merthyr Tudful a phump yn unig ym Mlaenau Gwent. Er gwaethaf y gwahaniaeth amlwg ym maint y boblogaeth, beth yw eich dealltwriaeth chi o'r rhesymau am y gwahaniaeth hwn, a sut ydych chi'n anelu cymorth ar lefel leol yn unol â hynny?
Wrth i mi eich holi chi'r wythnos diwethaf, fe nodais i fod sefydliad sy'n gwrthsefyll masnachu mewn pobl yn Romania wedi dweud yng nghyfarfod Zoom ymateb gogledd Cymru i sefyllfa Wcráin y diwrnod cynt mai pobl a ddadleolwyd yw'r bobl sydd fwyaf agored i niwed, ac felly mae'r canolbwyntio ar ddiogelu nawr. Yn eich ymateb, roeddech chi'n dweud bod cysylltiad agos iawn gennych chi â'r sefydliadau hynny sy'n gwneud y gwaith i wrthsefyll masnachu mewn pobl. Fe wnaethoch chi fynegi unwaith eto hefyd eich bod chi'n datblygu eich canllawiau diogelu eich hun, ond gan weithio ar sail pedair gwlad i raddau helaeth. Pa waith yn benodol ydych chi'n ei wneud gyda sefydliadau sy'n gwrthsefyll masnachu mewn pobl wrth weithio ar lawr gwlad gyda ffoaduriaid o Wcráin yn y gwledydd cyfagos sy'n ffinio â'r wlad honno, a beth yw casgliadau pedair Llywodraeth y DU erbyn hyn o ran diogelu, wrth iddyn nhw weithio â'i gilydd?
Fel y gwyddoch chi, fe fu Prif Weinidog y DU yn annerch Senedd Wcráin drwy gyswllt fideo heddiw, ac yn canmol dewrder y wlad honno wrth frwydro yn erbyn yr ymosodiad parhaus o Rwsia, ac fe gyhoeddodd becyn cymorth newydd gwerth £300 miliwn, yn cynnwys cerbydau Toyota Land Cruiser arbenigol newydd i helpu i ddiogelu swyddogion sifil yn nwyrain Wcráin a chludo sifiliaid oddi wrth ardaloedd ar y rheng flaen, yn dilyn cais gan Lywodraeth Wcráin. I ba raddau oedd Llywodraeth Cymru, os felly o gwbl, yn ymwybodol o'r cais hwn, a sut allai'r ddarpariaeth hon eich cynorthwyo chi yn eich rhaglen chi i gludo sifiliaid mewn ardaloedd rheng flaen a dod â nhw i Gymru?
Yn olaf, ym mha ffordd ydych chi'n gweithio gyda'ch cyd-Weinidogion i sicrhau bod lleoedd ar gael mewn ysgolion a'r ddarpariaeth o ran gwasanaethau meddygon teulu a'r GIG lleol i ffoaduriaid o Wcráin pan fyddan nhw'n cyrraedd yng Nghymru?
Diolch yn fawr iawn i chi, Mark. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod y ffigurau wythnosol a roddir ar ddydd Iau—mewn gwirionedd, fe ddyfynnais i rai 27 Ebrill—yn ffigurau sy'n cael eu rhannu ar sail pedair gwlad. Felly, fel y dywedais i yn fy natganiad, fe allaf i gadarnhau unwaith eto fod 2,300 o fisâu wedi cael eu rhoi i bobl drwy gynllun Cartrefi i Wcráin, y bobl hynny sydd wedi sicrhau trefniadau i ddod i lety arbennig yma, nawdd gan eu teuluoedd, a gyda noddwr yng Nghymru. Ond, mae 670 o'r rhain, o'r 2,300, mewn gwirionedd yn dod drwy lwybr uwch-noddwr Llywodraeth Cymru, ac fe fyddan nhw'n dod i'n canolfannau croeso ni. Felly, dyna'r ffeithiau allweddol ar gyfer 27 Ebrill, ac mae hi'n amlwg y byddwn ni'n cyhoeddi'r ffeithiau, yr ystadegau, ar ddydd Iau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf.
Pan fyddwn ni'n cyfarfod—ac rydym ni wedi cyfarfod bob wythnos, mewn gwirionedd, â'r Gweinidog Ffoaduriaid, yr Arglwydd Harrington, Neil Gray a minnau—tri mater yr ydym ni wedi sôn amdanyn nhw, ac rydym ni wedi sôn amdanyn nhw am bythefnos o'r bron: yr oedi—mae hi'n hollbwysig, eich pwynt chi ynglŷn â'r oedi, oherwydd os rhoddwyd y fisâu hyn, pam nad ydym ni wedi gweld mwy o bobl yn cyrraedd—ac rydym ni wedi ystyried diogelu hefyd, a chyllid yn ogystal â hynny. Felly, o ran yr oedi, fe fu yna rwystredigaeth yn eang oherwydd roedd y Gweinidog Ffoaduriaid yn cydnabod ei hunan, wrth aros nid yn unig am—. Fe soniais i am y ffaith y bu yna rwystredigaethau yn arbennig felly lle nad yw pob aelod o deulu cyfan wedi cael ei fisa, ac rwy'n credu bod hynny'n parhau i ddigwydd. Rwy'n credu ein bod ni wedi gweld a chlywed yn y cyfryngau, a'r cyfryngau yng Nghymru, enghreifftiau o hyn yn digwydd yn gyfredol, lle ceir aros am geisiadau gan Wcrainiaid unigol ac nid o ran y teulu cyfan.
Fel mae hi ar hyn o bryd, fel dywedais i, rydym ni'n pwyso ar Lywodraeth y DU i ddiwygio'r prosesau a bod â llai o fiwrocratiaeth. Aeth y Gweinidog Ffoaduriaid, Richard Harrington, i Wlad Pwyl ychydig wythnosau nôl, ac roedd ef yn dweud fod yna rai sydd wedi cael eu fisâu erbyn hyn, ac maen nhw'n ystyried eu trefniadau nhw nawr o ran dod i Brydain, i Gymru, i'r DU. Mae'n rhaid i mi ddweud bod rhai hefyd yn ystyried a ydyn nhw am ddod oherwydd yr oedi a'r fiwrocratiaeth. Rwy'n siŵr eich bod chi wedi gweld adroddiadau fel hyn yn y wasg hefyd, sy'n peri pryder mawr oherwydd fe ddylem ni fod wedi gallu ymateb mor gyflym ag y mae'r gwledydd hynny yn yr UE wedi ymateb. Felly, fe wyddom ni fod yna oedi oherwydd y fiwrocratiaeth, oherwydd y prosesau amrywiol, ond fe gawsom ni sicrwydd ddydd Iau diwethaf gan y swyddog arweiniol yn y Swyddfa Gartref eu bod nhw am gael mwy o weithwyr achos a'u bod nhw'n cyflymu'r broses.
Mae diogelu yn hanfodol; a mater i'r pedair gwlad yw hwnnw. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda'n gilydd, rydym ni wedi bod yn rhannu enghreifftiau, unwaith eto, o'r methiannau o ran pobl sy'n cael eu paru mewn ffordd fwy anffurfiol—efallai bod trefniadau yn chwalu o ran cynllun Cartrefi i Wcráin, a'u bod nhw'n dilyn prosesau paru anffurfiol wedyn nad ydyn nhw'n ddiogel nac yn sicr. Rydym ni wedi gweld enghreifftiau o'r hyn sydd wedi golygu rhoi menywod, yn arbennig, mewn perygl, ac fe roddir ystyriaeth i'r pethau hyn i gyd. Felly, rydym ni wedi rhoi gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar waith, gan weithio gyda'r awdurdodau lleol. Mae gennym ni lythyr, mewn gwirionedd; rydym ni wedi ysgrifennu at bartneriaid lleol a rhanbarthol ynglŷn â gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ac fe allaf i ddangos hwnnw i chi, sydd ar gyfer y prif weithredwyr a phartneriaid statudol o ran y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ac mae hwnnw'n trafod swyddogaeth y gwasanaeth iechyd hefyd.
Gan weithio gydag awdurdodau lleol, rydym ni'n gweithio ar lefel yr uwch swyddogion, ac mae prif weithredwyr yn cyfarfod yn rheolaidd hefyd. Wrth gwrs, y materion yr ydych chi'n eu codi o ran diogelu, atal masnachu mewn pobl a chydnabod bod hwnnw'n rhywbeth lle mae'r holl gysylltiadau, fel yr un yr ydych chi'n ymwybodol ohono ac yn ymgysylltu ag ef yn y gogledd—. Maen nhw'n bwysig iawn i'w rhannu gyda ni i sicrhau y gallwn ni atal pobl, a rhoi'r wybodaeth honno'n fwy ffurfiol o ran ein canllawiau ni. Mae hi'n hanfodol o ran addysg y gall plant gael eu derbyn i ysgolion, ac, yn wir, hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, wrth y gwasanaeth iechyd, i'w meddygon teulu nhw, am y gwiriadau sydd ar y gweill o ran iechyd. Fe gaiff hynny ei fonitro bob dydd.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y datganiad, Weinidog. Mae agwedd Llywodraeth San Steffan tuag at y sefyllfa erchyll yn Wcráin yn gwbl baradocsaidd. Ar yr un llaw, mae pobl Cymru a Phrydain yn unedig yn eu solidariaeth â phobl Wcráin, ac yn unedig yn eu dicter tuag at Putin ynghyd â'i ryfel anghyfreithlon a'i droseddau rhyfel anwaraidd. Ac mae Llywodraeth San Steffan yn honni ei bod yn rhannu'r teimladau cryfion hyn. Yn wir, fel y clywsom ni, bu Boris Johnson heddiw yn annerch Senedd Wcráin.
Ond er mor bwysig yw areithiau cefnogol a geiriau cynnes, mae gweithredoedd yn bwysicach, ac mae Llywodraeth Boris Johnson yn methu pobl Wcráin ac yn tanseilio ymdrechion Cymru i fod yn genedl noddfa. Y weithred fwyaf effeithiol y gallai Llywodraeth San Steffan ei gwneud i helpu pobl Wcráin yw nid mynd a datgan araith, ond sicrhau bod modd diogel a chyflym iddyn nhw ddod i Gymru ac i Brydain. Mae nifer o'r bobl hyn wedi colli anwyliaid, yn dioddef o drawma o ganlyniad i farbariaeth rhyfel. Yr hyn maen nhw angen yw cariad, cartref a chyfle, a'n cefnogaeth a'n cymorth ni iddyn nhw fedru cael y pethau hynny.
O wrando ar rethreg Boris Johnson a'i Lywodraeth, byddai rhywun yn meddwl taw dyma'n union yr ydym yn ei gynnig i ffoaduriaid Wcráin, ond dro ar ôl tro ym myd gwleidyddiaeth, gwelwn fod gagendor yn bodoli rhwng rhethreg gynnes y rhai sydd mewn grym â'u gweithredoedd llugoer. Ac mae ymateb Llywodraeth San Steffan i'r sefyllfa yn Wcráin, yn anffodus, yn enghraifft berffaith o hyn. Mae Llywodraeth San Steffan, er gwaethaf eu geiriau twym, yn gadael pobl Wcráin lawr. Mae llysgennad Wcráin i'r Deyrnas Gyfunol wedi galw ar yr Ysgrifennydd Cartref i weithredu ar frys i wella'r broses fisa, sydd, yn ei eiriau fe, yn ddiangen o hir a biwrocrataidd, gan adael miloedd o bobl yn ddiymadferth ar hyd a lled gwledydd tir mawr Ewrop.
Ac mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi clywed am rwystredigaeth y teuluoedd sy'n cyrraedd yma ar y cynllun teuluoedd yn hytrach nag ar gynllun Cartrefi i Wcráin, a bod y Cymry sy'n cynnig lloches iddyn nhw yn anghymwys i dderbyn y taliad o £350. Mae hyn yn anghyfiawnder cwbl sylfaenol, ac yn enghraifft o'r Swyddfa Gartref yn trosglwyddo eu cyfrifoldebau moesol i'r cyhoedd, â nifer o'r ffoaduriaid yn wynebu heriau, fel clywsom ni, o ran diffyg cefnogaeth a gwybodaeth, diffyg gwersi iaith, a'r ffaith bod cofrestru ar gyfer ysgol a meddyg teulu yn absẃrd o gymhleth.
Sut mae Llywodraeth Cymru am oresgyn yr anghysonderau hyn, yn wyneb difaterwch a blerwch anhrefnus Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol? Mae 2,300 o fisas wedi eu cyhoeddi yng Nghymru o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin. Ac fel y gwnaethoch chi sôn, o'r rhain, 670 wedi'u huwch-noddi gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Alban wedi cael 5,200 o fisas wedi eu cyhoeddi, gyda 3,000 ohonynt wedi'u huwch-noddi gan Lywodraeth yr Alban. Mae'r bwlch yma rhwng y ddwy wlad yn eithaf sylweddol. Felly, a all y Gweinidog egluro'r rheswm dros yr anghysondeb hwn rhwng Cymru a'r Alban? Ydy'r Gweinidog yn ffyddiog nad oes unrhyw ffactor y tu hwnt i hap a damwain yn gyfrifol am hyn?
Mae'n debygol y bydd ffoaduriaid sy'n cyrraedd yma, yn enwedig menywod a phlant sy'n agored i niwed, eisoes wedi dioddef trawma. Ac felly, fel y gwnaethoch chi sôn, ac fel y gwnaeth Mark Isherwood sôn, mae sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cael gofal pan fyddant yn cyrraedd yn hollbwysig, ac rwy'n croesawu yr hyn yr ydych wedi sôn amdano fo o ran sut rŷch chi'n ceisio mynd i'r afael â hyn. Ond mae nifer o fudiadau ffoaduriaid a gwrth-fasnachu pobl wedi ysgrifennu at Michael Gove i fynegi eu pryderon dwys ynghylch diogelu, a'r cynllun, gyda masnachwyr pobl eisoes yn targedu pobl, menywod a phlant o Wcráin.
Dyma sefyllfa cwbl dorcalonnus, sy'n cyferbynnu'n llwyr gyda rhethreg Llywodraeth Prydain. Nid oes unrhyw reswm pam na ddylem neu y gallem gael cynllun cwbl ddyngarol, sy'n croesawu ffoaduriaid, ac sy'n eu diogelu'n llwyr rhag camdriniaeth.
Doedd e ddim yn swnio i fi fel bod y Gweinidog yn hollol fodlon bod y gwiriadau hyfforddiant a chymorth proffesiynol sydd ar waith ar hyn o bryd ynghylch y cynllun yma yng Nghymru yn ddigonol i sicrhau diogelwch i ffoaduriaid Wcráin. Felly, beth mwy y gellir ei wneud? Diolch.
Diolch yn fawr, Sioned. Dyma un o ddibenion cyfarfod â'n gilydd, fel y gwnaethom ni'n rheolaidd dros yr wythnosau diwethaf, fi a'r Gweinidog Ffoaduriaid, yr Arglwydd Harrington, a Neil Gray, y Gweinidog yn Llywodraeth yr Alban oherwydd mae'r Gweinidog yn Llywodraeth yr Alban a minnau'n cytuno yn hyn o beth gan fynegi, ac fe wnaethom ni hynny'n eglur iawn o'r cychwyn, hynny yw, mewn gwirionedd, y llwybr uwch-noddwyr, sy'n golygu, gyda'n hymrwymiad ni yng Nghymru i gefnogi 1,000 o bobl, gan anwybyddu'r angen i nodi noddwyr unigol, a rhoi nawdd yn uniongyrchol oddi wrth Lywodraeth Cymru, neu Lywodraeth yr Alban—.
Maen nhw wedi gweld oedi fel hyn yn yr Alban hefyd, er bod ganddyn nhw fwy hyd yn oed yn gwneud cais yno mewn gwirionedd; mae niferoedd uwch ganddyn nhw yno sy'n gwneud cais i fynd drwy eu llwybr uwch-noddwr nhw o ran cyfran y boblogaeth. Mae hynny'n ddigon teg, ond maen nhw'n parhau i weld oedi fel ninnau. Ond gan ddweud hefyd y gall hynny, mewn gwirionedd, fynd i'r afael â'r mater sy'n ymwneud â diogelu, oherwydd, er enghraifft, o ran y cynllun teuluol, yr wythnos diwethaf fe ddywedais i wrth y Swyddfa Gartref ac wrth y Gweinidog, 'A wnewch chi roi niferoedd ac ardaloedd y teuluoedd sydd wedi dod drwy'r llwybr teuluol i ni?' Nid ydyn nhw'n gallu dweud wrthym ni. Nid yw'r wybodaeth honno ganddyn nhw. Ni allan nhw ddweud wrthym ni faint o ffoaduriaid Wcrainaidd sydd wedi dod drwy'r llwybr teuluol, ac nid oes cyllid o gwbl ar gael i'r teuluoedd, ac, mewn gwirionedd, wrth gwrs, fel y dywedais i yn fy ystadegau, mae mwy wedi dod drwy'r llwybr teuluol na thrwy unrhyw lwybr arall. Y nhw a gafodd eu fisâu yn gyntaf, y rhain a ddaeth drwodd. Ni roddwyd unrhyw wybodaeth i ni am gyllid na'r ffigurau. Nid ydyn nhw'n gallu ei rhoi, hyd yn oed os—. Fe ofynnais i iddyn nhw amdani hi. Felly, mae'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi mynd i'r afael â'r argyfwng ffoaduriaid yn ddiffygiol iawn.
Ac fel y dywedais i'n gynharach, yn yr ymateb i Mark Isherwood, os edrychwch chi ar—. Ac yn hyn o beth fe fu yna raglenni, a straeon yn y wasg, a theuluoedd yn gwneud sylwadau. Y berthynas ragorol a'r undod a'r gefnogaeth y credaf ein bod ni wedi clywed amdanyn nhw, mewn gwirionedd, gan y rhai sydd wedi dod i gwrdd â theuluoedd Cymru, maen nhw wedi cwrdd â'u noddwyr—. Felly, mae'n rhaid i ni gydnabod bod cryfderau mawr pan fo hynny'n gweithio gyda threfniadau Cartrefi i Wcráin. Ond fe sylwais i ar ffoadur a oedd wedi gwrthod dod i'r DU. Fe ddigwyddodd popeth mor gyflym yn yr Almaen. Maen nhw'n ei gwneud hi'n hawdd iawn i bobl o Wcráin gael budd-daliadau, a chael gwaith, a chael cymorth. Pam nad ydym ninnau yn y sefyllfa honno?
Felly, rwyf i wedi sôn yn fy natganiad i heddiw, am y tro cyntaf, am y gymhariaeth â'r trefniadau a oedd gennym ni, ac a gefnogwyd gan Lywodraeth y DU, pan oedd y ffoi o Affganistan fis Awst diwethaf, pan oeddem ni'n gwybod pwy oedd yn dod ac roeddem ni'n gallu eu cefnogi nhw. Felly, rydym ni'n parhau i bwyso yn hynny o beth, oherwydd rwyf i o'r farn fod diogelu yn hollbwysig. Ac os caf i ddweud heddiw, os gallwn ni fynegi'r neges ei bod hi'n beryglus i hyd yn oed ystyried neu rannu unrhyw beth ar y cyfryngau cymdeithasol, fel Facebook, neu unrhyw gyfleoedd i wneud trefniadau newydd—oherwydd mae hynny wedi gallu arwain at gamfanteisio rhywiol mewn gwirionedd. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ei godi. Felly, rwyf i wedi dweud nad oedi yn unig yw ystyr hyn; ond oedi, ie, a diogelu ac ariannu hefyd, sef yr hyn yr ydym ni'n ei bwysleisio bob wythnos gyda Llywodraeth y DU, oherwydd mae yna bobl sydd, yng Nghymru, yn awyddus iawn i groesawu teuluoedd. Fe welsom ni rai neithiwr ar raglen BBC Wales. Ac maen nhw'n ysu am gael dod yma, maen nhw'n cael eu rhwystro, mae'r arian yn prinhau ac fe fyddwn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i'w cael nhw yma a'u cefnogi nhw.
Gweinidog, mae'r cyfan yr ydych chi wedi'i ddweud yn eich datganiad chi heddiw yn adleisio profiadau teuluoedd sy'n gwahodd yn fy etholaeth i nawr. Mae rhai o'r rhain—. Maen nhw'n deuluoedd anhygoel. Maen nhw'n byw mewn tai teras yn fy etholaeth i, nid oes ganddyn nhw lawer o fodd eu hunain, ond maen nhw wedi agor eu cartrefi i deuluoedd o Wcráin, maen nhw'n awyddus iawn i ddod â nhw yma nawr. Ac maen nhw'n gorfod mynd drwy'r hyn y maen nhw'n ei hystyried yn gyfundrefn dywyll iawn, heb unrhyw ddolen ar gyfer adborth o gwbl iddyn nhw nac i'r teuluoedd, sy'n araf, hynny yw sy'n rhoi fisâu i rai aelodau o'r teuluoedd ond nid i eraill, ond mae'r teuluoedd hyn yma yn Ogwr—ac mae hyn yn nodweddiadol o bobl ledled Cymru a'r DU—wedyn yn ceisio rhoi cymorth ariannol i'r teuluoedd hyn sy'n byw mewn mannau eraill yng ngwledydd Ewrop sydd wedi dod â nhw i mewn yn gyflym iawn, ac maen nhw'n rhwystredig iawn.
Rwy'n gofidio, Gweinidog, fod troednodiadau'r bennod hon wedi cael eu hysgrifennu eisoes, sef fod gennym ni wledydd yn y Deyrnas Unedig, fel yr Alban, fel Cymru, sydd wedi estyn eu breichiau a dweud, 'Dewch atom ni, dewch atom ni nawr. Rydym ni am roi'r gweithdrefnau hyn ar waith i sicrhau eich bod chi'n ddiogel wrth wneud hyn yn swyddogol drwy sianeli swyddogol', a'r hyn yr ydym ni'n teimlo yn rhwystredig ynglŷn ag ef, ac nid pwynt gwleidyddol mo hwn, pwynt o ran moesoldeb ydyw—. Pan oedd pobl yn dadlau ynghylch rheoli ein ffiniau ni unwaith eto, nid oeddwn i o'r farn mai dweud bod angen rheoli ffiniau ar gyfer atal ffoaduriaid rhag dod yma i'r DU yr oedden nhw, ffoaduriaid sydd ag angen dirfawr am noddfa amserol. Ond dyna sy'n digwydd ar hyn o bryd.
Felly, Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am dderbyn sylwadau a gyflwynais i chi ar ran fy etholwyr sy'n awyddus i agor eu cartrefi i'r teuluoedd hyn nawr? Ond rwy'n eich annog chi, Gweinidog, i barhau i ddadlau fel hyn, oherwydd rwyf i o'r farn mai pennod fydd hon y byddwn ni'n ymfalchïo yn haelioni pobl y cenhedloedd hyn ynddi hi, gyda balchder yng ngwaith rhai o'n Llywodraethau datganoledig ni, ac, mae'n rhaid i mi ddweud, ar hyn o bryd fel rydym ni'n sefyll yma, rwy'n teimlo cywilydd mawr iawn oherwydd safbwynt Llywodraeth y DU, sy'n ymddangos—fel bydd fy etholwyr i'n dweud wrthyf i—ei bod wedi rhoi pob rhwystr posibl yn ffordd teuluoedd sy'n dod yma mewn angen gwirioneddol. Dyna beth oedd ystyr rheoli ffiniau unwaith eto.
Diolch yn fawr iawn i chi, Huw Irranca-Davies. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n rheswm pwysig arall pam mae angen i mi ddod gyda fy natganiadau i'r fan yma, mor rheolaidd ag y bydd y Llywydd a'r Senedd yn caniatáu i mi wneud felly, oherwydd mae angen i ni gael adborth fel hyn. Mae angen i mi gael adborth fel hyn, fel y cefais i heddiw. Mae'r holl eiriau a ddefnyddiwyd, 'didrefn, 'gwarthus'—nid pwynt moesol na moesegol iawn yn unig mohono, mae'n un pwysig iawn o ran diogelu. Oherwydd ni cheir unrhyw reolaeth. Mae hyn yn ymwneud â 'Bwriwch chi ymlaen', ac os yw hynny'n gweithio, ardderchog, fel gyda'r teuluoedd rhagorol sydd wedi dod ymlaen, ond mae hwn yn bwynt o ran gweithredu hefyd. Dyma sut rydych chi'n rheoli pethau fel eu bod nhw'n gweithio. Fe wnaethom ni lwyddo, gyda Llywodraeth y DU, mewn ffordd hyblyg iawn, gyda'r cynllun i ddadleoli ffoaduriaid o Syria, ac mae llawer ohonom ni'n gwybod am yr holl deuluoedd o Syria sydd wedi ymgartrefu yn ein cymunedau ni, a hefyd gyda chynllun ffoaduriaid o Affganistan yn ystod yr haf. Felly, mae hi'n bwysig—ac rwyf i gyda fy nghyd-Aelod o Lywodraeth yr Alban—rydym ni'n gytûn iawn yn hyn o beth pan fyddwn ni'n cyfarfod â'r Gweinidog Ffoaduriaid, Richard Harrington.
Ond mae hi'n bwysig iawn hefyd—fe fyddwn i'n dweud, yn olaf—ein bod ni'n gweithio gyda'r gymuned Wcrainaidd yng Nghymru, y trydydd sector. Rydym ni'n magu cysylltiadau ar lawr gwlad i estyn allan at bobl i sicrhau bod y canolfannau croeso—. Nid yw'r awdurdodau lleol yn cael yr arian, nid ydyn nhw hyd yn oed yn cael yr un arian ag a gawsom ni ar gyfer argyfwng y ffoaduriaid o Affganistan. Unwaith eto, mae awdurdodau lleol o dan bwysau aruthrol o ran diwallu'r anghenion hyn. Mae angen i ni wneud hyn yn iawn. Er nad yw'r arian yn dod i ni, mae angen i ni wneud hyn yn iawn ym mhob ardal awdurdod lleol, gyda phob un o'n byrddau iechyd ni, a chydnabod bod gennym Urdd Gobaith Cymru, mae gennym ni lawer o sefydliadau sy'n ein helpu gyda'n canolfannau croeso, a llawer o wirfoddolwyr yn gweithio i wneud hon yn genedl noddfa, sef yr hyn ydyw Cymru.
Ac yn olaf, Heledd Fychan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel rydym yn anffodus yn gwybod, yn aml mae trais a chamfanteisio rhywiol yn rhywbeth sydd yn digwydd fel rhan o ryfel. Mae nifer o adroddiadau am fenywod yn cael eu treisio gan filwyr o Rwsia yn Wcráin. Yn wir, ar 11 Ebrill fe ddarlledodd y BBC dystiolaeth ddirdynnol o Wcráin ynglŷn â hyn. Mae'n anodd dirnad pa mor echrydus mae'r menywod yma wedi cael eu trin, gyda milwyr o Rwsia yn dweud wrth rai ohonynt mai eu bwriad yw eu treisio i'r pwynt lle na fyddent eisiau cysylltiad rhywiol ag unrhyw ddyn, i'w hatal rhag cael plant o Wcráin.
Mae nifer o elusennau wedi bod yn anfon tabledi erthylu meddygol a thabledi atal cenhedlu brys, y morning-after pill, i ardaloedd yn Wcráin sydd wedi eu heffeithio fwyaf. Yn amlwg, fe fydd rhai menywod fydd yn dod i Gymru am noddfa wedi dioddef trais. Fel rhan o'n cyfraniad cymorth dyngarol, pa gefnogaeth sydd wedi ei roi i fenywod sydd wedi eu treisio sydd yn parhau i fod yn Wcráin a hefyd i'r rhai sydd neu a fydd yn dod i Gymru?
Diolch yn fawr, Heledd Fychan, a diolch i chi am godi'r mater pwysig yna hefyd. Yr erchyllterau—nos ar ôl nos, dyna yw'r hyn yr ydym ni wedi'i weld, erchyllterau'r troseddau, troseddau rhyfel a threisio menywod. Mae hyn yn rhywbeth sy'n hanfodol bwysig, y gallwn ni ei gefnogi, ond hefyd cael y dystiolaeth. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn rhoi sylw iddo hefyd o ran sicrhau ein bod yn cael y cyhuddiad hwnnw, fel y daw, o ran erchyllterau'r troseddau rhyfel gan filwyr Rwsia yn Wcráin.
Ond hefyd rydych chi'n gwneud pwynt mor allweddol, nid yn unig y maen nhw'n dod—. Menywod a phlant yn bennaf sy'n dod yma fel ein ffoaduriaid ni, felly mae hynny'n golygu eu bod yn dod gyda'r cyfan y maen nhw wedi'i brofi a'u colledion—mae eu dynion ar y rheng flaen—eu profiadau, a gyda'u plant. Ond hefyd, pan fyddan nhw'n dod yma, mae angen iddyn nhw gael mynediad i'r cwnsela hwnnw, y gefnogaeth honno, ein gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Hefyd, mae hynny'n ei gwneud mor bwysig ein bod wedyn yn gallu rhoi sicrwydd iddyn nhw y byddwn ni yn eu diogelu pan fyddan nhw'n dod i Gymru.
Diolch i'r Gweinidog.