2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 4 Mai 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Pa ymgysylltiad a gawsoch â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer y DU ynghylch eu cyhoeddiad ar 15 Mawrth y bydd £135 miliwn ychwanegol yn cael ei wario ar y sector cymorth cyfreithiol bob blwyddyn i gyd-fynd â'r argymhellion a wnaed gan adolygiad annibynnol o'r system, dan oruchwyliaeth Syr Christopher Bellamy CF, a fydd, ar ben y £200 miliwn ychwanegol blynyddol i gyflymu'r system llysoedd, yn golygu bod cyfanswm cyllid y trethdalwr ar gyfer amddiffyn troseddol yn £1.2 biliwn y flwyddyn?
Diolch am y cwestiwn hwnnw, ac mae'n faes pwysig, cymorth cyfreithiol, ac yn rhywbeth yr ydym wedi'i drafod yn y Siambr hon droeon, oherwydd ei bwysigrwydd mewn perthynas â mynediad at gyfiawnder. Ac wrth gwrs, rwy'n croesawu unrhyw gynnydd yn y cyllid sy'n mynd tuag at gymorth cyfreithiol, ac rwy'n croesawu hefyd y cynigion ychwanegol ar gyfer newid y trefniadau prawf modd i wneud mynediad at gymorth cyfreithiol yn haws.
Wedi dweud hynny, mae ymgynghoriad ar y gweill ar hyn o bryd ac mae cryn bryder nad yw Llywodraeth y DU, mewn cryn nifer o rannau o'r argymhellion gan yr Arglwydd Bellamy, wedi gwneud yr ymrwymiadau yr oedd disgwyl iddi eu gwneud eto. Ac wrth gwrs, mae hyn wedi arwain at—. Rwy'n credu mai'r awgrym gan aelodau o'r proffesiwn cyfreithiol yw y byddant yn rhoi camau cyfreithiol ar waith.
Rwyf wedi codi'r mater hwn ar bob cyfle a gefais gyda'r Gweinidog cyfiawnder perthnasol, sydd, wrth gwrs, wedi ymddiswyddo yn ddiweddar. Felly, er fy mod yn croesawu peth gwelliant, rwy'n credu bod llawer i'w wneud eto ac mae cryn ansicrwydd o hyd ynghylch yr hyn a fydd yn ganlyniad i ymrwymiad Llywodraeth y DU. Yn fy marn i, nid oedd argymhellion Bellamy hyd yn oed yn mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael â'r anialdiroedd cyngor sydd gennym. Mae'n amlwg fod cymorth cyfreithiol yn tanariannu'n sylweddol y cwmnïau hynny sy'n gweithio'n fwyaf arbennig gyda chymorth a chyngor cyfreithiol mewn cymunedau. Ond mae hwn yn fater y byddaf yn dod yn ôl ato ac yn ei godi yn y Senedd hon ar gam diweddarach pan fyddwn yn gwybod canlyniad llawn ymgynghoriad Llywodraeth y DU a'r argymhellion y mae'n bwriadu eu cyflwyno.
Diolch. Wel, fe gyfeirioch chi, ymhlith pethau eraill, at groesawu dileu'r prawf modd, ond sut rydych yn ymateb i'r ffaith eich bod wedi'i gynnwys yng nghyhoeddiad mis Mawrth am gyllid i sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn cael eu talu'n well am y gwaith y maent yn ei wneud mewn gwirionedd, a helpu i ryddhau capasiti yn y llys; cynyddu tâl cyfreithwyr sy'n cynrychioli pobl a ddrwgdybir mewn gorsafoedd heddlu; rhoi cyfle i fwy o bobl ddilyn gyrfa mewn cyfraith trosedd, beth bynnag fo'u cefndir; mynediad agored at gymorth cyfreithiol sifil i tua 2 filiwn yn fwy o bobl yng Nghymru a Lloegr, a chael gwared ar y prawf modd, fel y dywedoch chi, yn gyfan gwbl i rai ymgeiswyr, yn enwedig er budd dioddefwyr cam-drin domestig sy'n dadlau ynghylch perchnogaeth tai; dileu'r cap ariannol ar gymhwysedd ar gyfer diffynyddion Llys y Goron; darparu mynediad at gymorth cyfreithiol troseddol i 3.5 miliwn yn fwy o bobl yng Nghymru a Lloegr yn y llys ynadon; ac am y tro cyntaf erioed, darparu cynrychiolaeth gyfreithiol am ddim i bob plentyn dan 18 oed ac i rieni sy'n herio meddygon ynghylch rhoi diwedd ar driniaeth cynnal bywyd i'w plentyn, a chymorth cyfreithiol am ddim i deuluoedd mewn cwestau lle gallai hawliau dynol fod wedi'u torri?
Wel, diolch ichi am y cwestiwn pellach hwnnw. Wrth gwrs, mae'n cyflwyno cymorth cyfreithiol o fewn cyd-destun nad yw'n bodoli mewn gwirionedd, oherwydd nid oes gan y rhan fwyaf o bobl, ac yn sicr nid oes gan rai o'r bobl dlotaf yn ein cymdeithas, fynediad at lawer o feysydd cyfiawnder y dylent gael mynediad atynt.
Mae'n debyg, fel man cychwyn, fod unrhyw welliant yn welliant, ond mae'n rhaid gosod hyn yng nghyd-destun y toriadau enfawr mewn cymorth cyfreithiol ers i'r Ceidwadwyr ddod i rym yn 2010, i'r graddau bod y system cymorth cyfreithiol wedi'i thanariannu'n aruthrol; mae llawer o feysydd hawliau cyfreithiol nad ydynt yn bodoli mwyach; ac mae llawer o gwmnïau yn ddi-os yn anhyfyw'n fasnachol bellach oherwydd eu dibyniaeth ar gymorth cyfreithiol. Mae argymhellion yr Arglwydd Bellamy yn ceisio gwella hynny. Felly, mae unrhyw welliant yng nghyfraddau cyflogau cyfreithwyr sy'n gwneud gwaith cymorth cyfreithiol, unrhyw ehangiad, unrhyw welliant mewn perthynas â hawliau cymorth cyfreithiol a'r prawf modd, yn welliant, ond plastr yn unig ydyw o hyd o ran darparu cynllun cymorth cyfreithiol a ariennir yn briodol ac nid yw'n gwneud iawn mewn unrhyw fodd am y toriadau difrifol iawn a welwyd mewn cymorth cyfreithiol dros y 12 mlynedd diwethaf, sydd, i raddau helaeth, wedi cyfyngu ar hygyrchedd cymorth cyfreithiol a'r hawl i gael cyngor cyfreithiol i lawer o rannau o'n cymunedau sy'n dibynnu arno fwyaf.
Wel, yn ôl fy ngeiriadur i, credaf eich bod yn cyfeirio at 'gyni', sy'n cael ei ddiffinio fel bod heb ddigon o arian, ac fel y cyfryw, etifeddiaeth ydoedd, nid dewis, ond mae penderfyniadau anodd wedyn wedi galluogi'r gwelliannau sy'n cael eu cyhoeddi yn awr. Ac rwy'n cytuno â chi, gobeithio y bydd gwelliannau pellach, wrth inni edrych ymlaen at y blynyddoedd i ddod.
Ond roedd ôl-groniad y llysoedd yn uwch ym mlwyddyn olaf Llywodraeth Lafur y DU na'r hyn ydoedd o dan Lywodraeth Geidwadol y DU cyn dechrau'r pandemig. Sut rydych wedi ymgysylltu'n gadarnhaol â chyhoeddiad Llywodraeth y DU ar 21 Ebrill y bydd llysoedd yn parhau i weithio ar gapasiti llawn am ail flwyddyn i gyflymu cyfiawnder i ddioddefwyr, gyda'r cap ar y diwrnodau y cynhelir achosion yn cael ei godi am flwyddyn arall? Mae hyn yn rhan o lu o fesurau i leihau ôl-groniadau yn y llysoedd, lle bydd y buddsoddiad yn golygu y gellir cynnal mwy o dreialon, gan sicrhau cyfiawnder yn gynt a lleihau'r ôl-groniad o achosion, a gododd yn sylweddol yn ystod y pandemig—[Torri ar draws.]—lle'r oedd yr un penderfyniad y llynedd yn golygu bod achosion wedi'u cynnal ar bron i 17,000 yn fwy o ddiwrnodau yn Llys y Goron nag yn y flwyddyn cyn y pandemig. Ac mae hyn ochr yn ochr â'r gwaith i ymestyn 30 o lysoedd Nightingale tan fis Mawrth 2023—byddwn yn derbyn ymyriad pe na bai'n sesiwn gwestiynau, ond rhaid imi gadw at y cwestiynau—gwrandawiadau digidol, a'r buddsoddiad sylweddol uwch ar gyfer cymorth cyfreithiol troseddol.
Diolch ichi am y gyfres bellach honno o gwestiynau. Mae ôl-groniadau yn y llysoedd yn sicr yn rhywbeth sydd, yn ystod y degawd diwethaf, wedi dirywio'n sylweddol. Fel y dywedaf, yn yr un modd, mae'r mynediad at gyfiawnder, argaeledd cyfreithwyr mewn rhai ardaloedd, wedi dod yn fwyfwy anodd hefyd. Diau hefyd fod penderfyniad Llywodraeth y DU i gau llysoedd, a'r llysoedd ynadon yn enwedig, wedi gwaethygu'r mater penodol hwnnw.
Mewn perthynas ag ôl-groniadau yn ystod cyfnod COVID, yn sicr yng Nghymru, o'r holl adroddiadau rwyf wedi'u cael—gan gyfreithwyr, gan y farnwriaeth, a chan y rhai sy'n gweithio yn y llysoedd—hwn oedd un o'r meysydd mwyaf llwyddiannus, a hynny'n rhannol oherwydd gallu'r llysoedd a'r rhai sy'n gweithio yn y llysoedd ac yn eu defnyddio i gydweithio yng Nghymru er mwyn sicrhau bod achosion yn parhau i gael eu clywed.
Nawr, o ran achosion troseddol difrifol, ceir nifer sylweddol iawn o ôl-groniadau y mae angen mynd i'r afael â hwy o hyd. Mae llawer o'r rhain na ellir mynd i'r afael â hwy drwy ddigideiddio; mae materion moesegol arwyddocaol iawn yn codi ynghylch digideiddio. Ond yn sicr yn system y tribiwnlysoedd, sydd o fewn awdurdodaeth Llywodraeth Cymru, mae cael gwrandawiadau digidol, gwrandawiadau ar-lein, yn sicr wedi bod yn llwyddiannus iawn er mwyn sicrhau bod y tribiwnlysoedd hynny'n parhau i weithredu. Ac rwy'n sicr yn cymeradwyo pawb sydd wedi gweithio o fewn y system benodol honno.
Credaf fod y broblem gydag ôl-groniadau mewn llysoedd yn deillio o danariannu sylweddol mewn perthynas â chyfiawnder, yn mynd yn ôl ddegawdau lawer, ac rwy'n cyfaddef y pwynt penodol hwnnw. Credaf ei fod wedi'i waethygu'n arbennig dros y 10 mlynedd diwethaf, a chredaf y byddwch yn ymwybodol—ni sonioch chi amdano, ond fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs—fod materion pwysig yn codi yn awr mewn perthynas ag ystad llysoedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder a safon honno, addasrwydd ein llysoedd, ac nid yw'n llai pwysig nag ystad y ganolfan cyfiawnder sifil yng Nghaerdydd, sy'n rhywbeth y mae taer angen mynd i'r afael ag ef.
Cwestiynau nawr gan lefarydd Plaid Cymru, Rhys ab Owen.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ddiwedd mis Mawrth, cafodd datganiad Llywodraeth Cymru ar fwrw ymlaen ag argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar Dribiwnlysoedd Cymru ei dynnu'n ôl. Pryd y gwneir y datganiad yn awr, ac a all y Cwnsler Cyffredinol warantu i mi y bydd y datganiad yn darparu cerrig milltir allweddol, gydag arweiniad a chyfeiriad clir ac atebol? Diolch.
Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn. A gallaf ddweud wrthych fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau wedi bod yn gweithio'n agos iawn ar ystod eang o faterion cyfiawnder ar draws ein dau bortffolio—nid yn unig ym maes cyfiawnder deddfwriaethol, ond hefyd ym maes cyfiawnder economaidd-gymdeithasol. Oherwydd rwy'n meddwl ein bod yn credu'n gryf iawn fod cyfiawnder economaidd-gymdeithasol a chyfiawnder cyfreithiol yn mynd law yn llaw. Credaf y bydd rhai o'r problemau'n ymwneud â datganoli cyfiawnder yn cael sylw mewn gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac rydym yn gobeithio ei gyhoeddi'n fuan. Felly, nid yw'n barod eto, ond nid yw'n bell o fod. Rwy'n credu y bydd hwnnw hefyd yn cyfeirio'n benodol iawn at argymhellion Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd, a gallaf eich sicrhau bod diwygio tribiwnlysoedd yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried i raddau helaeth a bydd yn rhan o'r cyflwyniad eang ar gyfiawnder y gobeithiwn ei wneud o fewn ychydig wythnosau.
Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Hoffwn ganolbwyntio yn awr ar Dribiwnlysoedd Cymru. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi cael sawl adroddiad yn awr sy'n argymell gwahanu uned Tribiwnlysoedd Cymru oddi wrth Lywodraeth Cymru, ac mae hyn, mewn gwirionedd, wedi'i gymeradwyo gennych chi a Llywodraeth Cymru. Ond yn hytrach na sefydlu adran anweinidogol, pam fod uned Tribiwnlysoedd Cymru wedi'i symud o swyddfa'r Prif Weinidog i adran yr economi, masnach a'r cyfansoddiad? Ac ar gyfleusterau, fe sonioch chi am ddiffyg cyfleusterau mewn perthynas â'r llys. Mae prydles yr unig gyfleuster ar gyfer tribiwnlysoedd datganoledig, Oak House, yn dod i ben y flwyddyn nesaf. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau cyfleusterau digonol ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru?
Mae hwnnw'n bwynt teg iawn. Fel rhan o'r broses o ddiwygio'r system dribiwnlysoedd, rydym eisiau sicrhau bod gwahaniad barnwrol ac annibyniaeth briodol i'r system honno, ond hefyd fod gan y tribiwnlysoedd y cyfleusterau priodol sy'n angenrheidiol iddynt gael eu hystyried yn llysoedd priodol, i ennyn parch llysoedd priodol, ac i gael y cyfleusterau priodol i'r rhai sy'n cymryd rhan ynddynt. Mae hynny'n cael ei ystyried a'i adolygu, a bydd yn rhan o'r hyn y cyfeiriais ato'n gynharach gyda ein hadolygiad ehangach o'r system gyfiawnder gyffredinol yng Nghymru, argymhellion comisiwn Thomas a materion yn ymwneud â datganoli cyfiawnder.