– Senedd Cymru am 3:58 pm ar 10 Mai 2022.
Symudwn ymlaen i eitem 6, datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar etholiadau llywodraeth leol. Galwaf ar y Gweinidog, Rebecca Evans.
Diolch. Ar ran Llywodraeth Cymru, fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi bod â rhan yng ngweithrediad didrafferth etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru'r wythnos diwethaf, a phob unigolyn a safodd i gynrychioli ei gymuned. Fe hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am yr etholiadau hefyd a sut y byddwn ni'n bwrw ymlaen yn ein perthynas ni â'r awdurdodau lleol yn ystod y misoedd nesaf.
Y rhain oedd yr etholiadau llywodraeth leol cyntaf ers i ni ymestyn y fasnachfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed a rhai cymwys o wledydd tramor, gan roi cyfle iddyn nhw fod â rhan mewn democratiaeth a bywyd dinesig yng Nghymru. Mae hon yn garreg filltir bwysig yn ein huchelgais ni ar gyfer etholiadau sy'n fwy hygyrch. Fe wnaethom ni gefnogi cynlluniau treialu hefyd ar gyfer pleidleisio hyblyg yn etholiadau'r wythnos diwethaf, a gynhaliwyd mewn pedwar awdurdod lleol. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r pedwar awdurdod a ddaeth i'r adwy a chytuno i weithio gyda ni ar y cynlluniau treialu hyn: Blaenau Gwent, Caerffili, Tor-faen a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae hwn wedi bod yn bod yn batrwm o gynhyrchu gyda'n gilydd. Er mai'r awdurdodau oedd yn gyfrifol am gyflwyno'r cynlluniau treialu, fe'u cefnogwyd nhw gan y gymuned etholiadol gyfan wrth gynllunio'r modelau treialu a chynllunio ar gyfer cyflawni. Fe geir arwyddion cynnar sy'n awgrymu bod y rhain wedi gweithio yn dda, ac rydym ni'n edrych ymlaen at werthusiad annibynnol y Comisiwn Etholiadol yn ystod y misoedd nesaf. Fe fydd hwnnw'n helpu ni i nodi'r mannau lle gallwn ni leihau mwy o'r rhwystrau rhag cymryd rhan mewn etholiadau. Mae lleihau'r oedran ar gyfer pleidleisio ac ymestyn yr etholfraint i bawb sy'n byw yng Nghymru yn datgan yn eglur ein bod ni'n Llywodraeth sy'n cefnogi ac yn annog amrywiaeth yn ein democratiaeth leol. Mae amrywiaeth ymhlith ein cynrychiolwyr etholedig lleol yn hanfodol i sicrhau bod barn ac anghenion pawb yn cael eu lleisio, ac yn cyfoethogi penderfyniadau lleol.
Roedd cynyddu amrywiaeth mewn democratiaeth leol yn un o themâu craidd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Fe fydd darpariaethau gan gynnwys rhannu swyddi ar gyfer aelodau gweithredol a chynorthwywyr yn dod i rym ar gyfer y gweinyddiaethau llywodraeth leol newydd. Rydym ni eisoes wedi gweithredu'r ddarpariaeth barhaol yn Neddf 2021 sy'n galluogi prif gynghorau a chynghorau tref a chymuned i gyfarfod o bell, sy'n cefnogi aelodau sydd mewn cyflogaeth amser llawn, sydd â chyfrifoldebau gofalu, neu sy'n ei chael hi'n anodd teithio. Ac mae'r darpariaethau hyn wedi cael eu defnyddio a'u croesawu yn eang.
Am y tro cyntaf mewn etholiadau lleol yng Nghymru, fe wnaethom ni agor mynediad at gronfa sefyll mewn etholiad i gefnogi ymgeiswyr anabl. Rwy'n falch iawn o ddweud bod tua 20 o ymgeiswyr wedi cael cymorth drwy'r gronfa hon. Rydym ni'n archwilio erbyn hyn sut y gallwn ymestyn y gronfa i gefnogi pobl â nodweddion gwarchodedig eraill. Rydym ni wedi cymryd camau hefyd i sicrhau nad oes rhaid i gyfeiriadau ymgeiswyr ac aelodau etholedig fod ar gael i'r cyhoedd. Mae hyn wedi cael croeso eang ar gyfer sicrhau bod ymgeiswyr, aelodau a'u teuluoedd yn cael rhywfaint o amddiffyniad rhag y cam-drin ofnadwy sydd, yn anffodus, yn llawer rhy gyffredin.
Rydym ni wedi gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru i hyrwyddo pwysigrwydd a manteision bod yn gynghorydd lleol ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio yn agos gyda nhw. Gyda'n gilydd, fe wnaethom ni gynhyrchu amrywiaeth o ddeunyddiau i gefnogi a rhoi gwybodaeth i ddarpar ymgeiswyr. Dyma enghraifft arall o'r ffordd yr ydym ni wedi gweithio gyda llywodraeth leol ac mae hyn yn tystiolaethu i'r berthynas waith gref a chadarnhaol rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Yn ystod pandemig COVID-19, ac yn fwy diweddar fel cenedl noddfa wrth ymateb i'r digwyddiadau ofnadwy yn Wcráin, rydym ni wedi gweld pwysigrwydd y berthynas honno ar waith, a chadernid drwy ddatblygu atebion ar y cyd.
Rwyf i wedi ymrwymo i barhau i adeiladu ar y berthynas hon, a pharhau i weithio gyda'n gilydd i wynebu heriau'r dyfodol er mwyn pobl Cymru. Yn tystio i'r bartneriaeth hon, mae'r cynghorau sydd newydd eu hethol yma'n troi at eu dyletswyddau newydd gyda chefnogaeth oddi wrth y setliad llywodraeth leol mwyaf grymus a fu ers blynyddoedd lawer. Gan ein bod ni wedi dewis blaenoriaethu llywodraeth leol a gwasanaethau iechyd yng nghyllideb Cymru, fe ddarparwyd £5.1 biliwn i awdurdodau lleol eleni mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i ddarparu gwasanaethau allweddol—cynnydd o 9.4 y cant. Rydym ni hefyd yn darparu dros £1 biliwn mewn grantiau refeniw penodol a bron i £0.75 biliwn o bunnau mewn cyllid cyfalaf penodol.
Fe wn i fod risgiau ac effeithiau chwyddiant ac economi sy'n arafu yn golygu bod yr heriau yn parhau i'n cynghorau ni, ond fe allan nhw ymateb i'r heriau hynny gyda sylfaen ariannol sy'n fwy cadarn, a mwy o sicrwydd o gyllideb tair blynedd ddangosol, a chefnogaeth Llywodraeth sy'n gwerthfawrogi ac yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol yn benodol. Rwy'n edrych ymlaen at siarad yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol CLlLC ar 24 Mehefin a chynhadledd CLlLC ym mis Medi i drafod ein blaenoriaethau ar y cyd ni ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon. Diolch.
A gaf i ymddiheuro am fod ychydig funudau yn hwyr yn cyrraedd? Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod trefn agenda'r prynhawn yma wedi cael ei newid. Ymddiheuriadau, Gweinidog.
A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, hefyd, am gyflwyno datganiad adeiladol heddiw ynglŷn â'r etholiadau llywodraeth leol, a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf? Fe hoffwn innau ymuno â chi i ddiolch i bawb a fu â rhan yng ngweithrediad rhwydd etholiadau'r wythnos diwethaf, o'r swyddogion hynny a fu'n monitro hynny i'r rhai hynny a fu'n cyfrif yn y gorsafoedd cyfrif. Rwy'n siŵr bod llawer o Aelodau yn y Siambr heddiw wedi bod yn bresennol yn y cyfrifiadau hynny'r wythnos diwethaf ac fe gefais i argraff dda ar y broses etholiadol yn gyffredinol, gan weld gwaith ac ymroddiad eithriadol pawb a fu'n gwneud y broses yn llwyddiant mor fawr. Fe hoffwn i ymuno â'r gweinidog i ddiolch i bob un hefyd a fu'n sefyll mewn etholiad, gan gynnwys y rhai, wrth gwrs, a fu'n ddigon ffodus i gael mandad i gynrychioli cymunedau lleol, a hefyd, y rhai a safodd ond heb fod yn llwyddiannus, yn anffodus. Mae hi'n bwysig iawn bod amrywiaeth o bobl gennym ni'n sefyll mewn etholiad er mwyn cael democratiaeth sy'n weithredol, ac, wrth gwrs, ymgeiswyr yn ddigon dewr i leisio barn, rhywbeth nad yw'n hawdd ei wneud bob amser.
Fel gwnaethoch chi amlinellu yn eich datganiad chi, Gweinidog, yn etholiad yr wythnos diwethaf, fe welsom ni gynlluniau treialu ar gyfer pleidlais hyblyg yn digwydd mewn pedair ardal awdurdod, ac, fel yr ydych chi'n dweud, fe geir argoel fod hynny wedi gweithio yn dda. Eto i gyd, ar gyfer etholiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, rwy'n deall mai dim ond tua 180 o bobl a fanteisiodd ar yr etholiadau cynnar hynny mewn 68 o wardiau. Os yw hynny'n gywir, fe fyddai'n dangos mai dim ond tri o bobl fesul ward a fanteisiodd ar hyn. I ddechrau, yn fy marn i, nid yw hi'n ymddangos bod hynny'n cynnig gwerth da am arian o ran y buddsoddiad angenrheidiol i'w weithredu. Ac fel yr ydych chi'n dweud, rydych chi'n edrych ymlaen at werthusiad annibynnol y Comisiwn Etholiadol yn ystod y misoedd nesaf yn hyn o beth, ond tybed a fyddech chi'n rhoi mwy o ddealltwriaeth i ni heddiw ynglŷn â sut yr aeth y cynlluniau treialu hyn ac a ydych chi'n rhagweld y gellir eu defnyddio nhw mewn etholiadau i'r cynghorau yn y dyfodol.
Yn ail, Gweinidog, yn eich datganiad chi roeddech chi'n sôn bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau nad oes rhaid i gyfeiriadau ymgeiswyr nac aelodau etholedig fod ar gael i'r cyhoedd. Wrth gwrs, mae hyn i'w groesawu o ran diogelu'r ymgeiswyr a'r cynghorwyr, ac mae hwn yn faes y gwnaethom ni ei drafod yn y Siambr yn flaenorol. Yn ogystal â hynny, rwy'n croesawu eich gwaith parhaus chi gyda CLlLC i hyrwyddo urddas a manteision bod yn gynghorydd lleol. Serch hynny, fe welsom ni 74 o seddi heb ymgeiswyr yn etholiadau'r wythnos diwethaf, sy'n dangos bod pobl yn poeni o hyd am gyflwyno eu hunain i'w hethol oherwydd weithiau, a dweud y gwir, mae gwawdio a bwlio yn wynebu ymgeiswyr mewn etholiadau. Felly, tybed pa gamau penodol yr ydych chi'n bwriadu eu cymryd i leihau gwawdio a bwlio fel hyn a sut ydych chi am weithio gyda'r ombwdsmon i sicrhau bod eu pwerau nhw'n ddigonol i fynd i'r afael â'r mater hwn hefyd.
Ac yn olaf, Gweinidog, rhywbeth na wnaethoch chi ei godi yn eich datganiad chi heddiw yw'r niferoedd a fu'n pleidleisio yn etholiadau'r wythnos diwethaf. Fel y gwyddom ni, mae'r niferoedd sy'n pleidleisio yn dal i fod yn isel iawn mewn etholiadau cyngor. Fe ellid priodoli rhywfaint o hynny i bobl nad ydyn nhw'n deall, efallai, holl swyddogaethau cynghorau a chynghorwyr yn narpariaeth ein gwasanaethau hanfodol ni. Felly, pa asesiad a wnaethoch chi o'r niferoedd a bleidleisiodd yn yr etholiadau a pha gamau yr ydych chi o'r farn y gellir eu cymryd i ganiatáu i fwy o'n dinasyddion ni yng Nghymru fod â rhan yn yr etholiadau pwysig iawn hyn yn y dyfodol? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn i Sam Rowlands am ei gyfraniad y prynhawn yma, ac, yn amlwg, rwy'n ategu ei sylwadau am y gwaith anhygoel a welsom ni i gyd, rwy'n credu, yn y cyfrifiadau yr aethom ni iddyn nhw, ac mae'r gofal y mae'r bobl sy'n ymwneud â'r cyfrifiadau hynny'n ei roi i'r dasg dan sylw yn brawf gwirioneddol o bwysigrwydd democratiaeth leol. Ac eto dim ond i ddweud 'diolch' i bawb a safodd. Fel y mae Sam Rowlands yn dweud, mae'n beth hynod ddewr i'w wneud, yn enwedig yn yr hinsawdd ar hyn o bryd o ran y gwawd y mae llawer o bobl yn ei wynebu pan fyddan nhw'n ddigon dewr i gynnig eu hunain i gynrychioli eu cymunedau, ond mae hi'n hynod siomedig os ydych chi'n aflwyddiannus. Felly, 'diolch' enfawr i bawb a roddodd ddewis i bobl yn y cymunedau o leiaf, sy'n bwysig yn fy marn i, ac mae hynny'n ategu'r pwynt pwysig hwnnw ynglŷn â seddau lle ceir dim ond un ymgeisydd.
Gwyddom fod ymchwil Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru yn dweud bod 74 sedd â dim ond un ymgeisydd y tro hwn; mae hynny'n 6 y cant. Mae'n ostyngiad bach ar y 92 sedd neu 7.3 y cant yn etholiadau 2017, ond mae'n dal i fod yn rhy uchel, rwy'n credu. Mae'n bwysig bod pobl yn cael y cyfle hwnnw i weld democratiaeth yn fyw yn eu cymunedau a chael dewis o ymgeiswyr. Felly, rwy'n credu bod gwaith i ni ei wneud i barhau i ennyn brwdfrydedd pobl ynghylch potensial swydd cynghorydd, oherwydd bydd y gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a gydag Un Llais Cymru, mewn gwirionedd, o ran cynghorau tref a chymuned, yn bwysig.
O ran y nifer sy'n pleidleisio, mae'n amlwg bod y nifer sy'n pleidleisio bob amser yn llai nag y byddech chi eisiau iddo fod; byddech chi eisiau gweld cynifer o bobl â phosibl yn dod i bleidleisio yn yr etholiadau hyn, oherwydd rwy'n credu bod pobl, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn enwedig, wedi gweld gwir werth llywodraeth leol a'r hyn y gall llywodraeth leol ei gyflawni ar eu cyfer yn eu cymunedau. Felly, rwy'n credu y bydd y nifer sy'n pleidleisio bob amser yno fel her i ni fel gwleidyddion, ond hefyd i'n pleidiau gwleidyddol hefyd, i weld beth arall y gallwn ni fod yn ei wneud i ysgogi democratiaeth yn lleol ac i ennyn brwdfrydedd pobl i gymryd rhan yn hynny.
O ran y cynlluniau treialu, rwy'n credu ei bod yn rhy gynnar i roi blas gwirioneddol ar y cynlluniau treialu heddiw, oherwydd mae'n gynnar iawn, ond mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Comisiwn Etholiadol werthuso'r cynlluniau treialu hynny, a byddan nhw'n cyhoeddi eu hadroddiad o fewn tri mis i'r etholiad. Yr arwyddion cynnar yw bod y cyfan wedi bod yn llwyddiannus heb unrhyw faterion gweithredol, ond nid ydym yn gwybod eto beth yw'r ffigurau ar gyfer pobl a bleidleisiodd yn y cynlluniau treialu. Ym Mlaenau Gwent defnyddiwyd parth dysgu Glynebwy a leolir yn ganolog fel gorsaf bleidleisio ymlaen llaw ar gyfer holl drigolion y sir, ac roedd hynny'n cynnwys myfyrwyr y coleg, yn ystod yr wythnos cyn diwrnod yr etholiad. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd y gorsafoedd pleidleisio mewn rhai wardiau â nifer isel yn pleidleisio ar agor ar gyfer pleidleisio ymlaen llaw yn ystod yr wythnos cyn y diwrnod pleidleisio, a chrëwyd canolfan bleidleisio ymlaen llaw newydd mewn ysgol ar gyfer myfyrwyr a oedd wedi'u cofrestru yn yr ysgol honno. Ac yna yng Nghaerffili, sef yr enghraifft y cyfeiriwyd ati, defnyddiwyd swyddfeydd y cyngor yn Ystrad Mynach fel canolfan bleidleisio ymlaen llaw ar gyfer holl drigolion y sir ar y penwythnos cyn y diwrnod pleidleisio. Ac yna yn Nhorfaen defnyddiwyd swyddfeydd y cyngor ym Mhont-y-pŵl fel canolfan bleidleisio ymlaen llaw ar gyfer holl drigolion y sir ar y penwythnos cyn y diwrnod pleidleisio hefyd. Felly, ar draws y pedwar cynllun treialu hynny roedd rhai pethau gwahanol a brofwyd, ac rwy'n credu y bydd yn ddiddorol cymharu canlyniadau'r cynlluniau treialu hynny.
Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn dysgu o'r cynlluniau treialu hynny—a wnaethon nhw ennyn brwdfrydedd pobl i ddod na fydden nhw fel arfer yn pleidleisio? A oedd yn gwneud pleidleisio'n haws, neu a oedd yn gwneud pleidleisio'n fwy cyfleus i bobl a oedd eisoes yn bwriadu dod i bleidleisio? Felly, bydd hynny'n brawf diddorol o'r cynlluniau treialu hynny. Cynhaliodd y Comisiwn Etholiadol arolygon o bobl wrth iddyn nhw adael y gorsafoedd treialu hynny, felly dylem ni fod â darlun eithaf manwl o bwy a ddaeth i'r gorsafoedd hynny, a pham a beth yr oedden nhw'n ei deimlo am y profiad, a fydd yn ein helpu i ddatblygu polisi ar gyfer etholiadau eraill.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Mae canlyniadau wythnos diwethaf yn fy marn i yn tanlinellu unwaith eto fod y gyfundrefn cyntaf i'r felin o safbwynt pleidleisio ddim yn gweithio. Dŷn ni wedi gweld enghraifft yng Nghaerdydd fan hyn o Blaid Cymru'n cael 17 y cant o'r bleidlais ac yn ennill dwy sedd, a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael 13 y cant o'r bleidlais ac yn ennill 10 sedd. Nawr, dwi ddim yn gwneud pwynt pleidiol wleidyddol fan hyn, achos dwi'n gwybod mi fyddai yna rannau eraill o Gymru lle byddai fy mhlaid i ar ei cholled petaem ni yn mabwysiadu system fwy cyfrannol, ond a fyddech chi, Gweinidog, yn cytuno â fi ei bod hi nawr yn amser inni symud unwaith ac am byth o'r gyfundrefn cyntaf i'r felin, fel rŷn ni, gobeithio, yn mynd i weld fan hyn fel Senedd? Dwi'n gwybod bod yna fodd i awdurdodau lleol fabwysiadau modelau mwy cyfrannol, ond pan fo un blaid yn ennill dwy ran o dair o seddi yng nghyngor y brifddinas lle rŷn ni heddiw, does yna ddim cymhelliad yn fanna i newid y gyfundrefn, oes e? Felly, beth ŷch chi fel Llywodraeth yn mynd i'w wneud i fod yn fwy rhagweithiol i wneud i'r newid yma ddigwydd, yn hytrach na jest gadael i'r awdurdodau lleol ddewis a dethol ac efallai yn y diwedd bydd rhai yn, rhai ddim a bydd hynny'n waeth nag unrhyw beth. Felly, byddwn i'n licio clywed eich ymateb chi i hynny.
Dwi'n meddwl mai stori fawr yr etholiadau lleol yr wythnos diwethaf yw'r creisis sydd wedi amlygu ei hun o safbwynt cynghorau bro a thref yng Nghymru. Mae'r niferoedd isel eithriadol o bobl oedd wedi eu rhoi eu hunain ymlaen, yn sicr yn yr ardal dwi'n byw ynddi ac yn ei hadnabod orau, wedi fy mrawychu i, a dweud y gwir, a chyn lleied o gynghorau bro a thref oedd ag unrhyw fath o etholiadau. Wrth gwrs, beth rŷn ni'n gweld yw niferoedd llai a llai, felly, yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad a bod y rheini wedyn yn gallu cyfethol mwy a mwy o bobl sy'n dwysau y deficit democrataidd rŷn ni eisiau mynd i'r afael ag e. Dwi ddim yn gwybod a oes bwriad gyda chi fel Llywodraeth i edrych yn benodol ar hyn. Yn amlwg, mae angen edrych ar a dadansoddi rhai o'r ffigurau, ond dwi hefyd eisiau deall beth yw'r rhesymau pam fod cyn lleied o bobl nawr eisiau rhoi eu hunain ymlaen ar gyfer y ffas lo agosaf sydd gennym ni i'n cymunedau, y lefel bwysicaf, gallech chi ddadlau, mewn sawl ffordd yn hynny o beth.
A hefyd, wrth gwrs, rŷch chi fel Llywodraeth wedi creu statws ar gyfer cynghorau cymuned cymwys—eligible community councils—lle mae gofyn bod dwy ran o dair o'r cyngor wedi cael ei hethol i fod yn gymwys. Felly, ble mae hwnna'n gadael y cynghorau hynny lle does dim digon o bobl wedi rhoi eu hunain ymlaen, a beth ŷch chi'n meddwl yw'r oblygiadau iddyn nhw yn hynny o beth?
Dwi hefyd yn croesawu'r ffaith bod dim rhaid cyhoeddi cyfeiriadau ymgeisyddion, ond mae yna broblem, dwi'n meddwl, yn mynd i godi yn sgil hynny nawr, oherwydd mae rhai ymgeisyddion yn cyhoeddi a rhai ddim. I'r rhai sydd ddim, dwi'n ofni—beth roeddwn i'n ei glywed nôl gan etholwyr oedd, 'O, maen nhw'n trio cuddio'r ffaith eu bod nhw ddim yn byw yn lleol.' Dwi'n ofni bod y rhai oedd â rhesymau cwbl ddilys dros beidio â chyhoeddi eu cyfeiriad yn cael eu pardduo gan y dybiaeth annheg yna. Felly dwi ddim wedi meddwl yn ddigonol am hyn, ond efallai fod angen inni sicrhau bod neb yn cyhoeddi cyfeiriadau, rhag ofn bod rhai pobl yn cael eu pardduo oherwydd, efallai, fod rhai yn cuddio yn fwriadol am resymau etholiadol yn hytrach na rhesymau personol dilys.
Yn olaf, dwi'n falch, wrth gwrs, fod y Llywodraeth yn treialu dulliau gwahanol o safbwynt pleidleisio, a byddwn i eisiau gwneud mwy o hynny yn sicr, ond mae tyrnowt yn dal i ddisgyn mewn ardaloedd yn fwy na fydden ni'n dymuno. Mae e yn profi i fi, y ffaith bod y tyrnowt yn dal i ddisgyn, fod angen mynd llawer ymhellach na'r hyn rŷn ni wedi ei weld, a dwi'n siŵr bod bwriad gan y Llywodraeth i wneud hynny gydag amser, ond onid yw'r amser nawr wedi dod inni symud yn wirioneddol tuag at bleidleisio electronig? Mi oedd pobl 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio am y tro cyntaf. Roeddwn i'n siarad â nifer fawr ohonyn nhw wrth ymgyrchu, a, bron yn ddieithriad, y cwestiwn a oedd yn cael ei ofyn i fi oedd, 'Ydyn ni'n gallu gwneud hynny'n electronig?', 'Oes yna ap ar gyfer gwneud hynny?', a bob tro, roeddwn i'n gorfod dweud, 'Na. Rŷch chi'n gorfod ffeindio ffordd o fynd i'r blwch pleidleisio er mwyn taro'ch pleidlais ar bapur, gyda phensil.' Wel, chi'n gwybod, roedd yr edrychiad roeddwn i'n ei gael yn ôl cystal â dweud, 'Wel, ym mha oes ydyn ni'n byw?' Felly, beth yw bwriad y Llywodraeth nawr? Ydych chi o ddifrif ynglŷn â symud i'r cyfeiriad yma neu beidio? Gallaf i wneud fy nhrethi gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Mae yna gwestiynau diogelwch, wrth gwrs, ond, os gallaf i wneud pethau fel yna, dyw e ddim y tu hwnt i allu unrhyw un i symud i'r cyfeiriad yna, ac mae'r amser wedi dod i ni wneud hynny nawr.
Diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiynau hynny. O ran y dull o ethol a phleidleisio, rwy'n credu bod heddiw'n ddiwrnod pwysig o ran dyfodol y Senedd a'r ffordd y byddwn ni'n ethol Aelodau'r Senedd yn y dyfodol, o ystyried y cytundeb y mae ein dwy blaid wedi dod iddo a'r gwaith a fydd yn awr yn wynebu'r Senedd hon o ran craffu ar Fil maes o law, pan ddaw hwnnw gerbron.
Ond rwy'n gwybod mai prif bwynt Llyr Gruffydd oedd effaith y system cyntaf i'r felin ar lywodraeth leol a beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wneud i newid ddigwydd o ran symud i Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy mewn awdurdodau lleol, oherwydd, fel y gŵyr cyd-Aelodau, roedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn rhoi'r darpariaethau hynny i ganiatáu i'r prif gynghorau hynny ddewis eu system bleidleisio rhwng y system cyntaf i'r felin a'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy. Mae'r darpariaethau hynny bellach mewn grym, ond rwy'n credu mai dyma'r pwynt yma, mai safbwynt Llywodraeth Cymru yw mai mater i awdurdodau lleol yw dewis gwneud y newid hwnnw. Felly, ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud i'r newid ddigwydd, ond rwy'n credu bod swyddogaeth i sicrhau bod gan y cynghorwyr hynny a fydd yn awr o bosibl yn mynd i'r afael â'r cwestiwn hwn y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud penderfyniadau gwybodus am hynny, a chefais drafodaeth ddiddorol gyda'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol ar yr union bwynt hwnnw. Felly, rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru, os oes ganddi swyddogaeth y tu hwnt i osod y ddeddfwriaeth neu gyflwyno'r ddeddfwriaeth y mae'r Senedd wedi'i phasio, ei bod yn fwy o ran darparu gwybodaeth er mwyn i gynghorwyr allu gwneud y dewis iawn ar gyfer eu hardal leol. Rwy'n gwybod nad dyna'r ymateb y byddai Llyr Gruffydd eisiau ei glywed, ond byddwn yn rhoi ateb pendant i hwnnw.
Ac yna, o ran cynghorwyr tref a chymuned, ydy, mae hwn yn faes y mae'n parhau i fod yn siomedig nad oes gennym ni restr lawn o ymgeiswyr yn cyflwyno ei hunain ym mhob ardal, ac mae hyn i gyd yn rhan o'r gwaith sy'n gysylltiedig â dangos pwysigrwydd bod yn gynghorydd, o ran prif gynghorau ond hefyd cynghorau tref a chymuned, a'r effaith anhygoel y gallwch chi ei chael, mewn gwirionedd, pan fydd gennych gyngor tref a chymuned gwirioneddol dda yn eich ardal. Felly, mae angen i ni wneud mwy o waith i ddeall yr hyn sy'n atal pobl rhag cyflwyno eu hunain. Deallwn fod pobl yn pryderu am eu hymrwymiadau eraill, yr ymrwymiad amser sy'n gysylltiedig â bod yn gynghorydd tref a chymuned. Felly, mae llawer, rwy'n credu, y mae angen i ni barhau i'w archwilio yn y fan yna a byddaf yn gwneud hynny gydag Un Llais Cymru wrth i ni barhau i geisio gwella iechyd ein cynghorau tref a chymuned ledled Cymru, gan edrych at y rhai gorau hynny, mewn gwirionedd, am ysbrydoliaeth o ran sut y gallwn sicrhau bod pob cyngor tref a chymuned yn cyrraedd y lefel honno o uchelgais y mae rhai ohonyn nhw yn bendant yn ei dangos.
Ac yna, o ran y pwynt am gyfeiriadau ymgeiswyr, rwy'n credu ei bod yn debyg bod sgyrsiau pellach i'w cael o ran a ydym ni'n rhoi'r opsiwn hwnnw o gwbl ai peidio, oherwydd mae'r pwynt hwnnw a wnaeth Llyr Gruffydd yn un pwysig o ran beirniadu rhai ymgeiswyr am beidio â byw'n lleol. Mae'n haws i ni fel Aelodau o'r Senedd, oherwydd gallwn ni ddweud bod gennym gyfeiriad yn etholaeth Gŵyr, neu beth bynnag fo'r etholaeth, ond nid wyf i'n credu bod gan ymgeiswyr y dewis o roi'r ateb bod ganddyn nhw gyfeiriad yn y ward. Rwy'n gwybod eu bod wedi gallu nodi eu bod o fewn ardal y cyngor sir. Felly, mae rhywbeth, rwy'n credu, y gallwn ni edrych arno yn y fan yna, o bosibl, i wneud gwelliannau yn y dyfodol.
Ac yna, unwaith eto, llawer i'w ddysgu ar y cynlluniau treialu. Rwy'n credu, fel y dywedais, ei bod yn ymddangos bod pethau wedi mynd yn ddidrafferth, sy'n dda, ac edrychwn ymlaen yn fawr at yr ymchwil hwnnw gan y Comisiwn Etholiadol a fydd yn cael ei gyhoeddi ac bydd cyfleoedd, rwy'n siŵr, i ni drafod hynny fel Senedd.
Ac yna, o ran pleidleisio electronig, yn sicr, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni'n cymryd diddordeb arbennig ynddo. Rwy'n credu bod pob Llywodraeth ledled y byd yn edrych i weld sut y gallwn ni symud at bleidleisio electronig. Cefais yr un sgyrsiau ag a wnaeth Llyr Gruffydd, rwy'n siŵr, o ran gallu ymgymryd â chymaint o rannau eraill o'n bywydau mewn ffordd rithwir, ond yna mae pleidleisio ei hun, er ein bod yn ceisio ei wneud mor hawdd â phosibl gyda'r cynlluniau treialu, gyda phleidleisio drwy'r post ac yn y blaen, yn dal i fod yn weithgaredd traddodiadol i raddau helaeth. Felly mae llawer i'w wneud yn bendant o ran diweddaru a moderneiddio yn y maes hwnnw.
Rwy'n falch o ddweud bod Llafur wedi ennill mwy na'r holl bleidiau eraill gyda'i gilydd yn Lloegr, ond mae'r gwir lwyddiant i Lafur yma yng Nghymru, lle mae'r Prif Weinidog yn rhedeg Llywodraeth boblogaidd a blaengar, ac roedd bron i hanner yr holl enillion Llafur ar draws y DU gyfan yma yng Nghymru, sy'n wych. Hoffwn longyfarch pob cynghorydd newydd a gobeithio y byddan nhw'n mwynhau'r swyddogaeth bwysig gymaint ag y gwnes i dros y 14 mlynedd diwethaf.
Roedd yr atodiad eleni gan Lywodraeth Cymru i gynghorau yn un da. Fodd bynnag, ni fydd y ddwy flynedd nesaf mor uchel, ac rwy'n gweld y bydd cyllid cyfalaf yn lleihau gan Lywodraeth y DU dros y tair blynedd nesaf, ar ben y diffyg cyllid Ewropeaidd. Gyda chynghorau'n cael eu torri i'r asgwrn o dan 10 mlynedd o gyni y Torïaid, a phwysau cynyddol ar wasanaethau, clywais y bore yma ddadl ar BBC Radio Wales yn dilyn adroddiad gan Sustrans am fforddiadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus a chostau byw cynyddol fel pryder gwirioneddol. A ydych chi'n credu ei bod yn ddoeth i gynghorau ddefnyddio'r setliad da hwn tuag at fuddsoddi yn y ddwy flynedd nesaf, a pharhau i weithio'n gadarnhaol gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn? Diolch.
Diolch yn fawr iawn i Carolyn Thomas am y sylwadau hynny ac rwy'n ymuno â hi, unwaith eto, i longyfarch yr holl gynghorwyr sydd wedi'u hethol. Gwn fod gan Carolyn bersbectif penodol, ar ôl gwasanaethu ei hun, felly bydd yn gyfarwydd iawn â'r fraint o fod yn aelod, ond ychydig yn drist, mae'n debyg, o weld y rhan honno o'i bywyd wedi mynd, oherwydd, pan fyddaf yn siarad â chynghorwyr sydd wedi bod yn sefyll i lawr yn yr etholiad hwn, a'r rhai, yn anffodus, na chafodd eu hailethol, maen nhw'n sôn am eu profiad o fod yn gynghorydd gyda llawer o gynhesrwydd, am ei bod yn gymaint o fraint cael y cyfle hwnnw i gynrychioli'r bobl yr ydych yn byw wrth eu hymyl. Credaf fod hynny'n beth gwych i'w wneud, ac mae'n hyfryd cael y cyfle hwn i dynnu sylw at hynny yn y Siambr y prynhawn yma.
Mae'n wir bod Llywodraeth Cymru wedi darparu setliad cyllideb da i lywodraeth leol yn y cylch cyllideb diweddaraf. Roedd hynny'n cael ei gydnabod yn fawr iawn, rwy'n credu, gan lywodraeth leol eu hunain. Gwn yn awr eu bod yn canolbwyntio'n fawr ar ddefnyddio'r setliad hwnnw i wneud y newid mwyaf posibl yn eu cymunedau, gan weithio'n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru, fel yr ydym ni wedi'i wneud yn y cyfnod yr ydym wedi pasio drwodd yn ddiweddar. Rwy'n awyddus iawn yn awr i ddefnyddio'r cyfnod hwn sydd o'n blaenau i feithrin perthynas ag arweinwyr newydd a hefyd i feithrin perthynas â chynghorwyr newydd, aelodau cabinet newydd ac yn y blaen wrth i ni symud ymlaen, oherwydd rwy'n credu, drwy weithio gyda'n gilydd, yn amlwg, y gallwn ni gyflawni cymaint yn fwy. Cyfeiriodd Carolyn Thomas at gostau byw, ac yn amlwg rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y byddaf yn gweithio'n agos iawn arno gyda llywodraeth leol, ochr yn ochr â'r heriau mawr eraill sy'n ein hwynebu gyda'n gilydd, fel yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur, a'r mater pwysig iawn hwnnw o ran cynorthwyo pobl sy'n dod o Wcráin i Gymru i gael noddfa.
Ac yn olaf, Mike Hedges.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Croesawaf datganiad y Gweinidog. Rwy'n llongyfarch yr holl gynghorwyr a etholwyd yn yr etholiad, pa blaid bynnag. Gwn y bydd pob un ohonyn nhw'n gwneud eu gorau dros eu hetholwyr dros y pum mlynedd nesaf. Credaf hefyd fod nifer o Aelodau yma'n falch na fydd yn rhaid iddyn nhw barhau i ddatgan buddiant bob tro y bydd eitem yn codi ynghylch llywodraeth leol.
Rwy'n siŵr, pan welwn ni faint o bobl ifanc 16 a 17 oed a bleidleisiodd, y bydd yn is na'r nifer ar gyfer y boblogaeth gyffredinol. Yr hyn nad yw pobl iau yn ei ddeall—dim ond i ddilyn ymlaen o'r hyn a gododd Llyr Gruffydd—yw na allan nhw ddefnyddio dulliau pleidleisio electronig, pan allan nhw ddefnyddio dulliau electronig o dalu am nwyddau. Maen nhw'n credu y byddai gan bobl fwy o ddiddordeb mewn ceisio tynnu eu harian oddi arnyn nhw na cheisio tynnu eu pleidlais oddi arnyn nhw. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried pleidleisio electronig mewn etholiadau yn y dyfodol?
Ac er fy mod yn croesawu'r ffaith nad oes angen i gyfeiriadau ymgeiswyr fod ar y papur pleidleisio, pam na all rhan gyntaf y cod post fod yno, e.e. SA6, CF1, SA2, beth bynnag ydyw, fel y gall pobl weld nad yw'r ymgeisydd efallai'n byw gyda chyfeiriad y dywedir wrthyn nhw amdano, ond gallan nhw weld eu bod yn byw yn eu hardal? Yr un peth yr wyf i wedi'i ganfod mewn etholiadau y mae gan bobl y diddordeb mwyaf ynddo yw nid eich gwleidyddiaeth chi, ond ble'r ydych chi'n byw.
Rwy'n credu bod Mike Hedges yn gwbl iawn o ran y diddordeb sydd gan bobl, yn enwedig mewn etholiadau lleol, o ran o ble yr ydych chi'n dod, ble yr ydych chi'n byw ac yn y blaen. Felly, credaf fod hynny'n syniad da arall gan Mike Hedges y gallwn ni ei archwilio wrth i ni barhau i ddatblygu'r polisi hwn, sy'n rhoi'r lefel honno o breifatrwydd i ymgeiswyr a'u teuluoedd drwy beidio â datgelu eu cyfeiriad i'r cyhoedd, ond hefyd rwy'n credu ei fod yn rhoi'r wybodaeth honno i bobl leol y maen nhw yn ei dymuno o ran deall a yw'r ymgeiswyr lleol yn lleol i'w hardal ai peidio. Felly, syniadau da y prynhawn yma, y credaf y gallwn ni yn bendant edrych ymlaen at eu harchwilio ymhellach.
Ac yna mae'r pwynt am bobl ifanc 16 a 17 oed sy'n pleidleisio am y tro cyntaf yn bwysig iawn. Nid oes gennym y data eto ar y niferoedd a ddefnyddiodd eu hawl i bleidleisio. Bydd yn ddiddorol gweld data'r Comisiwn Etholiadol o ran y prosiectau treialu ac a gawsant effaith benodol ar annog pobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio. Rydym wedi gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol, gyda sefydliadau'r trydydd sector a phartneriaid eraill, gan gynnwys y Comisiwn Etholiadol, i gynyddu nifer y bobl ifanc 16 a 17 oed ar y gofrestr. Roedd hynny, ynddo'i hun, yn broblem, os cofiwn i gyd, yn ôl yn ein hetholiad ein hunain, nad oedd pobl ifanc 16 a 17 oed wedi bod yn manteisio ar y cyfle hwnnw i gofrestru i bleidleisio. Rydym hefyd wedi darparu cyllid ychwanegol i gynyddu capasiti mewn timau etholiadau awdurdodau lleol, fel bod ganddyn nhw y gallu yno i wneud mwy o waith o ran ymgysylltu â phobl ifanc, ac rydym hefyd wedi rhoi grantiau i sefydliadau'r trydydd sector i gefnogi'r gwaith arloesol, wyneb yn wyneb y maen nhw yn ei wneud gyda phobl ifanc a hefyd gyda'r dinasyddion tramor cymwys i gefnogi'r unigolion hynny i ddefnyddio eu hawl i bleidleisio. Ac rydym hefyd wedi gweithio i sicrhau bod mwy o adnoddau a chyfleoedd ar gael i athrawon er mwyn iddyn nhw allu ymgysylltu â dysgwyr mewn ysgolion drwy waith yr Association for Citizenship Teaching, a hefyd y Politics Project, yr oedd yn fraint fawr i mi fod yn rhan ohono a chael y cyfle i siarad â phleidleiswyr tro cyntaf mewn ysgolion ar draws fy etholaeth fy hun. Ac roedd y sgyrsiau hynny'n wirioneddol wych o ran deall pryderon penodol y bobl ifanc a'u gobeithion a'u hofnau ar gyfer y dyfodol. Felly, os caiff fy nghyd-Aelodau gyfle i gymryd rhan yn hynny, byddwn i yn ei argymell. Ac yna rydym ni'n parhau, fel y dywedais i, i weithio'n agos gyda phartneriaid i nodi'r hyn sydd wedi gweithio, sut y gallwn adeiladu ar y sylfeini hyn yr ydym wedi'u gosod, ond hefyd pa rwystrau sy'n parhau i fodoli.
Felly, credaf fod hynny'n dod â fy nghyfraniad i ben, ond, cyn i mi orffen, Dirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r arweinwyr yr wyf wedi gweithio'n agos iawn gyda nhw, ac mae fy nghyd-Aelod Julie James wedi gweithio'n agos iawn gyda nhw, sydd naill ai wedi ymddeol neu na chawson nhw eu hailethol. Felly, y Cynghorydd Nigel Daniels ym Mlaenau Gwent, y Cynghorydd Philippa Marsden yng Nghaerffili, y Cynghorydd Emlyn Dole yn sir Gaerfyrddin, a hefyd y Cynghorydd Rosemarie Harris ym Mhowys, hoffwn ddiolch yn fawr iawn am yr arweiniad y maen nhw wedi'i ddangos yn eu cymunedau. Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda nhw. Ac yna hefyd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yng Ngheredigion a'r Cynghorydd Neil Moore, y ddau ohonyn nhw'n ymddeol y tro hwn—Neil Moore ym Mro Morgannwg—y ddau ohonyn nhw wedi bod yn fraint gweithio gyda nhw.
Diolch i'r Gweinidog.