6. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Lleihau’r risg o fod yn agored i lifogydd a’r adolygiad annibynnol o lifogydd 2020-21

– Senedd Cymru am 4:13 pm ar 17 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 4:13, 17 Mai 2022

Eitem 6 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar leihau'r risg o fod yn agored i lifogydd a'r adolygiad annibynnol o lifogydd 2020-21. Galwaf ar y Gweinidog, Julie James.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Prif Weinidog, y Dirprwy Weinidog a minnau wedi egluro bod mynd i'r afael â'r perygl o lifogydd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Rydym ni wedi sefydlu, drwy'r strategaeth llifogydd, raglen gynhwysfawr sy'n nodi ein mesurau hirdymor ar gyfer lleihau'r perygl o lifogydd ledled Cymru. Mae'r cytundeb cydweithio yn ein hymrwymo i sicrhau cynnydd yn y buddsoddiad ar gyfer rheoli a lliniaru perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn ystod tymor y Senedd hon hefyd.

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd y pecyn buddsoddi mwyaf erioed gennym ni i leihau'r perygl o lifogydd ledled Cymru, gyda thros £71 miliwn o gyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru eleni. Rydym yn bwriadu buddsoddi dros £214 miliwn dros y tair blynedd nesaf i helpu diogelu o leiaf 45,000 o gartrefi rhag perygl llifogydd. Mae'r pecyn cymorth hwn yn cynrychioli dull strategol o'r newydd o ddarparu'r cymorth ariannol angenrheidiol i'n hawdurdodau rheoli peryglon llifogydd, gan gyflymu'r broses gyflawni a meithrin ein gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd gyda chyfres gryfach o gynlluniau llifogydd.

Er gwaethaf hynny, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddysgu o ddigwyddiadau yn y gorffennol, fel y gallwn wella sut rydym ni'n mynd i'r afael â pherygl llifogydd. Roedd y llifogydd dinistriol ym mis Chwefror 2020, a greodd drallod, caledi a cholled ariannol eang i filoedd o deuluoedd ac ugeiniau o fusnesau ledled Cymru, yn ein hatgoffa'n llwyr o faint yr heriau sy'n ein hwynebu, yn enwedig yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd, yr ydym ni eisoes yn amlwg yn ei brofi.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:15, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae Aelod dynodedig Plaid Cymru Siân Gwenllian a minnau wedi bod yn gweithio'n agos i ddatblygu cwmpas, dull cyflawni a chylch gorchwyl drafft ar gyfer sicrhau ymrwymiad y cytundeb cydweithio i gomisiynu adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19 llywodraeth leol ac adroddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd eithafol yn ystod gaeaf 2020-21. Felly, mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw fod yr Athro Elwen Evans QC wedi cytuno i arwain yr adolygiad hwn. Yr Athro Evans yw un o fargyfreithwyr troseddol mwyaf blaenllaw'r DU. Arweiniodd yr erlyniad yn achos llofruddiaeth April Jones a'r tîm amddiffyn yn achos trychineb pwll y Gleision. Ar ôl arwain yn ddiweddar yr adolygiad annibynnol o derfysgoedd Mayhill y llynedd, mae'r Athro Evans yn dod â phrofiad ac awdurdod sylweddol i'r adolygiad hwn, ac rwyf wrth fy modd ei bod wedi cytuno i'w arwain.

Mae ymchwiliadau adran 19 yn rhan annatod o fframwaith rheoli perygl llifogydd Cymru, gan orfodi awdurdodau lleol i asesu achosion llifogydd arwyddocaol a'u galluogi i ddarparu modelau data, gwella cyfundrefnau cynnal a chadw neu nodi gwaith neu fesurau lliniaru. Nid oes amserlen statudol ar gyfer cynnal na chwblhau ymchwiliadau adran 19, ond mae ein strategaeth llifogydd yn ei gwneud yn glir y dylent fod yn gymesur â graddfa'r llifogydd ac ystyried y ddealltwriaeth o'r materion neu'r math o fesur adfer sydd ei angen. Bydd adolygiad yr Athro Evans yn ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael yn adroddiadau adran 19 ac adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun o'r llifogydd yn ystod 2020-21, a'i effeithiau a sut y gallai hyn lywio blaenoriaethau ar gyfer rheoli'r perygl o lifogydd yn y dyfodol. Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar asesu a blaenoriaethu'r argymhellion a wneir yn y gwahanol adroddiadau a bydd yn nodi argymhellion ar gyfer gweithredu gan y sefydliadau perthnasol.

Yn benodol, bydd adolygiad yr Athro Evans yn ystyried canfyddiadau allweddol, pryderon cyffredin, yn nodi meysydd i'w gwella ac arfer da, llwyddiannau a'r gwersi a ddysgwyd. Bydd yr adolygiad yn adeiladu ar adolygiadau blaenorol, yn edrych ar adroddiadau perthnasol eraill, canfyddiadau pwyllgorau'r Senedd a pholisi cenedlaethol, fel strategaeth llifogydd Cymru, yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau ac yn sicrhau'r gwerth gorau am arian. Mae'r Aelod dynodedig a minnau wedi gofyn i'r Athro Evans ystyried y cymorth sydd ei angen i gynnal yr adolygiad a'r amserlenni ar gyfer cyflawni. Rydym yn mynd i ganiatáu digon o amser i'r Athro Evans gasglu ac asesu'r dystiolaeth sydd ar gael cyn iddi ddod i gasgliad ynghylch pa mor hir y bydd yr adolygiad yn ei gymryd, fel y gall gynnig casgliad ystyrlon a chadarn. Edrychaf ymlaen at dderbyn canfyddiadau'r adolygiad fel y gall yr Aelod dynodedig a minnau ystyried y ffordd orau o weithredu ar ei argymhellion.

Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn golygu y bydd y pwysau ar ein seilwaith presennol yn cynyddu'n sylweddol. Gyda hynny mewn golwg, mae gwaith ar y gweill hefyd i ddatblygu amcan y cytundeb cydweithio arall mewn perthynas â llifogydd—yr ymrwymiad i wahodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru i asesu sut y gellir lleihau'r tebygolrwydd cenedlaethol o lifogydd mewn cartrefi, busnesau a seilwaith erbyn 2050. Yn ei lythyr cylch gwaith diweddar, gofynnodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i Dr David Clubb, cadeirydd y comisiwn seilwaith, fwrw ymlaen â'r ymrwymiad hwn. Mae rhaglen waith y comisiwn bellach yn cael ei chwblhau. Bydd yr Aelod dynodedig a minnau'n trafod hyn ymhellach er mwyn helpu i lywio cwmpas a phwyslais adolygiad y comisiwn. Mae proses penodiadau cyhoeddus i benodi aelodau comisiwn y comisiwn seilwaith bellach ar y gweill, a byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach yn ystod yr wythnosau nesaf. Ochr yn ochr â hyn, mae pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol annibynnol Cymru, dan gadeiryddiaeth Martin Buckle, yn bwrw ymlaen â dau adolygiad ar wahân a ragnodir gan ein strategaeth llifogydd. Mae'r cyntaf, sydd bron â'i gwblhau, wedi archwilio'r adnoddau ariannol sydd ar gael i awdurdodau rheoli perygl llifogydd er mwyn helpu i sicrhau'r cyfleoedd gorau poisbl i sicrhau cyllid a buddsoddi i gefnogi'r gwaith o gyflawni mesurau llifogydd. Rwy'n rhagweld y cyflwynir adroddiad terfynol y pwyllgor ym mis Mehefin.

Wrth ystyried yr effeithiau dinistriol llifogydd ledled Cymru ar ddechrau 2020, cydnabu'r strategaeth llifogydd, er bod fframwaith deddfwriaethol cadarn yn bodoli, nad yw'r ddealltwriaeth o swyddogaethau a chyfrifoldebau gwahanol gyrff yn gwbl ddealladwy i'r cyhoedd. Mae'r ail adolygiad sy'n cael ei gynnal gan y pwyllgor llifogydd yn canolbwyntio ar asesu cwmpas y cyfrifoldebau presennol o ran rheoli perygl llifogydd a'r angen am newidiadau deddfwriaethol. Bydd y pwyllgor yn dechrau ymgynghoriad ar ei adroddiad drafft ym mis Mehefin, gyda'r adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yr hydref hwn. Mae'r adolygiadau hyn yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i addasu i'r peryglon cynyddol sy'n gysylltiedig â llifogydd a dŵr sy'n deillio o newid hinsawdd. Byddant yn ategu ein rhaglenni buddsoddi, canllawiau cynllunio newydd ar lifogydd, mentrau i wella systemau draenio cynaliadwy ac atebion sy'n seiliedig ar natur, yn ogystal â'r diwygiadau deddfwriaethol yr ydym yn eu cyflwyno i wella diogelwch tipiau glo.

Mae effeithiau newid hinsawdd eisoes yn cael eu teimlo ar draws ein cymdeithas a'r amgylchedd naturiol, a gallwn ddisgwyl i risgiau gynyddu yn y degawdau i ddod, hyd yn oed wrth i ni weithio i leihau ein hallyriadau a chyfyngu ar gynhesu byd-eang pellach. Yn ogystal â'r perygl cynyddol o lifogydd, gallwn hefyd ddisgwyl mwy o effeithiau o stormydd, tywydd poeth, sychder a thanau gwyllt. Mae ein hymateb i berygl llifogydd yn rhan o'n dull cyfannol o feithrin cydnerthedd yn wyneb effeithiau pellgyrhaeddol newid hinsawdd ar draws pob cymuned a sector. Ar yr un pryd, rydym yn benderfynol o sicrhau tegwch, o ran sut y teimlir effeithiau newid hinsawdd ei hun ar draws cymdeithas a'r byd, ac o ran baich y mesurau a gymerwn i fynd i'r afael ag ef.

Mae'r Llywodraeth hon a Phlaid Cymru yn gweithio gyda'i gilydd er budd gorau ein cymunedau i ddysgu o'r gorffennol, gwneud newidiadau lle mae'r rhain yn angenrheidiol a datblygu arferion da. Bydd canlyniad yr adolygiadau rydym yn eu cyhoeddi heddiw yn ein galluogi i wella'r ffordd yr ydym yn diogelu rhag llifogydd er mwyn lleihau'r perygl o lifogydd i bawb yng Nghymru. Diolch.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 4:20, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog eto am ei datganiad. Gwyddom fod cymunedau ledled Cymru o ddyffryn Conwy i Rondda Cynon Taf wedi ei gwneud hi'n gwbl glir, dros yr adegau y maen nhw wedi gweld achosion brawychus o lifogydd, bod arnyn nhw eisiau gweld ymchwiliadau annibynnol yn cael eu cynnal. Yn wir, roedd deiseb a ddechreuwyd yn 2020 yn galw am ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf, ac er bod tua 6,000 o lofnodion, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cydweithredu. Yn yr un modd, mae galwadau am ymchwiliad i lifogydd yn nyffryn Conwy wedi'u rhwystro o'r blaen gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Gallaf atgoffa'r Gweinidog o'm rhan yn codi pryderon am achosion o lifogydd yn nyffryn Conwy. O 2016, cawsom nifer o broblemau llifogydd difrifol, ac ar y pryd, roeddem yn galw am gynnal ymchwiliadau annibynnol. Roedd llawer o sôn bryd hynny ynghylch pa mor dda roedd adroddiadau adran 19 mewn gwirionedd yn helpu i roi gwybod i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'n cymunedau pam roedd y digwyddiadau hyn yn parhau i ddigwydd.

Credaf mai un o'r pethau yr ydych chi'n dal i'w weld yn ei gydnabod yn eich datganiad yw bod ymchwiliadau adran 19 yn rhan annatod o sut mae Cymru yn rheoli perygl llifogydd, ond nid oes amserlen statudol ar gyfer cynnal neu gwblhau ymchwiliadau adran 19. Gwn am lifogydd yn fy etholaeth i—. Credaf fod un digwyddiad wedi gweld tua 60 i 70 o gartrefi wedi'u distrywio'n fawr, a gall gymryd hyd at ddwy flynedd ar gyfer y canlyniadau, yr ymatebion i'r adrannau 19 hynny. Felly, rwy'n gobeithio, gan fod yr Athro Evans bellach yn adolygu adroddiadau adran 19, mai un o'r pethau sylfaenol a ddaw o hynny fydd bod hynny'n gyfnod rhy hir o lawer, ac y dylai'r pethau hyn ddigwydd mor gyflym â phosibl.

Mae Plaid Cymru wedi bod yn llafar eu cefnogaeth i ymchwiliadau annibynnol yn nyffryn Conwy a'r Rhondda, felly bydd yn ddiddorol gwybod beth yw eu barn yn awr. Nid yw'r cytundeb cydweithio yn addo ymchwiliadau priodol, dim ond yr adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19 llywodraeth leol. Er y byddwn yn falch pe gallech amlinellu cylch gorchwyl yr adolygiad, a allwch chi gadarnhau y bydd pob adroddiad adran 19 a gyhoeddir yn dilyn llifogydd yn ystod gaeaf 2021 yn rhan o'r adolygiad hwn? Rwy'n ymwybodol nad yw argymhellion yr adroddiad hwnnw wedi'u gweithredu a'u cyflawni'n llawn hyd yma. Ydych chi'n cytuno y dylai'r gwaith ar yr argymhellion presennol barhau tra bo'r adolygiad hwn yn cael ei gynnal?

Roeddwn, wrth gwrs, yn aelod o'r ymchwiliad i ymateb Llywodraeth Cymru i lifogydd mis Chwefror 2020, a nododd ein hadroddiad a gyhoeddwyd yn 2020 bryd hynny fod swm y cyllid refeniw yn golygu nad oedd yr awdurdodau yn agos at fod yn gwbl barod a chydnerth, ac mae hynny er gwaethaf y newidiadau diarwybod yn yr hinsawdd y gwyddom y byddant yn ein hwynebu, ond dydym ni ddim yn gwybod y graddau. Yn wir, mae awdurdodau'n cael yr un faint o gyllid refeniw waeth beth fo'r perygl o lifogydd yn eu hardal. Felly, byddwn yn dweud wrth y Gweinidog fod angen inni wneud hyn yn awr lle mae'n cyfrif. Er enghraifft, derbyniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 4.54 y cant o'r cyllid refeniw cenedlaethol, er bod ganddo 21 y cant o'r perygl llifogydd dŵr wyneb cenedlaethol i'w reoli. Roedd y pwyllgor a minnau'n glir y dylai dull Llywodraeth Cymru o ddyrannu refeniw ar gyfer llifogydd ystyried y perygl llifogydd presennol a'r perygl o lifogydd yn y dyfodol mewn ardaloedd awdurdodau lleol.

Mae gennyf gwestiwn i chi, Gweinidog. Fis Chwefror diwethaf, fe wnaethoch chi egluro bod dyrannu refeniw blynyddoedd y dyfodol yn seiliedig ar berygl llifogydd a/neu erydu arfordirol ar hyn o bryd neu yn y dyfodol yn rhywbeth y gallech ei ystyried. Ydych chi wedi penderfynu ystyried y perygl o lifogydd a ragwelir? Fel yr eglurodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn 2020, mae bellach yn bwysicach nag erioed i Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid fod â threfniadau cadarn ar waith i ymateb i ddigwyddiadau o'r fath. Ond rydych yn gwybod beth yw fy marn i: dylem fod yn llawer mwy rhagweithiol a pheidio â chanolbwyntio ar fesurau adweithiol.

Mae tua 2,298 eiddo yng Nghymru, Llywydd, mewn perygl mawr o lifogydd llanw, mae 9,652 eiddo mewn perygl mawr o lifogydd afon, ac mae 35,278 eiddo mewn perygl mawr o lifogydd oherwydd dŵr wyneb. Yn wir, mae dros 245,000 eiddo ar hyn o bryd, wrth i mi  siarad yma heddiw, mewn perygl o lifogydd yng Nghymru. Gyda chymaint o risg i'w rheoli, credaf y byddai ein cenedl yn elwa o gael corff sydd gant y cant yn canolbwyntio ar liniaru llifogydd. Ac yn hytrach na disgwyl i awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru, sydd â chyfrifoldebau amrywiol, arwain ar lifogydd—a, gadewch inni fod yn onest, lle mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn y cwestiwn, nid oes ganddyn nhw ddigon o staff—ydych chi'n cytuno bod rhywfaint o resymeg bellach, Gweinidog, dros sefydlu asiantaeth llifogydd genedlaethol? Diolch.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:25, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Janet. Dim ond i ddechrau'n union lle y gwnaethoch chi orffen, nac ydw, dydw i ddim yn meddwl hynny o gwbl. Rwy'n credu mai un o'r pethau y mae gwir angen inni ei wneud yw integreiddio'r gwaith hwn, a'r syniad bod gennych chi gwango ar wahân ar gyfer pob un agwedd o newid hinsawdd sy'n sefyll ar ei ben ei hun ac yn gwneud hynny ei hun—rwy'n credu bod hynny'n rysáit ar gyfer trychineb llwyr, fy hun. Felly, nid wyf yn cytuno â hynny o gwbl. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw bod â strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, sef yr hyn sydd gennym ni, ein bod yn gwneud hynny ochr yn ochr â'r holl bartneriaid y mae angen eu cynnwys yn hynny, ac mae hynny'n amrywiaeth eang iawn o bartneriaid, a'n bod yn deall sut olwg sydd ar y mesurau lliniaru hynny.

Mae'n hawdd dweud bod angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i liniaru'r risgiau hyn, ond yna bob tro y byddwn yn cynnig lliniaru, i wrthwynebu pob un unigol. Felly, er enghraifft, gyda chynlluniau draenio dŵr wyneb, sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr i broblemau dŵr wyneb, mae eich plaid chi wedi dweud yn gyson eu bod yn atal datblygiad tai a phrosiectau adeiladu eraill. Ond maen nhw'n gwbl hanfodol os ydym ni am atal y perygl o lifogydd sydd gennym ni ac, yn wir, y perygl o orlifo i'n hafonydd gwerthfawr ac yn y blaen. Rhaid inni dderbyn, os ydym ni eisiau bod â'r cynlluniau hyn, nad yw'r mesurau lliniaru bob amser yn ddelfrydol ar gyfer pob un sector o gymdeithas ac mae'n rhaid i bob un ohonom ni addasu iddyn nhw. Yn yr un modd, ni allwn ni barhau i adeiladu ar orlifdiroedd a disgwyl i hynny fod yn berffaith iawn. Mae'n rhaid i ni addasu ein strategaethau ar gyfer adeiladu, byw a defnyddio adnoddau ein planed yn unol â hynny.

Rwyf hefyd wedi fy syfrdanu braidd gan ddechrau eich cyfraniad, Janet, oherwydd mae'n ymddangos eich bod yn dweud nad oedd yn yr adolygiad yn mynd rhagddo, pan mai holl ddiben fy natganiad yw cyhoeddi'r adolygiad yr oeddech wedi gofyn amdano. Felly, rwy'n ddryslyd braidd gan hynny. Ond i ddweud eto, rwy'n falch iawn bod yr Athro Evans yn cynnal yr adolygiad cwbl annibynnol hwn. Yn amlwg, un o'r pethau y bydd yn edrych arno yw a yw'r system yn addas i'r diben, sut mae'n integreiddio gyda'i gilydd a beth ddylai'r canlyniad gorau fod. Edrychaf ymlaen at dderbyn ei hargymhellion, ochr yn ochr ag Aelod dynodedig Plaid Cymru, a gallu gweithredu ar yr argymhellion hynny yn unol â hynny. 

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:27, 17 Mai 2022

Hoffwn i groesawu'r cyhoeddiad heddiw a diolch yn fawr iawn i chi, Weinidog, am y datganiad. Mae cynnydd mewn llifogydd o ganlyniad i newid hinsawdd yn peri risg enfawr i gymunedau, i unigolion ac i fusnesau yng Nghymru. Mae'n iawn ac mae i'w groesawu bod lleisiau a phrofiadau'r bobl a'r busnesau ledled Cymru yn mynd i gael eu clywed, drwy adolygiad annibynnol, er mwyn inni ddysgu sut i ddiogelu Cymru rhag llifogydd yn y dyfodol, i ddiogelu ein cymunedau mwyaf agored i niwed ac i atal digwyddiadau dinistriol cysylltiedig pellach.

Mae cyhoeddiad enw Elwen Evans fel yr unigolyn a fydd yn arwain a chadeirio'r adolygiad annibynnol yn rhywbeth, rwy'n meddwl, sydd i'w groesawu'n fawr hefyd. O ystyried ei gyrfa helaeth, rwy'n sicr y bydd hi'n cyflawni adolygiad trylwyr a theg a fydd yn rhoi rhyw sicrwydd i gymunedau lleol. Weinidog, y sicrwydd hwnnw a'r elfen o gysur yw'r eitemau neu'r elfennau y buaswn i'n hoffi ffocysu arnyn nhw y prynhawn yma.

Mae'r hyn a oedd wedi digwydd yn ystod stormydd 2020 wedi trawmateiddio pobl o hyd, a dydyn nhw ddim yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi pan fo'n glawio yn drwm hyd heddiw. Heb sicrwydd o'r problemau sy'n gorwedd tu ôl i'r achosion o'r llifogydd yma, a heb ddatrysiadau cadarn, bydd y torment yma yn mynd ymlaen. Mae cynnydd yr adolygiad hwn, wrth gwrs, yn gam pwysig ymlaen, ond allwch chi ddweud wrthym ni, plis, pa gymorth sydd ar gael i gefnogi iechyd meddwl y bobl hynny sydd wedi dioddef trawma ac effaith seicolegol niweidiol o achos llifogydd?

Rhywbeth a fyddai'n cynnig tawelwch meddwl ychwanegol fyddai systemau rhybuddio cynnar. Mae Plaid Cymru wedi galw am ddatblygu, ariannu a chyflwyno systemau rhybudd cynnar fel y gellir rhybuddio cymunedau am lifogydd a thrychinebau naturiol cyn eu bod nhw'n digwydd. Byddai systemau o'r fath yn fendith, a byddwn i'n gofyn, plis, ichi, Weinidog, roi ymateb am y wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym ni o ran cyflwyno'r systemau hyn a sut y byddan nhw'n cael eu hariannu.

Ac yn olaf, i droi nôl at yr arolwg a'r cylch gorchwyl, rwy'n falch bod yr adolygiad, sy'n digwydd oherwydd, wrth gwrs, dylanwad Plaid Cymru, yn adeiladu ar waith sydd wedi digwydd yn barod, gan gysoni'r holl argymhellion sydd wedi cael eu cyhoeddi yn barod. A allwch chi ddweud ychydig bach mwy am yr elfen hynny o'r cylch gorchwyl, os gwelwch yn dda? Diolch yn fawr iawn. Sori, dwi ddim yn siŵr beth oedd wedi digwydd gyda'r sŵn, so sori fy mod i wedi torri hanner ffordd drwodd yn fanna.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:30, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Fe'ch clywais yn berffaith yr holl ffordd drwodd, yn sicr drwy'r cyfieithiad yn y fan yna, Delyth. Felly, diolch yn fawr am hynny. Dim ond o ran y sylwad olaf yn gyntaf, mae gennym ni nifer o adolygiadau'n mynd rhagddynt i elfennau ychydig yn wahanol o'r rhaglenni rheoli llifogydd ac arfordirol sydd gennym ni ar waith. Felly, heb gyfaddawdu mewn unrhyw ffordd ar allu'r Athro Evans i wneud unrhyw argymhellion y mae'n gweld yn dda i'w gwneud, rydym ni wedi gofyn iddi gysylltu â'r adolygiadau eraill ac i weld ble y gallant gynorthwyo ei gilydd heb ddyblygu. Ond ni allaf bwysleisio digon nad yw hynny'n rhwystro unrhyw un o'r adolygiadau rhag gwneud yr argymhellion y maen nhw am eu gwneud, ac os ydyn nhw'n anghyson, wel, yna bydd yn rhaid inni weld beth y gallwn ni ei wneud i ddatrys hynny. Ond rydym yn gobeithio, wrth gwrs, na fyddan nhw ac y bydd rhaglen gydlynol ar y diwedd, ond roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n bwysicach bod â gwarant o annibyniaeth na cheisio gwneud iddyn nhw ddod i ryw fath o gasgliadau wedi'u stwnsio gyda'i gilydd. Rwy'n rhagweld, serch hynny, gan eu bod i gyd yn adolygiadau proffesiynol iawn, y bydd gennym ni gyfres gydlynol o ganlyniadau o'r adolygiadau hynny y byddwn yn gallu eu gweithredu.

Mae'r Aelod dynodedig, Siân Gwenllian, a minnau wedi bod yn glir iawn y bydd yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi. Adolygiad yr Athro Evans fydd hwn, ei phenderfyniad hi fydd yr hyn y mae'n ei ddweud, ond byddwn yn ei gyhoeddi ac yna byddwn yn ymateb iddo. Byddwn yn darparu ymateb gan y Llywodraeth i hynny ac ymateb ar y cyd i hynny a byddwn yn cyhoeddi'r ymateb i hynny ac yna byddwn yn gweithredu'r argymhellion o ganlyniad i hynny. Felly, rydym yn glir iawn ynglŷn â hynny.

Mae'r adolygiad hefyd yn cael cyfle i estyn allan at aelodau etholedig mewn ardaloedd yr effeithir arnyn nhw a gofyn yn benodol am sylwadau yn ôl gan yr aelod etholedig hwnnw. Nawr, ni allaf bwysleisio digon nad ymchwiliad cyhoeddus yw hwn, felly nid ydym yn chwilio am dystiolaeth o'r math hwnnw. Ond teimlwn ei bod hi'n debygol y bydd aelodau etholedig yn gallu adlewyrchu'r safbwyntiau a'r trawma a brofwyd gan y cymunedau a ddioddefodd y llifogydd ac y bydd yr aelodau etholedig mewn sefyllfa dda i ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig i'r adolygiad o'r teimladau hynny ac ar ôl hynny. Ac rwy'n siŵr y bydd yr argymhellion yn dilyn. Ni ddylai'r un Aelod deimlo ei fod wedi'i rwystro rhag darparu'r dystiolaeth honno'n rhagweithiol, ond bydd yr Athro Evans, mae'n siŵr gen i, yn estyn allan yn benodol iawn at Aelodau'r Senedd hon a Senedd San Steffan mewn meysydd yr effeithiwyd arnyn nhw yn arbennig, ac rydym ni i gyd yn gwybod pa rai yw hynny; rydym ni wedi eu trafod yn sylweddol. Felly, gobeithio y byddwn yn gallu cael rhyw argoel o'r mathau o drawma ac yn y blaen, a pha fath o gefnogaeth yr hoffai'r gymuned ei gweld o ganlyniad i hynny, Delyth. Rydym ni wedi darparu rhywfaint o gefnogaeth drwy'r fforymau cydnerthu a'r awdurdodau rheoli perygl llifogydd, ond un o ddibenion yr adolygiad yw mynd at wraidd rhai o'r materion personol hynny, os mynnwch chi, am yr hyn sy'n digwydd pan nad ydych chi'n teimlo'n ddiogel.

O ran y systemau rhybuddio cynnar, nid oes gennyf unrhyw broblem gyda systemau rhybuddio cynnar. Yr anhawster sydd gennym ni yw bod rhai o'r achosion o lifogydd ledled Cymru—mewn gwirionedd, nifer fawr o'r rhai gwaethaf—o ganlyniad i fflachlifogydd sydyn a achoswyd gan dywydd eithafol. Felly, nid wyf yn arbenigwr yn hyn o beth, ond mae'n ymddangos yn anodd iawn i mi ddeall yn iawn sut y byddai hynny'n gweithio. Ond byddwn yn ymchwilio iddo. Gwyddoch fod gennym ni ragfynegiadau tywydd da iawn, felly bu modd inni ddosbarthu'r llifddorau a'r bagiau tywod ac ati, ond nid oes amheuaeth o gwbl y cawsom ein synnu gan ddifrifoldeb rhai o'r stormydd yn 2020 a 2021, a gwelsom ganlyniad hynny, oni wnaethom ni? Ac roeddem yn lwcus iawn dros y gaeaf diwethaf—byddaf yn ofergoelus am funud a chyffwrdd â'r ddesg bren yma, oherwydd nid ydym ni wedi cefnu'n llwyr ar dymor y stormydd eto—na chawsom ailadroddiad o hynny. Ond dyna un o'r materion, onid e, oherwydd mae'r digwyddiadau tywydd eithafol hyn, a arferai fod yn brin iawn, yn dod yn fwyfwy cyffredin, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm y mae angen i ni adolygu unwaith eto a yw ein dull cydnerthu o ymdrin â hyn a'n cynllunio ymlaen llaw yn addas i'r diben.

A dim ond i ddweud un peth olaf, nid ydym yn aros am ganlyniad yr adolygiad. Cymerodd y Prif Weinidog a minnau ran mewn hyfforddiant cydnerthedd ar gyfer yr holl gyrff cydnerthu ledled Cymru a'r gwasanaethau brys a'r ymatebwyr cyntaf, dim ond i wneud yn siŵr, cyn y gaeaf diwethaf, ein bod yn y sefyllfa orau i allu ymateb pe bai angen. Felly, dim ond rhoi sicrwydd i gymunedau ledled Cymru nad oes neb yn aros am ganlyniad yr adolygiad cyn rhoi'r pethau hynny ar waith.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 4:35, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, rwy'n croesawu'r ffaith bod perygl llifogydd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Mae'n frawychus ac yn ddinistriol, ac rwy'n croesawu'r pecyn ariannu hwn hefyd ar ei gyfer. Ni all llawer o'n hen systemau draenio gymryd faint o law o fath monsŵn yr ydym ni'n ei brofi'n amlach, ac mae angen gwagio ceunentydd a systemau draenio ar ochr y ffordd yn amlach. Hefyd, mae angen mapio pwy sy'n gyfrifol am ffosydd, cwlfertau a chyrsiau dŵr, fel bod preswylwyr yn gwybod â phwy i gysylltu, yn ogystal â deall pa fesurau y gallan nhw eu hunain eu cymryd os oes rhybudd llifogydd ar waith. Cofiaf ein bod wedi arfer cael rhybuddion llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal â'r Swyddfa Dywydd fel awdurdod lleol, a oedd yn ddefnyddiol iawn. Yn dilyn toriadau mewn cyllid gwasanaethau cyhoeddus yn ystod blynyddoedd o lymder, rydym wedi colli'r arbenigedd y mae awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn cystadlu amdano i ymdrin â draenio ac i helpu trigolion hefyd. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, gan weithio gydag awdurdodau cyhoeddus, i gynyddu'r arbenigedd ac i helpu trigolion i ymdrin â'r llifogydd cynyddol hyn? Ac ymddiheuriadau, efallai mai cwestiwn i'r Gweinidog llywodraeth leol mewn gwirionedd oedd hwn. Felly, diolch.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:36, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Felly, rwy'n gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Weinidog y Gweinidog llywodraeth leol, ar y materion hyn, ac rydym ni wedi cael llawer o drafodaethau gyda chydweithwyr llywodraeth leol ynglŷn â pharatoi ar ei gyfer a sut maen nhw'n gweithio a sut mae'r ymatebion i lifogydd—. Ac mae gan yr awdurdod lleol ymatebwyr golau glas mewn nifer o feysydd sy'n gweithio mewn gwirionedd.

Rydym ni newydd gael yr etholiadau llywodraeth leol yn amlwg, felly bydd y timau cabinet newydd yn cael gwybod, a bydd fy nghyd-Aelod Rebecca Evans a minnau'n cael cyfres o gyfarfodydd gydag amrywiol aelodau cabinet newydd yn gyffredinol, i gwrdd â nhw'n gyntaf a'u croesawu i'w swyddogaethau, ond hefyd i ddeall yr hyn sy'n ofynnol o ran hyfforddiant, cymorth a dim ond gwneud y cysylltiadau hanfodol hynny i sicrhau ein bod i gyd yn gweithio'n hapus gyda'n gilydd. Ac eto, mae fy nghyd-Aelod y Gweinidog llywodraeth leol a minnau'n ei rannu ychydig o ran pa grwpiau yr ydym yn cwrdd â nhw, ond rydym ni'n dod â'r cyfan yn ôl at ei gilydd drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i sicrhau bod gennym ni raglen gydlynol, ac yn amlwg wedi'i harwain gan Rebecca yn y rhan gyffredinol o hynny.

Rhan o ddiben rhai o'r adolygiadau yr ydym ni wedi'u cynnal, yn enwedig gan y pwyllgor, yw gweld lle mae'r cyfrifoldeb ar hyn o bryd, a bod y rheoliadau sy'n gyrru'r ymateb hwnnw yn rhai priodol. A yw'n addas i'r diben, a oes gennym ni'r rhaniad cywir rhwng cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, y cwmnïau dŵr, awdurdodau lleol? Wyddoch chi, a yw hynny'n gywir? Felly, rwy'n edrych ymlaen at ddychwelyd gyda chanlyniad hynny, ac yna trafod sut y mae'r drefn newydd honno, os yw'n newydd, yn gweithio, neu os mai'r canlyniad yw ei bod yn addas i'r diben ar hyn o bryd, i ymgorffori hynny. Felly, rydym ni'n aros am ganlyniad yr adolygiad, mewn gwirionedd, i edrych ar hynny, wedi'i lywio'n rhannol gan yr angen i sicrhau bod gennym ni staff medrus er mwyn gallu staffio hynny. Nid wyf am ragfarnu canlyniad yr adolygiad, ond mae'n ymddangos yn eithaf gwasgaredig ar hyn o bryd, felly rwy'n rhagweld y byddan nhw'n gwneud rhai argymhellion ynghylch sicrhau bod gennym ni'r staff medrus hynny yn y lle cywir yn yr asiantaeth gywir.

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 4:38, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar ichi, Gweinidog, am eich datganiad. Fe wnes i gyfarfod yn ddiweddar â syrfëwr siartredig sy'n cynrychioli ystâd hanesyddol yn ne sir Benfro sydd ar hyn o bryd yn edrych ar gynlluniau i gynyddu hyfywedd tafarn, sydd yn digwydd bod wrth ymyl afon. Mae rhan o'r cynlluniau hyn yn golygu bod llety'n cael ei greu mewn ystafelloedd i fyny'r grisiau, llawr cyntaf y dafarn, a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer storio, ychwanegu at y man preswyl a ddefnyddir ar hyn o bryd gan landlord y dafarn, hefyd ar y llawr cyntaf. Fodd bynnag, mae'r eiddo wedi'i leoli ar orlifdir categori C2 parth C2, ac o ystyried hyn, mae'r parc cenedlaethol wedi gwrthod y cais. Fodd bynnag, nid oes cynnydd yn ôl troed yr eiddo, dim llety preswyl ar y llawr gwaelod, felly nid oes mwy o berygl o lifogydd na'r hyn sydd ar hyn o bryd. Yn wir, ni welodd Cyfoeth Naturiol Cymru unrhyw reswm dros wrthwynebu'r cais.

Byddaf hefyd yn manteisio ar y cyfle hwn i bwysleisio unwaith eto fod busnesau sydd wedi'u lleoli ar hyd afon Tywi ar gei Caerfyrddin hefyd wedi wynebu rhwystredigaeth gyda diffyg blaenoriaeth i ddiogelu busnesau a buddiannau economaidd rhag llifogydd. Gweinidog, mae'r ddau fater hyn yn dangos anghydbwysedd mewn rheoliadau cynllunio, lle mae busnesau hyfyw a llwyddiannus yn cael eu cosbi am geisio buddsoddi a gwneud gwelliannau. Felly, a gaf i bwyso arnoch chi i annog awdurdodau cynllunio i roi'r gorau i'r dull mwy caeth o weithredu canllawiau cynllunio a mabwysiadu dull mwy pragmatig? Diolch, Llywydd.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:39, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch, ac, yn amlwg, ni allaf wneud sylw am geisiadau cynllunio unigol—nid oes gennyf yr holl fanylion ac ni fyddai'n briodol i mi fel y Gweinidog cynllunio—ond rwyf yn derbyn y sylw yr ydych yn ei wneud. Mae yna nifer o bethau i'w hystyried wrth ddatblygu ar orlifdir, sef yr hyn yr ydych chi'n ei ddisgrifio, wrth gwrs, yn union wrth ymyl afon. Achubaf ar y cyfle hwn, Llywydd, i ddweud fy mod wrth fy modd bod y Prif Weinidog wedi cytuno i gadeirio uwchgynhadledd ynghylch y mater o ffosffad ac adeiladu ar orlifdir sy'n broblem wirioneddol ledled Cymru, ac y bydd yr uwchgynhadledd honno'n cael ei chynnal ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf, a bydd yn cadeirio hynny gyda nifer o arbenigwyr a rhanddeiliaid yn dod at ei gilydd yn yr uwchgynhadledd honno, i geisio dod o hyd i ffordd ymlaen sy'n dderbyniol i'r ddwy ochr a fydd yn gofyn am gyfaddawd ar bob ochr, ond mae gwir angen inni fynd at wraidd yr hyn sy'n fater anodd iawn mewn rhannau helaeth iawn o Gymru. Felly, achubaf ar y cyfle hwnnw i wneud y cyhoeddiad hwnnw, ac rwyf wrth fy modd ei fod wedi cytuno i wneud hynny.

Yr hyn y byddwn ni hefyd yn ei wneud yw edrych, fel rhan o'r adolygiadau hyn, i weld a ellir adolygu pethau fel beth yw'r canllawiau cynllunio ar gyfer datblygu gorlifdir ac yn y blaen, p'un a yw pethau fel peidio â datblygu ar y llawr gwaelod a datblygu ar y lloriau uwch ben yn ateb ai peidio. Ac, a bod yn onest, mae hynny'n gymhleth iawn, nid yw'n ymwneud â'r llifogydd yn unig, mae hefyd yn ymwneud â phe baech yn creu man preswyl yn y fan honno, rydych yn rhoi systemau carthion a dŵr ac yn y blaen yno, rydych chi'n rhoi draeniad wyneb ychwanegol ac yn y blaen, hyd yn oed os nad yw'r ôl troed yn cynyddu, felly mae problem gyffredinol ynghylch cydnerthedd y systemau o amgylch hynny, a dyna beth sydd a wnelo'r mater ffosffad ag o ac yn y blaen. Felly, mae arnaf ofn ei fod ychydig yn fwy cymhleth.

Ond rwyf yn deall y rhwystredigaeth yn llwyr. Un o'r pethau eraill yr ydym yn ymchwilio iddo—. Ataliais y broses o weithredu nodyn cyngor technegol 15. Un o'r rhesymau y gwnaethom hynny oedd ein bod am edrych eto ar effaith amddiffynfeydd rhag llifogydd pan gânt eu rhoi ar waith mewn dalgylchoedd afonydd, a ddylent wedyn ganiatáu'r datblygiad ymhellach i lawr yr afon ai peidio ac o dan ba amgylchiadau, pa raddau o amddiffyn rhag llifogydd sydd ei hangen arnoch, beth mae'n ei ddiogelu yn erbyn ac yn y blaen, oherwydd bod ein prif ddinasoedd a'n cytrefi ledled Cymru a llawer o'n trefi marchnad ffyniannus ac aneddiadau eraill wedi'u hadeiladu ar yr arfordir ar aber afon, oherwydd dyna lle mae'r fasnach yn digwydd ac yn y blaen. Mae hynny'n peri problemau mawr inni. Does arnom ni ddim eisiau, yn amlwg, lesteirio datblygiad y dinasoedd, y trefi a'r aneddiadau bywiog hynny ledled Cymru, ond ar yr un pryd mae angen i ni eu diogelu rhag yr argyfwng hinsawdd ac o beryglon llifogydd o ddydd i ddydd, ac mae angen inni ddiogelu ein hafonydd rhag y problemau sydd gennym ni o ran ffosffad a nitradau. Felly, mae'n broblem wirioneddol gymhleth. Rydym ni'n edrych ar wahanol agweddau arno, ac rwyf wrth fy modd y bydd y Prif Weinidog yn cadeirio'r uwchgynhadledd honno yn y Sioe Frenhinol.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:42, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, rwy'n croesawu hyn yn fawr a'r hyn sydd wedi'i gyflawni drwy'r cytundeb cydweithio. Rwy'n sicr yn croesawu penodiad yr Athro Evans hefyd, ac edrychaf ymlaen fel Aelod etholedig at gyfrannu at hynny. Fe'm calonogwyd gan eich ymrwymiad—oherwydd, yn amlwg, nid ydym wedi gweld y cylch gorchwyl fel Aelodau eto—y bydd lleisiau a phrofiadau'r dioddefwyr hynny'n gallu cyfrannu at y broses hon. Mae hynny i'w groesawu'n fawr.

Dylwn gefnogi Janet Finch-Saunders o ran y sylw a wnaeth am yr ymchwiliad annibynnol, gan mai fi ddechreuodd y ddeiseb honno mewn swyddogaeth wahanol. Mae hyn yn wahanol i'r ddeiseb honno, gan mai adolygiad ydyw, ond, yn amlwg, mae llawer i'w groesawu ein bod yn awr o'r diwedd yn gallu gweithio ar y cyd i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu i lywio'r dyfodol, oherwydd, wedi'r cyfan, nid yw'n ymwneud â dosrannu bai, ond sicrhau bod cymunedau'n teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi, a bod busnesau'n ddiogel yn y dyfodol.

Dim ond eisiau gofyn oeddwn i am eglurhad ar un mater. Rydych chi wedi sôn am adroddiad adran 19, ac fel y gwyddoch chi, nid yw pob adroddiad adran 19 wedi eu cyhoeddi eto, a hefyd, lle maen nhw wedi eu cyhoeddi, nid yw trigolion o reidrwydd yn fodlon â'r adroddiadau hynny. Hefyd, nid yw'n ofynnol cyhoeddi adroddiadau ymchwiliadau llifogydd ar hyn o bryd, felly a fydd y rheini hefyd yn cyfrannu at yr adolygiad hwn fel y caiff y rheini eu hystyried fel ein bod hefyd yn ystyried sut yr ydym ni'n gwbl dryloyw am yr adroddiadau hyn yn y dyfodol?

Photo of Julie James Julie James Labour 4:43, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Bydd, felly bydd yr holl adroddiadau, a gyhoeddir neu beidio, ar gael i'r adolygiad. Mae'n amlwg bod yr adolygiad yn destun cyfrinachedd ac yn y blaen, ond byddant yn destun yr adolygiad, yn sicr. Un o'r pethau yr wyf yn disgwyl yn ganlyniad i'r adolygiad yw gwell canllawiau ynghylch pryd, sut a ble y dylid cynhyrchu adroddiadau adran 19, amserlen o bosibl, er nad wyf eisiau dylanwadu arno mewn unrhyw ffordd, ac mae yna broblemau gydag amserlenni, oherwydd hoffwn i bobl yn bersonol wneud pethau'n iawn, yn ogystal ag yn gyflym. Felly, byddwn yn gweld beth a ddaw yn sgil yr adolygiad, ond disgwyliaf i'r eglurder hwnnw gael ei gyflwyno o ganlyniad iddo.

Mae mwy o faterion, felly cynhyrchodd Cyfoeth Naturiol Cymru mewn gwirionedd rai adroddiadau dros y gaeaf hwnnw—nid oes rhaid iddyn nhw wneud hynny, felly mae cwestiwn a ddylen nhw fod wedi gwneud hynny neu a ddylen nhw wneud hynny; mae yna rai materion yn bodoli hefyd. Bu i awdurdodau eraill dan sylw, yr awdurdodau dŵr ac awdurdodau eraill, gynhyrchu adroddiadau, ond ni fu i rai eraill wneud, felly rwy'n disgwyl i'r adolygiad edrych ar y sefyllfa honno a gweld beth ddaw i'r amlwg.

Unwaith eto, mae'r pwyllgor sy'n edrych ar y fframwaith rheoleiddio ar gyfer hyn hefyd yn edrych i weld a yw'r holl reoliadau hyn yn rhoi cyfrifoldeb ar y corff priodol, ar yr asiantaeth gywir ac yn y blaen. Felly, unwaith eto, rwy'n ymdrechu'n daer i beidio â dylanwadu ar ddim o hyn, ond, yn amlwg, ar hyn o bryd mae gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chwmnïau dŵr ac ymatebwyr eraill rywfaint o gyfrifoldeb. Ydy hynny'n briodol? Ydy hynny'n gweithio? Rydym yn disgwyl i'r pwyllgor allu gwneud rhai argymhellion i ni ynghylch a yw'n gwneud hynny a sut i ymgorffori'r agweddau hynny os yw'n briodol, ac, os nad yw'n briodol, beth i'w wneud yn ei gylch. Felly, edrychaf ymlaen at hynny.

Ac yna, o ran hyder y cyhoedd yn yr adroddiadau, mae'n amlwg y bydd yr adolygiad yn edrych ar hynny. Cafodd Siân Gwenllian a minnau gyfarfod da iawn gyda'r Athro Evans ac mae hi wedi gofyn ers peth amser i gael golwg ar gwmpas hyn—mae yna lawer o adroddiadau i edrych arnyn nhw—a hefyd i ystyried pa ysgrifenyddiaeth sydd ei hangen arni a pha gefnogaeth sydd ei hangen arni. Mae hi'n mynd i gysylltu'n ôl â ni, rwy'n credu o fewn y mis yw'r hyn y cytunwyd arno, i roi argoel well o leiaf i ni ynghylch sut olwg allai fod ar hynny, er nad wyf am ei dal at hynny; rwy'n awyddus iawn y caiff hyn ei wneud yn iawn yn hytrach nag yn gyflym—o fewn ffiniau, yn amlwg; dydyn ni ddim eisiau iddo gymryd degawd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hi'n cysylltu, ac mae gen i bob hyder y bydd hi. Ymgymerodd ag adroddiad yn fy etholaeth fy hun, os gwnaiff y Llywydd faddau imi am fynd ar drywydd hynny am eiliad, sy'n gymhleth iawn ac yn ddadleuol iawn yn y gymuned, a gwnaeth waith rhagorol yn annibynnol ac yn gadarn iawn ar hynny. Felly, edrychaf ymlaen at ddull tebyg iawn o ymdrin â hyn.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 4:46, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich datganiad, Gweinidog, a hoffwn hefyd ddiolch ar goedd i chi am y gwaith yr ydych chi wedi'i wneud hyd yma i weithio gyda chymunedau i leihau'r perygl cynyddol o lifogydd a welwn o ganlyniad i newid hinsawdd ac am eich cyhoeddiad o dros £71 miliwn, y pecyn buddsoddi mwyaf erioed yng Nghymru i leihau'r perygl o lifogydd.

Yn eich datganiad, fe wnaethoch chi gyfeirio at ymchwiliadau adran 19 sy'n galluogi awdurdodau lleol i wella modelau data. Hoffwn ofyn am eglurhad yma ynghylch pwy sy'n gyfrifol am greu a chynnal y modelau data hyn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, roedd hyn yn dod o dan gylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru, felly byddwn yn croesawu eglurhad pellach ar hynny.

Yn ail, hoffwn godi'r mater bod rhai cymunedau, fel Cwm Cynon, yn ystod stormydd 2020, wedi profi llifogydd dinistriol o afonydd nad oedd data blaenorol yn cael eu cadw ar eu cyfer. Yn fy nhrafodaethau â Cyfoeth Naturiol Cymru, dywedwyd wrthyf fod y diffyg data hwn yn rhwystr llwyr i allu adeiladu achos i wneud cais llwyddiannus am amddiffynfeydd rhag llifogydd. Felly, hoffwn ofyn pa waith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw'r cymunedau hyn o dan anfantais o ran cael eu hamddiffyn rhag llifogydd yn y dyfodol pan fo bodolaeth data blaenorol yn allweddol ar hyn o bryd i lunio achos llwyddiannus dros ariannu amddiffynfeydd rhag llifogydd.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:47, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am hynny, Vikki, a diolch am eich geiriau caredig. Felly, rhan o'r hyn yr ydym yn edrych arno yw pwy sy'n gyfrifol am ba ran o hyn, o ble y daw'r data, pwy sy'n gyfrifol am ei gasglu a'i gadw ac yn y blaen, ac, fel y dywedais, mae gennym ni nifer o gyfrifoldebau sydd wedi eu rhannu. Mae'n ddigon posibl mai'r neges fydd, 'Mae hynny'n dda, ond mae angen i chi wneud x, y, z', neu, 'Nid yw hynny'n dda ac asiantaeth benodol ddylai fod yn gyfrifol amdano.' Felly, dyna un o'r pethau yr ydym ni am gael golwg arno. A hefyd, ar hyn o bryd, mae adroddiad adran 19 yn llywio gwaith yr awdurdod sy'n ei gynhyrchu: a ddylai fod yn ehangach na hynny? Beth yw'r gwersi i'w dysgu ar draws ffiniau ac ati? Ac yna, yr un olaf yw: beth yw rhan y gymuned leol wrth gyfrannu at hynny? Dydyn nhw ddim yn arbenigwyr, ond mae ganddyn nhw brofiad o fyw gyda hynny. Felly, rydym yn disgwyl, yn y gwahanol adolygiadau a gynhelir, y bydd y materion hynny'n dod yn ôl atom yn rhan o hynny.

Ac yna rwyf wedi cael sgwrs dda iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru am yr hyn a elwir yn adolygiad sylfaenol o'r gwaith a wnânt, i fynd drwy'r holl adnoddau sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd, lle cânt eu defnyddio ar hyn o bryd, p'un ai hynny yw'r defnydd gorau ai peidio a sut y gellir eu hadleoli tuag at ein blaenoriaethau, ac rydym yn gwneud darn o waith am sut mae eu cyllid yn gweithio o ran incwm ac yn y blaen, yr wyf yn gobeithio adrodd arnynt i'r Senedd yn ddiweddarach yn yr haf, a fydd, yn fy marn i, yn egluro rhai o'r materion hynny hefyd.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch. Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Rwy'n ddigon ffodus o gynrychioli tref neu bentref prydferth Llanfair Talhaearn yng Ngorllewin Clwyd, ond, yn anffodus, mae honno'n gymuned sydd wedi dioddef llifogydd bum gwaith ers 2008. Ar bob un o'r achlysuron hynny, cafwyd adroddiadau ac ymchwiliadau ac argymhellion, gan gynnwys argymhellion yn 2012 i wneud rhywfaint o fuddsoddiad cyfalaf ar yr amddiffynfeydd rhag llifogydd yn y gymuned honno. Dim ond yn awr y maent yn gweithredu ail gam yr argymhellion hynny a'r gwaith y mae angen ei wneud. Mae 10 mlynedd ers hynny, Gweinidog, ac, yn y cyfamser, mae'r gymuned honno wedi dioddef llifogydd eto, yn fwyaf diweddar, wrth gwrs, yn gynnar yn 2020, ym mis Chwefror 2020. Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud drwy'r adolygiad hwn ac unrhyw beth sy'n deillio ohono i sicrhau, pan wneir argymhellion i wella amddiffynfeydd, eu bod yn cael eu cyflawni mewn modd amserol, nid degawd? Fe wnaethoch chi ddweud nad ydych am i'r adolygiad hwn gymryd degawd i wneud ei waith; nid oes arnaf eisiau i Cyfoeth Naturiol Cymru gymryd degawd i weithredu gwelliannau y mae mawr eu hangen i amddiffynfeydd rhag llifogydd mewn pentrefi fel Llanfair Talhaearn yn y dyfodol.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:50, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Ydw, wel, rydw i’n falch ei fod yn digwydd nawr, beth bynnag, Darren Millar, ac mae'n hardd iawn, rydych chi’n llygad eich lle, ac rydw i’n falch iawn i'r trigolion fod yr amddiffyniad hwnnw rhag llifogydd yn mynd rhagddo. Felly, rhan o'r cyhoeddiad rwyf i newydd ei wneud yw'r cyhoeddiad am y cynnydd yn y cyllid ar gyfer gwaith cyfalaf, gwahaniaethau wrth weithio gyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau bod gennym ni set â blaenoriaeth o waith mae angen iddyn nhw fynd rhagddynt, a byddan nhw'n cael eu llywio gan yr adroddiadau amrywiol a ddaw i'r amlwg.

Rydym ni hefyd, fel rhan o'r broses o oedi ac adolygu TAN 15, wedi gofyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynhyrchu asesiad difrifol o'r achosion o reoli llifogydd. Felly, bydd yn asesu'r risg yn eu hardal a bydd yn cyflwyno rhaglen dros yr 20 mlynedd nesaf o amddiffynfeydd rhag llifogydd a dulliau lliniaru llifogydd naturiol eraill, risgiau ac yn y blaen, i alluogi diogelwch pobl yn eu cartrefi a hefyd datblygiadau ychwanegol pan fo hynny'n angenrheidiol neu'n briodol. Felly, gobeithio ein bod ni wedi gwella hynny'n sylweddol iawn. Dydw i ddim yn gwybod pam y cymerodd 10 mlynedd—nid oes gen i ddigon o wybodaeth i allu gwneud sylwadau ar hynny—ond rwy’n credu y bydd yr hyn rwyf fi wedi'i gyhoeddi heddiw yn gwella'n sylweddol y llif o raglenni llifogydd a gallu'r awdurdod lleol i asesu'r angen blaenoriaethol a rhoi'r rheini ar waith.