– Senedd Cymru am 6:49 pm ar 18 Mai 2022.
Symudwn yn awr i'r ddadl fer, a galwaf ar Gareth Davies i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo.
Os gwelwch yn dda, bawb sy'n gadael, byddwch yn dawel i adael i Gareth gael ei ddadl fer.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a dyma fi eto. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Samuel Kurtz heno.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, bûm yn arolygu fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd i ganfod beth yw eu pryderon mwyaf, yn ogystal â'u blaenoriaethau allweddol ar gyfer y Senedd wrth inni gefnu ar y pandemig. Un o'r themâu mwyaf syfrdanol a ddaeth i'r amlwg oedd y nifer fawr o ymatebwyr a restrodd fynediad at ofal iechyd fel eu prif bryder.
Mae'r pandemig yn sicr wedi rhoi ein systemau iechyd a gofal o dan bwysau aruthrol, ond roeddem yn gwybod bod mynediad at ofal iechyd yn broblem cyn COVID. Ymhell cyn i'r coronafeirws newydd ymddangos yn rhanbarth Wuhan yn Tsieina ar ddechrau 2020, roedd ein dinasyddion yn ei chael hi'n anodd gweld eu meddygon teulu, gan yrru cannoedd o filltiroedd i gael triniaeth ddeintyddol, neu'n aros am flynyddoedd i gael clun newydd. Daethom yn gyfarwydd â gweld rhesi o ambiwlansys yn ciwio y tu allan i'n hysbytai. Roedd pwysau'r gaeaf wedi dod yn bwysau drwy gydol y flwyddyn; roeddem yr un mor debygol o weld ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adrannau achosion brys ar wyliau banc mis Awst ag yr oeddem ar Ddydd Calan.
Fel rhywun a fu'n gweithio ar reng flaen ein GIG ers dros ddegawd, gallaf dystio'n bersonol i'r straen enfawr sydd wedi bod ar ein systemau iechyd a gofal. A phan gafodd feirws marwol ei daflu i mewn i'r pair, mae'n wyrth lwyr na wnaeth y system dorri. Ond i ymroddiad fy nghyn-gydweithwyr yn y GIG y mae'r diolch na ddigwyddodd hynny, nid oherwydd unrhyw arweiniad o'r brig.
Mae'r rhan fwyaf o'r problemau sy'n wynebu ein GIG yn deillio o ddiffyg arweiniad. Y rheswm syml pam na all fy etholwyr a'ch etholwyr chi weld eu meddyg teulu, cael deintydd GIG, neu pam eu bod wedi cael eu llawdriniaeth wedi'i chanslo sawl gwaith, yw bod Llywodraethau olynol wedi methu cynllunio gweithlu integredig priodol. Mae'r colegau brenhinol a'r cyrff proffesiynol wedi bod yn rhybuddio ers o leiaf ddegawd nad ydym yn hyfforddi nac yn recriwtio digon o staff rheng flaen. Ac mae Llywodraeth Cymru yn dda iawn am greu rheolwyr, biwrocratiaid a biwrocratiaeth, ond maent yn gwbl ddiwerth pan ddaw'n fater o greu meddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Mae pethau wedi gwella rhywfaint—rwy'n rhoi clod lle mae'n ddyledus—a chyda chreu Addysg a Gwella Iechyd Cymru, mae gennym gynllun gweithlu erbyn hyn o leiaf, ond mae arnaf ofn ei fod yn rhy ychydig yn rhy hwyr. Yr wythnos diwethaf, rhyddhaodd y Coleg Nyrsio Brenhinol eu hadroddiad ar lefelau staff nyrsio, ac roedd ei gynnwys yn sobreiddiol, oherwydd dylai'r nifer fawr o nyrsys sy'n gadael y proffesiwn fod yn destun pryder i bawb ohonom. Ceir o leiaf 1,719 o swyddi nyrsio gwag ar draws byrddau iechyd Cymru, a, thros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi gwario tua £0.75 biliwn ar staff asiantaeth. Mae adroddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol yn dangos sut rydym yn colli bron cymaint o staff ag yr ydym yn eu recriwtio, a'r llynedd 0.1 y cant yn unig o gynnydd a welwyd yn y gweithlu. Cawsom lond llaw o nyrsys y llynedd pan fo angen miloedd. Collwyd 6 y cant o'r gweithlu nyrsys ardal rhwng mis Mehefin 2020 a mis Mehefin 2021 ac mewn arolwg o'i aelodau, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn tynnu sylw at y ffaith bod traean o nyrsys yn ystyried gadael y proffesiwn yn gynnar, a'r cyfan oherwydd pwysau cronig ar y gweithlu. Rydym mewn perygl gwirioneddol o greu dolen adborth negyddol—pobl yn gadael gofal iechyd oherwydd y pwysau yn sgil prinder staff. Ac nid nyrsys yn unig sy'n teimlo'r pwysau, mae'n ymestyn diddiwedd ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae meddygon teulu hefyd yn gadael y proffesiwn wrth y dwsin. Mae meddygon teulu'n ymddeol yn gynnar ac mae rhai hyd yn oed yn ildio eu trwydded feddygol, sy'n golygu na ellir eu galw o'u hymddeoliad ar adegau o argyfwng.
Fe'n rhybuddiwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain bron 10 mlynedd yn ôl fod angen inni recriwtio tua 200 o feddygon teulu y flwyddyn yng Nghymru. Am y rhan fwyaf o'r blynyddoedd yn y cyfamser, roeddem yn lwcus pe baem yn llwyddo i recriwtio hanner hynny. Ac oherwydd na lwyddwyd i fynd i'r afael â'r problemau recriwtio, crëwyd problem cadw staff. Yn 2019, cyn y pandemig, roedd bron chwarter y practisau a arolygwyd yn ystyried dychwelyd eu contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol. Ers y pandemig, mae pethau wedi gwaethygu'n fawr. Mae meddygon teulu'n rhybuddio y gallai'r straen fod yn drech na'r system, fod y pwysau'n anghymell pobl yn llwyr rhag ymuno â'r proffesiwn, ac mae un o bob wyth o'r rhai sy'n hyfforddi i fod yn feddygon teulu yn dweud nad ydynt yn bwriadu gweithio mewn practis cyffredinol ar ôl cymhwyso fel meddygon, yn ôl arolwg barn diweddar gan Gymdeithas Feddygol Prydain.
Mae hyn i gyd yn cael effaith ddinistriol ar gleifion, gyda llawer ohonynt yn mynd yn salach oherwydd diffyg ymyrraeth gynnar. Dywed fy etholwyr wrthyf y gall gymryd wythnosau iddynt gael apwyntiad gyda'u meddyg teulu ac ni all practisau ymdopi â nifer y bobl sydd ar eu rhestrau. A phan fydd cleifion yn llwyddo i lywio eu ffordd drwy ofal sylfaenol, maent yn wynebu'r un heriau mewn gofal eilaidd. Roedd amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth eisoes yn eithriadol cyn COVID ac maent wedi cynyddu'n aruthrol ers hynny. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod un o bob pump ohonom ar restr aros am driniaeth GIG, mae dwy ran o dair o filiwn o bobl yn aros blynyddoedd am driniaeth i roi diwedd ar eu poen a'u dioddefaint, ac mae 691,000 o ddinasyddion Cymru'n cael eu gadael mewn limbo heb wybod pryd y bydd eu triniaeth yn dechrau. Faint o'r un o bob pump fydd yn marw oherwydd na chawsant driniaeth canser yn ddigon buan? Faint fydd yn cael eu gorfodi i roi'r gorau i weithio oherwydd bod eu cyflwr wedi dirywio i'r fath raddau fel na allant weithredu yn y gweithle?
Dyma'r effeithiau gwirioneddol y mae oedi cyn cael triniaeth yn eu cael ar fywydau pobl. Mae cleifion yn marw, yn mynd yn ddall ac yn colli symudedd oherwydd na ellir eu trin yn ddigon buan. Ac ni ellir eu trin yn ddigon cynnar am nad oes gennym staff. Ar hyn o bryd mae dros 3,000 o swyddi gwag yn ein GIG a llawer yn fy mwrdd iechyd, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yng ngogledd Cymru. Mae gennym 10,000 yn llai o welyau nag a oedd gennym ar ddechrau'r ganrif, ac eto rydym yn aml wedi torri lefelau staffio diogel dros y misoedd diwethaf. Yn ystod yr wythnosau diwethaf gwelsom adrannau damweiniau ac achosion brys gyda llai na thraean o'r staff gofynnol, ac os ydym am adfer yn ddigonol o'r pandemig a bod yn barod ar gyfer y nesaf, os byddwn yn ddigon anffodus i gael un arall, mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hyfforddi, recriwtio a chadw staff.
Mae arnom angen cynlluniau gwirioneddol integredig ar gyfer y gweithlu sy'n rhagweld y galw ar y gwasanaeth yn y dyfodol, a gadewch inni beidio ag anghofio bod yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol wedi ein rhybuddio am yr heriau sy'n ein hwynebu wrth i'n demograffeg newid. Nid ydym yn cynllunio ar gyfer diwallu anghenion heddiw, heb sôn am ymateb i heriau'r dyfodol. Mae arnom angen diwygio ein polisïau recriwtio a chadw staff o'r bôn i'r brig, a byddai o gymorth pe bai gennym bolisïau cadw staff yn y lle cyntaf.
Mae angen inni wneud gweithio ac aros ym maes iechyd a gofal yn gynnig mwy deniadol. Mae angen inni annog mwy o Gymry ifanc i ddilyn gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal. Mae arnom angen cynllun gweithlu sy'n edrych ar y darlun cyfan, o addysgu gwyddoniaeth i gynllunio ar gyfer ymddeol a phopeth rhyngddynt. Mae'n bryd cydgysylltu'r cyfan, ac mae hynny'n galw am arweiniad. Mae'n galw am Lywodraeth Cymru a all gynllunio ar gyfer y dyfodol. Rwy'n annog y Gweinidog i fanteisio ar y cyfle hwn yn awr a gwneud cynllunio'r gweithlu yn brif flaenoriaeth, neu fel arall bydd fy mag post a'ch un chithau'n parhau i orlifo â chwynion ynghylch methu cael apwyntiad wyneb yn wyneb â meddyg teulu, am fethu gweld deintydd GIG, neu am fethu cael pecyn gofal addas ar gyfer perthynas oedrannus. Ni allwn fforddio colli rhagor o staff y GIG, ac ni all fy etholwyr aros yn hwy am driniaeth. Diolch yn fawr.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod o Ddyffryn Clwyd am gyflwyno'r ddadl fer hon, ac ni fydd y Gweinidog yn synnu fy mod yn defnyddio Argyle Medical Group a meddygfa Argyle Street fel fy enghraifft heno. Dyma un o feddygfeydd meddygon teulu mwyaf Cymru, gyda chymhareb cleifion o tua 2,506 o gleifion i bob meddyg teulu. Mae hwn yn bwnc llosg gwirioneddol yn fy mag post, gan na all etholwyr gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd. Rwy'n deall yr angen i newid o ofyn am wasanaethau meddygon teulu yn unig, a gallwn newid i edrych ar nyrsys, ffisiotherapyddion a fferyllwyr, ond mae problemau gwirioneddol o hyd yn y practis meddygon teulu hwn yn Argyle Street. Rwy'n talu teyrnged i Judith Scourfield, rheolwr y practis, a staff Argyle Street; maent yn gweithio'n eithriadol o galed. Ond rwy'n teimlo bod angen targedu rhywbeth yma i'w cefnogi'n wirioneddol yn yr hyn y maent yn ceisio'i gyflawni yn fy rhan i o'r etholaeth. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Rwy'n ddiolchgar am gyfle'r ddadl fer hon heddiw i drafod mater pwysig mynediad at wasanaethau iechyd. Nawr, o dan Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru mae mwy o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill bellach yn gweithio yn y GIG yng Nghymru nag erioed o'r blaen: dros 104,000 o bobl ac 89,000 o staff cyfwerth ag amser llawn—3,600 yn fwy o staff nag ar yr un pryd y llynedd. Ac ymhell o fod yn gwbl ddiwerth, ers 2016 mae nifer y staff meddygol a deintyddol wedi cynyddu 21 y cant. Mae nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd wedi cynyddu 9 y cant, mae'r staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol wedi cynyddu 24 y cant, a staff ambiwlans wedi cynyddu 39 y cant. Rydym yn hyfforddi 69 y cant yn fwy o nyrsys nag yr oeddem yn ei wneud cyn 2016, a'r wythnos diwethaf, rwy'n gobeithio eich bod wedi nodi inni recriwtio 400 o nyrsys rhyngwladol newydd.
Fodd bynnag, nid ydym yn hunanfodlon, ac nid niferoedd yn unig sy'n mynd i warantu llwyddiant. Mae'n ymwneud â sut y mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn cydweithio ac yn defnyddio eu sgiliau, gan gynnwys eu sgiliau Cymraeg, yn y ffordd fwyaf effeithiol i gleifion. Felly, mae gennym ymrwymiad rhaglen lywodraethu i sicrhau gwell mynediad at feddygon, nyrsys, deintyddion a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n adeiladu ar ymrwymiadau blaenorol. Mae gweithgaredd yn canolbwyntio ar y model gofal sylfaenol i Gymru, sy'n ymwneud â phobl yn cael y gofal cywir gan y gweithiwr proffesiynol neu'r gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion penodol, yn eu cartrefi neu mor agos i'w cartrefi â phosibl.
Nawr, mae hyn yn golygu y bydd mwy a mwy o bobl ond yn teithio i ysbytai ar gyfer y gwasanaethau na ddylid eu darparu yn unman ond y lleoliadau hynny. Wrth i raglen y fframwaith clinigol cenedlaethol yrru llwybrau clinigol cenedlaethol, byddwn yn gwneud cynnydd cyflymach ar ailgydbwyso gwasanaethau, gan ariannu'r gweithlu i ffwrdd oddi wrth salwch ac ysbytai a thuag at iechyd a gofal yn nes at adref.
Nawr, yn yr amser sydd gennyf heddiw, ni allaf wneud cyfiawnder â'r ystod enfawr o bolisïau a gweithgaredd sy'n digwydd drwy ein rhaglenni cenedlaethol ar gyfer gofal sylfaenol, ar gyfer gofal wedi'i gynllunio, ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng ac ar gyfer iechyd meddwl i gefnogi ailgydbwyso'r system, felly rwy'n mynd i dynnu sylw at y camau i wella mynediad at y gwasanaethau y mae'r rhan fwyaf o bobl yn eu mynychu ac yn fwyaf cyfarwydd â hwy, sef ein gwasanaethau sylfaenol a chymunedol.
Er mwyn gwella mynediad at feddygon teulu, rydym wedi cyflwyno newid drwy'r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol i gael gwared ar y tagfeydd ar ddechrau'r dydd. Rwyf wedi darparu cyllid ychwanegol o £4 miliwn bob blwyddyn dros y tair blynedd nesaf i adeiladu capasiti ym mhractisau meddygon teulu. Mae'r model gofal sylfaenol yn ymwneud â chynyddu'r ystod o wasanaethau a gweithwyr iechyd proffesiynol sydd ar gael yn y gymuned. Nid meddygon teulu a nyrsys practis yw'r gweithwyr iechyd proffesiynol cywir bob amser ar gyfer anghenion rhywun, ac fel ffisiotherapydd, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol iawn o hynny. Er enghraifft, optometrydd yw'r person cywir i drin problemau llygaid fel llygad coch; mae fferyllwyr cymunedol yn cynnig ystod gynyddol o wasanaethau, o dwymyn y gwair i ddulliau atal cenhedlu brys; mae cwyr clust sy'n achosi nam ar y clyw yn broblem gyffredin, ac rydym yn cynyddu argaeledd awdiolegwyr cymunedol.
Rwy'n ymwybodol iawn mai un o'r meysydd sy'n peri'r pryder mwyaf i bobl o ran eu hygyrchedd yw deintyddion. Mae rheoli gofynion mesurau rheoli heintiau COVID wedi golygu bod llawer llai o gapasiti mewn practisau deintyddol. Diwygio'r contract deintyddol yw ein prif ddull polisi o sicrhau hygyrchedd gwell, a byddwn yn creu mwy o gapasiti i gleifion newydd drwy symud oddi wrth yr hen drefn o archwiliadau chwe misol i bawb i wasanaeth sy'n seiliedig ar angen unigolion ac atal. I lawer o bobl y mae eu hiechyd y geg yn dda, dim ond unwaith bob dwy flynedd y mae angen iddynt gael archwiliad. Mae angen inni gyfathrebu hyn yn well i'r cyhoedd, ac rwy'n croesawu cefnogaeth yr Aelodau i gyfleu'r neges honno.
Y mis diwethaf, lansiais ein chwe nod newydd ar gyfer rhaglen gofal brys a gofal mewn argyfwng, ac rwy'n cefnogi hyn gyda buddsoddiad o £25 miliwn. Mae'r wyth canolfan gofal sylfaenol brys newydd ledled Cymru yn ddatblygiadau allweddol sy'n hwyluso gwell mynediad, gyda dwy arall yn agor cyn bo hir. Ac mae ein gwasanaeth ffôn 111 bellach ar gael ledled Cymru. Mae '111, pwyso 2', yn cyfeirio pobl at gymorth lles iechyd meddwl. Hefyd ym mis Ebrill, cyhoeddais ein rhaglen ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal ysbyty wedi'i gynllunio a lleihau rhestrau aros. Nawr, yn bwysig, mae'r cynllun hefyd yn arwydd o drawsnewid gwasanaethau yn y gymuned i gynnig gwahanol opsiynau a luniwyd i gynorthwyo unigolyn i wneud yr hyn sy'n bwysig iddynt hwy. Rydym yn symud yn raddol i gam newydd o'r model gofal sylfaenol. Mae'r cam hwn yn ymwneud â chynyddu gwelededd a datblygu gwasanaethau cymunedol, lle mae ffocws yr arweinyddiaeth a'r buddsoddiad ar iechyd, annibyniaeth ac integreiddio iechyd a gofal.
Mae papur diweddar gan Gronfa'r Brenin ar yr hyn y gallem ei ddysgu o'r pandemig yn nodi bod adferiad llwyddiannus a chynaliadwy yn bosibl os oes buddsoddiad yng nghadernid cymunedau a dulliau a arweinir gan y gymuned, gydag unigolion a chymunedau yn yr iechyd gorau posibl i ymdopi â'r hyn a ddaw nesaf.
Fel rhan o'n rhaglen strategol ar gyfer gofal sylfaenol, mae yna ffrwd waith benodol hefyd ar atal a llesiant. Mae'r ffrwd waith hon yn nodi cynnig sylfaenol cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl a lles a fydd yn sylfaen i waith cynllunio a darparu lleol. Mae yna ymrwymiadau eraill o dan y rhaglen llywodraethu hefyd ar gyfer gwasanaethau cymunedol, a datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynau cymdeithasol yw un ohonyn nhw.
Mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol newydd—cronfa sydd gwerth £144.7 miliwn—yn parhau i'n symud ni'n agosach tuag at wireddu ein gweledigaeth yn 'Cymru Iachach', gweledigaeth lle mae gan Gymru un system iechyd a gofal integredig, sy'n canolbwyntio ar iechyd a lles ac ar atal salwch—system sy'n galluogi pobl i elwa'n hawdd ar amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfleusterau yn eu cymunedau.
I gloi, rwy'n meddwl y gallwn ni gytuno bod amrywiaeth eang o fesurau yn cael eu datblygu i wella mynediad at ofal iechyd, ond mae rhagor i ddod eto. Yn ogystal â gwella mynediad ar gyfer unigolion, dwi am weld y gwelliannau hyn yn gwneud gwahaniaeth positif i'r rheini sy'n darparu'r gwasanaethau. Mae eu hymrwymiad nhw yn ddiflino, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cefnogi unigolion yn eu cymunedau. Ac mae'r gefnogaeth maen nhw wedi ei rhoi i'r cyhoedd yn wirioneddol wych. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Gweinidog. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch, bawb.