2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 18 Mai 2022.
2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gynlluniau’r Llywodraeth i gefnogi plant a phobl ifanc dyslecsic yn etholaeth Arfon? OQ58053
Rydyn ni wrthi'n datblygu sgiliau'r gweithlu addysg ac wedi darparu adnoddau a chanllawiau dwyieithog ychwanegol er mwyn helpu ymarferwyr i gyflawni anghenion addysgol dysgwyr sydd ag anawsterau dysgu penodol yn well, gan gynnwys dyslecsia yn hynny. Rydyn ni hefyd yn ceisio sefydlu'r hawl i brawf sgrinio dyslecsia newydd i bob oed yng Nghymru.
Mae un o fy etholwyr i yn Arfon wedi cynnal astudiaeth ymchwil annibynnol ar ôl canfod diffygion yn y ddarpariaeth dyslecsia cyfrwng Cymraeg ar gyfer ei merch. Mae wedi cael ei siomi gan y diffyg adnoddau a gwasanaethau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, ac, ar hyn o bryd, er gobeithio i'r dyfodol y bydd yna brawf dyslecsia ar gael yn y Gymraeg, does yna ddim prawf dyslecsia ar gael i rywun ei gymryd yn ei mamiaith. Does yna ddim hyd yn oed gwefan cyfrwng Cymraeg a fyddai'n gallu bod yn adnodd gwybodaeth gwerthfawr tu hwnt. Dwi yn deall bod yna arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor yn awyddus iawn i greu adnoddau cyfrwng Cymraeg. Felly, pa gymorth fedrwch chi a'ch Llywodraeth ei gynnig iddyn nhw, ac a wnewch chi roi diweddariad i ni ynglŷn â'r datblygiadau i greu gwefan ddwyieithog i gefnogi plant a phobl ifanc gydag anghenion niwroamrywiol?
Wel, diolch am y cwestiwn hwnnw. Mae'n sicr bod angen gwneud mwy i sicrhau argaeledd adnoddau yn y Gymraeg ar gyfer dyslecsia yn gyffredinol. Fel rhan o’r cynllun i sicrhau bod y Ddeddf newydd yn cael ei gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithiol, rŷn ni'n gweithio gyda grŵp llywio a byddwn yn recriwtio pobl ag arbenigedd arbennig o ran gweithredu’r system ALN drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys mapio’r hyn y bydd angen inni ei ddarparu. Rŷn ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol yng nghyd-destun y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg i sicrhau ein bod yn deall beth yw eu dadansoddiad nhw o'r angen ar gyfer adnoddau pellach hefyd.
Ond fel gwnes i ddweud yn fras yn fy ateb i'r cwestiwn ar y cychwyn, rŷn ni wrthi'n ceisio cael yr hawl i’r teclyn sy'n sgrinio ar gyfer dyslecsia trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gyda ni eisoes drwy gyfrwng y Saesneg, ond wrth gwrs, mae angen cael hwnna yn Gymraeg hefyd ac mae’r trafodaethau hynny’n digwydd ar hyn o bryd.
Cododd yr Aelod dros Arfon bwynt pwysig iawn, oherwydd gwyddom fod tua 10 y cant o'n poblogaeth yma yng Nghymru yn ddyslecsig. Ac rwy'n gwybod fy hun os nad yw'n cael ei drin neu os na roddir cymorth priodol tuag ato pan fydd rhywun yn ifanc, gall achosi anawsterau i bobl yn ddiweddarach mewn bywyd. Yn ogystal â hyn, mae arwyddion a symptomau dyslecsia yn amrywio o berson i berson, felly mae'n bwysig iawn fod unrhyw gynlluniau a chymorth yn cael eu darparu ar sail unigol efallai yn ogystal â'r cymorth ehangach y gellir ei gynnig.
Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, pa asesiad a wnaethoch o rôl y cwricwlwm newydd, pa rôl y gall hwnnw ei chwarae i sicrhau bod y rheini sydd â dyslecsia yn cael y cymorth a'r gefnogaeth y gallai fod eu hangen arnynt cyn gynted â phosibl er mwyn eu helpu i ffynnu?
Wel, rwy'n credu mai effaith gyfunol diwygiadau'r cwricwlwm a'r diwygiadau ADY yw—. Bydd y ffocws ar lythrennedd yn sbarduno gwelliant yn y maes hwn, a bydd yr hyfforddiant sydd ar gael drwy'r rhaglen dysgu proffesiynol yr ydym wedi bod yn buddsoddi ynddi yn paratoi ein gweithlu addysgu yn benodol i ganfod dyslecsia a chefnogi disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol. Wrth gwrs, ceir amrywiaeth o anghenion yn gysylltiedig â dyslecsia ac anghenion cymharol ysgafn fydd gan rai, a bydd angen ymyrraeth fwy sylweddol ar eraill. Ond ethos y cwricwlwm newydd, yn ogystal ag ethos y diwygiadau ADY, yw sicrhau bod hynny'n cael ei ddarparu cyn belled ag y bo modd mewn lleoliad prif ffrwd ym mywyd yr ysgol ac yn yr ystafell ddosbarth. Ac felly, credaf mai effaith gyfunol y ddau ddiwygiad fydd ffocws o'r newydd ar y maes hwn.