2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 18 Mai 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch, Lywydd. Weinidog, fel y gwyddoch, ymhen pedair blynedd yn unig, ni fydd cymwysterau BTEC ar gael i'n dysgwyr yng Nghymru. Mae llawer o weithwyr proffesiynol mewn colegau yr ymwelais â hwy ledled Cymru yn pryderu fwyfwy nad oes unrhyw beth wedi'i gyhoeddi i gymryd eu lle. Gyda chyfnod mor fyr i fynd, ni chafwyd unrhyw gyfarwyddyd polisi clir gan y Llywodraeth hon yng Nghymru ac yn anffodus, ymateb Cymwysterau Cymru oedd 'Peidiwch â chynhyrfu.' Weinidog, mae angen i'n haddysgwyr wybod beth yw'r cynllun a byddent yn falch iawn pe gallech ein goleuo heddiw beth yw'r cynllun hwnnw.
Wel, mae'r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig. Mae'n iawn i ddweud bod Llywodraeth y DU yn graddol ddiddymu nifer o gymwysterau yn Lloegr, a fydd yn effeithio ar ddysgwyr yng Nghymru oherwydd eu bod yn cael eu hastudio yma yng Nghymru hefyd. Mae hwnnw'n benderfyniad sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth y DU heb ystyried buddiannau dysgwyr yng Nghymru. Yr hyn y mae Cymwysterau Cymru wedi gallu ei wneud yw sicrhau bod rhai o'r cymwysterau allweddol hynny'n cael eu hymestyn fel bod gennym ddiogelwch ychwanegol ar gyfer dysgwyr yng Nghymru, na fydd y rhai dros y ffin yn ei gael, fel y mae'n digwydd.
Bydd hefyd yn gwybod mai rhan o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yw cynnal adolygiad o gymwysterau galwedigaethol a gweld i ba raddau y gallwn ymestyn y syniad o gymwysterau a wnaed yng Nghymru. Rydym wedi gwneud rhai o'r rheini. Mae lle i wneud mwy o'r rheini i sicrhau nad yw dysgwyr yng Nghymru ar eu colled o ganlyniad i benderfyniadau yn San Steffan.
Weinidog, nid yw hynny'n ddigon da. Mae arnom angen cymhwyster galwedigaethol o ansawdd uchel ac o'r radd flaenaf, sy'n addas ar gyfer y cenedlaethau nesaf, ond mae angen amser ar ein haddysgwyr i'w baratoi a sicrhau nad yw ein myfyrwyr a'n dysgwyr yn cael cam yn sgil y diffyg paratoi ar gyfer ei gyflwyno. Mae'n gwbl glir y bydd eich balchder a'ch barn ideolegol eich hun yn golygu nad ydym yn dilyn Lloegr gyda'r lefelau T, ond nid ydym yn cael gwybod beth yw'r opsiynau eraill. Weinidog, a gânt eu gwneud yng Nghymru gan ein rheoleiddiwr ein hunain, fel yn yr Alban, ynteu a gaiff ei wneud drwy bartneriaeth â sefydliadau addysg uwch?
Wel, mae'n ddrwg gennyf roi'r un ateb i'r Aelod ag a roddais yn gynharach, ond nid wyf yn siŵr ei bod wedi dilyn yr hyn yr oeddwn yn ei ddweud yn llwyr. Mae adolygiad o gymwysterau galwedigaethol ar y gweill a fydd yn archwilio i ba raddau y gellir ymestyn cymwysterau a wneir yng Nghymru y tu hwnt i'r lefel bresennol o ddarpariaeth. Ac yn y cyfamser, ceir estyniad i'r cymwysterau mwyaf poblogaidd, er mwyn rhoi amser ychwanegol i hynny ddigwydd.
Un o'r heriau a wynebwyd gennym drwy gydol y broses hon yw bod Llywodraeth y DU wedi bwrw ymlaen heb ystyried anghenion rhannau eraill o'r DU. Felly, y ffordd orau o wneud hyn, er budd dysgwyr ym mhob rhan o'r DU, yw ei wneud mewn ffordd gydweithredol. Nid dyna fu'r profiad yn gyffredinol. Ac felly, y sefyllfa yr ydym ynddi yw ein bod yn datblygu dewisiadau amgen i ddiogelu buddiannau dysgwyr Cymru, a thrafod estyniadau i'r cymwysterau presennol hynny, a dyna mae Cymwysterau Cymru wedi bod yn ei wneud. Rwy'n cyfarfod â hwy'n rheolaidd. Trafodais y cwestiwn hwn gyda nifer o benaethiaid addysg bellach yn ddiweddar. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod deialog barhaus rhwng Cymwysterau Cymru a'r colegau, fel y ceir eglurder a dealltwriaeth o'r hyn sydd o'n blaenau er budd y dysgwyr, sy'n hollbwysig yn yr holl drafodaethau hyn.
Weinidog, unwaith eto, mae'n ymddangos bod diffyg arweiniad amlwg ar eich rhan ar fater mor bwysig mewn addysg i'n plant a'n dysgwyr yng Nghymru. Rydych yn methu egluro eich safbwynt ar rywbeth yr ydych wedi gwybod amdano ers amser maith. Gellid bod wedi cynnal yr adolygiad hwn amser maith yn ôl. Mae angen amser ar bobl i baratoi, mae angen amser ar ein colegau i baratoi'r rhain a gwybod i ba gyfeiriad y byddwch yn mynd. Rydych wedi gadael ein colegau heb y cyfarwyddyd hwn, ac o ganlyniad, mae pedwar coleg addysg bellach yn datblygu partneriaeth i ddyfarnu cymhwyster gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Ai dyma'r model y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer Cymru gyfan?
Wel, rwy'n credu bod yr Aelod yn drysu rhwng dau beth gwahanol. Mae'r adolygiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ar y cyd â Phlaid Cymru, yn ymwneud â'r cymwysterau a wnaed yng Nghymru. Ceir adolygiad y mae Cymwysterau Cymru eisoes wedi'i gyflawni ac fel y gŵyr, mae'n siŵr, mae wedi gwneud dadansoddiad risg o effaith cael gwared ar gymwysterau DU gyfan ar ddysgwyr Cymru. Gwyddom am y gwaith y maent eisoes wedi bod yn ei wneud ar gymwysterau a wnaed yng Nghymru mewn rhai meysydd allweddol—ac rwy'n siŵr ei bod yn gwybod amdano—a hefyd yn comisiynu cymwysterau ychwanegol ar gyfer y bylchau a ddaeth i'r amlwg. Felly, mae'r gwaith eisoes ar y gweill. Fel y gŵyr hi, mae'r dynodiad, y cyfrifoldeb, dros reoli hyn, fel y mae ym mhob rhan o'r DU, y tu allan i ddwylo uniongyrchol y Llywodraeth, a chyda'r rheoleiddiwr cymwysterau, sef yr hyn y byddem i gyd yn dymuno'i weld. A'r gwaith y soniais wrthych amdano yw gwaith y maent yn ei wneud gyda cholegau addysg bellach. Ond mae'n dra phwysig sicrhau bod y ddeialog honno'n parhau, fel bod dysgwyr yn gwybod beth yw'r opsiynau wrth i'r cymwysterau hynny—y dibynnwyd ar lawer ohonynt ers amser maith—gael eu diddymu gan Lywodraeth y DU.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Weinidog, ar 11 Mai, fe wnes i a Jayne Bryant gyfarfod ag aelodau NEU Cymru ar gyfer sesiwn a oedd yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth ynglŷn ag effaith pwysau gwaith ar iechyd meddwl a lles staff mewn ysgolion. Canfu arolwg diweddar o’u haelodau fod 95 y cant o addysgwyr yn gweithio mwy na’r oriau yn eu cytundeb, a bod 44 y cant o addysgwyr yn ystyried o ddifrif gadael y sector addysg. Canfu’r arolwg hefyd fod 79 y cant o'r ymatebwyr yn ansicr bod ganddynt gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, a dywedodd 62 y cant nad yw eu cyflogwr yn gwneud unrhyw beth i leihau eu llwyth gwaith.
Er bod peth cefnogaeth wedi dod gan y Llywodraeth o ran cefnogi iechyd a lles staff, y neges glir a gefais ganddynt oedd nad oedd hyn yn ddigonol, ac mai'r peth pwysicaf y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yw lleihau llwyth gwaith. Oes unrhyw gynlluniau ar waith i gefnogi’n bellach iechyd meddwl athrawon a staff mewn ysgolion drwy leihau llwyth gwaith, a sicrhau nad ydym yn colli mwy o athrawon?
'Oes' yw'r ateb. Mae dau beth ar waith. Rŷn ni wedi treblu'r gyllideb sydd ar gael i ddarparu cefnogaeth i athrawon sydd o dan bwysau penodol. Mae rhan o hynny'n adnoddau ar-lein, mae peth ohono fe'n gyngor un wrth un, ac mae peth ohono fe'n hyfforddiant i arweinwyr a phenaethiaid er mwyn adnabod beth mwy gellid ei wneud o ran cefnogaeth o fewn yr ysgol. Mae'r gyllideb ehangach yn mynd i alluogi'r gwasanaeth hwnnw i gyrraedd mwy o bobl. Y profiad fuaswn i'n dweud ar y cyfan yw, os ydych chi wedi bod mewn ysgol lle rydych chi wedi cael profiad o'r gwasanaeth hwnnw, mae'n beth positif, ond dyw e ddim wedi bod ar gael i ddigon o bobl. Felly, dyna'r bwriad wrth gynyddu'r gyllideb: sicrhau ei fod ar gael i fwy o athrawon.
Ond y cwestiwn sylfaenol yw: beth mae hynny'n golygu o ran pwysau gwaith? Mae gennym ni fforwm ar waith gyda'r undebau llafur, gyda'r awdurdodau addysg lleol, yn edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud er mwyn sicrhau ein bod ni'n taro'r cydbwysedd iawn rhwng gofynion a hefyd y pwysau. Felly, mae'r broses yna'n digwydd ar hyn o bryd. Mae'r undebau i gyd yn rhan ohono fe, a rwy'n gobeithio y bydd yn dwyn ffrwyth cyn hir.
Diolch, Weinidog. Mae'n amlwg i'w groesawu eich bod chi'n ymwybodol ac yn trio ymateb i'r galw. Dwi'n meddwl mai un o'r heriau oedd yn cael ei adlewyrchu i ni ydy'r amser i fod yn edrych ar ôl eich iechyd a'ch lles, oherwydd y pwysau gwaith hwnnw. Felly, mae yn heriol ofnadwy.
Un o'r pethau roedden nhw'n pwysleisio i ni hefyd oedd y ffaith eu bod nhw'n dal i ymdopi efo COVID a'r heriau hynny, y gefnogaeth ychwanegol i ddisgyblion sydd ei hangen, tra hefyd wrth gwrs yn paratoi ar gyfer y datblygiadau sydd eu hangen, wrth gwrs, efo anghenion dysgu ychwanegol a hefyd y cwricwlwm newydd. Yn sicr, un o'r negeseuon clir o ran y cwricwlwm newydd, er eu bod nhw'n gyffrous iawn amdano fo, oedd bod yr heriau o ran paratoi ar gyfer mis Medi yn ofnadwy o heriol ac yn rhoi y pwysau cynyddol hwnnw. Felly, gyda Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno hyn ym mis Medi, pa gynlluniau sydd ar waith yn benodol fel ein bod ni'n cefnogi'r athrawon hynny sydd efallai'n ystyried gadael y proffesiwn oherwydd y llwyth gwaith rŵan, ac i sicrhau hefyd y gwaith pontio angenrheidiol hwnnw rhwng y cwricwlwm presennol a’r un newydd?
Rwy'n derbyn y pwynt mai un o'r heriau yw cael yr amser i sicrhau eich bod chi'n gofalu am eich hunan. Mae hynny wedi bod yn heriol iawn. Rydych chi'n iawn hefyd i ddweud bod y profiad o'r ddwy flynedd ddiwethaf ddim ar ben, ac mae ymarferwyr addysg, athrawon a chynorthwywyr hefyd o dan bwysau ar hyn o bryd. Mae hynny'n sicr yn wir. O ran y gefnogaeth bellach, fe fyddwch chi wedi gweld y datganiad bod rhyw hanner o'r ysgolion uwchradd wedi penderfynu dechrau'r cwricwlwm ym mis Medi eleni yn hytrach nag aros tan flwyddyn nesaf, sydd i'w groesawu, wrth gwrs. Mae'n gallu ni i gynyddu lefelau staffio yn sgil COVID—hynny yw, rhyw 1,800 o staff ychwanegol i mewn i'r system—rwy'n credu, yn darparu rhywfaint ychwanegol o gymorth. Ond, wrth gwrs, mae'r anghenion yn uwch hefyd yn sgil y pwysau sydd wedi bod ar fyfyrwyr a disgyblion dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Efallai bydd yr Aelod wedi gweld nôl ym mis Chwefror fe wnes i ddatgan cynllun o gefnogaeth i athrawon dros y misoedd nesaf, o ddechrau'r flwyddyn, i sicrhau eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw'n barod ar gyfer mis Medi. Bydd athrawon mewn mannau gwahanol ar y llwybr o deimlo eu bod nhw'n barod, ac rwy'n sicr y bydd llawer yn meddwl eu bod nhw wedi colli'r amser ychwanegol hwnnw i ddarparu ar gyfer mis Medi. Ond, mae lot o waith wedi bod yn digwydd ers cyfnod hir i sicrhau bod yr adnoddau yno a'r hyfforddiant yno. A dyw e ddim yn rhy hwyr; mae lot o gefnogaeth ar gael i sicrhau bod pob un athro yn teimlo'n hyderus i ddysgu'r cwricwlwm newydd ym mis Medi.