– Senedd Cymru am 4:50 pm ar 21 Mehefin 2022.
Grŵp 4 nawr yw'r grŵp nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Gwelliant 79 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Laura Anne Jones i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r grŵp. Laura Jones.
Diolch, Llywydd. Hoffwn siarad am fy ngwelliannau 79 ac 80. Diben y gwelliannau hyn yw cryfhau'r ddyletswydd ar y comisiwn i hyrwyddo addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg i adlewyrchu uchelgeisiau 'Cymraeg 2050'.
O ran gwelliant 79, rwyf i wedi dewis ailgyflwyno'r gwelliant hwn gan fy mod i'n dal i gredu ei fod yn hanfodol i adlewyrchu swyddogaeth bwysig y comisiwn o ran cyrraedd yr amcan o filiwn o siaradwyr Cymraeg.
O ran gwelliant 80, mae hwn i ddiwygio gwelliannau Cyfnod 2 y Gweinidog. Y rheswm am hyn yw i ychwanegu eglurder a ffocws at welliannau'r Gweinidog o ran 'Cymraeg 2050', drwy sicrhau bod cyfeiriad penodol yn cael ei wneud at y ddarpariaeth o adnoddau. Gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn gweld y gwerth yn hyn. Diolch.
Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn cefnogi'r egwyddor o sicrhau adnoddau i gwrdd, hyrwyddo ac ehangu'r galw am addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg, ac fe fuom ni'n lleisio ein pryderon am hyn yn ystod Cyfnod 1 a 2, pryderon a oedd wedi cael eu rhannu yng Nghyfnod 1 gan Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chomisiynydd y Gymraeg. Roeddwn i'n falch wedyn o weld felly yn ystod Cyfnod 2 welliant cadarn i warantu bod angen i'r comisiwn nid yn unig gwrdd â'r galw, ond hefyd hyrwyddo, annog a sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Rydym yn gytûn gyda'r Llywodraeth bod y dyletswydd strategol sy'n cael ei grybwyll yng ngwelliant 11 yn ateb y pryderon, a bod gwelliannau 79 ac 80 yn amhriodol gan fod y cwestiwn o adnoddau yn rhan o'r dyletswydd strategol i annog y galw.
Os ydym am gyrraedd y miliwn o siaradwyr erbyn 2050, yna mae hyrwyddo manteision darpariaeth cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr a myfyrwyr, wrth gwrs, yn gwbl greiddiol. Mae angen i ni feithrin hyder dysgwyr bod llwybrau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yn bosib iddynt, ac yn sicrhau bod y llwybrau hynny yn eu denu, ac y bydd y gefnogaeth briodol, wrth gwrs, yno ar eu cyfer.
Cefais fy nghalonogi hefyd yng Nghyfnod 2 yn enwedig o ran sylwadau'r Gweinidog am rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn hyn o beth, a'i berthynas gyda'r comisiwn. Wrth gwrs, rydym o'r farn bod yn rhaid i'r coleg benderfynu a chynghori ar sut i ddyrannu unrhyw adnoddau ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg drwy'r comisiwn, a'u bod yn cael eu sianelu felly drwy'r coleg. Roeddwn i'n falch o glywed y Gweinidog yn cadarnhau bod ganddynt rôl hanfodol i'w chwarae i sicrhau dilyniant o addysg statudol i addysg ôl-16 drwy gydweithio gyda'r comisiwn. Felly, byddwn yn falch o gael cadarnhad o weledigaeth y Gweinidog yn hynny o beth y prynhawn yma.
Y Gweinidog i gyfrannu.
Diolch, Llywydd. Fel rwyf wedi dweud o'r blaen, dwi'n gwbl argyhoeddedig bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, a rhaid i ni barhau i annog a chreu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, yn enwedig yn ein sector addysg drydyddol. A gaf i longyfarch Laura Anne Jones ar ei defnydd o'r Gymraeg yn y Siambr y prynhawn yma heddiw?
Bydd Aelodau’n ymwybodol bod y dyletswydd strategol mewn perthynas â hyrwyddo addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg wedi’i ddiwygio yng Nghyfnod 2, fel y soniwyd eisoes, gan ehangu'r dyletswydd i’w gwneud yn ofynnol i'r comisiwn annog y galw am a chyfranogiad mewn addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Er fy mod i’n croesawu cefnogaeth yr Aelod ar gyfer adnoddau i gynyddu cyfranogiad mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ni allaf gefnogi gwelliant 79 na gwelliant 80, gan fod darparu adnoddau wedi’i gynnwys yn y gofyniad i annog y galw am a chyfranogiad mewn addysg drydyddol a ddarperir yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai nodi risg o ran adnoddau yn golygu bod y dyletswydd yn llai clir, gan y gallai gyflwyno amwysedd ynghylch a yw darparu adnoddau yn dod o fewn cwmpas y dyletswydd i annog galw.
O ran y cwestiwn oddi wrth Sioned Williams, mae'r memorandwm esboniadol nawr wedi cael ei ddiwygio i adlewyrchu'r hyn a gytunwyd yng Nghyfnod 2. Felly, mae'r esboniad ehangach ynghlwm yn hwnnw.
Felly, rwy'n galw ar Aelodau i wrthod y gwelliannau hyn.
Laura Jones i ymateb.
Diolch. Diolch, Gweinidog. Rwy'n siomedig bod y Gweinidog wedi gwrthod fy ngwelliant, gan ei fod yn anghytuno â'r syniad o sôn yn benodol am ddarparu adnoddau yn ein hymgais i fodloni amcanion 'Cymraeg 2050'.
Er fy mod i'n cytuno â llawer o'r hyn y mae'r Aelod dros Blaid Cymru newydd ei ddweud, rwy'n siomedig bod y Gweinidog wedi gwrthod fy ngwelliant i'w welliant Cyfnod 2, oherwydd, yn fy marn i, ni fyddai ond yn gwella'r gwelliant. Felly, gofynnaf i'r Aelodau ei gefnogi.
Gwelliant 79, felly. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 79? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Ac felly cymrwn ni bleidlais ar welliant 79. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 79 wedi'i wrthod.
Gwelliant 11 yn cael ei symud gan y Gweinidog?
Ydy. Gwelliant 11—amendment 11. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Does yna ddim gwrthwynebiad i welliant 11.
Gwelliant 80 yn enw Laura Anne Jones. Ydy e'n cael ei symud?
Symud. A oes gwrthwynebiad i welliant 80? [Gwrthwynebiad.] Felly, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 80. Agor y bleidlais.
Gwelliant 80 yn enw Laura Jones.
Cau'r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 80 wedi'i wrthod.