Iechyd Meddwl Amenedigol

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am wasanaethau i gefnogi menywod yn Arfon sy’n cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl amenedigol? OQ58234

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:15, 21 Mehefin 2022

Diolch. Llywydd, mae buddsoddiad rheolaidd o £3 miliwn wedi caniatáu'r bwrdd iechyd a byrddau iechyd ar draws Cymru i ddatblygu timau iechyd meddwl amenedigol cymunedol. Mae ataliaeth ac ymyrraeth gynnar yn sicrhau bod mwy o fenywod yn derbyn cymorth effeithiol mor agos â phosib i’r cartref. Yn Arfon, mae hynny'n cynnwys nyrs arbenigol, yn gweithio fel rhan o'r tîm iechyd meddwl amenedigol cymunedol ehangach.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

Diolch yn fawr. Wythnos nesaf, mi fyddai’n cyd-noddi digwyddiad i nodi pen-blwydd cyntaf yr uned mamau a babanod yn y de, sef Uned Gobaith. Fel dŷch chi’n gwybod, cafodd yr uned yma ei hagor yng nghanol y pandemig, a does yna ddim dwywaith ei bod hi wedi wynebu heriau oherwydd hynny, ond hefyd mae hi yn datblygu i fod yn adnodd gwerthfawr i famau sy’n datblygu problemau iechyd meddwl o gwmpas cyfnod geni plentyn.

Mae cynifer ag un o bob pedair menyw yn gallu datblygu problem o’r fath. Dwi felly’n bryderus ar ran mamau yn fy etholaeth i, ac ar draws y gogledd, nad oes yna fynediad at uned arbenigol yn agos at gartref i’r mamau rheini. A wnewch chi ymrwymo i ddatblygu cefnogaeth arbenigol mewn man addas? Rydych chi’n sôn am nyrs, ond mae eisiau lleoliad addas ar gyfer merched y gogledd. A wnewch chi roi blaenoriaeth i symud ymlaen efo creu’r ddarpariaeth yma? Mae ar y gweill ers tro. Mae angen gweld gweithredu.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:16, 21 Mehefin 2022

Wel, diolch yn fawr i Siân Gwenllian, a diolch iddi am gyd-noddi’r digwyddiad yr wythnos nesaf. O bopeth dwi wedi’i glywed, mae flwyddyn gyntaf yr uned yn Ysbyty Tonna wedi bod yn un lwyddiannus, ac, wrth gwrs, rŷm ni’n trio tynnu gwersi mas o’r profiadau yna. Ac, wrth gwrs, hefyd, Lywydd, dwi’n deall y pwyntiau y mae’r Aelod yn eu gwneud am ddarpariaeth cleifion mewnol yn y gogledd. Mae llawer o waith wedi’i wneud eisoes gan y pwyllgor gwasanaethau arbenigol ar y mater hwn.

Er mwyn i uned annibynnol weithredu, byddai angen iddi fodloni’r safonau sy’n ofynnol gyda’r colegau brenhinol perthnasol. Mae hynny’n cynnwys nifer y cleifion sydd eu hangen i gynnal uned arbenigol o’r math hwn. Dyna’r peth mae pobl yn y gogledd yn ei drafod ar hyn o bryd: allwn ni sefydlu uned yn y gogledd ble bydd y colegau brenhinol yn fodlon rhoi caniatâd i honno symud yn ei blaen? Mae’r trafodaethau hynny yn parhau, a dwi’n gwybod bod pob cyfle yn cael ei gymryd i gyflymu’r broses o gytuno ar gyfres o gynigion ymarferol.