Datblygu Tai yng Nghaerdydd

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod y seilwaith angenrheidiol mewn lle i ddiwallu anghenion datblygu tai yng Nghaerdydd? OQ58213

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:35, 21 Mehefin 2022

Llywydd, Cyngor Caerdydd sy'n gyfrifol am y materion hyn. Rhaid i'r awdurdod weithredu o fewn y fframwaith a nodir yn 'Polisi Cynllunio Cymru', fel yr adroddwyd yn flaenorol i'r Senedd hon.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Roeddwn i'n falch iawn i ddarllen yr adroddiad ynglŷn â chreu metro rhwng Llantrisant a Chaerdydd, a dwi'n cytuno yn llwyr â chi, ac â'r Cwnsler Cyffredinol, am bwysigrwydd hynny. Y drafferth yw, wrth gwrs, ei bod hi'n mynd i gymryd 10 mlynedd i'w adeiladu, ac, fel y gwyddoch chi, mae miloedd o bobl wedi symud i dai newydd yng ngogledd y ddinas, a driveways y tai yma â nifer o geir. Dyw'r ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ddim yn ddigonol yno o gwbl. Pryder arall sydd wedi codi'n ddiweddar gyda thrigolion yng ngogledd Caerdydd yw'r orsaf bwmpio carthion newydd ym mharc hanesyddol Hailey. Sut mae modd, Brif Weinidog, sicrhau bod darpariaethau angenrheidiol mewn lle cyn adeiladu datblygiadau mawr newydd? Diolch yn fawr.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:36, 21 Mehefin 2022

Llywydd, diolch yn fawr i Rhys ab Owen am y cwestiwn ychwanegol. Mae'n rhaid i fi, Llywydd, fod yn ofalus i gadw'r bwlch rhwng pethau dwi'n eu gwneud fel Aelod lleol yng Ngorllewin Caerdydd a'r cyfrifoldebau sydd ar Weinidogion yma yng Nghymru. Jest i fod yn glir, ni fyddaf i na'r Cwnsler Cyffredinol yn cymryd rhan mewn unrhyw benderfyniadau am y posibiliad o ail-greu'r rheilffordd sy'n mynd mas o Orllewin Caerdydd i mewn i'r etholaeth ym Mhontypridd. Yn gyffredinol, mae lot o waith yn mynd ymlaen ym Mhlasdŵr, yn y meysydd bws a hefyd i gynllunio i bobl sydd eisiau mynd ar y beic o ble maen nhw'n byw i ble maen nhw'n gweithio. A dwi'n gwybod bod cynlluniau gan Gyngor Caerdydd, ac maen nhw'n ymgynghori â phobl ar hyn o bryd yn Llandaf, i ymestyn y system sydd gyda ni'n barod a chael hwnna i fynd mas i Plasdŵr, i helpu pobl i ddod i mewn i'r ddinas yn y ffordd yna. Mae dinas Caerdydd, Llywydd, yn ailwampio'r LDP sydd gyda nhw'n barod, a phan fyddan nhw'n gwneud hynny, bydd yn rhaid iddyn nhw weithio, fel y dywedais i yn yr ateb gwreiddiol, y tu fewn i'r broses statudol sydd gyda ni nawr yma yng Nghymru. Dyna beth mae'r cynllun rydym ni wedi ei roi mas i'r awdurdodau lleol yn ei ddweud.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:38, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Mae yn llawlyfr y cynllun datblygu. Rhaid paratoi cynlluniau seilwaith sy'n nodi'n glir pa seilwaith sydd ei angen, y gost a'r amseriad yn fras, yn ogystal â ffynonellau ariannu. Llywydd, cyflwynodd Cyngor Caerdydd gyfres o brif gynlluniau, ochr yn ochr â'i CDLl, yn ôl yn 2016. Ond bydd darparu cynllun seilwaith, fel rhan o'i CDLl newydd, bellach yn ofyniad statudol, a bydd hynny'n helpu o leiaf i ymateb i'r pwyntiau y mae Rhys ab Owen wedi'u codi y prynhawn yma.

Photo of Joel James Joel James Conservative

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, ar 8 Ionawr 2019, gofynnodd Huw Irranca-Davies i chi ynghylch yr hyn yr oedd y Llywodraeth hon yn ei wneud i sicrhau bod y seilwaith trafnidiaeth yn bendant ar waith i alluogi'r cynlluniau mawreddog ar gyfer tai newydd yng Nghaerdydd a'r de, i helpu i greu, yn ei eiriau ef, gannoedd a channoedd o berchnogion cartrefi hapus, nid etholwyr blin mewn tagfeydd. Fel y cofiwch efallai, gwnaethoch chi ymateb drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi deddfu i greu'r amodau pryd gall awdurdodau lleol ddod at ei gilydd i greu cynlluniau datblygu strategol, a'ch bod yn falch o weld, y llynedd, awdurdodau bargen prifddinas Caerdydd yn dod at ei gilydd i ddatblygu cynllun o'r fath ar gyfer ardal ehangach, a'ch bod yn edrych ymlaen at weld sut, yn 2019, y byddai'r bwriad hwnnw'n troi'n gamau ymarferol. Wel, dair blynedd yn ddiweddarach, gallwn weld yn glir fod y ddeddfwriaeth a grëwyd gan y Llywodraeth hon wedi helpu Caerdydd i droi'n ddinas gyda llawer o etholwyr blin mewn tagfeydd, ac mae'n amlwg nad yw'n gweithio. Mae'r sefyllfa o ran seilwaith yng Nghreigiau a Radur a'r cyffiniau yn ofnadwy ar y gorau, ac, fel y gwyddoch chi'n iawn, mae'n cael ei waethygu gan y ffaith nad oes gan y datblygiadau tai newydd ddigon o amwynderau, sy'n golygu bod yn rhaid i drigolion yrru i gael mynediad i ysgolion, cyfleusterau iechyd, siopau a thebyg, sy'n gwaethygu'r sefyllfa ymhellach. Hefyd, mae gwasanaethau bysiau'n ofnadwy. Maen nhw'n cael gwared ar fwy a mwy o wasanaethau yn yr ardal—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:40, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Mae angen i chi ddod at gwestiwn, os gwelwch yn dda, Joel James.  

Photo of Joel James Joel James Conservative

(Cyfieithwyd)

Dywedwch hynna eto, mae'n ddrwg gennyf. Nid yw hwn—[Anghlywadwy.]  

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mae angen i chi ddod at gwestiwn. 

Photo of Joel James Joel James Conservative

(Cyfieithwyd)

Dim problem. Prif Weinidog, pam na all y Llywodraeth hon greu deddfwriaeth sy'n sicrhau bod digon o amwynderau, trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith yn cael eu rhoi ar waith cyn caniatáu i dai gael eu hadeiladu? Diolch. 

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, diolch i'r Aelod am y diddordeb y mae ef hefyd yn ei gymryd yn etholaeth Gorllewin Caerdydd. Rhoddaf sicrwydd iddo y byddaf yn adrodd ei safbwyntiau i'r Aelod etholedig ac y byddan nhw'n cael eu cymryd o ddifrif fel y dylen nhw, gan gynnwys yr holl waith sy'n mynd ymlaen i sicrhau bod yr amwynderau yno y mae angen eu darparu ar gyfer poblogaeth o'r fath sydd wedi dewis mynd i fyw yn natblygiad Plasdŵr. Yn hytrach na bod yn ddinasyddion 'blin' yng Nghaerdydd, fel yr awgryma'r Aelod, mae'r rhain yn bobl sy'n gwario miloedd lawer o bunnau yn wirfoddol i fanteisio ar y cyfle sydd wedi'i greu ar eu cyfer. 

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 1:41, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Rwyf eisiau canolbwyntio ar y seilwaith cynllunio sy'n ymwneud â datblygiadau tai. Roeddwn yn siomedig iawn o glywed bod Cyngor Caerdydd wedi rhoi caniatâd cynllunio i 700 o gartrefi ar hen safle Brains, ychydig i'r de o orsaf Caerdydd Canolog—datblygiad 29 llawr—a'r unig gyfraniad i dai cymdeithasol yw £600,000 i adeiladu cartrefi mewn mannau eraill. Wel, mae hynny'n cyfateb i tua phum cartref. Felly, tybed pa gynlluniau a allai fod gan Lywodraeth Cymru i gryfhau'r rhwymedigaeth i gartrefu nid yn unig y bobl sy'n gallu fforddio prynu tai, ond y rhai sy'n aros ar y rhestr aros am dai. 

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:42, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, mae'r penderfyniad i fwrw ymlaen â thai ar hen safle Brains, wrth gwrs, yn un i'w groesawu, oherwydd mae'n golygu bod codi tai'n digwydd ar safle tir llwyd ac yn rhan ganol dinas Caerdydd, lle gwyddom fod y galw am dai yn sylweddol. Ond rwy'n cytuno â'r hyn y mae Jenny Rathbone wedi'i ddweud: mai mater i awdurdodau lleol yw gwneud y defnydd gorau posibl o'r trefniadau sydd ar waith yno iddyn nhw sicrhau bod datblygwyr yn gwneud cyfraniad sylweddol at anghenion tai yn y dyfodol, nid dim ond pobl a fydd yn gallu fforddio prynu eiddo ar y safle hwnnw, ond at yr ymdrech gyffredinol y mae angen ei gwneud i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol fforddiadwy o safon dda yma yng Nghymru. Rwy'n cymeradwyo cyngor dinas Caerdydd am bopeth y maen nhw'n ei wneud i adeiladu tai cyngor yn y ddinas am y tro cyntaf ers amser maith, ond mae angen manteisio ar gyfleoedd eraill hefyd.