– Senedd Cymru am 6:15 pm ar 28 Mehefin 2022.
Yr eitem olaf y prynhawn yma yw'r ddadl ar Gyfnod 4 y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Dwi'n galw ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg unwaith eto i wneud y cynnig yma. Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Rwy'n gwneud y cynnig. Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid, yn ogystal â'r Aelodau eraill sydd wedi cyfrannu at y gwaith o graffu ar Fil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r holl randdeiliaid a wnaeth gyfrannu i'r gwahanol ymgynghoriadau a lywiodd y Bil, yn cyfrannu tystiolaeth i'r broses graffu ac sy'n parhau i ymgysylltu drwy'r bwrdd strategaeth a gweithredu.
Mae'r Bil sydd ger ein bron heddiw wedi'i gryfhau o ganlyniad i sylwadau gan randdeiliaid, craffu'r Senedd a gweithio trawsbleidiol effeithiol. Gobeithio y bydd yr Aelodau'n teimlo ei fod yn cynrychioli ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer dyfodol addysg drydyddol. Fe wnaeth yr argymhellion a'r sylwadau gan bwyllgorau, yn enwedig y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o dan arweiniad Jayne Bryant, fy helpu i adnabod meysydd lle gellid mireinio'r Bil ymhellach, gan gynnwys mewn cysylltiad â materion fel lles dysgwyr, swyddogaeth y Coleg Cymraeg a chryfhau cydweithio rhwng undebau llafur.
Diolch yn fawr i bawb a wnaeth weithio gyda ni mewn ysbryd o bartneriaeth i ddelifro'r Bil pwysig hwn.
Mae'r Bil hwn, am y tro cyntaf yn neddfwriaeth Cymru, yn dwyn ynghyd y cyfrifoldeb am oruchwylio addysg uwch ac addysg bellach Cymru, chweched dosbarth ysgolion, prentisiaethau ac ymchwil ac arloesi mewn un lle, ac yn gosod y gwerthoedd a'r weledigaeth sydd gennym ni ar gyfer addysg ôl-16 ar sail statudol gadarn. Er mai un o brif effeithiau'r Bil yw creu stiward cenedlaethol cyntaf erioed Cymru ar gyfer y sector ymchwil trydyddol cyfan a chau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, mae'r canlyniad yr ydym yn ei geisio, drwy lunio strwythur a system newydd, yn cael ei gefnogi'n well gan ddysgwyr sydd â'r wybodaeth a'r sgiliau ar gyfer datblygiad, llwyddiant a dysgu gydol oes. Dim ond drwy fabwysiadu dull gweithredu system gyfan, sector cyfan a chenedl gyfan y byddwn yn lleihau anghydraddoldebau addysgol, yn ehangu cyfleoedd ac yn codi safonau. Bydd y diwygiadau a gyflwynir gan y Bil hwn yn helpu i chwalu rhwystrau, yn sicrhau llwybrau haws i ddysgwyr ac yn cefnogi buddsoddiad parhaus mewn ymchwil ac arloesi.
Bydd y dyletswyddau strategol newydd sy'n nodi yn y gyfraith ein gwerthoedd a'n huchelgeisiau ar gyfer addysg drydyddol yng Nghymru yn llywio'r comisiwn newydd a'r sector. Bydd y dyletswyddau hyn yn helpu i ymgorffori ymrwymiad o'r newydd i ddysgu gydol oes fel bod Cymru'n dod yn genedl o ail gyfle lle nad yw byth yn rhy hwyr i ddysgu; pwyslais ar gyfranogiad ehangach a chyfle cyfartal; ehangu'r ddarpariaeth addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg; sector sydd â rhagolygon byd-eang gyda chenhadaeth ddinesig glir ac sy'n cyfrannu at economi gynaliadwy ac arloesol, gwir welliant parhaus; sector ymchwil ac arloesi cystadleuol a chydweithredol ac un sy'n adlewyrchu egwyddorion partneriaeth gymdeithasol. Ynghyd â'n datganiad o flaenoriaethau, mae'r dyletswyddau strategol hyn yn darparu'r fframwaith cynllunio strategol hirdymor y mae angen i'r sector gwerthfawr ac amrywiol hwn ei gyflawni wrth i ni adfer, adnewyddu a diwygio.
Mae gan bawb yr hawl i brofiad addysg hapus, ac fe hoffwn i Gymru gael enw da yn y DU ac yn rhyngwladol am roi dysgwyr a'u llesiant wrth wraidd ein system addysg. Drwy'r Bil hwn, rydym yn canolbwyntio ar lwyddiant a llesiant dysgwyr o bob oed ar draws pob lleoliad ac ym mhob cymuned. Mae dysgwyr wrth wraidd y diwygiadau hyn, a bydd y comisiwn yn edrych ar y system gyfan, gan gefnogi dysgwyr drwy gydol eu bywydau i gael yr wybodaeth a'r sgiliau i lwyddo.
Llywydd, rwyf o'r farn mai'r Bil hwn yw'r Bil parch cydradd, gan gefnogi cryfderau gwahanol ond cydategol pob sefydliad fel bod dysgwyr o bob oed yn gallu manteisio ar yr ystod lawn o gyfleoedd a'u bod yn gallu cyfrannu'n economaidd, yn academaidd ac at ein cymunedau. Mae llawer yn y Siambr hon ac ar draws y wlad wedi dychmygu dyfodol ers tro byd pryd yr ydym yn chwalu'r rhwystrau rhwng sectorau, sefydliadau a myfyrwyr. Drwy bleidleisio dros y Bil hwn heddiw, nid ydym ni bellach yn dychmygu'r dyfodol hwnnw, rydym yn ei lunio—
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Yn sicr.
Diolch am dderbyn yr ymyriad, Gweinidog. Yr wythnos diwethaf, ymyrrais ynghylch y darpariaethau o ran sefydliadau addysg uwch a'r darpariaethau a allai orfodi cyfuno'r sefydliadau hynny â'r darpariaethau sydd yn y Bil. A wnewch chi roi sicrwydd mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddai'r darpariaethau hynny'n cael eu deddfu gan y Gweinidog, a bod y sefydliadau addysg uwch hyn sydd gennym ni yma yng Nghymru yn gyrff annibynnol ac y dylen nhw barhau i fwynhau'r annibyniaeth honno, ac nad yw darpariaethau yn y Bil hwn yn fodd dirgel i orfodi cyfuno'r sector prifysgolion?
Wel, bydd yr Aelod yn cofio'r sicrwydd a roddais i'r Siambr yng Nghyfnod 3. Mae'r Bil, fel y gŵyr, yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ymreolaeth sefydliadol, a rhoddais yr ymrwymiad bryd hynny, yr wyf yn fodlon ei ailadrodd, mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellid defnyddio'r pwerau hynny.
Fel y dywedais o'r blaen, Llywydd, mae'n hen bryd gwneud y newid hwn, a bwriadaf gynnal momentwm a chynnydd o ran gweithredu'r Bil hwn gan barhau i gydweithio i gyflawni ar gyfer dysgwyr a chymunedau ledled Cymru. Rydym ar drothwy cyfnod newydd ar gyfer addysg ôl-16, yn barod i fanteisio ar gyfleoedd y ganrif hon er budd ein dysgwyr ac anghenion ein heconomi, ein cymunedau a'r genedl, ac anogaf bob Aelod i gefnogi'r Bil.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch ar goedd hefyd i'r clercod a'r staff cyfreithiol drwy gydol hynt y Bil hwn, ac estynnaf y diolch hwnnw i Gadeirydd y pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, Jayne Bryant, y pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, a phawb y bu ganddyn nhw ran yn y gwaith o gael y Bil hwn i Gyfnod 4 heddiw. Hoffwn hefyd, wrth gwrs, ddiolch i'r Gweinidog am wrando ar ein pryderon yn bennaf, gan gydnabod cyfraniadau y Ceidwadwyr Cymreig i'r Bil. Rwy'n falch ein bod wedi gallu cydweithredu i gyflawni gwelliannau nodedig i'r ddeddfwriaeth hon.
Er ein bod yn cefnogi nodau cyffredinol y Bil hwn, mae rhai pryderon, wrth gwrs, yn parhau. Ond, er gwaethaf ein pryderon, byddwn yn pleidleisio o blaid y Bil hwn heddiw. Yn gyffredinol, mae wedi bod yn ddull adeiladol iawn gan bob plaid i sicrhau bod y Bil hwn yn tawelu ofnau ac yn cyflawni'r hyn yr ydym ni i gyd eisiau ei weld—addysg well—ac i sicrhau y bydd y ddeddfwriaeth hon yn sefyll prawf amser. Roeddem, fel yr wyf wedi dweud o ddechrau'r trafodion hyn, yn pryderu am amserlen gyflym y Bil hwn, ond, o ystyried yr amgylchiadau, roeddem yn benderfynol o wneud y gorau o'r cyfle hwn i helpu i wella addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Felly, roeddem yn hapus i weld y bu'r Gweinidog yn agored i fynd i'r afael â nifer o'n pryderon, megis materion yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol, llesiant dysgwyr a thryloywder polisi ariannu, a oedd yn feysydd yr oeddwn yn fodlon cydweithio ag ef arnyn nhw.
Fel yr wyf wedi datgan dro ar ôl tro drwy gydol camau'r Bil hwn, er mwyn cael y llwyddiant mwyaf o'r comisiwn newydd hwn, mae'n rhaid bod y corff newydd hwn yn gallu gweithredu'n wirioneddol annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Byddai cymryd gormod o ran gan Weinidogion Cymru yn arwain at greu strwythurau llywodraethu aneglur, dryswch ac oedi, a byddai pob un o'r elfennau hyn yn llesteirio gallu'r comisiwn i gyflawni ei amcanion.
Rwy'n dal i bryderu y bydd cyllideb mor sylweddol ar gael i'r comisiwn newydd hwn—dylid dangos cyfrifoldeb ariannol priodol. Byddaf fi a fy mhlaid yn parhau i fonitro gweithrediad y Bil hwn yn ofalus er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni gwelliannau gwirioneddol i ansawdd addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, a byddwn hefyd yn cadw llygad ar faint o ddylanwad y mae Gweinidogion yn ei arfer dros y comisiwn er mwyn sicrhau nad yw ei annibyniaeth a'i ymreolaeth yn cael eu peryglu wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau. Byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr pe bai'r Gweinidog, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn achlysurol i'r Senedd am y comisiwn a'r cynnydd sy'n cael ei wneud. Diolch yn fawr.
Diolch am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl. Rŷn ni wedi torri tir newydd wrth gydweithio ar y Bil yma. Dyma'r darn cyntaf o ddeddfwriaeth sy'n rhan o'n cytundeb cydweithio ni gyda'r Llywodraeth, a dwi'n falch o fod wedi gallu cynrychioli Plaid Cymru fel y llefarydd dros addysg ôl-16 wrth graffu ar ac wrth wella'r Bil yma mewn modd cydweithredol a chadarnhaol gyda chi, Weinidog.
Drwy gydol taith ddeddfwriaethol y Bil hwn drwy'r Senedd, fe wnaethom ni achos cyson dros gryfhau'r Bil wrth ymwneud â darpariaeth y Gymraeg yn y sector ôl-16; gwnaethom ni bwyso am gryfhau geiriad y ddyletswydd strategol fel bod y comisiwn yn annog y galw am addysg Gymraeg, a bod hybu ymchwil cyfrwng Cymraeg yn cael ei ychwanegu at ddyletswyddau'r comisiwn. Roeddwn yn falch i'r Gweinidog ymateb i'n pryderon ac i farn rhanddeiliaid.
Roeddem fel plaid hefyd yn falch o gefnogi gwelliant y Gweinidog yng Nghyfnod 2, a fydd nawr yn sicrhau y bydd aelodaeth y comisiwn arfaethedig yn cynnwys arbenigedd mewn perthynas ag addysg neu hyfforddiant cyfrwng Cymraeg. Yn hyn o beth, ar ôl pwysleisio rôl bwysig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym maes cynllunio, a buddsoddi mewn cynyddu darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol, roeddwn i’n falch bod y Gweinidog yn cytuno mai rôl y coleg fyddai cynghori'r comisiwn ar hynny.
Yn ystod Cyfnod 1, fe glywodd y pwyllgor nifer o bryderon ynghylch perthynas arfaethedig y comisiwn gyda'r ddarpariaeth ôl-16 o fewn dosbarthiadau chwech, ac fe glywsom bryderon y gallai'r Bil arwain at ddileu atebolrwydd lleol am yr elfen unigryw hon o ddarpariaeth addysg, ac o addysg Gymraeg yn arbennig. Ac rwy’n falch o fod wedi gallu cefnogi gwelliannau'r Gweinidog a oedd yn ymateb yn briodol i'r pryderon hyn.
Roedd Plaid Cymru yn teimlo y byddai'r Bil wedi ei gryfhau ymhellach drwy roi hawliau pleidleisio i aelodau cyswllt y comisiwn, ac felly sicrhau llais cryfach i gynrychiolwyr dysgwyr a myfyrwyr a chynrychiolwyr o'r gweithlu a rhoi hawliau digonol iddyn nhw. Ac roeddwn i'n siomedig na gefnogwyd ein gwelliant yng Nghyfnod 2, ond roeddwn i'n falch i'r Gweinidog gyflwyno gwelliant am yr angen am ddyletswydd strategol ar y comisiwn i hybu cydweithio rhwng darparwyr addysg drydyddol ac undebau llafur, yn unol ag argymhelliad y pwyllgor yr wythnos diwethaf yma. Dwi'n meddwl bod hynny'n fwy pwysig nag erioed.
O ystyried pwysigrwydd ymchwil ac arloesedd i'n cenedl ac i'n prifysgolion, roeddwn i hefyd yn falch o gael cefnogaeth i'n gwelliant yng Nghyfnod 3 a oedd yn ymestyn rhyddid academaidd i weithgareddau ymchwil ac arloesi, yn ogystal â darparu darpariaeth cyrsiau addysg uwch.
Weinidog, rwy'n gwybod bod gan y sector ddiddordeb arbennig nawr mewn canolbwyntio ar weithredu'r ddeddfwriaeth hon unwaith iddi basio, gan ei bod wedi aros yn hir am y diwygiadau hyn, ac felly tybed a allwch chi gadarnhau a allai Llywodraeth Cymru ymrwymo i gyhoeddi amserlen weithredu cyn yr egwyl?
Hoffwn, wrth gloi, nodi fy niolch i i dîm clercio, ymchwil a chyfreithiol y pwyllgor. Fel Aelod newydd fydden i ddim wedi gallu gwneud dim o'm gwaith i hebddyn nhw, ac rwyf hefyd eisiau diolch i'r rhanddeiliaid am eu gwaith trylwyr a manwl yn ystod y broses graffu. A hoffwn i jest dweud fy mod yn falch o'r cydweithio adeiladol rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth yn y maes hwn a bod yr ymwneud adeiladol hwnnw wedi arwain at wella'r ddeddfwriaeth yn ystod ei thaith drwy'r Senedd.
Y Gweinidog i ymateb i'r sylwadau.
Gaf i jest dweud, wrth gloi, Llywydd, diolch i Sioned Williams a Laura Anne Jones am eu cydweithrediad wrth i'r Bil fynd drwy'r Senedd? Mae wedi bod yn braf cael cydweithio gyda nhw ar amryw o welliannau adeiladol, a hefyd cael cytundeb gan y ddwy blaid i'r hyn oedd yn ddyletswyddau strategol ar gyfer y sector yn y dyfodol. Mae'n bwysig, wrth gyflwyno diwygiadau rŷn ni'n gobeithio bydd gyda ni am ddegawdau, ein bod ni'n cael cytundeb ar draws pleidiau orau ag y gallwn ni, ac rŷn ni wedi llwyddo gwneud hynny ar yr achlysur hwn, ac felly diolch yn fawr iddyn nhw eto am eu cydweithrediad.
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly mi wnawn ni gymryd toriad byr nawr ar gyfer paratoi ar gyfer y bleidlais hynny.