5. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diweddariad ar Gyllidebu ar Sail Rhyw

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 5 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 4:27, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am godi'r pwyntiau hynny ac am eich cydnabyddiaeth, ar ddechrau eich cyfraniad, am y swyddogaeth bwysig y gall cyllidebu ar sail rhyw ei chwarae wrth ein helpu i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, sydd wedi bod gyda ni ers llawer gormod o amser nawr. Credaf y bydd cyllidebu ar sail rhyw yn arf pwysig inni o ran hyrwyddo cydraddoldeb yma yng Nghymru.

Roedd rhai cwestiynau penodol am y cynlluniau peilot, felly rwy'n hapus iawn i ddarparu mwy o wybodaeth am y rheini. Y cynllun peilot cyntaf a gynhaliwyd gennym ni yw'r cynllun peilot cyfrifon dysgu personol, a dechreuodd hynny ym mis Medi 2019. Yna cafodd y rhaglen honno ei huwchraddio a dechreuodd y ddarpariaeth ar draws Cymru yn 2021. Mae hynny'n gweithio'n agos iawn gyda'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol i sicrhau bod darpariaeth o ran ymateb i anghenion sgiliau rhanbarthol penodol, ond gwyddom fod rhai o'r rhain mewn ardaloedd lle mae menywod fel arfer wedi cael eu tangynrychioli neu eu gorgynrychioli. Felly, rydym ni wedi edrych ar feysydd fel adeiladu ar y naill law a gofal cymdeithasol ar y llaw arall. Rydym yn disgwyl i'r adroddiad terfynol o'r hyn yr ydym ni wedi ei ddysgu o'n cynlluniau peilot gyda'r cyfrifon dysgu personol gael ei gyhoeddi ddiwedd haf 2022. Felly, bydd cyfle inni archwilio hynny'n fanylach. Ar hyn o bryd, ni allwn ni ddarparu mwy o fanylion am yr allbynnau sy'n benodol i ryw, ond edrychwn ymlaen at weld mwy o fanylion ar gael yn ddiweddarach yn yr haf.

Fodd bynnag, mae rhai canfyddiadau cychwynnol y gallaf eu rhannu yn rhoi pwyslais gwirioneddol inni ar yr angen i gadw'r pwyslais parhaus hwnnw ar gyllidebu ar sail rhyw pan gaiff gweithgarwch ei gynyddu. Pan fydd pethau'n digwydd ar lefel fwy penodol a bach, lleol, mae llawer o bwyslais ar y cyllidebu hwnnw ar sail rhyw; daw'r her, felly, pan fyddwn yn gwneud pethau mwy. Felly, mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei ystyried yn ofalus wrth inni symud i'r cynlluniau peilot eraill. Fel y dywed Peter Fox, un yw gwarant y person ifanc, a dyna un o'n hymrwymiadau allweddol i sicrhau bod pawb o dan 25 oed sy'n byw yng Nghymru yn cael cymorth i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, neu'r cymorth sydd ei angen arnynt i fod yn hunangyflogedig.

Mae cymryd rhan yn y cynllun peilot cyllidebu ar sail rhyw yn galluogi'r rhaglen warant i bobl ifanc i adolygu ei systemau, adolygu ei sylfaen dystiolaeth ac edrych eto ar y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud, a dylunio a chyflwyno gweithgarwch newydd o ran rhywedd ac o'r safbwynt rhyngsectorol hwnnw. Mae'r adolygiad cychwynnol o feysydd amrywiol y gwarant pobl ifanc yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, gyda'r bwriad o ddatblygu cynllun manylach i sicrhau ein bod yn cael y budd mwyaf i'r rhaglen, ac, yn y pen draw, wrth gwrs, i bobl ifanc Cymru.

O ran y cynllun peilot teithio llesol, mae'n amlwg bod gan hyn ran bwysig iawn o ran darparu trafnidiaeth gynaliadwy. Mae hynny'n rhywbeth mae arnom ni eisiau i bawb allu elwa ohono. Mae ein cynllun peilot cyllidebu ar sail rhyw yn hyn o beth yn canolbwyntio ar raglen E-Symud Cymru, a fydd yn ystyried pa ddysgu y gallwn ni ei gyflawni drwy hynny. Mae'r cynllun peilot E-Symud yn cael ei ddarparu gan Sustrans Cymru, ac ar hyn o bryd rydym yn cydweithio â nhw i ddeall sut y gall mabwysiadu dull cyllidebu ar sail rhyw ychwanegu gwerth at ein rhaglen bresennol a helpu i gynllunio'r gwaith o gyflawni yn y dyfodol.

Mae'r dadansoddiad cynnar o'r rhai sy'n ymwneud â'r rhaglen hyd yma wedi dangos bod cyfran uwch o gyfranogwyr a nododd eu bod yn fenywod yn defnyddio'r cynllun mewn ardaloedd gwledig. Drwy archwilio a chymhwyso'r safbwynt rhyngsectorol hwnnw, byddwn yn ceisio deall nodweddion y defnyddwyr hyn yn well er mwyn cael mwy o ddealltwriaeth o'r rhesymau y tu ôl i hyn, er mwyn helpu i lywio ein syniadau ar deithio llesol yn y dyfodol. Ond, unwaith eto, byddwn yn gallu rhannu mwy o wybodaeth gyda'r Senedd maes o law.

Mae'r grŵp cynghori ar wella ac asesu effaith y gyllideb yn bwysig iawn o ran helpu Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau a gwella'r ffordd yr ydym ni'n cyllidebu. Mae'r diben, mewn gwirionedd, yn ymwneud â gwella nid yn unig y gyllideb ond hefyd ein prosesau treth i wella canlyniadau. Ac mae'r grŵp hwnnw'n mynd i fwrw ymlaen â gwaith ar fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a bwrw ymlaen â rhai o'n dulliau cyllidebu ar sail rhyw a darparu'r llais cyfaill beirniadol hwnnw i ni yn y gwaith yr ydym yn ei wneud yn y maes hwn.

Mae'r grŵp ei hun yn gymysgedd o aelodau'r grŵp cynghori cyllidebol blaenorol ar gyfer cydraddoldebau, BAGE, gyda rhai ychwanegiadau bellach i gwmpasu ystod ehangach o feysydd effaith. Mae cymysgedd o sefydliadau'r sector gwirfoddol a sefydliadau'r sector cyhoeddus, ac rydym yn gweithio gyda'r grŵp hwnnw ar hyn o bryd i gytuno ar strwythur y rhaglen waith yn y dyfodol. Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn cyhoeddi ein cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp hwnnw a'i gynllun gwaith 12 mis ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ac yna, dim ond i fyfyrio ar y pwynt pwysig iawn fod yna amrywiaeth o nodweddion sy'n effeithio ar brofiadau pobl o'r dewisiadau a wnawn o ran cyllidebu, dyna pam y mae'n rhaid i hyn ymwneud â'r dull rhyngsectorol hwnnw. Felly, nid yw'n ymwneud ag edrych ar bethau o safbwynt menywod a safbwynt dynion yn unig, ond ystyried yr holl nodweddion gwarchodedig eraill hynny sy'n effeithio ar brofiadau pobl o wasanaethau a chymdeithas.

Rydym ni yn gwybod fod y dadansoddiadau mwyaf effeithiol o ran rhywiau yn defnyddio'r dull rhyngsectorol hwnnw, gan gyfuno craffu ar yr effaith ar fenywod a dynion, ond gyda'r nodweddion eraill hefyd. Felly, fe allwn ni wneud hynny, ac edrych hefyd ar les o safbwynt diwylliant, yr amgylchedd, cymdeithas ac yn y blaen hefyd. Felly, mae sawl ffordd o edrych ar hyn, a llawer o bethau y gallwn eu dysgu pan fyddwn yn edrych ar y dull rhyngsectorol hwnnw, gan wneud hynny o safbwynt rhywedd.