– Senedd Cymru am 6:06 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Fe fyddwn ni nawr yn symud ymlaen i'r ddadl fer, pan fydd yr Aelodau wedi gadael y Siambr.
Os gall yr Aelodau adael y Siambr yn dawel, symudwn ymlaen at eitem arall o fusnes. Gofynnaf i John Griffiths siarad am y cynnig yn ei enw. John Griffiths.
Diolch, Lywydd. Gorau arf, dysg: addysg fel llwybr allan o dlodi. Lywydd, bydd Mike Hedges, Luke Fletcher a Laura Anne Jones yn cyfrannu at y ddadl fer hon.
Lywydd, ar lyfrgell Pilgwenlli, ceir maen clo ar ben yr adeilad sy'n nodi bod gwybodaeth yn bŵer. Rwy'n falch iawn o ddweud fy mod, ar ôl cael fy ngeni a fy magu ym Mhilgwenlli, sydd bellach yn cael ei gynrychioli mor fedrus fel rhan o Orllewin Casnewydd gan fy nghyd-Aelod, Jayne Bryant, yn cytuno'n llwyr â'r teimlad hwnnw. Mae gwybodaeth yn bŵer ac yn amlwg, mae addysg, hyfforddiant a sgiliau yn ffyrdd o sefydlu'r pŵer hwnnw yn ein cymunedau, os ydym yn sicrhau eu bod ar gael i bawb, ac yn enwedig y rheini mewn amgylchiadau mwy difreintiedig.
Mae grym addysg yn werthfawr iawn i mi, Ddirprwy Lywydd, oherwydd fy llwybr fy hun allan o'r hyn y tybiaf ei fod yn dlodi cymharol drwy addysg a dysgu gydol oes. Euthum i'r ysgol uwchradd, Ddirprwy Lywydd, ond yn anffodus ni sefais unrhyw arholiadau, ac wedi hynny roeddwn am gyfnod yn ddi-waith a theulu ifanc gennyf, yn byw ar ystâd cyngor yng Nghasnewydd, ac yn meddwl nid yn unig am fy nyfodol fy hun, yn amlwg, ond am ddyfodol fy nheulu. Meddyliais am fy opsiynau, a phenderfynais mai addysg fyddai fy llwybr allan o'r amgylchiadau hynny, gobeithio, i mewn i rai mwy ffafriol, a diolch byth, fe ddigwyddodd hynny. Dosbarthiadau nos a'm galluogodd i fanteisio ar y cyfleoedd yn yr hyn a gâi ei alw gennym yn 'Nash tech', sef coleg Casnewydd yn awr mae'n debyg, yng ngholeg Gwent—campws Casnewydd. Dosbarthiadau nos ar gyfer TGAU, yna Safon Uwch, ac ymlaen wedyn i Brifysgol Caerdydd lle bûm yn astudio'r gyfraith. Yn ddiweddarach, bûm yn gyfreithiwr ac yna euthum ymlaen i fyd gwleidyddiaeth, gwleidyddiaeth leol ac yn awr i'r Senedd. Roedd y daith honno o fudd mawr i fy nheulu yn ogystal ag i mi, ac wrth gwrs, mae'n ymwneud â mwy na gwella incwm a gwella safon byw yn unig; mae hefyd yn ymwneud â datblygiad personol, ac i mi, cyflawni fy uchelgeisiau i geisio gwneud gwahaniaeth—helpu i wneud gwahaniaeth mewn gwleidyddiaeth, a cheisio helpu pobl eraill ar y daith honno, yn ogystal â bod wedi ei gwneud fy hun. Felly, mae addysg yn werthfawr iawn i mi—dysgu gydol oes—ond hefyd, yn amlwg, ceisio gwneud pethau'n iawn yn y blynyddoedd cynharaf ac ar lefel gynradd ac uwchradd, yn ogystal ag ymlaen i addysg bellach ac uwch, sgiliau a hyfforddiant.
A nodwn fod gwir angen darparu pa gyfleoedd bynnag y gallwn eu darparu i ganiatáu i bobl helpu i wneud Cymru'n wlad fwy cyfartal. Roeddwn yn edrych ar y papur a wnaeth Dr Mark Lang ar gyfer ColegauCymru a edrychai ar y materion hyn sy'n ymwneud â symudedd cymdeithasol ac os yw'r ddarpariaeth addysg bresennol yng Nghymru yn cefnogi'r symudedd cymdeithasol hwnnw ac yn galluogi pobl ifanc yn ddigonol i sicrhau llesiant ar hyd eu hoes. Mae'r ffocws ar ôl-16, ond mae hefyd yn ystyried y ddarpariaeth addysg yn fwy cyffredinol, ac a yw'r gwasanaeth yn cefnogi cynnydd cymdeithasol a chadernid economaidd-gymdeithasol, yn enwedig i bobl ifanc o gymunedau difreintiedig a chefndiroedd personol dan anfantais. Wrth gynhyrchu'r papur hwnnw, mae Mark Lang yn edrych ar y cefndir sydd gennym yng Nghymru a'r DU lle mae anghydraddoldeb sgiliau bellach yn fwy a symudedd cymdeithasol yn llai yn y DU nag unrhyw wlad ddatblygedig arall. Ac mae'n cyfeirio at gyhoeddiadau gan Janmaat a Green yn 2013, ac yna Oxfam yn 2016, sy'n dangos, unwaith eto, fod anghydraddoldeb economaidd a chymdeithasol ar lefelau nas gwelwyd erioed o'r blaen. Nododd y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol yn 2019 fod symudedd cymdeithasol wedi aros yn ei unfan dros y pedair blynedd cyn eu cyhoeddiad, ar bob cam bron o enedigaeth i waith, ac mae cael eich geni dan anfantais yn golygu y bydd yn rhaid i chi oresgyn cyfres o rwystrau i sicrhau nad ydych chi a'ch plant yn sownd yn yr un trap. Ac mae adroddiad diweddar Augar, yn 2019, yn dweud na fu unrhyw welliant mewn symudedd cymdeithasol mewn dros hanner canrif. Ac yn wir, mae adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn 2018 yn dangos bod symudedd cymdeithasol yn dirywio. Felly, credaf ei bod yn amlwg fod heriau mawr iawn o'n blaenau os ydym am wrthdroi'r tueddiadau hynny, gwrthdroi'r patrwm ac yn fwyaf arbennig, os ydym am wneud rhywbeth yma yng Nghymru sy'n bwerus i wrthdroi'r darlun hwnnw.
Mae rhywfaint o obaith ar y gorwel wrth gwrs, ac yn wir, dywed Dr Lang, er bod prinder ystadegau yng Nghymru sy'n ddiweddar ac yn gynhwysfawr ar addysg a symudedd cymdeithasol, ceir rhai arwyddion o gynnydd yma yng Nghymru er hynny. Ond wrth gwrs, rydym yn gwybod ein bod, yn fwy diweddar, wedi profi'r pandemig. Bellach mae gennym yr argyfwng costau byw ac o ddydd i ddydd, mae ein cymdeithas yn gweld heriau newydd sy'n gwaethygu ac yn amlygu anghydraddoldebau ym mhob rhan o'n cymdeithas, a phenderfyniadau, polisïau a strategaeth wael iawn ar lefel San Steffan yn arwain at y cyfoethog yn mynd yn gyfoethocach a'r tlawd yn mynd yn dlotach byth. Mae rheolaeth wael ar yr economi yn gwaethygu'r anghydraddoldebau sy'n ein hwynebu. Felly, mae'n her fawr i bob un ohonom ac i'n hysgolion a'n sefydliadau addysgol geisio gwrthsefyll rhai o'r dylanwadau a'r tueddiadau hyn. Ond fel y dywedais ar y dechrau, mae gwybodaeth yn bŵer, a gall addysg fod yn llwybr allan o dlodi. Mae addysg dda yn caniatáu i bobl ifanc ddifreintiedig gael y sgiliau angenrheidiol i gael gwaith ar gyflogau uwch a chydag amodau gwell, ac mae hefyd yn ymwneud ag addysg fel rhywbeth da ynddo'i hun, nid yn unig i sicrhau cynnydd economaidd, ond datblygiad personol a chynnydd cymdeithasol hefyd.
Felly, beth yw'r ystadegau yng Nghymru y gallwn eu defnyddio wrth edrych ar y problemau a'r materion hyn? Maent yn dangos bod data o 2019 cyn y pandemig yn dangos mai 28 y cant o ddysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim sy'n cyflawni lefel 2, sy'n cyfateb i 5 TGAU gradd A i C, o gymharu â 61 y cant o ddysgwyr nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae llawer o welliant wedi bod ar gau'r bwlch yma yng Nghymru ers datganoli, ond yn amlwg, mae angen gwneud rhagor. Mae Sefydliad Bevan, corff rwy'n gweithio'n agos ag ef yn y grŵp trawsbleidiol ar dlodi, wedi tynnu sylw at wahaniaethau yng nghanlyniadau arholiadau plant sy'n cael prydau ysgol am ddim a phlant nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim, ac mae llawer o'r bylchau a welwn yn ymddangos pan fydd plant yn ifanc iawn, ac yn tyfu wrth i blant fynd yn hŷn. Ac wrth gwrs, mae'r pandemig wedi gwaethygu'r bylchau hyn hefyd, sy'n destun pryder. Ychwanegodd Sefydliad Bevan fod y risg o fethu cael pum TGAU A i C ar ei uchaf ymhlith disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ond hefyd y rhai ar y gofrestr anghenion addysgol arbennig.
O ran y cwricwlwm newydd, ystyrir bod hwn yn gyfle pwysig iawn i wneud y math o gynnydd y mae angen inni ei weld yng Nghymru. Mae'n gyffrous iawn ac mae ganddo botensial mawr. Ac wrth gwrs, mae wedi'i adeiladu ar bedwar diben a'i nod yw datblygu dysgwyr sy'n ddinasyddion uchelgeisiol a galluog, mentrus a chreadigol, moesegol a gwybodus, ac iach a hyderus. Felly, mae'n ymwneud yn fawr â thiriogaeth ehangach datblygiad personol, cynnydd cymdeithasol, cael y cyfleoedd bywyd a'r ansawdd bywyd yr ydym am weld ein plant a'n pobl ifanc yn ei fwynhau, yn ogystal â chynnydd a mantais economaidd. Mae'n seiliedig i raddau helaeth ar y nod o leihau anghydraddoldebau mewn addysg. Rwy'n croesawu'r genhadaeth genedlaethol sy'n anelu at gyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb, a gwerth peidio â rhoi'r gorau i ddysgwyr sydd o dan anfantais oherwydd tlodi drwy barhau i gefnogi dysgwyr ar hyd eu taith addysgol drwy roi cyfleoedd iddynt gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau.
Rhan bwysig iawn o strategaeth Llywodraeth Cymru yw'r grant datblygu disgyblion, un o'u polisïau blaenllaw a gyflwynwyd gyntaf tua 10 mlynedd yn ôl gyda'r nod uniongyrchol o fynd i'r afael ag effaith amddifadedd ac anfantais ar ganlyniadau addysgol. Mae'n darparu arian ychwanegol i ysgolion yn seiliedig ar nifer y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar eu cofrestr, ac mae'n ceisio gwanhau'r cysylltiad rhwng amddifadedd cymharol a chyrhaeddiad uchel. Wrth gwrs, gwyddom am lawer o achosion cadarnhaol o bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig sy'n mynd ymlaen i wneud yn dda iawn mewn bywyd, ac sy'n gwneud yn dda iawn mewn addysg, ond nid oes llawer iawn ohonynt yn dilyn y llwybr hwnnw ac nid ydynt wedi'u harfogi, eu hannog a'u cynorthwyo i wneud hynny i raddau helaeth oherwydd methiant systemig. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru o £130 y flwyddyn ar y grant amddifadedd disgyblion yn werthfawr iawn yn wir, ac wrth gwrs mae'n cynnwys nid yn unig y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ond plant sy'n derbyn gofal a'r rhai mewn unedau cyfeirio hefyd. Mae'r cynnydd o £20 miliwn arall o 2022-23 hefyd i'w groesawu'n fawr, yn enwedig yng ngoleuni'r pandemig a'r argyfwng costau byw.
Yn nhymor diwethaf y Senedd, fel aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, gwn fod yr adroddiad 'Cyrraedd y nod?' wedi canolbwyntio ar y grant amddifadedd disgyblion a'i effeithiolrwydd, a gwnaeth lawer o argymhellion pwysig i fanteisio i'r eithaf ar y buddsoddiad hwn. Wrth gwrs, mae'r blynyddoedd cynharaf yn gwbl hanfodol, ac mae Dechrau'n Deg yn rhaglen bwysig iawn ar gyfer yr ymdrech hon. Mae plant o dan bedair oed sy'n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn elwa. Yng Nghasnewydd, mae dros 3,000 o blant, a llawer mwy yn fy rhan i o'r byd, fel petai, yn ardal cyngor sir Fynwy, yn elwa o'r gwasanaethau hyn. Mae 38 y cant o'r ffigur hwnnw yng Nghasnewydd yn blant o gefndir lleiafrifol ethnig, a byddwn yn cefnogi'n fawr yr hyn a ddywedodd Julie Morgan, ein Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, ynglŷn â'r rhaglen, pan ddywedodd:
'Rwy wedi clywed gan rieni a gofalwyr am yr effaith gadarnhaol y mae Dechrau'n Deg wedi ei chael ar eu teuluoedd. Rydyn ni wedi ymrwymo i ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar, ac mae'r rhaglen wych hon yn cynnig y ffordd orau o wneud hyn. Rydyn ni'n gwybod bod plant sy'n mynd i leoliadau'r blynyddoedd cynnar sydd o ansawdd uchel yn cael budd o dreulio amser mewn amgylchedd hapus a magwrus gyda'u cyfoedion, a'u bod wedi'u paratoi yn well ar gyfer dechrau yn yr ysgol gynradd o ganlyniad i hynny.'
Yn Nwyrain Casnewydd hefyd, mae'r grant datblygu disgyblion yn darparu cyfleoedd, manteision a buddion pwysig iawn. Rwy'n credu bod Ysgol Gynradd Ringland yn enghraifft dda iawn o hyn. Mae gan gymuned Ringland amddifadedd cymharol, ac mae'n wych gweld bod gwaith yr ysgol wedi'i gydnabod fel ysgol Llais 21, arloeswr ym maes llafaredd a llesiant. Ac yn Ysgol Uwchradd Llysweri, mae cyfran fawr o'r grant datblygu disgyblion wedi cyflogi staff arbenigol yn effeithiol iawn.
I gloi, rwyf am sôn am un datblygiad arall sydd i'w groesawu'n fawr, sef Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy a mwy o flaenoriaeth ac amlygrwydd i ysgolion bro. Rydym yn gwybod bod llawer o blant mewn ardaloedd difreintiedig nad ydynt yn cael profiadau tacsi mam, ond byddant yn elwa o weithgareddau a chyfleoedd ar ôl y diwrnod ysgol os cânt eu darparu yn eu hysgol. Ddirprwy Lywydd, roedd Cymru fel pe bai'n darparu athrawon i'r byd ar un adeg. Rwy'n credu bod gwerth addysg yn dal i'w weld yn glir yn ein diwylliant a'n DNA. Rhaid inni ddefnyddio'r ysbryd hwnnw a'r gwerthoedd hynny ar gyfer cenhadaeth genedlaethol i ymgysylltu â'n plant, ein teuluoedd a'n cymunedau i sicrhau bod ein holl blant, pobl ifanc a dysgwyr gydol oes yn llwyddo yn ein gwlad.
Mae'r Aelod wedi dangos ei angerdd dros y pwnc ac wedi defnyddio'r holl amser a neilltuwyd iddo, ond rwyf mewn hwyliau hael y prynhawn yma, felly bydd y ddau Aelod yn cael siarad. Luke Fletcher.
Diolch i John Griffiths am ildio cyfran o'i amser. Mae hon yn ddadl bwysig i'w chael, a chytunaf yn llwyr fod gwybodaeth yn darparu llwybr allan o dlodi. Mae'r Aelodau'n gwybod hyn amdanaf eisoes, ond roeddwn yn cael prydau ysgol am ddim a'r lwfans cynhaliaeth addysg pan oeddwn yn tyfu i fyny a chyn imi ddod i fyd gwleidyddiaeth, roeddwn yn gweithio mewn bar. Nid wyf yn siŵr a yw John yn cofio—gobeithio ei fod—ond un o'r troeon cyntaf imi ei gyfarfod oedd pan oeddwn yn gwneud TGAU a chefais brofiad gwaith yn Llywodraeth Cymru, a John oedd y Gweinidog y cefais y profiad gwaith hwnnw gydag ef. Roedd hynny ar yr adeg y cyflwynwyd y tâl o 5c am fagiau plastig. Efallai fy mod yn creu ychydig bach o embaras i'r Aelodau o ran fy oedran. Ond credaf fod hynny'n hollbwysig—yn ogystal â'r prydau ysgol am ddim a'r lwfans cynhaliaeth addysg—i egluro pam fy mod yma heddiw. Mae'n rhywbeth rwy'n credu'n angerddol ynddo.
Rwyf am ganolbwyntio ar ddau bwynt yn gyflym iawn yma. Mae addysg yn llwybr allan o dlodi, ond nid yw pawb yn gallu teithio ar hyd y llwybr hwnnw'n llawn, gyda rhwystrau i addysg yn sgil cost y diwrnod ysgol. Mae prydau ysgol am ddim, wrth gwrs, yn gwneud llawer i fynd i'r afael â hynny, ac mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn ffordd arall. Rwyf wedi gwneud pwyntiau yn y gorffennol i'r Gweinidog ac i wahanol Aelodau eraill, ac yn parhau i wneud y pwynt, y dylai'r taliad gynyddu i £45. Mae'n £30 ar hyn o bryd, ac mae wedi bod yn £30 ers 2004; roedd yn £30 pan oeddwn i'n ei dderbyn. Felly, rwy'n credu ei bod yn hanfodol yn awr ein bod yn edrych ar sut y gallwn hwyluso cynnydd. Ac wrth gwrs, mae teithio i'r ysgol a chost teithio yn rhwystr arall. Mae gennym blant yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn cerdded am dros awr i gyrraedd yr ysgol. Ac wrth gwrs, gyda phrydau ysgol am ddim—unwaith eto, yn bwysig iawn—mae'n iawn, ond os na all y plant gyrraedd yr ysgol i gael y prydau ysgol am ddim, mae'n dal i greu rhwystr. Hyd nes y gallwn ddatrys cost y diwrnod ysgol, ni fydd y system yn caniatáu i blant dosbarth gweithiol, fel oedd John a minnau, ffynnu a chyrraedd eu potensial.
Ac yn olaf, yn gyflym iawn, Ddirprwy Lywydd—gwn fy mod yn profi eich amynedd—credaf fod angen inni hefyd gael ychydig o newid diwylliant mewn addysg. Yr hyn a olygaf wrth hynny yw bod angen inni symud oddi wrth yr obsesiwn â mynd i'r brifysgol. Dylai prentisiaethau fod yn gydradd â hynny. Rwy'n adnabod nifer o bobl a aeth ymlaen i wneud prentisiaethau sy'n hynod lwyddiannus yn awr, er nad oeddent o reidrwydd yn glyfar iawn yn academaidd, a byddent yn cyfaddef hynny eu hunain. Nid y Brifysgol yw'r unig lwybr allan o dlodi.
Diolch am eich haelioni, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn innau hefyd ddiolch i John Griffiths am roi munud i mi yn y ddadl hon. Yn draddodiadol, mae dau lwybr cyfreithlon allan o dlodi. Un ohonynt yw drwy ddawn yn y byd chwaraeon a'r llall yw drwy addysg, ond nid yw'r byd addysg yn cynnig cyfle cyfartal, ac mae wedi mynd yn llai cyfartal wrth i dechnoleg ddatblygu. Gallwn ddefnyddio pob llyfr a oedd gan fy nghyfoedion cyfoethocach, er mai drwy'r llyfrgell y gwnes hynny. Heddiw, byddwn wedi fy nghyfyngu i ddwy awr o gyfrifiadur mewn llyfrgell gyhoeddus, a gorfod talu i argraffu fy ngwaith. Treuliais 25 mlynedd gwerth chweil yn addysgu mewn addysg bellach, a chredaf imi helpu i newid bywydau nifer fawr o bobl.
Mae addysg yn cynnig cyfle i bobl ifanc, ond hefyd, drwy'r sector addysg bellach a'r Brifysgol Agored, mae cyfle i ennill cymwysterau drwy gydol eich oes. Mae manteisio ar y cyfleoedd hyn wedi trawsnewid bywydau a gallu i ennill cyflog llawer o bobl, gan eu symud o gyflogaeth cyflog isel i sectorau cyflog uwch. Hoffwn annog pawb i fanteisio ar eu cyfleoedd addysgol, oherwydd oni bai eich bod yn ddawnus iawn yn y byd chwaraeon, dyma eich un cyfle mawr. Fel John Griffiths, gallaf ddweud ei fod wedi gweithio i mi.
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ymateb i'r ddadl—Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r ddadl hon mor bwysig, a diolch i John Griffiths am ei chyflwyno ac am y cyfraniadau eraill rŷm ni wedi'u clywed. Mae herio tlodi ac anghydraddoldeb yn rhan ganolog o'n holl waith ni fel Llywodraeth a'm gwaith i fel Gweinidog, ac mae addysg, fel rŷm ni wedi clywed, yn allweddol i gyflawni'r nod hwnnw. Rŷm ni am weld safonau uchel a dyheadau uchelgeisiol i bawb, o ble bynnag maen nhw'n dod neu beth bynnag yw eu cefndir nhw.
Rŷm ni wedi cymryd camau sylweddol ymlaen yn barod, gan arwain at ein rhaglen ddiwygio bresennol, ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn addysg a gofal plentyndod cynnar, fel y clywsom ni gan John Griffiths, y Cwricwlwm i Gymru newydd, ein Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, cymorth i addysg ôl-16 a dysgu gydol oes—ac rŷm ni wedi clywed pŵer hynny heddiw yn glir—ein polisi prydau ysgol am ddim, ein cyllid ar gyfer costau'r diwrnod ysgol, mentrau yn ymwneud â'r gwasanaeth cerddoriaeth, a rhoi llyfrau yn anrheg. Mae pob un o'r rhain yn canolbwyntio ar oresgyn rhwystrau rhag llwyddiant a chydraddoldeb.
Er ein bod ni wedi symud ymlaen, rwy'n credu bod hynny wedi digwydd yn rhy araf. Edrychwch ar y grŵp oedran 14 i 16 oed, er enghraifft. Rŷm ni'n gwybod o'n data ein hunain na fu digon o gynnydd dros y degawd diwethaf wrth gau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng dysgwyr o gefndir incwm isel a rhai eraill. Ac mae'r pandemig COVID-19 wedi gwneud pethau'n waeth. Yn ôl ymchwil yn ein prifysgolion ni, mae lles a chyrhaeddiad dysgwyr mewn tlodi wedi cwympo hyd yn oed yn bellach y tu ôl, fel roedd John Griffiths yn dweud. Allwn ni ddim derbyn sefyllfa lle mae llwyddiant personol yn y dyfodol yn dibynnu ar gefndir, ac rwy'n benderfynol o gymryd camau radical a chyson i wneud yn siŵr o hynny.
Mae angen dull gweithredu system gyfan sy'n edrych ar y meysydd sy'n mynd i wneud gwahaniaeth i bobl, a dylai hyn fod yn seiliedig ar agwedd at addysg sy'n adlewyrchu ac yn tynnu ar y gymuned, ac sy'n gyson gyda datblygiadau polisi mewn meysydd fel iechyd a'r economi. Yn fy natganiad ar 22 Mawrth, mi wnes i ddechrau nodi rhywfaint o'n gwaith ni i gyflawni hyn, ac fe wnes i amlinellu camau pellach i Sefydliad Bevan ar 16 Mehefin. Cyn hir, byddaf yn cyhoeddi cynllun gweithredu sy'n dwyn y cyhoeddiadau yma ynghyd, ac sy'n nodi'r cyfeiriad ar gyfer cydweithio gyda'n partneriaid yn y dyfodol.
Mae cymwysterau yn chwarae rhan hanfodol, ond mae angen hefyd inni ystyried cyflogadwyedd, lles a chyflawni nodau personol. Rwy'n comisiynu adolygiad yn y maes hwn, ac rwyf wedi gofyn i'm cyfaill Hefin David, yr Aelod o'r Senedd dros Gaerffili, i edrych ar y ffordd mae darparwyr addysg yn cynnig profiadau sy'n ymwneud â byd gwaith, a gwneud argymhellion ynghylch ffocws, cysondeb ac effeithlonrwydd y profiadau hyn.
Bydd rhaid defnyddio'r grant datblygu disgyblion mewn ffordd effeithiol. Rŷm ni eisoes yn dechrau ar waith gyda'n partneriaid yn hyn o beth. Mae'r grant datblygu disgyblion mynediad, PDG access, wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i sawl teulu difreintiedig ledled Cymru, gan helpu i leddfu'r pryderon ynghylch prynu gwisg ysgol neu gyfarpar, a galluogi plant i fynd i'r ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ar yr un lefel â'u cyfoedion. Y llynedd, fe gafodd y grant ei ymestyn i blant a phobl ifanc ym mhob blwyddyn ysgol orfodol, gan olygu bod modd i hyd yn oed fwy o deuluoedd fanteisio ar y cymorth hwn bellach.
Gan gydnabod y pwysau ar deuluoedd, Dirprwy Lywydd, ym mis Mawrth fe wnes i gyhoeddi taliad untro ychwanegol o £100 i bob plentyn neu berson ifanc a oedd yn gymwys ar gyfer y grant. Mae hyn yn golygu bod y cyllid ar gyfer y grant hwnnw wedi codi i dros £23 miliwn ar gyfer y flwyddyn ysgol sydd i ddod.
Gan adeiladu ar hyn, a gweithio gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio, o fis Medi eleni ymlaen byddwn yn dechrau cyflwyno'r cynnig ar gyfer prydau ysgol am ddim i bawb yn yr ysgolion cynradd. Ddirprwy Lywydd, y dylanwadau mwyaf ar lwyddiant dysgwyr yw ansawdd y dysgu a'r addysgu y maent yn eu profi, ac yn arbennig i'n dysgwyr iau, fel y dywedodd John Griffiths, yr amgylchedd y maent yn ei brofi gartref ac ar lefel gymunedol hefyd. Ac rwyf eisoes wedi nodi rhai o'r camau sydd ar y gweill gennym i gefnogi ysgolion bro, er enghraifft, ond mae hefyd yn hanfodol ein bod yn gwella ansawdd y dysgu a'r addysgu y mae dysgwyr o gartrefi incwm isel yn eu profi yn barhaus, gan ein bod yn gwybod pa mor ddwfn yw'r effaith y mae hyn yn ei chael ar eu cynnydd. Felly, rwyf am edrych ar sut y gallwn gymell athrawon i addysgu yn yr ysgolion sy'n gwasanaethu ein dysgwyr mwyaf difreintiedig, ac rwy'n comisiynu ymchwil gychwynnol ar hyn, gyda golwg wedyn ar lansio cynllun peilot i archwilio dulliau o weithredu. Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn yn darparu dros £500,000 i alluogi ein gwasanaethau gwella ysgolion i gynnig rhaglen ddysgu broffesiynol benodol i ganolbwyntio ar sut i godi cyrhaeddiad a chefnogi llesiant dysgwyr o gefndiroedd incwm isel, a chaiff honno ei lansio ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf.
Rydym hefyd yn sefydlu partneriaeth strategol gyda'r Sefydliad Gwaddol Addysgol, a byddant yn addasu eu pecyn cymorth addysgu a dysgu, sy'n rhoi tystiolaeth hygyrch i athrawon o strategaethau dysgu ac addysgu effeithiol, yn ein cyd-destun penodol yng Nghymru, a bydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg wrth gwrs. Yn rhan o'r cyfleoedd dysgu proffesiynol cyfoethog yr ydym yn eu cynnig i'n hathrawon, mae ein prifysgolion yn gweithio gyda ni i ddatblygu modiwl ar gyfer ein rhaglen Meistr genedlaethol, sy'n canolbwyntio'n benodol ar fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, a bydd hwnnw hefyd ar gael o 2023 ymlaen.
Mae'r cynllun gweithredu darllen a llafaredd a gyhoeddais yr hydref diwethaf yn nodi ein blaenoriaethau i wella lleferydd, cyfathrebu ac iaith. Rwyf wedi cyhoeddi £5 miliwn ychwanegol ar gyfer rhaglenni darllen ledled Cymru a fydd yn darparu llyfr i bob dysgwr ochr yn ochr â chynllun cymorth darllen wedi'i dargedu sy'n canolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar ac ar ddysgwyr difreintiedig, ac rydym yn ehangu prosiect a fydd yn cefnogi dros 2,000 o blant i wella eu sgiliau iaith, cyfathrebu a darllen—prosiect dan arweiniad Prifysgol Bangor—ac mae'n darparu rhaglen iaith a llythrennedd ddwys a rhyngweithiol 100 wythnos o hyd i blant saith i 11 oed yn y Gymraeg a'r Saesneg, naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu'r tu allan iddi.
O ran dysgu ac addysgu, dengys tystiolaeth mai gwledydd sy'n mabwysiadu grwpiau dysgwyr cyrhaeddiad cymysg cyhyd ag y bo modd yw'r gwledydd sydd â'r systemau addysg mwyaf teg, felly gall hynny godi cyrhaeddiad cyffredinol dysgwyr a gall osgoi effaith andwyol setio, sy'n aml yn gallu arwain at leoli dysgwyr o gartrefi incwm is yn y grwpiau isaf, a hynny, yn rhy aml, yn llesteirio eu dyheadau. Gwyddom fod setio a mathau eraill o grwpio dysgwyr yn seiliedig ar gyrhaeddiad yn cael eu defnyddio'n helaeth yn ein system yng Nghymru, ond nid oes gennym dystiolaeth ymchwil gadarn ar hynny, a'r effaith a gaiff. Felly, rwy'n comisiynu adolygiad cychwynnol o dystiolaeth, gan ganolbwyntio ar y graddau y mae addysgu a dysgu cyrhaeddiad cymysg eisoes yn digwydd, beth yw manteision hynny, a beth yw'r anfanteision hefyd.
Mae'r holl ystyriaethau hyn yn flaenllaw yn y diwygiadau a gyflawnwyd gennym i'r cwricwlwm. Fel y dywedodd John Griffiths, mae wedi'i gynllunio i gyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb, ac mae hynny'n bendant yn cynnwys y rheini y mae tlodi'n effeithio arnynt. Mae ysgolion yn rhydd i gynllunio eu cwricwla eu hunain, gydag anghenion eu dysgwyr a'u cymunedau mewn cof. Cyhoeddais ddeunyddiau ychwanegol ym mis Mehefin i gefnogi ysgolion i gynllunio eu cwricwlwm, ac i ymgorffori'r wybodaeth a'r profiadau sy'n allweddol i'r broses o gynllunio'r cwricwlwm.
Mewn ymateb i'r aflonyddwch a achosodd y pandemig i ddysgwyr a oedd yn symud o addysg cyn-16 i addysg ôl-16, rydym wedi cyflwyno cynllun pontio ôl-16, wedi'i gefnogi gan werth £45 miliwn o gyllid ychwanegol rhwng 2020 a 2023. Ond mae llawer mwy y gall y sector ôl-16 ei wneud i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, ac yn fy natganiad llafar yn gynharach eleni, eglurais ein bwriad i ehangu gwaith rhwydwaith Seren er enghraifft, er mwyn iddi gyrraedd mwy o ddysgwyr difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol. Ac yn y Bil a basiwyd gennym drwy'r Senedd yn ddiweddar, bydd dyletswydd ddeddfwriaethol ar y comisiwn newydd i geisio ehangu cyfle cyfartal a gwella mynediad i ddysgwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, ac i annog dysgwyr o gefndiroedd incwm is i mewn i addysg ôl-16.
Ddirprwy Lywydd, diolch i John Griffiths, unwaith eto, am gyflwyno'r ddadl hon. Mae ei stori ef, fel y clywsom, yn ymgorfforiad o fy uchelgais i Gymru fod yn genedl o ail gyfleoedd, lle nad yw byth yn rhy hwyr i ddysgu, a gwn hefyd ein bod ni'n dau'n rhannu'r argyhoeddiad, er y gall tlodi heb ei drechu fod yn rhwystr i addysg, gwyddom hefyd y gall addysg ar ei gorau fod yn rhwystr i dlodi hefyd. Ddirprwy Lywydd, gan weithio gyda'n partneriaid, rwy'n addo y byddwn yn adeiladu system addysg a all chwarae ei rhan lawn ar y daith i'r Gymru decach y mae pawb ohonom am ei gweld, lle rydym yn cyflawni safonau uchel ac yn gwireddu dyheadau i bawb.
Diolch i'r Gweinidog.
A diolch i'r holl Aelodau a gyfrannodd, oherwydd rwy'n credu bod hwn yn bwnc pwysig ac mae'r angerdd a ddangoswyd gennych yn profi hynny.
Ac mae hynny'n dod â ni i ddiwedd ein busnes heddiw.