5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynlluniau Strategol 10 mlynedd Cymraeg mewn Addysg

– Senedd Cymru am 3:53 pm ar 12 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:53, 12 Gorffennaf 2022

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar gynlluniau strategol 10 mlynedd Cymraeg mewn addysg. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:54, 12 Gorffennaf 2022

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i fod yma heddiw i ddiweddaru Aelodau ar y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, sef cynlluniau ein hawdurdodau lleol i dyfu addysg cyfrwng Cymraeg dros y degawd nesaf.

O ganlyniad i ganllawiau a rheoliadau newydd ar gyfer y cynlluniau strategol, mae awdurdodau lleol wedi paratoi cynlluniau newydd, mwy uchelgeisiol sy'n darparu cyfleoedd i fwy o ddysgwyr, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, i fanteisio ar gyfleoedd addysg a dysgu cyfrwng Cymraeg. Rŷn ni wedi cydweithio ag awdurdodau lleol i adolygu a diwygio cynlluniau drafft, ac rwy'n falch o ddweud wrthych fod y broses o gymeradwyo'r cynlluniau strategol wedi dechrau. Er bod y gwaith yn parhau gydag awdurdodau lleol, dwi’n disgwyl bod mewn sefyllfa i gymeradwyo’r cynlluniau erbyn diwedd mis Gorffennaf. Dwi’n edrych ymlaen at weld pob cynllun yn weithredol o fis Medi, ac yn hyderus iawn y bydd pob sir mewn sefyllfa i gychwyn ar eu cylch CSCA 10 mlynedd nesaf ar y cyd.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:55, 12 Gorffennaf 2022

Mae’n bleser gen i ddweud wrthych fod pob un o'n 22 awdurdod lleol wedi ymrwymo i'w targedau 10 mlynedd uchelgeisiol o gynyddu'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'r targedau hyn yn cyfateb i gerrig milltir ein strategaeth iaith Gymraeg, 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr'. Mae rhai awdurdodau wedi mynd ymhellach hyd yn oed ac wedi gosod targedau sy'n rhagori ar ein disgwyliadau. Rŷn ni am i 26 y cant o ddysgwyr blwyddyn 1 gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2026, gyda hynny’n codi i 30 y cant erbyn 2031. Mae hwn yn darged y mae gen i bob hyder y gallwn ni ei gyrraedd gyda'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg hyn ar waith. 

Dwi am dynnu sylw at rai o'r ymrwymiadau a nodir yn y cynlluniau hyn. Mae datblygiadau cyffrous ar y gorwel. Mae pwyslais clir ar gynyddu’r nifer o leoliadau ysgol cynradd ar draws Cymru gydag ymrwymiadau i sefydlu 23 ysgol gynradd Cymraeg newydd ac ehangu 25 ysgol gynradd Gymraeg dros y 10 mlynedd nesaf. Mae’r cynlluniau diwygiedig yn dangos bod canran uchel o’r datblygiadau hyn i’w gwireddu yn ystod pum mlynedd cyntaf y CSCA a’u bod yn amlach na pheidio yn cael eu cefnogi gan gefnogaeth cyfalaf Llywodraeth Cymru.

Mae’r Gymraeg, Ddiprwy Lywydd, yn perthyn i ni i gyd, ac mae'n bwysig cydnabod bod gan bawb eu taith iaith eu hunain o ran dysgu a defnyddio'r iaith. Mae gweithio gyda'n gilydd i gynhyrchu'r cynlluniau strategol wedi cynnig cyfleoedd gwych i weld beth yn union y gellir ei gyflawni. Mae'r Cwricwlwm i Gymru, sy’n galluogi ysgolion a lleoliadau i gyflwyno’r Gymraeg o dair oed, wedi rhoi cyfle i ni gynllunio'n wahanol ac mae'n wych gweld cynifer o awdurdodau lleol yn manteisio ar y cyfleoedd hyn. Un enghraifft o hyn yw'r 10 awdurdod lleol sy’n canolbwyntio ar symud eu hysgolion ar hyd continwwm iaith drwy gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael.  

Wedi dweud hyn, rhaid i ni gofio mai fframwaith cynllunio yw'r cynlluniau strategol a ni ellir eu gweithredu heb gymorth ar draws y sectorau. Dwi’n gwybod bod byddin o unigolion yn cynrychioli ysgolion, rhieni, sefydliadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol wedi bod wrthi’n ddiwyd dros y flwyddyn diwethaf yn trafod ac ymateb i gynlluniau drafft yr awdurdodau lleol. Hoffwn ddiolch i chi i gyd am y gwaith hwnnw, a hefyd diolch i chi ymlaen llaw am y gwaith sydd o'n blaenau i gefnogi'r gwaith o weithredu'r cynlluniau newydd o fis Medi ymlaen. Mae eich ymrwymiad yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi. Hoffwn hefyd gydnabod a chymeradwyo swyddogion yr awdurdodau lleol. Mae eich ymrwymiad a'ch dyfalbarhad drwy un o'r cyfnodau mwyaf heriol yr ydym wedi'u hwynebu ers degawdau wedi bod yn ganmoladwy. Mae eich ymgysylltiad parhaus gyda’ch gilydd a gyda ni wedi sicrhau bod cynlluniau i dyfu addysg cyfrwng Cymraeg dros y 10 mlynedd nesaf mor uchelgeisiol ag y gallant fod. Diolch i chi hefyd.

Ar yr ochr wleidyddol, dwi'n cydnabod yr angen i gael cefnogaeth pob cabinet yng Nghymru i wireddu uchelgais 'Cymraeg 2050', a dyna pam y byddaf i’n manteisio ar y cyfle i gwrdd â holl arweinwyr y cynghorau yn ystod tymor yr hydref i drafod cyfleoedd a heriau sy'n gysylltiedig â chynllunio addysg cyfrwng Cymraeg. Fel Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, dwi hefyd wedi rhoi camau yn eu lle i gefnogi gweithrediad effeithiol y CSCA. Mae’r rhain yn cynnwys buddsoddi ers 2018 £76 miliwn mewn grantiau cyfalaf cyfrwng Cymraeg penodedig sydd yn creu dros 3,700 o lefydd gofal plant ac ysgol ychwanegol a 285 o lefydd mewn canolfannau neu unedau trochi hwyr ychwanegol; ymrwymo i fuddsoddi £2.2 miliwn yn flynyddol hyd nes diwedd cyfnod y Senedd hwn i gefnogi darpariaethau trochi hwyr ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru; cefnogi Mudiad Meithrin i agor mwy o ddarpariaethau meithrin cyfrwng Cymraeg bob blwyddyn er mwyn cyrraedd 150 o ddarpariaethau newydd erbyn 2026; cyhoeddi cynllun gweithlu Cymraeg 10 mlynedd gyda chyllid ychwanegol i'w wireddu; sicrhau gwersi Cymraeg am ddim i'r gweithlu addysg drwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol o fis Medi eleni; ymgynghori ar fframwaith drafft Cwricwlwm i Gymru ar gyfer y Gymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg—bydd y deunyddiau ategol hyn yn cael eu mireinio a'u cyhoeddi ym mis Medi eleni; cynyddu’r cyllid i gynllun e-sgol i £600,000 er mwyn ehangu'r rhaglen e-ddysgu i bob ardal o Gymru erbyn 2023.

Dwi wedi bod yn ffodus fy mod i wedi gallu ymweld â nifer o'r prosiectau rŷn ni wedi buddsoddi ynddyn nhw. Mae cymaint o enghreifftiau arloesol a straeon ysbrydoledig o Fôn i Fynwy, o ddarpariaethau trochi hwyr yn Ysgol Dyffryn Conwy i brosiectau arloesol sy'n digwydd yn ysgol Pen y Dre ym Merthyr i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn ysgol cyfrwng Saesneg.

Fodd bynnag, Dirprwy Lywydd, rhaid inni gydnabod sgileffeithiau pandemig COVID-19, effeithiau rŷn ni'n dal i brosesu'n llawn. Rhaid cael cyfnod i fyfyrio, yn enwedig o ran cefnogi teuluoedd a chynyddu dealltwriaeth o'r hyn y mae addysg cyfrwng Cymraeg yn ei gynnig. Byddwn yn parhau i fonitro'n ofalus oblygiadau tymor hwy'r pandemig ar ddewisiadau rhieni a gofalwyr o ran addysg cyfrwng Cymraeg. Ond mae fy neges i yn glir: rwyf am i addysg cyfrwng Cymraeg fod yn opsiwn i bawb ac rwyf am i bawb gael y cyfle i fod yn ddinasyddion dwyieithog yng Nghymru.

Bydd rhai fydd yn dweud nad yw'r cynlluniau strategol yn ddigon uchelgeisiol, ond rhaid cofio'r siwrnai rŷn ni wedi bod arni, beth rŷn ni wedi'i ddysgu. Rŷn ni wedi cyflawni llawer, ond dwi'n gwybod bod mwy y gellir ac y mae angen ei wneud i sicrhau gwell mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg mewn ardaloedd lle mae ei angen fwyaf. Mae gormod o rwystrau o hyd i addysg cyfrwng Cymraeg ac mae gormod o blant yn colli cyfleoedd i gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a dod yn siaradwyr dwyieithog hyderus a mwy. Rŷn ni wedi mynd mor bell ag y gallwn o fewn fframwaith presennol y cynllun strategol Cymraeg mewn addysg. Bydd gwelliannau pellach i’r fframwaith hynny yn cael eu hystyried fel rhan o waith cwmpasu ar Fil addysg y Gymraeg.

Cyn cloi, gaf i ddiolch i bawb eto, a thanlinellu'r pwysigrwydd o weithio gyda'n gilydd, i fod yn agored gyda'n gilydd, i gefnogi ein gilydd? Mae'n ddegawd dyngedfennol, ond yn gyfle cyffrous i'r Gymraeg ac i Gymru. 

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 4:02, 12 Gorffennaf 2022

Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno hyn heddiw, ac am roi golwg ymlaen llaw i ni ar y datganiad. A allaf ddechrau drwy groesawu cyfeiriad cyffredinol y cyhoeddiad heddiw? Fel disgybl a elwodd o addysg ddwyieithog, mae'n dda gweld bod addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion cynradd yn flaenoriaeth, gan ei bod yn bwysig dal plant yn ifanc i ddatblygu'r iaith.

Byddwn yn awyddus i ddeall sut y bydd y 23 ysgol newydd yn cael eu dosbarthu ledled y wlad. Ydyn nhw'n canolbwyntio ar leoliadau lle mae llai o siaradwyr Cymraeg? Hefyd, pa amserlen ydyn ni'n edrych arni er mwyn i'r projectau hyn fynd i dender a chael eu hadeiladu? A wnewch sicrhau bod y gyllideb hon yn chwyddiannol? Os nad yw projectau'n digwydd am ychydig flynyddoedd, a bod chwyddiant yn parhau i godi, sut allwn ni sicrhau nad yw hyn yn mynd dros y gyllideb?

Rydych yn sôn am ehangu 25 o ysgolion eraill. Sut y gallwn fod yn siŵr y bydd yr ehangiadau hyn yn ddigonol? Rydych yn nodi'r nod o gael 26 y cant o ddysgwyr blwyddyn 1 i dderbyn eu haddysg yn Gymraeg o 2026. A ydym ar y trywydd iawn ar hyn o bryd ar gyfer hyn, neu a oes angen i rai o'r ysgolion newydd yma gael eu hadeiladu i gyrraedd y targed hwnnw?

Rwyf wedi codi'r mater nesaf yma o'r blaen. Os yw'r ysgolion newydd hyn i gael eu hadeiladu, bydd angen eu staffio hefyd. Gan gymryd y 23 o adeiladau newydd, ac anwybyddu'r 25 o ehangiadau, yn ogystal â gofynion newydd y Cwricwlwm i Gymru i gynyddu addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, bydd angen cannoedd o athrawon newydd sydd yn siarad Cymraeg yn rhugl. Sut y cyflawnir hyn, a sut yr ydym ni'n mynd i sicrhau bod gennym ystod dda o athrawon o wahanol gefndiroedd a chyda gwahanol brofiadau bywyd? A oes unrhyw ystyriaeth wedi'i roi i sut i ddenu myfyrwyr aeddfed i addysgu?

Mae fy mhwynt olaf yn ymwneud â'r newid o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwch. Er bod twf addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cynradd i'w groesawu, mae'n anos cyflawni'r un twf mewn addysg uwchradd oherwydd y niferoedd a dalgylchoedd dan sylw. Pa ddarpariaeth sydd ar waith i alluogi pontio llyfn rhwng disgybl sy'n gadael blwyddyn 6 ar ôl cael ei addysgu yn Gymraeg a dechrau ym mlwyddyn 7 mewn ysgol cyfrwng Saesneg neu ddwyieithog? Roeddem ni i gyd yn wynebu heriau wrth inni bontio rhwng ein haddysg gynradd ac uwchradd, ac mae angen inni sicrhau bod unrhyw rwystrau sy'n bodoli oherwydd y newid yn yr iaith y caiff disgyblion eu haddysgu ynddi yn cael eu lleihau a'u datrys.

Diolch am y datganiad unwaith eto, Gweinidog. Fel yr ydym wedi sôn o'r blaen, mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i bob un ledled Cymru. Diolch.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:05, 12 Gorffennaf 2022

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny ac am ei gefnogaeth i'r datganiad yn gyffredinol, ac mae'r cwestiynau'n rhai teilwng iawn. O ran lleoliadau yr ysgolion newydd, bydd y 23 o ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd yn cael eu dosbarthu ymhlith 15 o'r cynghorau lleol, ond mae'r rheini yn ymestyn o Benfro i Ferthyr i'r Fro, felly ar draws Cymru benbaladr. Ac mae hefyd 10 awdurdod lleol yn ffocysu ar symud ysgolion presennol ar hyd y continwwm ieithyddol. Felly, pan fydd cynlluniau'n cael eu cyhoeddi maes o law, wedi iddyn nhw gael eu cymeradwyo'n swyddogol, bydd yr Aelod yn gallu gweld yn fanwl beth yw'r cynlluniau ymhob rhan o Gymru, ac mae'r darlun yn edrych yn wahanol, wrth gwrs, ymhob awdurdod, yn dibynnu lle maen nhw eisoes ar eu llwybr tuag at gynyddu darpariaeth. Bydd rhai, o ran y cwestiwn gweithlu, fel roedd e'n gofyn ar y diwedd, angen, wrth gwrs, recriwtio athrawon ychwanegol. Mi wnaiff e weld yn y cynlluniau fod dadansoddiad o'r gofyniad fydd ei eisiau i sicrhau er mwyn llwyddo yn y cynllun. Mae hynny hefyd wedi ei gynnwys yn y cynllun gweithlu addysg 10 mlynedd, a byddwn ni'n edrych bob dwy flynedd ar beth yw'r sefyllfa gyfredol, fel ein bod ni'n cadw trac mewn amser go iawn ar y llwyddiant i recriwtio rhifau mwy. Ond i rai awdurdodau lleol eraill, lle mae'r pwyslais ar symud ysgolion ar hyd y continwwm, cwestiwn o ddatblygu sgiliau'r gweithlu presennol, efallai, yw e iddyn nhw. Felly, mae cymysgedd o anghenion, a bydd e'n gwybod y bydd y cynllun 10 mlynedd yn cyfrannu'n sylweddol tuag at recriwtio i mewn i'r sector.

O ran amserlenni, mae'n gynllun 10 mlynedd, ond mae angen gweld cynnydd ymhob blwyddyn, ac mae amryw o'r amcanion ar draws Cymru yn seiliedig ar gyfnod o bum mlynedd, efallai, fel ein bod ni'n gweld cynnydd penodol yn y cyfnod cyntaf, ac wedyn camau sy'n cael eu cymryd yn y tymor hirach o fewn y degawd hwnnw. Mae disgwyl i bob awdurdod lleol gyflwyno cynllun gweithredu  ar gyfer y pum mlynedd gyntaf a bydd y rheini'n cael eu monitro'n flynyddol. Felly, byddan nhw'n cyhoeddi'r rheini ar ôl cyhoeddi'r cynlluniau strategol.

Ac roedd e'n gofyn cwestiwn pwysig iawn ynglŷn â rôl cynllun cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu, sef ein cynllun buddsoddi ni yn yr ystâd addysgiadol yn gyffredinol. Rwyf eisiau ystyried sut y gallwn ni wneud y defnydd gorau o'r rhaglen gyfalaf honno i sicrhau ein bod ni'n cefnogi'n huchelgais ni o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mi wnes i sôn yn y datganiad am y gronfa o £76 miliwn sydd wedi'i wario neu ei ddyrannu ar gyfer ysgolion newydd ac ehangu ysgolion, ond byddaf eisiau gweld hefyd beth mwy y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod cynnydd yn y cynlluniau strategol yn digwydd ar y cyd â'r cynlluniau ehangach sydd gan ein partneriaid ni mewn awdurdodau lleol ar draws Cymru.  

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:09, 12 Gorffennaf 2022

Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. Dwi'n croesawu dau beth yn benodol, sef eich gonestrwydd yn y datganiad hwn—eich gonestrwydd ynglŷn â'r heriau gwleidyddol dŷch chi'n eu hwynebu o ran sicrhau bod pob awdurdod lleol yn ymrwymo'n llawn i'r cynlluniau hyn, a hefyd eich gonestrwydd o ran yr heriau sydd yn parhau, yr her wirioneddol ein bod ni ddim jest yn trio ateb y galw ond yn creu a chefnogi'r galw, a beth dŷn ni'n ei olygu o ran mynediad gwirioneddol gyfartal i addysg Gymraeg, oherwydd dydy'r ffaith bod ysgol Gymraeg efallai ar gael ddim yn golygu bod hynny yn opsiwn pan fo yna ysgolion Saesneg newydd mewn cymunedau, a bod plant wedyn yn gorfod teithio milltiroedd i ffwrdd i gyrraedd addysg Gymraeg. Dydy hynny ddim yn fynediad cydradd. Dydy o chwaith ddim yn fynediad cydradd pan fo gennych chi ysgolion newydd Saesneg ac ysgolion Cymraeg sydd mewn dirfawr angen o fuddsoddiad a ddim yn derbyn y buddsoddiad hwnnw.

Felly, mae yna heriau gwirioneddol, a dŷn ni wedi bod yn trafod hyn. Un o’r pethau sydd fy mhryderu i ydy, o’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, a fy mhrofiad i ohonyn nhw pan oeddwn i’n gynghorydd hefyd, y ffaith eich bod chi’n gallu cael y cynllun mwyaf uchelgeisiol, y cynllun gorau yn y byd, ond mae o ynglŷn â chyrraedd y targedau hynny. Dyna dŷn ni ddim wedi’i weld hyd yma, a dyna’r pryder sy’n parhau o ran gweld adroddiadau gan rai cynghorau sir sydd yn dweud nad ydyn nhw wedi cyrraedd targedau yn barod, a dydy’r cynlluniau ddim yn dangos yn union sut maen nhw’n mynd i greu hynny.

Maen nhw’n beio dro ar ôl tro nad ydy’r galw yna, heb fod yn gofyn pam nad ydy’r galw yna. Oherwydd os nad ydy anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu diwallu, os nad ydy'r mynediad yn gyfartal o ran trafnidiaeth, os nad ydy’r ysgol yna o fewn cerdded i’r cymunedau yna, yna nid yw’r galw yn mynd i fod yna, oherwydd mae’n mynd i fod yn frwydr barhaus. Dwi’n meddwl bod yn rhaid inni fynd nôl at yr awdurdodau lleol hynny. Dwi’n meddwl ei fod yn warthus bod rhai o'r awdurdodau lleol efo dim bwriad creu ysgol gynradd Gymraeg newydd o gwbl dros y degawd nesaf yma. Beth ydyn ni’n mynd i fod yn ei wneud am hynny? Dŷch chi newydd ddweud bod 15 cyngor lleol sydd yn ymrwymo; mae hyn yn newyddion trychinebus i'r Gymraeg, a dwi wedi fy nhristáu yn fawr o ran hyn os ydyn ni o ddifri am gyrraedd y miliwn o siaradwyr.

Byddwn i’n hoffi cael tryloywder o ran lle yn union mae’r 23 ysgol yma. Hefyd, dŷn ni wedi gweld Cyngor Sir Gâr, er enghraifft, yn ymrwymo bod 10 ysgol Saesneg yn mynd i newid i ysgolion Cymraeg. Mae hynny i’w groesawu’n fawr, ond beth am y llefydd lle nad oes mynediad hawdd i ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg ar y funud?

Mae yna gymaint i’w groesawu, wrth gwrs. Dwi ddim eisiau bod yn hollol feirniadol. Mae pethau fel y buddsoddiad efo’r cylchoedd meithrin—mae hynny’n gam mawr ymlaen. Fel y dywedwyd wrthyf yn ddiweddar, mae yna ysgol feithrin newydd yn cael ei sefydlu yng Nghilfynydd yn sgil colli Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion Norton yn yr ardal honno o Bontypridd. Mae hi’n mynd i fod yn llawn o fis Medi ymlaen, ond ble mae’r ysgol gynradd Gymraeg i’r plant yna fynd ymlaen iddi, oherwydd mae yna beryg, wedyn, o golli disgyblion i addysg Gymraeg os nad ydy’r llwybr yn un teg a chydradd?

Felly, fe hoffwn holi yn benodol: beth ydyn ni am ei wneud os nad ydy’r cynghorau hyn yn cyrraedd y targedau sydd wedi’u gosod? Sut ydyn ni’n mynd i fod nid yn unig yn monitro, ond beth fydd yr oblygiadau i’r cynghorau hynny sydd, blwyddyn ar ôl blwyddyn, ddim yn cyrraedd y targedau hynny? Sut fydd Llywodraeth Cymru yn gallu sicrhau eu bod nhw nid yn unig yn cydweithio ond yn sicrhau’r buddsoddiad teg ac angenrheidiol hwnnw, oherwydd os ydyn ni o ddifri yn mynd i sicrhau’r mynediad dwi’n gwybod bod y Gweinidog eisiau ei weld, fel finnau, o ran bod addysg Gymraeg yn agored i bawb ac yn wirioneddol agored, mae’n rhaid i’r cynghorau sir ddeall nad opsiynol ydy hyn, a beth mae mynediad cydradd yn ei olygu?

Fe ddywedoch chi ar y diwedd ei bod hi’n ddegawd dyngedfennol—yn sicr, felly. Dŷch chi hefyd wedi pwysleisio’r heriau sydd yn sgil COVID. Ond yr her gwirioneddol ydy, yn yr ardaloedd hynny lle nad yw’r uchelgais yn bodoli—. A dwi’n meddwl mai un o’r pethau, o ddarllen rhai o’r cynlluniau drafft ar wefannau cynghorau sir, ydy nad ydy pob un yn uchelgeisiol, a dwi’n meddwl bod yn rhaid herio hynny. Dwi’n falch o weld eich bod chi’n mynd trwyddyn nhw yn fanwl mewn munud, a dwi’n gobeithio eich bod chi’n herio’r cynghorau hynny, ond beth ydyn ni’n mynd i’w wneud? Dŷch chi wedi dweud bod cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn mynd mor bell ag sy’n bosib ar y funud, ond onid oes yna ffyrdd y gallem ni gryfhau hynny drwy ddeddfu, drwy fod yn cosbi’r awdurdodau hynny lle mai geiriau gwag ydy eu hymrwymiadau i’r Gymraeg, nid ymrwymiad gwirioneddol i sicrhau mynediad cydradd?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:14, 12 Gorffennaf 2022

Y peth hawsaf yn y byd yw dweud bod pethau ddim yn ddigon uchelgeisiol, ond dyw e jest ddim yn wir. Dyw e jest ddim yn wir, beth mae’r Aelod wedi’i ddweud. Beth yw’ch diffiniad chi o uchelgais os nad cydnabod mai dyma’r cynlluniau strategol cyntaf ers 2014 sydd wedi’u gyrru gan darged wedi’i gyfrifo gan y Llywodraeth, nid gan y cynghorau lleol? Felly, os nad yw hynny’n arwydd o uchelgais, a’n bod ni wedi nodi beth rŷn ni’n credu yw’r nod, ac mae pob un awdurdod wedi derbyn y nod hwnnw—. Os gwnaiff pob un awdurdod gyrraedd rhan isaf yr ystod maen nhw’n derbyn, byddwn ni’n ar y trac i gyrraedd y nod yn 2050.

Felly, dwi ddim yn cytuno o gwbl nad oes digon o uchelgais yn y cynlluniau. Mae gwaith wedi bod yn digwydd er mwyn sicrhau eu bod nhw yn uchelgeisiol. Ond mae'r Aelod yn iawn i ddweud mai teclyn, os hoffwch chi, ar gyfer cynllunio yw hwn, ac mae'n rhaid gwireddu'r amcanion sydd yn y cynlluniau hefyd. Mae hynny, wrth gwrs, yn gwbl wir. Dwi ddim yn derbyn dŷn ni ddim wedi cael llwyddiant mor belled; mae'r llwyddiant wedi digwydd ar draws Cymru, ond dyw e ddim yn digwydd ym mhob awdurdod, dwi'n derbyn hynny hefyd. Ac mae angen sicrhau bod y cynlluniau sydd yn cael eu cytuno hefyd yn cael eu gwireddu. A byddwn ni'n gwneud popeth y gallwn ni fel Llywodraeth i sicrhau hynny.

Dwi wedi sôn yn barod yn fy ymateb i Sam Kurtz am un o'r pethau rydyn ni'n bwriadu ei wneud, sef sicrhau sut mae'r cynllun buddsoddi yn gallu adlewyrchu nid jest y cynlluniau ehangach sydd gan gynghorau ond sicrhau bod twf yn digwydd o ran y cynlluniau strategol ar y cyd â'r cynlluniau ehangach sydd gyda nhw, fel bod y sefyllfa'n hafal yn hytrach nag un lle mae un yn cael ei flaenoriaethu o flaen y llall. Ond rwy'n derbyn hefyd nad yw'r mesurau deddfwriaethol ar gael inni allu gorfodi rhai o'r canlyniadau yma. Dyna pam rydyn ni wedi cael y drafodaeth gyda chi fel plaid ar y cyd, fel rhan o'r cytundeb cydweithio, i sicrhau beth mwy gallwn ni ei wneud o fewn deddfwriaeth i gryfhau'r fframwaith statudol sydd tu cefn i'r cynlluniau yma.

Rŷch chi'n iawn i ddweud hefyd bod yr elfen ddaearyddol yn gallu bod yn fwy heriol. Mae'r cynlluniau strategol presennol yn digwydd ar sail ardal awdurdod lleol yn ei gyfanrwydd, yn hytrach nag ar lefel is na hynny, ar lefel gymunedol, os hoffwch chi. Felly, beth mwy gallwn ni ei wneud er mwyn cryfhau ein gallu i gynllunio ar y sail honno? Ond mae gogwydd daearyddol wedi bod yn y trafodaethau sydd wedi digwydd eisoes. Rwy'n sicr, pan welith yr Aelod y cynlluniau terfynol, bydd hi'n gallu gweld hynny.

Gwnaethoch chi sôn am gwestiwn pam nad yw pob awdurdod lleol yn agor ysgol newydd. Wel, mae rhai awdurdodau lleol yn caniatáu i 90 y cant a mwy o'u plant i fynd i ysgolion Cymraeg eisoes. Felly, mae hynny'n gwestiwn o ddemograffeg. Felly, mae'n llawer mwy cymhleth nag y mae'r feirniadaeth honno'n ei awgrymu. Ond mae'n bwysig i sicrhau ein bod ni'n cadw llygad barcud i sicrhau bod cynnydd yn digwydd, ac felly dwi wedi bod yn glir bod angen cynnydd ym mhob blwyddyn. Felly, bydd monitro blynyddol ar sail y cynlluniau gweithredol bydd yn cael eu cyhoeddi gan yr awdurdodau ar ôl y cynlluniau strategol, a bydd hynny ar gael inni i gyd graffu arno a sicrhau bod cynnydd yn digwydd o flwyddyn i flwyddyn.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 4:17, 12 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Rwy'n falch o'r record o gyflawniad sydd gan fy awdurdod lleol am ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Cynon a'r ffyrdd y maen nhw wedi manteisio ar gyllid Llywodraeth Cymru i gynyddu'r ddarpariaeth, gydag, er enghraifft, y gwaith gwerth £12.5 miliwn o ehangu Ysgol Gyfun Rhydywaun sydd ar y gweill ar hyn o bryd, a'r cylch meithrin pwrpasol newydd gwerth £4 miliwn a fydd yn agor yr wythnos nesaf yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr. Mae hyn i gyd yn hanfodol os ydym ni o ddifrif ynghylch cyrraedd ein nod heriol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yr wythnos diwethaf, ymwelais â grŵp Ti a Fi sydd newydd ei ffurfio yng Nghilfynydd, a fydd hefyd yn agor ei gylch meithrin ei hun ymhen ychydig wythnosau. Y mater allweddol a godwyd gyda mi oedd yr her o ddod o hyd i staff gofal plant cymwys sy'n siarad Cymraeg, a gwn o'n trafodaethau blaenorol bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â hi. Fel rhan o hyn, codwyd y mater penodol o ddiffyg parhad rhwng y cymwysterau sydd eu hangen i fod yn weithiwr gofal plant sy'n siarad Cymraeg a'r cymwysterau sydd eu hangen i fod yn gynorthwyydd addysgu Cymraeg eu hiaith gyda mi, y ddau yn gyrsiau cwbl ar wahân heb unrhyw ffordd hawdd o symud o'r naill i'r llall. Wrth dderbyn bod angen dilyniant rhwng y cyrsiau hyn, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i ehangu'r rhyngwyneb hwn i weld a ellir gwneud mwy i symleiddio'r broses a'i gwneud yn haws i gynorthwywyr gofal plant cymwys sy'n siarad Cymraeg ddod yn gynorthwywyr addysgu ac i'r gwrthwyneb?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:19, 12 Gorffennaf 2022

Diolch o galon i Vikki Howells am y cwestiwn hwnnw, ac mae'n rhywbeth rwy'n gwybod mae hi'n teimlo'n angerddol yn ei gylch e; rydyn ni wedi trafod hyn un-wrth-un y tu allan i'r Siambr hon hefyd. Ac mae'n iawn i ddweud bod hi'n bwysig iawn sicrhau bod y ddarpariaeth sydd gyda ni ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn caniatáu ac yn annog rhieni i ddewis addysg ym mhob cyfnod i'w plant trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae buddsoddiad sylweddol yn digwydd er mwyn ehangu'r nifer o ddarpariaethau Cymraeg dros dymor y Senedd hwn—rhyw 150 ychwanegol. Ond dwi, yn sicr, yn derbyn yr her mae hi'n ei roi, fod angen sicrhau bod y llwybr yn esmwyth i gymhwyso i ddysgu ym mha bynnag gyfnod o addysg, statudol a blynyddoedd cynnar. Un o'r cwestiynau rŷn ni'n edrych arno ar hyn o bryd yw'r continwwm ieithyddol o ran cymhwyso, a'n bod ni i gyd yn deall lle ar y llwybr cyffredin hwnnw mae cymwysterau ieithyddol yn disgyn, fel bod dealltwriaeth fwy eglur o'r hyn sydd ar gael er mwyn hyfforddi athrawon, hyfforddi oedolion yn gyffredinol, i addysgu'r Gymraeg, a hefyd y cymwysterau hynny sydd ar gael yn yr ysgol. Felly, mae'r gwaith hwnnw yn waith cymhleth, mae'n waith sydd, yn ein cyd-destun ni yma yng Nghymru, yn arloesol, ond mae e newydd ddechrau. Bydd gyda fi fwy, gobeithio, i'w ddweud am hynny maes o law. 

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siŵr y gall y Gweinidog ddyfalu beth yr wyf ar fin tynnu ei sylw ato. Codais gyda chi yr wythnos diwethaf fy mhryderon ynghylch cyflymder Pen-y-bont ar Ogwr o fynd ati o ran addysg cyfrwng Cymraeg. O edrych ar gynllun strategol y Gymraeg mewn addysg a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, maen nhw'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gosod y targed o gynyddu nifer y dysgwyr cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref o 8 y cant i 14 i 18 y cant dros gyfnod o 10 mlynedd. Byddwn i wedi hoffi gweld targed uwch. Rwy'n siŵr ei fod, mae'n debyg, yn disgwyl i mi ddweud hynny, ond rwyf yn credu bod rhai pryderon dilys ymhlith ymgyrchwyr ynghylch pa mor ddifrifol y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o ran cyrraedd ei dargedau.

Nid oes ond angen i chi edrych ar y sefyllfa yn awr: buddsoddiadau sylweddol mewn ehangu ysgolion cyfrwng Saesneg, un ysgol yn cael £900,000; mae fy hen ysgol gynradd i yn symud i safle newydd, ond mae ei safle presennol yn cael ei droi'n ysgol cyfrwng Saesneg arall. Heb fod ardaloedd fel Pen-y-bont ar Ogwr yn gwthio'n galetach ac yn gyflymach, yna bydd y Llywodraeth yn ei chael yn anodd cyrraedd ei thargedau. Byddai'n dda gen i glywed gan y Gweinidog pa gymhellion sydd ar gael i awdurdodau lleol wella'r sefyllfa, ond, yn bwysicach na hynny, beth fydd yn digwydd os na fydd awdurdodau lleol yn cyrraedd eu targedau, oherwydd, ers gosod y targedau cyntaf un, ychydig iawn sydd wedi digwydd mewn ardaloedd fel Pen-y-bont ar Ogwr.

Ac mae'n debyg eich bod yn meddwl tybed pam rwy'n gofyn y cwestiwn hwn yn Saesneg—mae i wneud y pwynt bod yr iaith ar gyfer pawb. Dewisodd fy nheulu fy anfon i ysgol Gymraeg; rwyf wedi dod o deulu di-Gymraeg. Rwyf i eisiau i bob rhiant gael y dewis hwnnw, os byddan nhw'n dymuno, i wneud hynny. Ond dim ond os ydyn nhw'n gallu cael mynediad i addysg Gymraeg yn y lle cyntaf y gall hynny ddigwydd. 

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:22, 12 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n cytuno ag ymdeimlad olaf yr Aelod, yn sicr, a dyna'r egwyddor sylfaenol y tu ôl i'r fenter gyfan yr ydym ni'n ymwneud â hi o ran cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg. Rwy'n sylwi bod yr Aelod wedi nodi ei siom yn gynnar. Rwy'n credu efallai mai'r ffordd arall o edrych ar hyn yw bod pob awdurdod, gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cytuno i gynllun uchelgeisiol. Ond, fel y soniais yn fy ateb i Heledd Fychan yn gynharach, mae'n ddyletswydd ar bob awdurdod—mae hynny'n cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, ond pob awdurdod arall hefyd—i ymrwymo i gyflawni'r cynlluniau hynny, ac mae gennym—. Rwyf wedi disgrifio'r monitro aruthrol a fydd yn digwydd o flwyddyn i flwyddyn i sicrhau bod hynny'n digwydd, o safbwynt staff ond hefyd o safbwynt buddsoddi, a byddaf yn edrych ar beth arall y gallwn ni ei wneud gyda'n cynllun cymunedau dysgu cynaliadwy i sicrhau ein bod yn gweld cynnydd o ran cyflawni Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ochr yn ochr ag uchelgeisiau ehangach unrhyw awdurdod ynghylch addysg yn eu hardal benodol eu hunain.

Ond rwy'n derbyn—er fy mod i wedi derbyn eisoes—fod terfyn ar yr ystod o bwerau sydd gan y Llywodraeth ar hyn o bryd lle nad yw'r cynlluniau hynny'n cael eu bodloni. Felly, rwy'n awyddus, fel y gwn ei fod ef a'i blaid, i edrych ar beth arall y gallwn ni ei wneud yn y maes hwnnw os na welwn ni'r cynnydd yr ydym ni eisiau ei weld. Ond rwy'n ei wahodd i gychwyn ar y daith dros y 10 mlynedd nesaf gydag ymdeimlad o optimistiaeth, ac i sicrhau ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i weld bod y cynlluniau hyn yn cael eu cyflawni mewn gwirionedd.  

Photo of David Rees David Rees Labour 4:23, 12 Gorffennaf 2022

A chais hwyr i siarad gan Huw Irranca-Davies. 

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd; mae'n ddrwg gen i.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Dim ond eisiau dod i mewn ydw i yn dilyn sylwadau Luke yn y fan yna, oherwydd bod y Gweinidog wedi mynegi cryn hyder ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a hefyd yn ardal Rhondda Cynon Taf yn fy etholaeth i, yn eu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg wrth symud ymlaen. Ond fe wnes i gyfarfod â Meurig, y pennaeth arobryn, y diwrnod o'r blaen, ac rwy'n credu y byddai'n croesawu ymweliad yn wirioneddol, ynghyd â Huw David, arweinydd y cyngor, hefyd i siarad am y cynlluniau a sut y maen nhw'n datblygu, nid yn unig yn y 12 mis, pum mlynedd nesaf, ond y 10 mlynedd nesaf, fel y gallwn ni wireddu'r uchelgais hwnnw mewn gwirionedd. Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod y rhain i gyd yn flociau adeiladu. Mae'n daith. Roedd yn wych dros y flwyddyn ddiwethaf gweld dau Mudiad Meithrin newydd yn agor yn y fwrdeistref, wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, wedi eu cynllunio gyda'r gymuned Gymraeg leol, gyda'r awdurdod lleol hefyd. Ond mae'n daith. Ond byddai'n wych eich cael chi yno rywbryd i drafod gyda phob un ohonom ni fel Aelodau a'r awdurdod lleol sut y gallwn ni gyflawni'r targedau hyn. 

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:24, 12 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn hwnnw a'r gwahoddiad hwnnw, a byddwn yn hapus i'w dderbyn. Roedd Meurig yn ei sylwadau yn y gwobrau ddydd Sul yn glir iawn ynglŷn â'r angen i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru a hoffai gael mynediad i addysg Gymraeg yn cael hynny, ac rwy'n sicr yn rhannu'r uchelgais hwnnw, fel y gwn y mae Huw Irranca-Davies hefyd. 

Photo of David Rees David Rees Labour

Diolch i'r Gweinidog.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y tri chynnig o dan eitemau 6, 8 a 9, rheoliadau 2022 Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Tynnwyd eitem 7 yn ôl. 

Photo of David Rees David Rees Labour 4:25, 12 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Unrhyw wrthwynebiadau? [Torri ar draws.] Na, ydych chi eisiau siarad amdanyn nhw i gyd gyda'i gilydd? [Torri ar draws.] Ydych. Felly, dydych chi ddim yn gwrthwynebu'r grwpio. Dim gwrthwynebiad i'r grwpio.