13. Dadl Fer: Pleidleisio yn 16 oed: Rhoi'r offer i bobl ifanc ddeall y byd y maent yn byw ynddo, a sut i'w newid, drwy addysg wleidyddol

– Senedd Cymru am 6:36 pm ar 13 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 6:36, 13 Gorffennaf 2022

Symudaf yn awr i'r ddadl fer, a galwaf ar Sioned Williams i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, ac fe fyddaf yn rhoi munud o fy amser i Heledd Fychan. Fe dyfais i lan yng Ngwent, ac i Gasnewydd y byddem ni'n mynd i siopa. Roedd y murlun enwog a oedd yn adrodd hanes y Siartwyr, sydd nawr bellach, yn anffodus, wedi'i chwalu, yn destun rhyfeddod i fi. Dysgais i am eu brwydr a'u haberth drwy ddelweddau graffig a dramatig y murlun. Byddwn yn mynnu cael yr hanes gan fy rhieni bob tro y byddem yn pasio, ac fe'm sbardunodd i ddysgu mwy am hanes fy mro a'm cenedl, ac am frwydr pobl gyffredin Cymru dros gael llais yn y modd yr oedd eu bywydau a'u cymdeithas yn cael eu rheoli.

Oes, mae modd ysbrydoli plant a phobl ifanc a thanio'u hangerdd a'u chwilfrydedd dros syniadau ac ymgyrchoedd, fel rhai y Siartwyr, a hynny drwy bob math o ffyrdd: gweld celf gyhoeddus neu berfformiad theatr; darllen llyfrau am ymgyrchwyr ifanc, fel Greta Thunberg neu Malala; gweld protestiadau ymgyrchwyr ifanc Cymdeithas yr Iaith ac Mae Bywydau Du o Bwys. Ond yn yr ysgol, wrth gwrs, mae modd sicrhau orau fod ein pobl ifanc yn cael eu cyflwyno i wleidyddiaeth yn ei holl ffurfiau, a'r modd y mae'r syniadau yma yn dylanwadu ar gymdeithas ac yn creu newid. Bydd cynnwys hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth, ac addysg wleidyddol, fel elfennau mandadol ym maes dysgu a phrofiad y dyniaethau yn y cwricwlwm yn sicr yn fodd o annog hyn. Achos fe fu galwadau lu a chroch yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig wrth inni benderfynu rhoi'r bleidlais i bobl 16 oed, am fframwaith gwell, a darpariaeth fwy cyson a chyflawn, i sicrhau addysg wleidyddol bwrpasol a safonol i bawb.

Mae'n hanfodol ein bod yn galluogi ein pobl ifanc i ddeall y modd y mae syniadau polisi, ideoleg a systemau llywodraethu yn creu'r gymdeithas a'r byd y maent yn rhan ohonynt, a sut gallant gael llais, mynegi barn a chwarae eu rhan yn y broses ddemocrataidd, a sylweddoli a gwerthfawrogi pam fod hynny'n bwysig, iddynt ddeall bod ganddynt rym. Does dim angen imi ailadrodd y dadleuon hynny nawr am eu bod wedi'u derbyn yn rhannol, o'r diwedd. Ac rwy'n croesawu'n fawr, felly, y cyfeiriad yn yr adroddiad blynyddol ar y Cwricwlwm i Gymru, a gyhoeddwyd ddechrau'r mis, at gefnogi dysgwyr i arddel eu hawliau democrataidd, a gwneud penderfyniadau gwleidyddol, er mwyn meithrin dealltwriaeth o'r ffordd mae systemau llywodraethu yng Nghymru yn gweithio, fel elfen ganolog o'r maes dysgu a phrofiad hwn. Felly, mae newid er gwell ar droed ac rwy'n croesawu hynny. 

Ond—ac mae hwn, dwi'n meddwl, yn 'ond' mawr, ac yn 'ond' sy'n werth ei godi yn y Siambr y prynhawn uma—nid yw'r hyn sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd yn ein system addysg yn ddigonol, yn gyson dros Gymru nac yn dderbyniol, felly, os ydym wir am rymuso ein pobl ifanc i fedru codi llais a chreu newid. Rhaid cofio na fydd unrhyw ddisgybl sydd ym mlwyddyn 7 neu uwch ar hyn o bryd yn cael ei addysgu o dan y cwricwlwm newydd. Rhaid inni beidio ag anghofio am y bobl ifanc hynny. A rhaid cofio y bydd etholiad San Steffan a'r Senedd yn digwydd o fewn y pum mlynedd nesaf, a bydd cannoedd o bobl ifanc yn troi'n 16 cyn hynny. Dyna pam rwyf am weld gwella addysg wleidyddol yn cael sylw'r Llywodraeth nawr. Mae yna hefyd bryderon nad yw'r cynlluniau yn y cwricwlwm newydd ar y seiliau mwyaf cadarn, ac fe soniaf am hynny yn y man.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 6:40, 13 Gorffennaf 2022

Mae ein pobl ifanc wedi medru pleidleisio yn 16 oed nawr mewn dau etholiad—etholiad y Senedd a'r etholiadau lleol eleni. Mae hynny, wrth gwrs, yn destun llawenydd ac yn destun balchder cenedlaethol. Fe wnaeth fy merch bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau'r Senedd, a hynny, wrth gwrs, dros ei mam, a'm mab yn yr etholiadau lleol eleni, ac maen nhw'n amlwg yn dod o deulu sy'n trafod a wir yn byw gwleidyddiaeth. Ond, rwy'n gwybod nad oedden nhw na'u ffrindiau wedi trwytho yn y pwnc yn yr ysgol. Ac rydym yn gwybod nad yw nifer y pleidleiswyr sy'n cyfranogi yn ein democratiaeth yn ddigon uchel, yn enwedig, felly, o ran pobl iau.

Dangosodd data cychwynnol Llywodraeth Cymru y cofrestrodd rhwng 40 a 45 y cant o bobl ifanc 16 i 17 oed cymwys i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd y llynedd. Yn amlwg, roedd y pandemig wedi effeithio ar rai o'r cynlluniau i godi ymwybyddiaeth, ond mae arolwg ar ôl arolwg o bobl ifanc wedi dangos eu bod nhw eisiau mwy o addysg wleidyddol ffurfiol. A'r mwyaf y mae pobl ifanc yn dysgu am wleidyddiaeth, y mwyaf y maent eisiau cyfranogi mewn gwleidyddiaeth. Mae elfen gyfyngedig o'r hyn y gellir ei alw'n addysg wleidyddol yn rhan o'r cwricwlwm presennol, fel rhan o fagloriaeth Cymru ac addysg bersonol a chymdeithasol.

Wrth ymateb i ddeiseb a gyflwynwyd i Bwyllgor Deisebau'r pumed Senedd yn galw am addysg wleidyddol statudol, fe ddywedodd y Gweinidog Addysg ar y pryd, Kirsty Williams, 'Anogir ysgolion eisoes i ddarparu addysg eang, gan gynnwys ymwybyddiaeth wleidyddol, ac mae cyfleoedd i ddysgwyr archwilio gwleidyddiaeth yn y cwricwlwm cyfredol drwy'r fagloriaeth Gymreig ac addysg bersonol a chymdeithasol'. Ond sylwer ar y defnydd o'r gair 'cyfleoedd'. Nid yw'n rhoi llawer o hyder i rywun fod y sefyllfa bresennol yn sicrhau darpariaeth addysg wleidyddol o safon ym mhob ysgol.

Mae peth o'r addysg wleidyddol sy'n cael ei derbyn ar hyn o bryd gan ein pobl ifanc felly'n deillio o elfennau o fewn addysg bersonol a chymdeithasol, sy'n ofynnol yn statudol o dan y cwricwlwm sylfaenol, ond, yn wahanol i bynciau eraill y cwricwlwm cenedlaethol, mae'r modd y mae'n cael ei dysgu yn ddibynnol ar fframwaith—fframwaith y mae disgwyl i ysgolion ei ddefnyddio, ond nid oes angen iddynt ei ddilyn. Mae'r fframwaith yn dweud y dylai dysgwyr gael y cyfle i ddysgu am ddinasyddiaeth weithgar, ond nid bod yn rhaid iddynt gael y cyfle.

Mae sawl adroddiad yn adleisio canfyddiad ymchwiliad ein Senedd Ieuenctid flaenorol mai dim ond 10 y cant o'r bobl ifanc a holwyd ganddyn nhw a oedd wedi derbyn addysg wleidyddol. Dywedodd eu hadroddiad eu bod yn siomedig iawn i ganfod mai ychydig iawn o bobl ifanc yng Nghymru oedd yn dysgu am wleidyddiaeth drwy addysg wleidyddol—rhywbeth sy'n frawychus, meddant, o ystyried y newid yn yr oedran pleidleisio. Roedden nhw'n teimlo bod hyn yn adlewyrchu diffyg hyder cyffredinol athrawon ac ysgolion wrth addysgu'r pwnc. Mae Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru wedi adleisio'r pwynt yma ynglŷn â natur dameidiog y ddarpariaeth a'r angen i gefnogi athrawon yn well, yn enwedig o gofio'r newid sydd ar y gweill yn hyn o beth, gyda datblygiad y cwricwlwm newydd.

Mae undebau addysg wedi datgelu bod eu haelodau'n bryderus am ddarparu addysg wleidyddol. Beth mwy, felly, y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi addysgwyr i gyflwyno addysg wleidyddol goeth a chrwn—ymwybyddiaeth sy'n mynd y tu hwnt i ddealltwriaeth o fecanwaith a ffeithiau moel llywodraethiant Cymru? Sut ydym ni, er enghraifft, yn sicrhau bod gan ein pobl ifanc ddealltwriaeth o hanes a phwysigrwydd undebau llafur, neu eu hawliau iaith? Mae angen dysgu ynghylch y systemau ac ideolegau hynny sy'n rhoi cyd-destun ac ystyr i'r ymgiprys pleidiol a phrosesau etholiadol yn y lle cyntaf. Ac yn ôl yr NEU Cymru, mae dysgu proffesiynol yn amrywio dros Gymru, ac mae angen cefnogaeth ychwanegol ar gyfer y pwnc pwysig hwn nawr ac wrth baratoi at ofynion y cwricwlwm newydd. Mae'n wir bod adnoddau dysgu digidol newydd wedi'u cyhoeddi'n ddiweddar, ond mae'r diffyg hyder ac, wrth gwrs, y diffyg profiad ymhlith athrawon—y mwyafrif helaeth heb dderbyn unrhyw addysg wleidyddol eu hunain—angen sylw cyflym er mwyn codi'r hyder a'r gallu ymhlith ein haddysgwyr i sicrhau safon uchel o ddarpariaeth.

O ran bagloriaeth Cymru, mae'r elfen dinasyddiaeth fyd-eang o fewn y dystysgrif her sgiliau yn medru caniatáu rhywfaint o addysg wleidyddol, ond nid yw hyn bob amser yn dilyn. Ar lefel genedlaethol sylfaenol, nod yr her dinasyddiaeth fyd-eang yw rhoi'r cyfle i ddysgwyr feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o fater byd-eang a ddewiswyd o un o'r pynciau canlynol: amrywiaeth ddiwylliannol, masnach deg, ynni'r dyfodol, anghydraddoldeb, byw'n gynaliadwy, trychinebau naturiol a dynol, maeth, tlodi. Ar lefel uwch, nod yr her dinasyddiaeth fyd-eang yw rhoi'r cyfle i ddysgwyr feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion byd-eang cymhleth ac amlochrog o fewn chwe thema: iechyd, bwyd a lloches, poblogaeth, trafnidiaeth, yr economi, a'r amgylchedd naturiol. Felly, er bod yn rhaid i bob dysgwr sy'n astudio bagloriaeth Cymru wneud yr her dinasyddiaeth fyd-eang, ni fydd hyn o reidrwydd yn cynnwys unrhyw beth am wleidyddiaeth Cymru nac addysg am systemau etholiadol neu lywodraethiant Cymru. A dyw bagloriaeth Cymru ddim yn orfodol chwaith, er bod Llywodraeth Cymru yn annog ysgolion a cholegau i'w chynnig i bob dysgwr.

Yng nghenhedloedd eraill y Deyrnas Gyfunol, mae dinasyddiaeth yn brif elfen o'r cwricwlwm ôl-gynradd statudol, a'r Alban wedi cyflwyno hynny ymhell cyn rhoi'r bleidlais i bobl 16 oed. Ni allwn felly ddibynnu ar yr hyn sydd mewn lle ar hyn o bryd. Mae prosiectau codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu gwych iawn ar waith mewn nifer o'n lleoliadau addysg. Fe fues i'n cymryd rhan mewn sesiwn yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn ddiweddar gyda'r Politics Project, ond mae prosiectau fel hyn, er yn effeithiol wrth ymgrymuso rhai grwpiau o bobl ifanc, yn dipyn o loteri cod post yn ôl y Gymdeithas Diwygio Etholiadol. Nododd adroddiad 'Making Votes-at-16 Work in Wales' gan Brifysgol Nottingham Trent na gyflwynwyd cynllun gan Lywodraeth Cymru i gryfhau addysg wleidyddol pan gyflwynwyd y ddeddfwriaeth i ostwng yr oed pleidleisio.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 6:47, 13 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Ail fater a oedd yn ymwneud yn benodol â gweithredu pleidleisiau yn 16 oed yng Nghymru oedd nad oedd y ddeddfwriaeth yn cynnwys mesurau statudol pendant o addysg wleidyddol, rhywbeth a drafodwyd yn y broses ddiwygio yng Nghymru ac a nodwyd fel rhywbeth hanfodol mewn profiadau blaenorol o ddiwygio oedran pleidleisio mewn mannau eraill. Roedd hyn yn golygu, er gwaethaf ymrwymiadau ar lefel ysgol i addysg dinasyddiaeth, pan ddaeth y ddeddfwriaeth i rym, nad oedd unrhyw gynlluniau penodol ar gyfer ymdrech gydgysylltiedig i wella addysg wleidyddol mewn ysgolion a cholegau. Roedd darparwyr ymyrraeth addysgol i'w darparu drwy ysgolion, gan gynnwys y Senedd, y Comisiwn Etholiadol, gweithwyr ymgysylltu â phleidleiswyr a sefydliadau ieuenctid, yn ei chael yn anodd cyflwyno mesurau o addysg wleidyddol mewn modd systematig drwy gydol y cyfnod cyn yr etholiad. 

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 6:48, 13 Gorffennaf 2022

Yn ôl adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar etholiadau'r Senedd y llynedd, er roedd prosiect partneriaeth Democracy Box, a gefnogwyd gan y Senedd a'r Llywodraeth, yn gam gadarnhaol, mae angen ymestyn cyrhaeddiad ac effaith rhaglenni. Maent yn cydnabod bod angen nid yn unig gwella adnoddau presennol ond hefyd datblygu rhaglenni cymorth ar gyfer y rheini sy'n gweithio gyda'r grwpiau hyn. Rhaglen wybodaeth niwtral oedd hyn. Fel dwi wedi sôn, mae yna angen hefyd am ddealltwriaeth gyffredinol o'r syniadaeth a'r ideoleg sy'n gyd-destun hanfodol i etholiadau a llywodraeth. Does dim byd i atal hyn rhag cael ei gyflwyno o safbwynt niwtral yn yr un modd â'r dadleuon ar bynciau moesol cynhennus.

Rhaid cofio hefyd am y miloedd o bobl ifanc sydd bellach wedi gadael lleoliadau addysg ers iddynt dderbyn yr hawl i bleidleisio ac heb eu harfogi a'u hysbrydoli gan addysg wleidyddol. Mae gwendid hanesyddol a pharhaol ein tirlun darlledu a gwasg genedlaethol yn cyfrannu at y diffyg gwybodaeth ac ymwybyddiaeth gwbl allweddol sydd eu hangen arnynt. A oes felly modd i'r Llywodraeth ystyried cynnig cyfleon i fynd i'r afael â hynny mewn lleoliadau addysg gymunedol ac addysg bellach, neu drwy ddysgu anffurfiol mewn gweithleoedd, i sicrhau bod ein holl ddinasyddion ifanc yn cael chwarae eu rhan wrth greu y Gymru decach, wyrddach, fwy llewyrchus yr ydym oll am ei gweld?

Felly, wrth groesawu y cynnydd a'r cyfleon a ddaw yn y dyfodol, rwy'n gwneud yr achos dros sicrhau nad ydym yn amddifadu y bobl ifanc hynny sydd wedi'u rhyddfreinio gennym ond sydd heb eu hymgrymuso'n ddigonol i ddefnyddio'u pleidlais na deall eu grym. Mae'n amlwg bod gan bob un ohonom mewn bywyd cyhoeddus rôl i'w chwarae yn hyn o beth, ond dyletswydd Llywodraeth yw creu dinasyddion sy'n medru cyfrannu i'r genedl.

Mae pobl ifanc yn llai tebygol o bleidleisio na phobl hŷn, ac os nac ydych chi'n pleidleisio'n ifanc, byddwch chi'n llai tebygol o bleidleisio yn y dyfodol. Mae perygl gwirioneddol y bydd pobl ifanc heddiw nad ydynt yn mynd i elwa o'r cwricwlwm newydd yn tyfu'n oedolion nad ydynt yn pleidleisio yn y dyfodol. Mae angen inni dorri'r cylch hwn nawr er lles ein democratiaeth, ein Senedd a'n cenedl.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 6:50, 13 Gorffennaf 2022

Diolch yn fawr i Sioned Williams am gyflwyno'r drafodaeth bwysig hon, oherwydd, heb os, er bod yna ddatblygiadau o ran y cwricwlwm newydd, mi ydyn ni angen gwneud cymaint mwy. Dwi'n meddwl bod beth gwnaeth hi bwysleisio o ran y loteri cod post yma'n eithriadol o bwysig. Dydyn ni ddim jest ishio grymuso pobl ifanc i fod yn pleidleisio ond hefyd i ystyried y gallen nhw fod yma, dim ots beth ydy eu cefndir nhw. Dwi'n meddwl drwy eu grymuso nhw a sicrhau bod eu llais nhw—. Oherwydd weithiau mae yna ganolbwyntio rŵan ar bobl 16 a 17 oed gan ein bod ni'n gallu cael eu pleidleisiau nhw. Ond mi ydyn ni hefyd yn cynrychioli plant a phobl ifanc. Mi oeddwn i'n falch iawn o weld disgyblion Ysgol Treganna tu allan i'r Senedd heddiw, tair ohonyn nhw'n ddisgyblion blwyddyn 6 yn ymgyrchu, ishio'n gweld ni'n gweithredu o ran yr argyfwng hinsawdd gymaint cynt, ac yn colli diwrnod o'r ysgol. Dydyn ni byth yn rhy ifanc i fod yn rhan o'n democratiaeth.

Y peth dwi'n meddwl sy'n ofnadwy o bwysig fan hyn ydy'r grymuso yna, bod gan bawb lais a'i fod o'n cyfrif, bod yr un pleidlais yn ddiwerth. Mi hoffwn bwysleisio hefyd un o'r pethau ddywedwyd wrthyf fi gan berson ifanc yn dilyn Brexit, sef y dylai fod yna uchafswm oed pleidleisio os nad ydy pethau'n effeithio arnoch chi. Rydyn ni'n sôn weithiau am bobl ifanc yn cael yr hawl, ond mae'n rhaid inni gofio pa mor bwysig ydy hyn, pa mor bwysig ydy datblygiadau fel Senedd Ieuenctid Cymru o ran sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc Cymru yn cael eu clywed gennym ni yma ac yn dylanwadu ar y polisïau fydd yn eu heffeithio nhw am ddegawdau i ddod.

Photo of David Rees David Rees Labour 6:52, 13 Gorffennaf 2022

Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelod am amserlenni'r ddadl fer heddiw ar bleidleisiau yn 16 oed.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

Mae darparu'r arfau i'n pobl ifanc sylweddoli beth y mae'n ei olygu i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a'r byd yn rhan sylfaenol o addysg ddinesig. Mae'n cynnwys addysgu am ddemocratiaeth, ein cymdeithas a sut y gall pawb ohonom gymryd rhan, ac mae hefyd yn ymwneud â grymuso a rhyddfreinio.

Rwy'n gadarn fy nghefnogaeth i alluogi ein pobl ifanc i ddod yn gyfranogwyr gweithredol o fewn y broses ddemocrataidd, o gofrestru i bleidleisio i gymryd rhan mewn etholiadau a thu hwnt. Rwy'n falch ein bod wedi ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 i 17 oed ar gyfer etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol. Mae hyn yn rhoi llais i bobl iau yng Nghymru ynglŷn â'r ffordd y caiff Cymru ei rhedeg, ac mae'n sylfaen gadarn ar gyfer adeiladu democratiaeth gyfranogol. Mae fy mhlaid fy hun wedi ymrwymo i bleidleisiau yn 16 oed ar gyfer etholiadau Senedd y DU a phob etholiad arall a gadwyd yn ôl hefyd, a gobeithiwn weld hynny yn y dyfodol agos.

Rydym am helpu ein pobl ifanc i deimlo'n hyderus pan fyddant yn ymweld â gorsaf bleidleisio i fwrw eu pleidlais. Cyn etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol, buom yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i gefnogi ein pobl ifanc 16 i 17 oed i gofrestru i bleidleisio. Drwy ymgysylltu drwy ddigwyddiadau cymunedol, cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol ac ymweliadau ag ysgolion, llwyddodd awdurdodau lleol i gynyddu canran y bobl ifanc 16 i 17 oed a gofrestrodd i bleidleisio yn yr etholiadau llywodraeth leol diweddar.

Gwnaethom hefyd ariannu nifer o sefydliadau trydydd sector i estyn allan ac ymgysylltu â phobl ifanc ynghylch pwysigrwydd cofrestru i bleidleisio drwy eu rhwydweithiau presennol. Mae'r sefydliadau hyn wedi datblygu a chyflwyno prosiectau eang, gan ddefnyddio cynnwys creadigol ar gyfryngau cymdeithasol, gweminarau ar-lein a sgyrsiau uniongyrchol gyda phobl ifanc, ac mae'r gweithgareddau cymdeithasol hyn wedi creu amgylchedd lle gallai trafodaethau ynghylch gwleidyddiaeth a democratiaeth ffynnu. Roedd y dull hwn yn ein galluogi i gyrraedd pobl ifanc yn uniongyrchol y tu hwnt i leoliadau addysg ffurfiol, gan ddarparu man croesawgar iddynt allu trafod y rhwystrau sy'n atal cyfranogiad llawnach.

Roedd hyn yn fwy heriol yn y cyfnod cyn etholiadau'r Senedd y llynedd oherwydd y mesurau diogelwch iechyd y cyhoedd a oedd ar waith o ganlyniad i'r pandemig. Ond rydym eisiau i'n holl bobl ifanc ddatblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth am bwysigrwydd cofrestru i bleidleisio a'u llais yn ein democratiaeth. Mae dysgu am y broses ddeddfwriaethol a strwythurau llywodraethol, deddfu, datganoli, pleidleisio ac etholiadau i gyd yn allweddol i gefnogi dealltwriaeth ein pobl ifanc o wleidyddiaeth, ond hefyd i gyfranogi ynddi. Rydym yn cydnabod bod addysg yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatgloi eu hawydd i gymryd rhan yn ein democratiaeth ac arfer eu hawliau.

Pan ymgynghorwyd ar ymestyn y bleidlais yn 2018, dywedodd pobl wrthym fod angen mwy o ymwybyddiaeth ac addysg i gynyddu cyfranogiad a gwyddom fod angen addysg briodol arnom fel y gall ein pobl ifanc wneud dewis gwybodus yn y blwch pleidleisio. Rwy'n cytuno â llawer o'r sylwadau a wnaed ynglŷn â phwysigrwydd yr addysg ddinesig honno. Bydd ein Cwricwlwm newydd i Gymru, sy'n cael ei gyflwyno o fis Medi ymlaen, yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gynnwys dysgu am hawliau yn eu cwricwlwm, gan gynnwys cefnogi ein dysgwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'u hawliau democrataidd a sut i'w harfer. Ac rwyf am ychwanegu pwysigrwydd hanes lleol hefyd yn rhan o'r prosesau addysg hynny. Rydym wedi buddsoddi mewn adnoddau addysgol i'n hysgolion a'n colegau i ddarparu'r cymorth y mae pobl ifanc yn dweud wrthym y maent eu hangen, ac rydym wedi cynhyrchu adnoddau dysgu proffesiynol i gefnogi ein hathrawon i addysgu'r maes hwn yn ddiduedd ac yn hyderus. Mae mwy o adnoddau'n cael eu datblygu i gefnogi dinasyddiaeth fyd-eang a dysgu am ein hawliau fel dinasyddion.

Rydym wedi ariannu rhaglen Deialog Ddigidol Cymru gan Politics Project, lle mae Aelodau o bob rhan o'r Senedd a llywodraeth leol yn mynychu sesiynau ar-lein gyda'n plant a'n pobl ifanc i ymgysylltu â hwy a rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau'n uniongyrchol i wleidyddion. Mae'r sesiynau hyn wedi bod yn hynod lwyddiannus, fel y gŵyr yr Aelod dros Orllewin De Cymru, ar ôl rhoi ei hamser i fynychu un gyda disgyblion o Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Diolch i'r holl Aelodau yn y Senedd a gymerodd ran hyd yma a'r rhai a fydd yn cymryd rhan yn ystod yr wythnosau nesaf.

Wrth i'r Cwricwlwm i Gymru gael ei gyflwyno, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid addysg i gefnogi ein hysgolion yn y maes dysgu hwn. Wrth wneud hynny, rydym eisiau i'n plant a'n pobl ifanc gael y cyfleoedd a'r profiadau i gynyddu eu dealltwriaeth o ddemocratiaeth a'r rôl y mae'n rhaid iddynt ei chwarae fel dinasyddion mewn ffordd ddiddorol sy'n hybu arfer gydol oes o gyfranogi. Mae'n debyg y byddwn hefyd yn dweud wrth yr Aelod y bydd yn ymwybodol ein bod yn edrych ar gyflwyno Bil diwygio etholiadol, a fydd, gobeithio, yn agor y ffordd y mae ein system etholiadol yn gweithredu, yn cynyddu hygyrchedd, gan greu system etholiadol fodern ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, un a allai fod yn eithaf gwahanol i etholiadau Llywodraeth y DU, ond un lle credaf y bydd llawer o gyfleoedd i edrych ar ffyrdd arloesol, modern a newydd o fynd ati i annog a sbarduno cyfranogiad yn ein system etholiadol. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 6:57, 13 Gorffennaf 2022

Diolch, bawb. Mae hynny'n dod â thrafodion heddiw i ben. Rwy'n gobeithio y caiff pawb egwyl bleserus. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:57.