– Senedd Cymru am 3:36 pm ar 20 Medi 2022.
Eitem 4, datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, gosododd y Gweinidog Newid Hinsawdd Fil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) gerbron y Senedd, ynghyd â'r memorandwm esboniadol. Rwy'n gwneud yr anerchiad hwn oherwydd nad yw'n gallu bod yma i wneud hynny ei hun.
Mae gwastraff plastig yn hollbresennol, yn barhaus ac yn llygru, ac mae'n hanfodol cymryd camau ar fyrder i'w atal rhag llifo i mewn i'n hamgylchedd. Mae'n gallu bod yn anodd ailgylchu nwyddau plastig ac yn aml, maen nhw'n cael eu gollwng fel sbwriel neu eu tipio yn anghyfreithlon. Mae gweddillion microblastigion wedi cael eu canfod ar ein mynyddoedd uchaf, yn ein bwyd, y cyflenwadau dŵr, yn yr aer rydym ni'n ei anadlu ac yn ein cyrff. Yng Nghylch yr Arctig gellid dod o hyd i wastraff plastig o'r Deyrnas Unedig sy'n mynd i mewn i'r môr. Ar ôl iddo fynd i'r amgylchedd, mae plastig yn atynnu llygryddion eraill, gan eu gwneud yn fwy peryglus i anifeiliaid, planhigion a phobl sy'n dod ar eu traws.
Mae cynhyrchion plastig wedi cefnogi datblygiad technolegol mewn meysydd fel gofal iechyd, diogelwch yn y gweithle ac effeithlonrwydd ynni. Eto i gyd, mae'r manteision hyn wedi dod gyda chost amgylcheddol gynyddol nad yw'n gynaliadwy. Fel rhan o ddatblygu dull mwy cyfrifol o ddefnyddio plastigion, y cam cyntaf gofynnol yw dileu ei ddefnydd diangen, yn enwedig ar gyfer eitemau sydd wedi'u cynllunio at ddefnydd untro.
Mae'r rhan fwyaf o blastig wedi'i wneud o danwydd ffosil. Gall ei leihau helpu ein hymdrechion tuag at sero net, gan helpu i leihau ein hôl-troed carbon i leihau effeithiau gwaethaf yr argyfwng hinsawdd. Yn ôl astudiaeth yn 2015, mae dwywaith gymaint o ynni ffosil yn cael ei losgi ar gyfer cynhyrchu plastig nag sydd yn y plastig ei hun. Felly, bydd newid ein harferion i leihau'r galw am blastigion ac annog ailddefnyddio yn helpu i arbed y gwastraff aruthrol hwn. Nid newid cyfan gwbl i blastigau o blanhigion yw'r ateb. Er y gall y cynhyrchion hyn helpu i leihau carbon, gall y broses o'u cynhyrchu gystadlu â chnydau bwyd ar dir amaethyddol a dŵr cynyddol werthfawr. Pryd bynnag y bo modd, rhaid i ni leihau'r angen am gynhyrchion plastig yn gyntaf, gan gynnwys, pan fo'n berthnasol, drwy newid i bethau y gellir eu hailddefnyddio.
Mae pobl a busnesau yng Nghymru eisoes yn gwneud newidiadau. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i'w cefnogi nhw, gan adeiladu ar eu brwdfrydedd dros newid. Mae pobl yn mynnu bod y Llywodraeth hon a'u Senedd yn adeiladu ar eu hymdrechion, a dyna mae'r Bil hwn yn ei wneud heddiw. Mae'n anfon neges glir at bawb sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Bydd yn annog mwy ohonon ni i newid ein harferion a lleihau gwastraff plastig. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i ni gyd ddod i arfer â gwneud pethau'n wahanol. Rydyn ni'n ymwybodol o'r ffaith y bydd rhai pobl a busnesau yn gweld newidiadau anos nag eraill, a bydd angen amser ac arweiniad arnyn nhw i wneud hynny. Serch hynny, mae newid o'r fath yn gwbl bosibl. Fel Llywodraeth, rhaid i ni beidio ag osgoi yr angen brys i gyflymu cyfradd y newid sydd eisoes ar waith.
Pwrpas y Bil yw lleihau llif llygredd plastig i'n hamgylchedd. Mae'r Bil hwn yn rhan o'n hymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Bydd y Bil yn adeiladu ar y momentwm a grëwyd gan gymunedau ledled Cymru sydd eisoes wedi dewis mynd yn ddi-blastig, diwylliant taflu i ffwrdd, a helpu i fynd i'r afael â sbwriel.
Dirprwy Lywydd, ar 15 Awst, cyhoeddwyd drafft o'r Bil er mwyn rhoi cyfle i Aelodau'r Senedd a rhanddeiliaid sydd â buddiant weld cwmpas a chyfeiriad arfaethedig y Bil, a chyfle i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i ymgynghori ar y cynnig. Yn yr un ysbryd o fod yn agored, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith heddiw i nodi rhai newidiadau yr ydym yn bwriadu eu cynnig i'r Bil yng Nghyfnod 2. Mae'r newidiadau yn esboniadau technegol a chyfreithiol nad ydynt yn newid pwrpas na bwriad y Bil. Wrth i ni weithio gyda'n gilydd dros y misoedd nesaf, gobeithio y byddwch yn cefnogi'r gwelliannau hyn a fydd yn rhoi'r eglurder angenrheidiol i'r Bil.
Bydd y Bil yn ei gwneud yn drosedd i gyflenwi neu gynnig cyflenwi i ddefnyddiwr yng Nghymru yr eitemau plastig untro yn yr Atodlen. Bydd hefyd yn gwneud darpariaeth i Weinidogion gyflwyno cosbau sifil fel ffordd amgen o orfodi'r gwaharddiad ar gynhyrchion plastig untro sydd wedi'u gwahardd, sy'n debyg i'r trefniadau ar gyfer y gwaharddiad presennol ar ficrobelenni plastig sydd ar waith ers 2018. Bydd y Bil hefyd yn caniatáu inni gyflwyno rheoliadau i wahardd neu gyfyngu mwy o gynhyrchion wrth i dystiolaeth o niwed ac effaith y camau hyn ddod ar gael. Bydd yn ofynnol i Weinidogion adrodd ar yr eitemau y maen nhw'n ystyried eu gwahardd o dan y ddarpariaeth hon. Bydd rheoliadau o'r fath yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd drwy weithdrefnau cadarnhaol.
Mae llawer o'r eitemau yn yr Atodlen o eitemau i'w gwahardd yn cynnwys cynhyrchion bob dydd sy'n gysylltiedig â bwyd a diod pan fyddwch allan. Mae hyn yn cynnwys eitemau plastig untro fel cyllyll a ffyrc, platiau, troyddion diod, cynwysyddion bwyd a chwpanau wedi'u gwneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog, yn ogystal â chaeadau polystyren ar gyfer cynwysyddion bwyd a chwpanau. Rydym hefyd yn gwahardd gwellt yfed, sydd ag eithriad i sicrhau eu bod yn dal i allu cael eu darparu i'r bobl hynny sydd, am resymau meddygol, eu hangen i fwyta neu yfed. Rydym hefyd wedi cynnwys ffyn cotwm sydd â choesau plastic a ffyn balwnau plastig. Ac rydym hefyd yn bwriadu gwahardd yr holl gynhyrchion sydd wedi'u gwneud o blastig ocso-diraddadwy, sy'n fath o blastig y mae ychwanegion wedi'u hychwanegu ato sydd wedi'i ddangos i newid y ffordd y mae'n torri i lawr.
Dirprwy Lywydd, i ategu llwyddiant y tâl 5c am fagiau siopa untro, bydd y Bil yn mynd â'n huchelgais i atal gwastraff o'r cynhyrchion hyn i'r lefel nesaf. Mae ymchwil yn dangos bod y rhan fwyaf o aelwydydd wedi newid eu harferion fel nad oes angen y cynhyrchion hyn arnyn nhw mwyach. Felly, bydd bagiau tenau, untro hefyd bellach yn cael eu gwahardd.
Bydd y Bil hwn yn galluogi Cymru i fod ar flaen y gad o ran gweithredu ar blastigau drwy dynnu eitemau untro o'r gadwyn gyflenwi. Bydd yn helpu i gyflawni ein huchelgais i ddatblygu'r economi gylchol drwy ganolbwyntio ar ailddefnyddio, cynhyrchu gwerth gan leihau'r galw cyffredinol. Bydd yn helpu i fynd i'r afael ag effaith weledol ac ecolegol sbwriel plastig ac yn mynd â ni gam yn nes at fod yn genedl sy'n cymryd cyfrifoldeb am yr hyn yr ydym ni'n ei ddefnyddio, gan ddefnyddio dim mwy na'n cyfran deg o adnoddau'r byd. Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth a gallwn greu amgylchedd gwell ar gyfer cenedlaethau'r presennol a chenedlaethau'r dyfodol.
Felly, Dirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd holl Aelodau'r Senedd yn cytuno mai nawr yw'r amser i weithredu. Bydd holl Aelodau'r Senedd wedi cael cais yn eu hetholaethau i weithredu ar y mater pwysig hwn. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn gefnogol i'n cynigion drwy gydol y broses graffu a fydd yn awr yn dilyn, gan fy mod yn awyddus i weld bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei phasio i sicrhau Cymru werddach a mwy ffyniannus ac i helpu i sicrhau bod y Bil hwn yn llwyddiant. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Rwy'n sylweddoli, wrth gwrs, nad yw'r Gweinidog yma i gyflwyno hyn heddiw, ond mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi tynnu sylw yn fedrus iawn at y problemau sydd gennym gyda chymaint o blastig. Erbyn i mi roi fy nghyfraniad i, bydd tua 5 miliwn o boteli plastig wedi'u prynu mewn gwirionedd, oherwydd bod 1 miliwn yn cael eu prynu bob munud ar ein planed.
Mae'r pla plastig, wrth gwrs, yma yng Nghymru. Cafwyd hyd i blastig untro ar 64.2 y cant o'n strydoedd yn 2021. Mae tri sesiwn glanhau traeth yr wyf i wedi bod yn gysylltiedig â nhw, sy'n cael eu gynnal gan y Marine Conservation Society ac One Global Ocean yn Llandudno, Bae Colwyn a'r Rhyl wedi gweld bron i 100 o wirfoddolwyr yn glanhau ac yn cofnodi dros 70 kg o sbwriel. Ac os ydych chi erioed wedi gwneud sesiwn glanhau traeth, dyna un o'n problemau mwyaf.
Yn sicr, wrth i'r ddeddfwriaeth hon gael ei chyflwyno, a'r Bil, yr ydym yn ei groesawu, yn ogystal â'r datganiad hwn, byddwn i'n gobeithio y gallwn ni fel Ceidwadwyr Cymreig gael rhywfaint o lais a rhywfaint o ddylanwad i sicrhau ein bod mewn gwirionedd yn edrych ar fynd i'r afael â phob math o fathau eraill o blastig, er enghraifft, y miloedd o sigaréts â phen plastig yr ydych yn dod o hyd iddynt ar draethau, sy'n niweidiol iawn i'n hamgylchedd morol. Os ydym ni'n dilyn model busnes-fel-arfer, lle nad yw gwledydd yn lleihau faint o blastig sy'n cael ei gynhyrchu neu ei ailgylchu, mae Fforwm Economaidd y Byd wedi amcangyfrif y bydd mwy o blastig na physgod yn y cefnforoedd erbyn 2050.
Eisoes, mae'r Alban wedi cyflwyno gwaharddiadau ar droyddion diod plastig, ffyn cotwm sydd â choesau plastig, gwellt yfed plastig, platiau plastig tafladwy, cyllyll a ffyrc plastig untro, ffyn balwnau a chynhwysyddion polystyren ehanedig, sy'n bethau hollol ofnadwy, yn fy marn i, pan fyddwch chi'n prynu bwyd. Ers mis Hydref 2020, mae Llywodraeth y DU eu hunain wedi gwahardd cyflenwi troyddion diod plastig, ffyn cotwm sydd â choesau plastig a gwellt yfed plastig.
Felly, er mai'r Cwnsler Cyffredinol sy'n cyflwyno hyn heddiw, hoffwn ofyn rhai cwestiynau. Cwnsler Cyffredinol, ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n anffodus ein bod wedi gorfod aros cyhyd am y ddeddfwriaeth hon pan ydym ni mor bell y tu ôl i Loegr a'r Alban ac mae wir yn cyfrannu at ein hargyfwng hinsawdd? Hyd yn oed wrth ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar leihau plastig untro yng Nghymru, roedd hi'n amlwg bod yna siom nad yw'r gwaharddiadau eisoes mewn grym. Rydym ni wedi galw am hyn ers blynyddoedd.
Felly, ar ôl darllen y Bil drafft, mae gen i bryderon difrifol am orfodaeth. Rydych chi'n dibynnu llawer iawn, unwaith eto, fel rydych chi'n aml yn ei wneud gyda'r ddeddfwriaeth yr ydych yn ei chynnig, ar ein hawdurdodau lleol, ac yn arbennig ein hadrannau rheoleiddio gorfodi. Nodir droeon yn ein Senedd nad oes digon o adnoddau gan yr adrannau hyn. Yn fy awdurdod fy hun, does dim digon o adnoddau o gwbl oherwydd setliad gwael iawn gan Lywodraeth Lafur Cymru. Felly, sut ar wyneb y ddaear yr ydych chi'n disgwyl i awdurdodau lleol gymryd y cyfrifoldeb am hyn? Pa adnoddau ychwanegol y byddwch chi'n eu rhoi yn y ddeddfwriaeth hon mewn gwirionedd? Rwy'n poeni bod adran 7 yn rhoi hawl gyfreithiol i awdurdodau lleol ymchwilio i gwynion o ran troseddau o dan adran 5. Pa gamau eraill ydych chi'n eu cymryd gyda'r bwriad o leihau nifer yr achosion o droseddau o dan adran 5?
Cwnsler Cyffredinol, a wnewch chi egluro a ymgynghorwyd â phob awdurdod lleol yng Nghymru ar eu gallu i ysgwyddo cyfrifoldeb rhagor o orfodaeth, ac a allwn ni gael rhywfaint o'r adborth hwnnw yma heddiw? Rydw i wir, ac mae fy nghydweithwyr yng ngrŵp y Ceidwadwyr Cymreig wir eisiau i'r ddeddfwriaeth yma weithio. A wnewch chi weithio gyda ni i ystyried gwelliannau posibl i'r Bil drafft fel bod y cyfrifoldeb am orfodi yn cael ei roi i gorff arall, efallai, nad yw'n awdurdod lleol? Fel mae'n sefyll, mae'r Bil hwn a wnaed yng Nghymru, fel y'i gelwir, sydd i fod i alluogi Llywodraeth Cymru i fod ar flaen y gad o ran gweithredu ar blastig a rhoi Gweinidogion Cymru wrth y llyw ar gyfer gweithredu yn y maes hwn yn y dyfodol, yn pasio'r cyfrifoldeb i awdurdodau lleol. Mae cymaint o'r Bil hwn—. Mae'r Bil sy'n cael ei gyflwyno yn un da, ond mae'n rhaid i chi fod yn agored—dim o'r dogma gwleidyddol yr ydym wedi'i weld mewn deddfwriaeth yn y gorffennol sy'n cael ei chyflwyno, lle mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cynnig awgrymiadau gwirioneddol dda ac adeiladol dim ond iddyn nhw gael eu diystyru a'u gwrthod dim ond oherwydd eu bod wedi dod gan Aelodau Ceidwadol yn y Senedd. Os byddwn ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd—
Janet, wnewch chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda?
Gwnaf wrth gwrs. Os gwnawn ni i gyd gydweithio ar hyn, yna gallem fod â Bil i ymfalchïo ynddo yma yng Nghymru. Diolch.
Gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Aelod am y sylwadau cynharach? Y pwynt yr wyf, rwy'n credu, yn cytuno â hi yw bod mater plastig untro, halogi ein hamgylchedd, yr angen i fynd i'r afael â'r her honno, yn un byd-eang, ond mae'n un lle mae'n rhaid i ni wneud yr hyn a allwn o fewn Cymru o ran ein cyfrifoldebau ein hunain, a bod hynny, yn gyffredinol, yn fater trawsbleidiol; dydy e ddim yn fater sy'n creu rhaniadau gwleidyddol rhyngom ni. Gallwn ni i gyd weld beth sy'n digwydd. Rwyf wedi bod allan gyda gwirfoddolwyr fy hun yng nghoedwig Beddau yn fy etholaeth i; rydych chi'n gweld faint o blastigion a'r gwaith ffantastig mae'r gwirfoddolwyr yn ei wneud yn eu casglu. Rwy'n croesawu'r ysbryd hwnnw o gefnogaeth i amddiffyn ein hamgylchedd yn fawr.
Rydych chi'n gofyn pam mae'n cymryd cyhyd a pham ein bod mor bell ar ei hôl hi. Rwyf i wastad yn anobeithio ryw ychydig pan fo deddfwriaeth yn cael ei thrin fel petai yn rhyw fath o ras Olympaidd o ran cyntaf, ail a thrydydd. Mae amryw o bethau gwahanol yn digwydd yn yr Alban ac yn Lloegr. Mae Lloegr wedi cyflwyno deddfwriaeth eilaidd, yn ôl ym mis Ebrill 2020, yn ymwneud â gwellt, ffyn cotwm a throellwyr. Mae'n ystyried ehangu ei rhestr i gynnwys rhai o'r pethau yr ydym ni mewn gwirionedd yn dechrau deddfu arnon nhw ein hunain, ac, wrth gwrs, rwy'n credu y byddech chi'n gefnogol i'r ffaith ein bod ni, o ran ein cyfrifoldebau datganoledig, yn deddfu o fewn Cymru ei hun ac y dylen ni fod yn gwneud hynny. Gwaharddodd yr Alban ffyn cotwm yn 2019; ym mis Mehefin 2022, fe wnaethon nhw ychwanegu rhai eitemau eraill. Maen nhw'n edrych ar fater plastig ocso-diraddadwy, yr ydym ni'n deddfu arno. Yr hyn y dywedaf i yw, wrth ddeddfu yn y meysydd hyn, nad mater o geisio edrych ar restr yn unig ydyw mewn gwirionedd; mae'r mater o ddiffiniadau ac effaith yn gymhleth iawn. Rwy'n credu bod ein Bil ni yn mynd ymhellach, a Bil Cymru fydd y darn mwyaf helaeth o ddeddfwriaeth. Ond, yn bwysig, yr hyn y mae hefyd yn ei wneud yw y bydd yn creu pwerau—ac, unwaith eto, yn amodol ar benderfyniad cadarnhaol yn y Senedd—i'n galluogi ni i barhau i weithio ar y rhestr, oherwydd mae hyn yn amgylchedd sy'n newid. Rydym ni'n gwybod bod eitemau eraill yr hoffem ni eu gweld yn cael eu hychwanegu ond pan fo gwaith tystiolaeth pellach o hyd sydd ei angen. Ond mae angen fframwaith arnom, sef yr hyn y mae'r Bil yn ei greu, i ychwanegu ati mewn gwirionedd, neu, yn wir, i ddileu ohoni.
O ran gorfodaeth, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw mai awdurdodau lleol, rwy'n credu, gyda'u cyfrifoldebau amgylcheddol ac, mewn gwirionedd, cyfrifoldebau sy'n ymestyn ymhell i feysydd iechyd a diogelwch hefyd, yw'r corff naturiol i gymryd camau gorfodi mewn gwirionedd. Wrth gwrs, bydd unrhyw gynnig rhesymol sy'n cael ei gyflwyno yn cael ei ystyried yn iawn. Rwy'n gwrthod y ffaith—. Dydw i ddim yn credu bod unrhyw benderfyniad yn cael ei wrthod, unrhyw gynnig yn cael ei wrthod, ar y sail ei fod yn dod gan y Ceidwadwyr. Rwy'n credu bod yna resymau ideolegol clir iawn, yn amlwg, pam mae cynigion sy'n dod gan y Ceidwadwyr yn cael eu gwrthod, ond rwy'n credu bod hynny'n fater gwahanol.
Ac yna efallai dim ond un pwynt olaf. Yn amlwg, mae unrhyw welliannau technegol ac ati a fyddai'n gwella'r ddeddfwriaeth yn amlwg yn bethau y byddem eisiau eu hystyried. Ac eto, fel y dywedais, bydd y Llywodraeth yn cyflwyno ei gwelliannau ei hun, sydd o natur dechnegol gan fwyaf. Ac eto, cafodd y Bil ei gyflwyno'n gynnar ar ffurf ddrafft i alluogi'r pwyllgor i ddechrau proses ymgynghori. Mae'r broses honno, rwy'n deall, wedi bod ar y gweill ac—os ydw i'n iawn—wedi ei chwblhau, ac mae'r Llywodraeth ar hyn o bryd yn ystyried ei hymateb i'r ymgynghoriad hwnnw ar hyn o bryd.
Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. Rŷm ni fel plaid yn croesawu'r datganiad yma. Rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu i wahardd plastig untro am flynyddoedd. Ond, ers y cynnydd ym mhoblogrwydd plastig yn y 1960au, mae wedi dod yn rhan amlwg iawn o'n bywydau ni, o becynnu bwyd i gael ei blethu i mewn i'n dillad ni—y plastig gweladwy, ond hefyd y plastig anweladwy sydd o'n cwmpas ni yn llwyr.
Er bod llygredd plastig yn wybodus i ni—llawer o waith da gan rywun fel Syr David Attenborough, gyda rhaglen The Blue Planet wedi gwneud hynny yn amlwg iawn inni—mae enghreifftiau fel COVID-19 wedi cyflymu effaith niweidiol plastig ar ein hamgylchedd a bioamrywiaeth. Byddwn i gyd, siŵr o fod, yn cofio'r ddelwedd drist yna o aderyn yn methu â symud oherwydd bod mwgwd o amgylch ei goesau, ac yna y pysgodyn â'i fol yn llawn o blastigau. Fel y dywedasoch chi yn y datganiad, o'r uchelderau i ddyfnderau y ddaear hon, mae plastig ym mhob man.
Gallwn ni i gyd gytuno ein bod ni eisiau cael gwared ar wastraff plastig o'r fath, ond mae gen i ofn bod y llwybr sydd o'n blaenau yn llawn rhwystrau—yn llawn rhwystrau a grëwyd gan ddyn, rhwystrau a grëwyd gan San Steffan. Mae'r Ddeddf marchnad fewnol ddrwgenwog—nid yn unig y mae'r Ddeddf honno'n galluogi Llywodraeth y DU i wario o fewn meysydd datganoledig ac anwybyddu'r setliad datganoledig, mae hefyd yn galluogi Llywodraeth y DU i anwybyddu safonau bwyd ac amgylcheddol a bennwyd yma yng Nghymru.
Pam mae hynny'n bwysig? Rwy'n clywed rhai yn cwyno o'r meinciau gyferbyn. Pam mae hynny'n bwysig? Mae'n bwysig oherwydd ei fod yn golygu, os yw'r Senedd hon yn deddfu—llais democrataidd pobl Cymru yn deddfu—i wahardd plastig untro, byddai cynhyrchion a wneir mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn gallu cael eu gwerthu'n gyfreithiol yma.
Yn ôl y Sefydliad Materion Cymreig, mae'r Ddeddf Marchnad Fewnol a'i hegwyddorion, a elwir yn gwbl amhriodol yn 'gydnabyddiaeth gilyddol'—dim ond cydnabyddiaeth unffordd sydd yna—yn debygol o leihau gallu Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon yn sylweddol i basio deddfwriaeth effeithiol o ran rheoleiddio nwyddau a gwasanaethau. Bydd y safon reoleiddiol ofynnol yn unrhyw un o bedair rhan cyfansoddol y DU yn berthnasol ledled y Deyrnas Unedig. Ac mewn gwirionedd, beth fydd hynny'n ei olygu yw y bydd rheolau marchnad Lloegr, sef blaenoriaethu unrhyw beth wrth fynd ar drywydd elw, dros yr amgylchedd, yn berthnasol yma yng Nghymru.
Ni allwn ganiatáu i waith caled y traddodiad da yma, yn ein Senedd ifanc, o ddiogelu'r amgylchedd, megis y tâl cyntaf ar fagiau siopa yn ôl ar ddechrau'r degawd diwethaf—ni allwn ganiatáu i'r gwaith da hwn gael ei ddadwneud gan ddogma gwleidyddol, gan y Ddeddf marchnad fewnol. Mae'n rhaid i ni barhau i wrthsefyll ei effeithiau. Fel arall, gyd-Aelodau, rydym yn wynebu marwolaeth datganoli a'n hamgylchedd. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 ar effeithiolrwydd y gwaharddiad arfaethedig ar blastig untro? Ac a fyddwch chi'n ei defnyddio fel esiampl ymarferol mewn her llys newydd yn erbyn y Ddeddf?
Rwy'n cytuno bod hon yn enghraifft dda, ymarferol, ac rwy'n gobeithio y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ei defnyddio ar gyfer her yn y dyfodol. Ond rwy'n gobeithio, yn y rhuthr i wneud hynny, nad ydym yn osgoi craffu'n briodol ar y Ddeddf hon. Mae'r Ddeddf hon yn llawer rhy boblogaidd i'w rhuthro drwyddi heb graffu priodol mewn pwyllgorau ac yma ar lawr y Senedd. Gobeithio y gwnewch chi ddwyn hynny mewn cof.
Yn olaf, rwyf eisiau gwneud y pwynt am ddewisiadau amgen hygyrch. Mae llawer o ddewisiadau amgen i blastigion; yn anffodus, mae llawer ohonyn nhw'n llawer drytach na phlastigion. Er mwyn dwyn perswâd, er mwyn galluogi pobl i newid o blastig i ddewisiadau amgen, mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud y dewisiadau cywir—bod y dewisiadau hynny o ran deunyddiau mewn gwirionedd yn fforddiadwy i'r mwyafrif helaeth o'r bobl sy'n byw yn ein cymunedau. Pa gamau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod dewisiadau di-blastig amgen yn fforddiadwy yn rhwydd ac yn hygyrch i ddefnyddwyr? Diolch yn fawr.
Diolch am y cwestiynau hynny, ac efallai dim ond un ystadegyn i'w ychwanegu at y rhai hynny: wrth gwrs, o fewn Cymru yn unig, mewn un flwyddyn—neu, rwy'n credu, yn y ddwy flynedd ddiwethaf—mae amcangyfrif o 100 miliwn o gaeadau cwpanau plastig wedi'u cynhyrchu. Felly, mae hynny'n arwydd, rwy'n credu, o'r raddfa. Ac wrth gwrs fe gyfeirioch chi at lygru'r moroedd, ac wrth gwrs dyna pam mae ein pryder am wahardd eitemau ocso-ddiraddadwy hefyd, oherwydd y cyfan maen nhw'n ei wneud yw torri lawr y plastig mewn gwirionedd, ond dydyn nhw ddim yn cael gwared ar y plastig—mae'r plastig yn mynd yn ddarnau llai byth, darnau bach bach, i halogi ein moroedd, ein dyfrffyrdd a'n tir.
Gwnaethoch chi godi rhai materion pwysig iawn o ran Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, ac wrth gwrs mae hwn yn fater yr wyf wedi sôn amdano droeon. Mewn gwirionedd, fe wnes i ddatganiad ar 18 Awst am y Goruchaf Lys yn gwrthod ein cais am ganiatâd i apelio yn erbyn gorchymyn y Llys Apêl bod ein cais am adolygiad barnwrol o'r Ddeddf yn gynamserol. Felly, cawsom ein siomi gyda hynny, ond roedd hynny'n ddyfarniad a oedd yn bennaf yn ymwneud â phroses. Ond o ran y ddeddfwriaeth hon, ac mae'n debyg fy mod yn cytuno â'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u codi, ein safbwynt ni—a dyma pam y gwnaethom ofyn am yr adolygiad barnwrol drwy'r Goruchaf Lys—yw nad oes gan y ddeddf hon y gallu i ddileu ein cymhwysedd datganoledig, ac rwy'n hyderus bod y ddeddfwriaeth hon o fewn ein cymhwysedd. Os cymerir golwg wahanol, yna mae yna opsiynau sydd ar agor. Mae yna opsiynau i mi, pe bawn i'n credu ei bod yn briodol, i gyfeirio'r mater o dan adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, i gyfeirio Bil at y Goruchaf Lys. Ni welaf unrhyw reswm pam y byddai hynny'n codi y tro hwn. Roedd hefyd yn agored, wrth gwrs, i Lywodraeth y DU gymryd camau tebyg. Ond ein barn ni yw bod y Bil o fewn cymhwysedd. Nid ydym yn disgwyl i Lywodraeth y DU gyfeirio'r Bil at y Goruchaf Lys, ac os bydd camau'n cael eu cymryd, yna yn amlwg byddwn yn ystyried ein safbwynt ar y cam hwnnw, ac yn benodol gyda'r holl faterion a dadleuon yr oeddem ni eisiau eu codi yn y Goruchaf Lys, lle dywedodd y Goruchaf Lys y byddai'n well ganddynt gael enghraifft o ddeddfwriaeth y gallent ei phrofi yn ei herbyn. Mae'n ymddangos i mi mai'r cwrs gweithredu priodol ar hyn o bryd yw seilio'r cymhwysedd a aseswyd ar ein dadansoddiad ni o'r hyn yw'r cymhwysedd, sef nad oes gan y ddeddf y cymhwysedd i wrthdroi ein pwerau datganoli statudol, ac felly mae o fewn cymhwysedd.
Rydych yn gywir wrth godi materion craffu. Rydym yn dymuno i'r Bil symud ymlaen yn gyflym. Dyma un o'r rhesymau pam y cafodd y Bil drafft ei gyflwyno mor gynnar â phosib, er mwyn galluogi ymgynghoriad pellach eto gan y pwyllgor. Ond mae'n Fil cymharol syml. Mae cymhlethdodau technegol—y rhai hynny, fel y soniais yn gynharach, o ran sut rydych chi'n diffinio rhywbeth mewn gwirionedd, ac wrth gwrs mewn deddfwriaeth, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae'n rhaid i chi fod yn glir iawn am yr hyn yr ydych chi'n ei ddiffinio, yr hyn yr ydych yn sôn amdano a pha gamau y gellir eu cymryd mewn gwirionedd. Ond wrth gwrs mi wnaf bopeth y gallaf, ac rwy'n gwybod y gwnaiff y Gweinidog hynny, o ran cefnogi'r craffu.
O ran y materion tymor hirach, wrth gwrs mae yna waith parhaus y mae'n deg i mi sôn amdano, efallai, yn awr—nid o fewn fy mhortffolio, ond yn sicr o fewn portffolio'r Gweinidog—gan edrych ar faterion poteli y gellir eu hailddefnyddio a banciau poteli ac ati; cynlluniau dychwelyd ernes, pecynnu ac ati. Mae'r rheiny'n drafodaethau sydd ar y gweill. Mae polisi yn cael ei ddatblygu ac, mewn gwirionedd, mae'r ddeddfwriaeth hon hefyd yn ein galluogi nid yn unig i ychwanegu at y rhestr, ond hefyd i gefnogi ychwanegu at y rhestr honno drwy edrych ar gynlluniau amgen ac annog y cynlluniau hynny, a hefyd drwy brosesau addysgol a'r gwaith y mae llywodraethau'n naturiol yn ei wneud i symud diwylliant ymlaen, i newid diwylliant o ran ein cyfeiriadaeth, ein dibyniaeth ar a'n caethiwed i'r defnydd o blastig untro. Ond rwy'n credu bod y Bil penodol hwn yn gam sylweddol iawn ymlaen a dyma'r darn mwyaf cynhwysfawr o ddeddfwriaeth yn y maes hwn yn y DU.
Diolch yn fawr iawn i chi am wneud y datganiad hwn, ac mae'n ddrwg gen i nad yw ein Gweinidog Newid Hinsawdd galluog iawn yn gallu bod gyda ni, ond rydym yn dymuno gwellhad buan iddi, rwy'n siŵr. Roeddwn i ond eisiau gofyn i chi pam mae'r Bil yn cynnig ei gwneud yn drosedd i rywun gyflenwi plastig untro, ond y byddai'n drosedd sifil dim ond i rywun adael eu sbwriel plastig ar y traeth neu yng nghefn gwlad yn fwriadol yn hytrach na mynd ag ef adref. Oherwydd mae'n ymddangos i mi, pan fo'r fath eglurder ynghylch yr angen i beidio â gwneud hyn y dylen ni gael cosbau eithaf cryf, o ystyried goblygiadau'r canlyniadau.
Y cwestiwn arall oedd gen i oedd: pam y petruster wrth wahardd gwellt plastig untro? Oherwydd, i godi pwynt Rhys ab Owen, mae yna eisoes—ac wedi bod ers blynyddoedd a blynyddoedd—dewisiadau amgen i wellt plastig. Yn bersonol, cefais fy magu ar wellt papur, ond, yn yr un modd, mae gwellt metel rhagorol y gellir eu golchi a'u hailddefnyddio, ac felly nid oes angen unrhyw wellt plastig o gwbl ar gyfer nifer y bobl sydd angen gwellt i'w helpu i yfed. P'un a ydyn nhw'n bobl ifanc iawn, yn bobl oedrannus fregus neu'n bobl ag anableddau penodol, mae gwellt yn ddefnyddiol iawn, ond does dim angen gwellt plastig o gwbl. Felly, meddwl oeddwn i tybed pam nad ydyn ni'n bod ychydig yn gadarnach ar hyn, yn yr ystyr bod dewisiadau amgen da iawn ar gael.
Diolch i chi am y cwestiwn. O ran y materion yn ymwneud â'r drosedd a'r pŵer ar gyfer cosbau sifil, wel, wrth gwrs, trosedd yw pan fo rhywun wedi creu trosedd ac rydych chi yn y bôn yn cosbi neu'n eu herlyn am dorri'r gyfraith. Mae cosbau sifil yn rhoi pŵer ychwanegol i chi, yn yr ystyr, os ydych chi'n gwybod bod rhywbeth yn digwydd neu os cynigir gwneud rhywbeth a fyddai'n ei dorri, mae'n rhoi'r pŵer i chi hefyd geisio rhyddhadau sy'n eu hatal mewn gwirionedd rhag ei wneud—i wneud cais, efallai, am waharddeb neu beth bynnag, i atal rhywbeth rhag cael ei wneud, felly, mewn rhai ffyrdd, i atal y drosedd rhag cael ei chyflawni yn y lle cyntaf mewn gwirionedd.
Dyma'r math o beth sy'n bodoli hefyd mewn iechyd a diogelwch. Gallwch chi ddweud o ran iechyd a diogelwch y gallwch chi gael eich erlyn am weithred droseddol, ond mae cosbau hefyd y gellir eu defnyddio y byddech chi'n eu galw mwy fel cosb sifil, a allai eich atal rhag gwneud rhywbeth, gwneud rhywbeth, neu weithredu neu gynhyrchu mewn ffordd a allai arwain at drosedd. Felly, mewn gwirionedd, rwy'n credu, mae'n rhoi set fwy cynhwysfawr o bwerau o ran sicrhau y gellir gorfodi amcanion y ddeddfwriaeth.
O ran gwellt plastig o'u cymharu â rhai papur, wrth gwrs, fel plentyn mae'n rhaid i mi ddweud na chefais i erioed fy mhenodi yn fonitor llaeth, felly ni chefais erioed y profiad personol uniongyrchol o orfod dosbarthu'r gwellt hyn, ond dim ond y gwellt cwyr papur a gawsom ni erioed, felly roedd gwellt plastig yn rhywbeth cymharol fwy modern yn fy mywyd i. Rwy'n credu ei fod o ganlyniad i'r hyn sy'n dod o'r ymgynghoriadau. Mynegwyd pryderon, mewn rhai sectorau gweddol fach, ond meysydd lle'r oedd mathau penodol o angen, fod rhesymau pam y teimlwyd na fyddai math gwahanol o wellt—gwellt papur, er enghraifft—efallai yn briodol a rhoddwyd plastig a'r enghreifftiau hynny. Teimlwyd yn briodol y dylid bod ag eithriadau lle gellid cyfiawnhau hynny.
Felly, rwy'n credu o fewn graddfa pethau, roedd yn rhan gymharol fach ohono. Does dim cymhariaeth o ran graddfa y nifer o wellt sydd mewn defnydd cyffredinol yn hytrach na'r rhai sydd at ddefnydd eithaf arbenigol. A dim ond o fewn y cyd-destun hwnnw y byddai hynny'n dderbyniol, ond am resymau sydd wedi codi a chael eu derbyn yn ddilys o fewn y broses ymgynghori.
Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Mae fy mhlaid yn falch iawn bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei chyflwyno oherwydd mae angen i ni wneud cymaint ag y gallwn i leihau plastigion untro ledled y byd, oherwydd dyma bla mawr ein cyfnod ein bod yn gweld plastigion yn ein cefnforoedd ac yn lladd ein hanifeiliaid, ac mae hynny'n gwbl annerbyniol.
Gan fod Llywodraeth Cymru wedi mynd ymhellach, a gwahardd mwy o eitemau nag a wnaed yn Lloegr, mae hyn yn mynd i achosi problemau—fel mae fy nghyd-Aelod Rhys ab Owen wedi dweud—gyda'r Ddeddf marchnad fewnol. Aeth Llywodraeth yr Alban ymhellach na'r hyn wnaethon nhw yn Lloegr gan lwyddo i gael eithriadau wedi'u cytuno ar y rhestr. Ac fe hoffwn i wybod, Cwnsler Cyffredinol—mae'n debyg ei fod yn fwy eich briff chi na'r Gweinidog newid hinsawdd—pa drafodaethau yr ydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU i weld a allwn ni gael eithriadau wedi'u cynnwys, er mwyn sicrhau y gall y ddeddfwriaeth hon basio drwy'r Senedd hon yn eithaf di-drafferth, i wneud yn siŵr ein bod yn gallu cael hyn ar waith i leihau plastig untro. Oherwydd, yn wahanol i fy nghyd-Aelod Rhys ab Owen, dydw i ddim eisiau gweld hyn yn mynd i'r Goruchaf Lys; rwyf am i hyn fynd lle mae'r ddwy Lywodraeth yn gallu cydweithio i fod â deddfwriaeth dda drwy'r lle hwn ac i barchu'r setliad datganoli yma yng Nghymru.
Wel, gwrandewch, diolch am y sylwadau hynny, ac efallai gan gymryd o'r rhan olaf a godwyd gennych, wrth gwrs bu trafodaethau fframwaith, felly doedd y Ddeddf marchnad fewnol byth yn angenrheidiol. Holl amcan y fframweithiau oedd, yn y bôn, cael cytundeb cydweithredol arno, a Deddf y farchnad fewnol wnaeth luchio'r egwyddorion sylfaenol hynny o'r neilltu.
Bu ymgysylltu â swyddogion ar lefel y DU. Does dim arwydd wedi bod bod unrhyw agwedd ar y Bil hwn fyddai'n cael ei herio, ond, wyddoch chi, dydy hynny ddim yn golygu na fydd yna. Mae'n fater, yn amlwg, y bydd Llywodraeth y DU yn ei ystyried maes o law. Mae'n debyg mai'r cyfan y gallaf i ddweud mewn gwirionedd yw hyn: fy asesiad o hyn yw bod hyn o fewn cymhwysedd. Ac mae o fewn cymhwysedd oherwydd, fel yr wyf wedi egluro yn y Siambr hon o'r blaen, dydw i ddim yn credu bod Deddf y farchnad fewnol mewn gwirionedd yn dileu'r cymhwysedd datganoledig hwnnw, ond roedd yna amwysedd yno yr oeddem eisiau ei fod wedi'i ddatrys. Mae'r amwysedd hwnnw yn parhau mewn gwirionedd, ond fy marn i, a barn Llywodraeth Cymru, yw bod y Bil hwn o fewn ein cymhwysedd ni, ac os bydd materion yn codi, wel, byddwn yn asesu'r rheini pan fyddant yn codi, o dan y prosesau arferol.
Ac yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac wrth gwrs rwy'n croesawu'r Bil. Rydyn ni i gyd wedi gweld yr effaith ddinistriol ddiangen y mae plastigau untro yn ei chael ar ein hamgylchedd a'n bywyd gwyllt. Felly, am beth rydym ni'n siarad? Wel, ar hyn o bryd, mae 11 miliwn tunnell fetrig o wastraff plastig yn mynd i mewn i'n cefnfor bob blwyddyn. Os ydyn ni'n dal ati fel yr ydym ni nawr, bydd hynny'n dyblu erbyn 2040. Ac, yn ôl Ymddiriedolaethau Elusennol Pew, os yw'n wir, yn fyd-eang, na allwn ymdopi ag ailddefnyddio dim o'r plastig hwnnw, mae'n mynd i dreblu erbyn 2040. Felly, rydyn ni'n sôn am 33 miliwn tunnell fetrig posib o wastraff plastig yn ein môr yn unig erbyn 2040. Felly, dyna pam rwy'n croesawu'r Bil hwn. Mae'n rhaid i ni weithredu ac mae'n rhaid i ni weithredu nawr.
Yr un cwestiwn sydd gen i yw fy mod i'n sylwi bod yna restr o bethau sy'n blastig untro, ond rydyn ni i gyd yn gwybod ein bod ni'n darganfod yn sydyn fod yna blastig mewn pethau eraill nad oedden ni'n gwybod amdanyn nhw, ac mae cadachau gwlyb yn enghraifft dda o hynny. Felly, mae fy nghwestiwn i'n glir: a allwn ni wedyn ddefnyddio'r ddeddfwriaeth bresennol honno, os oes angen i ni, i ychwanegu pethau rydyn ni'n dod yn ymwybodol ohonyn nhw, ac efallai nad ydym ni'n ymwybodol ohonyn nhw nawr, sy'n ddefnydd untro ac sydd â phlastig ynddyn nhw? Diolch.
Diolch. Mae hynny'n gwestiwn pwysig iawn, oherwydd, wyddoch chi, dydym ni ddim mewn amgylchedd statig. Nid cynhyrchu rhestr yw hyn ac yna gallwn ni gyd fynd i ffwrdd a bod yn fodlon fod popeth yn foddhaol. Ac, wrth gwrs, roedd eich cwestiwn yn arwain yn rhannol at yr hyn a ofynnwyd yn gynharach, sef, 'Beth yw'r meysydd eraill?' Ac, wrth gwrs, gallwn ni i gyd nodi, rwy'n credu, meysydd eraill y byddem yn pryderu amdanyn, ac yn meddwl tybed a ddylai fod newidiadau yn y fan yno—yn enwedig cynlluniau dychwelyd ernes. Soniais am y gwellt papur yn gynharach. Wel, fel plentyn, treuliais lawer o fy amser yn hongian o gwmpas safleoedd adeiladu yn chwech a saith oed, yn codi'r poteli, oherwydd roedd pedair ceiniog—pedair hen geiniog—ar bob potel, a dyna sut yr oeddech chi'n cael eich arian poced yn y dyddiau hynny. Ac roedd yn siomedig iawn na wnaethon ni erioed gadw rhywbeth oedd mor rhesymegol i'w ddefnyddio.
Ond rwy'n credu y gwnaethoch chi sôn am eitemau eraill, fel cadachau gwlyb, er enghraifft, wel, mae'r rheiny'n bethau sy'n cael eu hystyried. Mae rhai cymhlethdodau ynghylch cadachau gwlyb, oherwydd mae problemau yn ymwneud â labelu. Mae'n debyg nad yw cadachau gwlyb yn gynnyrch mor syml ag y mae'n ymddangos; mae rhai ohonyn nhw'n cynnwys gwahanol sylweddau ac yn y blaen. Mae'n debyg bod rhesymau da pam y dylid gwahardd cadachau gwlyb beth bynnag oherwydd yr effaith maen nhw'n ei gael ar y systemau carthion. Ond, wrth gwrs, un o'r materion yw labelu hefyd. Nid yw labelu cynnyrch wedi'i ddatganoli i Gymru ond mae wedi'i gadw'n ôl i Lywodraeth y DU. Ond, mae'n faes yr ydym ni'n ei ystyried ac mae meysydd eraill hefyd y byddwn yn eu hystyried.
Pwysigrwydd y ddeddfwriaeth hon yw ei bod yn creu pwerau, ond mae'n amlwg yn cadw unrhyw beth sy'n cael ei ychwanegu neu ei dynnu oddi ar y rhestr—mae'r pŵer yn parhau i fod drwy benderfyniad cadarnhaol o fewn y Senedd hon. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth hynod o bwysig. Am wn i, dylwn i ychwanegu hefyd, wrth gwrs, mai o dan adran 79(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru, mae'n rhaid cynhyrchu adroddiad cynaliadwyedd bob blwyddyn, a'r hyn y mae'r ddeddfwriaeth yn ei wneud, sydd eto yn bwysig yn fy marn i, yw mae'n creu dyletswydd ar Lywodraeth i nodi mewn gwirionedd i'r Senedd yn yr adroddiad hwnnw pa eitemau eraill y mae'n eu hystyried, pa gynnydd sy'n cael ei wneud, pa eitemau eraill y gellir eu rhestru. Felly, mae hon yn ddadl barhaus, fel y dylai fod, a gynhelir o fewn y Senedd hon. Felly, y ddeddfwriaeth hon, mewn gwirionedd, yw dechrau'r broses honno ac nid ei chasgliad, mae'n debyg. Proses yw gwahardd eitemau plastig untro, nid digwyddiad.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.