– Senedd Cymru am 5:30 pm ar 20 Medi 2022.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, diweddariad ar brydau ysgol am ddim. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gydnabod digwyddiadau ddoe a chyfleu fy nghydymdeimlad dwysaf gyda'r teulu brenhinol.
Mae ein rhaglen lywodraethu ni yn glir: byddwn ni'n sicrhau'r tegwch mwyaf i bawb ac yn dileu anghydraddoldeb ar bob lefel o gymdeithas. Bydd Cymru yn wlad lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl a neb yn cael ei adael ar ôl. Ym myd addysg, mae ein huchelgais i wireddu'r nodau hyn wedi bod yn amlwg, gan flaenoriaethu dulliau a fydd yn lleihau'r anghydraddoldebau sy'n cael eu creu drwy anfantais economaidd-gymdeithasol, a sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cyfleoedd gorau posibl i lwyddo.
Mae'r uchelgeisiau hyn wedi bod yr un mor amlwg yn ein cynllunio ac yng nghyflymder gweithredu ein hymrwymiad fel rhan o'n cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion ysgolion cynradd ar draws Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd yn yr ysgol. Cyhoeddwyd ein huchelgais ar y cyd ym mis Tachwedd ac, mewn llai na naw mis, rydyn ni wedi dechrau cyflawni ar gyfer rhai o'n disgyblion ieuengaf ledled Cymru.
Ond, Llywydd, nid her fach fu hon. Mae hyn wedi cynnwys archwiliadau seilwaith o fwy na 1,000 o ysgolion ledled Cymru a buddsoddiad cyfalaf o £60 miliwn mewn ceginau ysgol a chyfleusterau bwyta—buddsoddiad ymlaen llaw o £25 miliwn a ategwyd gan £35 miliwn pellach a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae'n golygu bod 45,000 o ddisgyblion ychwanegol bellach yn gymwys i gael pryd o fwyd amser cinio yn eu hysgol, ac erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd y ffigwr hwnnw'n cynyddu i 66,000. Erbyn diwedd cyflwyno'r cynllun, bydd ein buddsoddiad o £200 miliwn yn sicrhau y bydd 186,000 o ddisgyblion ychwanegol ledled Cymru yn elwa ar y cynnig o bryd bwyd maethlon tra byddan nhw yn yr ysgol.
Dirprwy Lywydd, hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol, yn ogystal ag ysgolion ledled Cymru, am weithio gyda ni i gyflawni'r garreg filltir gyntaf hon. Mae wedi cymryd gwaith partneriaeth sylweddol a dull gweithredu tîm Cymru, sydd eisoes o fudd i filoedd o ddisgyblion ac yn rhoi arian yn ôl ym mhocedi eu teuluoedd ar unwaith.
Rydym ni wedi gweithio'n gyflym i ddatblygu cyfradd uned gychwynnol fesul pryd o fwyd ar sail tystiolaeth, sydd wedi caniatáu i ni gyhoeddi dyraniadau cyllid i awdurdodau lleol i ddechrau cyflwyno darpariaeth gyffredinol. Rwyf i wedi cytuno y dylai adolygiad o gyfradd yr uned gael ei gynnal gan ddefnyddio data ar gostau sefydlog ac amrywiol y mae awdurdodau lleol yn eu darparu er mwyn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o wir gostau ac, o bosibl, mireinio cyfradd yr uned ar gyfer blynyddoedd i ddod. Mae'r adolygiad hwnnw'n dechrau nawr.
Rydym ni hefyd wedi gweithio i sicrhau bod ein polisïau ein hunain, rhaglenni gwaith a ffrydiau ariannu sy'n dibynnu ar gymhwysedd traddodiadol ar gyfer prydau ysgol am ddim fel dangosydd yn parhau i weithio'n effeithiol. Yn ystod yr haf, mae ymgyrch genedlaethol wedi dechrau hyrwyddo prydau ysgol am ddim, i annog cofrestru disgyblion ac, yn hollbwysig, i wneud teuluoedd yn ymwybodol o'r gefnogaeth ehangach ychwanegol yr ydym ni'n ei darparu i'w helpu nhw drwy'r cynnydd mewn costau byw.
Mae'r mwyafrif helaeth o awdurdodau lleol wedi cadarnhau eu bod yn gallu darparu ar gyfer blynyddoedd 1 a 2, yn ogystal â'r dosbarthiadau derbyn, erbyn mis Ebrill 2023. Mae wyth awdurdod eisoes yn darparu ar gyfer pob un o'r grwpiau blwyddyn hynny. Mae nifer fach o awdurdodau eto i ymrwymo i'r dyddiad hwnnw, ac rydym ni'n gweithio gyda nhw i oresgyn heriau seilwaith ac i sicrhau ymrwymiad cadarn i'r dyddiad ganddyn nhw. Yna byddwn ni'n cyhoeddi cynlluniau cyflwyno ar draws yr holl awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn gyntaf o ddarparu. O fis Medi 2023 ymlaen, byddwn ni'n ehangu prydau ysgol am ddim i bob blwyddyn ysgol gynradd arall. Nid ydym ni eisiau dal unrhyw un yn ôl, ac rwy'n edrych ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ein cynlluniau cyflwyno yn y dyfodol.
Tegwch, lles, a dilyniant sydd wrth wraidd ein dull strategol. Mae ehangu ein cynnig i bob plentyn ysgol gynradd yn helpu i ymdrin â'r stigma sy'n dal i fod yn gysylltiedig weithiau yn anffodus â chefnogaeth benodol. Mae'n helpu teuluoedd nad oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o'r blaen ond sy'n dal yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd, ac mae'n sicrhau chwarae teg fel bod bob plentyn cynradd yn eistedd gyda'i gilydd yn mwynhau'r un pryd o fwyd, gan hybu eu hawl i fwyd ac i addysg.
Dim ond cychwyn arni yw pryd ysgol maethlon i bob disgybl cynradd. Rydym ni'n creu sefyllfa fydd yn newid y ffordd yr ydym ni'n bwyta yng Nghymru, gan drawsnewid diwylliant bwyd ysgol a newid arferion bwyta. Drwy greu cyfle i bob plentyn cynradd rannu a mwynhau pryd gyda'i gilydd, rydym ni'n gobeithio elwa ar ein buddsoddiad yn nysgu disgyblion, yn eu sgiliau cymdeithasol ac yn eu hiechyd tymor hirach. Gwyddom ni fod modd cyfiawnhau ein dull cyffredinol yma. Ac rydym ni hefyd nawr yn troi i ganolbwyntio ar sut yr ydym ni'n defnyddio ein dulliau'n well i hybu caffael cyhoeddus i gefnogi cynhyrchu a dosbarthu bwyd lleol, er budd economïau lleol ac i gysylltu dysgwyr yn well â gwreiddiau'r bwyd y maen nhw'n ei fwyta. Mae ein hamodau cyllid grant i awdurdodau lleol ar gyfer darparu darpariaeth gyffredinol a'n buddsoddi sylweddol yn darparu catalydd i'r gwaith hwn ddechrau o ddifrif.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, roeddwn i eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ein darpariaeth prydau ysgol am ddim yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol. Ni ddylem ni anghofio bod Cymru wedi arwain y ffordd yn y DU drwy gydol y pandemig wrth i ni gyflwyno darparu bwyd i'r rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol. Cafodd hyn ei gefnogi gan fuddsoddi dros £100 miliwn hyd yma. Roedd disgwyl i'n darpariaeth prydau ysgol am ddim yn yr ysgol orffen ar ddiwedd gwyliau'r haf eleni. Ond drwy weithio gyda'n partneriaid yn y cytundeb cydweithio, Plaid Cymru, yn sgil costau byw cynyddol a'r pwysau y mae hyn eisoes yn ei roi ar gyllidebau teuluol, heddiw, rwy'n falch o gadarnhau ein bod ni nawr wedi gallu dyrannu cyllid i ymestyn darparu bwyd yn ystod y gwyliau i ddisgyblion sy'n draddodiadol yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim tan ddiwedd hanner tymor mis Chwefror y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn golygu buddsoddi £11 miliwn arall i gefnogi rhai o'n dysgwyr mwyaf difreintiedig.
Byddaf i'n parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd, Dirprwy Lywydd, ar gynnydd cyflwyno ein hymrwymiad prydau bwyd am ddim mewn ysgolion cynradd.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae gennyf i dri chwestiwn syml yr hoffwn i atebion iddyn nhw. Gweinidog, rwy'n deall ac yn gwerthfawrogi bod arian ychwanegol newydd wedi bod ar gael i uwchraddio ac ehangu ceginau, ond roedd amseru'r arian a gafodd ei roi yn destun rhywfaint o bryder i mi. Meddwl oeddwn i tybed a yw wedi bod yn bosibl cyflawni'r holl uwchraddio yn ein hysgolion mewn pryd ar gyfer y tymor newydd sydd eisoes wedi dechrau, gan sicrhau bod gan ysgolion y gallu i ddarparu'r nifer fwy o brydau ysgol am ddim hynny i bawb sy'n gymwys. Ai dyna'r sefyllfa, Gweinidog?
A Gweinidog, yn hanesyddol, mae prydau ysgol am ddim wedi cael eu defnyddio fel marciwr hawdd i benderfynu a nodi'r rhai sydd fwyaf mewn angen. Sut olwg fydd ar y drefn newydd honno? Sut ydych chi'n mynd i nodi'r plant hynny wrth symud ymlaen? Sut byddwch chi'n sicrhau nad oes yr un plentyn nawr yn mynd i lithro drwy'r craciau oherwydd y newid hwnnw o ran nodi?
Yn olaf, Gweinidog, sut ydych chi'n mynd i fonitro'r broses gyflwyno? Rwy'n croesawu'r ehangu hwn, ac rwy'n croesawu eich bod chi'n cydnabod bod ehangu prydau ysgol am ddim yn rhoi cyfle i ni wella prydau ysgol ac i helpu cymunedau lleol ledled Cymru drwy sicrhau fod y cynnyrch yn dod o ffynonellau lleol lle bo modd, a'i fod mor iach â phosibl. Yn eich datganiad, rydych chi'n dweud prydau bwyd 'maethlon' ddwywaith, ac rydych chi'n dweud eich bod chi eisiau newid arferion bwyta, ac mae croeso mawr i bob un ohonyn nhw, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Ond sut yn union ydych chi'n gwarantu hynny, Gweinidog? Pa waith sydd eisoes wedi'i wneud? Ac oni allai hyn fod wedi cael ei wneud yn gynt o lawer, oherwydd rydym ni wedi bod yn ymwybodol am gyflwyno prydau ysgol am ddim ers tipyn nawr? Diolch.
Diolch i Laura Anne Jones am y tri chwestiwn yna, ac am ei chefnogaeth i'r polisi. O ran y cwestiwn cyntaf ar fuddsoddi cyfalaf, bydd hi wedi fy nghlywed i'n dweud bod rhaglen sylweddol o fuddsoddi wedi digwydd o ran uwchraddio seilwaith. Mae llawer o hynny wedi digwydd dros gyfnod yr haf, ac mae'r gyllideb gyffredinol sydd wedi ymrwymo i hynny nawr wedi'i chynyddu i £60 miliwn. Nid oedd erioed wedi'i ragweld y byddai'r gwaith hwnnw yn ei gyfanrwydd yn digwydd yn ystod yr haf; bydd peth ohono'n cael ei wneud cyn dyddiad targed mis Ebrill hefyd, felly bydd wedi'i drefnu yn y ffordd honno. A bydd gwaith, wrth gwrs, yn cael ei wneud yn ystod gwyliau'r haf y flwyddyn nesaf hefyd wrth baratoi ar gyfer cyflwyno'r rhaglen yn ail flwyddyn y rhaglen.
Mae'r gwaith a gafodd ei wneud yn ystod yr haf wedi golygu bod y rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru nawr yn darparu; mae'r mwyafrif llethol yn darparu ar gyfer plant ysgolion derbyn, a bydd hi wedi fy nghlywed i'n dweud bod llawer hefyd yn darparu ar gyfer blynyddoedd 1 a 2 eisoes, o flaen y terfyn amser ym mis Ebrill. Mae nifer fach o ysgolion lle nad yw'r gwaith, er enghraifft, ar gyfer uwchraddio eu cegin, wedi'i gwblhau. Yn y nifer fach iawn hynny o ysgolion, mae trefniant dros dro tymor byr mewn lle ar gyfer bwyd oer, ond bwyd oer maethlon o ansawdd uchel, i'w ddarparu dros dro, ac mae rhieni plant yn yr ysgolion hynny wedi cael gwybod am hynny. Ond mae yna, fel y dywedais i, raglen waith barhaus a fydd yn parhau yn yr ail o'r ddwy flynedd hyn beth bynnag.
O ran y cwestiwn o fwyd maethlon, rwy'n credu bod hwn yn gyfle pwysig iawn i ni fel rhan o'r broses gyflwyno hon, ac, fel yr oeddwn i'n dweud yn y datganiad, i gysylltu plant â ffynhonnell a gwreiddiau eu bwyd. Mae'r ddealltwriaeth sylfaenol honno mor bwysig. Mae hefyd yn bwysig iawn, gyda llaw, fel rhan o'u dysgu ehangach fel rhan o gwricwlwm ysgolion, ac mae llawer o ysgolion yng Nghymru sydd eisoes yn ystyried sut y mae modd defnyddio'r cynnig hwn fel rhan o'u cynnig ehangach ar gyfer y cwricwlwm, rhywbeth yr wyf i'n ei groesawu'n llwyr.
Bydd hi, rwy'n credu, fwy na thebyg yn gwybod fy mod i eisoes wedi cyhoeddi ein bwriad i gynnal adolygiad o Reoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013, a byddaf i'n dweud mwy wrth Aelodau am hynny maes o law. Ond yr hyn yr ydym ni wedi'i wneud yn y cyfamser, os mynnwch chi, yw atodi set o ofynion dros dro i'r telerau ac amodau ar gyfer y cyllid grant i bartneriaid awdurdodau lleol, wrth aros am y darn ehangach hwnnw o waith, sydd, eto, yn ei gwneud yn ofynnol—gan na fyddwch chi'n synnu o glywed—cydymffurfio â'r rheoliadau hynny, ond hefyd caffael lleol a gwneud y mwyaf, os mynnwch chi, o'r cyfle i gynnyrch Cymru ymddangos ar fwydlenni. Felly, mae hynny eisoes yn rhan o'r trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd, ond mae llawer mwy yr ydym ni eisiau'i wneud a llawer mwy y mae modd ei wneud. Mae'r gwaith hwnnw ar y gweill. Mae sawl ffrwd waith o fewn y Llywodraeth ar gyflenwadau bwyd, ar gaffael, ar ran yr economi sylfaenol yn hyn ynghyd â, fel yr oeddwn i'n sôn, yr adolygiad arfaethedig o'r rheoliadau bwyta'n iach. Felly, rwy'n gobeithio dod yn ôl a siarad eto am hynny wrth i hyn ddatblygu, ond rwyf i eisiau bod yn glir iawn: rwy'n ystyried hyn yn rhan bwysig o'r cynnig.
Ac yn olaf, soniodd hi am sut y byddwn ni'n cadw llygad, os mynnwch chi, ar y broses gyflwyno. Mae dyddiadau targed clir iawn yn y broses o gyflwyno ar gyfer y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn. Bydd y mwyafrif helaeth o ysgolion yn gallu cwrdd â'r dyddiadau hynny; mae rhai, fel y gwyddoch chi, eisoes o'u blaenau. Lle mae heriau—ac mae nifer fach o awdurdodau nad ydyn nhw'n gallu dweud wrthym ni eto eu bod nhw'n hyderus y gallan nhw sicrhau bod pob un o'u hysgolion yn gallu darparu ar gyfer blynyddoedd 1 a 2 ym mis Ebrill—rydym ni'n gweithio gyda nhw ar yr heriau penodol iawn sydd ganddyn nhw. Weithiau, mae'n ymwneud â seilwaith a gwaith cyfalaf. Weithiau, mae rhesymau eraill, ond rydym ni'n gweithio gyda nhw ac rydym ni'n hyderus y byddwn ni'n gallu datrys y cwestiynau hynny, ac yna byddaf i'n gallu cyhoeddi'r amserlen gyffredinol ar gyfer pob ysgol. Ond rydw i eisiau rhoi'r cyfle iddyn nhw ymrwymo i'r amserlen honno ymlaen llaw.
Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw, mae o'n ddiweddariad pwysig dros ben. Heb os, dyma ddangos gwerth cydweithio rhwng ein pleidiau pan y gallwn gyflawni polisi o'r fath mewn ychydig fisoedd, a gwneud gwahaniaeth yn syth i ddisgyblion sydd yn eu derbyn a'u teuluoedd. Roedd cyflawni hyn yn flaenoriaeth i ni fel grŵp ac fel plaid yn ein maniffesto ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2021. Pan ddechreuwyd trafod cytundeb cydweithio, roeddem ni'n benderfynol bod hwn yn gorfod bod yn ganolog i hynny, a da yw gweld bod y polisi nid dim ond ar bapur, ond ar waith.
Wedi'r cyfan, mae darparu prydau ysgol am ddim yn un o'r camau pwysicaf y gallwn eu cymryd i fynd i’r afael â thlodi plant a newyn yng Nghymru, drwy wneud yn siŵr bod plant yn cael pryd maethlon ac am ddim fel rhan o’r diwrnod ysgol, ac ymestyn, fel rydych chi wedi sôn heddiw, am gyfnod arall i gynnwys y gwyliau hefyd.
Tra bod Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig yn parhau i flaenoriaethu rhoi mwy o arian ym mhocedi busnesau mawr a’r rhai cyfoethocaf, mae’n dangos yn glir bod ein blaenoriaethau ni’n wahanol yn y Senedd hon a’n bod ni’n barod i gydweithio yma i fynd i'r afael â’r argyfwng.
Gallai’r polisi hwn wneud y gwahaniaeth rhwng plentyn yn mynd i'r gwely yn llwglyd neu beidio. Dyna pa mor bwysig ydy o. A hoffwn heddiw ddiolch o galon i'r rhai sy'n gweithio o fewn awdurdodau lleol ledled Cymru, fel y gwnaeth y Gweinidog, sef y staff arlwyo, y rhai sy'n dosbarthu ac yn cydlynu'r cyflwyno, a chydnabod pa mor bwysig yw hi inni gael hyn yn iawn i'n plant. Mae prydau ysgol am ddim yn gam tuag at wella bywydau pobl a gwneud ein cymunedau yn decach ac yn fwy cyfartal. Ac i ni fel plaid, cam cyntaf tuag at eu cyflwyno i bob oed yw hyn, ac, er mai dim ond prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd sydd yn y cytundeb, parhawn o’r farn y dylid hefyd ymestyn hwn i ysgolion uwchradd. Mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn parhau i’w flaenoriaethu hyd nes y cawn arlwy cenedlaethol cynhwysfawr sy’n ymestyn i ysgolion uwchradd.
Er y newydd da bod cyflwyno cinio ysgol am ddim wedi dechrau, fel rydych chi wedi sôn, mae yna dal rhai cynghorau sydd ddim cweit wedi cyrraedd y nod, megis Caerdydd ac Abertawe, sydd ar ei hôl hi. Felly, pa gefnogaeth ychwanegol fydd yna yn cael ei rhoi iddyn nhw? Mae Laura Anne Jones hefyd wedi sôn, wrth gwrs, a rydych chi wedi ymateb o ran bwyd maethlon, a da gweld y pwyslais rydych chi'n ei roi o ran y datganiad ac yn eich ymateb ar hynny. Fydd modd cael diweddariad pellach fel ein bod ni'n deall beth ydy'r benchmark hynny ledled Cymru ar y funud o ran—rydych chi'n dweud eich bod chi wedi sôn am y caffael ac ati—inni allu monitro cynnydd o ran mynd rhagddo efo hynny? Oherwydd, yn amlwg, mae hi'n allweddol bwysig o ran economi lleol hefyd o ran sicrhau bod mwy o ddosbarthu a chynhyrchu bwyd lleol yn rhan o hyn, yn rhan o'n hagenda argyfwng hinsawdd ni hefyd, heb sôn am dyfu yn lleol a chefnogi busnesau lleol. Mae hynny'n bwysig iawn.
Ac yn olaf, hoffwn holi pa waith sydd yn mynd rhagddo o ran adolygu’r fframwaith cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim i ystod ehangach o blant a phobl ifanc. Fel y canfu adolygiad tlodi plant Llywodraeth Cymru, nid yw pawb sydd angen prydau ysgol am ddim yn eu derbyn. Onid yw’n hanfodol ein bod yn ymestyn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim, a hynny ar fyrder, yn sgil yr argyfwng costau byw? Diolch.
Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny. Mae hyn yn dangos manteision cydweithio. Dyma un o'r elfennau polisi lle roedd gan y ddwy blaid flaenoriaeth i weithredu, felly yn gallu dod i gytundeb ar hyn yn y cytundeb sydd gyda ni. Ac rwy'n cytuno hefyd mai cam cyntaf yw hwn; rŷn ni i gyd eisiau gweld y polisi yn cael ei ymestyn y gorau gallwn ni. Dyw e ddim yn deg i ddweud bod awdurdodau ar ei hôl hi. Gwnes i sôn am ddau neu dri awdurdod sydd ddim heddiw yn gallu ymrwymo'n gyfan gwbl i'r targed ym mis Ebrill, ond fyddwn i ddim yn disgrifio hynny fel bod ar ei hôl hi; mae chwe mis arall cyn ein bod ni'n cyrraedd y targed hwnnw. Mae dwy ysgol rwy'n ymwybodol ohonyn nhw yn darparu prydau bwyd oer, sydd yn faethlon ac yn iachus, dros dro, ond dyw'r disgrifiad eu bod nhw ar ei hôl hi dwi ddim yn credu yn deg. Mae'r nod wedi'i gyrraedd bod pobl yn cael prydau fel rŷn ni'n disgwyl iddyn nhw eu cael ar y cychwyn, fel rŷn ni ar hyn o bryd.
O ran y gwaith sydd yn digwydd i sicrhau ein bod ni'n edrych ar gymhwysedd yn gyffredinol i sicrhau bod y gefnogaeth rŷn ni'n ei darparu yn addas, mae'r gwaith yna wedi bod yn digwydd ers cyfnod. Rŷn ni hefyd yn gweithio ar hyn o bryd i sicrhau bod y meini prawf sydd wedi bod yn cael eu defnyddio mor belled ar gyfer pob math o gefnogaeth mae'r Llywodraeth yn cynnig i bobl, bydd y rheini'n cael eu heffeithio gan y ffaith nad oes bellach rhaid profi eich bod chi'n gymwys ar gyfer pryd bwyd am ddim yn yr ysgol gynradd o leiaf. Mae gwaith yn digwydd ar hyn o bryd, gyda'n partneriaid, i edrych ar ddatblygu ffordd wahanol o ddisgrifio hynny, fel ein bod ni'n sicrhau, fel gwnaeth Laura Anne Jones hefyd ofyn yn ei chwestiwn, fod neb sydd eisoes yn manteisio ar y rheini yn colli allan yn y dyfodol. Un o'r pethau roeddwn i'n awyddus i'w sicrhau, wrth inni ymestyn yr hawl, fel petai, i brydau bwyd am ddim, yw ein bod ni'n ysgrifennu at rieni i'w hatgoffa nhw, er nad oes bellach rhaid iddyn nhw gymhwyso i gael pryd bwyd am ddim, fod ystod arall o bethau sydd ar gael o ran cefnogaeth ariannol i ddiwrnod ysgol, a'i bod hi'n bwysig cynnig am y rheini hefyd—gwisg ysgol ac ati.
Felly, mae'r gwaith hwnnw wedi bod yn digwydd, ond, fel clywsoch chi'r Prif Weinidog yn dweud yn gynharach heddiw, mae'n rhaid chwilio am bob cyfle posib i sicrhau bod unrhyw gysylltiad â'r sector cyhoeddus mewn unrhyw ffordd yn atgoffa pobl bod ganddyn nhw hawl i fudd-daliadau a chefnogaeth arall, fel eu bod nhw'n sicrhau eu bod nhw'n manteisio ar yr ystod ehangach o'r hyn sydd ar gael i'w cefnogi nhw mewn amser anodd iawn.
Bydd prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yn cael ei adnabod fel polisi hanesyddol yn y Siambr hon. Mae'r polisi hwn yn cydnabod, er gwaethaf y gwahaniaethau o ran cefndir, pan fydd disgyblion yn mynd i mewn trwy gatiau'r ysgol byddan nhw'n cael cyfle cyfartal i gael bwyd. Mae darparu prydau ysgol yn atal plant rhag cael eu niweidio'n anuniongyrchol mewn sefyllfa economaidd sy'n newid yn barhaus ac sydd allan o'u rheolaeth yn llwyr.
Felly, rwyf i hefyd eisiau achub ar y cyfle hwn i ddiolch i staff gwasanaethau arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am eu hymrwymiad eithriadol i ddarparu prydau bwyd maethlon i'n plant yn ystod y pandemig. Ac rwy'n gwybod eu bod nhw wedi ymroi ac maen nhw'n gosod safonau uchel iawn i gyflawni ymgyrch prydau ysgol am ddim Llywodraeth Cymru.
Fodd bynnag, fel rydych chi wedi sôn, Weinidog, gydag unrhyw newid polisi, mae angen rhoi logisteg a systemau ar waith ac yn aml maen nhw'n cynnwys heriau cymhleth. Fel y dywedoch chi, nid oherwydd eu bod nhw wedi syrthio ar ei hôl hi; dim ond bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwneud asesiad trylwyr, ac mae pum—dim ond pum—ysgol ar hyn o bryd nad oes ganddyn nhw'r seilwaith ar waith i allu cyflwyno hyn ar unwaith ac mewn pryd gyda phawb arall, er eu bod yn gweithio'n eithriadol o galed. Maen nhw wedi cydweithredu'n llawn â phroses asesu Llywodraeth Cymru, ac maen nhw'n sylweddoli nawr mai dim ond pump sydd, ac maen nhw'n meddwl mai podiau cegin fyddai'r ateb gorau i hynny mae'n debyg.
Felly, rwy'n gwybod eich bod chi eisoes wedi sôn am hyn, Weinidog, ond dim ond, mewn gwirionedd, i ofyn i chi a oes unrhyw syniad o ran llinell amser ac arweiniad ynghylch pryd y bydd y cyllid hwnnw'n cael ei roi, oherwydd, yn amlwg, rydym ni i gyd eisiau sicrhau bod plant yn cael bwyd da a digon ohono. Y prydau sydd angen eu gwneud—. Mae'n ddrwg gennyf i. Mae cymaint o bobl angen mwy o brydau bwyd nawr, felly mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr bod pawb yn cael bwyd cynnes a maethlon cyfartal a da, yn enwedig yn ystod y gaeaf.
[Anghlywadwy.] —y mae Sarah Murphy yn ei godi, Dirprwy Lywydd. A'r cwestiwn y mae unrhyw Lywodraeth yn y sefyllfa hon yn ymgodymu ag ef, mewn gwirionedd, yw, o ystyried maint yr her costau byw y mae teuluoedd yn ei wynebu, mae mantais sylweddol i'w gael o gyflwyno cymaint â phosibl ledled y system cyn gynted â phosibl. A dyna, ar ddiwedd y dydd, oedd y farn y daethom ni iddi, ac, yn amlwg, yn gytûn â Phlaid Cymru. Ydy hynny'n golygu nad oes nifer fach o ysgolion nad ydyn nhw'n gallu cynnig y ddarpariaeth prydau poeth llawn hwnnw i'w holl ddosbarthiadau derbyn—? Felly, mae yna, fel yr oeddwn i'n dweud, llond dwrn o ysgolion yn y sefyllfa honno. Mae'r cyllid, y £25 miliwn a'r £35 miliwn, wedi'i ddyrannu, felly mae awdurdodau'n gwybod beth yw'r gronfa honno o arian—ac maen nhw wedi gwybod ers rhai wythnosau—beth yw'r gronfa honno o arian y maen nhw'n mynd i allu ei defnyddio. Felly, mae hynny wedyn yn eu cefnogi i wneud y gwaith sydd ei angen arnyn nhw er mwyn gallu cyflawni'r ymrwymiad ehangach.
Roeddwn i hefyd eisiau bod yn sicr nad oedd yr un plentyn sy'n cael prydau ysgol am ddim o dan y meini prawf cymwysedd presennol—neu o dan y rhai blaenorol ar hyn o bryd—yn waeth eu byd o ganlyniad i gyflwyno'r trefniant estynedig newydd. Roedd hynny'n egwyddor allweddol iawn i ni wrth wraidd hyn.
Ond rwyf i ond eisiau ailadrodd, mewn gwirionedd, yr ymdrech ryfeddol y mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi'i gwneud i gyflawni'r hyn a fu'n amserlen lem iawn a dweud y gwir, yn erbyn nifer o flaenoriaethau ac ymrwymiadau pwysig iawn eraill y byddem ni i gyd eisiau iddyn nhw ganolbwyntio arnyn nhw hefyd. Ac i allu bod yn y sefyllfa hon ar ôl dim ond naw mis, rwy'n credu—. Ni fedraf i gofio'r union gyfnod, ond, pan gyflwynodd yr Alban drefniadau cyfatebol, rwy'n credu iddi gymryd dwywaith hynny, siŵr o fod. Felly, i allu bod ar y pwynt hwn ar hyn o bryd, yn ystod y cyfnod byr hwnnw, rwy'n credu ei fod wir yn dyst i lefel y cydweithio ac ymrwymiad, mewn gwirionedd, ym mhob awdurdod i wneud i'r polisi hwn lwyddo.
I mi, o wybod nawr, yn enwedig nawr o ystyried yr argyfwng costau byw, y bydd prydau ysgol am ddim yn gyffredinol mewn ysgolion cynradd, mae'n foment o fyfyrio, yn foment i gofio fy mhrofiadau fy hun yn yr ysgol, ac yn foment i gofio hefyd y frwydr hir i gyrraedd y pwynt hwn yn y lle cyntaf. Rwy'n falch nad yw Plaid Cymru erioed wedi ildio ar y polisi hwn.
O edrych ar y sefyllfa bresennol, rydym ni wedi clywed gan nifer o gydweithwyr heddiw—Heledd Fychan, Laura Anne Jones, Sarah Murphy—bod nifer o gynghorau yn ei chael hi'n anodd cyflwyno prydau ysgol am ddim ac nad ydyn nhw'n credu y byddan nhw'n cwrdd â'r terfyn amser y mae Llywodraeth Cymru wedi ei osod. Wrth gwrs, mae hon yn dasg enfawr ac rwy'n cydymdeimlo'n fawr â hyn. Wrth edrych yn agos at adref, mae Pen-y-bont ar Ogwr yn un o'r cynghorau hynny; yr aelod cabinet cyfrifol yn dweud nad oes gan rai ysgolion y cyfleusterau. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynghorau hynny gymaint â phosibl. Meddwl oeddwn i tybed a allai'r Gweinidog amlinellu pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i darparu i gynghorau fel Pen-y-bont ar Ogwr hyd yma, a pha sgyrsiau y mae ef wedi'u cael yn benodol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Yn y sir, mae gennym ni rai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig nid yn unig yng Nghymru ond yn y DU i gyd, ac mae'n bwysig ein bod ni'n gweithio i sicrhau bod y cyngor yn cyflwyno prydau ysgol am ddim cyn gynted â phosibl, a'u bod yn cael cefnogaeth lawn gan Lywodraeth Cymru wrth wneud hynny.
Mae'n ddrwg gen i, rydw i eisiau bod yn glir: nid yw awdurdodau yn cael trafferth o ran cyflawni'r polisi hwn. Maen nhw wedi gweithio'n hynod o galed i wneud yn siŵr—
Dydw i ddim yn gwadu hynny o gwbl.
Maen nhw wedi gweithio'n anhygoel o galed i sicrhau bod cymaint o bobl ifanc â phosibl yn gallu elwa ar y polisi hwn, yn unol ag amserlen fer iawn, iawn, ac mae hynny'n berthnasol i bob awdurdod yng Nghymru. Fel y dywedais i, lle mae nifer fach o ysgolion y mae angen gwneud rhai newidiadau seilwaith o hyd, maen nhw'n cydymffurfio â'r polisi mewn ffordd wahanol: felly, er enghraifft, darparu'r prydau oer, fel yr oeddwn i'n dweud yn gynharach, fel cam dros dro i hwyluso cyflwyno'r rhaglen ehangach, ond mae hynny mewn ffordd sy'n cael ei gyfathrebu i rieni.
Mae nifer o awdurdodau sy'n dweud wrthym ni, 'Nid ydym ni eto'n gallu ymrwymo i gyflwyno hyn i flynyddoedd 1 a 2 ym mis Ebrill', sydd chwe mis i ffwrdd o lle'r ydym ni nawr. Rydym ni'n gweithio gyda'r awdurdodau hynny i allu—wyddoch chi, lle mae ganddyn nhw heriau seilwaith penodol, i weithio gyda nhw i allu datrys y rheiny, fel y gallwn ni eu cael nhw i sefyllfa lle gallan nhw hefyd wneud yr ymrwymiad hwnnw. Nid yw'n safle cyffredinol; mae'n ymwneud yn enwedig ag ysgolion penodol, mewn nifer fach iawn o awdurdodau. Ond, fel y bydd e'n gwybod, y penderfyniad y mae'n rhaid i chi ymrafael ag ef yn y sefyllfa hon yw: a ydych chi ond yn cyflwyno pan all pob awdurdod ymrwymo i bob un ysgol o'r diwrnod cyntaf? Neu, o ystyried maint yr her, yr wyf i'n gwybod bod yr Aelod yn amlwg yn ei chydnabod, rwy'n credu mai'r penderfyniad gwell yn yr achos hwn yw sicrhau bod y mwyafrif helaeth o blant yn ei gael heddiw, ac i weithio gydag awdurdodau eraill yn ystod y cyfnod dros dro, i wneud yn siŵr bod y targedau hynny'n cael eu cyflawni hefyd, sef yr hyn yr ydym ni i gyd yn ei wneud.
Ac yn olaf, Rhianon Passmore.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad gan aelod Cabinet addysg Llywodraeth Lafur Cymru, a'r buddsoddiad newydd ychwanegol arall ar gyfer cyfnod estynedig gwyliau ysgol, felly diolch yn fawr. Mae'n newyddion da bod Llywodraeth Lafur Cymru yn cyflawni ei rhaglen lywodraethu o ran sicrhau tegwch i bawb a dileu anghyfartaledd, ac mae'n arwydd o gynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth Lafur Cymru y bydd £35 miliwn o gyllid cyfalaf newydd yn cefnogi cyflwyno'r cynllun, yn ychwanegol at y £25 miliwn o gyllid cyfalaf a gafodd ei ddyrannu'n flaenorol ac ymrwymiad o £200 miliwn o gyllid refeniw yn ystod y blynyddoedd nesaf. Hefyd, rwy'n gwybod o siarad yn uniongyrchol ag ysgolion a disgyblion, rhieni a phlant ar draws Islwyn, bod croeso mawr i'r mesurau hyn gan Lywodraeth Lafur Cymru a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr yn y cyfnod tywyll iawn hwn. Rwyf i hefyd yn croesawu gwaith aruthrol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth gyflawni, unwaith eto, newid gwirioneddol, ar lawr gwlad. Bydd argyfwng costau byw'r Torïaid, gwyddom ni, yn arwain at ganlyniadau difrifol a negyddol i gymunedau tlotaf Cymru. Mae hyn yn anghywir, ac nid swyddogaeth unrhyw Lywodraeth y DU yw niweidio a brifo ei rhai mwyaf bregus. Dywedodd ein Prif Weinidog Llafur Cymru—
A fedrwch chi ofyn y cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda?
Diolch. Gwnaf. Ni ddylai unrhyw blant fynd heb fwyd. Weinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi'i wneud o'r effaith gadarnhaol y bydd darparu pryd ysgol maethlon i bob disgybl ysgol gynradd yn Islwyn yn ei gael ar ganlyniadau addysgol a lles plant ieuengaf Cymru? Diolch.
Diolch i Rhianon Passmore am y cwestiwn pwysig hwnnw. Rwy'n credu y bydd nifer o ganlyniadau cadarnhaol ym mywydau'r dysgwyr ifanc hyn a'u teuluoedd. Yr effaith gyntaf, ar unwaith fydd cyfrannu at leddfu, i ryw raddau, agweddau ar y pwysau costau byw y mae teuluoedd o danyn nhw. Os mynnwch chi, rwy'n credu y bydd budd tymor hirach yn gallu trawsnewid rôl bwyd yn ein hysgolion o ran bwyta'n iach ond hefyd o ran dealltwriaeth pobl ifanc am fwyd—tarddiad bwyd a maeth ac yn y blaen. Ac rwy'n credu y bydd yn cael yr effaith o godi proffil bwyta'n iach mewn ysgolion yn fwy cyffredinol, ond hefyd mae'n cynyddu'r amrywiaeth o fwyd y mae disgyblion yn ei fwyta a bydd ganddo fanteision lles hefyd i ddysgwyr unigol, a fydd yn arwain at welliant addysgol. Ac rwy'n credu mai un o brif fanteision y polisi cyffredinol hwn, yr ydym ni wedi clywed nifer o siaradwyr yn ei godi'n barod, yw dileu'r stigma sy'n aml ynghlwm wrth brydau ysgol am ddim. Ac mae llawer o bobl yn y Siambr wedi siarad am hynny'n angerddol o'u profiad eu hunain, ac rwy'n meddwl, o ystyried y pwysau mae teuluoedd o dan, mae gymaint ag y gallwn ni ei wneud i ddileu'r stigma yn hynod bwysig yn fy marn i.
Diolch i'r Gweinidog. Mae hynny'n dod â ni at ddiwedd busnes heddiw.