2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 21 Medi 2022.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn ystyried effaith yr argyfwng costau byw wrth ariannu ysgolion yng Ngorllewin De Cymru? OQ58402
Mae'r argyfwng costau byw yn cael, a bydd yn parhau i gael, effaith sylweddol ar bob gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys ein hysgolion. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi egluro, dim ond Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â'r grym ariannol sydd â'r grym ariannol i fynd i'r afael ag effeithiau andwyol y cynnydd mewn costau ynni a chostau eraill.
Diolch, Weinidog. Ar ymweliad ag ysgolion yn fy rhanbarth ddechrau'r tymor, roedd y pennaeth yn sôn wrthyf i am ei phryder am wresogi a goleuo'r dosbarthiadau eleni; roedd hi wrthi fel lladd nadroedd yn trio diffodd pob switsh mewn golwg. Ac mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi rhybuddio bod cyllidebau ysgolion ar draws Cymru'n wynebu heriau enfawr yn sgil effaith chwyddiant a phrisiau ynni. Yn ôl arolwg gan y National Association of Head Teachers, mae 37 y cant o benaethiaid yn rhagweld bydd y costau hyn yn creu diffyg yn eu cyllidebau, a na fydd opsiwn heblaw ystyried diswyddiadau. Byddai hynny'n drychinebus ar adeg pan fo ein plant a'n pobl ifanc angen y gefnogaeth orau bosib yn sgil effaith y pandemig ar eu haddysg. Mae NAHT Cymru hefyd wedi rhybuddio am effaith niweidiol bosib os na fydd awdurdodau lleol yn darparu'r cyllid llawn ar gyfer codiadau cyflog athrawon, ond mae Llywodraeth Cymru wedi datgan na fydd arian ychwanegol ar gael ar gyfer hyn. Felly a fydd unrhyw gefnogaeth ariannol ychwanegol ar gael ar gyfer ysgolion er mwyn ymdopi â'r holl heriau ariannol hyn?
O ran costau tâl y gweithlu, mae'r arian hwnnw eisoes wedi ei ddyrannu fel rhan o negodiadau yr RSG y llynedd. Dyna oedd y sail iddyn nhw gael eu cytuno. Rwy'n cytuno â beth mae Sioned Williams yn ei ddweud ynglŷn â'r pwysau sydd ar ein hysgolion ni oherwydd cynnydd mewn costau gwresogi a chostau eraill o ran chwyddiant ac ati. Fel mae'r Aelod yn gwybod o'r hyn rôn ni'n ei drafod yn y Senedd ddoe, mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn prynu £600 miliwn yn llai o adnoddau ac o wasanaethau nag oedd hi ym mis Tachwedd diwethaf. Felly, mae galw ar y Prif Weinidog yn San Steffan a'r Canghellor i sicrhau ein bod ni'n cael arian i wneud i fyny am hynny, oherwydd dyna oedd pawb yn cytuno ar ddiwedd y llynedd oedd yr angen ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Dim ond gan y Llywodraeth yn San Steffan mae'r gallu a'r grym ariannol i allu gwneud yn iawn am hynny.
Does dim, yn anffodus, atebion syml yn y maes hwn. O ran cyllidebau ysgolion yn benodol—roedd yr Aelod yn sôn am waith y WLGA yn hyn o beth—rŷn ni yn gwybod, yn sgil y ffaith ein bod ni wedi parhau i ariannu ysgolion dros gyfnod COVID, er bod llai o ddarpariaeth wedi bod mewn amryw o ffyrdd gwahanol, fod yr arian wrth gefn sydd gan ysgolion yng Nghymru wedi cynyddu yn sylweddol iawn dros y cyfnod hwnnw. Felly, rŷn ni yn cefnogi awdurdodau lleol i weithio gydag ysgolion i sicrhau bod defnydd y ffynhonnell honno o arian hefyd yn cael ei gymryd i mewn i ystyriaeth wrth edrych ar y sefyllfa heriol mae ysgolion yn ei wynebu.
Weinidog, rydym yn ymwybodol iawn o'r pwysau sy'n wynebu ein hysgolion yn sgil yr argyfwng costau byw ar hyn o bryd, a chanfu arolwg diweddar gan Gymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT) fod athrawon yn darparu arian, bwyd a dillad i helpu plant a theuluoedd gyda phwysau costau byw. Dywedodd hefyd fod bron i saith o bob 10 athro wedi gweld bod llai o egni gan fwy o'u disgyblion a llai o allu i ganolbwyntio hefyd. Weinidog, o ystyried ei bod yn hysbys fod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar les athrawon a disgyblion, pa gefnogaeth bellach y gellid ei darparu i athrawon, disgyblion a theuluoedd i'w helpu drwy'r cyfnod anodd a heriol hwn?
Wel, byddwn yn croesawu unrhyw gymorth y mae Llywodraeth y DU yn barod i'w ddarparu ar ffurf cyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a chefnogi teuluoedd ledled Cymru. Rwy'n credu bod y methiant i fod yn glir am hynny yn bryder sylweddol i wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Mae gennym ni, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, nifer o gynlluniau i gefnogi'r argyfwng costau byw go iawn y mae teuluoedd ledled Cymru yn ei wynebu, megis y grant datblygu disgyblion—mynediad, y rhaglen prydau ysgol am ddim yr oeddem yn ei thrafod yn y Senedd ddoe, y rhaglen gwella gwyliau'r haf, a llawer o bethau eraill yn wir.
Bydd y Llywodraeth hon bob amser yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi teuluoedd dan bwysau yng Nghymru mewn amgylchiadau anodd iawn er gwaethaf y pwysau y mae'r Aelod yn ymwybodol fod cyllideb Llywodraeth Cymru ei hun yn ei wynebu. Yr hyn sydd ei angen arnom yw partner yn San Steffan sy'n barod i gamu i'r adwy hefyd.