– Senedd Cymru am 3:39 pm ar 28 Medi 2022.
Eitem 6 sydd nesaf, dadl ar ddeiseb P-06-1276, 'Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016'. Galwaf ar Buffy Williams i wneud y cynnig ar ran y pwyllgor.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, rwy'n falch iawn o agor y drafodaeth ar ddeiseb P-06-1276, 'Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016'. Mae testun y ddeiseb yn dweud:
'Mae nyrsys ledled Cymru yn brin o 1,719 o aelodau staff medrus iawn sy'n achub bywydau. Mae hyn yn golygu bod staff nyrsio yn rhoi 34,284 o oriau ychwanegol i GIG Cymru bob wythnos – ac nid yw'n ddigon o hyd. Mae ymchwil yn dangos, os oes llai o nyrsys, mae cleifion 26 y cant yn fwy tebygol o farw, ac, yn gyffredinol, mae hyn yn codi i 29 y cant yn dilyn cyfnodau cymhleth o aros yn yr ysbyty. Dylai Llywodraeth Cymru ehangu Adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i ddarparu’r tîm llawn o nyrsys sydd eu hangen yn daer ar y cyhoedd yng Nghymru.'
Diolch i'r Pwyllgor Busnes am gytuno â'n cais i drafod y ddeiseb hon, sydd wedi cael 10,572 o lofnodion. Mae'r ddeiseb yn rhan o ymgyrch ehangach sy'n cael ei harwain gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru. Maent yn dadlau y bydd ymestyn adran 25B—yr adran yn y Ddeddf sy'n ymwneud â chyfrifo lefelau staff mewn ystod o leoliadau—yn achub bywydau.
Maent yn cyfeirio at y cynnydd hyd yma, ers i'r Ddeddf gael ei phasio yn 2016. Cymru oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i amddiffyn gofal cleifion drwy osod lefelau staff nyrsio mewn deddfwriaeth. Roedd hyn yn gyflawniad arloesol. Drwy gyflwyno'r ddeddfwriaeth, tynnwyd sylw at nyrsio, newidiwyd ymddygiad byrddau iechyd, a sicrhawyd bod cleifion yn fwy diogel. Mae'r Alban wedi dilyn Cymru drwy gyflwyno Deddf Iechyd a Gofal (Staffio) (Yr Alban) 2019.
Mae'r lleoliadau sydd wedi'u cynnwys yn adran 25B eisoes wedi'u hymestyn. Pan basiwyd y ddeddf am y tro cyntaf, nid oedd adran 25B ond yn berthnasol i wardiau oedolion meddygol a llawfeddygol acíwt yn unig. Ar 1 Hydref 2021, cafodd ei ymestyn i gynnwys wardiau plant. Mae ymgyrchwyr bellach yn dadlau y dylai fod yn berthnasol ym mhob lleoliad lle mae gofal nyrsio yn cael ei ddarparu, gan ddechrau gyda wardiau nyrsio cymunedol a wardiau iechyd meddwl ar gyfer cleifion mewnol. Nid oeddwn yn Aelod pan gyflwynwyd y ddeddfwriaeth, ond roedd dadleuon am ba mor bell a pha mor gyflym y gellid ymestyn lefelau staffio'n rhan fawr o daith graffu'r Bil. Mae'n parhau i fod yn fater cyfredol.
Ym mis Mai 2022, cyhoeddodd Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru adroddiad ar weithredu'r ddeddfwriaeth. Canfu hwn fod Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 wedi gwella gofal cleifion a chynyddu nifer y staff nyrsio ar wardiau sy'n cael eu cynnwys yn adran 25B. Yn llythyr Llywodraeth Cymru at y Pwyllgor Deisebau, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dweud bod cynsail teitl y ddeiseb yn ddiffygiol ac yn brin o gyd-destun deddfwriaethol pwysig. Mae hefyd yn nodi'r prinder byd-eang o staff nyrsio a'r gwaith parhaus i ddatblygu cynlluniau mwy effeithiol ar gyfer y gweithlu.
Mewn gohebiaeth i'r pwyllgor, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn dadlau y bydd y ddadl heddiw yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru amlinellu amserlen ar gyfer ymestyn a thynnu sylw at unrhyw rwystrau a chyfyngiadau y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Byddai hyn yn caniatáu i'r cyhoedd gael gwell dealltwriaeth ynghylch pam na fu'n bosibl ymestyn adran 25B hyd yma. Edrychaf ymlaen at glywed y dadleuon ar bob ochr.
Diolch, Buffy, am agor y ddadl hon. Hoffwn ddechrau drwy ddweud bod y Ceidwadwyr Cymreig yn llwyr gefnogi ymestyn Adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i gynnwys lleoliadau nyrsio cymunedol ac iechyd meddwl i gleifion mewnol. Rydym yn cefnogi ymestyn oherwydd mae'n amlwg i ni fod y sefyllfa y mae nyrsys yn cael eu rhoi ynddi'n annerbyniol ac yn y tymor hir, yn gwbl anghynaladwy i'r proffesiwn.
Bob wythnos, mae nyrsys yn gweithio 67,780 o oriau ychwanegol i GIG Cymru, sy'n gyfystyr â 1,807 o nyrsys ychwanegol. Yn y bôn golyga fod nyrsys yn cael eu gorweithio'n systematig gan fyrddau iechyd sy'n torri corneli yn y pen draw drwy beidio â chyflogi digon o nyrsys ar gyfer gofal cleifion. Yn y tymor hir, mae hyn yn niweidiol i iechyd meddwl ac iechyd corfforol nyrsys, sydd wedyn yn creu risg uwch y bydd gofal cleifion yn cael ei beryglu, ac yn cael sgil-effaith enfawr ar fywyd teuluol nyrsys wrth iddynt dreulio mwy a mwy o amser oddi wrth eu teuluoedd, yn gweithio shifftiau hwy o hyd. Mae'n creu argraff negyddol fod nyrsio'n ddewis gwael fel gyrfa.
Cefais fy synnu'n wirioneddol gan y nifer o achosion ym myrddau iechyd Cymru lle mae prinder staff wedi arwain at bryderon dwfn ynglŷn â diogelwch cleifion, a hyd yn oed wedi arwain at anafiadau a marwolaethau—o brinder bydwragedd yng ngwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, lle canfu adolygiad annibynnol y gallai traean o farw-enedigaethau fod wedi cael eu hatal gyda gofal a thriniaeth briodol, i brinder yng ngwasanaethau fasgwlaidd a gwasanaethau brys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, lle canfu Coleg Brenhinol y Llawfeddygon bwysau gweithredol uniongyrchol yn sgil argaeledd meddygon ymgynghorol a staff nyrsio o fewn y bwrdd iechyd. Mae'n amlwg fod pwysau staffio difrifol yn parhau ac yn arwain at ddiffygion difrifol mewn gofal.
Gan droi at iechyd meddwl, canfu adroddiad Ockenden ar Tawel Fan fod rhai cleifion wedi profi colli urddas, wedi cael eu gadael mewn cynfasau gwlyb gan wrin neu wedi'u canfod yn crwydro'r ward heb oruchwyliaeth. Yn yr un modd, canfu adroddiad Holden ar uned Hergest yng ngogledd Cymru fod lefelau staffio annigonol yn golygu na chafodd anghenion cleifion yn yr uned eu diwallu, ac arweiniodd hyn at beryglu urddas a diogelwch cleifion. Mae ymchwil grŵp y Ceidwadwyr Cymreig eu hunain wedi tynnu sylw at lefelau staffio anniogel yn unedau damweiniau ac achosion brys Cymru, ac mae'n amlwg fod gweithlu GIG Cymru yn parhau i wynebu gorflinder ar ôl sawl blwyddyn o'r pandemig, ochr yn ochr â rhestrau aros cynyddol a phwysau mewn gofal brys. Rwyf fi, fel llawer o bobl eraill, yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu mwy o gefnogaeth yn y maes hwn, a chanolbwyntio ymdrechion ar gynyddu lleoedd i fyfyrwyr, a chefnogi gweithlu mwy y GIG yn y pen draw.
Fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, Cymru yw'r unig wlad yn y DU nad yw'n cyhoeddi ystadegau cenedlaethol ar gyfer swyddi nyrsio gwag yng Nghymru, sy'n gwneud i lawer gredu bod rhywbeth i'w guddio. Ond bydd o ddiddordeb i'r Aelodau glywed bod ffigurau a roddwyd i mi gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn dangos bod 2,900 o swyddi nyrsio gwag yn 2021-22, gan gostio £133.4 miliwn i GIG Cymru mewn nyrsio brys—cynnydd o 41 y cant o'r flwyddyn ariannol flaenorol. Ac fel y soniodd fy nghyd-Aelod Buffy Williams hefyd, canfu'r Coleg Nyrsio Brenhinol fod 144 o nyrsys cyfwerth ag amser llawn ychwanegol a 597 o weithwyr cymorth gofal iechyd amser llawn ar wardiau adran 25B ym mis Tachwedd 2020, o'i gymharu â mis Mawrth 2018, a oedd cyn i adran 25B ddod i rym. Mae hyn yn dangos y bydd ymestyn adran 25B ar lefelau staff nyrsio'n cael effaith gadarnhaol bwysig. Rwy'n credu y bydd pob Aelod yma yn cytuno â mi y byddai'n annerbyniol iawn inni beidio ag ymestyn adran 25B. Ac rwy'n annog pob Aelod yma felly i gefnogi'r cynnig. Diolch.
Cyn i mi symud ymlaen, mae yna sŵn bach yn y Siambr, ac rwyf wedi gofyn i TGCh edrych ar hynny. A yw'r Aelodau'n hapus i barhau, neu a yw'r sŵn yn tynnu eich sylw? Ydy? Iawn. Wel, fe gawn weld a allwn ni ddatrys hynny, gobeithio. Fe wnawn ni barhau. Rhun ap Iorwerth.
Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl yma. Diolch i'r deisebwyr, wrth gwrs, am gasglu'r enwau er mwyn tynnu sylw eto at y sefyllfa argyfyngus rydyn ni'n ei hwynebu, o ran niferoedd swyddi gwag a'r angen i ymestyn y ddeddfwriaeth ar lefelau nyrsio diogel o fewn ein gwasanaeth iechyd ni. A dwi'n ailadrodd y gair yna: 'diogel'. Mae hyn yn ymwneud â diogelwch cleifion. Rhywun o'ch teulu chi efallai—chi eich hun, efallai. O ddyfynnu o'r ddeiseb ei hun, os oes llai o nyrsys na ddylai fod,
'mae cleifion 26 y cant yn fwy tebygol o farw.'
Diogelwch ydy hyn. Ac, wrth gwrs, mae'r fframwaith yn y ddeddfwriaeth ar gyfer sicrhau lefel staffio diogel gennym ni yn y Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016. Eisiau ei hymestyn hi ydym ni. Rydyn ni'n galw eto heddiw—. Oes oedd gofyn i'r Ddeddf gyrraedd pob rhan o'r NHS nôl yn 2016 yn gofyn lot, os oedd o'n ormod bryd hynny, mewn termau ymarferol, wel, â ninnau yn 2022, mae'n amser i ymestyn ymhellach—ymestyn adran 25B.
Wrth gwrs, nid yw profiadau'r pandemig ond wedi atgyfnerthu'r hyn yr ydym yn ei wybod eisoes am y GIG a'r gweithlu nyrsio—gweithlu a oedd yn dioddef o brinder staff, cyflogau isel, digalondid, un a weithredai mewn amgylchedd wedi ei amddifadu o fuddsoddiad ac adnoddau. Nid oes ryfedd mai un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu yw cynaliadwyedd y gweithlu nyrsio. Mae llawer mwy o nyrsys yn gadael y GIG nag o nyrsys sydd newydd gymhwyso neu nyrsys sydd wedi'u recriwtio'n rhyngwladol. Ac yn anffodus, nid oes digon o weithredu wedi bod gan Lywodraeth Cymru ers adroddiad diwethaf y Coleg Nyrsio Brenhinol yn 2019 i fynd i'r afael â phroblem cadw staff nyrsio.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw arwain, a chymryd yr awenau, mewn perthynas â chadw nyrsys drwy greu strategaeth genedlaethol ar gyfer cadw staff. Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru wedi cyhoeddi papur ar gadw staff sy'n nodi'r hyn a wneir mewn rhannau eraill o'r DU a'r hyn y gellid ei wneud yng Nghymru. Yn lle hynny, mae'n ymddangos y byddai'n well gan Lywodraeth Cymru guddio ei phen yn y tywod yn hytrach na wynebu maint y broblem. Nid oes unrhyw ystadegau cenedlaethol wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar swyddi nyrsio gwag. Wel, rydym wedi ceisio helpu gyda hynny; mae'r ddeiseb sydd gennym o'n blaenau yn sôn am 1,700 o swyddi gwag. Yn ddiweddar, cefais ffigur o dros 400 o lefydd gwag mewn un bwrdd iechyd. Felly, o weld hynny, roeddwn yn gwybod bod 1,700 yn swnio'n rhy isel, felly fe wnaethom gynnal ein hymchwil newydd ein hunain ochr yn ochr â'u hymchwil hwy. Fe wnaeth y Coleg Nyrsio Brenhinol yr un peth, a daethom i'r un canlyniad: mae bron i 3,000 o swyddi nyrsio gwag yng Nghymru. Mae'n ffigur brawychus, ond mae ymchwil ehangach y Coleg Nyrsio Brenhinol yn dweud mwy wrthym: dangosodd ffigurau yn gynharach eleni fod dros hanner nyrsys Cymru wedi digalonni oherwydd argyfwng staffio. Roedd 78 y cant o nyrsys yn teimlo bod gofal cleifion yn cael ei beryglu. Nid yw'r problemau hyn yn mynd i ddiflannu; mae angen mynd i'r afael â hwy yn awr.
Yn y gorffennol, mae'r Gweinidog iechyd wedi dweud bod adran 25B yn seiliedig ar dystiolaeth; y ffaith ei bod wedi ei seilio ar dystiolaeth yw'r hyn sy'n rhoi hygrededd i'r Ddeddf, ond er bod y dystiolaeth yn dynodi'r angen yn glir i sicrhau diogelwch cleifion drwy staffio diogel, mae hi'n parhau i fod yn amharod i weithredu. Edrychwch ar ganfyddiadau adroddiad Tawel Fan ym mis Medi 2014; mae hwnnw'n sicr yn dangos bod y cyfuniad o ddiffyg cyllid, prinder staff digonol, prinder sgiliau yn y gweithlu a diffyg arweinyddiaeth gyda'i gilydd yn cael effaith erchyll ar ofal cleifion, ac nid eir i'r afael â'r problemau sy'n codi o hynny. Ym mis Mehefin 2021, ysgrifennodd 16 o sefydliadau at y Prif Weinidog i annog y Llywodraeth i sicrhau lefelau staff nyrsio diogel ac ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i gynnwys lleoliadau cymunedol a wardiau iechyd meddwl ar gyfer cleifion mewnol. Ond rydym yn dal i aros. Pryd fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i weld gwerth ein gweithlu nyrsio yn y ffordd hon?
Deallaf fod y prif swyddog nyrsio wedi ysgrifennu at Addysg a Gwella Iechyd Cymru ynglŷn â rhaglen staff nyrsio Cymru, a'i bod wedi nodi nad yw am gyhoeddi'r egwyddorion ar gyfer iechyd meddwl nac ymwelwyr iechyd. Nawr, nid yw hynny'n argoeli'n dda. Byddai'n golygu bod y gwaith ar gyfer y ffrydiau gwaith hynny'n annhebygol o symud ymlaen. A gaf fi ofyn, a yw'r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi'r egwyddorion ar gyfer iechyd meddwl ac ymwelwyr iechyd, ac os nad yw am wneud hynny, pam ddim? Rydym yn gwybod bod lefelau staffio sy'n rhy isel yn peryglu llesiant—a hyd yn oed bywydau—cleifion. Rydym yn gwybod ei fod yn gwaethygu digalondid ymhlith y gweithlu, gan arwain at golli staff profiadol a gwerthfawr. Ni allwn aros mwyach. A gawn ni weld Llywodraeth Lafur sy'n barod i wneud yr hyn sy'n iawn i'r gweithlu nyrsio ac i gleifion? Ac unwaith eto, diolch i'r deisebwyr.
Dylai pawb ohonom fod yn bryderus ynglŷn â'r posibilrwydd fod bron i 1,800 o swyddi'n wag ledled Cymru, oherwydd nid oes amheuaeth y bydd prinder nyrsys yn peryglu gofal nyrsio; mae'n anochel. Dywedodd Buffy Williams wrthym ei fod wedi arwain at newid ymddygiad o fewn byrddau iechyd, ac rwy'n gobeithio, felly, y bydd gwelliant a mwy o ffocws ar sicrhau bod lefelau staffio'n ddigonol mewn wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt, oherwydd yn amlwg dyna lle mae'r cleifion mwyaf difrifol wael fel arfer, ac felly, y rhai y gellir achub eu bywydau drwy sicrhau gofal nyrsio gwell.
Ond mae'n debyg mai'r hyn rwyf am ei ddeall yw a yw'r ymestyn diweddar i gynnwys wardiau plant ym mis Hydref y llynedd wedi llwyddo i sicrhau bod gennym gyflenwad llawn o nyrsys mewn wardiau plant, oherwydd, yn y pen draw, mae hyn i gyd yn ymwneud â recriwtio a chadw nyrsys, ac os ydym ond yn datrys un broblem drwy greu un arall, nid ydym yn ateb y broblem o gwbl mewn gwirionedd. Os ydym am ei ymestyn i leoliadau nyrsio cymunedol ac iechyd meddwl, sy'n swnio'n ddelfrydol, a yw'r nyrsys hyn yn bodoli allan yno mewn gwirionedd, ac os nad ydynt, pam ddim? Felly, rwyf eisiau edrych ar y problemau recriwtio a chadw staff y mae pob bwrdd iechyd yn eu hwynebu, a hynny'n rhannol oherwydd os ydych yn gyflogedig fel aelod o staff fel nyrs, ni cheir yr hyblygrwydd sydd ei angen ar rywun sydd hefyd â chyfrifoldebau gofalu er mwyn sicrhau eu bod ond yn cytuno i wneud y gwaith y maent ar gael i'w wneud, yn hytrach na'r hyn y mae'r GIG eisiau iddynt ei wneud.
Os oes gennych chi blant bach, ni fyddwch yn gallu gollwng popeth dros nos, gweithio dros nos, gweithio diwrnodau gwahanol pan nad oes gennych ofal plant; nid yw'n bosibl. Ac felly, dyna un o'r rhesymau pam fod nyrsys ar y brif raddfa yn cael eu gyrru i wneud gwaith asiantaeth. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, 2021-22, gwariodd GIG Cymru £133 miliwn ar nyrsys asiantaeth, cynnydd o 41 y cant ers y flwyddyn ariannol flaenorol. Nawr, byddai hynny'n talu cyflogau bron i 5,000 o nyrsys newydd gymhwyso, felly mae rhywbeth o'i le yma, a byddai'n ddefnyddiol clywed barn y Gweinidog ar hyn, oherwydd mae asiantaethau'n cynnig tâl gwell o'i gymharu â thâl cyfatebol staff y GIG. A dyna sydd wedi arwain at y sefyllfa hurt lle mae nyrsys asiantaeth yn teithio o Lundain neu Fanceinion i lenwi swyddi gwag yn ysbyty Heath neu yn Ysbyty Gwynedd.
Felly, rwy'n deall pam fod contract fframwaith asiantaeth newydd Cymru a lofnodwyd y llynedd ar gyfer 2021-24 yn capio'r cyfraddau fesul awr i asiantaethau nyrsio, neu fel arall, rydych yn gwneud y broblem yn waeth. Ond os ydych yn dibynnu ar nyrsys asiantaeth, rydych yn gwario mwy o arian y gallech fod yn ei wario ar weithlu parhaol, ond rydych chi hefyd mewn perygl o fod mewn sefyllfa beryglus iawn lle na fydd gennym ddigon o staff, a bydd y rhai sy'n dal i weithio i'r GIG wedi ymlâdd yn llwyr a naill ai'n ymddeol yn gynnar neu'n chwilio am swydd arall. Felly, mae hwn yn fater pwysig iawn a dylem ddiolch yn fawr i'r deisebwyr am ei godi.
Rwy'n credu mai un o'r pethau y gallem ddysgu ohono yw pwysigrwydd gofal iechyd darbodus ac i ba raddau yr ydym yn defnyddio timau amlddisgyblaethol yn effeithiol, dan arweiniad nyrsys cymwys iawn, ond gyda phobl eraill lai cymwys yn gweithio oddi tanynt i wneud rhai o'r swyddi gofalu pwysig y gwn eu bod yn cael eu gwneud gan nyrsys cynorthwyol neu gynghorwyr bwydo ar y fron, yn dibynnu ar ba leoliad y maent yn gweithio ynddo. Mae'n ymddangos i mi fod hynny'n un ateb ar gyfer atal chwalfa bosibl yn y ffordd yr awn ati i ddarparu gofal nyrsio yn y gymuned ac yn ein hysbytai.
Cefais fy ysgogi, mewn gwirionedd, i gyfrannu at yr adroddiad hwn gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl dau ymweliad. Roedd yr ymweliad cyntaf ag Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn fy etholaeth dros doriad yr haf, lle cyfarfûm â staff a chefais drafodaeth ddi-flewyn-ar-dafod a gonest iawn gyda hwy ynghylch y lefelau staff nyrsio y maent yn eu gweld. Rydym yn hollol gywir i siarad am nyrsys yn gadael y proffesiwn, ond mae'r rhai sy'n aros yn gwneud hynny am eu bod yn ofni siomi eu cydweithwyr, sydd, yn fy marn i, yn eithaf torcalonnus i'w glywed gan y rhai sydd ar y rheng flaen yn ein gwasanaethau ysbyty. Maent ar ben eu tennyn.
Roedd yr ail ymweliad â'r Coleg Nyrsio Brenhinol ddoe, lle cefais ffigurau fy mwrdd iechyd fy hun, sef Hywel Dda. Roedd gwariant Hywel Dda ar nyrsys asiantaeth yn £28.9 miliwn ar gyfer 2021-22, ac roedd y gyfradd swyddi gwag ar gyfer nyrsys cofrestredig yn 2021-22 yn 539.2—sef tua 20 y cant—yr uchaf yng Nghymru. Mae'r rhain yn ystadegau anhygoel, ac maent yn dangos pam ein bod ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, ar yr ochr hon i'r Siambr yn sefyll yn unedig ar hyn ac yn cefnogi ymestyn adran 25B yn llwyr. Rwy'n credu bod gwir angen inni asesu'r hyn yr ydym yn ei wneud i gefnogi ein nyrsys, oherwydd hwy yw asgwrn cefn ein system gofal iechyd, boed mewn ysbytai cyffredinol, neu mewn meddygfeydd, lle mae ymarferwyr nyrsio yn datblygu rôl strategol fwy. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i'w cefnogi.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n croesawu'r ddadl hon heddiw, a diolch i'r Aelodau am eu sylwadau.
Fel y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, rwyf fi, wrth gwrs, yn deall yr heriau y mae ein gweithlu GIG yn eu hwynebu bob dydd. Rydym wedi byw drwy bandemig heriol, yn bennaf oherwydd ymdrechion anhygoel ein gweithwyr rheng flaen, a'r staff nyrsio yn enwedig, a byddwn yn ddiolchgar iddynt am byth am hynny.
Nawr, rwy'n ymwybodol nad yw'r pandemig ar ben ac nid ydym yn gwybod pa ddigwyddiadau annisgwyl a fydd yn ein hwynebu yn y dyfodol. Y gwir amdani yw bod ei effeithiau gweddilliol yn creu pwysau gwirioneddol ar draws y system. Bydd y rhagolygon economaidd llwm yn y gaeaf sydd ar y ffordd a thu hwnt yn cael effaith bellach ar hynny.
O ganlyniad, mae sicrhau bod gennym y gymysgedd gywir o sgiliau gweithlu ar draws ein system iechyd a gofal i ddarparu gofal priodol, holistig, personol i bobl Cymru yn sylfaenol bwysig, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno ar y pwynt hwnnw. Ond mae arnaf ofn na allaf gytuno â honiad y ddeiseb hon y bydd ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) ynddo'i hun yn cyflawni hynny. Yn gyntaf, mae'r Ddeddf yn mynnu bod offeryn cynllunio'r gweithlu sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn elfen angenrheidiol ar gyfer ystyried cymhwyso adran 25B i unrhyw sefyllfa ofal benodol, ac nid oes offer o'r fath yn bodoli ar gyfer sefyllfaoedd eraill ar hyn o bryd. Felly, nid ydym yn dweud 'byth', rydym yn dweud 'ddim ar hyn o bryd'. [Torri ar draws.] Ac mae unrhyw alwad i gymhwyso—os gwnewch chi adael i mi orffen y frawddeg, diolch—mae unrhyw alwad i gymhwyso adran 25B o'r Ddeddf ar draws lleoliadau clinigol newydd yn anwybyddu'r ffaith honno. A phan edrychwch er enghraifft ar wardiau iechyd meddwl, y ffaith amdani yw eu bod yn galw am ofal mwy cymhleth, felly mae ganddynt dimau amlddisgyblaethol, ac maent yn fwy cymhleth. Felly, ni allwch edrych yn unig ar yr hyn sy'n digwydd ar un ward a'i estyn i ward arall. Mae'n rhaid inni ddeall bod amgylchiadau gwahanol yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r offer cynllunio hynny fod yn effeithiol.
Diolch am gymryd yr ymyriad, Weinidog. O ran cynllunio'r gweithlu, clywsom fod y gyfradd swyddi gwag ychydig o dan 3,000, ond daw'r ffigur hwnnw gan y Coleg Nyrsio Brenhinol, ac mae'r gwrthbleidiau yma wedi gwneud eu hymchwil eu hunain i gyrraedd y ffigur hwnnw. Ond yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon mae'r Llywodraeth yn cyhoeddi'r ffigurau hynny, a tybed a fyddech chi'n ystyried gwneud hynny, oherwydd byddai hynny ynddo'i hun o gymorth, rwy'n gobeithio, i dynnu sylw at y problemau a helpu i fynd i'r afael â'r materion sy'n codi mewn perthynas â'r gweithlu.
Diolch yn fawr. Wel, gofynnais i Addysg a Gwella Iechyd Cymru wneud ychydig o waith ar hyn, felly dof at hynny mewn eiliad, os nad oes ots gennych.
Yr ail bwynt y credaf ei bod yn bwysig iawn ei ddeall yw, hyd yn oed pe bai'r adnoddau hynny ar gael ar gyfer pob sefyllfa nyrsio, mae'n anghywir awgrymu y byddai ymestyn adran 25B i gynnwys pob un o'r meysydd hynny'n arwain at roi'r 'tîm llawn o nyrsys' i Gymru, fel y mae'r ddeiseb yn ei roi, a hynny'n syml am nad yw'r nyrsys hynny'n bodoli ar hyn o bryd. Felly, mae'r prinder staff nyrsio yn broblem a brofir yn fyd-eang; nid problem yng Nghymru'n unig yw hi. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi amcangyfrif mai swyddi gwag ym maes nyrsio a bydwreigiaeth ar hyn o bryd yw mwy na 50 y cant o'r prinder byd-eang o weithwyr iechyd. Nawr, gwyddom fod cryn dipyn o swyddi nyrsys cofrestredig eisoes yn wag yn ein byrddau iechyd ac ar draws ein sectorau gofal, ac nad yw hyn yn fater a fyddai'n cael ei ddatrys yn uniongyrchol drwy ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru).
Nawr, rydym eisoes yn gwneud llawer iawn i recriwtio a hyfforddi nyrsys. Mae nifer y llefydd hyfforddi a gomisiynwyd wedi cynyddu 69 y cant i 2,396 ers 2016, felly byddai hynny'n mynd â ni'n bell tuag at y 3,000 a nodwyd gennych. Ond mae angen inni gydnabod mai cadw staff yw'r broblem, a dyna pam fy mod wedi gofyn i Addysg a Gwella Iechyd Cymru wneud mwy o waith ar gadw staff nyrsio yn benodol. Rwy'n falch iawn o fynd i Aberystwyth ddydd Gwener i agor y ganolfan newydd lle byddwn yn hyfforddi rhagor o nyrsys yng Nghymru, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n deall hefyd—. Ac rwy'n cydnabod ein bod yn gwario gormod o arian yn awr ar nyrsys asiantaeth, felly rwyf wedi gofyn eto am i rywfaint o waith gael ei wneud ar hynny. Sut mae gostwng cost nyrsys asiantaeth? Nid yw'n syml. Os ydych chi'n rhoi mwy o arian i'n nyrsys presennol, bydd costau staff asiantaeth yn codi ac mae gennym fylchau o hyd. Felly, nid oes dim ohono'n syml, ond rwyf wedi gofyn i rai pobl allweddol helpu, i feddwl am syniadau ar gyfer sut y gallwn—
[Anghlywadwy.]—byddwn yn gwerthfawrogi pe baech yn gadael imi wneud ymyriad byr ar nyrsys asiantaeth, os yn bosibl.
Wel, rydym wedi cael un neu ddau o ymyriadau.
Ar fater staff asiantaeth, dyna'r cyfan—
Na, Darren. Diolch.
O, maddeuwch i fi. O'r gorau. Fe wnaethoch chi ofyn am syniadau; roeddwn i am roi un i chi.
Diolch. Wel, nid pan wyf ar fy nhraed ar ganol dadl. Gofynnais am syniadau gan y gweithwyr proffesiynol sy'n fy helpu gyda hyn.
Nawr, mae'n ymddangos mai'r hyn y mae llofnodwyr y ddeiseb yn ei ddweud yw eu bod yn dymuno gweld y nifer gywir o nyrsys a staff gofal iechyd yn y system i ddiwallu anghenion gofal pobl Cymru, a dyna yw fy nymuniad i hefyd. Ond fydd addewid deddfwriaethol nad oes modd ei gyflawni ddim yn sicrhau hynny, a allaf i ddim ymrwymo Llywodraeth Cymru i'r dull yna o weithredu. Yn hytrach, mae'r camau a fyddai'n helpu i sicrhau hynny yw cynllunio a modelu'r gweithlu mewn modd effeithiol, strategaethau effeithiol ar gyfer recriwtio a chadw staff, gan gynnwys rhaglenni sydd wedi'u safoni ar gyfer darparu goruchwyliaeth glinigol a thiwtoriaeth i'n staff nyrsio, a hefyd, wrth gwrs, recriwtio rhyngwladol. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn arwain ar ddatblygu cynllun gweithlu cenedlaethol cynaliadwy ar gyfer nyrsio, a dwi'n disgwyl y bydd y gwaith hwn yn arwain at ddatrysiadau a ffocws i fynd i'r afael â'r heriau sylfaenol yma o ran y gweithlu. Diolch.
Galwaf ar Buffy Williams i ymateb i'r ddadl.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb, a hoffwn ddiolch hefyd i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw a'r Gweinidog am ei hateb. Nyrsys yw tua 40 y cant o weithwyr GIG Cymru; hwy yw calon ac enaid ein gwasanaeth iechyd gwladol. Pa blaid bynnag yr ydym yn perthyn iddi a pha gymuned bynnag yr ydym yn ei chynrychioli, yr hyn sydd wedi bod yn glir yn y ddadl hon yw ein bod i gyd am sicrhau bod gennym y nifer priodol o nyrsys i sicrhau diogelwch a lles cleifion. Ond yr her allweddol yw sut y gallwn gyflawni hynny, yn enwedig yn wyneb prinder byd-eang o nyrsys. Hoffwn ddiolch i aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol am fynychu'r ddadl heddiw; edrychaf ymlaen at eu gweld yn y Neuadd yn ddiweddarach heno i nodi lansiad eu hadroddiad newydd.
Rwy'n gobeithio bod y ddadl heddiw wedi taflu goleuni pellach ar y cynnydd a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf a'r heriau sy'n parhau, ac rwy'n gwybod bod hwn yn fater a fydd yn parhau i gael ei drafod ymhell i'r dyfodol. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.