– Senedd Cymru am 2:30 pm ar 11 Hydref 2022.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i'r busnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft am y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
A gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar ddarparu'r ysbyty cymunedol yng ngogledd sir Ddinbych? Mae hwn yn brosiect hirddisgwyliedig a gafodd ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog presennol nôl yn 2013. Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai ysbyty newydd sbon yn cael ei gyflwyno erbyn 2016 bryd hynny, ac, wrth gwrs, rydym ni'n mynd i fod o leiaf 10 mlynedd ers cyhoeddiad y Prif Weinidog erbyn hyn, cyn i ni hyd yn oed weld rhaw yn y ddaear, byddai'n ymddangos. Mae llawer o bobl yn pryderu y bydd y prosiect hwn yn cael ei ddileu'n dawel bach gan Lywodraeth Cymru, ac maen nhw'n pryderu am ddiffyg ymrwymiad ymddangosol y Gweinidog iechyd presennol. Rwy'n credu bod angen rhywfaint o eglurder ar bobl ar hyn. Cafodd y gwelyau yma eu haddo oherwydd cau'r gwelyau ysbyty cymunedol ym Mhrestatyn ac yn Y Rhyl, ac mae ganddo effaith uniongyrchol ar y gwasanaethau y mae Ysbyty Glan Clwyd yn eu darparu, sydd ag adran frys o dan bwysau eithriadol. Mae'r gwelyau hynny'n hanfodol er mwyn ysgafnhau'r pwysau ar yr ysbyty hwnnw a gwneud yn siŵr ei fod yn cyrraedd yn ôl i'r safon o ran y ffordd y dylai fod yn weithredu i gleifion yng ngogledd Cymru. Pryd fydd gennym ni ddatganiad, a phryd allwn ni ddisgwyl i'r ysbyty hwnnw gael ei gyflawni, fel gafodd ei addo gan y Prif Weinidog presennol?
Nid oes unrhyw gynlluniau am ddatganiad yn yr hanner tymor presennol o ran y rhaglen gyfalaf ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rwy'n gwybod bod y bwrdd iechyd ei hun yn ystyried ei raglen gyfalaf ar draws y gogledd, felly byddwn i'n dychmygu y byddai hynny'n rhan ohono.
Trefnydd, yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae pryderon mawr wedi'u mynegi am ddiogelwch gwesty yng Nglynebwy sy'n gweithredu fel tŷ amlfeddiannaeth. Cafodd dyn ei ddarganfod yn farw yng Ngwesty'r Parc yn Waunlwyd, a chafodd un arall ei arestio ar amheuaeth o'i lofruddiaeth. Mae trigolion lleol a oedd yn rhan o gyfarfod cyhoeddus dilynol i drafod eu hofnau ynghylch diogelwch y gwesty yn dweud mai dyma'r drydedd farwolaeth sydd wedi cael ei adrodd yn y gwesty. Nid yw eu hofnau nhw'n ddi-sail, gan fy mod i wedi cael gwybod bod dau awdurdod lleol, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent, wedi tynnu eu cleientiaid o'r cyfleuster erbyn hyn. Dywedodd arweinydd Llafur cyngor Blaenau Gwent, Stephen Thomas, hefyd, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae angen i Lywodraeth Cymru ailystyried y mater gan fod cynghorau'n ei chael hi'n anodd darparu gwasanaethau cofleidiol o gyllidebau presennol, sydd eisoes o dan bwysau. Bu sawl methiant difrifol yma ac mewn lleoliadau eraill, sy'n effeithio'n niweidiol ar y rhai sy'n cael eu lletya ac, yn bwysig, ar y cymunedau lleol o gwmpas y cyfleusterau.'
O fy ngwaith fel Aelod o'r Senedd ers y llynedd, rwy'n ymwybodol bod methiannau yn ymwneud â rheoleiddio Tai Amlfeddiannaeth a'u twf wedi arwain at grynhoad o gyfleusterau o'r fath, ac o leiaf un person agored i niwed yn cael ei gartrefu mewn llety anaddas gyda chanlyniadau trasig. Ydy hi'n amser ailystyried y rheoliadau a'r canllawiau? Oherwydd mae'n ymddangos bod y status quo yn methu cymunedau a'r cleientiaid agored i niwed mewn tai Amlfeddiannaeth. A gawn ni felly ddatganiad gan y Llywodraeth ar frys ar hyn os gwelwch yn dda?
Yn sicr, mae'n sobreiddiol iawn clywed yr amgylchiadau trasig yr ydych chi'n eu disgrifio. Wrth gwrs, mae'n fater i bob awdurdod lleol faint o Dai Amlfeddiannaeth sydd ganddyn nhw a'u lleoliad o fewn eu ffiniau eu hunain. Nid wyf i'n sicr y byddai'r hyn yr ydych chi'n ei ddisgrifio yn arwain at y Gweinidog yn gwneud datganiad ar ailystyried y rheoliadau.
Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Mae'r un cyntaf ar ardaloedd menter. Cafodd wyth ardal fenter eu creu yng Nghymru. Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad yn 2013; roedd diweddariad ysgrifenedig ym mis Mawrth eleni. Rwy'n gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf ar y bwriad i ariannu ardaloedd menter yn y dyfodol.
Mae'r ail ddatganiad rwy'n gofyn amdano ar restrau aros orthopedig. Ym mwrdd iechyd Bae Abertawe, mae cynlluniau i Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ddod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer orthopaedeg, gofal asgwrn cefn, diagnosteg, adsefydlu a rhewmatoleg. Hoffwn i gael datganiad gweinidogol ar a yw'r Gweinidog yn gweld hyn fel ffordd ymlaen ledled Cymru.
Diolch. Fe wnaf ofyn i Weinidog yr Economi gyflwyno datganiad ysgrifenedig ar ardaloedd menter. O ran gwasanaethau orthopedig ac amseroedd aros, rwy'n credu y byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dweud nad yw amseroedd aros orthopedeg lle yr ydym ni eisiau iddyn nhw fod, fel amseroedd aros eraill. Mae cyllid ychwanegol sylweddol wedi'i roi i leihau amseroedd aros orthopedeg—rwy'n credu ei fod dros £170 miliwn bellach, yn rheolaidd—i helpu i ymdrin â'r ôl-groniad hwnnw. Rydym ni nawr yn gweld amseroedd aros yn lleihau, ond, fel y dywedais i, nid mor gyflym ag y byddem ni eisiau gwneud hynny. Gwnaeth y Gweinidog iechyd gynnal uwchgynhadledd orthopedeg nôl ym mis Awst, i wneud yn siŵr bod byrddau iechyd yn ymwybodol o'r hyn oedd ei angen er mwyn dod â gwelliant ym y maes iechyd hwn o'r gwasanaeth iechyd. Mae strategaeth orthopedeg genedlaethol hefyd wedi cael ei datblygu, ac rydym ni'n cyllido datblygiad rhwydwaith orthopedeg.
Gweinidog, mae pryder enfawr yn y canolbarth ynghylch y cynigion gan wasanaeth casglu a throsglwyddo meddygol brys GIG Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru i symud y lleoliad o'r Trallwng, sydd hefyd yn cynnwys dileu cerbyd ffordd. Mae'r gwasanaeth yn cael ei werthfawrogi'n fawr, mae'n gwbl angenrheidiol, ac mae'n anodd gweld sut bydd dileu'r gwasanaeth a'r lleoliad hwn yn arwain at well ganlyniad i bobl yn y canolbarth y mae angen triniaeth ar frys arnyn nhw'n gyflym. Holais y Prif Weinidog am hyn ar 20 Medi yn y Siambr, a gofynnais i iddo a fyddai'n sicrhau bod y data y mae'r cynigion yn seiliedig arnyn nhw'n cael eu cyhoeddi. Gwnes i hynny oherwydd bod amheuaeth am y data hwnnw. Atebodd y Prif Weinidog, ac rwy'n dyfynnu o Gofnod y Trafodion:
'Rwyf i wedi gweld ffigurau sy'n dod o'r gwaith a wnaed, ond dydyn nhw ddim yn ffigurau sy'n perthyn i Lywodraeth Cymru; maen nhw'n perthyn i'r elusen ambiwlans awyr ei hun.'
Mae'r elusen ei hun yn hollol glir nad yw'r data yn perthyn iddyn nhw, ond mae'n perthyn i'r gwasanaeth o fewn GIG Cymru. Hoffwn i weld y data llawn yn cael ei gyhoeddi, hoffwn i weld y modelu y tu ôl i'r data'n cael ei gyhoeddi hefyd, fel bod modd craffu arnyn nhw. Ysgrifennais i at y Prif Weinidog fis diwethaf, a gofynnais i iddo a fyddai'n cywiro'r cofnod. Nid wyf i wedi cael ateb eto. Byddwn i'n ddiolchgar, Gweinidog, os gallech chi hwyluso ateb drwy'r Prif Weinidog.
A gaf i hefyd alw am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu ymwneud Llywodraeth Cymru â'r cynigion? Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, sy'n gyfrifol am wasanaethau a darpariaeth iechyd. Mae angen i ni sicrhau bod gennym ni'r ddarpariaeth argyfwng gorau un. Nid wyf i'n credu bod cael gwared â'r lleoliad yn y Trallwng, ac yn wir Caernarfon, yn mynd i arwain at ganlyniad gwell i bobl Cymru o ran cyrraedd triniaeth frys cyn gynted â phosib.
Gwnaethoch chi ofyn bod dau faes yn cael eu hystyried. Yn sicr, fe wnaf i siarad â swyddfa'r Prif Weinidog i sicrhau eich bod chi'n cael ymateb i'r llythyr yr ysgrifennoch chi ato fis diwethaf. O ran y data, fy nealltwriaeth i yw nad yw'r data'n addas i'w gyhoeddi, oherwydd, pe bai'n cael ei gyhoeddi, gallai alluogi adnabod unigolion, ac yn amlwg byddai hynny'n destun pryder i lawer o bobl. Rwy'n credu ei fod hefyd yn cynnwys gwybodaeth fasnachol sensitif, ac, yn amlwg, byddai hynny'n anodd iawn i'w ddehongli heb gyd-destun.
Dwi am ofyn am ddatganiad a gweithred, os gwelwch yn dda. Nôl ym mis Mawrth, fe wnes i godi mater diffyg deintyddion efo chi yn Nwyfor Meirionnydd. Bryd hynny, fe ddywedoch chi y buasech chi'n gofyn i'r Gweinidog iechyd ddod â datganiad ymlaen ynghylch deintyddiaeth, ac y byddai hynny'n cael ei wneud o fewn yr hanner tymor yn dilyn mis Mawrth, gan bod y Gweinidog yn gweithio ar y mater. Rydyn ni bellach ym mis Hydref, a, hyd y gwn i, does yna ddim datganiad wedi cael ei wneud ar ddarpariaeth ddeintyddol. Mae ansawdd iechyd ceg pobl yn Nwyfor Meirionnydd yn debygol o ddirywio os nad oes yna gynnydd yn y ddarpariaeth. Gaf i ofyn felly fel mater o frys i'r Gweinidog iechyd ddod ymlaen â chyhoeddiad ynghylch darpariaeth deintyddiaeth, os gwelwch yn dda?
Yn ail, ers dod yn ôl o wyliau'r haf, rwyf i wedi sylwi bod dyddiau'r Llywodraeth, ar ddydd Mawrth, yn dueddol o orffen yn gynnar, a'r cyfan a gawn ni yw datganiadau, heb unrhyw bleidleisiau o gwbl. O ystyried bod y Llywodraeth yn honni bod y rhaglen ddeddfwriaethol yn llawn dop, mae hyn yn fy synnu i. A fydd y Trefnydd felly yn ystyried rhaglen y Llywodraeth, a sicrhau bod yr amser sydd gennym ni'n cael ei ddefnyddio'n effeithiol, yn enwedig o ystyried bod y gwahanol argyfyngau sy'n ein hwynebu ni ar ein pennau ni nawr wrth i ni siarad? Diolch.
Gallaf i sicrhau'r Aelod fy mod i'n ystyried busnes y Llywodraeth yn fanwl iawn bob wythnos, ac yn cael sgyrsiau gyda fy nghydweithwyr gweinidogol i wneud yn siŵr bod prynhawn llawn o fusnes.
O ran deintyddiaeth, yn sicr gwnaf edrych ar yr hyn y dywedais i wrthych chi ym mis Mawrth, ac os nad oes datganiad wedi bod, fe wnaf ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad ysgrifenedig o leiaf cyn hanner tymor.
Gweinidog, nôl yn 1913—nid oeddwn i o gwmpas ar y pryd—pan gafodd Ysbyty Cymunedol Maesteg ei agor yn gyntaf, nid oedd digon o arian ar gael i'w adeiladu na'i gynnal, felly cafodd apêl ei chyhoeddi, a chymerodd y glowyr a'u teuluoedd yng Nghwm Llynfi daliadau wythnosol a misol o'u cyflogau er mwyn talu i'r ysbyty gychwyn arni. Mae'r gymuned yn hoffi iawn ohono; mae wedi bod yn ganolbwynt i ofal iechyd a lles yn nyffrynnoedd Llynfi ac Afan ers hynny, ac mae dyfodol disglair iddo, oherwydd mae'r bwrdd iechyd yn ystyried ymestyn y gwasanaethau yno, gan gynnwys y gwasanaethau dydd, i gyfateb ag anghenion modern y gymdeithas honno. Ond—a dyma lle byddwn i'n croesawu datganiad—rydym ni'n gwybod bod cynigion da i ailagor y ward sydd wedi'i chau, a gafodd ei throsglwyddo o dan COVID i ward Seren i lawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda bwriad o ddod â hi yn ôl, wedi'i huwchraddio, yn fwy modern, gyda mwy o le o amgylch y gwelyau ac ati. Ond nid yw hyn wedi digwydd, oherwydd, fel yr wyf i'n ei ddeall, mae'r gost yn mynd y tu hwnt, gyda'r costau cynyddol nawr, wedi mynd o £600,000 i ymhell dros £1 miliwn, ac mae bwlch yno sydd angen ei lenwi. Gweinidog, a gawn ni ddatganiad ar hyn? Oherwydd bod pobl eisiau sicrwydd bod dyfodol disglair i'r ysbyty yn ei gyfanrwydd, ond hefyd i'r ward hon, oherwydd mae'r staff eu hunain, y mae'r gymuned hefyd yn hoff iawn ohonynt, eisiau dod yn ôl a bod yn ôl ar y ward honno yn edrych ar ôl y bobl o'r ardal.
Diolch. Rwy'n credu bod yr Aelod yn disgrifio ffordd y cafodd llawer o'n hadeiladau cyhoeddus ni eu hariannu yn nechrau'r ugeinfed ganrif. Rydych chi'n cyfeirio at y cynlluniau oedd gan yr ysbyty, ac, yn amlwg, fel y dywedwch chi, mae cynnydd aruthrol wedi bod nawr yng nghost deunyddiau, er enghraifft, ac yn amlwg llafur hefyd. Yn hytrach na bod y Gweinidog yn gwneud datganiad, rwy'n credu y byddai'n well i'r bwrdd iechyd ymateb. Efallai y gallech chi ysgrifennu atyn nhw a gweld beth yw eu hymateb.
Mae'r GIG yn bryder mawr i bob un ohonom yma, a gallwch chi weld hynny. Gweinidog, rydym ni i gyd yn gwerthfawrogi'r heriau sy'n wynebu ein gwasanaeth iechyd wrth ymateb i amrywiaeth o bwysau. Nid yw pobl yn gallu cael triniaeth neu lawdriniaeth yn ddigon cyflym; nid yw'r cleifion sy'n ddigon iach i adael ysbyty yn gallu mynd adref yn ddigon cyflym; ac mae rhai pobl yn canfod eu hunain yn yr ysbyty gyda chyflyrau y byddai modd eu rheoli gartref. Rwy'n croesawu'r buddsoddiad yn ysbyty Castell-nedd Port Talbot, fel y dywedodd Mike Hedges, i gynyddu nifer y theatrau llawdriniaeth gyda'r nod o ddod yn ganolbwynt rhagoriaeth y bwrdd iechyd ar gyfer orthopaedeg a llawdriniaethau asgwrn cefn. Mae llawer o waith i'w wneud, a dylai byrddau iechyd gael eu cefnogi wrth wneud y penderfyniadau allweddol hyn yn gyflym i ymdrin â'r argyfwng cynyddol yn y GIG. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd yn nodi sut y bydd ein gwasanaeth iechyd yn ymdrin â'r amrywiaeth o bwysau, sut y byddwn yn datblygu integreiddio ein gwasanaethau ni i fod yn fwy di-dor, a sut y byddwn ni'n ymdrin â recriwtio a chadw ein meddygon a'n nyrsys? Diolch.
Rydych chi'n ymdrin ag amrywiaeth o heriau sy'n wynebu'r GIG. Yn amlwg, nid ydym ni eisiau gweld pobl yn yr ysbyty am funud yn hirach nag sydd angen iddyn nhw fod, ac mae'u cael nhw adref, lle maen nhw'n amlwg yn gallu gwneud cynnydd a gwella, yn hanfodol bwysig. Mae gwaith yn mynd ymlaen yn barhaus i wneud hynny'n fwy di-dor. Rydym ni'n gwybod ein bod ni wedi cael problemau yn ymwneud â gohirio trosglwyddo gofal, er enghraifft. Yn sicr, yn ystod misoedd y gaeaf rydym ni fel arfer yn gweld cynnydd yn hynny, ac mae cryn dipyn o waith yn mynd i mewn i hynny cyn y gaeaf sydd i ddod. Rwy'n credu bod y Gweinidog yn gwneud datganiadau ynghylch recriwtio ac o amgylch y materion hyn yn barhaus yn ystod ei chwestiynau a'r datganiadau lawer y mae'n eu gwneud yn y Siambr hon.
Prynhawn da, Gweinidog. Y prynhawn yma, amser cinio, ymunodd llawer o bobl ar draws y Senedd gyda'i gilydd i gefnogi'r bobl yn Iran, ac rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar y sefyllfa yn Iran. Gwyddoch chi fod sefyllfaoedd ofnadwy wedi bod yn Iran, yn dilyn marwolaeth drasig Mahsa Amini, 22 oed, ac, yna, Nika Shakarami sy'n 16 oed. Mae'r protestwyr—menywod, merched ysgol—sydd bellach yn ymuno â llawer o bobl eraill, yn hynod ddewr. A'r prynhawn yma, gwnaethom ni glywed gan bobl o Iran eu hunain yr hyn y gallwn ni ei wneud. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi'n cyfyngu yn Senedd Cymru o ran ein pwerau, ond mae llawer o bethau yr hoffen nhw i ni eu gwneud. Ar ran y grŵp oedd ar risiau'r Senedd, rwyf i wedi cael cais i ysgrifennu llythyr trawsbleidiol a fydd yn mynd at y Prif Weinidog ac atoch chi. Ond, byddem ni'n gwerthfawrogi datganiad am y sefyllfa yn Iran, yn enwedig o edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud yma yng Nghymru i sicrhau ein bod ni'n eu cefnogi ac i sicrhau bod y cyfryngau yn dal i wylio'r sefyllfa ofnadwy sydd yna. Diolch.
Diolch. Yn sicr mae Jane Dodds yn disgrifio sefyllfa dorcalonnus iawn, ac rwy'n talu teyrnged i bawb a wnaeth gasglu heddiw i ddangos eu cefnogaeth. Rwy'n gwybod y bydd y Prif Weinidog yn falch iawn o dderbyn llythyr gennych chi, Jane. Ein huchelgais ni yma yw gwneud Cymru y lle mwyaf diogel yn y byd i fod yn fenyw neu'n ferch, ac mae hynny wrth gwrs yn ymestyn i hyrwyddo hawliau merched yn fyd-eang. Ni ddylai neb gael ei orfodi i wisgo neu beidio â gwisgo unrhyw eitem o ddillad neu unrhyw fynegiant allanol o'i ffydd. Mae gennym ni strategaeth genedlaethol i ymdrin â thrais yn erbyn menywod a merched a chynllun i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae'r rhain yn cynrychioli'r gwerthoedd yr ydym ni'n sefyll drostyn nhw mewn undod â menywod Iran.
Trefnydd, byddwn i'n ddiolchgar am eich cyngor o ran rheoli disgwyliadau ynghylch gohebiaeth Gweinidogion a Llywodraeth Cymru. Mae etholwr wedi cysylltu â mi ar ôl ysgrifennu at y Prif Weinidog nôl ym mis Mawrth 2021 am na chafodd ymateb, er iddo siarad gyda sawl gwahanol swyddog o sawl adran. Ysgrifennais at y Prif Weinidog fy hun yn gofyn i fy etholwr dderbyn ymateb ym mis Mehefin eleni, a nawr rwyf innau'n aros am ymateb i fy ngohebiaeth, er gwaethaf mynd ar ei hôl. Rwy'n siŵr y gallwch chi werthfawrogi bod hyn yn rhwystredig iawn i bawb sy'n gysylltiedig ac yn gwbl amharchus hefyd. Felly, byddwn i'n ddiolchgar am eich arweiniad ar y mater hwn ac ymrwymiad y byddaf i'n derbyn ymateb fel y gallaf i ei drosglwyddo i fy etholwr.
Yn ail, Llywydd, a chyfeiriaf Aelodau at fy nghofrestr buddiannau ar gyfer yr eitem hon, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol am drefniadau uwchgyfeirio ac ymyrraeth i fyrddau iechyd yma yng Nghymru, yn dilyn y newyddion yr wythnos diwethaf bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi gwaethygu i statws ymyrraeth wedi'i dargedu ar gyfer cyllid a chynllunio a bydd yn parhau ar gam monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad? Mae'n hanfodol bod Aelodau'n cael y cyfle i graffu ar y Gweinidog ar y datblygiad pwysig hwn, felly byddwn i'n ddiolchgar os byddai modd gwneud amser am ddatganiad ar y mater hollbwysig hwn. Diolch.
Diolch. Yn sicr, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad ysgrifenedig mae'n debyg o ran Hywel Dda, ac rwy'n rhoi ymrwymiad personol i chi, bydd gennych chi ymateb gan y Prif Weinidog y gallwch chi ei rannu gyda'ch etholwr.
Ymhellach i'r cwestiwn a gafodd ei godi gan Jane Dodds yr wythnos diwethaf, mae pryder o hyd gan ganolfannau achub lleol ynghylch tynged rasio cŵn yn stadiwm y Valley. Mae cofnodion cronfa ddata'r Valley ei hun yn dangos, rhwng 2018 a 2020, fod 141 o filgwn ar gyfartaledd yn gorffen rasio ar y trac bob blwyddyn. Mae eu gyrfa rasio yn gorffen yn bedair i bum mlwydd oed, ac, yn y mis diwethaf, dangoswyd bod 20 milgwn yn segur. Nid oes cofnod ffurfiol o ble mae'r cŵn yma wedi mynd na beth allai eu tynged fod, ac nid yw stadiwm y Valley yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd i'r milgwn hyn. A allai'r Gweinidog ymchwilio i hyn drwy ysgrifennu at berchennog y stadiwm ac yna rhoi datganiad ynglŷn â pha gofnodion sy'n cael eu cadw o dynged y milgwn yn gadael y trac, pa ymdrechion sy'n cael eu gwneud i sicrhau bod cartrefi addas yn cael eu darganfod iddyn nhw, a pha berthynas sydd gan y trac gyda sefydliadau ag enw da sy'n gallu eu helpu i ailgartrefu milgwn yng Nghymru, fel Greyhound Rescue Wales, Hope Trust, Dogs Trust, Almost Home Dog Rescue? Mae yna gymaint o elusennau all roi'r gefnogaeth honno. Diolch.
Diolch. Yn sicr, gallaf i roi ymrwymiad i chi y byddaf i'n ysgrifennu at berchennog trac rasio y Valley yng Nghaerffili. Yn anffodus, gwnes i ysgrifennu ato ym mis Mawrth, ac yr wyf i'n dal i aros am ymateb. Felly, nid ydw i'n siŵr y caf i ymateb os ysgrifennaf i ato eto, ond yn sicr, fe wnaf i ysgrifennu ato eto. Fel y gwyddoch chi, rwy'n gwbl ymroddedig i les milgwn. Rydw i eisiau ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud ar unwaith. Yn amlwg, mae'r Pwyllgor Deisebau yn cyflwyno deiseb. Rwy'n mynd i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar drwyddedu gweithgareddau sy'n cynnwys anifeiliaid. Mae hynny'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Felly, mae yna waith yn digwydd. Ond hoffwn innau hefyd gyfarfod â pherchennog y trac rasio.
Gweinidog, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y gallu i herio trothwyon meddiannaeth disgwyliedig ar gyfer llety hunanarlwyo yn ystod y pandemig COVID-19. Fel y gwyddom ni i gyd, yn ystod y pandemig, roedd rheoliadau COVID-19 yn golygu nad oedd busnesau hunanarlwyo, yn ôl y gyfraith, yn gallu cyrraedd y cyfraddau hysbysebu gofynnol o gael eu rhestru am 140 noson y flwyddyn. Fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol twristiaeth y Senedd, rwyf i wedi cael aelodau o'r sector yn cysylltu â mi ynghylch diffyg her gan Lywodraeth Cymru o ran y gyfradd feddiannaeth hon, er gwaethaf Llywodraethau eraill ledled y DU yn caniatáu i hyn ddigwydd. Felly, o ganlyniad, mae gennym ni nawr Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn rhybuddio busnesau eu bod, mewn blynyddoedd blaenorol, wedi methu â chyrraedd y trothwy, er bod hyn yn amhosib iddyn nhw ei wneud oherwydd y gyfraith, ac nawr mae eu statws ardrethi annomestig yn cael ei adolygu ac, yn wir, yn debygol o gael ei golli i lawer o'r busnesau hyn. Bydd hyn, wrth gwrs, yn arwain at ailddosbarthu busnesau dilys fel eiddo preswyl, gyda nhw wedyn yn wynebu bil treth cyngor wedi'i ôl-ddyddio am y tair blynedd diwethaf, a allai fod yn eithaf sylweddol iddyn nhw, gyda llawer ohonyn nhw o bosib yn gorfod cau, a swyddi'n cael eu colli a chanlyniadau anfwriadol eraill. Nawr, mae ond yn iawn fod y busnesau hyn yn gallu herio'r broses hon gan nad oedden nhw'n gallu bod ar agor yn ystod yr amseroedd hynny. Felly, hoffwn i gael datganiad ar y safbwynt hwnnw. Diolch.
Diolch. Rwy'n deall bod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi gofyn i chi ysgrifennu ati. Rwy'n gwybod ei bod hi wedi cael tipyn o ohebiaeth o gwmpas hyn, felly rwy'n meddwl y bydd hi'n hapus iawn i rannu hynny gyda chi a hefyd i ymateb i chi os ydych chi'n ysgrifennu ati.
Roeddwn i eisiau cyfeirio at y sylwadau cynharach gan Jane Dodds heddiw, oherwydd, ar ôl gwrando ar bobl Iran sy'n byw yng Nghymru, ar risiau'r Senedd, rwy'n credu ei bod yn glir iawn lefel y dicter ynghylch y diffyg gweithredu gan Lywodraeth y DU. Yn enwedig, maen nhw eisiau gweld asedau Iran yn y DU wedi'u rhewi nes iddyn nhw roi'r gorau i ladd eu pobl eu hunain, yn enwedig menywod a merched, mewn niferoedd mawr. Nid oes gennym ni ddigon o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd, ac rydym ni'n dibynnu, felly, ar y sgyrsiau personol hyn tan, ac oni bai bod y cyfryngau mewn sefyllfa i ddweud mwy wrthym ni. Roedden nhw hefyd eisiau gweld llysgennad y DU yn cael ei alw'n ôl o Tehran. Mae'n rhaid i ni fyfyrio ar gyn lleied y mae pobl wedi elwa fel arfer ar y cyfoeth yn sgil olew yn eu gwledydd. Prin yw'r gwledydd sydd wedi cael rhagwelediad Norwy, a sefydlodd y gronfa ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, y gronfa gyfoeth sofran fwyaf yn y byd erbyn hyn. Felly prin yw'r drafodaeth am hawliau unigolion i elwa ar eu hadnoddau naturiol, ac yn hytrach, mae'n fater o 'Sut allwn ni elwa?'. Mae'n rhaid i ni roi hawliau dynol yn llawer cliriach, ar flaen ac yng nghanol yr ystyriaethau. Felly, roeddwn i'n falch iawn o glywed eich geiriau chi, arweinydd y tŷ, ond rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn ni ysgrifennu at Lywodraeth y DU a gofyn iddyn nhw ei wneud yn llawer cliriach lle maen nhw'n yn sefyll gyda menywod a merched sy'n cael eu lladd yn Iran.
Wel, yn sicr, fe wnaf i drosglwyddo'ch sylwadau a'ch barn i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a fydd, rwy'n siŵr, yn hapus iawn i ysgrifennu at Lywodraeth y DU.
Trefnydd, hoffwn i hefyd ailadrodd galwadau gan Jane Dodds yn gynharach ac eraill ar draws y pleidiau, ar draws y Siambr, i Lywodraeth Cymru fabwysiadu sefyllfa llais gryf, hyd yn oed os daw hyn o dan Lywodraeth y DU i weithredu.
Hoffwn i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd gyda chyhoeddiad ffurfiol o'i gynlluniau i ddisodli safon uwch a BTEC yma yng Nghymru. Mae'n anodd deall ein bod ni mewn sefyllfa yng Nghymru o hyd nad ydym ni'n gwybod sut olwg fydd ar ein cymhwyster gyfwerth â lefelau T Lloegr. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno, Trefnydd, na all y diffyg cynllun hwn barhau.
Mae'r ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano ar addysg gartref. Fel y gwyddoch chi, Trefnydd, dair wythnos yn ôl, gofynnais i am ddatganiad brys gan y Llywodraeth hon am gynigion ar gyfer addysgu gartref yng Nghymru. Mae'r gymuned yn awyddus iawn am atebion, felly hoffwn i roi pwysau arnoch chi am ddatganiad yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach gan y Gweinidog addysg.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad ar y cynnydd i uwchraddio ceginau ysgolion er mwyn hwyluso'r nifer cynyddol o brydau ysgol am ddim sy'n cael eu darparu. Nid yw cyfaddefiad diweddar gan y Llywodraeth hon i fy nghydweithiwr Janet Finch-Saunders, lle dywedodd y Llywodraeth,
'nid yw'n bosib ar hyn o bryd gadarnhau nifer yr ysgolion cynradd yng Nghymru y mae angen uwchraddio eu ceginau' yn ddigon da. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi, Trefnydd, os gallai'r Gweinidog addysg ddod i'r Senedd hon a lleddfu pryderon—pryderon amlwg—a chadarnhau mewn datganiad bod pob ysgol yn barod, a byddan nhw'n barod i weithredu menter prydau ysgol am ddim cyffredinol y Llywodraeth hon. Diolch.
Felly, rwy'n credu i mi ateb Jane Dodds yn llawn ynglŷn â'r sefyllfa yn Iran, a byddwch chi wedi clywed fy ateb i Jenny Rathbone. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU.
Gwnaethoch chi ofyn am dri datganiad gan y Gweinidog addysg. O ran prydau ysgol am ddim, mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, ac nid wyf i'n credu, mewn gwirionedd, bod angen datganiad ar hyn o bryd.
O ran arholiadau, bydd y Gweinidog Addysg, yn amlwg, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau, drwy naill ai ddatganiad llafar neu ysgrifenedig, pan fydd y penderfyniadau wedi'u gwneud.
Ac o ran addysgu gartref, eto, fe wnaf i gael trafodaeth gyda'r Gweinidog i sicrhau bod datganiad, ar yr adeg briodol, yn cael ei wneud.
Diolch i'r Trefnydd.