– Senedd Cymru am 2:48 pm ar 18 Hydref 2022.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Gweinidog cyllid ar ymateb Llywodraeth Cymru i ddatganiad y Canghellor ar y cynllun ariannol tymor canolig. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Ddoe, fe wnaeth y Canghellor diweddaraf wyrdroi llawer o'r penderfyniadau diffygiol a di-hid a gafodd eu gwneud gan ei ragflaenydd a'r Prif Weinidog yn y gyllideb fach lai na mis yn ôl ac a oedd yn faes canolog o raglen dwf honedig y Prif Weinidog newydd. Cafodd datganiad y Canghellor newydd ddoe ei wneud cyn ei gynllun cyllidol tymor canolig ar 31 Hydref, lle y gwnaeth nodi y byddai'n cyhoeddi mesurau eraill i leihau gwariant cyhoeddus mewn cynllun wedi'i gostio gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllideb. Mae'r DU nawr mewn sefyllfa llawer gwaeth yn ariannol ac yn economaidd nag yr oedd cyn y gyllideb fach anffodus. Mae hyn yn anfaddeuol. O ganlyniad i'w gweithredoedd a'i phenderfyniadau ei hun, mae Llywodraeth y DU wedi creu anhrefn yn y marchnadoedd ariannol, sydd wedi arwain at gynyddu costau morgeisi a benthyca'r Llywodraeth, ac mae Banc Lloegr wedi cael ei orfodi i gymryd camau eithriadol i atal cwymp mewn cronfeydd pensiwn.
A hyn i gyd tra bod cyllidebau aelwydydd yn cael eu gwasgu fwy fyth hyd yn oed a thwll enfawr wedi'i greu mewn cyllid cyhoeddus. Efallai fod y Canghellor newydd wedi dadwneud y rhan fwyaf o'r mesurau i dorri trethi a gyflwynwyd ar 23 Medi, a gafodd eu cynllunio, fel y gwyddom ni, i fod o fantais i'r cyfoethocaf, ond ni all ddadwneud y niwed y mae'r gyllideb fach wedi'i achosi. Gadewch i mi fod yn eglur y bydd pobl yng Nghymru yn talu am fethiannau Llywodraeth y DU gyda threthi uwch yn y dyfodol, biliau ynni uwch a thoriadau i'n gwasanaethau cyhoeddus.
Mae yna ryw ychydig rai wedi elwa llawer iawn o ganlyniad i aflonyddwch y farchnad ariannol yn dilyn y gyllideb fach drychinebus, ac fe fydd nifer fach o bobl yn parhau i elwa. Roedd tynnu'r cap ar fonysau bancwyr yn un o'r ychydig iawn o fesurau a achubwyd o goelcerth y Canghellor newydd. Yn anffodus, nid fy etholwyr i yw'r rhai sy'n elwa ar yr anhrefn a grëwyd gan y gyllideb fach, a dim ond cynyddu y mae eu problemau nhw ac maen nhw wedi'u gadael â thrafferthion i dalu eu morgeisi, gwresogi eu cartrefi a bwydo eu teuluoedd.
Mae hon yn Llywodraeth y DU sydd wedi dweud mai'r prif faes y mae hi'n canolbwyntio arno yw twf, ond eto ni fydd datganiad ddoe yn gwneud unrhyw beth i wella rhagolygon economaidd ein gwlad. Rwy'n methu â gweld sut y bydd unrhyw un o'r mesurau a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn gwneud unrhyw beth heblaw am grebachu'r economi a dyfnhau'r dirwasgiad. Mae hyn yn llwyr i'r gwrthwyneb i'r cynllun twf honedig. Er i'r Canghellor nodi mai blaenoriaeth Llywodraeth y DU wrth wneud y penderfyniadau anodd sydd o'u blaenau nhw fydd y rhai mwyaf agored i niwed bob amser, nid yw ef wedi cynnig unrhyw beth i'w cefnogi nhw eto. Yn hytrach, mae ef wedi torri cymorth ynni yn gynamserol i ddegau o filiynau o aelwydydd, gan ychwanegu at y pryder ynglŷn â sut y bydd pobl yn talu eu biliau.
Mae Llywodraeth y DU wedi methu dro ar ôl tro i gymryd cyfleoedd i wella ein diogelwch ynni i'r dyfodol a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Os yw'r Llywodraeth hon o ddifrif ynglŷn ag ysgogi twf economaidd, mae'n rhaid iddi fod yn fwy uchelgeisiol o ran buddsoddi. Mae'n rhaid i'r Canghellor roi'r ysgogiad cyfalaf i fuddsoddi mewn ynni gwyrdd a datgarboneiddio. Ni ddylai geisio torri gwariant cyfalaf pan fyddwn ni'n wynebu toriadau o flwyddyn i flwyddyn i'n cyllideb gyfalaf ni drwy gydol y cyfnod hwn o adolygu gwariant.
Mae'r anhrefn sy'n amgylchynu camweinyddu Llywodraeth y DU o ran yr economi wedi tynnu sylw yn anffodus oddi wrth y materion gwirioneddol y mae pobl yn eu hwynebu nhw. Mae angen i Lywodraeth y DU ddiweddaru ei hymdrechion i helpu'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Mae'n rhaid i'r Canghellor fanteisio ar y cyfle ar 31 o fis Hydref i ddarparu cefnogaeth bellach a anelir i helpu aelwydydd a busnesau sy'n ei chael hi fwyaf anodd yn yr argyfwng presennol, gan gynnwys pobl sy'n derbyn budd-daliadau. Llywodraeth y DU sydd â'r ysgogiadau cyllidol allweddol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran yr argyfwng costau byw. Mae'n rhaid iddi ddefnyddio ei hysgogiadau o ran treth mewn ffordd fwy cyfiawn, gan gynnwys treth ffawdelw ar enillion yn y sector ynni.
Rwy'n ofni bod datganiad y Canghellor ddoe yn argoeli cyfnod newydd o gyni. Hyd yn oed cyn unrhyw doriadau gwariant gydag ymarfer effeithlonrwydd arfaethedig y Canghellor, mae chwyddiant wedi erydu ein setliad cyllideb ddatganoledig ni'n sylweddol eisoes. Dros y cyfnod gwariant presennol o dair blynedd, fe fydd ein cyllideb ni werth hyd at £4 biliwn yn llai mewn termau real nag yr oedd pan gafodd ei sefydlu y llynedd. Fe fydd yn werth £1.5 biliwn yn llai hyd yn oed flwyddyn nesaf. Fe fydd penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn Whitehall o ran lle bydd y toriadau yn digwydd gyda gwariant cyhoeddus yn cael effaith wirioneddol ar ein cyllideb ni yng Nghymru. Wrth i ni, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill edrych eto ar ein cynlluniau gwariant ar gyfer y flwyddyn nesaf, rydym ni'n cael ein gorfodi i wneud cyfres hynod anodd o ddewisiadau. Er na allwn ni amddiffyn rhag holl effaith gweithredoedd Llywodraeth y DU, fe fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i helpu aelwydydd, gwasanaethau a busnesau trwy'r argyfwng cynyddol barhaus hwn o wneuthuriad Llywodraeth y DU. Yn y flwyddyn ariannol hon rydym ni'n buddsoddi £1.6 biliwn mewn cynlluniau sy'n rhoi cefnogaeth yn uniongyrchol i bobl, fel y taliad cymorth tanwydd gaeaf gwerth £200, ac ystod eang o raglenni a chynlluniau sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl—cynlluniau fel y cynllun gostyngiadau treth cyngor, prydau ysgol am ddim a grant datblygu disgyblion, sy'n helpu teuluoedd gyda chostau anfon eu plant i'r ysgol.
Wrth edrych i'r dyfodol, fe fyddwn ni'n cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru ar 13 o fis Rhagfyr ac, wrth wneud hynny, rydym ni am gynnig ymateb ystyriol a gofalus i'r argyfwng, gan ystyried y rhagolwg cyllidol llawn a ddarperir gan Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol i roi cymaint o sicrwydd â phosibl i'n gwasanaethau cyhoeddus ni a'n partneriaid ni. Er bod ein hadnoddau yn gyfyngedig ac ni wnaiff cyhoeddiad ddoe unrhyw beth i leddfu'r sefyllfa sydd eisoes yn heriol sy'n wynebu Llywodraeth Cymru, ein blaenoriaeth ni fydd gwarchod y rhai mwyaf agored i niwed a chreu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach sy'n diogelu lles ein cenedlaethau yn y dyfodol. Fe fyddwn yn gwybod mwy ar Galan Gaeaf pan fydd cynllun cyllidol tymor canolig y Canghellor a rhagolygon annibynnol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol yn cael eu cyhoeddi, ond rwy'n ofni bod yn rhaid i ni baratoi ein hunain nawr am bennod arall o'r sioe arswyd hon o ganlyniad i stiwardiaeth ddiofal Llywodraeth y DU o'r economi a chyllid cyhoeddus.
Diolch i chi, Gweinidog. Yn gyntaf, fe hoffwn i gydnabod nad yw'r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai da iawn, a dweud y lleiaf. Ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn siomedig ein bod ni'n ein cael ein hunain—[Torri ar draws.]
Mae gennyf i ddiddordeb ac awydd mawr i glywed beth sydd gan yr Aelod i'w ddweud, felly a gawn ni ychydig mwy o dawelwch i glywed cynnwys yr hyn sy'n cael ei ddweud?
Diolch i chi, Llywydd. Fel y dywedais i, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn siomedig ein bod ni'n ein cael ein hunain yn y sefyllfa hon. Rwy'n croesawu'r Canghellor newydd i'w swydd. Mae'n un sydd ag ystod eang o wybodaeth am beirianwaith y Llywodraeth ac mae'r profiad angenrheidiol ganddo i roi'r wlad yn ôl ar y trywydd iawn. Nid amseroedd arferol mo'r rhain ac, er nad yw digwyddiadau diweddar wedi bod o gymorth, mae honni y gallem ni ein hynysu ein hunain yn llwyr oddi wrth nifer o ergydion byd-eang sydd wedi ein herio ni mewn cymaint o ffyrdd yn gamgymeriad. Ond, Llywydd, fel y dywedais i yn gynharach, rwy'n ymwybodol iawn bod yr wythnosau diwethaf wedi bod, a dweud y lleiaf, yn siomedig. Er fy mod wedi amddiffyn rhai o'r cynigion a gyhoeddwyd yn flaenorol o bosibl, fe wnes i hynny yn y gred bod Llywodraeth y DU wedi modelu effeithiau ei chynlluniau ni, ac fe ddylai'r Llywodraeth fod wedi cyhoeddi'r holl wybodaeth a oedd ganddi wrth wneud ei chyhoeddiad gwreiddiol, ochr yn ochr â chynigion manwl am ei chynlluniau ariannol tymor hwy. Roedd y ffaith nad oedd hynny ar gael yn gamgymeriad. Ni ddylai hynny fod wedi digwydd, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Canghellor wedi ymrwymo i ddilyn egwyddorion cyfrifoldeb cyllidol, fel llawer o gangellorion o'i flaen.
Llywydd, er fy mod yn dal i gredu mai twf economaidd yw'r ffordd orau allan o'r argyfwng hwn, yn y pen draw, yr hyn sydd ei angen arnom ni nawr yw sefydlogrwydd, ac mae'n rhaid i'r Canghellor newydd gyflawni hyn, ac mae'r ymateb i'w ddatganiad ddoe wedi helpu i dawelu ychydig ar y marchnadoedd. Rwy'n credu hefyd y bydd cyhoeddi'r cyngor cynghori economaidd newydd yn rhoi sefydlogrwydd a chyfeiriad pellach i bolisi cyllidol y DU. Roeddwn i'n falch o glywed bod y Gweinidog wedi siarad â'r prif ysgrifennydd, ac rwy'n gobeithio, mewn sgyrsiau yn y dyfodol, y bydd y Gweinidog yn codi'r posibilrwydd o weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r cyngor i ailsefydlu'r gwaith traws-lywodraethol pwysig hwnnw, yn ogystal â cheisio cael gogwydd Cymreig ar y cyngor i adlewyrchu ein diddordebau cyffredin ni a'r ymagwedd economaidd sy'n benodol i Gymru. Rwy'n gobeithio y gellir rhoi sicrwydd ynglŷn â'r hyn fydd yn y rhagolygon cyllidebol yn dilyn y datganiad ariannol yn ddiweddarach yn y mis.
Rwyf i'n cytuno â'r Gweinidog hefyd am yr angen parhaus i gefnogi pobl, yn enwedig y rhai sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd yn ystod y cyfnod cythryblus hwn, ac mae'n rhaid i Lywodraeth y DU wneud popeth y gall hi, fel y gwnaeth hi o'r blaen yn ystod COVID, a thu hwnt, i estyn y cymorth sydd ei angen ar bobl. Nawr, rwy'n dawel fy meddwl oherwydd sylwadau'r Canghellor y bydd ef bob amser yn canolbwyntio ar y rhai sydd â'r angen mwyaf, ond fe wn i bod yn rhaid i ninnau wneud ein rhan hefyd wrth sicrhau bod y Llywodraeth yn parhau i ganolbwyntio ar helpu'r rhai mwyaf agored i niwed, a dyna pam, heddiw, mae grŵp y Ceidwadwyr Cymreig wedi ysgrifennu at y Canghellor yn galw am uwchraddio budd-daliadau yn unol â chwyddiant.
Ond mae'n rhaid i mi ddweud, wrth i'r Gweinidog ddweud sut y bydd cyhoeddiadau'r Canghellor yn crebachu'r economi, mae'n rhaid i mi holi ai dim ond gwrthwynebu unrhyw beth y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yw polisi Llywodraeth Cymru. Ychydig wythnosau yn ôl, roedden nhw'n dadlau yn erbyn y cynllun twf ac yn galw am ei ddiddymu. Nawr mae hi'n ymddangos eu bod nhw'n awgrymu bod gwrthdroi'r un cynllun yn atal twf, felly beth maen nhw'n ei gredu? Llywydd, yr hyn yr ydym ni'n aros i'w glywed o hyd—a datganiad ar ôl datganiad, rwy'n gofyn am hyn— yw beth yw cynlluniau'r Llywodraeth i gyflawni'r twf a'r ffyniant sydd eu hangen ar ein heconomi ni yng Nghymru? Os yw'r cynllun twf yn rhoi'r fath anghywir o dwf economaidd a bod diddymu'r cynllun yn atal twf, yna beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wireddu posibiliadau llawn ein heconomi ni? Yn ddiweddar, fe ddywedodd y Prif Weinidog mewn cyfweliad fod angen buddsoddiad mewn seilwaith a buddsoddiad mewn cyfalaf dynol, ac rwy'n cytuno â hynny, ond sut mae hynny'n cysoni â rhai o'r cyfraddau busnes uchaf yn y DU, a'r gwaharddiad ar seilwaith ffyrdd newydd, a threth dwristiaeth nad yw'r diwydiant yn ei hoffi ar y cyfan, a diffyg adeiladu tai ledled y wlad, a Chymry yn ennill llai bob blwyddyn nag yng ngweddill y DU? Sut all y pethau hynny fod yn ffyrdd o sicrhau twf? Llywydd, mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn anodd ac yn heriol, ond yr hyn y maen nhw wedi ei ddangos, i fynd i'r afael â'r anawsterau yr ydym yn eu hwynebu, yw bod angen i ni greu'r amodau ar gyfer twf. Diolch.
Diolch i lefarydd y Ceidwadwyr am y sylwadau hynny y prynhawn yma, ac rwy'n cytuno ag ef, nid yw'r rhain wedi bod yn wythnosau da iawn, a dweud y lleiaf, ac mae hi'n sicr yn siomedig. Rwy'n credu ei fod wedi gwneud y gorau y gallai yn y fan honno i anfon neges bendant at ei gydweithwyr yn San Steffan o ran asesiad y Ceidwadwyr Cymreig o'r traed moch a welsom ni yn San Steffan yn ddiweddar.
Ond rwyf i yn croesawu'r llythyr y bydd y Ceidwadwyr yn ei anfon i'r Canghellor diweddaraf ynglŷn â budd-daliadau—[Torri ar draws.] Mae wedi mynd, mae hynny'n ardderchog. Felly, gyda gobaith, fe fydd y Canghellor hwn yn cadw ei swydd yn ddigon hir i chi gael ateb, oherwydd ni chefais i un gan y diwethaf. Ond rwy'n credu bod hynny i'w groesawu o ran eich cefnogaeth chi i godi budd-daliadau yn unol â chwyddiant, ac mae hynny'n sicr i'w groesawu.
Roedd llawer o sylwadau yn y fan yna am dwf a sut mae Llywodraeth Cymru yn ystyried twf. Wel, fe grëwyd y comisiwn twf a sefydlwyd gan Ysgol Economeg Llundain i nodi ffyrdd o wella perfformiad twf dilewyrch y DU, ac fe dynnodd y comisiwn hwnnw sylw ei hun at bwysigrwydd hanfodol parhau i fuddsoddi yn y system addysg ac mewn sgiliau addasadwy a dysgu gydol oes. Roedd yn pwysleisio swyddogaeth allweddol seilwaith hefyd yn elfen hanfodol i dwf cynaliadwy, ac roedd yn dadlau o blaid cyfraddau uwch, ac nid is o fuddsoddiad mewn seilwaith ledled y DU. Mae hynny'n gwbl gyson â'r hyn y mae'r Prif Weinidog a fy nghydweithwyr eraill i'n sôn amdano bob amser ynglŷn â'n dealltwriaeth ni o dwf. Buddsoddi mewn pobl, buddsoddi mewn sgiliau a buddsoddi mewn seilwaith yw hwnnw. Rydym ni'n dymuno gweld, yn arbennig, fuddsoddi mewn seilwaith gwyrdd i'n harwain ni tuag at sero net ac i helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.
Hefyd, mae hi'n werth cofio bod dadansoddiad ar gyfer Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dangos swyddogaeth hanfodol cynnal buddsoddiad mewn seilwaith i ymateb i'r heriau o wella perfformiad economaidd ardaloedd sydd ar ei hôl hi a chyflawni sero net hefyd a sicrhau cydnerthedd o ran yr hinsawdd a gwell amgylchedd. Felly, eto, mae hyd yn oed y comisiwn seilwaith hwnnw'n gweld pethau fel y gwnawn ni yn Llywodraeth Cymru.
Roedd gweledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer twf yn ymddangos fel pe bai'n ymwneud â dim ond torri treth ar gyfer y rhai cyfoethocaf un, fel pe bai hynny'n mynd i fod y cymhelliant yr oedd ei angen arnynt, ac wedyn nid oes dim ar ôl o weledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer twf yn y cynllun presennol, ar wahân i'r ymrwymiad parhaus, fel rwyf i'n ei ddeall, i'r parthau buddsoddi. Eto i gyd, ychydig iawn o fanylion sydd gennym ni ynglŷn â sut olwg allai fod ar y parthau buddsoddi hynny. Rydym ni'n edrych ymlaen at drafodaethau pellach gyda Llywodraeth y DU ynghylch hynny.
Roedd yr Aelod yn cyfeirio hefyd at y drafodaeth a gefais i gyda'r Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys. Ddoe yr oedd hynny, ac fe wnes i hynny ochr yn ochr â fy nghymheiriaid yn yr Alban. Roedd honno'n sgwrs ddefnyddiol iawn, yn fy marn i, ond yr hyn sydd ei angen arnom ni mewn gwirionedd yw prif ysgrifennydd sydd yn ei gweld hi'n rhan wirioneddol o'i gyfrifoldebau craidd i fod â pherthynas fel hon gyda Llywodraeth Cymru a gyda'r Llywodraethau datganoledig eraill o ddydd i ddydd, a chael rhywun sydd â diddordeb gwirioneddol yng Nghymru, ar gyfer mynd i'r afael â'r pethau yr ydym ni'n ceisio gwneud cynnydd yn eu cylch gyda Llywodraeth y DU.
Hwn, fel dywedodd y Prif Weinidog, fydd y chweched Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys a welais yn fy amser i ac mae honno'n broblem, yn yr ystyr bod yn rhaid i chi ddechrau o'r dechrau bob tro yr ydych chi'n gweithio gyda Phrif Ysgrifennydd newydd i'r Trysorlys, oherwydd mae llawer o'r materion yr ydym ni'n ceisio symud ymlaen â nhw yn rhai manwl a chymhleth iawn. Mae'r materion sy'n ymwneud â chyllid yn lle'r cyllid oddi wrth yr UE a'r fformiwla a ddefnyddiodd Llywodraeth y DU i benderfynu ar y cyllid hwnnw, sy'n ein gadael £1 biliwn yn brin, mae angen i ni gael trafodaethau manwl am hynny. Mae angen i ni barhau â'r trafodaethau hynny yr ydym ni'n dechrau eu cael ynghylch hyblygrwydd cyllidol i Gymru. Felly, mae hi'n siomedig pan fydd yn rhaid i chi fynd yn ôl i'r dechrau un, dro ar ôl tro, gyda'r trafodaethau hyn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd meithrin perthynas dda, newydd, gref gyda'r Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys diweddaraf yn dechrau mynd â ni i lawr y llwybr hwnnw hefyd. Rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r berthynas honno.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae'n rhaid imi ddweud bod y llanast hwn yn dangos unwaith eto y graddau yr ydym ni yma yng Nghymru ar drugaredd mympwyol Gweinidogion yn San Steffan. Mae hynny'n tanlinellu unwaith eto sut mae'r setliad datganoli presennol yn ein gadael ni'n ddirym yn ariannol o ran gallu gwarchod ein buddiannau, a diogelu'r bobl sy'n agored i niwed yn ein plith, rhag penderfyniadau niweidiol Llywodraeth y DU.
Yn ddiweddar, fe wnaethoch chi ddisgrifio bod yn rhan o'r undeb a bod â Llywodraeth y DU yno fel rhyw fath o bolisi yswiriant i Gymru, ond siawns bod yn rhaid i chi dderbyn erbyn hyn ei bod hi wedi bod ychydig yn fwy tebyg i faen melin am ein gyddfau ni yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ac os nad yw digwyddiadau diweddar yn dadlau'r achos o blaid annibyniaeth, wel, siawns nad yw'n dadlau'r achos o blaid mwy o annibyniaeth gyllidol i Gymru: mwy o bwerau i ddiogelu ein pobl ni rhag yr enbydrwydd yr ydym ni'n ei deimlo eisoes ac mae'n siŵr y bydd hwnnw'n dwysáu yn ystod y misoedd nesaf.
Nawr, rydych chi'n dweud yn y datganiad mai Llywodraeth y DU sydd â'r ysgogiadau ariannol allweddol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn yr argyfwng costau byw, ac mae angen iddi ddefnyddio'r ysgogiadau hynny o ran trethiant mewn ffordd decach. Wel, pam fyddech chi'n caniatáu i'r Torïaid wneud eu gwaethaf, yn lle mynnu pwerau i chi wneud eich gorau i bobl Cymru? Fe wyddom ni, yn yr Alban, eu bod nhw'n gallu diwygio'r bandiau treth incwm hynny. Mae honno'n ffordd o gael gwell adlewyrchiad o allu pobl i dalu. Dyna'r lleiaf y gallwn ni ei ddisgwyl, rwy'n credu, yma yng Nghymru. Ond, os ewch chi â hynny i'r pegwn arall, os nad yw Llywodraeth y DU yn cyflwyno treth ffawdelw ar gwmnïau ynni, yna pam na allem ninnau fod â'r pwerau yma i wneud rhywbeth ynglŷn â hynny, yn lle gwneud dim ond cwyno mewn datganiad ysgrifenedig neu ddatganiad llafar?
Wedi dweud hynny, pwerau newydd, ie, iawn, mae hwnnw'n un peth, ond mae angen i ni ddefnyddio'r pwerau sydd gennym eisoes hefyd i'r effaith fwyaf posibl i amddiffyn y bobl fwyaf bregus rhag yr hyn sydd o'n blaenau ni. Gwnaeth y Prif Weinidog osgoi hyn unwaith eto yn gynharach, felly rwyf i am ofyn a fyddech chi'n cadarnhau bod amrywio cyfraddau Cymru o dreth incwm yn cael ei ystyried o ddifrif gan y Llywodraeth hon. Ac a wnewch chi ymuno â Phlaid Cymru i dderbyn ei bod hi'n ymddangos fel pe bai hi am fod yn angenrheidiol i weithredu fel hyn i, unwaith eto, liniaru rhai o'r toriadau dinistriol gan San Steffan sydd ar y gorwel?
Rydych chi'n iawn i feirniadu'r ffaith bod y pecyn cymorth ynni am gael ei gwtogi i chwe mis, oherwydd mae hynny'n rhoi ymyl clogwyn a phobl yn y tywyllwch o ran yr hyn a fydd yn digwydd ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. Rwy'n deall eich bod chi wedi siarad, fel roeddech chi'n dweud, gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, ond pa gynlluniau sydd gennych chi i siarad â'r Canghellor ei hun mewn gwirionedd, i nodi nid yn unig yr achos o blaid rhagor o bwerau cyllidol i Gymru, ond i wneud yn siŵr ei fod e'n deall y goblygiadau i Gymru oherwydd ei gyhoeddiadau diweddar, a gwneud yn siŵr hefyd, cyn y datganiad ar ddiwedd y mis, ei fod yn deall pa oblygiadau a allai fod i ni yma yng Nghymru?
O ran ynni yn benodol, a fyddwch chi'n dadlau'r achos o blaid yr eiddo hynny sydd oddi ar y grid, yn arbennig, oherwydd mae hwnnw'n rhywbeth sy'n peri pryder enfawr? Fe wn i fod Ben Lake, fy nghyd-aelod o Blaid Cymru sydd yn San Steffan, wedi codi'r angen am gefnogaeth o ran olew a phobl sydd oddi ar y grid. Ni wnaeth y Canghellor ddiystyru hynny. Felly, yn eich trafodaethau chi gyda'r Canghellor, a fyddwch chi'n ailadrodd yr angen i estyn cefnogaeth i'r rhai nad ydyn nhw'n gallu cael gafael arno yn yr un ffordd â'r rhan fwyaf o bobl ar hyn o bryd?
Nawr, ddoe, roedd eich datganiad ysgrifenedig chi'n nodi nad oedd y Canghellor ddim i fod o unrhyw gysur i'r rhai mwyaf agored i niwed. Wel, fe allem ninnau roi'r un dyfarniad ar eich datganiad chithau heddiw. Nid oes unrhyw beth sy'n newydd yma; ambell i gyfeiriad annelwig at gynlluniau cymorth a gyhoeddwyd yn flaenorol. Roeddwn i'n gobeithio y byddech chi'n dod yma heddiw mewn gwirionedd gyda rhywbeth ychydig yn fwy pendant i'w ddweud wrthym ni. Ac rydych chi'n dweud bod angen i Lywodraeth y DU ganolbwyntio ei hymdrechion o'r newydd i helpu'r rhai sydd yn yr angen mwyaf. Wel, siawns nad yw hynny yr un mor wir i Lywodraeth Cymru hefyd, ac onid yw hi'n bryd i chi fod yn paratoi cyllideb frys yma yng Nghymru i ganolbwyntio o'r newydd ac ailddyrannu adnoddau i helpu'r mwyaf anghenus, fel y dywedwch chi, a gwneud hynny ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, wrth gwrs, a pheidio aros tan y flwyddyn nesaf?
Ac yn olaf, o ran cyllideb y flwyddyn nesaf, rydych chi wedi dweud hyn ddwywaith nawr, yn y datganiad ysgrifenedig diwethaf ddoe a'ch datganiad llafar chi heddiw, y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei chyflwyno ar 13 o fis Rhagfyr. Fy nealltwriaeth i oedd mai'r cytundeb gwreiddiol oedd na fyddai hi'n ddim hwyrach na 13 o fis Rhagfyr, a bod y dyddiad hwnnw wedi cael ei ddewis, neu gael ei nodi, oherwydd ei fod o ran cyhoeddiad cyllidol disgwyliedig Llywodraeth y DU ym mis Tachwedd. O ystyried bod hwnnw am ddod yn gynt erbyn hyn, siawns eich bod chi mewn sefyllfa i gyhoeddi eich cyllideb ddrafft chi'n gynharach. Byddai hynny'n caniatáu mwy o graffu gan y Senedd hon, ac yn rhoi mwy o amser arweiniol hefyd i ddarparwyr y gwasanaethau cyhoeddus hynny yng Nghymru y bydd yn rhaid iddyn nhw wneud i bob ceiniog goch weithio mor galed â phosibl.
Rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl sylwadau hynny. Rwyf i am ddechrau lle y dechreuom ni'r tro diwethaf pan oeddem ni'n trafod cyllideb fach Llywodraeth y DU, a'r ffaith mai fy marn i yw nad y DU yw'r broblem, Llywodraeth y DU yw'r broblem, ac mae gennym ni gyfle i newid hynny. Rwy'n credu bod sefyllfa'r Prif Weinidog presennol yn gwbl anghynaladwy, yn fy marn i, yn enwedig oherwydd bod y gyflafan a ddilynodd hynny o'i gwneuthuriad hi ei hun, lawn cymaint â'r Canghellor, y gwnaeth hi ei ddiswyddo o'i waith.
Ond rwy'n credu bod y pwyntiau ehangach yn bwysig iawn o ran cael y sgwrs fwy eang honno am y pwerau sydd ar gael i ni yma yng Nghymru, a sut olwg fyddai ar gyfres well o bwerau. Rwy'n credu bod honno'n drafodaeth sy'n parhau. Mae hi'n gyfredol iawn. Mae'r Sefydliad Materion Cymreig yn gwneud gwaith hynod ddiddorol ar hyn o bryd mewn maes fel hwn, i geisio tynnu pobl eraill a lleisiau eraill i mewn i'r sgwrs honno, rhywbeth sydd wir i'w groesawu yn fy marn i.
O ran cyfraddau treth incwm Cymru, nid wyf i o'r farn bod y Prif Weinidog yn osgoi heddiw. Rwy'n credu ei fod ef wedi gwneud dim ond nodi yn onest, yn yr ystyr y bu ni'n eglur iawn ein bod ni â phroses sefydledig o ran cyfraddau treth incwm i Gymru, sy'n parhau pob un flwyddyn. A honno yw ystyried cyfraddau Cymru o'r dreth incwm, ac ystyried y gwaith y mae'n rhaid i gyfraddau treth incwm Cymru ei wneud wrth ariannu gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, ac yna fe gyhoeddwn ni'r penderfyniadau hynny ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft.
Dim ond i barhau â'r drafodaeth a oedd yn digwydd rhwng y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru yn gynharach heddiw, ynglŷn â chyfraddau treth incwm i Gymru, fe wn i fod rhywfaint o ddiddordeb yn y swm y gellid ei godi drwy gyfraddau uwch a chyfraddau ychwanegol, yn arbennig felly. Wel, fe fyddwn ni'n dechrau gyda'r gyfradd sylfaenol, a dyma'r ffigwr sy'n cael ei ddyfynnu'n aml iawn yn y Siambr: fe fyddai hynny'n codi tua £220 miliwn. Ond wedyn fe fyddai'r gyfradd uwch—a pe byddech chi'n codi un geiniog yw hyn—yn codi oddeutu £30 miliwn, ac yna dim ond £4 miliwn pe byddech chi'n codi'r gyfradd ychwanegol. Felly, rwy'n credu bod hynny'n ein helpu ni ychydig wrth roi rhyw gyd-destun defnyddiol, mewn gwirionedd, ar gyfer y mathau o benderfyniadau y bydd yn rhaid i ni eu gwneud, a'r mathau o ddewisiadau sydd ar gael i ni. Ond dim ond i fod yn gwbl onest: nid oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud. Rwy'n credu bod tro pedol Llywodraeth y DU ynglŷn â'r dreth incwm wedi newid y cyd-destun ar gyfer y penderfyniadau hynny erbyn hyn, ond fe fyddwn ni'n cynnal y trafodaethau hynny wrth i ni symud tuag at gyhoeddiad y gyllideb ddrafft ar 13 o fis Rhagfyr.
Fy mwriad yw aros gyda dyddiad y 13 o fis Rhagfyr, oherwydd mae hwnnw'n parchu'r protocol sydd gennym ni gyda'r Pwyllgor Cyllid. Ond hefyd, rwy'n credu bod yn rhaid i mi ddweud wrth bobl mai hon fydd y gyllideb anoddaf y gwnaethom ni ei phennu ers datganoli, yn yr ystyr ein bod ni'n edrych yn barod ar gyllideb sydd werth £1.5 biliwn yn llai'r flwyddyn nesaf. Mae hynny cyn unrhyw doriadau sy'n cael eu cyhoeddi naill ai ar 31 o fis Hydref neu mewn datganiad gwanwyn sydd ar ddod. Felly, fe fydd hon yn gyllideb lle rydym ni'n edrych eto ar ein rhaglen lywodraethu ni, rydym ni'n ailystyried ein blaenoriaethau ni ac yn y blaen. Mae hi'n bosibl y gallai hon fod yn gyllideb lle byddwn ni'n cael ein gorfodi i dorri prif grwpiau neu raglenni gwariant ac yn y blaen ynddi hi. Felly, rwyf i o'r farn fod hynny'n rheswm da pam mae angen amser i wneud y gwaith yna yn y Llywodraeth.
Mae hi'n wir yn aml ein bod ni'n cael ein gofyn i ganiatáu mwy o amser ar gyfer craffu nag ar gyfer paratoi'r gyllideb hyd yn oed. Fe hoffwn i ddisgrifio'r gwaith mawr sy'n digwydd wrth ddatblygu cyllideb, o ran y comisiynau hynny sy'n mynd allan i bob un o fy nghydweithwyr. Mae cyfres o gyfarfodydd dwyochrog gyda phob un o fy nghydweithwyr gweinidogol. Bydd eu hadrannau nhw i gyd yn edrych ar eu rhaglenni nhw ac yn ceisio ystyried beth a ellid ei wneud yn wahanol, lle mae'r pwysau, ac yn y blaen. Felly, mae'r pethau hyn yn cymryd wythnosau lawer i'w gwneud, a phan rydym ni'n ystyried cyllideb sy'n ymwneud â thoriadau yn hytrach na dyraniadau, mae hynny'n gwneud y dasg yn anoddach fyth. Felly, roeddwn i'n awyddus i ddweud wrth gydweithwyr mai hwnnw yw'r rheswm pam mae angen amser arnom ni i ymgymryd â'r gwaith hwn. [Torri ar draws.] Ac ydw, rwy'n cytuno bod y gwaith craffu yn bwysig iawn hefyd, ond mae'r amserlen yr ydym ni'n ei nodi yn parchu'r gwaith craffu hwnnw.
Felly, o ran y pwyntiau eraill a godwyd: ie, rwy'n sicr am fwrw ymlaen â'r pwyntiau penodol yr oeddech chi'n awyddus i'w codi gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chefnogaeth oddi ar y grid, er enghraifft, ac rwy'n rhannu'r pryderon am gyhoeddi dileu'r cap ynni o fis Ebrill. Rwy'n credu y bydd hynny ond yn achosi llawer o ofid i aelwydydd yng Nghymru nawr sydd angen mwy o sicrwydd i gynllunio ar gyfer y cyfnod sydd i ddod.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod nhw am sefydlu adolygiad o'r cymorth gydag ynni, ac fe fuom ni'n eglur iawn bod yn rhaid i'r adolygiad hwnnw ddechrau a gorffen yn gyflym iawn. Roedd Llywodraeth y DU, yn y cyfarfod ddoe, yn eithaf agored y gallwn ni fod yn rhan lawn o'r adolygiad hwnnw a bod â mewnbwn i'r adolygiad hwnnw. Y Trysorlys fydd yn ei arwain, ond rwy'n credu eu bod nhw—. O bosibl oherwydd mai dyma oedd ein cyfarfod cyntaf ni, fe wnaethon nhw ddechrau mewn ffordd golegaidd iawn, gan ddymuno bod yn agored a thryloyw. Felly, roeddwn i o'r farn ei bod hi'n ymddangos yn gyfle da i ni allu gweithio gyda'n gilydd i ddechrau o bosibl, ac fe fyddai hwnnw'n gyfle i ni nodi yn hollol yr hyn y mae ein hetholwyr ni'n ei deimlo o ganlyniad i'r sefyllfa bresennol, a'r diffyg sydd o ran gallu i fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus gynllunio ymlaen llaw yn y sefyllfa hon hefyd.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Rwyf i am ddechrau drwy groesawu sylwadau llefarydd y Ceidwadwyr, mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod pa mor anodd y gall y cyfraniadau hyn fod, ond roedd hi'n ymddangos eich bod chi'n llafurio tuag at edifeirwch. Rwy'n gobeithio y bydd yn gallu cwblhau'r daith dros yr wythnosau nesaf.
Fe wyddom ni y bydd methiant Llywodraeth y DU i reoli'r economi gyffredinol yn cael canlyniadau gwirioneddol, ac mae'r Gweinidog wedi amlinellu'r canlyniadau dinistriol i'n gwasanaethau cyhoeddus ni yn rhan o hynny. Eto i gyd, fe hoffwn i fynd i'r afael â materion eraill y prynhawn yma. Rydym ni'n gwybod hefyd fod gan gyllideb y DU, os mynnwch chi, dwll o £40 biliwn yn ei chanol oherwydd Brexit, a beth bynnag arall yr ydym ni'n ei wneud o ran gwneud penderfyniadau economaidd, oni bai ein bod ni'n gallu masnachu yn ddidramgwydd gyda'n cymdogion agosaf fe fydd ein heconomi ni'n siŵr o danberfformio drwy'r amser. Fe fyddwn i'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau edrych o ddifrif nawr ar y ffordd y byddwn ni'n cychwyn ar daith tuag at ailymuno â'r undeb tollau a'r farchnad sengl er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu ailddechrau gweithgarwch economaidd yn y wlad, ond hefyd, Gweinidog, eich bod chi'n arwain trafodaeth ar drethiant.
Rydych chi wedi ateb, roeddwn i'n meddwl, y cwestiynau a godwyd gan Blaid Cymru'r prynhawn yma'n fanwl iawn, ond mae angen dadl yng Nghymru, yn y lle hwn, ynghylch cyfraddau trethiant. Ni allwn ni ddarparu'r gwasanaethau y dymunwn eu darparu na llunio'r wlad yr ydym ni'n dymuno byw ynddi hi heb yr incwm angenrheidiol o drethiant ar gyfer gwneud hynny. Mae ein cyfraddau ni o drethiant, pa geiniog bynnag yma neu acw, yn sylweddol is na'r cyfraddau mewn economïau eraill o'r fath, ac mae hynny'n golygu y bydd ein gwasanaethau cyhoeddus ni bob amser wedi'u tanfuddsoddi mewn termau cymharol. Rwy'n gobeithio y gallwn ni ddechrau'r ddadl honno.
Yn rhan o'r ddadl honno—ac nid wyf i am drethu dim mwy ar amynedd y Llywydd—bydd angen dadl ynglŷn â'r pwerau ariannol sydd ar gael i'r lle hwn. Roedd y Prif Weinidog yn eglur iawn wrth ateb cwestiwn gan yr Aelod dros Gwm Cynon yn gynharach sef bod y pwerau benthyca sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ymhell o fod yn ddigonol—mewn gwirionedd, maen nhw'n gwbl anfoddhaol ac annigonol. Ond mae angen i ni edrych ar bwerau benthyg ymysg cyfres o bwerau eraill sydd ar gael i'r lle hwn ac i Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl offer sydd ar gael i ni sydd ei angen arnom ni i gyflawni nid yn unig ein huchelgeisiau i'r rhaglen lywodraethu, ond ar gyfer amddiffyn Cymru rhag anallu Llywodraeth Dorïaidd yn Llundain nad yw hi'n malio o gwbl amdanom ni na'n cenedl ni mewn gwirionedd.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau hynny. Mae Alun Davies yn gwbl gywir fod yna ganlyniadau gwirioneddol ym mywydau a gweithgarwch pobl o ganlyniad i benderfyniadau Llywodraeth y DU a'r anrhefn yn eu sgil nhw'n ddiweddar, yn bennaf, er enghraifft, gyda'r codiadau yng nghyfraddau morgais y cyfeiriodd y Prif Weinidog atyn nhw yn ei ddatganiad yn gynharach heddiw. Rwy'n llwyr gydnabod yr hyn a ddywedwyd am y twll yn y gyllideb oherwydd Brexit. Rwyf i o'r farn, fy hunan, fod COVID a'r argyfwng costau byw nawr yn cuddio'r effaith y mae Brexit yn ei gael ar yr economi. Yn anochel, fe fyddwn ni'n gweld niwed hirdymor i'r economi oherwydd Brexit yn unig, heb sôn am y materion eraill i gyd o ran y pandemig a chostau byw. Ni wnaf i ddim ond dweud wrth Alun Davies ein bod ni'n gytûn, fwy na thebyg, o ran y mater penodol hwn i raddau helaeth iawn ac felly rwy'n siŵr y byddwn ni'n cael trafodaethau pellach am hynny maes o law.
Rwy'n cytuno hefyd ynglŷn â'r angen i ni gynnal dadl ehangach ar drethiant. Hyd yn oed ers i mi fod yn y swydd hon, rwyf i wedi gweld newid mawr yn y duedd, mewn gwirionedd, o ran maint y diddordeb sydd yna ynglŷn â phwerau Llywodraeth Cymru i godi trethi, ond y rhan sydd gan drethiant yn fwy cyffredinol, ynglŷn ag annog ymddygiadau penodol, ond i godi arian i'r cyhoedd hefyd. Rwy'n credu bod y gwaith y mae'r Sefydliad Materion Cymreig, y gwnes i gyfeirio ato, wedi bod yn ei wneud yn ddefnyddiol iawn yn y maes hwn hefyd. Mae adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig yn rhoi ystyriaeth wirioneddol i bwerau benthyca, ac rwy'n credu ei fod yn dadlau'r achos o blaid benthyca darbodus, sy'n rhywbeth arall y byddem ni'n ei gefnogi yn frwd iawn. Ond wrth feddwl am yr effaith, ers y gyflafan wedi'r gyllideb fach, os edrychwn ni ar yr effaith a fu ar fenthyca'r Llywodraeth, fe fyddai £100 miliwn o fenthyca'r llynedd wedi costio £4.6 miliwn y flwyddyn i'w gynnal, tra byddai £100 miliwn o fenthyca yn costio £6.8 miliwn y flwyddyn i'w gynnal nawr. Dyna gynnydd o bron i 50 y cant. A thros y tymor benthyca, fe fyddem ni'n talu £69 miliwn mewn llog nawr o'i gymharu â dim ond £16 miliwn mewn llog y llynedd. Felly, dyna enghraifft arall o'r byd go iawn o hynny o'r effaith a achosodd yr anhrefn ar gyllidebau.
Ac yn olaf, Carolyn Thomas.
Diolch. Pan oeddwn i'n gynghorydd yn gorfod ymdrin â 10 mlynedd o gyni a thoriadau, roeddem ni'n aml yn gofyn pa ddiben oedd yna i'r Llywodraeth bennu polisïau a'r Senedd bennu polisïau pan nad oedd y gyllideb na'r adnoddau gennym ni i'w cyflawni nhw mewn gwirionedd. Mae'r sefyllfa wedi gwaethygu llawer erbyn hyn oherwydd yr anrhefn a phwysau chwyddiant a ddaeth trwy gamau Llywodraeth y DU. Mae gan Gaerdydd fwlch o £53 miliwn sy'n rhaid ei wynebu. Mae Conwy, Wrecsam a sir y Fflint yn edrych ar fwlch ariannol o £26 miliwn, felly fe fydd yn rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau anodd iawn. Roedden nhw'n dweud pe bydden nhw'n rhoi'r gorau i gasglu unrhyw wastraff, ac yn torri pob trafnidiaeth gyhoeddus, pe bydden nhw'n rhoi'r gorau i dorri'r glaswellt mewn caeau chwarae ac yn cau'r pyllau nofio, er hynny i gyd, ni fyddai ganddyn nhw ddigon o arian i lenwi'r bwlch. Mae hi'n enbyd. Mae'r pwysau ynni iechyd yn £90 miliwn i £100 miliwn, fe ddysgais i wythnos diwethaf. Heb dorri gwasanaethau iechyd i ariannu'r bwlch hwnnw, pan fo angen codiad cyflog ar nyrsys, y rhestrau aros enfawr gennym ni, ac yn gynharach fe glywsom ni am amseroedd aros ambiwlansys—. Sut ydym ni am lenwi'r bwlch hwnnw? Nid oes unrhyw amcan gennyf i. Rwy'n gwybod eich bod chi'n deall, ond nid wyf i'n credu bod Llywodraeth y DU na Jeremy Hunt yn deall hyn. A'r broblem yw y bydd toriadau o'r fath yn rhoi pobl benben â'i gilydd hefyd, mewn gwasanaethau amrywiol, sy'n gwbl anghywir, pan fo angen mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn y bôn.
Mae angen i chi ofyn y cwestiwn nawr, os gwelwch chi'n dda.
Diolch i chi. Felly, Gweinidog, pa sylwadau ydych chi am eu rhoi mewn ymateb i Lywodraeth y DU o ran yr angen sydd arnom ni i gael buddsoddiad yn y gwasanaethau cyhoeddus? Mae 30 y cant o bobl yng Nghymru yn cael eu cyflogi mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac mae eu hangen nhw arnoch chi i helpu'r sector preifat i dyfu. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i chi am godi hyn a rhoi darlun gwirioneddol gignoeth hefyd o'r heriau sy'n wynebu awdurdodau lleol, yn enwedig y rhai yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw yn y gogledd. Fe gefais i gyfle yn ddiweddar i gyfarfod ag is-grŵp cyllid Cyngor Partneriaeth Cymru, a gyda phwyllgor gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd, i siarad am y pwysau sydd ar y gyllideb. Erbyn hyn mae gennym ni gyfres o gyfarfodydd bob pythefnos gydag arweinwyr yr awdurdodau lleol, ac yn y cyfarfodydd hynny rydym ni'n gallu trafod materion fel pwysau cyllidebol hefyd. Rwyf i wir yn gweld y cyfarfodydd hynny'n eithriadol o ddefnyddiol o ran gallu clywed beth yn union sy'n digwydd mewn awdurdodau lleol, a maint y bylchau ariannu maen nhw'n eu nodi.
Rwy'n credu ei bod hi'n heriol dros ben eleni, ond wrth edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf a'r flwyddyn wedyn, rwy'n credu mai'r blynyddoedd hynny sy'n fwyaf tebygol o fod yn cadw arweinwyr ar ddeffro drwy'r nos ar hyn o bryd. Dyma'r union her ag yr ydym ni'n ei hwynebu hi o ran effaith chwyddiant, a dyna pam mae'n rhaid i Lywodraeth y DU newid eu cwrs yn llwyr o ran y bygythiadau hyn i doriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd, fel rydych chi'n ei awgrymu, swyddi yw'r rhain, a gwasanaethau yw'r rhain yr ydym i ni gyd yn dibynnu arnyn nhw yn ein cymunedau. Nid yw awdurdodau lleol yn gwario symiau enfawr o arian ar bethau dibwys; maen nhw'n darparu addysg, maen nhw'n darparu gwasanaethau cymdeithasol, maen nhw'n ymdrin â gwastraff, ac yn y blaen.
Rwy'n credu bod y negeseuon hyn yn bwysig iawn, ac mae angen iddyn nhw anfon ateb i Lywodraeth y DU bod angen buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus ni, yn hytrach na bod yn ystyried torri gwasanaethau cyhoeddus ar yr amser arbennig hwn, gyda'r holl oblygiadau a fydd gan hynny i swyddi, a'r cylch ofnadwy hwnnw wedyn pan allai pobl fod yn colli eu swyddi a mynd yn gynyddol ddibynnol ar wasanaethau, ac mae'r gwasanaethau hynny'n cael eu cwtogi eu hunain, ac yn y blaen. Fe allai honno fod yn droell annymunol iawn i ni.
Diolch i'r Gweinidog.