1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 25 Hydref 2022.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fesurau Llywodraeth Cymru i drechu tlodi plant yng Ngorllewin De Cymru? OQ58632
Llywydd, diolch i Sioned Williams am y cwestiwn. Rydyn ni yng nghanol argyfwng tlodi, ac yn gwneud popeth y gallwn ni ar gyfer y rhai sydd fwyaf agored i niwed, gan gynnwys plant. Eleni, drwy raglenni sy’n amddiffyn cartrefi sydd dan anfantais, a chynlluniau sy’n rhoi arian nôl ym mhocedi pobl, rydyn ni wedi darparu gwerth £1.6 biliwn o gymorth.
Diolch, Prif Weinidog. Datgelodd y gwaith ymchwil diweddaraf gan Sefydliad Bevan bod nifer y bobl ar aelwydydd ag un neu ddau o blant sy'n gorfod lleihau faint o fwyd maen nhw'n eu bwyta bron wedi dyblu ers yr adeg yma y llynedd, gydag un o bob 10 teulu ag un plentyn, ac un o bob pum teulu â dau blentyn yn lleihau'r bwyd y maen nhw'n ei roi i'w plant. Felly, mae'r nifer syfrdanol yna o 6,300 o blant y cofnodwyd eu bod yn byw mewn tlodi yn fy sir enedigol, Castell-nedd Port Talbot, yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, wedi codi hyd yn oed yn uwch dros yr wythnosau diwethaf wrth i gostau bob dydd saethu i fyny. Ac rydym ni'n gwybod bod y tlodi hwn yn achosi anghydraddoldebau iechyd yn ein cymunedau, rhywbeth y mae 114 aelod o'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi tynnu sylw ato yn eu llythyr agored diweddar atoch chi, sy'n rhybuddio nad oes gan Gymru strategaeth wedi'i chanolbwyntio ac amlwg, sy'n pennu targedau penodol i leihau tlodi plant a chanlyniadau iechyd anghyfartal. Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi cynllun y bobl a fyddai'n gwneud i'r pecyn cyflog fynd ymhellach, yn ymestyn prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd ac yn cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg. Prif Weinidog, a wnewch chi wrando ar eiriau'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, ac a wnewch chi weithio gyda Phlaid Cymru i ddiogelu plant Cymru rhag tlodi?
Wel, Llywydd, diolch i Sioned Williams am rai o'r ffeithiau pwysig iawn hynny. Rwy'n credu fy mod i wedi adrodd yn flaenorol i'r Senedd bod pwyllgor costau byw'r Cabinet yn cyfarfod yn wythnosol, ac, ar ddechrau pob cyfarfod, rydym ni'n clywed ar hyn o bryd gan grwpiau arbenigol sy'n gallu rhoi'r wybodaeth a'r syniadau diweddaraf i ni ynglŷn â sut y gallwn ni wneud mwy i helpu pobl yng Nghymru. Fe wnaeth pwyllgor y Cabinet gyfarfod ddoe, a ddoe roedd y dystiolaeth arbenigol yn wir gan Sefydliad Bevan. Aeth prif weithredwr y sefydliad drwy nifer o'r pwyntiau y mae Sioned Williams wedi eu codi y prynhawn yma, ac aeth drwy'r pethau y mae'r sefydliad yn credu sy'n cael effaith gadarnhaol yma yng Nghymru gyda ni, y pethau rydym ni wedi eu gwneud ar y cyd â Phlaid Cymru i ymestyn prydau ysgol am ddim—ac mae dros 4,000 o blant ychwanegol yn rhanbarth yr Aelod yn derbyn pryd ysgol am ddim o ganlyniad i'r gwaith rydym ni wedi ei wneud gyda'n gilydd—ac edrych ar effaith y cymorth rydym ni'n ei roi gyda chost y diwrnod ysgol, a gyda'r gronfa cymorth dewisol, gyda dros 4,500 o ddyfarniadau yn rhanbarth yr Aelod yn unig ym mis Medi. Yr holl bethau ymarferol hynny yr ydym ni'n gallu eu gwneud, a'r agweddau ymarferol y mae'r Llywodraeth hon yn canolbwyntio arnyn nhw. Mae gwaith yn cael ei wneud, dan arweiniad fy nghyd-Weinidog Jane Hutt, ar strategaeth tlodi plant ond, ar hyn o bryd, rydym ni'n canolbwyntio llai ar strategeiddio nag yr ydym ni ar nodi'r camau ymarferol hynny y gallwn ni gynorthwyo â nhw a fydd yn helpu'r teuluoedd hynny a'r plant hynny drwy'r gaeaf hwn.
Rwy'n falch iawn, Llywydd, o weld mwy o awdurdodau lleol yn nodi'r ffyrdd y byddan nhw'n defnyddio'r gronfa ddewisol yr ydym ni wedi ei darparu iddyn nhw i helpu teuluoedd drwy'r gaeaf hwn, a gwn y bydd Sioned Williams yn falch o weld, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, yn ei rhanbarth hi, bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu defnyddio'r arian sydd ganddyn nhw nawr i ddarparu £50 i deuluoedd ar gyfer pob plentyn ym mhob teulu sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, a £150 i'r holl deuluoedd hynny sydd â phlant sy'n byw mewn llety dros dro. Lle mae syniadau pellach, a phethau pellach y gallwn ni weithio arnyn nhw gyda'n gilydd, yna, wrth gwrs, bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn awyddus i ymchwilio i syniadau sy'n ymarferol, ac sydd, o safbwynt ariannol, o fewn ffiniau'r posibl.
Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o'r adroddiad diweddar gan Brifysgol Loughborough a ddangosodd bod tlodi plant ledled y DU, yn 2020-21, wedi gostwng 4 y cant, ond, yng Nghymru, roedd wedi cynyddu 5 y cant. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni, Prif Weinidog, pam mae'r ystadegau yn dweud wrthym ni fod eich Llywodraeth Lafur Cymru yn methu â mynd i'r afael â thlodi plant?
Llywydd, nid yw'r ffigyrau'n dangos y fath beth. Yr hyn mae'r ffigyrau'n ei ddangos yw effaith toriadau i fudd-daliadau gan Lywodraeth y DU. Ac os ydych chi'n byw mewn rhan o'r wlad lle mae mwy o deuluoedd yn dibynnu ar fudd-daliadau, yna mae'r toriadau i'r budd-daliadau hynny, wrth gwrs, yn cael mwy o effaith. Gadewch i mi ddweud wrtho beth mae'r gwaith ymchwil ddiweddaraf yn ei ddweud wrthym ni am weithredoedd ei Lywodraeth. Mae'r Resolution Foundation yn canfod, os nad yw budd-daliadau'n cael eu codi yn unol â chwyddiant, yna bydd 300,000 o blant eraill ar draws y Deyrnas Unedig yn canfod eu hunain mewn tlodi llwyr. Mae'n debyg mai dyma'r bedwaredd wythnos yn olynol yr wyf i wedi gwahodd y Ceidwadwyr Cymreig i ddweud eu bod nhw'n credu y dylid cynyddu budd-daliadau—[Torri ar draws.] Wel, os gwnaethoch chi ddweud hynny wythnos diwethaf, yna rwy'n falch iawn—[Torri ar draws.] Os gwnaethoch chi ei ddweud yr wythnos diwethaf, rwy'n falch dros ben o'i gydnabod, oherwydd rwy'n meddwl po fwyaf y gallwn ni siarad gyda'n gilydd ar y mater hwnnw, y mwyaf o ddylanwad fydd gennym ni. Ac o ystyried hynny, fel plaid, mae gennych chi allu uniongyrchol i ddylanwadu ar Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan i wybod eich bod chithau hefyd yn credu y dylid cynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant, byddai hynny'n newyddion da i'r teuluoedd tlawd hynny yng Nghymru. Hyd yn oed os yw budd-daliadau'n cael eu cynyddu yn unol â chwyddiant, yna mae'r Resolution Foundation yn dweud y bydd tlodi plant ar draws y Deyrnas Unedig yn codi i 34 y cant—yr uchaf ers dros 20 mlynedd. Ac i bobl sy'n ddibynnol ar gymorth di-waith sylfaenol, bydd gwir werth y cymorth hwnnw yn is nag yr oedd ar yr adeg pan oedd Mrs Thatcher yn Brif Weinidog y DU. Dyna pam rydych chi'n gweld y ffigurau rydych chi'n eu dyfynnu—oherwydd effaith y 12 mlynedd diwethaf ar incwm y teuluoedd tlotaf ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig.
Mae llawer o blant yn byw mewn tlodi nad yw wedi'i achosi gan ddiogi neu afradlondeb rhieni; mae llawer o rieni yn gweithio dwy neu dair swydd, ond am isafswm cyflog, ar oriau afreolaidd. Mae ehangu prydau ysgol am ddim i ddarpariaeth gyffredinol o brydau bwyd i'w groesawu'n fawr. Pa gymorth pellach all Llywodraeth Cymru ei roi i gynorthwyo banciau bwyd, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud dadl i roi terfyn ar y tâl sefydlog gan gwmnïau ynni, sy'n golygu bod pobl yn talu am ynni ar ddiwrnodau nad ydyn nhw'n defnyddio unrhyw ynni? Dyma'r tâl mwyaf creulon sydd gennych chi—dydych chi ddim yn defnyddio unrhyw ynni am bum diwrnod, ac yna rydych chi'n cynhesu powlen o gawl, sy'n costio tua £2.50 neu £3.00 i chi.
Mae Mike Hedges yn gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn, Llywydd. Rwy'n meddwl mai un o gelwyddau mwyaf niweidiol tlodi yw bod tlodi yn cael ei achosi rywsut gan y bobl sydd mewn tlodi. Nid wyf i erioed wedi cwrdd â phobl a allai reoli arian yn well na'r bobl hynny sydd â'r lleiaf i ymdopi ag ef—mae'n rhaid iddyn nhw. Ac mae'r syniad mai diogi neu afradlondeb rhieni sy'n gyfrifol i'w wrthod yn llwyr. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £1 miliwn arall i gynorthwyo gwaith gwrth-dlodi ar lefel gymunedol yng Nghymru dim ond wythnos neu ddwy yn ôl. Mae hynny bellach yn £5 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Ac mae llawer o hynny'n mynd yn uniongyrchol i fanciau bwyd, sydd bellach yn gweld bod y rhoddion yr oedden nhw'n gallu dibynnu arnyn nhw cynt yn lleihau wrth i deuluoedd hyd yn oed ymhellach i fyny'r lefel incwm fethu â rheoli effaith prisiau ynni a chwyddiant bwyd. Tynnodd Sioned Williams sylw at waith Sefydliad Bevan, Llywydd, a bydd yn gwybod nawr, yn y gwaith hwnnw, nad teuluoedd sydd ar yr incwm isaf oll yn unig sy'n dweud na allan nhw fforddio'r pethau sylfaenol erbyn hyn; mae teuluoedd ymhellach i fyny'r raddfa incwm yn dweud hynny hefyd, wrth i bobl ganfod bod y pethau y maen nhw wedi gwneud ymrwymiadau iddyn nhw pan oedden nhw mewn cyfnod gwell bellach y tu hwnt i'w cyrraedd.
Ac mae'r pwynt y mae Mike Hedges yn ei wneud am daliadau sefydlog a'r mesuryddion talu ymlaen llaw, Llywydd, yn fy marn i, yn un o anghyfiawnderau mawr ein hoes. Codais hyn yn uniongyrchol gyda Gweinidogion y DU yng Nghyngor Prydain-Iwerddon pan gyfarfu ym mis Gorffennaf, ac ysgrifennais yn syth wedyn at Weinidog Llywodraeth y DU a oedd yn bresennol, gan ofyn iddo weithredu ar lefel y DU i ganslo taliadau sefydlog i bobl sy'n dibynnu ar fesuryddion talu ymlaen llaw. Ni all fod dim gwaeth, Llywydd, a all yna, na chanfod, ar ôl methu â chael mynediad at ynni ers llawer o ddiwrnodau a chrafu'r arian at ei gilydd er mwyn gallu llenwi'r mesurydd talu ymlaen llaw eto, nad yw'r arian rydych chi wedi ei roi ynddo yn ddim byd tebyg i'r arian yr ydych chi wedi ei ganfod gan ei fod eisoes wedi cael ei gymryd oddi arnoch? Mewn llawer o achosion, byddwch wedi cael eich rhoi ar fesurydd talu ymlaen llaw oherwydd dyled. Mae 60,000 o gwsmeriaid mesuryddion talu ymlaen llaw newydd yn y Deyrnas Unedig hyd yma eleni. Mae eu mesuryddion yn cael eu graddnodi fel mai'r peth cyntaf y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud yw talu'r arian sy'n ddyledus ganddyn nhw yn ôl. Wedyn maen nhw'n canfod, yn yr holl ddiwrnodau pan nad oedd ganddyn nhw unrhyw drydan o gwbl, bod yn rhaid iddyn nhw dalu tâl sefydlog am gyfnod pan nad oedden nhw'n gallu cael mynediad at y gwasanaeth. Dychmygwch faint y mae'n rhaid bod hynny'n brifo. Mae'r pwynt y mae Mike Hedges yn ei wneud am y camau y gellid eu cymryd, am gost isel iawn, rwy'n credu, i'r Llywodraeth neu i'r cwmnïau, i unioni'r anghyfiawnder hwnnw yn alwad hynod bwysig rydym ni wedi ei chlywed y prynhawn yma.