3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 8 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 3:02, 8 Tachwedd 2022

Rwy'n aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a gynhaliodd ymchwiliad i'r rhaglen Cartrefi Clyd, gan wneud argymhellion o ran dysgu gwersi a gwella fersiwn newydd y rhaglen. Wrth ymateb i'r argymhellion, fe awgrymodd y Llywodraeth y byddai diweddariad ynglŷn â'r fersiwn nesaf yn fuan wedi toriad yr haf. Mae'ch datganiad heddiw, a ninnau nawr ym mis Tachwedd, yn hwyr ac yn niwlog o ran gosod amserlen glir. Os yw'r broses gaffael, fel y sonioch chi, i ddigwydd yn 2023, ai felly wedi mis Ebrill 2024 y bydd y rhaglen newydd yn lansio, flwyddyn yn hwyrach na'r nod? Ac er hefyd i chi sôn am rai newidiadau i'r rhaglen Nest bresennol, pam nad oedd sôn am welliannau brys a gwerthfawr y gellid eu gwneud nawr, o ystyried bod tlodi tanwydd y rhai sy'n gymwys yn dwysáu yn yr argyfwng presennol o fewn y cynllun Nest presennol, er enghraifft, cyfuno gwaith ar ffabrig tai, ar insiwleiddio, gyda'r gwaith o ffitio systemau gwresogi yn y tai lleiaf ynni effeithiol?