– Senedd Cymru am 3:52 pm ar 8 Tachwedd 2022.
Eitem 5 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, ffliw adar. Galwaf ar y Gweinidog, Lesley Griffiths, i wneud y datganiad.
Diolch Dirprwy Lywydd. Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi bod yn dyst i'r achosion mwyaf difrifol o ffliw adar yng Nghymru ac ar draws Prydain. Dyma'r achos mwyaf o glefyd hysbysadwy egsotig mewn anifeiliaid ers yr achosion trychinebus o glwy'r traed a'r genau yn 2001. Nid yw Prydain Fawr ar ei phen ei hun yn hyn o beth. Mae'r straen yma o ffliw adar yn effeithio ar adar yn y rhan fwyaf o Ewrop, a rhannau o Asia a Gogledd America.
Mae'r achos presennol wedi bod yn unigryw yn ei natur. Cyn hynny, dim ond yn ystod rhai gaeafau y cafwyd ffliw adar, o ganlyniad iddo gael ei gludo gan adar mudol y gaeaf. Pan adawodd yr adar hynny ein glannau, fe adawodd y clefyd hefyd. Eleni, rydym wedi gweld straen H5N1 yn lledaenu ymhlith rhai adar gwyllt preswyl, gan achosi dinistr i rai nythfeydd adar y môr, gan achosi i'r haint barhau dros yr haf, ac rydym bellach yn gweld achosion mewn adar domestig yr hydref hwn.
Fel bob amser, rydym wedi mabwysiadu dull gweithredu sy'n cael ei arwain gan wyddoniaeth i atal y mewnlifiad difrifol hwn o glefyd, gyda'r wybodaeth wyddonol yn datblygu wrth i'r achosion esblygu. Mewn ymateb i'r patrwm newidiol o fygythiad clefydau, rydym wedi parhau i gadw golwg ar ffliw adar mewn adar gwyllt ac wedi cynnal y pwyntiau sbarduno i ymchwilio i adar gwyllt marw yng Nghymru, er gwaethaf pwysau adnoddau amlwg i gynyddu'r trothwy hwnnw.
Rydym wedi gweithio ar draws y Llywodraeth, asiantaethau a grwpiau rhanddeiliaid er mwyn galluogi cyhoeddi'r strategaeth liniaru ar y cyd ar gyfer adar gwyllt i Gymru a Lloegr. Mae'r strategaeth hon yn nodi canllawiau ymarferol i reolwyr tir, aelodau'r cyhoedd a sefydliadau adaryddol ac amgylcheddol, mewn ymateb i fygythiad ffliw adar i adar gwyllt.
Wrth gwrs, nid yw clefyd yn parchu ffiniau a, drwy gydol yr achos hwn, rydym wedi gweithio'n agos gyda chyd-Weinidogion yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Llywodraeth yr Alban i arwain ymateb cydlynol a chydgysylltiedig i fynd i'r afael â ffliw adar, gan ymateb i'r dystiolaeth a'r cyngor gwyddonol o'r radd flaenaf a ddarperir gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Mae bygythiad ffliw adar i adar caeth ac i adar gwyllt yn cael ei adolygu'n wythnosol. Mewn ymateb i lefelau risg uwch, datganodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru barth atal ffliw adar drwy Gymru gyfan ar 17 Hydref 2022. Mae'r parth atal ffliw adar, AIPZ, hwn yn gofyn i bob ceidwad adar, ni waeth beth fo nifer yr adar a gedwir, i fabwysiadu mesurau bioddiogelwch syml ond hanfodol i gadw eu hadar yn ddiogel rhag haint. Eleni, rydym wedi tynhau'r mesurau hyn ac wedi cynnwys gofyniad newydd i gadw adar caeth oddi ar dir y gwyddys bod adar dŵr gwyllt yn bresennol yn aml neu wedi'u halogi â'u baw. Mae profiad yn sgil cymaint o achosion o ffliw adar yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi dysgu ni sut mae'r haint yn cael ei ledaenu ymhlith adar caeth. Mae ein mesurau AIPZ wedi'u cynllunio i gau'r llwybrau hyn o ledaenu ac mae'n rhaid eu cymhwyso'n drwyadl gan bob ceidwad. Hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i ddiolch i geidwaid ledled Cymru sy'n cadw at y mesurau bioddiogelwch yr ydym eisoes wedi eu gweithredu yng Nghymru i ddiogelu eu hadar. O ganlyniad i'ch ymdrechion, dim ond dau achos o ffliw adar y mae Cymru wedi'u cofnodi ers mis Hydref 2022.
Ddoe, daeth gorchymyn gorfodol i gadw adar dan do i rym yn Lloegr. Nid yw Cymru, ynghyd â'r Alban a Gogledd Iwerddon, wedi cyflwyno gofyniad tebyg. Mae hyn yn adlewyrchu graddfa a natur wahanol ffliw adar ar draws gwahanol rannau o'r DU. Yn ffodus, yng Nghymru, nid ydym wedi gweld unrhyw beth tebyg i nifer yr achosion yn Lloegr, y byddai'n ofynnol i gyfiawnhau unrhyw orchymyn gorfodol o'r fath. Ar ben hynny, cyngor gwyddonol fy mhrif swyddog milfeddygol dros dro yw bod gofynion bioddiogelwch ein AIPZ ar hyn o bryd yn briodol ac yn ddigonol i atal bygythiad ffliw adar. Fodd bynnag, rydym yn adolygu'r sefyllfa'n ddyddiol ac yn barod i wneud yr hyn sy'n angenrheidiol i warchod ein hadar a bywoliaeth a llesiant y rhai sy'n cadw a gofalu amdanyn nhw. Bydd fy mhenderfyniad i'w gwneud hi'n orfodol i gadw adar dan do yng Nghymru neu beidio yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol a chyngor milfeddygol, a bydd yn cydbwyso effeithiau amddiffynnol posibl yn erbyn niwed posibl wrth gadw adar a fyddai fel arall yn yr awyr agored, dan do.
Ym mis Mawrth 2021, mewn ymgynghoriad â'r diwydiant, fe wnaethom gyflwyno gwelliannau i ddeddfwriaeth er mwyn caniatáu defnyddio deunydd pecynnu wyau cynaliadwy ac y gellir ei ailddefnyddio ar gyfer symud wyau yn ystod achosion o ffliw adar, yn ogystal â newidiadau i ofynion symud i sicrhau llesiant adar. Rydym wedi hwyluso dros 3,000 o geisiadau trwydded, gan sicrhau y gallai symudiadau adar a'u cynhyrchion o barthau risg uwch ddigwydd yn ddiogel a gyda chyn lleied â phosibl o berygl i glefydau ledaenu.
Hoffwn ddiolch i'r diwydiant dofednod yng Nghymru, a phawb sy'n cadw adar, am eu hymgysylltiad parhaus a'u cyngor adeiladol yn y frwydr i reoli'r clefyd ofnadwy hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i'n milfeddygon, ein hawdurdodau cyhoeddus a chymdeithasau cadw a dangos adar ledled Cymru. Mae pob un ohonoch wedi chwarae rhan allweddol yn amddiffyn adar ledled Cymru.
Yn olaf, hoffwn ddweud ychydig eiriau am arwyddocâd ehangach ffliw adar i'n cymdeithas. Mae'r straen H5N1 yr ydym yn brwydro yn ei erbyn ar hyn o bryd yn achosi clefyd difrifol mewn rhai rhywogaethau o adar yn unig. Ar hyn o bryd mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o adar gardd cyffredin yn gallu gwrthsefyll yr haint ac nid ydyn nhw'n gyfrifol am ei ledaenu, felly mae'n ddiogel ac yn ddymunol i barhau i'w bwydo yn ein gerddi y gaeaf hwn. Mae'r risg i iechyd pobl gan y straen hwn yn isel iawn ac mae cynnyrch dofednod yn ddiogel i'w fwyta. Serch hynny, dylid cymryd pob pwyll i osgoi neu i leihau cysylltiad ag adar a allai fod wedi'u heintio. Hoffwn gymeradwyo gwaith ardderchog Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth iddo weithio'n agos gyda fy swyddogion i sicrhau bod y risg i bobl yn parhau'n isel iawn. Wrth i ni symud i dymor y gaeaf, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i weithio'n adeiladol gyda'n gilydd i amddiffyn ein hadar rhag mewnlifiad digynsail o glefyd trwy ddilyn mesurau bioddiogelwch syml yn drwyadl. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am y cyfle i weld datganiad y prynhawn yma ymlaen llaw, yn enwedig gan ei bod wedi cael diwrnod prysur iawn ar y fainc flaen. Mae'r straen hwn o ffliw adar, H5N1, yn briodol yn fater o bryder difrifol. Yn wir, rydym yn dyst i heintiau ar draws ein poblogaethau adar, o adar gwyllt i adar caeth. Nid yw'r clefyd hwn yn parchu ffiniau, ac nid yw'n glynu wrth lawer o ddulliau confensiynol o fioddiogelwch. Felly, mae'n rhaid i'n hymdrechion i fynd i'r afael â'r feirws hwn fod wedi eu targedu, yn rhag-ataliol ac yn rhagweithiol mewn ymateb iddo. Ac er fy mod yn ddiolchgar i'r Gweinidog am osod cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer yr epidemig, rwy'n pryderu nad yw'n mynd yn ddigon pell ar hyn o bryd o ran mesurau bioddiogelwch a chefnogaeth i'r diwydiant dofednod.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld sut mae'r epidemig wedi ymdreiddio i'r boblogaeth adar gwyllt a throsglwyddo wedyn i heidiau masnachol. Yn wir, fel y gwnaethoch chi nodi yn eich datganiad, Gweinidog, mae'r clefyd hwn yn gyffredin mewn nifer fawr o adeiladau masnachol ar draws y Deyrnas Unedig ac yma yng Nghymru hefyd. Felly, rhaid i'n hymateb i'r epidemig hwn fod yn rhag-ataliol ac, yn fwyaf hanfodol, rwy'n credu, yn drawsffiniol. Nid yw'r clefyd hwn wedi'i ynysu o fewn adeiladau unigol, ac nid yw'n cadw at raniadau neu ffiniau chwaith, felly rwy'n ei chael hi'n anodd deall pam nad ydym wedi cyflwyno mesurau bioddiogelwch sy'n unol â rhai Lloegr.
Dros y ffin, ac yn dilyn cyngor prif swyddog milfeddygol Lloegr, mae pob safle dofednod wedi cael cyfarwyddyd i gadw holl ddofednod ac adar caeth dan do fel y'i dynodwyd gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ac eto yng Nghymru nid yw'r mesur rhagataliol hwn wedi'i weithredu eto. Mae ein methiant i wneud hynny nid yn unig yn creu risg o fwy o achosion o drosglwyddo rhwng poblogaethau gwyllt a masnachol, ond mae iddo hefyd oblygiadau llawer ehangach i'r diwydiant yn ei gyfanrwydd.
Cymerwch, er enghraifft, ddeunydd pecynnu wyau o Gymru, y mae nifer fawr ohono'n cael ei brosesu yn Lloegr. Oherwydd gorchymyn lletya Lloegr yn unig, mae'n rhaid i wyau sy'n cael eu pecynnu yn Lloegr gael eu dosbarthu fel wyau ysgubor i adlewyrchu mesurau bioddiogelwch H5N1 presennol, ond eto mae llawer o bryder yma yng Nghymru bod wyau maes presennol o Gymru, sydd wedyn yn cael eu pecynnu yn Lloegr, i bob pwrpas, yn cael eu hisraddio i fodloni gofynion rheoliadau marchnata wyau Lloegr, yn rhannol, mewn gwirionedd, oherwydd diffyg cyfleusterau pecynnu yma yng Nghymru. Felly, byddai gorchymyn lletya ledled Cymru nid yn unig yn lleihau'r risg o drosglwyddo H5N1, ond byddai hefyd yn sefydlu cydraddoldeb rhwng marchnadoedd dofednod Cymru a Lloegr, gan sicrhau bod rheoliadau rheoli clefydau a gofynion marchnata wyau yn gweithio mewn cytgord i ddiogelu'r cyflenwad.
Yn ogystal â hyn, fe wnaethoch grybwyll pa mor gyffredin yw H5N1 o fewn poblogaethau adar gwyllt a sut, wrth weithredu fel cludwyr, mae rhywogaethau fel hwyaid, gwyddau, drudwy a gwylanod yn cynyddu'r trosglwyddiad ymhlith poblogaethau dofednod. Fel mae'n sefyll, mae nifer fawr o safleoedd masnachol wedi'u nodi'n bositif mewn ardaloedd sy'n agos at yr arfordir. Wrth i ni gyrraedd misoedd y gaeaf, mae poblogaethau adar gwyllt brodorol yn mynd i symud i mewn i'r tir i wrthsefyll rhywfaint o dywydd garw Cymru. O ganlyniad i hyn, bydd ardaloedd sy'n agored i ledaeniad y clefyd, heb os, yn ehangu, gan beryglu mwy o safleoedd. Pe baem yn cyflwyno gorchymyn lletya ledled Cymru, gallem achub y blaen ar yr ymateb hwn a rhoi amser digonol i'r diwydiant dofednod baratoi ar gyfer unrhyw newidiadau o ran rheoleiddio. Felly, o ystyried galwadau'r diwydiant am hyn, a gaf i'ch annog, os gwelwch yn dda, i ailystyried y sefyllfa a chymryd y camau rhagataliol angenrheidiol sydd eu hangen i sicrhau ein bod ni'n achub y blaen o ran lliniaru'r risg o achosion dros Gymru gyfan?
Yn olaf, Gweinidog, hoffwn hefyd sôn am bwysigrwydd trosglwyddo'r wybodaeth hon i'r cyhoedd. Yn ystod eich datganiad, fe wnaethoch chi sôn am bwysigrwydd gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar ddata. Ond, er mwyn gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, mae'n rhaid i ni fod â dealltwriaeth glir o drosglwyddiad y feirws ymhlith poblogaethau adar gwyllt. Er mwyn i hyn ddigwydd, rydym yn ddibynnol ar hyn o bryd ar wybodaeth a gasglwyd gan y cyhoedd—unigolion sy'n adrodd am ffliw adar a amheuir mewn poblogaethau adar gwyllt. Felly, a gaf i ofyn sut yr ydych chi'n gweithio gyda'ch adran gyfathrebu i drosglwyddo'r wybodaeth hon i'r cyhoedd, gan hefyd sicrhau bod ffydd y cyhoedd yn y diwydiant dofednod yn parhau i fod yn gadarn?
Wrth i ni symud i dymor y gaeaf, rhaid i ni barhau i weithio'n adeiladol i ddiogelu ein hadar, ond hefyd sicrhau bod gan y diwydiant dofednod yr offer a'r gefnogaeth sydd ei angen arno. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch yn fawr am y cwestiynau yna. Yn amlwg, rydych chi'n mynd yn groes i'r cyngor gwyddonol a'r cyngor a roddwyd i mi gan fy mhrif swyddog milfeddygol mewn cysylltiad â lletya gorfodol, ac fe nodais, yn glir iawn yn fy marn i, yn fy natganiad llafar y rhesymau pam nad ydym wedi dilyn Lloegr. Nid ydych yn gofyn pam nad yw Lloegr wedi ein dilyn ni, ond y rheswm pam nad ydym ni wedi dilyn Lloegr yw oherwydd mai'r cyngor sy'n cael ei roi i mi yw na ddylem ni fod yn cyflwyno gorchymyn lletya gorfodol ar gyfer dofednod ac adar caeth yng Nghymru ar hyn o bryd.
Gallaf ddweud wrthych fy mod yn ei adolygu, a byddwn yn ei adolygu bob dydd. Felly, nid mater o ailystyried mohono; mae'r adolygu hwnnw'n cael ei wneud yn ddyddiol. Mae'r prif swyddog milfeddygol yn gweithio, yn amlwg, gyda phrif swyddogion milfeddygol eraill ledled y wlad, ac mae'n rhaid i mi ddweud, ers i letya gorfodol gael ei gyflwyno mewn rhai rhannau o Loegr—rwy'n credu mai Norfolk, Suffolk ac Essex oedden nhw—mae 34 o safleoedd heintiedig wedi'u cadarnhau yn yr ardaloedd hynny, ar y cyd, er bod gorchymyn lletya gorfodol. Felly, mae'n pwysleisio i mi, ac rwy'n gobeithio i bawb arall, pa mor bwysig yw bioddiogelwch; dyna'r peth mwyaf yn y frwydr hon yn erbyn ffliw adar. Yn y cyfnod hwnnw, rydym wedi gweld dau safle heintiedig yng Nghymru, felly gallwch weld, pan fyddwn yn gweithredu heb orchymyn lletya, y gwahaniaeth yn nifer yr achosion.
Fe wnaethoch chi sôn am wyau maes, ac yn amlwg mae hynny'n fater y mae'n rhaid i ni ei ystyried. Rydym ni'n credu bod yr achosion presennol yn debygol o barhau tan y gwanwyn y flwyddyn nesaf, felly mae hyn yn rhywbeth nad ydych chi'n ei gymryd yn ysgafn. Fe benderfynais i wneud y penderfyniad i gyflwyno lletya gorfodol mewn blynyddoedd blaenorol, ond ni allaf ond dilyn y dystiolaeth wyddonol a roddwyd i mi a'r cyngor a roddwyd i mi gan y prif swyddog milfeddygol dros dro, ac ar hyn o bryd, mae'n dweud wrthyf nad yw'n angenrheidiol. Yfory fe allai fod yn wahanol, efallai y bydd yr wythnos nesaf yn wahanol, ond byddwch yn sicr ein bod ni'n ei hadolygu'n ddyddiol.
Ond hoffwn ailadrodd yr hyn yr oeddwn i'n ei ddweud: lefelau rhagorol o fioddiogelwch yw'r amddiffyniad mwyaf effeithiol o hyd yn erbyn mewnlifiad o ffliw adar. Cawsom achos newydd neithiwr, efallai eich bod wedi clywed amdano, a bu'n rhaid i'r prif swyddog milfeddygol ddatgan bod safle arall wedi'i heintio. Dyna oedd yr ail un, a phan ofynnais am resymau pam ei fod yn bresennol yno, roedd tystiolaeth o gyswllt ag adar gwyllt, felly rwyf yn ailadrodd y neges bioddiogelwch. Nid yw yn fater o wneud pethau'n wahanol, ac nid wyf eisiau i bobl feddwl hynny. Rydym i gyd yn derbyn ein tystiolaeth a'n cyngor gan ein prif swyddogion milfeddygol.
Rydych chi'n gwneud pwynt da iawn ynghylch hysbysu pobl, ac un o'r pethau yr oeddwn i'n awyddus iawn i'w wneud, tua phum mlynedd yn ôl erbyn hyn mae'n debyg, oedd ceisio annog mwy o bobl i gofrestru os oedden nhw'n cadw adar. Ar y pryd, ac rwy'n credu y gallai fod yn wir o hyd, roedd rhaid i chi gofrestru dim ond os oedd gennych chi 50 o adar, ond roeddem ni'n annog pawb, hyd yn oed os dim ond un neu ddwy neu dair neu bedair iâr oedd gennych chi, i gofrestru, er mwyn i ni wybod lle yr oedd yr adar hynny, oherwydd mae'n hawdd iawn y dyddiau hyn, on'd yw hi, i anfon neges e-bost, ac roeddem yn gallu ysgrifennu at bawb ar y gofrestr honno. O safbwynt cyfathrebu, cyfryngau cymdeithasol, rwy'n siŵr eich bod chi wedi ei weld ar Twitter, bob dydd mae'n ymddangos ein bod ni'n rhoi negeseuon ynghylch ffliw adar, ond mae'n bwysig iawn, ac mae cael y datganiad yma heddiw yn amlwg yn ffordd arall o roi gwybod i'r cyhoedd.
Diolch i’r Gweinidog am y datganiad. Mae’r ffliw adar yma wedi pryderu’r sector ers peth amser bellach, ac yn debyg i COVID, mae’n ymddangos bod Cymru yn lagio tu ôl i Loegr o rai wythnosau. Yn dilyn y cyhoeddiad am y canfyddiad yn sir y Fflint ddoe, a’r ardal reolaeth o 3 km sydd wedi ei gosod, mae ffermwyr adar yn pryderu yn naturiol y bydd camau llymach yn cael eu cyflwyno efo cofnodi bioddiogelwch, glanhau cerbydau, ac ardaloedd cadwraeth fwy yn cael eu cyflwyno. Dyna’r pryderon sydd ar hyn o bryd.
Mae unrhyw benderfyniad, mewn gwirionedd, a wneir gan Lywodraeth Cymru, boed yn dilyn arweiniad Lloegr neu yn torri ei chwys ei hun, am gael effaith ar y sector yma a fydd yn arwain at gostau ychwanegol yn sgil monitro a glanhau—costau amser a chostau deunydd. Felly, y tu hwnt i’r canllawiau sydd wedi’u cyflwyno gan y Llywodraeth, pa gymorth bydd y Llywodraeth yn ei gynnig i’r sector er mwyn eu cynorthwyo i ymdopi â’r costau ychwanegol yma?
Mae rhai arbenigwyr wedi sôn y gallai’r ffliw adar presennol yma gael yr un effaith ar y sector saethu gêm ag a gafodd clwy’r traed a’r genau ar y sector amaethyddol ar droad y ganrif hon. Bydd y sector yma yn wynebu costau sylweddol uwch a gall gael effaith ar y gadwyn fwyd anifeiliaid hefyd. Byddwch chi’n gwybod bod pobl yn teithio o bell er mwyn dod i saethu gêm yma yng Nghymru, ac rydyn ni yng nghanol y tymor saethu rŵan. Dwi’n nodi eich bod chi wedi cyhoeddi strategaeth liniaru ar gyfer ffliw adar mewn adar gwyllt yng Nghymru a Lloegr. A fedrwch chi gadarnhau bod y strategaeth yma yn cynnwys gofynion ar saethwyr sydd yn teithio milltiroedd i ddod yma, a'r anghenion arnynt i lanhau cerbydau, esgidiau, a’r camau glendid sydd angen eu cymryd wrth gymryd rhan mewn shoot cyn cyrraedd yma?
Pe ceir cadarnhad o’r ffliw adar mewn unrhyw un haid, yna'r tebygrwydd ydy y gwelwn ni adar yn cael eu difa. Caiff perchnogion yr adar eu digolledi am unrhyw adar iach fydd yn gorfod cael eu difa, yn unol â gwerth yr aderyn cyn iddo gael ei ladd. Hefyd bydd cyfrifoldeb ar berchnogion i sicrhau bod glanhau eilradd yn digwydd, a bydd methu â gwneud hyn yn effeithio yn arw ar y fasnach ryngwladol mewn cig adar, wyau a chywion sy’n magu. Felly, pa asesiad mae’r Llywodraeth wedi ei wneud o effaith y ffliw adar ar y risg i ddiogelwch bwyd yma yng Nghymru, a’r fasnach ryngwladol yng Nghymru?
Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth yn ddiweddar,
'Ar ôl dadansoddi'r dystiolaeth wyddonol sydd ar gael, nid ydym yn cyflwyno gorfodi lletya dofednod yng Nghymru ar hyn o bryd',
fel rydych chi wedi cyfeirio ato. Rŵan, yn dilyn y datganiad heddiw, hoffwn glywed rhagor o wybodaeth am y risg i’r cyhoedd o’r ffliw yma. Wythnos diwethaf, er enghraifft, clywsom am ddau weithiwr fferm dofednod o Sbaen a brofodd yn gadarnhaol ar gyfer y ffliw adar. Ers 2003, mae yna 868 achos o bobl yn cael ffliw adar a 456 o farwolaethau mewn 21 gwlad, yn ôl y World Health Organization. Yng ngoleuni'r cynnydd yn yr achosion o bobl yn cael y ffliw adar felly, pa asesiad mae’r Llywodraeth wedi ei wneud o’r risg i’r cyhoedd? Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Fe wnaf i ddechrau gyda'r cwestiynau ynghylch risg iechyd y cyhoedd, oherwydd yn amlwg nid oeddwn wedi cael y cwestiynau hynny o'r blaen, ac mae'n dda gallu ailadrodd mai cyngor Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yw bod y risg i iechyd y cyhoedd o'r feirws hwn yn isel iawn, a chyngor Asiantaeth Safonau Bwyd y DU yw bod ffliw adar yn peri risg diogelwch bwyd isel iawn i ddefnyddwyr y DU. Mae dofednod a chynhyrchion dofednod wedi'u coginio'n iawn, ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys wyau, yn ddiogel i'w bwyta. Dim trosglwyddiad adar-i-ddynol o ffliw adar ychwaith—. Wel, mae'n brin iawn, iawn, ond yn sicr dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw achosion yma. Dros nifer o flynyddoedd, dim ond nifer fach iawn, iawn o weithiau rydyn ni wedi'i weld ledled y DU. Felly, dim ond i ailadrodd, mae'r risg i'r cyhoedd ehangach gan ffliw adar yn parhau i fod yn isel iawn, ond hoffwn ddweud na ddylai unrhyw un godi na chyffwrdd aderyn sâl neu farw. Yn hytrach, dylid rhoi gwybod am hynny i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Yn sicr, fyddaf i ddim yn dilyn arweiniad Lloegr, fel y gwnaethoch chi ddweud, fel y dywedais i yn fy atebion i Sam Kurtz. Yr hyn rwy'n ei wneud yw gwrando ar fy mhrif swyddog milfeddygol, yn union fel y mae Gweinidog yr Alban yn gwrando ar ei un hi, ac yn amlwg mae Gweinidog Llywodraeth y DU yn gwrando ar ei un hi hefyd. A'r cyngor rwyf wedi ei roi ar hyn o bryd yw nad oes angen gorfodi lletya ar hyn o bryd. Gallai hynny newid, yn enwedig os ydyn ni'n gweld achosion o ffliw adar yn y gwanwyn, ac rydyn ni'n sicr yn meddwl efallai y cawn ni. Dydyn ni heb gael unrhyw ostyngiad eleni. Fel arfer mae'n dechrau tua mis Hydref, fel y dywedais i yn fy natganiad agoriadol, pan welwn yr adar mudo hyn, ac, yn anffodus, rwy'n credu ein bod ni wedi cael achosion ledled y DU, yn bennaf yn Lloegr, bob mis am y flwyddyn ddiwethaf. Pan gyfeiriais at ddau achos ers mis Hydref, efallai y byddwch chi’n meddwl tybed pam wnes i ddweud hynny, ond dyna sut mae'r cyfrif yn dechrau; mae'r cyfrif yn dechrau ar 1 Hydref. Felly, rydyn ni nawr i mewn i'r ail flwyddyn, os mynnwch chi, o'r achosion rydyn ni wedi’u cael yn anffodus.
Felly, fel y dywedais i yn fy atebion cynharach, mae hyn yn cael ei adolygu yn ddyddiol, a'r orfodaeth i letya, os ydym ni'n credu ei fod yn angenrheidiol, yn sicr ni fyddaf yn oedi. Rwyf wedi ei wneud o'r blaen; nid mater o beidio ag eisiau ei wneud yw. Rydyn ni'n ei wneud pan fydd y prif swyddog milfeddygol a'r cyngor gwyddonol sydd ganddo yn dweud wrthym ni y dylen ni ei wneud.
Diolch i'r Trefnydd.