– Senedd Cymru am 4:28 pm ar 8 Tachwedd 2022.
Yr eitem nesaf yw eitem 7, a hwn yw'r Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022. Dwi'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y cynnig. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiadau. Mae'r rheoliadau y mae'r Senedd yn eu hystyried heddiw yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol a wneir. Yn yr achos hwn daethant i rym ar 10 Hydref, ond, i fod ag effaith barhaol, rhaid iddynt dderbyn cymeradwyaeth y Senedd heddiw.
Ar 27 Medi fe wnes i nodi'r newidiadau y byddwn i'n eu gwneud i'r cyfraddau trafodiadau tir a bandiau. Daeth y newidiadau hyn i rym ar 10 Hydref. Pe bai Llywodraeth y DU wedi dewis rhannu ei chynlluniau â ni yn gynharach, efallai y byddem ni wedi gallu gwneud y newidiadau hyn ar yr un diwrnod ag y cawson nhw eu cyhoeddi, neu hyd yn oed ar ddiwrnod cyllideb fach gywilyddus y DU erbyn hyn. Fodd bynnag, roedd penderfyniad Llywodraeth y DU i wrthod rhannu gwybodaeth â ni yn golygu nad oeddem yn gallu ymateb mor gyflym ag y byddem ni wedi hoffi, a bu'n rhaid i brynwyr tai yng Nghymru aros ychydig wythnosau i elwa o'r newidiadau a wnaethom i gyfraddau'r dreth trafodiadau tir.
Fel y dywedais yn y Cyfarfod Llawn ar 27 Medi, roeddwn i eisoes yn ystyried newidiadau i gyfraddau a bandiau'r dreth trafodiadau tir i adlewyrchu'r cynnydd mewn prisiau eiddo preswyl rydyn ni wedi'i brofi, yn enwedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Roeddwn i wedi bwriadu gwneud newidiadau wrth gyhoeddi ein cyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, ond rydw i wedi cyflwyno'r newidiadau hynny er mwyn rhoi sicrwydd i brynwyr tai a'r farchnad dai.
Mae'r newidiadau i'r dreth trafodiadau tir yn golygu bod y trothwy cychwynnol wedi cynyddu i £225,000—sy'n cyfateb i gynnydd o 25 y cant. Effaith hyn nawr yw bod 60 y cant o eiddo preswyl yng Nghymru yn is na'r trothwy newydd, gan gynnwys llawer o gartrefi y mae prynwyr tro cyntaf yn eu caffael. Mae hyn yn golygu na fydd ychydig llai na hanner trafodion eiddo preswyl yn talu unrhyw dreth, ac mae hynny'n gyfran uwch nag yn Lloegr. Mae cyfradd y dreth a godir ar y band treth cyntaf newydd wedi cynyddu o 5 y cant i 6 y cant, ac mae hyn yn golygu y bydd prynwyr tai sy'n prynu cartref sy'n costio llai na £345,000 yn gweld gostyngiad treth o hyd at £1,575. Ar gyfer yr eiddo hynny sy'n costio mwy na'r swm hwnnw, mae uchafswm cynnydd mewn treth sy'n daladwy o £550, a fydd yn effeithio ar tua 15 y cant o bryniannau eiddo preswyl.
Mae rheolau trosiannol yn galluogi'r trethdalwyr hynny oedd wedi cyfnewid contractau cyn 10 Hydref i dalu'r hen gyfraddau, pan fo hynny o fudd. Yn hanfodol, ac yn wahanol i Lywodraeth y DU, ni chafodd gostyngiadau treth eu cyflwyno i'r rhai sy'n agored i gyfraddau preswyl uwch y dreth trafodiadau tir, gan gynnwys y rhai sy'n prynu ail gartrefi, tai gwyliau tymor byr, neu eiddo prynu i osod. Rhagwelir y bydd y newidiadau'n costio cyfanswm o £29 miliwn ar gyfer eleni a'r ddwy flynedd ganlynol gyda'i gilydd. Yr effaith net ar gyllideb Cymru, oherwydd yr addasiad grant bloc sy'n cael ei ddarparu gan y newidiadau i dreth tir y dreth stamp, yw cynyddu ein hadnoddau dros y cyfnod hwnnw o £45 miliwn. Gallwn fod wedi defnyddio swm llawn yr addasiad grant bloc i leihau ymhellach faint o dreth sy'n cael ei gasglu. Fodd bynnag, rydym ni mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd sylweddol, gan gynnwys gostyngiad posibl mewn prisiau eiddo. Mae hefyd yn gyfnod o bwysau anhygoel ar wariant y Llywodraeth. Roeddwn i eisiau defnyddio'r capasiti ychwanegol hwn ar gyfer ein hymrwymiadau gwariant yn hytrach na darparu gostyngiadau treth i rai o'n dinasyddion sydd fwyaf abl i dalu, ac rwy'n gofyn i Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn.
Bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn ymatal ar y rheoliadau hyn. Wrth gwrs, rydym ni'n gefnogol o unrhyw fesurau i helpu pobl sy'n gweithio'n galed i brynu eu cartref eu hunain, yn enwedig yn ystod y cyfnod anoddach hwn, felly yn gyffredinol rydym ni'n croesawu'r camau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd heddiw. Fodd bynnag, fel y bu barn hirsefydlog y grŵp, rydym ni'n credu y gellid cynyddu trothwy'r dreth trafodiadau tir ymhellach. Rydym ni'n credu bod angen i ni ddarparu cefnogaeth ychwanegol yng Nghymru ar hyn o bryd, gan fod prisiau tai yn parhau i fod yn uchel iawn. Yn ôl Cymdeithas Adeiladu Principality, mae pris cyfartalog tŷ yng Nghymru wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed yn nhrydydd chwarter eleni i ychydig dros £245,000. Roedd hwn yn gynnydd blynyddol o dros 12 y cant. Yma yng Nghaerdydd, er enghraifft, mae'r pris cyfartalog bron i £300,000. Felly, gallai cynyddu'r pwynt ble mae pobl yn talu'r dreth trafodiadau tir gyfateb yn well â phris cyfartalog tai, tua £250,000 er enghraifft, i roi rhyddhad i fwy o bobl, yn ogystal â chydnabod prisiau tai cynyddol yng Nghymru ar hyn o bryd.
Er y tu allan i'r rheoliadau, rwy'n credu y gallem ni fod yn fwy creadigol o ran defnyddio treth trafodiadau tir i helpu yn hytrach na llesteirio perchnogion tai, megis drwy leihau neu ddiddymu'r gyfradd ar gyfer prynwyr tro cyntaf a chynnig gostyngiad i berchnogion tai sy'n gwneud gwelliannau ynni i'r eiddo. Diolch, Llywydd.
Mi fyddwn ni'n cefnogi'r rheoliadau yma. Rŷn ni'n teimlo eu bod nhw'n raddfeydd derbyniol. Mae'n berffaith iawn bod anghenion Cymru yn cael eu hadlewyrchu yn y modd yma, yn wahanol, wrth gwrs, i anghenion rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Dyna yw diben datganoli. Mae yn siomedig, fel roedd y Gweinidog yn amlygu eto, bod yna ddim cydweithredu wedi bod o safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth baratoi ar gyfer y newid yma. Mae yn codi'r cwestiwn: a fyddwn ni'n wynebu gwneud hyn eto ar ôl 17 Tachwedd? Efallai gall y Gweinidog ddweud wrthym ni os oes unrhyw drafodaethau wedi bod yn digwydd neu yn digwydd yng nghyd-destun yr hyn fydd yn cael ei gyhoeddi gan y Canghellor yn San Steffan ar y diwrnod hwnnw.
Dŷn ni wrth gwrs yn croesawu'r ffaith bod yna raddfeydd uwch i rai mathau o eiddo. Dŷn ni hefyd wrth gwrs yn cydnabod bod codi'r trothwy, fel roedd llefarydd y Ceidwadwyr yn sôn amdano fe, yn rhywbeth fyddwn ni i gyd yn hoffi ei weld yn digwydd, ond mae yna gytbwysedd sydd angen ei daro rhwng amddiffyn ffynonellau refeniw, yn enwedig yng nghyd-destun toriadau sy’n dod o gyfeiriad San Steffan. Allwch chi ddim cael eich cacen a'i bwyta hi—i gyfieithu idiom Saesneg; dwi i ddim yn siŵr os ydy hynny'n gweithio yn Gymraeg, ond dwi'n siŵr eich bod chi'n cael y sentiment.
Yr unig bwynt arall y byddwn i yn awyddus i'w wneud, wrth gwrs, yw jest i edrych ar y darlun ehangach. Mae awgrymiadau wedi cael eu gwneud ynglŷn â gwneud defnydd tipyn mwy creadigol o’r dreth trafodion tir wrth drio annog gwireddu polisïau y Llywodraeth yma hefyd. Dwi'n meddwl yn benodol ynglŷn â'r awgrym y dylid edrych ar gynnig gostyngiadau, neu ad-daliadau, o safbwynt y dreth yma ar eiddo sydd naill ai’n cael eu gwella o safbwynt lefel effeithlonrwydd ynni cyn eu gwerthu nhw, neu wrth gwrs yn y cyfnod efallai flwyddyn neu ddwy ar ôl eu gwerthu nhw, a bod modd i unigolion sydd yn cyflawni hynny gael rhyw fath o ad-daliad neu ostyngiad, oherwydd dyna’r cyfnod, wrth gwrs, pan fo pobl yn buddsoddi mewn gwaith ar eu cartrefi, a dwi yn meddwl y gallai’r dreth yma weithio’n galetach o safbwynt annog pobl i 'retrofit-o' eu cartrefi, ac wrth gwrs, fel cydnabyddiaeth am hynny wedyn, bod y dreth yn cael ei defnyddio i annog y math yna o weithredu. Diolch.
A nawr y Gweinidog cyllid i ymateb i'r sylwadau—Rebecca Evans.
Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn i Peter Fox a Llyr Gruffydd am eu sylwadau y prynhawn yma. Ac o ran y cyfraniad cyntaf, mae'r newidiadau i'r dreth trafodiadau tir yn golygu nawr bod y gyfradd gychwyn wedi cynyddu i £225,000, ac fel y dywedais i, mae hynny'n cyfateb i gynnydd o 25 y cant ar y lefel flaenorol, ac mae hynny'n mwy na gwneud yn iawn am y cynnydd mewn prisiau eiddo rydyn ni wedi'i weld ers i ni bennu y lefelau hynny ddiwethaf. Ac fel y dywedais i, yr effaith nawr yw bod 60 y cant o eiddo preswyl yng Nghymru yn is na'r trothwy newydd hwnnw, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys llawer o eiddo sydd wedi’i gaffael gan brynwyr tro cyntaf, ac ychydig yn llai na hanner trafodiadau eiddo preswyl fydd yn talu unrhyw dreth o gwbl, ac mae hynny, fel y gwnes i ei grybwyll yn fy sylwadau agoriadol, yn gyfran uwch na dros y ffin. Rwy'n credu bod Llyr Gruffydd wir wedi taro'r hoelen ar ei phen o ran bod yn rhaid i ni gydbwyso rhwng cefnogi perchnogion tai, ond hefyd buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac rwy'n credu bod y rheoliadau sydd o'n blaenau heddiw yn taro'r cydbwysedd hwnnw'n gwbl briodol.
Nid ydym wedi cael unrhyw hysbysiad, fel y byddech chi’n ei ddychmygu, o ran yr hyn a allai fod o’n blaenau ar 17 Tachwedd, pan fydd y Canghellor yn gwneud ei ddatganiad nesaf. Ond does dim rheswm o gwbl pam na allai Llywodraeth y DU fod yn rhannu, yn gyfrinachol, o leiaf, eu ffordd o feddwl gyda ni. Roedden ni mewn sefyllfa ffodus iawn o ran gallu ymateb yn gyflym, oherwydd dros yr haf, roedden ni wedi bod yn gwneud llawer iawn o fodelu a chostio opsiynau polisi cyn gwneud newidiadau posibl ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft. Felly, yn yr ystyr hwnnw, roedd y gwaith wedi’i wneud ac felly roeddem ni mewn sefyllfa dda i ymateb yn gyflym iawn. Ond fe wnaeth olygu na allen ni ymateb ar y diwrnod, a gwneud y cyhoeddiadau hynny a sicrhau bod y buddion hynny ar gael i bobl yn syth, ac rwy'n gwybod, yn anochel, bod rhywfaint o rwystredigaeth yna i bobl sy'n cael eu dal yn y cyfnod hwnnw, er i ni roi'r trefniadau trosiannol hynny ar waith i bobl a oedd wedi cwblhau, i geisio bod yn deg i'r bobl hynny.
O ran y ffyrdd eraill y gallwn ni ddefnyddio treth trafodiadau tir, rydyn ni bob amser yn meddwl am beth arall y gallem ni fod yn ei wneud gyda'r dreth honno. Yn y pen draw, mae'r dreth trafodiadau tir yn un o'r trethi hynny sydd â'r prif bwrpas o godi cyllid, ac mae'n dod â symiau sylweddol o arian i Lywodraeth Cymru. Ond rwy'n credu ei bod hi’n bwysig hefyd archwilio sut y gallwn ni o bosibl ddefnyddio ein holl drethi ar gyfer newid ymddygiad yn y cyd-destun hwnnw o newid hinsawdd, y mae'r ddau gydweithiwr wedi'i grybwyll. Ac mae'n rhywbeth mae gen i ddiddordeb mewn archwilio ymhellach iddo hefyd.
Felly, diolch i bob cydweithiwr am eu cyfraniadau i'r ddadl. Fel y dywedais i, rwy'n credu bod gennym ni’r cydbwysedd cywir rhwng darparu rhai gostyngiadau i drethi i'r rhai sy'n prynu eiddo yn y rhan isaf i'r rhan ganolig o’r farchnad dai, gan gynnwys y rhan fwyaf o brynwyr tro cyntaf, ac yna hefyd sicrhau ein bod ni’n codi cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol drwy ofyn i'r rhai sy'n prynu eiddo drytach i dalu ychydig mwy mewn treth. Ac felly, rwy'n cymeradwyo'r rheoliadau i'r Senedd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.