– Senedd Cymru am 5:12 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: cenedl o ail gyfle. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles, i wneud y datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac mae'n bleser gen i roi datganiad ichi am ein cynlluniau ni i wneud Cymru yn genedl ail gyfle, lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu, sy'n cynnwys rhoi gwybod lle rydym ni arni o ran diwygio ac adnewyddu maes dysgu oedolion, rhoi dyletswydd gyfreithiol newydd ar waith i ariannu'r maes, a datblygu ein cynllun peilot ar gyfer cwricwlwm dinasyddion.
Rwyf wedi dweud o'r blaen yn y Siambr hon fy mod i am i Gymru fod yn genedl ail gyfle yn y byd addysg, rhywle lle gall bawb gyrraedd eu potensial, cenedl lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu, lle mae gan bobl yr hyder, y cymhelliant a'r modd i ailymuno ag addysg er mwyn ennill y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i weithio a ffynnu yn ein cymdeithas. Mae ehangu cyfleoedd dysgu gydol oes yn hanfodol i Gymru allu ffynnu dros y degawdau nesaf. Wrth i yrfaoedd pobl ehangu ac amrywio, bydd mwy o bobl yn ceisio ailhyfforddi a dysgu sgiliau newydd i ddod o hyd i waith sefydlog. Ac wrth inni drosglwyddo i economi sero net, bydd angen i fusnesau newid i dechnolegau newydd i leihau carbon. Ar ben hynny, mae bod yn genedl o ddysgwyr gydol oes yn hanfodol inni gyflawni ein nodau cymdeithasol a dinesig ehangach, gan gynnwys gwell lles ac iechyd meddwl, mwy o ddefnydd o'r Gymraeg, a democratiaeth y gall bawb gyfrannu ati.
Bydd creu cenedl o ail gyfle yn gofyn i ni oresgyn rhwystrau a gwyrdroi rhai tueddiadau diweddar. Mae nifer yr oedolion sy'n cymryd rhan mewn dysgu wedi gostwng ledled y DU dros y degawd blaenorol. Mae ymchwil yn dangos mai'r rhai hynny sydd fwyaf tebygol o elwa ar ail-gydio mewn addysg fel oedolion, yn enwedig y rhai sydd fwyaf difreintiedig ac sydd â'r lleiaf o gymwysterau, yw'r rhai lleiaf tebygol o wneud hynny hefyd. Ond, Dirprwy Lywydd, trwy lunio polisi arloesol rydym eisoes wedi gwneud rhywfaint o gynnydd tuag at oresgyn yr heriau hyn.
Mae ein fformiwla ariannu dysgu oedolion yn y gymuned, sydd wedi'i diwygio, wedi ailddosbarthu cyllid addysg oedolion yn decach ledled Cymru a, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi dyrannu ychydig dros £11.5 miliwn ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned. Mae £4 miliwn arall wedi'i ddyrannu i ddysgu oedolion gan awdurdodau lleol, a hefyd i golegau addysg bellach i sicrhau bod y dysgwyr anoddaf eu cyrraedd yn ein cymdeithas yn ail-gydio mewn dysgu. Mae ein rhaglenni cyfrif dysgu personol yn rhoi'r cyfle i weithwyr gael y sgiliau, yr wybodaeth a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i wneud cynnydd yn eu gyrfa.
Mae'r cyrsiau newydd hyn wedi bod o fudd i dros 27,000 o bobl ers eu cyflwyno yn 2017, ac rydym wedi buddsoddi dros £55 miliwn i ddatblygu'r ddarpariaeth. Dros y tair blynedd nesaf, rydym yn dyrannu £52 miliwn arall yn y rhaglen i helpu pobl gyflogedig i uwchsgilio ac ailsgilio i feysydd blaenoriaeth. Y llynedd, darparais bron i £6 miliwn i wella capasiti digidol ac i fynd i'r afael â heriau sero net mewn darparwyr a cholegau dysgu oedolion. A diolch i'n diwygiadau blaengar ac unigryw i gyllid myfyrwyr addysg uwch, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr oedolion sy'n cymryd rhan mewn addysg uwch rhan-amser, ac yn arbennig cynnydd sylweddol mewn myfyrwyr—gan gynnwys llawer o gefndiroedd difreintiedig—yn astudio gyda'r Brifysgol Agored.
Gan adeiladu ar y llwyddiannau hyn, rydym bellach yn dechrau ar y diwygiadau mwyaf arwyddocaol i addysg drydyddol ers datganoli, ac mae adnewyddu ein hymrwymiad i ddysgu gydol oes wrth wraidd y diwygiadau hyn. Dyna pam mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, a dderbyniodd gefnogaeth unfrydol yng Nghyfnod 4 y Senedd hon, yn dechrau gyda dyletswydd strategol i'r comisiwn newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil i hyrwyddo dysgu gydol oes. Ar ben hynny, mae'r Ddeddf yn creu dyletswydd newydd ar y comisiwn i sicrhau cyfleusterau priodol ar gyfer addysg bellach a hyfforddiant i oedolion, ac mae'r manylion llawn i'w nodi mewn deddfwriaeth eilaidd, y byddwn yn ei chyflwyno ar gyfer ymgynghori yn 2023.
Wrth i ni symud at sefydlu'r comisiwn newydd, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda grŵp cyfeirio allanol dysgu oedolion yr wyf wedi gofyn iddyn nhw gyd-ddylunio rhaglen o gydlynu cenedlaethol i ailfywiogi'r gwaith o ddarparu addysg i oedolion yng Nghymru, ac rwyf wedi dyrannu £2 miliwn dros y flwyddyn ariannol bresennol a'r nesaf i gefnogi'r gwaith hwn.
Gan adeiladu ar ein diwygiadau i'r cwricwlwm ysgol, rydym yn gweithredu cwricwlwm dinasyddion ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion yng Nghymru. Bydd hyn yn cefnogi oedolion drwy addysg i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus, i fod yn ddinasyddion sy'n ymgysylltu ac i fwynhau canlyniadau iechyd a chyflogaeth gwell.
Rwy'n falch o gael gweithio mewn partneriaeth â'r Sefydliad Dysgu a Gwaith, Addysg Oedolion Cymru, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Coleg Caerdydd a'r Fro, Oasis Caerdydd a'r Brifysgol Agored, a fydd yn cyflwyno pum cynllun treialu cwricwlwm newydd i ddinasyddion, a fydd yn helpu i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal cyfranogiad dysgwyr oedolion ehangach.
Bydd y cynlluniau treialu hyn, a fydd yn dechrau'r mis hwn, yn canolbwyntio ar wahanol elfennau o ddysgu oedolion: ar iechyd a lles, ar ddysgu byd-eang, ar addysg iaith, ar sut y gall ysgolion a chymdeithasau tai gefnogi dysgu yn y gymuned, a sut rydym yn datblygu mwy o gydlyniad cymunedol a dinasyddiaeth. Yn ogystal â hyn, rydym yn comisiynu arolwg 'cyflwr y genedl' o lythrennedd a rhifedd oedolion, er mwyn deall lle mae diffyg y sgiliau craidd hyn yn rhwystr i waith a lles. Rydym hefyd yn datblygu fframwaith dysgu proffesiynol i staff ar draws pob rhan o'r sector ôl-16, ac mae ein cronfa dysgu proffesiynol yn rhan o'n hymrwymiad ehangach i ddatblygiad proffesiynol y gweithlu ar draws y sector ôl-16, ac rydym yn gweithio i wella nifer y llwybrau digidol i ddysgu oedolion sydd ar gael.
Ar ôl cefnogi ehangu mynediad i gyfrwng OpenLearn y Brifysgol Agored, rwyf eisiau archwilio ymhellach y potensial ar gyfer digidol i ehangu mynediad at ddysgu oedolion, yn enwedig i'r rhai hynny sy'n wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan a'r rhai hynny sy'n ceisio cymryd y camau cyntaf hanfodol hynny yn ôl i ddysgu. Mae fy swyddogion yn comisiynu ymarfer mapio fel cam cyntaf tuag at ddatblygu gwybodaeth llawer cliriach, llawer mwy cydgysylltiedig i ddysgwyr ar hyn o bryd a dysgwyr posibl i gael mynediad at gyrsiau ar-lein.
Dirprwy Lywydd, gyda'i gilydd, rwy'n credu bod hyn yn dangos yn glir ein hymrwymiad i wneud Cymru'n genedl o ail gyfle. Bydd gwireddu'r weledigaeth hon yn llawn yn cymryd amser, a byddwn yn parhau i wynebu heriau, yn enwedig yn y cyd-destun cyllidol presennol. Ond rwy'n ffyddiog ein bod ar y llwybr i wneud Cymru'n genedl o ail gyfleoedd, lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu. Diolch yn fawr.
Prynhawn da, Gweinidog, a diolch am eich datganiad. Rwy'n croesawu pwyslais a buddsoddiad yn y maes hwn ac unrhyw beth a fydd yn gwrthdroi'r tueddiadau ar i lawr yr ydym wedi'u gweld o ran oedolion yn cymryd rhan mewn dysgu. Rwy'n croesawu'r meysydd penodol yr ydych chi wedi dewis canolbwyntio arnyn nhw: pwysigrwydd strategaeth a dyletswydd strategol, rhannu cyfrifoldeb, yr angen am gynaliadwyedd a'r syniad o ail gyfleoedd.
Er fy mod yn falch o weld y cyhoeddiad hwn o'r cynlluniau treialu newydd, yn canolbwyntio ar wahanol elfennau dysgu oedolion, mae gen i rai cwestiynau o hyd. Mae dysgwyr sy'n oedolion yn wynebu sawl her sy'n unigryw i'w sefyllfa y mae'n rhaid i unrhyw ymdrech i hybu mynediad at y cyfleoedd hyn fynd i'r afael â nhw. Er enghraifft, fel yr ydych chi wedi'i amlinellu, yn aml mae'n rhaid i ddysgwyr sy'n oedolion gydbwyso gwaith, teulu ac ymrwymiadau cymdeithasol gydag unrhyw ymdrechion i gymryd rhan mewn dysgu newydd. Mae ymchwil o Ganada wedi darganfod bod dros 70 y cant o gyflogwyr yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer addysg sy'n gysylltiedig â swyddi, ond eto dim ond 22 y cant o weithwyr sy'n ei ddefnyddio. Gweinidog, sut fyddwch chi'n sicrhau bod y cymorth ychwanegol hwn yn cael ei gyfeirio'n iawn, ei hyrwyddo'n iawn ac yn cyrraedd y dysgwyr sy'n oedolion sydd ei angen fwyaf?
Mae rhwystrau ariannol yn ystyriaeth graidd, oherwydd gall y rhai hynny sydd heb y gallu i gael cyllid ar gyfer cyrsiau ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r arian ar eu cyfer, yn enwedig, yn amlwg, o ystyried yr heriau ariannol presennol. Mae adroddiad gan grŵp prifysgol MillionPlus yn y DU yn tynnu sylw at y rhwystr o ran cost. Er enghraifft, pan gynyddwyd ffioedd dysgu prifysgolion yn 2012, gostyngodd nifer y myfyrwyr aeddfed 20 y cant ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau, a chymaint â 49 y cant ar gyfer cyrsiau er enghraifft ar gyfer nyrsys. Sut ydych chi'n bwriadu sicrhau, Gweinidog, nad rhwystrau ariannol yw'r peth mwyaf sy'n atal ein dysgwyr sy'n oedolion?
Mae meddylfryd yn faes pwysig arall, gan fod llawer o ddysgwyr sy'n oedolion yn dioddef o ddiffyg hyder yn eu hunain. Ynghyd â ffactorau eraill, dyma pam mae nifer o alwadau allweddol ar unrhyw ddarparwyr dysgu oedolion, sy'n cynnwys hyblygrwydd wrth gyflenwi fel y gall dysgwyr ffitio sesiynau i'w hamserlenni prysur; gwerth am arian, gan sicrhau nad yw cyrsiau fforddiadwy o ansawdd isel; cymuned gefnogol, gan sicrhau rhwydwaith cryf i fynd i'r afael ag unrhyw amheuon neu anawsterau personol, yn ddelfrydol drwy ddefnyddio tiwtoriaid personol neu fentoriaid. Er mwyn helpu i ymdrin â hyn, rwy'n credu y dylem ni annog amrywiaeth o fformatau addysgu, gan gynnwys sicrhau bod dysgu o bell yn gwbl hygyrch, pan fo modd, i'r rhai sy'n dymuno ei ddefnyddio. Felly, rwy'n croesawu'r datganiad hwn yn ymrwymo i geisio gwella'r gallu a nifer y llwybrau digidol i addysg sydd ar gael. Sut, Gweinidog, yn ymarferol ydych chi'n bwriadu ei wneud mor hygyrch a hyblyg â phosibl?
Gweinidog, rydym i gyd yn cytuno bod yn rhaid i Gymru fod yn lle sy'n cynnig y gefnogaeth orau bosibl yn y modd mwyaf hyblyg fel y gallwn sicrhau bod y rhai sy'n dymuno cymryd rhan mewn dysgu oedolion â'r adnoddau i wneud hynny a'u bod yn ffynnu yn yr amgylchedd hwnnw. Rwy'n edrych ymlaen at fonitro llwyddiant y cynlluniau treialu sydd i ddod. Diolch.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau a'r ffordd adeiladol y mae hi wedi ymgysylltu â'r datganiad, ac rwy'n credu ei fod yn arwydd o'r gefnogaeth ar draws y Siambr ar gyfer mentrau mewn cysylltiad â sicrhau y gall oedolion ddychwelyd i addysg ar unrhyw adeg mewn bywyd. Mae hi'n nodi rhai rhwystrau posib pwysig i bobl sy'n gwneud y penderfyniad i wneud hynny. Rwy'n credu, mewn ffordd, y rhwystr mwyaf dwys yw nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl am eu hunain fel dysgwyr sy'n oedolion ac nid ydynt yn ymwybodol o'r cyfle, y goblygiadau a'r gefnogaeth sydd ar gael er mwyn gwneud hynny. Mae'n bwysig i bobl gael y cyfle i ailsgilio a meithrin sgiliau newydd, ond rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig i bobl gael y cyfle i ddychwelyd i addysg, fel petai, ar eu telerau eu hunain, at eu dibenion eu hunain, nid dim ond yn gysylltiedig â'r cyfleoedd cyflogaeth y gall arwain atynt weithiau.
Gofynnodd hi yn olaf am y buddsoddiad mewn digidol, a soniais am rywfaint o'r buddsoddiad penodol yr ydym wedi'i wneud yn ddiweddar iawn mewn cysylltiad â hynny. Ond mae hynny'n gwestiwn o hygyrchedd hefyd, yn tydi? Nid yw pawb yn mynd i gael eu cyrraedd trwy wella'r cynnig digidol, ac mae hynny'n cael ei ddeall yn llwyr, er ei bod yn ffordd bwysig o fapio, egluro a gwneud y ddarpariaeth bresennol sydd ar gael yn hygyrch a bod modd ei dilyn, sy'n arwyddocaol iawn. Yr hyn yr ydym wedi ei ddarganfod, ac mae wedi bod yn glir ers cryn amser, yw bod angen mwy o gydlynu, fel bod gwell cysondeb o ran dull ledled Cymru, gan wneud y mwyaf o'r cyfle i ddysgwyr allu gwybod beth sydd yno a chymryd rhan yn hawdd.
Ond, yn ogystal â hynny, mae peth o hynny, fel roedd hi'n dweud yn ei chwestiwn, yn ymwneud â'r hyder i ddychwelyd at ddysgu. Nid yw pawb yn barod i ail-gydio ar lefel dechrau cymhwyster, neu wneud gradd, er enghraifft. Mae yna lawer sydd, mae'n debyg, ychydig yn gynharach ar y daith ail-gydio. Felly, mae rhywfaint o'r buddsoddiad yr ydym ni wedi'i roi yn fwyaf diweddar dros y flwyddyn ddiwethaf, ddwy flynedd, wedi bod i gefnogi ehangu'r hyn rydyn ni'n ei alw'n gyrsiau 'bachu a blasu', sef yr adegau cynnar hynny o ailgydio, efallai, yn y sgiliau dysgu, i fod mewn lleoliad lle gallwch chi ddechrau cofio'r sgiliau o fod yn ddysgwr. Felly, rwy'n credu bod angen mabwysiadu nifer o ddulliau gwahanol, ac rwy'n gobeithio bod fy natganiad wedi amlinellu hynny'n gynharach.
Ar y cwestiwn o gefnogaeth ariannol, sy'n bwysig iawn—eto, mae nifer o'r buddsoddiadau y cyfeiriais atyn nhw yn fy natganiad yn uniongyrchol yn cefnogi mynediad at hyfforddiant sgiliau; mae cyfrifon dysgu personol yn enghraifft dda iawn o hynny. Ac fe fyddwn i'n dweud fy mod i'n wirioneddol falch o'r ffaith bod ehangu addysg uwch rhan-amser wedi bod mor sylweddol a llwyddiannus yng Nghymru, ac mae hynny wedi bod yn uniongyrchol, rwy'n credu, oherwydd bod gennym, yng Nghymru, y gefnogaeth cyllid myfyrwyr mwyaf blaengar o unrhyw ran o'r DU, ond ei fod hefyd yn trin myfyrwyr rhan amser yn yr un modd ag y mae'n trin myfyrwyr llawn amser, ac rwy'n credu bod hynny wedi bod y tu ôl i gynnydd eithaf sylweddol yn niferoedd y myfyrwyr.
Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae Plaid Cymru yn falch o'r pwyslais ar hyrwyddo, ehangu a datblygu addysg gydol oes yn ein cytundeb cydweithredu gyda'r Llywodraeth a'n cydweithio ar sefydlu'r comisiwn addysg drydyddol ac ymchwil. Mae'n hanfodol sicrhau nawr bod ffocws y comisiwn yn dynn ar y ffaith bod Cymru yn llwyddo'n well yn y nod o ddod yn genedl ail gyfle, wedi blynyddoedd o danfuddsoddiad ac, yn wir, doriadau'r i'r sector, ac mae hynny yn fwy hanfodol nag erioed, fel rŷch chi wedi'i nodi, o ystyried yr heriau economaidd a allai llesteirio'r uchelgais yna.
Es i ar ymweliad gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gampws Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yr wythnos diwethaf. Fel y gwyddoch, mae proffil oedran myfyrwyr y brifysgol honno yn hŷn ar gyfartaledd na'r cyfartaledd sector yng Nghymru a'r Deyrnas Gyfunol, a hynny, yn ôl y brifysgol, yn adlewyrchu eu pwyslais ar ddatblygiad proffesiynol parhaus, uwchsgilio ac addysg gydol oes. Fe gwrddais i â myfyrwyr oedd yn sôn am y pwysau economaidd sydd arnyn nhw am eu bod nhw'n hŷn—pwysau economaidd sy'n esgor hefyd ar broblemau iechyd meddwl a straen—a oedd yn cael effaith ar eu gallu i gwblhau eu rhaglenni yn llwyddiannus. Fel y clywon ni, mae hanner myfyrwyr y Brifysgol Agored yng Nghymru yn byw yng nghymunedau mwyaf difreintiedig ein cenedl, ac rŷn ni'n gwybod bod y pwysau ar y cymunedau hyn yn barod wedi cyrraedd lefel argyfyngus ac yn debyg o ddwysáu ymhellach.
Felly, er bu croeso i'r cyfeiriad newydd o ehangu dysgu i oedolion, mae yna bryder ynglŷn â'r lleihad mawr yn y blynyddoedd diwethaf yn y nifer o oedolion sy'n astudio o fewn y sector addysg bellach, a'r gwymp hefyd o ran y bobl sy'n astudio'n rhan-amser yn y gymuned, ar yr un pryd ac y cafodd cyllido ar gyfer addysg i oedolion yn y gymuned ei leihau yn sylweddol iawn ac yn dal i fod yn is nag yr oedd. Felly, sut ydych chi am flaenoriaethu llwybrau clir a hygyrch i ddysgu uwch ac, o ystyried y pwysau economaidd yma, pa gymorth ymarferol fydd ar gael i bobl ymgymryd â chyfleon i ailsgilio ac ailgysylltu ag addysg ar bob lefel?
Roedd grŵp o ddysgwyr o addysg oedolion yn y gymuned Castell-nedd Port Talbot yn ymweld â'r Senedd y bore yma, ac roedden nhw'n gofyn i fi am well gefnogaeth i ddysgwyr er mwyn parhau â'u hastudiaeth. Roedden nhw'n croesawu'r hyn sydd wedi digwydd o ran y cyfrifon addysgu personol, ond roedden nhw'n sôn bod angen gwell cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus—felly, y seilwaith i'w helpu nhw i ymgymryd â'u cyrsiau—help gyda chost trafnidiaeth, help gyda ffioedd arholiadau—roedd yn rhaid iddyn nhw ffeindio hynny o'u poced nhw eu hunain. Ac roedd darpariaeth ddigidol hefyd yn fater o bryder, gyda'r cyfarpar sydd ar gael i'w fenthyg yn gyfyngedig. Felly, sut mae'r Llywodraeth am barhau i geisio dileu y rhwystrau economaidd yma i'r myfyrwyr hŷn yma er mwyn sicrhau effeithlonrwydd y buddsoddiad a'r nod yma o greu cenedl ail gyfle? Sut ydych chi'n mynd i gefnogi pobl i ymgymryd ag addysg mewn cyfnod pan fo'r addysg honno yn gwbl hanfodol i hybu gwydnwch ein cymunedau, lles ein dinasyddion, ac iechyd ein heconomi?
Fe sonioch chi yn eich datganiad am yr heriau cyllidol yma. Mae darpariaeth addysg oedolion a rhan-amser mewn addysg bellach, ac yn y gymuned, yn aml, gyda'r cyntaf o bethau i gael eu torri pan fo cyllid yn brin. Fe welom ni hyn o dan Lafur yma yng Nghymru pan oedd polisïau llymder San Steffan dan y Llywodraeth glymblaid yn niweidio Cymru dros y ddegawd diwethaf. Felly, Weinidog, o ran yr ymrwymiad yma i sicrhau yr addysg ail gyfle yma, sut ydych chi'n mynd i gynnal hynny os bydd cyni economaidd pellach? Mae hynny yn gofyn am gyllid parhaus ar gyfer y sector dysgu oedolion yn y gymuned, fel bod modd darparu pwyntiau mynediad yn ôl i gyfleoedd dysgu, a dilyniant i ddarpariaeth alwedigaethol a chyflogadwyedd.
Wedyn, sut bydd llwyddiant yn cael ei fesur, a pha gynlluniau sydd ar y gweill i ddeall y math o ddysgwyr a allai elwa ar fynediad gwell i ddysgu oedolion? Sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd y pwyslais cryfach ar addysg oedolion o fudd i’r rhai sydd angen mynediad fwyaf, hynny yw, y rhai sy’n lleiaf tebygol o fod wedi elwa ar gyfleoedd addysg ffurfiol, y rhai sy’n lleiaf tebygol o fod â chymwysterau ac sydd wedi gadael addysg yn gynt yn eu bywydau, a phobl hŷn? Diolch.
Diolch i Sioned Williams am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu y gwnes i ateb y rhan fwyaf ohonyn nhw yn y datganiad y gwnes i ei ddatgan ar y cychwyn cyntaf. Ond, jest i gydnabod bod yr heriau y mae hi’n sôn amdanyn nhw yn rhai real, ac mae angen sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r gyllideb sydd gennym ni yn y ffordd fwyaf blaengar y gallwn ni. Dyna pam mae’r gefnogaeth sy’n cael ei darparu drwy'r PLA, y gwnaeth hi ei chydnabod yn ei chwestiwn, a’r gefnogaeth sy’n cael ei darparu o ran addysg rhan amser, llawn amser, ac addysg uwch hefyd, mor bwysig.
O fewn y gyllideb sydd ar gael i golegau addysg bellach, mae’r gyllideb a ddyrannwyd y llynedd yn cynnwys y cynnydd mwyaf yn y gyllideb sydd wedi bod mewn sawl blwyddyn oherwydd ein bod yn ymrwymedig i ehangu cyfleoedd i bobl ôl-16. Mae hynny yn cynnwys hefyd elfennau o arian yn y colegau—y rheini sydd ar gael—i ddiwallu anghenion brys ac argyfyngus unigolion lle mae pwysau costau yn bygwth bod yn rhwystr iddyn nhw o ran cael mynediad at gyrsiau. Mae cronfeydd penodol gan golegau sydd yn cael eu hariannu ar gyfer y pwrpas hwnnw.
Un o’r cwestiynau y gwnaeth hi ei ofyn sydd yn bwysig iawn yw: sut rŷm ni’n gallu sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y rheini sydd angen cael mynediad fwyaf at addysg bellach? Mae’r ystadegau yn dangos, yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Gyfunol, mai dyna’r her fwyaf, os hoffwch chi. Y bobl sydd yn fwyaf tebygol o fanteisio ar addysg fel oedolion yw’r rheini sydd efallai wedi cael y mwyaf o addysg ar hyd eu llwybr hyd hynny. Felly, dyna un o’r heriau, un o'r sialensiau mwyaf dyrys.
Rwy’n credu bod hyn yn rhan o’r strategaeth yn gyffredinol. Mae’r gwaith y mae’r external reference group yn ei wneud gyda ni yn ein helpu ni i ddeall sut i allu cyrraedd pobl, sut i allu sicrhau nad oes dyblygu, a bod y ffordd rŷm ni’n cyfathrebu â phobl yn sicrhau bod cyrsiau yn hygyrch i bobl, a’n bod ni hefyd yn cynnig llwybrau i bobl allu ailgydio gyda dysgu sydd yn amrywiol, sydd yn adlewyrchu amryw lefelau o hyder, os hoffwch chi, ac i’r rheini sydd efallai ymhellach o’r system addysg.
Felly, dydw i ddim yn credu bod unrhyw un ymyriad yn y maes hwn yn mynd i ateb y galw. Ond rwy’n gobeithio bod y darlun dwi wedi bod yn ei ddisgrifio—ystod eang o ymyriadau ar y cyd—yn mynd i allu cyrraedd y rheini sydd angen y gefnogaeth fwyaf.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Gweinidog, a'ch ymrwymiad, ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru, i ddysgu gydol oes ac addysg ail gyfle. Roedd yn dda eich gweld yn y gwobrau dysgu i oedolion nôl ym mis Medi, Gweinidog, gyda'r Sefydliad Dysgu a Gwaith, lle rwy'n credu i ni glywed tystiolaeth bwerus iawn gan y rhai a oedd wedi elwa ar addysg ail gyfle a chanfod bod hynny'n trawsnewid eu bywydau'n llwyr, iddyn nhw eu hunain ac, yn wir, eu plant a'u teuluoedd. Mae'n bwerus iawn yn wir, ac mae fy mhrofiad i fy hun yn atgyfnerthu hynny, Gweinidog.
Ar ôl gadael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau a bod allan o waith am gyfnod o flynyddoedd, ac yna cael teulu ifanc, byw ar ystad gyngor, roeddwn i'n edrych am ffordd ymlaen, ac addysg ail gyfle, a mynd i'r coleg addysg bellach yng Nghasnewydd—Coleg Nash fel yr oedden ni'n ei ddisgrifio bryd hynny—a arweiniodd fi yn ôl i fyd addysg ac ymlaen i'r brifysgol, gyrfa yn y gyfraith, a nawr y fraint o gynrychioli pobl, yn gyntaf yn y Cynulliad ac yma yn y Senedd erbyn hyn. Felly, rwy'n gwerthfawrogi'r cyfleoedd hynny yn fawr ac rwyf eisiau eu gweld ar gael i bobl eraill.
Rwy'n credu hefyd, Gweinidog, bod angen i ni ddeall y gweithle o ran y cyfleoedd yma. Rwy'n credu bod cronfa ddysgu undebau Cymru yn bwerus iawn, a'r cynrychiolwyr dysgu, a rhwyddineb mynediad, lle gall pobl gael cyfleoedd uwchsgilio ac addysg yn y gweithle, ac yna datblygu angerdd amdano a mynd ymlaen o'r fan honno, efallai i'w coleg addysg bellach lleol a thu hwnt, yn bwerus iawn, iawn. Rwy'n credu bod hynny'n agwedd bwysig iawn ar y ddarpariaeth sydd ei hangen arnom.
A gaf i ddiolch i John Griffiths am hynna? Siaradodd yn deimladwy iawn yn y digwyddiad yn y Senedd am ei daith ei hun, fel y mae wedi gwneud yma heddiw, ac rwy'n credu bod hyn yn dangos yn llwyr bŵer a phwysigrwydd dysgu gydol oes i ddemocrateiddio mynediad at addysg ar bob adeg yn eich bywyd. Rwy'n credu bod y stori y mae John Griffiths newydd ei rhoi yn stori ysbrydoledig am addysg oedolion—mae'n dechrau ar un pwynt ar y daith, ac yna gall hynny eich arwain chi at—. Mae'n daith gronnus, onid yw hi, o ddysgu mwy a mwy ac ymestyn eich cymwysterau neu eich taith ddysgu ar unrhyw adeg mewn bywyd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gweld hyn yn gyfannol. Bydd pobl yn ailgydio mewn dysgu ar ba bynnag adeg ac ym mha bynnag leoliad sy'n gweithio iddyn nhw. I rai, mae hynny'n lleoliad cymunedol. I rai, mae'n brifysgol. I eraill, bydd yn y gweithle, a chlywodd y ddau ohonom ni am waith dau undeb a gafodd wobrau am eu gwaith anhygoel o ran nodi gweithwyr na fyddent efallai wedi meddwl amdanynt eu hunain fel rhai â chyfle i ddysgu ac yna datblygu eu cyfleoedd i feithrin mwy a mwy o sgiliau. Rwy'n credu bod ymrwymiad y Llywodraeth i gronfa dysgu undebau Cymru yn bwysig iawn, ac mae'n bwysig gweld datblygu sgiliau yn y gweithle fel rhan o'r cynnig cyffredinol sydd gennym ni.
Diolch i'r Gweinidog.