– Senedd Cymru am 2:47 pm ar 22 Tachwedd 2022.
Eitem 4 sydd nesaf, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon, a dwi'n galw ar Weindog y Cyfansoddiad i wneud y cynnig—Mick Antoniw.
Diolch i chi, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae hi'n bryder ac yn siom enfawr i mi orfod mynd i'r afael â'r Bil hwn. Er newidiadau rif y gwlith yn Llywodraeth y DU dros y misoedd diwethaf, nid oes fawr ddim wedi newid. Mae hi'n ymddangos nad oes llawer o gynnydd wedi bod, ac rydym ni'n parhau i fod â'r posibilrwydd y bydd y Bil annoeth ac anghyfrifol hwn yn dod yn gyfraith. Mae enw da y DU yn rhyngwladol wedi cael ei bardduo cymaint yn ddiweddar nes fy mod i wedi gobeithio y byddai Gweinidogion y DU wedi bod yn ddigon doeth i osgoi mwy o ddistryw gyda'r hurtrwydd hwn. Rwy'n dal i obeithio y bydd gan y Prif Weinidog diweddaraf y crebwyll yr oedd ei ragflaenwyr mor amddifad ohono, ac y bydd yn canfod y doethineb a'r pwyll gwleidyddol sydd ei angen i sicrhau cynnydd gwirioneddol.
Rydyn ni wedi cyflwyno'r cynnig fel bod y Senedd yn gallu ystyried materion am y Bil a phenderfynu ar gydsyniad. Bydd yr Aelodau yn gweld ein bod ni, yn y memorandwm, yn dweud bod y rhesymau dros beidio â rhoi cydsyniad yn rhesymau da o ran y gyfraith a'r cyfansoddiad. Bydd yr Aelodau hefyd yn gweld bod Llywodraeth Cymru yn credu bod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer y Bil. Mae hyn yn wir am y Bil i gyd, heblaw am gymal 1. Dwi'n gweld bod adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn cytuno ar y cyfan.
Ond gadewch i ni edrych, yn gyntaf, ar amcanion polisi honedig y Bil a'r cyd-destun. Prif nod y protocol oedd atal ffin galed ar ynys Iwerddon. Dyna'r nod o hyd. Roedden nhw'n dweud bod y protocol yn ateb newydd pragmatig ac effeithiol i'r broblem gymhleth. Cafodd y Prif Weinidog ar y pryd, Boris Johnson, glod mawr amdano.
Mae'r protocol yn gwneud trefniadau penodol ar gyfer Gogledd Iwerddon i ddiogelu cytundeb Belffast, Dydd Gwener y Groglith. Mae'n gwneud yn siŵr bod busnesau Gogledd Iwerddon yn dal i gael mynediad hawdd i farchnadoedd yn yr Undeb Ewropeaidd a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn diogelu marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd, ac eto, yn rhyfeddol, lai na phum mis ar ôl cytuno i'r protocol a'i wneud yn gyfraith ryngwladol fel rhan o gytundeb ymadael y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd, dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei fod yn creu rhwystrau sydd ddim yn dderbyniol i fasnachwyr o fewn marchnad fewnol y Deyrnas Unedig.
Roedd Brexit bob amser am fynnu ffin yn rhywle rhwng marchnad sengl yr UE a marchnad fewnol y DU, ond eto mae Llywodraethau olynol y DU a oedd yn cefnogi Brexit wedi gwrthod cydnabod y pwynt hwn a hynny mewn ffordd naïf ac ystyfnig. Rwy'n derbyn, wrth gwrs, y gall unrhyw gytundeb fod yn destun adolygiad technegol ac, yn wir, mae'r DU a'r UE wedi dechrau trafodaethau ffurfiol ac anffurfiol ynglŷn â newidiadau technegol i'r protocol, ac mae'n rhaid i'r rhain barhau. Yn anffodus, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu bod angen iddi fod â phwerau trwy gyfrwng y Bil hwn i wneud newidiadau i'r ffordd y mae'r protocol yn gweithredu mewn cyfraith ddomestig. Mae hi'n ymddangos ei bod o'r farn fod bodolaeth pwerau o'r fath yn ei rhoi mewn sefyllfa fwy manteisiol wrth drafod newidiadau i'r protocol gyda'r Comisiwn Ewropeaidd, ac eto fe ysgrifennodd 52 o'r 90 o aelodau sydd yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon a etholwyd ym mis Mai, o dair plaid, ym mis Mehefin at Brif Weinidog Johnson yn gwrthwynebu'r Bil hwn.
Mae dull Llywodraeth y DU yn dactegol naïf ac yn wleidyddol hurt. Mae i ymagwedd Llywodraeth y DU ganlyniadau trychinebus iawn i Gymru a'r cytundeb masnach a chydweithio, sy'n rhagweld y dylai'r DU gysylltu â rhaglen ymchwil Horizon. Mae ei rhaglenni rhagflaenol wedi bod o fudd mawr i economïau Cymru a'r DU ac Ewrop yn fwy eang dros gyfnod o ddegawdau. Mae llawer o raglenni ymchwil ym mhrifysgolion Cymru wedi cael eu hariannu drwyddi, ond eto mae ein cyfranogiad parhaus ni yn y cylch o raglenni a chyllid sydd eisoes wedi dechrau yn cael ei beryglu erbyn hyn oherwydd y Bil hwn. Nid yw'r Comisiwn wedi bod yn fodlon parhau gyda chyfranogiad y DU yn y rhaglen, yn fwyaf tebygol oherwydd y drwgdeimlad a achoswyd gan y Bil. Rydym ni, ynghyd â phrifysgolion a busnesau ledled y DU, wedi pwyso arnyn nhw i ailystyried eu dull o weithredu, ond y gwir achos yn y pen draw yw'r Bil hwn.
Nawr, rwyf i am ymdrin â'r dadleuon penodol dros beidio ag argymell caniatâd. Yn gyntaf, mae hi'n ddigon posibl y bydd y Bil, yn ôl bob tebyg, yn torri cyfraith ryngwladol. Mae ysgolheigion cyfreithiol nodedig wedi dweud bod amddiffyniad cyfraith ryngwladol Llywodraeth y DU oherwydd rheidrwydd i dorri rhwymedigaethau rhyngwladol nid yn unig yn llipa, ond yn ddiobaith hyd yn oed, fel y'i disgrifiwyd gan gyn-bennaeth adran gyfreithiol Llywodraeth y DU. Nid ydym ni'n fodlon cymeradwyo caniatâd i Fil sydd â phosibiliad o dorri cyfraith ryngwladol ar sail na ellir ei chyfiawnhau. Yn unol â'r memorandwm, mae i hynny oblygiadau difrifol i rwymedigaethau Gweinidogion Cymru i gydymffurfio â'r gyfraith, gan gynnwys cyfraith ryngwladol a rhwymedigaethau cytundebau yn unol â'r cod gweinidogol. Rwy'n nodi bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn rhannu'r pryderon hyn ynghylch safbwynt Llywodraeth y DU. Yn ein barn ni, fe fyddai hi'n amhriodol yn foesol ac yn gyfansoddiadol i'r Llywodraeth hon argymell cydsyniad i ddeddfwriaeth sydd ynddi ei hunan yn anghyfreithlon, o bosibl.
Yn ail, mae llawer o'r pwerau i lunio rheoliadau a ddrafftiwyd yn y Bil mor eang fel nad oes ganddyn nhw unrhyw eglurder gwirioneddol o ran eu dibenion, ac mae i hyn oblygiadau sylweddol i Gymru o bosibl ac i'n setliad datganoli ni, yn yr ystyr na allwn ni ddeall natur na chylch posibl y pwerau y gellid eu rhoi i Weinidogion Cymru yn llawn ac ni allwn ni asesu yn iawn ychwaith i ba raddau y gellid defnyddio Gweinidogion y Goron i dresmasu ar faterion datganoledig. Mae hi'n amlwg nad yw hyn yn dryloyw, yn bendant nid yw hon yn gyfraith dda, ac yn sicr mae hi'n bygwth egwyddorion cyfansoddiadol sylfaenol a'n setliad datganoli ni. Rwy'n nodi bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn rhannu pryderon hefyd ynghylch y pwerau dirprwyedig hynod eang sydd yn y Bil hwn.
Yn drydydd, fe ddylwn i ailadrodd na roddwyd unrhyw swyddogaeth i Lywodraeth Cymru, unwaith eto. Ni chawsom ni unrhyw ran yn nrafftio'r Bil hwn ac, yn union fel gyda Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a'r Bil Cyfraith yr UE (Dirymu a Diwygio) echrydus, rydym ni'n anghytuno ag ymagwedd dactegol Llywodraeth y DU. Fe ddylai hi barhau i drafod yn adeiladol gyda'r Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn â'r materion technegol hyn yn barhaus. Nid wyf i'n dymuno i Lywodraeth Cymru a'r Senedd fod yn rhan o unrhyw ddifenwad pellach i'r DU yn rhyngwladol. Rwy'n falch fod pob un o'r tri adroddiad gan bwyllgor y Senedd ar y memorandwm, er gwaethaf yr amser cymharol gyfyngedig i'w ystyried, yn mynd i'r afael â phryderon am y niwed posibl i'r cysylltiadau rhwng y DU a'r UE ac yn pwysleisio'r angen am setliad drwy drafodaeth. Rwy'n ddiolchgar am eu diwydrwydd a'u cefnogaeth ac am y gwaith pwysig a wnaethpwyd o ran craffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a'r Bil. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, Delyth Jewell.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Cyfathrebu, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma. Roedden ni fel pwyllgor yn bryderus am y diffyg amser oedd gennym ni yn wreiddiol i ystyried ei lawn oblygiadau, oherwydd, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, bydd goblygiadau pellgyrhaeddol yn deillio o'r Bil. Er rhoddwyd estyniad yn y pen draw, newidiwyd yr amserlen ar ôl i'n pwyllgor ni adrodd ar y cydsyniad deddfwriaethol. Oherwydd difrifoldeb y materion sy'n codi o'r Bil, roedden ni fel pwyllgor eisiau cymryd amser i glywed mwy o dystiolaeth o randdeiliaid, gan gynnwys Gweinidogion Cymreig ac o San Steffan, ond doedd hynny, yn anffodus, ddim yn bosibl gyda'r amserlennu gwreiddiol.
Er fy mod i'n deall, yn amlwg, fod cyflymder deddfu ar y Mesur hwn wedi bod yn rhannol gyfrifol am yr amserlennu, mae hefyd yn wir bod Llywodraeth Cymru wedi eistedd gyda'r LCM yn hirach na'r arfer. Rŷn ni fel pwyllgor yn cydnabod y rhesymau pam wnaeth hyn ddigwydd, ond roedden ni, gwaetha'r modd, yn teimlo bod yr amser rhoddwyd inni sgrwtineiddio'r LCM yn lleiafsymiol o'i gymharu gyda'r amser oedd gan Lywodraeth Cymru i ystyried y Mesur. Fel rŷn ni wedi trafod yn barod ac wedi clywed, rŷn ni'n ymwybodol iawn o'r rhesymau pam roedd hyn wedi digwydd, ond buasem ni eisiau nodi, yn y dyfodol, ein bod ni’n teimlo fel pwyllgor ei bod hi'n hynod bwysig i'r Llywodraeth roi digonedd o amser i bwyllgorau allu sgrwtineiddio cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn llawn, yn enwedig rhai gyda chymaint o oblygiadau difrifol.
Mae gan y pwyllgor nifer o bryderon difrifol o ran yr LCM ei hun. Fel rydym ni wedi clywed eisoes, mae'r pwerau dirprwyedig pellgyrhaeddol a geir o fewn y Bil yn achosi pryder i ninnau hefyd. Fel cafodd ei drafftio, fe fyddai'r Bil yn galluogi Gweinidogion y Goron i wneud unrhyw newidiadau i'r Bil y maen nhw'n eu hystyried yn briodol yn y dyfodol ac wrth edrych yn ôl. Fe allai unrhyw is-ddeddfwriaeth addasu cymhwysedd deddfwriaethol y lle hwn gyda'r pwerau hynny neu wneud newidiadau mewn meysydd datganoledig, yn wir, heb ystyriaeth i'n Senedd ni na'n Gweinidogion ni yng Nghymru.
Ond, heb sôn am unrhyw gwestiynau cyfansoddiadol, mae gan ein pwyllgor ni bryderon yn ymwneud â'n cylch gwaith cysylltiadau rhyngwladol. Rydym ni'n nodi bod y Bil yn peri risg i enw da a hygrededd rhyngwladol y DU o ran cyfraith ryngwladol. Rydym ni'n cytuno â Llywodraeth Cymru bod y Bil yn golygu
'methiant diplomyddiaeth a gwladweinyddiaeth'
Mae hi'n debygol iawn y byddai enw da Cymru yn ddioddef o gysylltiad â hyn, ac rydym ni'n pryderu bod y Bil yn nodi dirywiad yn y cysylltiadau rhwng y DU a'r UE. Gallai hynny effeithio ar sut mae strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru yn cael ei chyflwyno, ac fe allai hynny'n fod ag effaith wir ddinistriol ar gysylltiadau rhwng Cymru a'r Undeb Ewropeaidd. Oherwydd ein meysydd arbennig o ddiddordeb yn y pwyllgor, rydym ni'n pryderu hefyd ynglŷn â sut y gallai'r Bil hwn effeithio ar gydweithrediad rhwng Cymru ac Iwerddon. Fe allai llawer iawn o ganlyniadau annisgwyl ddeillio o'r ddeddfwriaeth hon. Rydym ni, unwaith eto, wedi cael ein siomi mai ychydig iawn o amser a roddwyd ar gyfer proses graffu sy'n fwy trylwyr. Ac fe fyddem ninnau'n adleisio'r rhai sy'n annog y ddwy ochr i geisio datrysiad drwy drafodaeth i'r materion hynny a godwyd gan y protocol. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rhoddwyd ein hadroddiad ni ar femorandwm Llywodraeth Cymru o ran y Bil Protocol Gogledd Iwerddon hwn ar 9 Tachwedd, ac rwy'n diolch i'r tîm clercio a'r Aelodau hefyd am eu hystyriaeth a'u diwydrwydd nhw.
Roedd ein hadroddiad ni'n mynegi ein pryder ni gyda'r Bil hwn, am lawer o resymau. Yn gyntaf, wrth gyflwyno'r Bil, dywedodd Llywodraeth y DU ei bod hi'n rhagweld na fydd ei rhwymedigaethau rhyngwladol yn cael eu cyflawni. Rydym ni'n pryderu felly am y posibilrwydd y bydd y Bil yn torri cyfraith ryngwladol, fel y dywedodd y Gweinidog, yn wir. Mae Llywodraeth y DU yn dibynnu ar egwyddor o reidrwydd yn cyfiawnhau ei dull hi o weithredu. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod hi o'r farn mai ffordd 'ddadleuol iawn' o osgoi rhwymedigaethau rhyngwladol yw honno, fel nododd y Gweinidog yn y memorandwm. Mae llawer o sylwebwyr cyfreithiol yn nodi hefyd mai amddiffyniad llipa iawn yw galw ar athrawiaeth rheidrwydd yn yr amgylchiadau hyn ac mae'n annhebygol o lwyddo.
Yn y pwyllgor arweiniol ar gyfer cytundebau rhyngwladol, rydym ni o'r farn fod cadw atyn nhw'n fater hollbwysig. Rydym ni'n cytuno â'r Cwnsler Cyffredinol hefyd o ran bod y posibilrwydd o dorri cyfraith ryngwladol gan y Bil yn creu problem gyfansoddiadol i'r Senedd hon, oherwydd fe ofynnir i ni gydsynio i rywbeth sy'n cyfiawnhau torcyfraith i bob pwrpas.
Fel gŵyr y Senedd, nid yw fy mhwyllgor i fel arfer yn gwneud argymhelliad i weld a ddylai'r Senedd roi ei chydsyniad hi i ddarpariaethau o fewn Biliau'r DU. Fodd bynnag, oherwydd goblygiadau cyfansoddiadol mawr y Bil hwn, roeddem ni o'r farn ei bod hi'n iawn i wneud hynny yn yr achos hwn. Roedd pob un o'n haelodau heblaw am un yn credu y dylai'r Senedd ddal ei chydsyniad i'r Bil yn ôl. Rydym yn dod i'r casgliad hwnnw oherwydd gallai penderfyniad gan y Senedd i gydsynio i'r Bil hwn gyfrannu at dorri cyfraith ryngwladol, a byddai'n golygu bod y Senedd yn gweithredu'n anghymarus â'i rhwymedigaethau rhyngwladol. Byddai hynny, yn ddiamau, yn erbyn ysbryd y setliad datganoli.
Rydym ni'n rhannu pryderon y Gweinidog hefyd y byddai argymell cydsynio i'r Bil hwn yn herio ymlyniad Gweinidogion Cymru at y cod gweinidogol, sy'n cynnwys dyletswydd benodol ar Weinidogion i gydymffurfio â chyfraith ryngwladol a gyda rhwymedigaethau cytundebau. Os oes disgwyl i Weinidogion Cymru arfer y pwerau i wneud rheoliadau yn ôl y Bil, fe allai gwneud hynny fod yn gyfystyr â thorri'r cod hwnnw dro ar ôl tro.
Gan droi at y pwerau hynny i lunio rheoliadau yn benodol, nodwyd bod Pwyllgor Pwerau a Diwygio Rheoleiddio Tŷ'r Arglwyddi yn galw'r holl bwerau yn y Bil, mewn dyfyniadau yn, 'bwerau uwch Harri VIII'—sy'n sylw trawiadol iawn. Rhoi'r enw hwnnw wnaethon nhw am fod y pwerau o fewn y Bil yn caniatáu i Weinidogion wneud unrhyw ddarpariaeth y gellid ei gwneud gan Ddeddf Seneddol, gan gynnwys addasu'r Bil drwy reoliadau wedi iddo ddod yn ddeddf. Felly, rydym ni'n cytuno â nhw; mae'r pwerau dirprwyedig hynod eang yn y Bil hwn yn peri pryder. Fe fydden nhw'n caniatáu i Weinidogion y DU wneud unrhyw newidiadau yr hoffen nhw eu gwneud i'r Bil yn y dyfodol i bob pwrpas—gan gynnwys yn ôl-weithredol—heb unrhyw gyfranogiad na rhan i Weinidogion Cymru nac yn wir i'r Senedd hon.
Mae ein pryderon ni o ran y pwerau dirprwyedig eang yn y Bil yn aros yr un fath ni waeth a yw'r pwerau hynny'n cael eu harfer gan Weinidogion y DU neu'n dilyn hynny yn y dyfodol gan Weinidogion Cymru. O bryder pellach i ni yw'r ffaith nad yw hi eto'n hysbys pa bwerau dirprwyedig newydd i Weinidogion Cymru y gellir eu creu o ganlyniad i'r Bil, neu pa weithdrefnau y gellir eu cymhwyso i'r pwerau hynny, a Gweinidogion y DU a fydd yn gwneud yr holl benderfyniadau hynny.
Nid yw'n hi eglur i ni ychwaith, a dweud y gwir, pam mae angen hyn i gyd, gan nad yw mecanweithiau'r cytundeb ymadael ei hun wedi cael eu harchwilio yn llawn eto, ac mae hynny'n cynnwys erthygl 16 o brotocol Gogledd Iwerddon, sy'n caniatáu i'r DU a'r UE gymryd mesurau diogelu dros dro os yw'r protocol yn arwain at anawsterau penodol neu ar gyfer dargyfeirio masnach. Rydym yn pryderu, fel cafodd ei fynegi gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, fod dull Llywodraeth y DU yn debygol o gael effaith ddinistriol ar gysylltiadau rhwng y DU â'r UE.
Gan droi at gymalau penodol yn y memorandwm, rydym ni'n cytuno â'r Gweinidog fod y cymalau a restrir yn y memorandwm yn dod o fewn pwrpas o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Eto i gyd, rydym ni o'r farn hefyd fod cymalau 6, 7, 11, 18 a 24 o'r Bil yn perthyn i'r categori hwnnw. Mae'r memorandwm yn dweud bod cymalau 2 i 4 a 13 i 15 o'r Bil yn addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Rydym ni'n cytuno â'r asesiad hwnnw, ond credwn hefyd fod cymalau 8 a 20 yn addasu cymhwysedd deddfwriaethol, yn ogystal â hynny. Nid ydym ni o'r farn fod cymal 12 yn gofyn caniatâd y Senedd, ac rwy'n gwybod mai barn yw honno nad yw'n cael ei rhannu gan y Gweinidog, felly fe fyddem ni'n croesawu unrhyw arsylwadau ynglŷn â hynny, Gweinidog.
Cyn i mi gloi fy sylwadau, fe hoffwn i unwaith eto fynegi siom y pwyllgor gydag ymgysylltiad prin Llywodraeth y DU â Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno deddfwriaeth sy'n effeithio ar feysydd a ddatganolwyd. Rydym ni'n cydnabod mai dyma un o'r rhesymau pam rhoddwyd y memorandwm gerbron 15 wythnos wedi cyflwyno'r Bil. Serch hynny, rydym ni'n credu er hynny y gallai Llywodraeth Cymru ei hun fod wedi gweithredu yn gynt i ganiatáu amser digonol i graffu gan bwyllgorau'r Senedd, yn enwedig o ystyried goblygiadau rhyngwladol a chyfansoddiadol y Bil, a gododd fy nghyd-gadeirydd. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n siomedig, mae'n rhaid i mi ddweud, ond nid wyf wedi fy synnu o glywed y bydd Llywodraeth Cymru yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw. Ac wrth gwrs, rwy'n codi i gyfrannu at y ddadl hon yn ddinesydd Gwyddelig ac yn ddinesydd y DU, ac yn rhywun sydd wedi bod yn aelod hirsefydlog o Gynulliad Seneddol Prydain-Iwerddon, yr wyf yn gadeirydd ei bwyllgor ar faterion Ewropeaidd mewn gwirionedd. Felly, rwyf i wedi rhoi ystyriaeth helaeth i'r ddeddfwriaeth hon sydd ger ein bron, ac rwyf wedi dod i'r casgliad ei bod hi, yn anfoddog, yn angenrheidiol i'w chefnogi, oherwydd y gwir yw bod Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio yn galed iawn wrth geisio datrysiad rhesymol i rai o'r problemau a gododd y protocol ar ynys Iwerddon a rhwng y DU a Gogledd Iwerddon o ran masnach.
Ac rwy'n credu y bydd y Bil sydd gennym ger ein bron, pe bai'n cael ei ddeddfu—pe bai'n angenrheidiol iddo gael ei ddeddfu—yn cyflawni'r mater pwysicaf y mae angen i ni i gyd fod yn gytûn yn ei gylch, a hynny yw ei bod hi'n rhaid i ni ddiogelu cytundeb Dydd Gwener y Groglith. Fe fyddwn yn nodi'r flwyddyn nesaf bum mlynedd ar hugain ers cytundeb Dydd Gwener y Groglith. Mae hwnnw wedi golygu heddwch a sefydlogrwydd i ni yng Ngogledd Iwerddon dros y chwarter canrif diwethaf, ac mae angen i ni sicrhau bod sylfaen o heddwch a sefydlogrwydd, sydd yn y cytundeb hwnnw, yn cael ei lwyr ddiogelu i'r dyfodol hefyd. Ac wrth gwrs, un o'r agweddau pwysig ar hyn yw osgoi ffin galed ar ynys Iwerddon, ac rwy'n credu y gallwn ni wneud hynny pe byddem ni'n rhoi'r egwyddorion yn y Bil hwn ar waith, gan barhau i ddiogelu marchnad y DU a sicrhau cywirdeb marchnad fewnol y DU ei hun hefyd.
Aeth 18 mis o drafodaethau dwys gyda'r UE heibio erbyn hyn heb gytundeb, ac fe hoffai Llywodraeth y DU, wrth gwrs, fod â setliad a gytunwyd gan yr UE a'r DU gyda'i gilydd, ond yn anffodus mae'r gwrthodiad i blygu dim ar ochr yr UE wedi golygu bod angen ceisio cyflwyno datrysiad arall. Felly, fe fydd y Bil hwn, rwy'n credu, yn datrys y problemau ymarferol hynny gyda rhannau o brotocol Gogledd Iwerddon, sydd wedi codi o ganlyniad i rannau o'r protocol hwnnw. Fe fydd yn amddiffyn y rhannau o'r protocol sy'n gweithio, ac fe ellir ymdrin â'r canlyniadau anfwriadol hynny sydd wedi codi o ganlyniad i roi'r protocol ar waith.
Fe geir pedwar maes allweddol, yn bennaf, y mae Llywodraeth y DU yn ceisio mynd i'r afael â nhw. Y cyntaf yw'r prosesau tollau beichus y mae busnesau yn eu hwynebu ledled Gogledd Iwerddon ac yn y DU; yr ail yw rheoleiddio anhyblyg; y trydydd yw anghysondebau treth a gwariant rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon; ac mae'r pedwerydd yn ymwneud â materion llywodraethu. Bydd yn cyflwyno sianeli gwyrdd a choch i gael gwared ar gostau diangen a gwaith papur ychwanegol i fusnesau sy'n masnachu o fewn y DU, wrth sicrhau bod gwiriadau llawn yn digwydd ar gyfer nwyddau sy'n dod i ben eu taith yn yr UE. Bydd yn rhoi'r dewis i fusnesau roi nwyddau ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon yn ôl naill ai reolau nwyddau'r DU neu rai'r UE. Bydd yn sicrhau bod Gogledd Iwerddon yn gallu elwa ar un o'r polisïau o ran seibiant yn y dreth a gwariant â gweddill y DU, gan gynnwys toriadau TAW ar bethau fel deunyddiau sy'n arbed ynni a benthyciadau adfer wedi COVID. Ar hyn o bryd, nid ydyn nhw'n gallu gwneud felly oherwydd protocol yr UE. Ac wrth gwrs fe fydd yn normaleiddio trefniadau llywodraethu fel bydd unrhyw anghydfod yn cael ei ddatrys mewn ffordd briodol gan ganolwyr annibynnol ac nid gan Lys Cyfiawnder Ewrop.
Rwyf wedi clywed llawer o gyfeirio at y mater hwn fel ei fod yn gyfystyr â thorri cyfraith ryngwladol ac yn anghyfreithlon felly. Mae safbwynt Llywodraeth y DU yn eglur, ac mae hi wedi cyhoeddi ei safbwynt cyfreithiol a'r cyngor cyfreithiol a gafodd hi gyda manylder ac mae hynny'n mynegi bod y ddeddfwriaeth yn gyfreithlon yn ôl cyfraith ryngwladol ar sail athrawiaeth rheidrwydd. Mae hi'n cefnogi'r cydbwysedd a ddarperir ar gyfer cytundeb Dydd Gwener y Groglith, sef, wrth gwrs, fel rwy'n dweud, y peth pwysicaf sydd angen ei warchod yn hyn i gyd, wrth ymdrin â'r materion hyn, y nifer fechan o broblemau y mae'r protocol yn eu codi. Ac rydym ni'n gwybod os nad ydym ni'n ymdrin â'r problemau hyn sy'n codi eu pennau o ganlyniad i roi'r protocol ar waith, y bydd yn parhau i achosi tensiynau cymunedol yng Ngogledd Iwerddon. Y gwir yw bod y tensiynau cymunedol hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd ac sydd wedi achosi'r methiant i ffurfio Llywodraeth yno ers yr etholiadau diwethaf yng Ngogledd Iwerddon o ganlyniad i'r protocol hwn yn bennaf, a'r rhwystrau hyn, os mynnwch chi, sydd wedi cael eu codi ar ganol môr Iwerddon. Felly, mae angen i ni fynd i'r afael â nhw; mae angen i ni wneud hyn mewn ffordd deg a chytbwys. Fel Llywodraeth y DU, fe fyddai hi'n well o lawer gennyf innau fod â setliad a gafodd ei negodi, ond mae hi'n amlwg nad yw hynny'n bosibl ar hyn o bryd, ac fe fydd cyflwyno'r Bil hwn, rwy'n gobeithio, yn diddymu'r cyfwng hwn ac yn ymdrin â'r materion hyn unwaith ac am byth.
Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Dyna un safbwynt sydd yn hollol groes i'r hyn rydyn ni yn teimlo fel plaid, ac mi fyddwn ni hefyd yn gwrthwynebu heddiw.
Weinidog, fel y gwyddoch eisoes, mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu’r defnydd o gynigion cydsyniad deddfwriaethol fel mater o egwyddor. Credwn y dylai penderfyniadau ar faterion datganoledig o hyd gael eu trafod, eu craffu a’u cymeradwyo gan Senedd Cymru, yn hytrach na chael eu gwneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ein rhan. Mae arfer o’r fath yn tanseilio seiliau datganoli. Mae natur y cynnig cydsyniad deddfwriaethol penodol hwn yn pwysleisio dilysrwydd safiad Plaid Cymru yn glir, gan ei fod yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod yn rhan o fesurau i ddatgymhwyso’n unochrog elfennau o brotocol Gogledd Iwerddon, yn groes i gyfraith ryngwladol. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cytuno i’r rhwymedigaethau hyn lai na thair blynedd yn ôl fel rhan o gytundeb 'oven-ready' Boris Johnson ar ôl Brexit—ymadroddiad sy’n ymddangos yn fwy anffodus bob dydd o ystyried y smonach mae'r Blaid Dorïaidd hon yn ei wneud o lywodraethu'r Deyrnas Unedig.
Weinidog, mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu rhoi caniatâd i’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn am dri rheswm penodol. Yn gyntaf, fel yr wyf wedi crybwyll eisoes, mae’r Bil dan sylw yn ymgais gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ymwrthod â’i hymrwymiadau o dan gyfraith ryngwladol. Er bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ceisio cyfiawnhau’r dull hwn o weithredu ar sail yr athrawiaeth cyfraith ryngwladol o angenrheidrwydd, mae nifer o ysgolheigion cyfreithiol wedi anghytuno’n gryf â rhesymau o’r fath. Mae hyn yn dangos unwaith eto fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig heb ddeall yn llawn telerau’r cytundeb a lofnodwyd i ffanffer mawr yn ôl ym mis Rhagfyr 2019, neu nad oedd ganddynt erioed unrhyw fwriad i’w anrhydeddu yn y lle cyntaf.
Weinidog, rwy’n siŵr y cytunwch fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi chwalu unrhyw hygrededd oedd ganddi gyda’r gymuned ryngwladol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond yma yng Nghymru, lle mae ein gwleidyddiaeth yn dipyn mwy aeddfed a chyfrifol, nid oes angen i enw da ein Senedd gael ei effeithio gan fyrbwylltra San Steffan, a dim ond un enghraifft o hynny yw’r Bil hwn.
Yn ail, ymhell o ddiogelu cytundeb Gwener y Groglith fel y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’i honni’n sinigaidd, mae’r mesur hwn wedi gwaethygu tensiynau ar ynys Iwerddon a grëwyd gyntaf wrth i’r Torïaid ddilyn y trywydd o Brexit caled. Mae’r syniad bod y mesur hwn rywsut yn cynnal yr egwyddor o gefnogaeth draws-gymunedol yn cael ei danseilio gan y ffaith y gwnaeth pleidiau sydd o blaid gweithredu’r protocol ennill mwyafrif ysgubol o seddi yn etholiad diwethaf Cynulliad Gogledd Iwerddon. Yn lle ymdrechu i leihau aflonyddwch Brexit ar ynys Iwerddon, mae’r Llywodraeth Dorïaidd hon wedi rhoi cytundeb Gwener y Groglith mewn mwy o berygl nag ar unrhyw adeg dros y 24 mlynedd ddiwethaf.
Yn olaf, rhaid inni ystyried goblygiadau’r Bil hwn o safbwynt Cymreig, a’r niwed posibl y gallai ei achosi i rwydweithiau o ran cydweithio hollbwysig Cymru ag Iwerddon. Fel ein cymydog Ewropeaidd agosaf, mae perthynas Cymru ag Iwerddon yn chwarae rhan arwyddocaol yn strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru o safbwynt masnach a diwylliant. Mae’n hollbwysig, felly, fod y Senedd hon yn cyfleu neges gadarn i’n cyfeillion Gwyddelig ein bod yn gwrthod unrhyw fesurau a allai niweidio ein rhwymau cryf o gydweithio. Yn ogystal â hyn, fel y mae’r Cwnsler Cyffredinol eisoes wedi cyfeirio ato, mae’r ffaith na ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru wrth ddrafftio’r ddeddfwriaeth hon, er gwaethaf ei pherthnasedd amlwg i Gymru, yn cyfleu diffyg parch Llywodraeth San Steffan tuag at ddatganoli. Mae hefyd yn tanlinellu pa mor wag yw eu rhethreg bod y Deyrnas Unedig yn undeb cyfartal.
Am y rhesymau hyn, mae Plaid Cymru'n gwrthwynebu'n gryf y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, ac rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru yn rhannu ein barn ar y mater.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r holl Aelodau sydd wedi codi pwyntiau yn y ddadl hon. Rwy'n gwybod bod y gwahaniaeth a'r anghytundeb llwyr yn hyn o beth yn amlwg iawn. Er hynny, rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni i gyd yn ei gydnabod yw pwysigrwydd sylfaenol y mater hwn o ran heddwch yng Ngogledd Iwerddon, a lles economaidd a masnachol hefyd.
Os caf i fynd i'r afael â chwpl o'r pwyntiau a godwyd. Mae'r pwynt wedi ei wneud o ran y cyfnod o 15 wythnos rhwng cyflwyniad y Bil a rhoi'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gerbron. Rwy'n credu nad yw hi'n gwbl deg, mae'n debyg—rwy'n credu bod Gweinidog yr Economi, yn ei lythyr at y Llywydd ar 27 o fis Mehefin, yn egluro y byddai rhoi'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gerbron yn cael ei ohirio oherwydd diffyg unrhyw ymgysylltiad ystyrlon. Yn amlwg, fe geir yma faterion cymhleth iawn y bu'n rhaid eu hystyried yn ofalus—a thymor yr haf, yr angladd gwladol ac yn y blaen. Ond rwy'n cydnabod, fel pob amser, bwysigrwydd ceisio sicrhau bod gan y Senedd gyfnod digonol o amser i graffu, ac nid wyf i'n gwadu hynny. Mae'n rhywbeth sydd wastad mewn golwg. Yn amlwg, roedd yna amgylchiadau anodd.
O ran y pwynt a gododd Darren, fy mhryder i yw nad wyf i'n credu y gallwch chi ddatrys problem wleidyddol drwy gyfrwng deddfwriaeth. Rwy'n credu y bydd ceisio gwneud hynny nid yn unig yn gwaethygu'r tensiynau, ond yn achosi tensiynau newydd ac ychwanegol, ac nid yw'n datrys y mater.
Mae'n debyg mai'r crynodeb gorau y gallaf ei roi yw gyda dim ond dau ddyfyniad yr wyf i'n credu eu bod nhw'n crisialu'r materion hyn yn gryno iawn ac yn adlewyrchu safbwynt Llywodraeth Cymru. Daw'r un cyntaf oddi wrth y Farwnes Ros Altmann, sy'n gyn-Weinidog pensiynau i'r Ceidwadwyr a oedd yn cymryd rhan yn y ddadl Cyfnod Pwyllgor ar 25 Hydref. Dywedodd hi:
'Mae'r problemau gyda'r Bil hwn yn llawer dyfnach, yn fwy sylfaenol, ac yn wir yn bwysicach, na Brexit. Mae hyn yn ymwneud â chyfiawnder ac anghyfiawnder, am ddiogelu democratiaeth seneddol ac am y gwerthoedd y mae ein gwlad yn credu ynddyn nhw ac yn eu gwerthfawrogi—pwysigrwydd cadw at ein haddewidion, dibynadwyedd, gonestrwydd, uniondeb. Mae'r Bil hwn yn chwalu'r pethau hyn i gyd yn yfflon: dyma ymgais i rwygo cytundeb rhyngwladol a lofnodwyd yn ddiweddar, a hynny, yn ôl yr honiad, gyda phob ewyllys da.'
Ac yna seithfed adroddiad Pwyllgor Dirprwyedig Tŷ'r Arglwyddi a Diwygio Rheoleiddio ar 7 Gorffennaf:
'Mae'r Bil yn golygu trosglwyddiad llwyr o bŵer o'r Senedd i'r Pwyllgor Gwaith fel gwelsom ni drwy gydol proses Brexit. Mae'r Bil hwn yn ddigynsail o ran ei driniaeth ddi-hid o'r Senedd, yr UE a rhwymedigaethau rhyngwladol y Llywodraeth.... Rydym ni...yn methu'n lân â deall pam mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno Bil sydd wedi ffaelu mewn cymaint o ffyrdd i gyd-fynd ag egwyddorion democratiaeth seneddol'.
Fe ddarllenais i drwy'r Bil eto heddiw, ac fe geir ymadrodd yno,
'Caiff un o Weinidogion y Goron, drwy reoliadau, wneud unrhyw ddarpariaeth y mae'r Gweinidog o'r farn ei bod yn briodol'.
Mae hynny'n ymddangos mewn 13 o adrannau yn y Bil—
A fyddech chi'n derbyn ymyriad?
Gwnaf, fe wnaf i.
Rwy'n ddiolchgar am hynny. Mae eich arweinydd chi yn Senedd y DU, Syr Keir Starmer, wedi derbyn hyn—ac rwy'n dyfynnu. Dywedodd ef:
'Nid wyf i'n ceisio honni nad oes yna broblemau a heriau gyda'r protocol'.
Mae ef yn derbyn bod angen ei newid, ac eto nid yw ef wedi cynnig yr un dim o ran yr hyn y byddai ef yn ei newid a sut y byddai ef yn sicrhau'r newid hwnnw. A wnewch chi ddweud wrthym ni: sut fyddech chi'n mynd i'r afael â'r problemau gyda'r protocol y mae eich arweinydd eich hun yn derbyn eu bod nhw'n bodoli?
Wel, yn gyntaf i gyd, fyddwn i ddim wedi cyflwyno'r Bil, oherwydd mae'r Bil yn chwalu'n yfflon yr holl gysyniad o rwymedigaeth ryngwladol a chyfreithiol. Yn ail, pe byddai hi'n wirioneddol mor enbyd fel ei bod hi'n rhaid i chi wneud rhywbeth, fe fyddai erthygl 16 wedi cael ei defnyddio, fel dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, oherwydd fe fyddai hynny'n galluogi rhoi mesurau diogelu ar waith ac yn caniatáu trafodaethau. Rwyf i o'r farn fod y Bil yn adlewyrchiad o adwaith difeddwl, ymateb gwleidyddol ac ideolegol i farn benodol yng Ngogledd Iwerddon, ac rwy'n credu y byddwch chi'n edifarhau ryw ddiwrnod os ewch chi ymlaen nawr gyda'r Bil arbennig hwn.
Os caf i ddim ond gorffen efallai, ni all Llywodraeth Cymru gefnogi cydsyniad i'r Bil hwn. Mae'n ddiffygiol yn gyfreithiol, yn dactegol drychinebus ac mae'n dwyn anfri ar statws rhyngwladol y DU unwaith eto. Felly, rwy'n gofyn i bob Aelod atal cydsyniad i'r Bil hwn. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.
Daw hynny â ni at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 3—
A gawn ni ganu'r gloch?
A oes yna dri? Iawn. Diolch i chi. Gadewch i ni ganu'r gloch, felly. Fe fyddwn ni'n ymgynnull unwaith eto ymhen pum munud.