Trothwyon Treth Incwm

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

8. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effaith datganoli gosod trothwyon treth incwm i Gymru? OQ58797

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:21, 30 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Byddai datganoli trothwyon y dreth incwm yn cyflwyno cyfleoedd a risgiau, a byddem eisiau ystyried hyn fel rhan o'n strategaeth ehangach ar gyfer trethi datganoledig. Mae angen i Lywodraeth y DU ymgysylltu â ni i adolygu'r broses ar gyfer sicrhau bod rhagor o bwerau treth yn cael eu datganoli i Gymru.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

Diolch ichi am hynny. Wrth gwrs, mae e wedi'i ddatganoli i'r Alban, onid yw e? Mae hynny'n caniatáu iddyn nhw greu trothwyon sydd yn adlewyrchu'n well broffil talwyr treth incwm yn yr Alban. Ac os edrychwch chi ar broffil talwyr treth incwm yng Nghymru, wrth gwrs, mae'r mwyafrif llethol ohonyn nhw yn y band sylfaenol, sy'n wahanol, wrth gwrs, os ydych chi’n edrych ar y ffigurau, i weddill y Deyrnas Unedig, o safbwynt y ratio trethdalwyr, sy'n golygu wedyn, wrth gwrs, bod cael ein gorfodi i fabwysiadu trothwyon San Steffan yn golygu bod e ddim yn adlewyrchu yr angen a'r sefyllfa yng Nghymru. Mae e, felly, yn fwy regressive nag y dylai fe fod, ac felly dwi eisiau neges glir eich bod chi'n awyddus iddo fe gael ei ddatganoli fel bod modd creu trothwyon mwy progressive, mwy adlewyrchiadol o sefyllfa incymau yma yng Nghymru. A gaf i ofyn a ydych chi fel Llywodraeth wedi ystyried gwneud rhyw ymchwil neu ryw fath o fodelu i weld beth fyddai’r opsiynau posib fel rhan o greu yr achos ar gyfer datganoli'r maes yma?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:22, 30 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Roeddwn yn falch o weld yr Aelod yn ein cynhadledd drethi, a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf. Rwy'n gobeithio iddo ei mwynhau gymaint ag y gwnes i. Roedd un o'r sesiynau a gynhaliwyd gyda chynrychiolwyr o'r Alban a Gogledd Iwerddon yn ddiddorol iawn, lle roeddent yn ystyried gwahanol risgiau a chyfleoedd y gwahanol fframweithiau cyllidol sydd gennym.

Byddai datganoli'r trothwyon yn ein galluogi i gael mwy o hyblygrwydd o ran polisïau, a byddai'n ein galluogi i bennu ein dull ein hunain o ymdrin â chyfraddau treth incwm Cymreig mewn ffordd wahanol, gan gydnabod dosbarthiad incwm yng Nghymru a phwysigrwydd system fwy blaengar, lle mae'r rhai sy'n gallu fforddio talu mwy o dreth yn gwneud hynny. Fodd bynnag, byddai'n anodd datganoli'r trothwyon heb ddatganoli'r sylfaen dreth gyfan. Rwy'n credu y byddai hynny wedyn, o bosibl, yn ein gwneud yn llawer mwy agored i risg drwy refeniw a'r addasiad cysylltiedig i'r grant bloc. Rwy'n credu bod angen inni fod yn ofalus iawn fod gennym y capasiti a'r hyblygrwydd i reoli'r mathau hynny o risgiau. Nid oes ond rhaid inni edrych ar y profiad yn yr Alban i weld y gall bod yn agored i'r sylfaen dreth gyfan arwain at rai problemau cyllidebol mewn gwirionedd. Cofiwch am y twll du y buom yn sôn amdano ychydig flynyddoedd yn ôl pan oedd y cysoni'n digwydd mewn perthynas â'r derbyniadau treth rhagamcanol a beth a dderbyniwyd mewn gwirionedd? Felly, mae yna risgiau posibl.

Wedi dweud hynny, mae'n wir fod ein sylfaen dreth yn wahanol i un Lloegr. Mae gennym gyfran uwch o drethdalwyr y gyfradd sylfaenol. Mae cyflogau'n is yma yng Nghymru hefyd. Ar gyfer gweithwyr amser llawn, y cyflog wythnosol canolrifol ym mis Ebrill 2022 oedd 94 y cant o gyfartaledd y DU. Rwy'n credu y byddai angen inni ystyried yr holl ffactorau hynny mewn perthynas â'r awgrym i ddatganoli'r trothwyon, oherwydd byddai cryn risgiau yn dod ochr yn ochr â hynny. Hefyd, fel y dywedais yn y gynhadledd drethi, mae datganoli cyfraddau treth incwm Cymreig yn beth eithaf newydd. Nid ydym ond wedi bod yn ei chasglu ers blwyddyn neu ddwy. Rwy'n credu y byddai'n synhwyrol inni adael iddo ymwreiddio wrth inni archwilio sut fyddai pethau yn y dyfodol, ac mae edrych ar hynny yn rhan o rôl y comisiwn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:25, 30 Tachwedd 2022

Pwynt o drefn yn codi o'r cwestiynau—Alun Davies.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn hyn, Lywydd. Wrth roi ateb da a llawn iawn i fy nghwestiwn cynharach, cyfeiriodd y Gweinidog at Aelod arall, Cefin Campbell, mewn perthynas â chyflawni rôl weithredol o fewn y Llywodraeth. Rydym i gyd yn deall y cytundeb cydweithio, ac fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, rwy'n llwyr gefnogi'r cytundeb cydweithio. Fodd bynnag, nid oes gan Aelodau yn y Siambr hon gyfle i graffu ar Aelodau Plaid Cymru sy'n ffurfio rhan o hyn, ac ni cheir gyfle i ddeall y rôl sy'n cael ei chwarae. O'r herwydd, cyfyngir ar ein cyfle i graffu ar y cytundeb a'r polisïau sy'n deillio o'r cytundeb hwnnw. Hoffwn ofyn i chi, Lywydd, a wnewch chi adolygu'r sefyllfa hon, oherwydd byddwn yn nodi blwyddyn ers sefydlu'r cytundeb cydweithio yr wythnos hon, i sicrhau bod Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn gallu craffu ar bob agwedd o waith y Llywodraeth.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:26, 30 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Fe ystyriaf y pwynt a godwyd gan yr Aelod. Mae'r Gweinidog, wrth gwrs, yma i gael ei chraffu ar bob mater yn ei phortffolio, sy'n cynnwys gweithrediad y cytundeb cydweithio, ond fe roddaf ystyriaeth bellach i'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud yng ngoleuni'r ffaith ei bod yn flwyddyn ers  i'r cytundeb cydweithio gael ei roi ar waith. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, ei fod yn destun craffu ym mhwyllgor craffu'r Prif Weinidog yr wythnos nesaf hefyd. Felly, mae'n amser addas inni fyfyrio ar y materion hyn. Diolch i'r Gweinidog am y craffu y prynhawn yma.