10. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 6:45 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:45, 30 Tachwedd 2022

Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 7 a'r ddadl ar y ddeiseb ar warchod mynyddoedd y Cambria drwy eu dynodi yn ardal o harddwch naturiol eithriadol. A dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jack Sargeant. Agor y bleidlais. O blaid 43, 11 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 7: dadl ar ddeiseb P-06-1302—'Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol'. O blaid: 43, Yn erbyn: 0, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 4032 Eitem 7. Dadl ar ddeiseb P-06-1302 – Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Ie: 43 ASau

Absennol: 6 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: 11 ASau

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:46, 30 Tachwedd 2022

Y bleidlais nesaf yw'r bleidlais ar eitem 8, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar bwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, yn erbyn 27. Felly, fel sydd yn ofynnol i mi o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n defnyddio fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig. Canlyniad y bleidlais felly yw: o blaid 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod. 

Eitem 8: dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru. O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 4033 Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru

Ie: 27 ASau

Na: 27 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 6 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:47, 30 Tachwedd 2022

Dyna ddiwedd ar ein pleidleisio ni am y prynhwan yma.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Lywydd, fe wneuthum ofyn yn ystod y ddadl ar hynny—

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

O, dewch. Mae'n rhaid inni wybod pam na all y Llywodraeth gyflwyno busnes.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

A gaf fi gadarnhau i'r Aelod, fy mod yn credu i mi nodi'r ffaith iddo gyfeirio at y ffaith nad oedd y Llywodraeth wedi gallu cyflwyno gwelliannau brynhawn dydd Gwener yr wythnos diwethaf i'r ddadl ar yr ymchwiliad COVID? Bu'n destun gohebiaeth rhyngof fi a'r Prif Weinidog, ac rwy'n hapus i gyhoeddi'r ohebiaeth honno fel bod pob Aelod yn ymwybodol o'r rheswm nad oedd y gwelliannau, fel y'u cynigiwyd gan y Llywodraeth, mewn trefn ar gyfer y ddadl honno. FootnoteLink

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

O'r gorau. Ac Alun Davies, i chi gael rhybudd, ni fyddwch yn cael dau bwynt o drefn ym mhob Cyfarfod Llawn o hyn ymlaen, iawn. Felly, nid yw hynny'n gosod cynsail.