2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 30 Tachwedd 2022.
3. Pa ystyriaeth y mae pwyllgor sefydlog y Cabinet ar ogledd Cymru wedi'i rhoi i gydweithio ar draws ffiniau drwy Gynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy? OQ58772
Diolch. Mae is-bwyllgor Cabinet gogledd Cymru wedi trafod meysydd polisi bras sy'n effeithio ar ardal Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, gan gynnwys trafnidiaeth, sgiliau ac adferiad COVID. Mae Llywodraeth Cymru yn un o'r sylfaenwyr, ac rydym yn gwerthfawrogi'r bartneriaeth o sefydliadau sy'n gweithio i gefnogi'r economi drawsffiniol.
Weinidog, mae hynny'n wych i'w glywed oherwydd mae trafnidiaeth gyhoeddus yn fater allweddol wrth gwrs—y mater pwysicaf mae'n debyg—i'w ystyried ar sail drawsffiniol yn ardal Mersi a'r Ddyfrdwy. Y penwythnos diwethaf, fe aeth Carolyn Thomas a minnau i Gaer. Fe gyfarfuom â ffigyrau allweddol o dros y ffin yn Lloegr, gan gynnwys y meiri metro Steve Rotherham ac Andy Burnham, yn ogystal â Samantha Dixon, ac fe fuom yn siarad am yr angen i wella trafnidiaeth gyhoeddus wrth gwrs, yn enwedig gwasanaethau bws ar sail trawsffiniol. Fel Gweinidog gogledd Cymru, a fyddech yn cytuno i gynnull uwchgynhadledd ar gyfer gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr er mwyn canolbwyntio ar drafnidiaeth a'r manteision economaidd posibl o gydweithio'n drawsffiniol yn yr ardal hon, sydd â chyfraniad mor gryf i'w wneud i economi Cymru a'r DU? Ac a fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod yn ystyried gwelliannau pwysig i'r seilwaith trafnidiaeth, gan gynnwys gwelliannau i brif reilffordd Wrecsam-Bidston?
Diolch. Yn sicr, byddwn yn cytuno â chi ar y pwynt olaf ac rwy'n gwybod ei bod yn bwysig iawn fod gennym bartneriaid yn cydweithio mewn perthynas â rheilffordd Wrecsam-Bidston, ac mae hynny'n cynnwys Trafnidiaeth Cymru, Merseyrail, a Llywodraeth Cymru ei hun.
Mewn perthynas ag uwchgynhadledd, ar hyn o bryd mae'n debyg, tra bo comisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru yn cael golwg ar yr hyn sydd angen iddo ei wneud yn dilyn cyhoeddi ei adroddiad cynnydd—. Cyfarfûm â chadeirydd y comisiwn, ac ar hyn o bryd mae'n ceisio siarad â rhanddeiliaid ynghylch trafnidiaeth drawsffiniol, oherwydd fel y dywedwch, mae hynny mor bwysig i ogledd Cymru, ac yn sicr, hoffwn annog rhanddeiliaid o'r rhanbarth trawsffiniol i ymgysylltu â'r comisiwn.
Fe fyddwch yn gwybod yn iawn, gan ichi gadeirio'r is-bwyllgor o'r blaen, ei bod hi'n bwysig iawn yn y pwyllgor hwnnw ein bod yn gwahodd pobl i ddod i mewn o'r tu allan i roi cyflwyniadau, felly rwyf wedi gofyn i swyddogion ofyn i Steve Rotherham ac Andy Burnham ddod draw i'r pwyllgor. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod cyd-Weinidogion yn clywed am y cysylltiadau sydd gennym â gogledd-orllewin Lloegr a pha mor bwysig ydynt i ogledd Cymru, a gogledd-ddwyrain Cymru yn enwedig, ac yn amlwg, mae arweinwyr yr awdurdodau lleol yn mynychu'r pwyllgor hwnnw hefyd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y ddau faer yn gallu dod draw naill ai i gyfarfod nesaf y pwyllgor neu'r un ar ôl hynny.
A gaf fi ategu galwad Ken Skates am amlygu'r cyfleoedd a geir yn sgil cydweithio trawsffiniol o'r fath yng ngogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, yn enwedig i drafnidiaeth yno, lle gwelwn oddeutu 200,000 o bobl yn croesi'r ffin yn ddyddiol? Ond yn wir, mae yna gyfleoedd eraill y credaf fod Cynghrair Mersi a'r Dyfrdwy, fel esiampl wych, yn ceisio manteisio arnynt, sef y cyfle i weithio ar draws Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol dros y ffin, ac un o'r rheini—. Cefais y fraint o fynychu cyfarfod gyda HyNet ddydd Llun yr wythnos hon, ac fe wnaethant rannu gyda mi eto eu prosiect arfaethedig nid yn unig i wneud yn siŵr fod hydrogen ar gael yn y rhanbarth, ond hefyd i dynnu carbon o lawer o'r diwydiannau yn y rhanbarth hefyd, a buddsoddi biliynau o bunnoedd yn yr ardal. Felly, Weinidog, tybed pa asesiad a wnaethoch o'r rôl y gall y pwyllgor sefydlog ei chwarae wrth weithio gyda Chynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy i sicrhau y bydd prosiectau fel HyNet a phrosiectau ecogyfeillgar cadarnhaol eraill o'r fath yn gwneud gwahaniaeth yn y rhanbarth.
Fel rwy'n dweud, mae'n bwysig iawn fod pob partner yn gweithio gyda'i gilydd ac rwy'n meddwl eich bod chi'n iawn ynghylch prosiect HyNet. Unwaith eto, cyfarfûm â Steve Rotherham ac Andy Burnham i drafod y rôl y gall HyNet a'r prosiect hydrogen ei chwarae ar draws y ffin, ac mae'r ddau'n awyddus iawn i gymryd rhan. Felly, gall y pwyllgor ddod â'r holl bartneriaid hyn at ei gilydd, ac fe glywsoch chi fi'n dweud yn fy ateb cynharach i Ken Skates ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cael pobl o'r tu allan i allu ein helpu gyda'n trafodaethau, yn enwedig gan fod arweinwyr yr awdurdodau lleol o bob rhan o ogledd Cymru—y gogledd-orllewin a'r gogledd-ddwyrain—yn y cyfarfod hwnnw, i glywed pa mor agos y gallwn ni weithio gyda'n gilydd, oherwydd, fel y dywedoch chi, mae nifer sylweddol o bobl yn croesi'r ffin honno bob dydd.