2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 30 Tachwedd 2022.
4. A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i annog cymunedau i ymgysylltu â ffermio? OQ58787
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella dealltwriaeth o sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, yn ogystal â darparu buddion cymdeithasol drwy dyfu a gefnogir gan y gymuned. Mae cymorth ar gael ar gyfer amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned drwy raglen datblygu gwledig cymunedau gwledig Llywodraeth Cymru, o dan y cynllun datblygu cadwyni cyflenwi a chydweithio a LEADER.
Diolch am hynny, Weinidog. Rwy'n credu ei bod hi'n amlwg yn bwysig fod y gymuned ehangach yn deall ac yn teimlo cysylltiad â ffermio os ydym yn mynd i gael y math o gefnogaeth boblogaidd i'n polisïau a'r sector ffermio yr hoffem ei gweld. Mae'n ymwneud â deall yn well sut mae ein ffermydd yn gweithio, beth sy'n digwydd ar y tir a sut y caiff ein bwyd ei gynhyrchu. Rwy'n credu bod y Cerddwyr yn gwneud gwaith da, Weinidog, ar gysylltu cymunedau â thirfeddianwyr/ffermwyr drwy eu menter Llwybrau i Lesiant, sydd, drwy weithio mewn partneriaeth â thirfeddianwyr, yn cynllunio llwybrau ac yna'n rhoi hyfforddiant ac offer i'r gymuned allu gwella natur a gwella mynediad i'r tir hwnnw. Rwy'n gwybod bod Maendy yn fy etholaeth i yn Nwyrain Casnewydd yn un ardal sy'n rhan o'r prosiect hwn, Weinidog, a tybed a fyddech chi'n gweld y cynllun ffermio cynaliadwy fel ffordd o barhau a chryfhau'r gwaith hwn, sy'n bwysig iawn yn fy marn i, fel ein bod yn ei wneud ar y sail gymunedol ehangach y mae'r Cerddwyr yn ei datblygu, efallai, yn ogystal â chysylltu'r sector addysgol â ffermydd a ffermio.
Diolch. Credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac rwy'n sicr yn gweld y cynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol yn cael ei ymgorffori i'r maes hwn. Fel y soniais yn yr ateb a gyflwynais i chi, mae gennym lawer o gynlluniau rydym yn eu cefnogi, ac mae'n dda iawn clywed am y prosiect yn eich etholaeth.
Rwyf wedi bod yn falch iawn o weld faint o ffermwyr sydd am ymgysylltu ag ysgolion, ac rwyf wedi bod ar lawer o ymweliadau fferm lle mae plant ysgol yn bresennol, yn dysgu ynglŷn â sut y caiff bwyd ei gynhyrchu, a'r hyn y mae'r sector amaethyddol yn ei wneud, oherwydd wrth gwrs, yn enwedig os ydych yn dod o ardal drefol, efallai nad oes gennych yr wybodaeth honno, ac mae'n wych gweld ein ffermwyr yn ymgysylltu. Pan oeddwn yn y ffair aeaf ddydd Llun—a chredaf fod hyn yn bwysig iawn, gan fynd yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud am blant ysgol—roeddwn yn falch iawn o allu cefnogi, gyda chyllid ac adnoddau eraill, llyfryn y gellir ei ddarparu i blant ynglŷn â diogelwch fferm, gan y credaf, unwaith eto, fod ffermydd yn gallu bod yn lleoedd peryglus iawn, ac mae’n bwysig iawn fod ein plant, cyn mynd ar fferm, yn deall y peryglon sydd yno.
Mae gennym hefyd y strategaeth bwyd cymunedol, sy’n ffordd arall y credaf y gallwn ymgysylltu â’r gymuned, ac rwy’n cael trafodaethau ar hyn o bryd gyda Cefin Campbell, fel yr Aelod dynodedig yn rhan o’r cytundeb cydweithio, mewn perthynas â’r strategaeth bwyd cymunedol. Bwyd yw'r ffactor cyffredin, ond mae cymaint o fanteision cymdeithasol a all ddeillio o'r math hwn o waith hefyd.
Weinidog, mae’r diwydiant cig eidion byd-eang wedi mwynhau cyfres o ymgyrchoedd gwrth-gig yn ddiweddar o wahanol ffynonellau, sy'n gwneud honiadau difrifol am ddifrod amgylcheddol, problemau lles anifeiliaid a materion iechyd. Mae ffermio cig eidion yng Nghymru wedi dioddef o ganlyniad. Rwy’n gwerthfawrogi cwestiwn fy nghyd-Aelod i chi yn gynharach, ond un o’r ffyrdd o fynd i’r afael â’r gamwybodaeth hon, yn amlwg, fel y sonioch ac fel y soniodd yntau, fyddai annog disgyblion ysgol i ymweld â ffermydd. Hoffwn ganolbwyntio mwy ar alluogi plant o ysgolion anghenion arbennig, yn ogystal â’r bobl hynny o gefndiroedd mwy agored i niwed, i fynd i weld o ble y daw eu bwyd, a gallant ddysgu am gynaliadwyedd a phwysigrwydd ffermio i'r amgylchedd. Felly, hoffwn wybod, Weinidog, pa drafodaethau rydych wedi’u cael gyda sefydliadau ffermio, y Gweinidog addysg a Gweinidogion eraill posibl yn Senedd Cymru, i annog mwy o bobl ifanc, pobl o gefndiroedd anabl, lleiafrifoedd ethnig, yn ogystal â phobl o gefndiroedd difreintiedig efallai, i allu mynd i weld o ble y daw eu bwyd. Diolch.
Diolch. Rwyf wedi cael cryn dipyn o drafodaethau, yn sicr yn ystod sioeau’r haf. Roedd gan Gwartheg ar Daith gornel wych yn sioe sir Benfro, lle roedd ganddynt lif cyson o blant ysgol yn mynychu, lle roeddent yn adrodd hanes y daten, sut y dechreuodd y daten, gan fynd drwy fywyd taten a sut y mae'n cyrraedd ein platiau ar wahanol ffurfiau. Mae'r mathau hynny o bethau'n wirioneddol bwysig. Ni fyddwn yn dweud ei fod yn ymwneud â grwpiau penodol o blant; roedd yn ymwneud â phlant a phobl ifanc yn gyffredinol, ond roeddwn yn falch iawn o gefnogi hynny. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda’r Gweinidog addysg mewn perthynas â hynny, ac fel y dywedaf, gyda’r ffermwyr eu hunain, gan ei bod yn ddiddorol iawn gweld cymaint o ffermwyr yn annog ymweliadau gan eu hysgolion lleol. Credaf ei fod yn rhywbeth y byddwn yn falch iawn o barhau i'w gefnogi mewn unrhyw ffordd y gallaf.