– Senedd Cymru am 5:17 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Eitem 7, dadl ar ddeiseb P-06-1302, 'Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae 2022 yn nodi hanner canmlwyddiant cynlluniau a luniwyd i ddynodi mynyddoedd Cambria yn barc cenedlaethol cyntaf Cymru. Ni chafodd y cynlluniau hynny mo'u gweithredu. Felly, heddiw, yma wrth galon democratiaeth, mae Senedd Cymru—pobl Senedd Cymru—yn trafod deiseb a gyflwynwyd gan Celia Brazell, ac a lofnodwyd gan dros 20,000 o bobl sy'n gobeithio na fydd rhaid iddynt aros am 50 mlynedd arall i'w tirwedd, eu cynefinoedd a'u ffordd o fyw gael eu cydnabod a'u diogelu.
Ddirprwy Lywydd, mae deiseb P-06-1302, 'Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol' yn dweud:
'Mynyddoedd Cambria: awyr agored ddiddiwedd, bioamrywiaeth eithriadol, bryniau a dyffrynnoedd ysblennydd, 5,000 o flynyddoedd o dreftadaeth, megis yr iaith Gymraeg, ffermio a mwyngloddio. Mae’r ymdeimlad o ehangder a heddwch yn neilltuol. Yn anffodus, ychydig o sylw a gaiff y dasg o warchod yr ucheldiroedd hyn. Caiff ffermydd eu prynu ar gyfer plannu coed conwydd neu ar gyfer adeiladu ffermydd gwynt mawr, a hynny er gwaethaf y diffyg seilwaith sydd yno. Mae angen gwarchod rhanbarth mor brydferth a sicrhau cyflogaeth yng nghefn gwlad yn y tymor hwy. Dylid dynodi Mynyddoedd Cambria fel yr ardal o harddwch naturiol eithriadol gyntaf yng Nghanolbarth Cymru.'
Bydd Aelodau'r Siambr yn ymwybodol fod Cymru ar hyn o bryd yn gartref i bedair ardal a hanner o harddwch naturiol eithriadol: Ynys Môn, bryniau Clwyd a dyffryn Dyfrdwy, penrhyn Llŷn a'r Gŵyr—oll yng Nghymru—yn ogystal ag ardal o harddwch naturiol eithriadol dyffryn Gwy, sy'n rhychwantu Cymru a Lloegr. Rydym hefyd yn gartref i dri pharc cenedlaethol: Bannau Brycheiniog, arfordir sir Benfro ac Eryri.
O dan adran 82 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, gall Cyfoeth Naturiol Cymru ddynodi unrhyw ardal yng Nghymru nad yw eisoes yn barc cenedlaethol yn ardal o harddwch naturiol eithriadol, os yw'n ardal o'r fath harddwch naturiol eithriadol fel y dylid ei gwarchod a'i gwella.
Nawr, rwy'n gwybod bod y Gweinidog sy'n ymateb i'r ddadl wedi estyn gwahoddiad i'r prif ddeisebydd gyfarfod â swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion CNC:
'i drafod rhai agweddau ar y cynnig i ddynodi yn fanylach.'
Rwyf fi ac aelodau'r pwyllgor yn edrych ymlaen yn fawr at glywed am unrhyw gynnydd a wneir yn hynny o beth.
Lywydd, mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ddynodi parc cenedlaethol newydd i gynnwys bryniau Clwyd a dyffryn y Ddyfrdwy, ac rwy'n gwybod y bydd yr Aelod ar ochr arall y Siambr, Darren Millar, yn arbennig o falch ynglŷn â phenderfyniad y rhaglen lywodraethu. Gwn ei fod wedi bod yn gefnogwr naturiol ac wedi dadlau'n frwd ar brydiau wrth alw am bethau fel arsyllfa genedlaethol i Gymru, a phwy a ŵyr beth fyddai Mr Millar yn eu gweld yn yr awyr dywyll honno? Gwn ei fod ef yn arbennig wedi cyflwyno cwestiynau i'r Senedd hon ynglŷn â gwrthrychau hedegog anhysbys yn ei gyfnod fel Aelod.
Lywydd, rwy'n deall serch hynny y bydd y gwaith sy'n cael ei wneud gan swyddogion Llywodraeth Cymru a CNC yn ffocws i amser swyddogion yn y tymor byr. Ond y tu hwnt i hynny, a fyddai modd edrych eto ar yr achos o blaid mynyddoedd Cambria?
Mae'r Gweinidog hefyd wedi ysgrifennu at y pwyllgor yn nodi bod CNC:
'hefyd wedi ymrwymo i gynnal asesiad technegol ar gyfer Cymru gyfan o harddwch naturiol. Y bwriad yw asesu ardaloedd yn erbyn y meini prawf harddwch naturiol a fydd yn helpu i asesu eu hangen posibl i gael eu gwarchod yn y dyfodol.'
Mae Cymdeithas Mynyddoedd Cambria wedi gweithio'n ddygn ar yr ymgyrch hon, gan gasglu degau o filoedd o lofnodion mewn digwyddiadau ar hyd a lled canolbarth Cymru. Daeth grŵp o ymgyrchwyr i lawr i'r Senedd i gyflwyno'r ddeiseb ar 4 Hydref, a diolch yn fawr i Luke Fletcher, Joel James a Russell George am dderbyn y ddeiseb ar fy rhan a chyfarfod ag ymgyrchwyr.
Nawr, gwn fod rhannau eraill o Gymru â diddordeb mewn dynodi eu tirweddau, hefyd. Mae fy nghyd-Aelod John Griffiths wedi bod yn hyrwyddo gwastadeddau Gwent yn y blynyddoedd diwethaf. Cafwyd cynigion ehangach i ehangu ardal o harddwch naturiol eithriadol Penrhyn Gŵyr, a hefyd i ystyried y Berwyn. Ond am heddiw, oherwydd bod 20,000 o bobl wedi gofyn, rydym ni, Senedd Cymru, yn trafod deiseb yn cyflwyno'r cwestiwn ar ran mynyddoedd Cambria. Fel y mae'r deisebwyr yn dweud, mae hon yn ardal sy'n gartref i ystod eang o fioamrywiaeth: adar ysglyfaethus, gwiwerod coch, dyfrgwn, beleod, gloÿnnod byw, gweision y neidr, buchod coch cwta a 15 math o chwilod tail. Mae hefyd yn gartref i'r bobl sy'n byw a gweithio ar y tir, pobl angerddol sydd wedi arwain ymgyrch drawiadol i roi llais i'w rhan hwy o Gymru a'r statws y credant ei bod yn ei haeddu.
I gloi, Lywydd, maent yn dweud hyn:
'Os caiff Mynyddoedd Cambria frand mawreddog fel ardal o harddwch naturiol eithriadol, ac os caiff y mynyddoedd eu rheoli mewn modd cydlynol, bydd y rhanbarth yn sicr yn ffynnu.'
Diolch yn fawr.
Diolch am gyflwyno'r ddeiseb hon i'w thrafod, Jack. Mewn egwyddor, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r ddeiseb. Rydym yn cydnabod bod diogelu'r ardal unigryw hon gyda'i thirwedd eithriadol yn bwysig yn genedlaethol. Credwn y bydd statws ardal o harddwch naturiol eithriadol i fynyddoedd Cambria yn sicrhau manteision i'r ardal, gan helpu i wella'r gydnabyddiaeth i frandiau a chynhyrchion lleol, ac yn helpu i roi ffocws pellach ar brosiectau cymunedol, fel plannu coed, mynd i'r afael â rhywogaethau estron goresgynnol a gwella bioamrywiaeth, yn enwedig yn ein mawnogydd. Bydd yn helpu gyda rheoli gwaith cadwraeth a chadw sgiliau traddodiadol, a bydd yn helpu gyda hyfforddi sgiliau garddwriaethol a rheoli tir lleol. Yn ogystal â hynny bydd yn agor y drws ar fuddsoddiad drwy'r gronfa datblygu cynaliadwy a chynlluniau rheoli cynaliadwy, a fydd yn helpu busnesau o fewn yr AHNE i ffynnu.
Fodd bynnag, ar hyn o bryd, er ein bod o blaid dynodi mynyddoedd Cambria yn AHNE, rwy'n credu ei bod yn ddoeth inni gofio na fydd pawb yn ymwybodol o sut y bydd y statws yn effeithio'n gadarnhaol arnynt, ac fel gydag unrhyw newid, mae'n bosibl y bydd cymunedau'n nerfus pan nad ydynt yn deall y goblygiadau iddynt hwy a'u bywoliaeth yn llawn. Mae angen inni fod yn ymwybodol iawn y bydd yn dal i fod angen i'r gymuned ffermio yn yr ardal arfaethedig hon wneud bywoliaeth a rheoli'r tir i ddarparu ar ein cyfer. Bydd cymunedau'n dal i fod angen tai, a bydd pobl iau yn dal i fod angen economi sy'n tyfu i'w cynnal. Gyda hyn mewn cof, hoffwn annog pawb sydd â diddordeb sy'n cefnogi'r statws AHNE i wneud eu gorau glas i gyfleu'r effeithiau cadarnhaol, i weithio'n agos gyda ffermwyr a chymunedau eraill er mwyn deall eu pryderon yn well, ac yna i fod yn ymwybodol o'r pryderon hyn wrth benderfynu ar y ffiniau terfynol. Diolch.
Diolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r ddadl yma yn trafod y ddeiseb ynghylch mynyddoedd Elenydd a'r ardal i lawr i fynydd Mallaen. Dwi am ddatgan yma heddiw ein bod ni'n cydymdeimlo efo egwyddor y syniad o warchod elfennau o'n tir, ond yn benodol felly'r bywyd natur a'r amgylchedd sy'n rhan o'r tir hwnnw, ond rhaid peidio ag anghofio'r bobl a'r cymunedau yno. Mae'n bryder ein bod ni wedi gweld cwymp aruthrol yn ein byd natur dros yr 50 mlynedd diwethaf, efo rhywogaethau a oedd unwaith yn gyffredin bellach o dan fygythiad, a rhai wedi diflannu am byth. Dyna pam, wedi'r cyfan, ein bod ni wedi datgan argyfwng natur.
Mae'r ardal yma rydyn ni'n sôn amdani heddiw yn gyforiog o fyd natur, ac mae angen cymryd camau i sicrhau parhad. Ond ofnaf nad trwy osod dynodiad fath ag ardal o harddwch naturiol eithriadol, neu AHNE, ydy'r ffordd i wneud hynny. Y gwir ydy nad pwrpas AHNE ydy cyflawni'r pethau yma. Yn wir, os edrychwch chi ar ardaloedd sydd efo dynodiadau fath ag AHNE, safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig neu barc cenedlaethol, yna fe welwch eu bod hwythau wedi colli canran sylweddol o rywogaethau dros yr hanner canrif diwethaf yn gymaint ag unrhyw ardal sydd heb ddynodiad. Ond, mae'r Bil amaeth newydd sydd wedi cychwyn ar ei daith drwy'r Senedd hon rŵan yn mynd i edrych ar anghenion amgylcheddol ac ecolegol. Nid trwy roi dynodiad AHNE, felly, y mae mynd i'r afael â'r argyfwng natur yn yr ardal, ond trwy weithio mewn partneriaeth efo pobl sydd yn gweithio'r tir, yn byw ar y tir, ac yn mwynhau'r ardal.
Dwi'n ofni fod ymgyrchwyr yn sôn yn benodol am bryderon am ffermydd gwynt. Mae'n werth nodi pryderon pobl, wrth reswm, ond byddai gosod dynodiad fath ag AHNE er mwyn atal datblygiadau o'r fath yn gamddefnydd o'r dynodiad hwnnw. Nid dyna bwrpas y dynodiad. Os ydy pobl wirioneddol yn pryderu am ddatblygiadau fath â melinau gwynt, yna'r fforwm i leisio'r pryderon yma ydy trwy'r broses gynllunio.
Rŵan, nid dynodiad yn unig ydy AHNE; mae i AHNE statws a disgwyliadau, ac mae'r disgwyliadau yna yn disgyn, i raddau helaeth, ar y llywodraethau lleol sydd yn yr ardal. Byddai creu AHNE newydd yn rhoi pwysau cyllidol ychwanegol felly ar Geredigion, Powys a Sir Gâr, ac mae'r siroedd yma eisoes yn wynebu cyfnod cyllidol llwm, felly prin iawn y byddan nhw'n croesawu dynodiad fath ag AHNE. Mae'r parciau cenedlaethol ac AHNEau yn brin o'r cyllid angenrheidiol ar gyfer monitro, ac yn brin o staff arbenigol. Oes, mae'n rhaid i ni wella cyflwr ein hardaloedd naturiol, a'r ffordd orau o wneud hynny ydy i gyflwyno targedau adfer natur i fuddsoddi mewn cynefinoedd o dan berygl, mewn monitro ac mewn staff arbenigol.
Does dim dwywaith nad ydy'r ardal yma yn ardal o harddwch eithriadol; mae'n ardal gwbl odidog ac yn llawn hanes. Mae'r potensial i ddatblygu economi gylchol efo mentrau twristaidd o dan berchnogaeth leol yn fawr yno. Felly, yn hytrach na dynodiad sydd yn gosod ardal mewn rhyw fath o stasis, rhaid yn lle edrych ar adeiladu ar waith da sydd eisoes yn mynd rhagddo. Mae menter mynyddoedd y Cambrian, sydd yn bartneriaeth rhwng y dair sir, wedi datblygu cynllun parc hydwythedd cymunedol a natur yn edrych ar sut mae datblygu a hyrwyddo'r ardal, gan ddysgu gwersi o barciau natur rhanbarthol Ffrainc. Mae'r parciau yma yn gwarchod natur, yn cydweithio efo cymunedau, ac yn datblygu cyfleoedd economaidd mewn modd sydd yn parchu amgylchedd a chymuned. Mae'r gwaith o ddatblygu cynlluniau cyffelyb eisoes ar y gweill gan fenter mynyddoedd Cambrian.
Felly, nid yw gosod dynodiad fel AHNE am fod o fudd i'r ardal yma, a dyna pam ein bod ni'n gwrthwynebu hyn. Ond mi rydyn ni yn credu fod cyfle i ddatblygu cynlluniau cyffrous, mewn cydweithrediad â chymunedau a phobl sy'n byw yno, a fydd yn galluogi pobl i fyw ar y tir i ddatblygu'r economi leol, tra'n parchu a chryfhau'r amgylchedd odidog naturiol sydd yn y rhan arbennig yma o Gymru.
Diolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno hyn. Rwy'n mynd i ddargyfeirio tamaid bach, ac mae'r dargyfeiriad hwnnw'n rhedeg o Gas-gwent i Gonwy.
Rhagwelwyd y syniad o lwybr Cambria drwy fynyddoedd Cambria am y tro cyntaf yn ôl ym 1968, ac ym 1994 chynhyrchodd y diweddar Tony Drake, un o'r mawrion yn y byd cerdded a mapio'r llwybrau cerdded hyn yng Nghymru, arweinlyfr cyntaf ffordd Cambria, a oedd yn mynd yr holl ffordd o Gas-gwent i Gonwy, drwy fynyddoedd Cambria. Yn ôl yn 2019, ymunais ag Oliver Wicks, Richard Tyler a Will Renwick—bydd rhai ohonoch yn dilyn Will Renwick; fe'i hadwaenir ar Twitter fel WillWalksWales—a'r Cerddwyr, i lansio arweinlyfr Cicerone ar ffordd Cambria, y canllaw diffiniol erbyn hyn i'r llwybr a elwir yn 'daith gerdded i arbenigwyr ar gerdded mynyddoedd'. Mae'n cyfateb i ddwy waith a hanner esgyniad a disgyniad Everest dros ddwy wythnos a hanner i dair wythnos, yn dibynnu ar ba mor gyflym rydych chi'n ei gerdded; pythefnos os ydych chi'n ei wneud yn gyflym fel y mae Will yn ei wneud. Ac yn ystod y 18 mis diwethaf, pob clod i'r Cerddwyr a gwirfoddolwyr sydd wedi nodi'r llwybr cyfan. Ond llwybr gwyllt yw hwn; ni ddylai neb geisio dilyn y llwybr heb wybod beth a wnânt. Nid yw'r nodwyr llwybr fel y rhai a welwch ar lwybrau eraill sydd wedi'u nodi'n dda. Yn 479 cilometr o hyd, mae taith gerdded yr arbenigwr ar gerdded mynyddoedd yn cynnwys Bannau Brycheiniog, eangdiroedd gwyllt mynyddoedd Cambria ac Eryri.
Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n codi i ganmol harddwch gwyllt a gwefreiddiol—yn ystyr lythrennol y gair 'gwefreiddiol'—mynyddoedd Cambria. Nawr, cefais fy ngeni a fy magu yn Nhre-gŵyr. Fy nghae chwarae fel dyn ifanc drwy fy arddegau a fy 20au cynnar, oedd y Gŵyr mewn gwirionedd; dyna lle cefais fy magu. Dyna'r ardal gyntaf erioed o harddwch naturiol eithriadol yn y wlad i gyd. Roeddwn i'n arfer ymhyfrydu wrth ddweud wrth gyd-aelodau o senedd y DU: 'A ydych chi eisiau gweld lle dechreuodd AHNE? Yng Nghymru y digwyddodd hynny, yn ardal Gŵyr.' Ac wrth gwrs, rwy'n deall sut y gall dynodiad o'r fath helpu i warchod y pethau gorau yn y dirwedd, ond yn bwysig ac yn allweddol, gall gynnal cymunedau byw hefyd. Rhaid i'r rhain fod yn gymunedau bywiog, hyfyw—y pwynt nad ag amaethyddiaeth yn unig y mae'n ymwneud, ond â thwristiaeth a defnyddiau eraill o fewn yr ardal honno.
Nawr, gyda fy nghyfaill Hilary Benn, fe wneuthum dywys Bil drwy'r Senedd a greodd Barc Cenedlaethol South Downs—y cyntaf ers tri, pedwar degawd a grëwyd gennym—felly, rwy'n deall yr angen i gydbwyso penderfyniadau'n ofalus a phenderfyniadau lled-farnwrol yn wir, natur penderfyniadau o'r fath sy'n wynebu Gweinidogion, a sut mae'n rhaid i hyn fod yn seiliedig ar feini prawf llym iawn ac ymgysylltu da hefyd gyda chymunedau a rhanddeiliaid. Felly, mae gennyf ddiddordeb mewn clywed mwy am waith Llywodraeth Cymru ar ddynodiadau—a rheoli dynodiadau, yn hollbwysig, am ei fod yn fwy na rhoi label i rywbeth yn unig; dyma sut rydych chi wedyn yn rheoli hynny ac yn gweithio gyda phobl—ac mewn gwirionedd sut rydym yn gwneud hyn yn gyfredol yng ngoleuni pethau fel yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth hefyd. Felly, nid hen ddynodiadau sy'n addas ar gyfer y ganrif ddiwethaf, ond dynodiadau modern sy'n ystyried yr hyn sy'n digwydd yn ein gwlad.
Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, nid cystadleuaeth mo hon. Pan fyddaf yn sefyll ar ben mynydd Bwlch yn fy etholaeth, ac yn sefyll ar Bulpud-y-diawl yno, fel y gwnaf, ac edrych i lawr ar draws Nant-y-moel a chwm Ogwr, nid oes unman yn agosach at y nefoedd na hynny. Nid cystadleuaeth mohoni, ond llongyfarchiadau mawr i'r deisebwyr. Rydych chi wedi dechrau dadl nawr sy'n fwy na mynyddoedd Cambria yn unig.
Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r deisebwyr a gododd y mater pwysig iawn hwn, a hefyd i'r Pwyllgor Deisebau am ei ystyriaeth feddylgar o'r mater.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn llawn y rôl hanfodol y mae ardaloedd o brydferthwch naturiol eithriadol a pharciau cenedlaethol yn eu chwarae yng Nghymru, ac mae'n cefnogi dynodiadau newydd posibl lle bo hynny'n briodol. Mae ardaloedd AHNE, er efallai'n cael eu gweld fel perthynas dlotach i'r parciau cenedlaethol, yn cynnig llawer o'r un manteision a gwarchodaeth. Mae timau AHNE yn aml yn fedrus am gynnull amrywiaeth o bartneriaid ynghyd i ddarparu gwelliannau i dirwedd. Oherwydd bod ganddynt lai o gyfrifoldebau statudol megis pwerau cynllunio, gellid dadlau y gallant fod yn fwy hyblyg a chanolbwyntio ar waith ymarferol ar lawr gwlad. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi cydnabod pŵer dynodiadau AHNE i weithio'n agos gyda phartneriaid a chymunedau ac wedi cynyddu'r cyllid a ddarparwn iddynt. Drwy ein cynlluniau tirweddau cynaliadwy, lleoedd cynaliadwy a'n cronfa datblygu cynaliadwy, rydym wedi ariannu amrywiaeth o brosiectau bioamrywiaeth, datgarboneiddio, twristiaeth a chymunedol, gan ddarparu cyfanswm o dros £5 miliwn ar gyfer y tair blynedd ddiwethaf.
Mae'n amlwg fod mynyddoedd Cambria yng nghanolbarth Cymru yn ardal hynod o brydferth a thangnefeddus, yn ogystal â bod o bwys mawr i'r Gymraeg ac i ffermio. Mae'r ddeiseb yn nodi'n huawdl rai o rinweddau'r dirwedd hon, ac rwy'n croesawu'r ddadl ar ei dyfodol. Rwy'n siŵr fod cyd-Aelodau'n ymwybodol fod y broses i ddynodi parc cenedlaethol newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru wedi dechrau y llynedd. Rwy'n disgwyl i hyn fod yn ffocws i ymdrechion i ddynodi tirwedd am weddill tymor y Senedd hon. Mae dynodi yn broses gynhwysfawr a manwl. Mae gennym lawer i'w wneud hefyd i wella a grymuso dynodiadau cyfredol i gyfrannu'n fwy sylweddol at wrthsefyll yr argyfyngau natur a hinsawdd. Bydd ein hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a'n parciau cenedlaethol yn gyfryngau allweddol ar gyfer cyflawni wrth inni geisio cyrraedd y targed bioamrywiaeth 30x30 a gwella llawer mwy o'n tir er mwyn i natur allu ffynnu.
Wrth gwrs, rydym yn wynebu argyfyngau hinsawdd a natur, ac os nad ydym yn meddwl yn wahanol am ein dyfodol, er enghraifft drwy gymryd cyfrifoldeb dros ddiwallu ein hanghenion ynni mewn ffyrdd mwy cynaliadwy, ni chaiff y tirweddau hyn mo'u cadw. Dyma pam ein bod wedi ymrwymo i gynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy. Mae angen inni gydweithio fel gwlad i feddwl yn wahanol a dod o hyd i atebion i'r heriau rydym i gyd yn eu hwynebu. Cyfoeth Naturiol Cymru sydd â'r cyfrifoldeb dros argymell dynodiadau AHNE a pharciau cenedlaethol. Mae hyn wedi'i nodi mewn deddfwriaeth, yn Neddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 a Deddf yr Amgylchedd 1995. Mae'n bwysig fod y broses ddynodi, ar ôl ei chychwyn, yn drwyadl, yn wrthrychol ac yn dryloyw. Byddai angen arddangos cefnogaeth gref yn lleol er mwyn i CNC ddechrau'r broses ddynodi, yn cynnwys cefnogaeth yr awdurdodau lleol perthnasol a chymunedau lleol. Rwy'n derbyn bod y ddeiseb y mae Cymdeithas Mynyddoedd Cambria wedi'i chyflwyno yn dangos llawer iawn o gefnogaeth yn lleol ac yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'n rhywbeth rwy'n ymwybodol fod cynrychiolwyr etholedig yr ardal wedi ymgyrchu arno neu y mae awdurdodau lleol yr ardal wedi mynegi barn arno. Mae'r safbwyntiau hynny'n bwysig iawn i'w clywed wrth i CNC ystyried a fyddai'n briodol edrych ar ddynodiad i fynyddoedd Cambria yn y dyfodol.
Mae'n werth nodi hefyd fod canran fawr o fynyddoedd Cambria eisoes yn destun gwarchodaeth lem. Yn ôl ffigurau 2015, mae 17 y cant o fynyddoedd Cambria wedi'u dynodi'n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, gyda bron i 90 y cant o ardal y SoDdGA hefyd wedi'i ddynodi o dan gyfarwyddeb cynefinoedd Ewrop fel ardal gadwraeth arbennig, neu ardal warchodaeth arbennig, neu'r ddau. Ceir sawl gwarchodfa natur leol a chenedlaethol hefyd.
Ni fyddai'n briodol imi gytuno i ddynodiad AHNE newydd yma nawr, ond rwy'n agored i ddeialog wrth inni archwilio'r hyn rydym ei angen a'i eisiau o'n tirweddau. Rwy'n ddiolchgar iawn i sefydliadau fel Cymdeithas Mynyddoedd Cambria, sy'n gweithio'n ddiflino i hyrwyddo ac ymgyrchu dros warchodaeth rhai o'n hoff dirweddau. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion a swyddogion CNC gyfarfod â'r gymdeithas i drafod eu hymgyrch yn fanylach. Rwy'n deall bod cyfarfod wedi'i drefnu ar gyfer yr wythnos nesaf, ac rwy'n awyddus i gael adborth o'r drafodaeth honno. [Torri ar draws.]
Mae'r Gweinidog wedi gorffen. Mae'n ddrwg gennyf.
Galwaf ar Jack Sargeant i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am drefnu'r ddadl hon a hithau'n hanner can mlynedd ers y cynlluniau a'r galwadau gwreiddiol am ddynodiad ardal o harddwch naturiol eithriadol? Diolch i'r cyfranwyr hefyd. Fe siaradodd Joel James o blaid, mewn egwyddor, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, ond fe nododd hefyd rai o'r pryderon a'r hyn y byddai angen i'r ymgyrchwyr ei wneud i fynd i'r afael â hwy. Roedd gan Mabon ap Gwynfor farn ychydig yn wahanol i Joel, ond cynigiodd atebion mewn ffordd arall i gyflawni ein huchelgeisiau mewn perthynas â hinsawdd a bioamrywiaeth, a nododd fy nghyd-Aelod Huw Irranca-Davies yr argyfwng bioamrywiaeth a'r argyfwng hinsawdd drwy ein dargyfeirio ar hyd llwybr Cambria. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gwrw a thafarndai, rwy'n siŵr y bydd yn derbyn fy argymhelliad y tro nesaf y bydd yn ei wneud i alw heibio a cheisio ymweld â rhai o'r bragdai gorau ar hyd ffordd Cambria. Rwy'n hapus iawn i rannu'r ddolen o wefan Croeso Cymru gydag ef er mwyn iddo allu gwneud hynny.
Ai chi sy'n talu?
Efallai na wnaf hynny. Fe wnaiff y Gweinidog, rwy'n siŵr. [Chwerthin.]
Ond i ymateb i'r Gweinidog yn uniongyrchol, os caf—fe wnaeth Huw Irranca fy rhoi ar y smotyn yn dda iawn yno—fe wnaeth y Gweinidog nodi'r gwaith pwysig y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, y gwaith y mae CNC yn ei wneud, a'r gofynion y byddai eu hangen i dderbyn cynnig ar gyfer ardal o harddwch naturiol eithriadol, yn enwedig un y credaf y bydd yn bwysig i'r ymgyrchwyr, sef y dylent gael safbwyntiau ac efallai ymgyrchu a lobïo'r cynrychiolwyr lleol, yr awdurdodau lleol, gan mai dyna'r rhan bwysig, ac roedd hynny'n glir yn ymateb y Gweinidog. Ond diolch iddi hi a'i swyddogion am ei gonestrwydd a'i gwaith, a diolch iddi am weithio gyda'r pwyllgor yn y ffordd honno.
Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, unwaith eto, dyma bwyllgor y bobl—pwyllgor pobl Cymru. Diolch i'r deisebwyr am gymryd rhan, yr 20,000 a mwy o bobl a lofnododd, a diolch yn fawr iawn am wrando ar y ddadl hon y prynhawn yma. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu? Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.