– Senedd Cymru am 2:50 pm ar 13 Rhagfyr 2022.
Eitem 3 y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog yr Economi ar y warant i bobl ifanc. Galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fis diwethaf fe welwyd blwyddyn gyfan ers lansio'r warant i bobl ifanc yma yng Nghymru. Mae'r rhaglen allweddol hon ar gyfer ymrwymiad oddi wrth y llywodraeth yn rhoi cynnig o gefnogaeth i bobl dan 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, cefnogaeth i ddod o hyd i swydd, neu gefnogaeth i fynd yn hunangyflogedig. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd gwaith i'n pobl ifanc ni, ac rwy'n awyddus i bob unigolyn ifanc yng Nghymru allu manteisio ar yr hyn sy'n dod yn sgil gwaith da—nid yn unig y gwobrau ariannol, ond yr ymdeimlad o bwrpas a balchder sy'n dod yn sgil bod â swydd. Mae swm y dystiolaeth yn dweud wrthym ni hefyd y bydd yr ymyriadau yr ydym ni'n eu gwneud nawr yn helpu pobl ifanc i gadw swyddi sy'n talu yn well dros gyfnod eu hoes waith nhw.
Dirprwy Lywydd, rydym ni'n gwybod bod y pandemig wedi golygu bod llawer o bobl ifanc ar eu colled o ran profiad gwaith gwerthfawr a chyfleoedd am hyfforddiant yn gynnar iawn yn eu gyrfaoedd nhw. Mae cyflogwyr ar eu colled o ran recriwtio darpar weithwyr ac ar gyfleoedd i greu gweithlu newydd, sy'n fwy deinamig. Mae effaith y pandemig ar ein marchnad lafur ni'n parhau i ddatblygu, ond rydym ni'n eglur o ran yr angen i ddysgu gwersi wrth i ni symud ymlaen.
Yn sgil cyllideb 'fechan' drychinebus gyntaf Llywodraeth y DU, rhagolygon economaidd llwm gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a Banc Lloegr, a cholli cyllid disodli cyllid yr UE, rwy'n poeni mwy nag erioed am ragolygon cyflogaeth ein pobl ifanc ni. Ac mae'r dirwasgiad yn debygol o achosi mwy o ddiweithdra. Mae colli dros £1 biliwn o gyllid disodli cyllid yr UE yn golygu y bydd gan Lywodraeth Cymru lai o allu i atal colli swyddi neu ddarparu'r un gyfradd o gefnogaeth i'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw. Mae llawer o fusnesau yn parhau i wynebu amodau masnachu heriol a achosir gan broblemau sylweddol gyda'r cytundeb masnach a chydweithredu â'r Undeb Ewropeaidd. Yn erbyn y cefndir hwn, a'r gyllideb sy'n llai mewn termau real sydd gan Lywodraeth Cymru, rwyf i wedi gweithio i flaenoriaethu'r warant i bobl ifanc cyn belled â phosibl i helpu i sicrhau rhagolygon y bobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl yn y cyfnod ansicr hwn yr ydym ni'n ei wynebu. Mae'r warant i bobl ifanc yn tynnu ar bob rhaglen a darpariaeth ar draws y sector hyfforddiant, addysg a chyflogadwyedd i gyd-fynd ag anghenion cymhleth ac amrywiol pobl ifanc ledled Cymru. Ers i ni lansio'r warant i bobl ifanc, rydym ni wedi gweld dros 20,000 o ymyriadau yn cael eu darparu drwy ein gwasanaethau cyflogadwyedd yn unig, ac mae 11,000 o bobl ifanc wedi dechrau ar raglenni cyflogadwyedd sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Erbyn mis Ebrill eleni, roedd dros 18,600 o brentisiaethau pob oed wedi cychwyn eisoes ers dechrau tymor y Senedd hon.
Mae pobl ifanc wedi wynebu amgylchiadau eithriadol ac ansicrwydd mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae defodau newid byd y mae llawer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol wedi diflannu. Fe ddylem ni roi teyrnged i'r ffordd y mae cymaint o bobl ifanc wedi addasu i gynllunio ar gyfer eu dyfodol nhw, a chefnogi eu cyfoedion nhw, eu teuluoedd a'u cymunedau nhw. Mae'r profiad bywyd hwnnw'n rhywbeth y byddai llawer ohonom ni'n ei chael hi'n anodd ei amgyffred. Mae hyn yn ategu pam mae'n rhaid i ni wrando ar leisiau pobl ifanc i sicrhau bod y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud yn cefnogi eu camau nesaf nhw. Fe fydd y profiadau hynny a'u camau nesaf nhw'n llywio ein gweithgarwch ni o ran busnes, diwylliant, iechyd, addysg ac yn ein cymdeithas yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog wedi dweud bod dros 60 y cant o bobl rhwng 16 a 25 oed yn mynegi eu pryderon am ddyfodol eu cenhedlaeth nhw, gydag un o bob tri yn poeni na fydd eu rhagolygon gwaith nhw fyth yn gwella wedi'r pandemig a'r argyfwng costau byw. Ar gyfer helpu i oresgyn y pryderon hyn, rydym ni'n parhau i redeg ein hymgyrch ni, sef Bydd Bositif, sy'n ceisio rhoi cyfarwyddyd a chefnogaeth gadarnhaol i bobl ifanc i'w galluogi nhw i ddechrau ar stori eu bywydau nhw, neu ei newid hi. Roedd yr ymgyrch yn ymateb i effaith pandemig COVID ac fe'i bwriadwyd hi i wrthsefyll digalondid y mae'r cefndir economaidd yn ei achosi yn rhan o'r trafodaethau ynghylch rhagolygon gwaith a'r heriau o ran iechyd meddwl y mae pobl ifanc yn agored iddyn nhw. Yn rhan o'r ymgyrch honno, cynhaliwyd digwyddiad gan Sgiliau Cymru ym mis Hydref a noddwyd gan Lywodraeth Cymru—y cyntaf ers y pandemig. Fe gefais i'r pleser o weld â fy llygaid fy hun yr ymateb cadarnhaol a oedd gan bobl ifanc wrth gyfarfod â chyflogwyr lleol a chenedlaethol a darparwyr addysg o ansawdd uchel wyneb yn wyneb, ar gyfer cael cyngor arbenigol am yrfaoedd a chael cymorth wrth gynllunio eu gyrfaoedd nhw. Eleni, cymerodd dros 5,000 o bobl ifanc a 45 o arddangoswyr ran yn ystod digwyddiad mwyaf Cymru ynghylch gyrfaoedd, hyfforddiant a phrentisiaeth.
Dirprwy Lywydd, mae'r sgwrs genedlaethol wedi bod wrth wraidd y warant i bobl ifanc, gan ddatblygu ein gallu ni i fod â dealltwriaeth well o'r materion y mae pobl ifanc yn eu hwynebu. Ar ddechrau'r flwyddyn y llynedd, fe wnaethom ni ein herio ein hunain i fynd i'r afael â'r dull o gyrraedd at bobl ifanc yn well, a sut i gyfathrebu mewn ffordd sy'n ennill ac yn cadw eu hymddiriedaeth nhw.
Rydym ni wedi canfod bod cenhedlaeth Z, fel y'i gelwir hi gan rai, yn fwy darbodus, difrifol ac ymwybodol o hinsawdd na'u rhagflaenwyr nhw, a bod addysg, cyflogaeth a'u rhagolygon yn y dyfodol yn flaenoriaethau pennaf iddyn nhw. Maen nhw'n fwy tebygol o ddathlu amrywiaeth, a chydbwyso eu hawydd nhw am gysylltiad cyson a'r dechnoleg ddiweddaraf gyda phryderon o ran preifatrwydd a diogelwch. Yn anffodus, mae hon yn genhedlaeth sy'n wynebu rhwystrau sylweddol hefyd o ran iechyd meddwl a hyder. Rydym ni'n gweld mwy o bobl ifanc nag erioed sy'n segur yn economaidd am resymau iechyd, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y DU. Yr hyn y gallwn ni fod yn sicr ohono yw bod ôl-effeithiau'r pandemig yn dechrau dod i'r amlwg. Dyna pam rydym ni'n canolbwyntio yn barhaus ar y rhai sydd fwyaf agored i niwed. Mae canolbwyntio ar y rhai nad ydyn nhw mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant yn hanfodol os ydym ni am fynd i'r afael â bygythiad o gynffon hir o ddiweithdra neu anweithgarwch economaidd mewn blynyddoedd i ddod. Rydym ni eisoes wedi gweithredu yn gadarn ar ffyrdd o wella ein hymwybyddiaeth ni o'r bobl ifanc hynny a allai fod â'r angen mwyaf o gefnogaeth ychwanegol. Fe fydd y fframwaith ymgysylltiad a chynnydd ieuenctid a gafodd ei hadnewyddu, a gyhoeddwyd ar y cyd gan Jeremy Miles, Lynne Neagle, Julie Morgan a minnau ym mis Medi â rhan allweddol wrth roi cefnogaeth neu ddarpariaeth briodol ar waith i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu nodi a'u cefnogi cyn iddyn nhw gyrraedd sefyllfa o gyfyng gyngor.
Mae Twf Swyddi Cymru yn cefnogi dros 3,000 o bobl ifanc yng Nghymru—Twf Swyddi Cymru+, fe ddylwn ddweud, Dirprwy Lywydd—gan roi cymorth i'w pontio nhw i'r farchnad lafur a chyflwyno gweithgareddau dal i fyny i ddysgwyr o ganlyniad i effaith COVID. Rydym ni wedi cysylltu ffyrdd o gael gafael ar y cynllun treialu incwm sylfaenol hefyd ac rydym ni'n ystyried cydweithio pellach i gynyddu'r pecyn o gefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu anfanteision cymhleth. Mae dros 2,700 o bobl ifanc wedi cael cefnogaeth gan ein gwasanaeth rheng flaen ni sy'n cael ei arwain gan awdurdodau lleol, Cymunedau am Waith+. Mae hynny i fyny o 1,700 ers fy natganiad diwethaf. Mae hi'n galonogol gweld mwy o bobl ifanc yn ymgyflwyno i gael cymorth a hyfforddiant gwaith dwys personol yn eu cymunedau lleol.
I'r rhai sydd ag uchelgeisiau entrepreneuraidd, mewn ychydig dros dri mis mae'r grant cychwyn sydd gennym ni i bobl ifanc â 120 o gyfranogwyr yn barod, sy'n gweithio gyda chynghorwyr busnes i adolygu eu syniadau nhw ynglŷn â busnesau a'u helpu i ddatblygu eu cynlluniau busnes nhw i wneud cais am y grant. Ers hynny mae 75 o bobl ifanc, yn y cyfnod byr y mae'r grant wedi bod ar gael, a oedd yn ddi-waith o'r blaen, wedi cael grant i helpu i gychwyn eu busnesau nhw. Erbyn hyn, mae gan bob coleg addysg bellach yng Nghymru fiwro penodol o ran cyflogaeth a menter. Fe fyddan nhw ag enwau gwahanol mewn gwahanol golegau, ond maen nhw'n darparu ehangder o gymorth cyflogaeth a chyfleoedd i symleiddio'r broses o bontio o ddysgu i weithio.
Fe fyddwn ni'n parhau i ddathlu ein llwyddiant ni a hyrwyddo Cymru fel lle gwych i fyw a gweithio ynddo. Dyna pam roeddwn i mor falch o weld llwyddiannau Cymru yn rowndiau terfynol WorldSkills y DU yng Nghaerdydd fis diwethaf, lle, unwaith eto, Cymru oedd ar frig y bwrdd o arweinwyr o fewn y DU, gyda chyfanswm o 59 o unigolion wedi ennill gwobrau. Fel mae'r gyllideb ddrafft yn dangos heddiw, fe fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i sefyll gyda, a sefyll dros, ein pobl ifanc ni. Yn wyneb y rhagolygon ariannol gwaethaf ers datganoli, rwy'n galw unwaith eto ar Lywodraeth y DU i wneud yr un peth. Mae cryfder ein heconomi ni'n dibynnu ar weithredu gyda'r gefnogaeth gywir nawr. Diolch i chi, Dirprwy Lywydd.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am yr wybodaeth ddiweddaraf am y warant i bobl ifanc y prynhawn yma? Mae rhywfaint o gynnydd wedi bod o ran sicrhau cyfleoedd i bobl ifanc, naill ai drwy addysg, hyfforddiant, cyflogaeth neu hunangyflogaeth, ac mae'r Gweinidog wedi amlygu rhai o'r arferion da sydd wedi ymsefydlu ers lansio'r cynllun fis Tachwedd y llynedd. Pan roddodd y Gweinidog ddatganiad ddiwethaf am y warant i bobl ifanc, bu ef yn onest iawn o ran rhai o'r rhwystrau ymarferol ynglŷn â chael pobl i gymryd rhan yn y gwasanaeth, ac mae datganiad heddiw yn dweud ychydig mwy wrthym ni am waith Twf Swyddi Cymru+ yn y maes hwn. Mae'r Gweinidog yn sôn hefyd am gydweithio pellach i gynyddu'r pecyn cymorth ar gyfer y rhai sy'n wynebu anfantais gymhleth, felly efallai y gwnaiff ef ymhelaethu ar y datganiad a dweud ychydig mwy wrthym ni am y gwaith sy'n cael ei wneud yn hyn o beth. Wrth gwrs, wrth i'r warant i bobl ifanc barhau i gyflawni mwy, mae hi'n hanfodol fod barn pobl ifanc ledled Cymru yn cael ei chlywed er mwyn i Lywodraeth Cymru gael cipolwg gwerthfawr ar ddarpariaeth y cynllun a gweld sut gefnogaeth sydd i bobl ifanc yn ymarferol.
Nawr, mae datganiad heddiw yn dweud bod Llywodraeth Cymru, ar ddechrau'r llynedd, wedi ei herio ei hun i fynd i'r afael â dulliau gwell o fynd at bobl ifanc a chyfathrebu mewn ffordd sy'n ennill ac yn cadw eu hymddiriedaeth nhw. Serch hynny, nid yw'r datganiad yn dweud wrthym ni sut mae Llywodraeth Cymru am fynd i'r afael â'r her honno, ac felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn dweud wrthym ni sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd at y bobl ifanc mewn ffordd well a chyfathrebu â nhw fel gall y warant i bobl ifanc addasu, dysgu gwersi a chyflwyno arfer da. Yn gynharach eleni, dywedodd y Gweinidog wrthym ni nad yw'r warant i bobl ifanc yn gynnig disymud, ac rwy'n falch o weld, o'r datganiad heddiw, ei fod yn esblygu ac yn archwilio ffyrdd newydd o gynnig cyfleoedd i bobl ifanc. Mae'r cynnig o ran addysg, wrth gwrs, yn rhan hanfodol o'r warant i bobl ifanc, ac mae datganiad heddiw yn dweud wrthym ni fod gan bob coleg addysg bellach yng Nghymru fiwro penodol ar gyfer cyflogaeth a menter erbyn hyn. Er fy mod i'n croesawu'r gweithredu o ran y colegau addysg bellach a darparwyr dysgu rwy'n parhau i bryderu am gyllid yn y dyfodol, yn enwedig gan fod llawer yn wynebu costau uwch o ran y ddarpariaeth. O ystyried pwysigrwydd y sector i lwyddiant y warant i bobl ifanc, efallai y gwnaiff roi ychydig mwy o wybodaeth i ni ynglŷn â maint arfaethedig yr adnoddau o ran cyllid a fydd ar gael i'r sector AB oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Mae gweithio gyda busnesau yn rhan hanfodol o'r rhaglen, ac mae hi'n bwysig ein bod ni'n gweld rhagor eto o gyflogwyr yn cyfranogi o'r cynllun, felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni a yw nifer y busnesau sydd wedi ymgysylltu wedi cynyddu ers lansio'r warant i bobl ifanc y llynedd.
Nawr, mae'r grant dechrau busnes bobl ifanc yn cynnig hyd at £2,000 i helpu pobl ifanc i ddechrau eu busnesau eu hunain, ac rwy'n falch o weld y buddsoddiad hwn yn cael ei wneud, oherwydd fel gŵyr y Gweinidog, mae materion fel cael gafael ar gyllid a datblygu gwybodaeth a hyder mewn busnes yn aml yn rhwystrau i bobl ifanc sy'n dechrau busnesau. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog y rhoi ychydig mwy o wybodaeth i ni am faint sydd wedi cael y grant hwnnw, ac a yw'r grant ar gael ac yn mynd i bobl ledled Cymru. Er enghraifft, a oes mwy y gellir ei wneud i gyrraedd entrepreneuriaid ifanc yng ngefn gwlad, er enghraifft? A sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod ysgolion a darparwyr addysg yn hyrwyddo'r grant fel bydd pobl ifanc yn ymwybodol ohono?
Nawr, fe ellir mesur llwyddiant y warant i bobl ifanc nid yn unig yn ôl niferoedd y bobl ifanc sydd mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant erbyn hyn, ond o ran ei hamrywiaeth a'i chwmpawd hefyd, a chyda hynny mewn golwg, mae hi'n bwysig bod cyfleoedd ar gael i bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, er enghraifft. Felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau nad yw oedolion ifanc ag anableddau ac anghenion ychwanegol yn cael eu gadael ar ôl.
Dirprwy Lywydd, mae hi'n hanfodol bod yr adnoddau sy'n cefnogi'r warant i bobl ifanc yn rhai digonol, ac mae datganiad heddiw yn ei gwneud hi'n eglur fod Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i'r warant i bobl ifanc cyn belled ag y gellir gwneud felly, ond nid ydym ni'n cael gwybod ym mha fodd. Felly efallai y gwnaiff y Gweinidog egluro sut yn union y mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu'r warant i bobl ifanc. A yw hyn yn golygu, felly, fod y gyllideb ar gyfer y warant i bobl ifanc yn cael ei chynyddu mewn gwirionedd?
Yn olaf, fe hoffwn i ddim ond cyffwrdd â datblygiad sgiliau gwyrdd a'r angen i sicrhau datblygiad fframweithiau a llwybrau prentisiaethau fel gall pobl ifanc fanteisio ar economi sgiliau gwyrdd y dyfodol. Mae datblygu perthynas gyda busnesau peirianneg, y sector ynni a'r diwydiant yn hanfodol ar gyfer datblygu piblinell o dalent i'r dyfodol, felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni hefyd sut mae Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu sgiliau gwyrdd dan adain y warant i bobl ifanc fel y cawn ni ddysgu mwy ynglŷn â dulliau Llywodraeth Cymru o estyn cyfleoedd i bobl ifanc yn y maes hwn.
Felly, wrth gloi, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddiweddariad? Mae hi'n amlwg bod y warant i bobl ifanc yn estyn cyfleoedd y mae eu hangen nhw'n fawr ar bobl ifanc, ac mae hi'n hanfodol bod gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod y rhaglen yn parhau i fod yn effeithiol ac yn cefnogi cymaint o bobl â phosibl. Diolch.
Diolch am y gyfres o gwestiynau a sylwadau. Gadewch i mi droi at rai o'r pwyntiau a wnaethoch chi i ddechrau. O ran sut yr ydym ni'n deall treiddiad gwirioneddol y warant i bobl ifanc, a sut rydym ni'n ymdrin mewn gwirionedd ag ystod amrywiol o bobl ifanc, a'r cymhlethdodau, mae hynny oherwydd nifer o bethau. Felly, mae gan rai pobl ifanc lwybr llwyddiannus i waith, addysg neu hyfforddiant eisoes. Mae niferoedd mawr o bobl yn mynd i addysg ôl-16 heb angen unrhyw ymyrraeth ychwanegol—rhan o'n her ni yn hynny yw sut y gallwn ni helpu gydag ansawdd yr hyn y maen nhw'n ei ddewis, a sicrhau bod y dewisiadau yn rhai sy'n briodol ar eu cyfer nhw, a bod meddwl mwy agored ganddyn nhw o ran ystod eu dewisiadau nhw o yrfa. Mae'r gwaith hwnnw'n digwydd, mewn gwirionedd, yn gynharach yn eu haddysg. Pan ges i'r pleser yn ddiweddar o fod ger bron eich pwyllgor chi, roeddem ni'n trafod yr angen i ymyrryd yn gynt ar daith addysgol unigolion i wneud yn siŵr bod gan bobl ystod ehangach o ddewisiadau. Ceir llawer gormod o broffesiynau o hyd lle mae dynion a menywod—bechgyn a merched ifanc—yn gwneud dewisiadau gwahanol iawn ynglŷn â'r hyn y gallan nhw ei wneud. Ac mewn gwirionedd, fe geir llawer iawn o dalent na fanteisir arno. Felly, rydym ni o'r farn fod mwy y gallem ni ei wneud o ran mynd at bobl yn gynt.
O ran y bobl hynny yr ydym ni'n pryderu efallai na fydden nhw'n dilyn, os mynnwch chi, y llwybr traddodiadol sy'n—[Anghlywadwy.]—gan lawer o bobl, dyna pam mae'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud ynglŷn â'r fframwaith ymgysylltiad a chynnydd ieuenctid yn bwysig iawn; y cynharaf y dowch chi i wybod am bobl sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, y rhwyddaf yw hi i'w cefnogi nhw. Mae hynny ar sail amlasiantaeth, yn aml, hefyd. Ac yna gwneud yn siŵr, pan fyddwn ni'n ystyried y warant ei hun, byddwn yn deall y profiadau y maen nhw'n eu cael. Felly, yn y sgwrs genedlaethol, mae honno'n rhan bwysig iawn o ddeall bod gennych chi waith traddodiadol ar sail arolwg, a phobl sy'n fwy tebygol o lenwi arolygon, ond grŵp ffocws penodol hefyd, nid yn unig i fanylu, ond sy'n cynnwys rhai o'r grwpiau hynny sy'n llai tebygol o lenwi'r arolygon traddodiadol hynny. Felly, er enghraifft, pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, rhieni ifanc, pobl â phroblemau iechyd meddwl a phobl â niwroamrywiaeth—gan ymdrin â'ch pwynt chi eto ynglŷn â phobl sydd â gwahanol alluoedd ac anableddau.
Felly, rydym ni wedi bod yn gwneud hynny'n fwriadol i ddeall pwy ydym ni'n eu cyrraedd a beth allwn ni ei wneud i wella'r cynnig. Dyna'r cynnig ei hun a'ch pwynt chi ynglŷn â chyfathrebu, oherwydd efallai heblaw am un unigolyn y gallem glywed ganddo yn nes ymlaen, ni all y rhan fwyaf ohonom ni yn y fan hon honni bod yn ifanc erbyn hyn, yn wrthrychol. Ac mewn gwirionedd, mae'r ffordd mae pobl yn ystyried ac yn gweld y byd yn hollol wahanol, ac felly rydym ni'n gallu gofyn iddyn nhw a gwrando arnyn nhw ynglŷn â'r hyn sy'n gwneud gwahaniaeth, o ble y cân nhw eu gwybodaeth, a'u bod nhw'n ymwybodol o'r hyn mae'r warant yn ei gynnig ac yna sut maen nhw am fanteisio arni. Felly, mae'r biwro cyflogaeth a menter ar gyfer pobl mewn addysg bellach nad ydyn nhw'n ymadael i hyfforddiant pellach neu ganlyniad addysg cyflogaeth yn sgil hynny, ac mae sefydlu'r biwroau hynny, sy'n rhoi cyfleoedd i ddod â chyflogwyr a phobl ifanc at ei gilydd mewn lleoliad sy'n gyfarwydd iddyn nhw, yn bwysig iawn ar gyfer gallu gwneud hynny.
Felly, dyma un o'r enghreifftiau o'r cyfathrebu yr wyf i'n awyddus i'w gael, yn ogystal â gallu deall o ble mae pobl yn cael eu newyddion, barn a gwybodaeth. Mae'n rhaid i mi ddweud, pan oedd yr ymgyrch o'r enw 'Bydd bositif' gennyf i, nid oeddwn i'n siŵr a oeddwn i'n siarad am rywun a oedd yn 50 oed ac yn ceisio esgus fy mod i'n 15 oed unwaith eto, ond, mewn gwirionedd, roedd y dystiolaeth uniongyrchol a'r adborth yn dod oddi wrth bobl ifanc eu hunain. Felly, fe gefais i sicrwydd yn hynny o beth—bod hwn yn rhywbeth a fyddai'n gallu bod yn addas i'r bobl yr ydym ni'n ceisio eu cyrraedd hefyd, sy'n rhan o'r pwynt. Mae'n gofyn i chi fod, bob hyn a hyn, ychydig yn anghyfforddus, ond dyna'r holl bwynt o wneud hyn.
Ac yna, ynglŷn â'ch pwynt chi ynghylch ymgysylltu â busnesau, mae hi'n anodd dweud yn union faint yw niferoedd y busnesau, oherwydd drwy'r holl warant, mae gennych chi fusnes yn ymgysylltu â gwahanol bwyntiau yn yr ysgol ac addysg bellach—er enghraifft, y biwro cyflogaeth—yn ogystal â'r rhai sy'n darparu cyfleoedd drwy Twf Swyddi Cymru+, er enghraifft. Rwyf i am geisio dod o hyd iddyn nhw, yn ein hadroddiad blynyddol ni, os oes yna ffordd well o geisio tynnu sylw at nifer y busnesau sy'n cael eu cynnwys; yn hytrach na dweud ei bod hi'n anodd, wrth ganfod ffordd o gyflwyno rhywbeth i chi sy'n ystyrlon, gan fy mod i'n bwriadu cyhoeddi adroddiad blynyddol yn y flwyddyn newydd. Ac o ran natur yr arlwy, rydym ni wedi gwrando ar yr hyn a ddywedodd pobl ifanc, ac rydym ni wedi newid ein rhaglen Twf Swyddi Cymru+. Mae honno wedi'u hanelu at bobl ifanc 16 i 18 oed erbyn hyn, ar sail y model hyfforddeiaeth blaenorol a'r hyn a ddigwyddodd yn flaenorol yn Twf Swyddi Cymru. Felly, rydym ni'n fwriadol yn gwneud newidiadau i'r cynnig ei hun.
O ran y grant rhwystrau, nid oes unrhyw wybodaeth gennyf i eto, ond byddaf i'n rhoi ystyriaeth i hyn wrth feddwl am nodweddion gwarchodedig, cefndir a daearyddiaeth pobl sy'n cyfranogi yn hyn, ond mae—. Wel, mae'r ffigyrau yr wyf i wedi dweud wrthych chi amdanyn nhw yn y misoedd cyntaf, felly ni fyddwn i'n disgwyl bod â barn, o reidrwydd, sy'n gwbl gynrychioliadol nawr, ond fe fyddaf i'n sicr yn ystyried sut y gallwn ni sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael.
Ac o ran dewisiadau cyllidol—rwy'n gweld bod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn eistedd wrth fy ymyl—nid wyf i am fynd trwy'r dewisiadau i gyd gan y bydd hi'n eu rhoi nhw ger bron mewn mwy o fanylder, ond wrth flaenoriaethu'r warant i bobl ifanc a gwahanol rannau ohoni yn fy adran i, mae hynny wedi golygu ei bod hi'n rhaid i mi wneud dewisiadau anodd gyda rhannau eraill o'r gyllideb. Ac fe allai pob Gweinidog sefyll i siarad am y blaenoriaethau sydd ganddyn nhw a'r ffaith ein bod ni wedi gorfod talu am ein blaenoriaethau ni drwy wneud dewisiadau eraill mewn meysydd eraill. Nid yw hynny'n golygu nad yw'r pethau hynny o werth, dim ond os ydych chi'n dewis pethau sy'n fwy o flaenoriaethau i chi, mae'n rhaid i chi wneud dewisiadau eraill hefyd, oherwydd yn anffodus, nid oes £0.5 biliwn dros ben y mae'r Gweinidog cyllid yn ei gadw yn rhywle i'w daflu o gwmpas i'n cadw ni i gyd yn hapus. Felly, mae gennym ddewisiadau mawr, anodd iawn, ac fe fyddwch chi'n gweld rhai ohonyn nhw ym manylion yr hyn y bydd y Gweinidog cyllid yn ei ddweud wrth i ni gyrraedd y cam craffu mwy manwl yn y pwyllgor yn y flwyddyn newydd hefyd.
Ac o ran sgiliau gwyrdd, rwy'n bwriadu cyhoeddi cynllun gweithredu sero net a fydd yn ymdrin yn fras â'ch pwyntiau chi, a pha ran sydd i hynny yn y warant i bobl ifanc yn gynnar yn ystod 2023.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad.
Wrth gwrs, mae'r warant i bobl ifanc yn rhaglen bwysig i Gymru; rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud ein bod ni i gyd yn awyddus i weld hon yn llwyddo. Wedi'r cyfan, ni fyddwn ni'n cyrraedd ein nodau ynghylch sero net, er enghraifft, oni bai ein bod ni'n sicrhau bod y sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc ganddyn nhw yn economi'r dyfodol. Mae llawer, wrth gwrs, wedi newid ers iddi gael ei chyhoeddi gyntaf, serch hynny, mae yna gysondebau bob amser pan fo dirywiad economaidd. Un o'r rhain yw'r effaith hynny ar bobl ifanc.
Nawr, yn debyg iawn i Ymddiriedolaeth y Tywysog, canfu cynghrair End Child Poverty fod 97 y cant o bobl ifanc y buon nhw'n siarad â nhw, rhwng 16 a 25 oed, yn credu bod costau byw cynyddol yn broblem i bobl ifanc heddiw. Yn bryderus iawn, fe ddywedodd 77 y cant o'r ymatebwyr fod meddwl am y dyfodol a'r argyfwng costau byw yn poeni llawer arnyn nhw. Rwy'n siŵr y byddai nifer o Aelodau wedi cael tystiolaeth uniongyrchol gan fyfyrwyr UCM ar risiau'r Senedd heddiw, yn galw am well cefnogaeth i fyfyrwyr. Roedd un yn dweud wrthyf i nad oedd hi'n gallu fforddio defnyddio'r gawod; un arall yn dweud wrthyf i, ar ôl bod ar risiau'r Senedd, mai dim ond i dŷ oer y byddai hi'n dychwelyd. Mae yna ffigyrau pellach, wrth gwrs, 90 y cant o ddysgwyr yn dweud bod costau byw wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl; mae 42 y cant o ddysgwyr yn byw ar lai na £100 y mis ar ôl biliau; ond dim ond 7 y cant sy'n cytuno bod y Llywodraeth wedi gwneud digon.
Yn ogystal â hynny, mae ColegauCymru wedi lleisio pryderon am gynllun Twf Swyddi Cymru+, gan nad yw'r lwfans wedi cynyddu yn unol â chostau byw. Maen nhw'n poeni y gallai pobl ifanc fod yn dueddol o chwilio am waith mewn ardaloedd â sgiliau is yn lle hynny, lle byddai'r cynnig cyflog yn sylweddol fwy ac felly ni fyddan nhw'n cael y gefnogaeth na'r addysg y gallai eu cyfoedion fod yn manteisio arnyn nhw. Yn yr un cywair, fe welwn ni'r un mater yn codi gydag amharodrwydd Llywodraeth Cymru i gynyddu'r lwfans cynnal a chadw addysg i'r rhai sydd a'r angen mwyaf amdano yn yr argyfwng hwn. Mae hyn, wrth gwrs, yn cydblethu â'r warant i bobl ifanc. Felly, a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried cynyddu lwfansau addysg, i sicrhau bod ein pobl ifanc ni'n gallu cael addysg a hyfforddiant, a'n bod ni'n sicrhau'r sgiliau a'r doniau gorau iddyn nhw, nid yn unig er eu mwyn eu hunain ond er mwyn y gymdeithas ehangach a'r economi?
Nawr, roedd y Sefydliad Symudedd Cymdeithasol yn mynegi tystiolaeth yn ddiweddar o ran bod bwlch cyflog o £6,700 rhwng dosbarthiadau cymdeithasol yn y DU. Mae hyn yn golygu bod gweithwyr proffesiynol dosbarth gweithiol i bob pwrpas yn gweithio am ddim bron ar un diwrnod ym mhob saith, o'i gymharu â'u cyfoedion dosbarth canol. Dim ond ehangu ymhellach a wna hynny pan fo'r gweithwyr proffesiynol dosbarth gweithiol hynny yn fenywod, neu o gefndir lleiafrif ethnig. Mae'n rhaid i bobl dosbarth gweithiol weithio yn sylweddol galetach i ennill yr hyn a roddir i eraill. Yn y cyfamser, dim ond rhagor o symudedd cymdeithasol cyfyngedig sydd wedi bod yn yr argyfwng costau byw a'r pandemig. Mae pobl ifanc o gefndiroedd dosbarth gweithiol yn llawer mwy tebygol o fod ag angen am y warant hon na'u cyfoedion dosbarth canol nhw ac, fel roedd ColegauCymru yn amlinellu, efallai eu bod nhw'n fwy tueddol o dderbyn cynigion cyflogaeth oherwydd y diffyg twf mewn lwfansau addysg. Felly, sut mae'r Gweinidog am sicrhau bod y gyflogaeth sy'n cael ei chynnig o fewn y cynllun yn cynnig cyflog teg, gan helpu i gau'r bwlch cyflog rhwng dosbarthiadau, a sicrhau nad yw'r rhai sydd dan anfantais eisoes yn cael eu denu i mewn i waith cyflog isel ac ansicr?
Ac yn olaf, roedd hi'n bwysig, wrth gwrs, fod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed o fewn yr asesiad effaith. Mae'r asesiad effaith yn nodi hefyd y bydd gwerthusiad annibynnol yn cael ei gynnal ar adegau allweddol yn natblygiad a chyflwyno'r warant, gan gynnwys adolygiad o gyllidebu ar sail rhyw, ac o gofio bod Oxfam Cymru a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru wedi canfod bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru wedi ehangu rhwng 2020 a 2022, a bod menywod yn parhau i wynebu anghyfartaledd ariannol ar sail rhyw o fewn gwaith yn economi Cymru, pryd gellir disgwyl yr adolygiad cyllidebu ar sail rhyw hwn o'r warant i bobl ifanc? A yw monitro'r warant wedi darparu unrhyw ddata dros dro hyd yn hyn o ran gwahaniaethau rhwng y rhywiau o fewn y cynllun neu a yw wedi datgelu unrhyw dueddiadau ynghylch gwahanu galwedigaethol ar sail rhyw? Fel dywedais i wrth agor fy nghyfraniad i, rydym ni i gyd yn awyddus i weld llwyddiant i'r cynllun hwn. Y peth pwysig yw ei fod yn cyrraedd y bobl sydd angen yr hwb ychwanegol yna ac nad yw pobl sy'n ei chael hi'n anodd o ganlyniad i'r argyfwng costau byw yn cael eu rhoi dan anfantais.
Diolch i chi. Ynglŷn â'ch pwynt chi o ran y niferoedd sy'n manteisio ar gyfleoedd rhwng y rhywiau, fe fyddaf i'n edrych ar hynny eto, ond rwy'n dymuno bod yn eglur am yr adolygiad cyllideb sydd gennym ni a chychwyn y warant mewn gwirionedd a'r ddealltwriaeth o ran ein cyfeiriad ni, oherwydd mewn rhai rhannau ohoni, fe fydd hynny'n eglur. Rydym ni'n casglu data eisoes, er enghraifft, am y rhai sy'n mynd i addysg bellach, maen nhw'n bethau rhwydd i'w casglu, yn ogystal â chasglu'r data ar, er enghraifft, y bobl hynny sy'n defnyddio cyfleoedd gwahanol—Twf Swyddi Cymru+, ReAct+ a rhaglenni cyflogadwyedd eraill—fe fydd data ar hynny gennym ni. Fe fydd gennym ni rywfaint o ddata hefyd a fydd yn rhoi dealltwriaeth am nifer o raglenni eraill.
Ond rwy'n awyddus i weld a ydym ni'n cyrraedd pobl, oherwydd dyna ran o ddiben cynnal sgwrs â phobl ifanc. Wyddoch chi, mae yna rieni ifanc sy'n famau a thadau, ond, mewn gwirionedd, rydym ni'n gwybod y ceir gwahaniaeth sylweddol yn aml o ran pethau fel costau gofal plant a beth mae hynny'n ei wneud i allu ymarferol pobl i gael cyfleoedd. Felly, fe fyddwn ni'n edrych nid yn unig ar bwy sy'n manteisio arnyn nhw, ond beth rydym ni'n ei wneud wedyn i geisio sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu hehangu hefyd, i geisio sicrhau bod ymateb ystyrlon i'r pwynt yr wyf i'n deall y mae'r Aelod yn ei wneud.
Ynglŷn â'ch pwyntiau chi am yr argyfwng costau byw a phobl ifanc, rydym ni wedi clywed yn uniongyrchol iawn gan bobl ifanc, drwy'r sgwrs genedlaethol yr ydym wedi ei chael am y warant i bobl ifanc, ond drwy is-bwyllgor y Cabinet ar yr argyfwng costau byw hefyd. Fe glywsom ni ychydig wythnosau yn ôl gan bobl ifanc—ac fe wnes i'r pwynt hwn, rwy'n credu, yn y pwyllgor, pan oeddech chithau yno hefyd. Roedden nhw'n siarad yn uniongyrchol iawn am eu profiadau eu hunain, am effaith wirioneddol y newidiadau i reolau budd-daliadau, ac effaith wirioneddol yr argyfwng costau byw arnyn nhw eu hunain, a'r dewisiadau yr ydym ni'n clywed amdanyn nhw'n llawer rhy aml—y dewis rhwng gwresogi, bwyta, a'r hyn a wna hynny i'w llesiant corfforol nhw'n ogystal â'u hiechyd meddwl a'u llesiant hefyd yn fwy cyffredinol. Dyma sy'n cael ei gadarnhau ym mhob arolwg o bobl ifanc ledled Cymru a'r DU yn fwy eang: mae her sylweddol yn codi o ran iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc wedi'r pandemig, ac sy'n cael ei hatgyfnerthu gan heriau'r argyfwng costau byw. Yn sicr, dyna un o'r pethau yr ydym ni'n ceisio eu hystyried yn yr hyn a wnawn ni, oherwydd mae bod â chyflogaeth, addysg neu hyfforddiant yn nodwedd amddiffynnol i helpu i gefnogi iechyd meddwl da a llesiant i bobl ifanc. Mae hynny'n cyffwrdd wedyn â'ch pwynt chi hefyd ynglŷn â chyflog teg.
Ac, edrychwch chi, o ran Twf Swyddi Cymru+, nid ydym ni'n awgrymu mai'r arian yr ydym ni'n ei ddarparu yw'r unig arian a ddylai fod ar gael; cymhorthdal cyflog ydyw i helpu i'w gwneud hi'n fwy deniadol i bobl ifanc fod â chyfle ym myd gwaith, ac mae dros hanner y bobl sy'n cael mynediad i Twf Swyddi Cymru+ yn cael canlyniad cadarnhaol ar ddiwedd hynny, boed hynny'n waith neu hyfforddiant pellach, neu, yn wir, ystyried y cyfleoedd o ran hunan-gyflogaeth. Y newyddion da yw eu bod nhw, yn yr adolygiad cychwynnol gan Estyn, yn gadarnhaol ynglŷn ag effaith y rhaglen honno.
Ynglŷn â'ch pwynt chi am y rhaniad rhwng dosbarthiadau cymdeithasol o ran cyflogau proffesiynol, rhwng gweithwyr proffesiynol dosbarth gweithiol a rhai eraill, fe fyddai hi'n ddefnyddiol, rwy'n credu, i chi anfon nodyn ataf i, efallai, er mwyn i mi ymateb yn llawn iddo, oherwydd rwy'n awyddus i ddeall a yw'r pwynt yr ydych chi'n ei wneud yn ymwneud â pha mor hawdd yw dod o hyd i gyfleoedd, pan wyddom ni, i lawer o broffesiynau, pwy yr ydych yn ei adnbaod sy'n bwysig iawn—nid yn unig y graddau a gewch chi, ond pwy rydych chi'n ei adnabod er mwyn cael cyfle yn ymarferol, boed hwnnw'n brofiad gwaith neu'n gyfle ymarferol i ddechrau swydd hefyd—neu ai sôn yr ydych chi am ddechrau ennill cyflog yn dibynnu ar eich cefndir teuluol chi eich hunan, neu a ydych chi'n siarad am gynnydd trwy waith hefyd, oherwydd fe wn i, eto, o yrfa flaenorol yn ogystal â hon, fod y pethau hynny i gyd yn bwysig. Felly, fe fyddwn i'n dymuno deall pa bwynt yr ydych chi'n ei wneud cyn ymateb yn llawn i hwnnw.
Ac yn olaf, Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr iawn, a llongyfarchiadau i'r 59 o bobl o Gymru a enillodd wobr WorldSkills—mae hynny'n wych. Rwyf am fynd i ddarllen amdanyn nhw, i weld am beth y gwnaethon nhw ennill.
Mae hi'n dda cael gwybod hefyd fod pobl ifanc yn fwy darbodus, difrifol ac yn ymwybodol o'r hinsawdd na'u rhagflaenwyr, ond maen nhw'n yn dod ar draws rhwystrau sylweddol hefyd, fel rydych chi'n dweud, o ran iechyd meddwl a hyder. O ran y gwaith yr ydych chi'n ei wneud i flaenoriaethu'r warant i bobl ifanc ar gyfer amddiffyn rhagolygon pobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl, mae'r rhai sydd ag anableddau yn aml yn wynebu'r heriau mwyaf un o ran dod o hyd i gyflogaeth briodol. A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni am waith Engage to Change i gydweddu anghenion mwy cymhleth pobl ifanc fel bydd urddas gwaith gan bob unigolyn ifanc? Oherwydd rwyf i o'r farn mai nhw yw'r rhai sydd fwyaf tebygol o fod yn ei chael hi'n anodd yng nghanol dirwasgiad.
Do. Rydym ni wedi gwneud gwaith uniongyrchol gydag Engage to Change; rwyf i fy hunan wedi cwrdd â nhw'n uniongyrchol hefyd ar gyfer deall beth arall y gallwn ni ei wneud. Rhan o'r pwynt yw, pan fyddwch chi'n edrych ar fynediad economaidd ar gyfer pobl anabl ym mhob ystod oedran, mae'n llawer mwy cyfyng nag i weddill y boblogaeth, felly dyma eto un o'r llinynnau yr oeddwn i'n ceisio ymateb iddyn nhw yn rhai o gwestiynau Paul Davies, ynghylch deall â phwy y mae angen i ni weithio a phwy y dylem ni wrando arnyn nhw i ddeall yr hyn y gallwn ni ei wneud yn fwy llwyddiannus a sicrhau bod cyflogwyr, darparwyr addysg a hyfforddiant—yn sicrhau bod eu darpariaeth nhw ar gael a'u bod yn chwilio yn rhagweithiol amdani, yn ogystal â pharu pobl â'r cyfleoedd sydd i'w cael. Fe welwch chi hynny'n rhedeg drwy'r gwahanol rannau o'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yn y warant. Fe fyddwn i'n annog yr Aelod ac unrhyw un arall, yn enwedig os oes ganddyn nhw etholwyr sy'n mynd drwy hyn, os oes ganddyn nhw brofiad da neu weddol o rai o'r rhaglenni hyn, i roi gwybod i mi, oherwydd mae'r adborth uniongyrchol yn aml yn ddefnyddiol o ran deall yr hyn sy'n gweithio, yn ogystal â'r sefydliadau yr ydym ni'n gweithio gyda nhw'n uniongyrchol i geisio sicrhau bod profiad bywyd yn llywio'r hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda chyfathrebu a dylunio a chyflawni ein rhaglenni ni.
Ac ynghylch eich pwynt cyntaf chi, y byddaf i'n dod i ben gyda hwnnw, y 59 enillydd o Gymru yn rowndiau terfynol WorldSkills, sy'n cael eu cynnal ar y cyd ledled y DU; roedd y sesiynau yng Nghaerdydd yn rhan o hynny. Ac os yw'r Aelod yn ei chael hi'n anodd darganfod pwy yw'r enillwyr—rwy'n siŵr y bydd ganddi hi rai etholwyr sy'n enillwyr hefyd—yna fe fyddaf i'n hapus i'w helpu hi i ddod o hyd i'r wybodaeth i sicrhau eu bod nhw'n cael eu llongyfarch gan bob rhan o'r Siambr yn ogystal â'r Aelod ei hun.
Diolch i'r Gweinidog.