Gwasanaethau Ambiwlans

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 14 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddigonolrwydd gwasanaethau ambiwlans yn Nwyfor Meirionnydd? OQ58884

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:06, 14 Rhagfyr 2022

Dyw’r perfformiad o ran amser ymateb ambiwlansys ddim ble bydden ni, y gwasanaeth iechyd na'r cyhoedd yn hoffi iddo fe fod. Mae gennym ni gynllun gwella cenedlaethol yn ei le i wella gwasanaethau ambiwlans, gyda chefnogaeth £3 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru. Mae hwn yn cynnwys camau gweithredu cenedlaethol a lleol i gefnogi gwelliannau, gan gynnwys yn Nwyfor Meirionnydd.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:07, 14 Rhagfyr 2022

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb, ac roeddwn i'n falch o glywed y Gweinidog yn sôn yn gynharach, gyda llaw, yn dweud diolch i weithwyr y sector iechyd, ond dydy geiriau, fel clapio, ddim yn talu biliau; mae angen i chi fynd a thrafod efo'r undebau o lan lefel eu cyflog. Ond ta waeth am hynny am y tro, mae'r straeon am gleifion yn aros oriau am ambiwlansys yn llawer rhy gyffredin, mae gen i ofn. Mae gennyf i achos o ddynes 78 oed yn aros 18 awr am ambiwlans efo'i chlun wedi'i ddadleoli; un arall yn ddynes 88 oed yn dioddef o ddementia wedi gorfod aros 11 awr efo clun wedi'i dorri.

Ond yn fwy pryderus fyth ydy fy mod i ar ddeall fod y gwasanaeth ambiwlans, mewn ymateb i'r argyfwng yma, am weddnewid eu darpariaeth nhw o'r gwasanaeth, ac yn hytrach nag anelu i drin y cleifion 80 y cant o'r amser, y bydden nhw yn lle yn anelu i drin a chludo 20 y cant o'r amser. Felly, mae hynny yn codi pryder o ran beth mewn gwirionedd ydy blaenoriaeth y gwasanaeth ambiwlans efo'r aildrefnu yma—ai bod ar y ffôn ynteu drin cleifion? 

Ond yn fwy pryderus fyth ydy fod ambiwlansys ym Meirionnydd yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser bellach yng ngogledd-ddwyrain Cymru ar alwadau, oherwydd y diffygion yno. Beth ydych chi am wneud er mwyn sicrhau bod ambiwlansys Meirionnydd yn aros i drin pobl ym Meirionnydd, yn hytrach na gorfod teithio ymhell i ffwrdd a thrin pobl mewn ardaloedd eraill, gan adael ardaloedd mawr yn ne Gwynedd yn wag, heb cyfr? 

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:08, 14 Rhagfyr 2022

Dwi'n meddwl bod yna fodelau gwahanol yn weddus i leoedd gwahanol yng Nghymru. Felly, un o'r pethau weles i wrth i fi ymweld â Hwb Iechyd Eifionydd oedd defnydd arbennig o dda o paramedics. Felly, beth roedden nhw'n ei wneud oedd anfon paramedics lleol i fewn—advanced paramedics—ac roedden nhw'n gallu helpu lot fawr o gleifion, a oedd yn golygu nad oedd angen iddyn nhw wedyn fynd i'r ysbyty. Felly, y peth pwysicaf i fi yw ein bod ni'n cludo dim ond y bobl sydd wirioneddol angen cael eu cludo i'r ysbyty, a dyna pam rŷm ni wedi gweld gwahaniaeth. Rŷm ni wedi gweld llai o bobl yn cael eu cludo i'r ysbyty; mae hynny yn beth da. Beth mae pobl yn gyffredinol yn ei angen yw help yn y gymuned. Yn amlwg, os ydyn nhw wirioneddol yn sâl, mae angen eu cludo nhw. Felly, beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n rhoi'r gofal, lle y gallwn ni, yn y gymuned, ond bod yna gyfle i fynd â nhw, os yn bosib, at y ganolfan agosaf. Dwi'n deall bod hynny'n golygu, ambell waith, bydd ambiwlansys yn bell i ffwrdd o Feirionnydd, os bydd rhai yn cael eu cludo yna. Dyna pam mae gyda ni rosters newydd, sydd yn golygu bod yr equivalent o 72 o bobl sy'n gweithio i'r ambiwlansys yn ychwanegol yn gweithio yn ein gwasanaeth ni, ar ben y 100 o staff ychwanegol oherwydd y ffordd rŷn ni wedi ailddylunio ble mae'r ambiwlansys yn cael eu cadw.