– Senedd Cymru am 2:26 pm ar 10 Ionawr 2023.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw, Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i'r busnes yr wythnos hon. Rwyf i wedi ymestyn yr amser sydd wedi'i ddyrannu i'r datganiad ar bwysau'r gaeaf ar y GIG i 45 munud. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan eich cyd-Weinidog, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o ran y sefyllfa ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? Bydd yr aelodau'n ymwybodol bod rhywfaint o drafodaeth yn y cyfryngau ynglŷn ag ymchwiliad i dwyll gwerth £122 miliwn sy'n cael ei gynnal gan wasanaeth wrth-dwyll y GIG ar hyn o bryd, ochr yn ochr ag adolygiad gan Archwilio Cymru—adolygiad lefel uchel—o effeithiolrwydd y bwrdd. Nawr, yn amlwg, mae'r rhain yn faterion o bryder i fwrdd iechyd yr ydym ni'n gwybod ei fod eisoes yn ei chael hi'n anodd perfformio a darparu ei wasanaethau o safon y mae pobl y gogledd yn ei haeddu, ac rwy'n credu bod angen cyfle i holi'r Gweinidog yn y Siambr hon am y camau sy'n cael eu cymryd, er mwyn i ni fod yn hyderus ei fod yn briodol.
A gaf i hefyd alw am ddatganiad gan Weinidog priodol o ran diwydiant gofod Cymru? Roeddwn i'n falch iawn ddoe o weld lloeren gyntaf Cymru yn cael ei lansio i'r awyr, o leiaf. Ond ni lwyddodd yn llwyr i fynd i'r gofod. [Chwerthin.] Ni lwyddodd yn llwyr i fynd i'r gofod, ond roedd yna lansiad llwyddiannus o Gernyw o roced o waelod awyren, a aeth i'r atmosffer allanol. Fel y dywedais i, nid y llwyddiant ysgubol yr oeddem ni i gyd wedi gobeithio amdano, o ran ForgeStar-0 wir yn cael ei rhyddhau, ond rwy'n credu bod diddordeb cynyddol yn y gofod fel cyfle i'n heconomi ni yma yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod bod cynlluniau ar y gweill yn Llanbedr yn y gogledd gyda Spaceport Snowdonia hefyd, ac rwy'n credu bod y diddordeb cynyddol hwn yn rhywbeth y dylai Cymru fanteisio arno cyn gynted â phosibl er mwyn gwneud yn siŵr bod ein heconomi ni'n elwa arni. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bryd i ni gael, o ystyried digwyddiadau neithiwr, cyfle i'w ystyried ymhellach yn y Siambr.
Dylwn i nodi i mi weld meteor yn yr awyr neithiwr hefyd, dros Gaerdydd, a oedd yn eithaf cyffrous. Dydw i ddim yn gwybod a wnaeth unrhyw un arall sylwi arno, ond os ydych chi'n mynd ar Twitter ac yn rhoi 'meteor Cardiff', fe welwch chi, ar glychau drysau pobl a thebyg, bod llawer o bobl wedi gallu bod yn dyst i'r bêl yma o dân yn yr awyr, a oedd yn eithaf cyffrous i mi ei dystio ar fy ffordd i Wetherspoon's neithiwr, tua 8 p.m. [Chwerthin.]
Diolch, Darren Millar. O ran y mater cyntaf y cyfeirioch chi ato, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, byddwch chi'n ymwybodol bod proses i fynd drwyddi, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar yr adeg fwyaf priodol, ond nid wyf i'n credu y bydd hynny cyn mis nesaf.
O ran eich ail gais, byddai'n dod gan Weinidog yr Economi. Yn sicr, gwnaf i ofyn iddo a oes unrhyw beth sy'n deilwng, yn ei farn ef, datganiad llafar i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar fater gofod Cymru. Rydych chi'n hollol gywir—ni welais i'r meteor oherwydd roeddwn i'n gwylio'r newyddion, lle'r oedd llawer o bobl yng Nghernyw wedi'u cynhyrfu'n lân am y roced yma'n mynd i fyny. Fel y dywedwch chi, ni aeth pethau fel y byddem ni wedi'i ddymuno.
Meddwl oeddwn i, beth welsoch chi ar eich ffordd yn ôl o Wetherspoon's os oeddech chi wedi llwyddo i weld meteor ar eich ffordd i Wetherspoon's? [Chwerthin.] Beth bynnag, fe wna i adael hynny i'r dychymyg. Delyth Jewell.
Diolch, Llywydd. Hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, yn amlinellu a yw deddfwriaeth yng Nghymru sy'n ymdrin â digartrefedd yn ddigon tosturiol. Ychydig ar ôl y Nadolig, cefais wybod am ddyn digartref a oedd wedi gofyn am gymorth gan eglwys Gatholig yn fy rhanbarth i. Roedd y dyn wedi'i ryddhau o'r carchar ac roedd wedi colli ei fflat. Roedd wedi cysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol a Cornerstone, ac fe gafodd babell a sach gysgu gan ddweud wrtho y bydden nhw'n ei weld ef ar ôl gwyliau'r Nadolig. Rhoddodd offeiriad y plwyf gartref iddo dros y Nadolig mewn gwesty ar draul ei hun cyn i'r dyn ddod yn ôl i aros yn sied yr eglwys. Nawr, gofynnodd yr offeiriad, rwy'n gwybod, i'r awdurdodau a yw pabell dros y Nadolig wir yn cyflawni dyletswydd gofal cymdeithas ar gyfer y rhai agored i niwed, ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n rhannu ei fraw. Ai dyna'r gymdeithas yr ydym ni mewn gwirionedd? A oes modd i ddatganiad amlinellu pa gefnogaeth y mae disgwyl ei rhoi i bawb sy'n cyflwyno eu hunain yn ddigartref ac yn nodi'r hyn y byddai angen ei wneud i godi ymwybyddiaeth ac i atgoffa awdurdodau lleol a chefnogi gwasanaethau ledled Cymru o'r cyfrifoldebau hynny os gwelwch yn dda, ac i sicrhau nad oes mwy o bobl ddiobaith, yn nyfnderoedd y gaeaf, yn cael eu gadael i ymdopi â dim ond pabell?
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn am dosturi. Ac fe wnes i hefyd, yn fy etholaeth fy hun, fynd at grŵp o bobl ddigartref a oedd yn poeni'n fawr y bydden nhw'n cael pabell. Ac roeddwn i'n falch iawn o gael fy sicrhau na fyddai hynny'n digwydd, ond, yn amlwg, rydych chi'n rhoi enghraifft o bryd mae hynny wedi digwydd. Yn amlwg, mae'r ddeddfwriaeth ynghylch digartrefedd, yn enwedig o ran pobl sy'n gadael y carchar, wedi'i cael ei diwygio dros y blynyddoedd. Nid wyf i'n credu bod unrhyw beth newydd i'r Gweinidog roi gwybodaeth i ni arno, ond fe wnaf i, yn sicr, ofyn os mai dyna'r sefyllfa bresennol.
Trefnydd, hoffwn i glywed gan y Gweinidog addysg am yr hyn sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael ag ideoleg casineb at fenywod yn yr ystafell ddosbarth. Mae achos Andrew Tate wedi amlygu diwylliant treiddiol, gwenwynig a pheryglus sy'n targedu bechgyn agored i niwed yn arbennig. Ac mae'n rhemp. Rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i wedi clywed amdano tan yr achos cyfreithiol presennol, oherwydd nid wyf i ar y llwyfannau na'r algorithmau sy'n hyrwyddo ei iaith casineb. Ond mae ei ddylanwad ymhlith dynion a bechgyn iau yn syfrdanol. Ef oedd y trydydd person y cafodd ei chwilio fwyaf amdano ar-lein y llynedd, ar ôl y diweddar Frenhines a Donald Trump. Mae ei fideos wedi cael eu gweld mwy na 12 biliwn o weithiau ar TikTok. Rwy'n hynod bryderus o wybod beth sy'n cael ei wneud yn ein hysgolion i ddiogelu merched ac annog pob myfyriwr i gwestiynu a herio'r cynnwys casineb at fenywod y maen nhw'n dod i gysylltiad ag ef. Oherwydd os nad yw cymdeithas yn ymdrin â'r problemau sy'n wynebu bechgyn a dynion ifanc heddiw a'u helpu nhw i ateb cwestiynau o ran beth mae'n ei olygu i fod yn ddyn da, yna bydd pobl rheibus fel Andrew Tate yn gwneud hynny.
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, ac, fel chi, nid oeddwn i wedi clywed am y dyn hwn. Roedd yr hyn a oedd i'w weld yn y newyddion ar yr adeg y gwnaeth y stori hon daro'r cyfryngau yn hollol erchyll. Rwy'n credu bod angen i ni fod yn glir iawn, iawn bod angen i ni sicrhau ein bod ni'n amddiffyn pob plentyn a pherson ifanc, ac, yn arbennig, bechgyn, rhag niwed a dylanwad gan unigolion o ran perthynas ymosodol ac afiach. Mae dyletswydd gyfreithiol ar bob lleoliad addysg yng Nghymru i sicrhau bod gan blant fynediad at amgylchedd dysgu diogel, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog addysg yn disgwyl i'r cyfrifoldebau diogelu hynny gael eu cymryd o ddifrif. Byddwch chi'n ymwybodol o ardal bwrpasol Hwb 'Cadw'n ddiogel ar-lein', ac mae'r canllawiau a'r adnoddau a'r hyfforddiant ar amrywiaeth o faterion diogelwch ar-lein ar gael i ysgolion gael mynd atyn nhw.
Samuel Kurtz.
Diolch, Llywydd. Blwyddyn newydd dda i chi ac i bawb.
Dau ddatganiad, os caf i, Llywydd. Yn dilyn gohebiaeth ysgrifenedig gennych chi'ch hun, Gweinidog, rwy'n gofyn am ddatganiad am gynnydd syfrdanol mewn ffioedd a thaliadau rheoleiddiol Cyfoeth Naturiol Cymru. Fel y gwyddoch chi, bydd y tâl arfaethedig ar gyfer gwaredu dip defaid yn codi deg gwaith, gydag CNC yn darparu dim tystiolaeth yn sail i'r cynnydd hwn. Hefyd, bydd y tâl am drwyddedau rheolau safonol ar gyfer treulio anaerobig ar y fferm yn dyblu, a bydd ffioedd adnoddau dŵr yn cynyddu o £135 i dros £6,000—cynnydd canran o dros 4,500 y cant.
Yr hyn sydd ar goll o'r cynnydd mewn prisiau hyn yw tryloywder ynglŷn â sut y cyfrifwyd y ffigurau hyn. Ydy CNC yn ceisio gwneud elw o ffioedd a thaliadau, neu ydyn nhw'n gost-niwtral? Bydd canlyniadau anfwriadol y taliadau hyn yn ffrwyno datblygiad technoleg newydd, yn rhwystro darpariaeth sero net y diwydiant ac yn effeithio'n sylweddol ar iechyd anifeiliaid. O ystyried y pryderon hyn a rhai'r sector amaethyddol, byddai datganiad llafar neu ysgrifenedig ar y mater hwn yn cael ei werthfawrogi'n fawr.
Yn ail, gan nodi busnes Llywodraeth Cymru a gafodd ei gyflwyno hyd at 7 Chwefror, mae'r datganiad dileu TB mewn gwartheg yn dal heb ei gyflwyno. Felly, hoffwn i ailadrodd fy ngalwad o fis Tachwedd am ddatganiad wedi'i ddiweddaru ar raglen dileu TB mewn gwartheg Llywodraeth Cymru. Diolch.
Diolch. Nid ydw i wedi gweld eich gohebiaeth, ond fe allai hynny fod oherwydd bod CNC yn dod o fewn portffolio fy nghyd-Aelod y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, felly efallai ei fod wedi cael ei drosglwyddo draw ati hi. Ond yn amlwg rwy'n ymwybodol iawn o'r ymgynghoriad parhaus gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch eu ffioedd rheoleiddio a thaliadau ar gyfer 2023-24. Rwy'n credu mai holl nod yr adolygiad hwnnw yw sicrhau bod CNC yn llwyddo i adfer costau llawn, gan nad yw rhai o'r taliadau presennol wedi cael eu hadolygu ers blynyddoedd lawer. Ond yn amlwg, rwy'n llwyr werthfawrogi bod hwn yn gyfnod heriol iawn i'n ffermwyr i gyd ac rwy'n ymwybodol o'r pryderon yn y sector amaethyddol. Felly, yr hyn a fydd yn digwydd ar ôl yr ymgynghoriad yw y bydd y cynigion hynny yn mynd o flaen y Gweinidog Newid Hinsawdd cyn eu gweithredu. Ond cyfrifoldeb CNC yw argymell y strwythur ffioedd priodol i Weinidogion Cymru.
O ran y rhaglen dileu TB, a dweud y gwir, mae gennyf i gyfarfod yfory, a byddaf i'n cyflwyno datganiad cyn gynted â phosibl.
Trefnydd, fel y gwyddoch chi, fis nesaf bydd yn nodi tair blynedd ers y llifogydd dinistriol o ganlyniad i storm Dennis, a effeithiodd yn arbennig ar Ganol De Cymru. Roedd yr adroddiad dilynol gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn amlinellu mai un o'r heriau mwyaf iddyn nhw eu hwynebu wrth ymateb i lifogydd oedd gallu, a hynny oherwydd nad oedd ganddyn nhw ddigon o adnoddau o ran staff. Roedd adroddiad a gafodd ei gyhoeddi gan Archwilio Cymru ychydig cyn y Nadolig yn amlinellu bod hyn yn broblem barhaus, a nododd bod angen mwy o frys i ymdrin â'r heriau sy'n wynebu rheoli perygl llifogydd. Felly, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn ymateb i adroddiad Archwilio Cymru, yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar yr argymhellion sydd wedi'u gwneud.
Diolch. Rwy'n tybio y bydd y Gweinidog yn ystyried yr adroddiad yr ydych chi'n cyfeirio ato ar hyn o bryd. Byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud yn ei sesiwn holi ac ateb ein bod ni wedi rhoi arian sylweddol unwaith eto yn ein rhaglenni rheoli risg llifogydd, ac mae'n hynod bwysig bod gan ein hawdurdodau lleol a CNC y staff i allu gweithredu pob cynllun.
Prynhawn da, Gweinidog. A hefyd
pen blwydd hapus i chi hefyd.
Dim ond i godi cywilydd arnoch chi. [Chwerthin.]
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â'r mesurau sy'n cael eu cymryd i leihau llygredd yn Afon Gwy, a beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar alw i mewn penderfyniadau ar unedau dofednod dwys? Fel un o drigolion Y Gelli Gandryll, fel y gwyddoch chi, rwy'n angerddol iawn am yr afon, ac rwy'n gwybod bod llawer o bobl eraill hefyd. Rydym ni'n gwybod bod tri rheswm dros y llygredd yn Afon Gwy. Ffermio ac amaethyddiaeth, llygredd diwydiannol a'r materion yn ymwneud â gorlifoedd storm ydyn nhw. Er fy mod i'n cefnogi ffermydd a ffermwyr i arallgyfeirio, ym Mhowys, yn sicr mae pryder cynyddol ynghylch yr unedau dofednod dwys a'r rhai sy'n tyfu o ran niferoedd. Ac mae un sy'n cael ei gynnig, fel rwy'n deall, nawr yn Llanfair-ym-Muallt, ar gyfer 100,000 o ieir. Felly, byddai gennyf i ddiddordeb mawr o ran y prosesau yn ymwneud â chynllunio a hefyd ynghylch y galw am benderfyniadau gan Lywodraeth Cymru. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Fel y gwyddoch chi, fe wnaeth Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd ar 5 Ionawr yn gysylltiedig â chais cynllunio penodol ar fferm ddofednod, ac mae'r cyfarwyddyd hwnnw yn atal rhoi caniatâd cynllunio tan y bydd Gweinidogion Cymru wedi gallu asesu a ddylai cais cynllunio gael ei alw i mewn ai peidio, a chyfarwyddiadau o'r fath, fel y gwyddoch chi, yn cael eu cyhoeddi'n rheolaidd pan fo Gweinidog Cymru yn ystyried galw i mewn. Ar hyn o bryd, yn amlwg, nid oes modd dweud dim byd arall am yr un penodol hwnnw, ond rwy'n gwybod bod hwn yn fater y mae'r Gweinidog yn ei ystyried yn fanwl iawn, yn benodol ar gyfer Powys.
Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad—un gennych chi'ch hun, ar y rheoliadau diffygiol y gwnaethom ni eu cyflwyno yma ar 13 Rhagfyr, Rheoliadau Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Cysylltiedig (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael a'r UE) 2022. Dywedoch chi ar 13 Rhagfyr y byddech chi'n dod ymlaen cyn gynted â phosibl i ddiwygio'r rheiny i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael deddfwriaeth dda ar y llyfr statud. Allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni o ran pryd yr ydych chi'n bwriadu gwneud hynny?
Fy ail ddatganiad Llywodraeth Cymru yr hoffwn i ofyn amdano yw gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar y newidiadau anhrefnus ar gyfer trafnidiaeth cartref i ysgol yn ne fy etholaeth gan Gyngor Sir Powys. Mae plant wedi'u gadael yn y glaw, wedi'u gadael ar ochr y ffordd, wedi cael gwybod i ddal bysiau gwasanaeth sy'n cyrraedd yn hwyr neu'n rhy gynnar. Rydym ni wedi bod â phlant ifanc yn cael gwybod i aros y tu allan i'r ysgol am awr ac i wneud y gorau ohoni, ac mewn rhai achosion maen nhw wedi cael eu rhoi ar fysiau gwasanaeth sy'n mynd y ffordd anghywir i ble maen nhw i fod i fynd adref oherwydd amserlenni gwael. Trefnydd, mae y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghyngor Sir Powys wedi colli rheolaeth, felly hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i gael rheolaeth dros Gyngor Sir Powys i wneud yn siŵr nad oes mwy o blant ifanc yn cael eu gadael ar ochr y ffordd yn fy etholaeth i.
O ran eich pwynt cyntaf, byddaf i'n diwygio'r ddeddfwriaeth cyn gynted â phosibl. Byddwch chi'n gwerthfawrogi mai dyma'r wythnos gyntaf yr ydym ni nôl ar ôl gwyliau'r Nadolig, ond rwy'n bwriadu parhau i gyflwyno'r ddeddfwriaeth ddiwygiedig honno cyn gynted â phosibl.
Yn sicr, nid ydw i'n credu bod hynny'n wir am Gyngor Sir Powys, ond rwy'n awgrymu eich bod chi'n ysgrifennu atyn nhw ynghylch eich pwynt penodol chi.
Bore 'ma, roedd y tywydd yn erchyll. Yn y gawod fawr, cerddais i'r orsaf drenau. Yn ffodus, dim ond ryw bum munud i ffwrdd o fy nhŷ i. Ond, mewn rhannau eraill o sir Pen-y-bont ar Ogwr, bu'n rhaid i ormod o blant gerdded dros awr i fynd i'r ysgol, gan gyrraedd, mae'n siŵr wedi'u gwlychu'n llwyr. Gwnes i godi hwn gyntaf ym mis Medi 2021. Nid oes unrhyw beth wedi newid. Mae'r rhwystr hwn i addysg yn dal ar waith. Felly, hoffwn i ofyn am ddatganiad brys gan y Llywodraeth yn amlinellu eu cynlluniau i ymdrin â hyn. Mae gan y Llywodraeth bwerau dewisol y gall eu defnyddio. Yn syml, mae rhieni wedi cael llond bol.
Diolch. Fel y dywedais i, mater i awdurdodau lleol yw hwn. Nid ydw i'n gweld bod hwn yn fater i Lywodraeth Cymru. Byddwn i'n rhoi'r un cyngor i chi ag yr wyf newydd ei roi i James Evans; rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn eich bod chi'n ei godi gyda'ch awdurdod lleol.
Gaf i ofyn i'r Gweinidog addysg a'r iaith Gymraeg ddod â datganiad ger ein bron ynghylch sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu sicrhau asesiadau cyfrwng Cymraeg amserol i blant sydd angen asesiad awtistiaeth? Mae gen i ambell i achos yn fy etholaeth o blant sydd angen asesiadau awtistiaeth cyfrwng Cymraeg ond yn gorfod aros blynyddoedd. Er enghraifft, cafodd Rhodri—nid ei enw iawn— sy'n wyth oed ei gyfeirio ym mis Chwefror am asesiad awtistiaeth. Rhoddwyd yr opsiwn o wneud yr asesiad ar-lein gyda chwmni Healios, a ddoe cynhaliwyd yr asesiad cyntaf. Cymraeg yw mamiaith y plentyn a barnodd yr aseswyr y dylid cynnal yr asesiad yn Gymraeg er mwyn cael canlyniad teg ac y byddai modd trefnu hynny yn fuan. Heddiw, fodd bynnag, deallaf fod yr unig asesydd oedd ar gael i wneud y gwaith i ffwrdd ar famolaeth, ac ailgyfeiriwyd yr achos i'r gwasanaeth niwroddatblygol lleol. Canlyniad hyn yw y bydd e'n rhaid aros am ddwy neu hyd yn oed dair blynedd i gael asesiad wyneb yn wyneb yn Gymraeg. Mae'r gwahaniaeth yn y gwasanaeth a gynigir i bobl sy'n dymuno gwasanaeth Cymraeg yn gwbl annerbyniol. Felly, mi fyddwn yn ddiolchgar am ddatganiad ar sut mae'r Gweinidog am wella'r sefyllfa mor fuan â phosib, os gwelwch yn dda.
Diolch. Rwy'n credu bod y sefyllfa yr ydych chi'n ei nodi yn wir yn gwbl annerbyniol. Os mai dim ond un aelod o staff sydd, a'i bod ar gyfnod mamolaeth, yna yn amlwg rwy'n gwerthfawrogi na allan nhw gael rhywun i mewn ar fyr rybudd. Fodd bynnag, mae aros am ddwy i dair blynedd am asesiad mor bwysig yn amlwg yn rhy hir. Yn sicr, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog os yw'n ymwybodol o'r mater yr ydych chi'n ei godi—rwy'n tybio ei bod i fyny ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr—a chael trafodaeth gyda'r Gweinidog iechyd i weld a oes unrhyw beth arall y gallwn ni ei wneud.
A gawn ni ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i'n diweddaru ni ynglŷn â ffordd osgoi arfaethedig a hir-ddisgwyliedig Llandeilo? Mi oedd y dudalen sydd yn crynhoi statws y prosiect ar wefan y Llywodraeth yn addo y byddai'r Llywodraeth yn argymell opsiwn a ffafrir o blith y pedwar opsiwn oedd yn weddill fel rhan rhan o ymgynghoriad WelTAG cam 2 erbyn gaeaf y llynedd. Ond, ddydd Gwener, fe newidiwyd hyn i gwanwyn eleni. Mae'r oedi pellach yma o rai misoedd yn dod ar ôl oedi ar ôl oedi. Hynny yw, mae'r broses WelTAG cam 2 i edrych mewn i bedwar opsiwn yn unig wedi cymryd pedair blynedd. Mi oedd yr addewid cychwynnol, gwreiddiol, i adeiladu ffordd osgoi yn mynd yn ôl saith mlynedd, ac mae pobl Llandeilo nawr wedi colli pob ffydd ac ymddiriedaeth yn yr addewid hynny. Felly, a gawn ni ddatganiad ar fyrder gan y Gweinidog gyda rheswm am yr oedi pellach yma?
Diolch i chi. Wel, mater i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd fyddai hwnnw, ac, fel gwyddoch chi, fe roddwyd ystyriaeth fanwl iawn i'r adolygiad ffyrdd yn ei gyfanrwydd a'r rhaglenni adeiladu ffyrdd, ond fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog—y Dirprwy Weinidog, mae'n ddrwg gennyf—i roi datganiad ysgrifenedig.
Diolch i'r Trefnydd.