1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 11 Ionawr 2023.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Natasha Asghar.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, clywsom ddoe fod Wizz Air yn rhoi'r gorau i'w holl hediadau i mewn ac allan o Faes Awyr Caerdydd, sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, gan roi ergyd arall eto i’w hyfywedd. Dywedodd eich Llywodraeth fod y cam hwn, a dyfynnaf, yn 'syndod.' Fodd bynnag, ym mis Awst y llynedd, cyhoeddodd eich cyd-Aelod Cabinet, Julie James, ddatganiad ysgrifenedig yn dweud bod eich swyddogion, a dyfynnaf,
'yn parhau i gynnal deialog agos ac agored gyda Bwrdd y Maes Awyr'.
Felly, a wnewch chi egluro, Ddirprwy Weinidog, yng ngoleuni’r ddeialog agos ac agored hon, a oedd y cyhoeddiad hwn yn syndod mewn gwirionedd, neu a wnaethoch chi, eich cyd-Aelod Cabinet neu eich swyddogion dynnu eich llygad oddi ar y bêl a methu gweld hyn yn dod?
Diolch yn fawr iawn. Wel, ni welodd unrhyw un hyn yn dod gan ei fod yn benderfyniad gan y cwmni, yn wyneb yr hyn a alwyd ganddynt yn amodau macro-economaidd, i dynnu’n ôl o’r maes awyr; maent wedi tynnu'n ôl o feysydd awyr eraill hefyd. Mae'r diwydiant cyfan yn wynebu pwysau sylweddol oherwydd chwyddiant a chostau cynyddol ynni. A hefyd, mae hedfan yn sector a chanddo fodel busnes eithaf ansicr, sy'n aml yn gweithredu ar ychydig iawn o elw, felly pan fydd gennym rymoedd allanol fel hyn yn newid telerau masnach, mae hynny'n cael effaith ganlyniadol na ellir ei rhagweld, ac yn sicr, ni allwn ni ei lliniaru'n hawdd. Nid wyf yn derbyn bod hyn yn taflu amheuaeth ar ein hymrwymiad i'r maes awyr, nac yn wir ar ei ddyfodol, ac mae'n dal i fod ar y llwybr tuag at broffidioldeb. Yn anffodus, mae bellach yn mynd i fod yn llwybr hirach, gan eu bod yn gwsmer pwysig i’r maes awyr, ond rydym yn gweithio’n agos gyda rheolwyr y maes awyr i edrych ar opsiynau amgen.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Unwaith eto, rwyf bob amser yn teimlo, pan fyddaf yn siarad am Faes Awyr Caerdydd, mai rhywun arall sydd ar fai bob amser, er na allaf ddweud na chaf fy synnu gennych, Ddirprwy Weinidog, gan ei bod yn amlwg nad ydych yn talu llawer o sylw i'r pethau nad ydych yn eu hoffi. Os nad ydych yn hoffi ffyrdd, rydych yn rhoi'r gorau i'w hadeiladu; os nad ydych yn hoffi awyrennau, rydych yn rhoi'r gorau i falio am faes awyr rydych yn berchen arno. Fodd bynnag, ar yr ochr hon i’r Siambr, rydym yn malio, ac rydym wedi llunio cynllun gweithredu i gefnogi’r maes awyr fel y gall sicrhau’r manteision economaidd y mae eu hangen yn ddirfawr ar Gymru. I brocio'ch cof, roedd un agwedd ar ein cynllun yn galw am well ffyrdd, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus i’r maes awyr. Mewn cyferbyniad, mae eich Llywodraeth Lafur wedi gwneud y gwrthwyneb ac wedi cael gwared ar wasanaeth bws T9. Felly, Ddirprwy Weinidog, pam na wnaethoch chi adfer y gwasanaeth bws yn dilyn y pandemig, neu a oedd yn gweddu i’ch naratif i adael iddo fynd a gobeithio bod y cyhoedd yn anghofio amdano?
Iawn. Wel, rwy'n gwrthod y disgrifiad hwnnw'n llwyr. Bu gostyngiad sylweddol yn y galw am wasanaeth bws T9, fel y dylai’r Aelod wybod, fel llawer o wasanaethau bysiau ar draws y diwydiant bysiau, ledled y wlad, i bob llywodraeth. Nid yw lefelau teithwyr wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig, felly mae'n rhaid inni wneud penderfyniad ymarferol ynglŷn â'r lle gorau i roi’r cymhorthdal, ac mae hyn yng nghyd-destun cyllidebau sy’n lleihau. Ceir gwasanaeth bws sy'n mynd o’r maes awyr i ganol Caerdydd; mae ganddo lwybr mwy cwmpasog na gwasanaeth bws T9, ond serch hynny, mae'n dal i fod yn gwbl weithredol, ac rydym yn parhau i adolygu dyfodol y gwasanaeth bws hwnnw.
Ddirprwy Weinidog, heb os, mae Maes Awyr Caerdydd wedi bod yn faich ariannol ar y trethdalwr. Fe’i prynwyd gan Lywodraeth Cymru am £52 miliwn yn 2013, ac yn 2021, £15 miliwn yn unig oedd y pris a roddwyd arno. Mae wedi gwneud colled cyn treth ym mhob cyfnod ers ei brynu, ac mae wedi cymryd miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr ar ffurf grantiau ac ad-daliadau dyled er mwyn iddo barhau'n weithredol. Mae nifer y teithwyr wedi gostwng 53 y cant ers 2019. Mae angen strategaeth glir, effeithiol a chynhwysfawr ar gyfer twf ar Faes Awyr Caerdydd i’w alluogi i ffynnu fel hyb rhyngwladol—strategaeth sy'n galw am weledigaeth a gallu entrepreneuraidd nad yw eich Llywodraeth yn meddu arnynt. Ac mae'n ddrwg iawn gennyf ddweud hyn, ond mae arnom angen cynllun ar waith nawr, wedi'i roi ar waith gennych chi, i roi rhywfaint o hyder i ni, yn ogystal ag i'r cyhoedd, mewn perthynas â Maes Awyr Caerdydd. Felly, Ddirprwy Weinidog, fy nghwestiwn olaf yw: a ydych yn cytuno bod eich perchnogaeth ar Faes Awyr Caerdydd wedi bod yn ddefnydd truenus o ddi-glem o arian trethdalwyr, ac mai’r ateb gorau nawr yw cael gwared ar law farw Llywodraeth Cymru a dychwelyd Maes Awyr Caerdydd i'r sector preifat, lle dylai fod?
Wel, mae'r lefel o anwybodaeth yn syfrdanol, a dweud y gwir, ynglŷn â'r realiti sy’n ein hwynebu. Nid oes gan y sector preifat ddiddordeb mewn maes awyr nad yw'n gwneud arian. Ychydig iawn o feysydd awyr, ledled y byd, sy’n gwneud arian, a hoffwn herio Natasha Asghar i roi enghreifftiau i mi o feysydd awyr y mae’n credu y dylem eu modelu, o bob rhan o’r byd, sy’n gwneud elw. [Torri ar draws.]
Parhewch, Weinidog. Chi sydd â'r llawr.
Wel, byddai’n well gennyf beidio, Lywydd. Mae'r holl synau cefndirol hyn yn mynd â sylw rhywun—gofyn cwestiwn pan nad yw'n fodlon gwrando ar yr ateb.
Teimlaf fod yn rhaid imi nodi eich bod yn feistr ar synau cefndirol eich hun, ar wahanol adegau, felly anwybyddwch hwy. Parhewch. [Chwerthin.]
Touché, Lywydd. [Chwerthin.]
Roedd yn anodd clywed yr wybodaeth ychwanegol roedd Natasha Asghar yn ceisio'i darparu. Y ffaith amdani yw, y cwestiwn sylfaenol y mae angen inni ofyn i'n hunain yw a ydym yn credu y dylai Cymru gael maes awyr. Os credwn y dylai Cymru gael maes awyr, mae methiant yn y farchnad, felly nid yw’r sector preifat ynddo’i hun yn mynd i ddarparu’r maes awyr hwnnw. Felly, yn union fel gyda Manceinion, yn union fel gyda meysydd awyr rhanbarthol eraill, mae rôl i ni fel Llywodraeth ddarparu’r maes awyr hwnnw, ac mae hynny’n gofyn am fuddsoddiad. Nawr, yn rhyfeddol, tynnodd sylw at y gostyngiad yn nifer y teithwyr ers 2019; wel, credaf fod pob un ohonom wedi sylwi ar yr hyn sydd wedi digwydd ers 2019. Bu cynnydd yn nifer teithwyr y maes awyr hyd at y pandemig. Yn amlwg, ers y pandemig, ar draws y byd, mae'r galw am deithiau awyr wedi gostwng ac nid yw wedi codi'n ôl i'r un lefel. Nid oes model busnes yn y byd a fyddai’n gwrthsefyll sioc allanol o'r fath. Y cynllun menter a ysgrifennodd—y dywedodd wrthyf amdano o'i sedd—byddwn wrth fy modd yn ei ddarllen i weld beth y gallem ei ddysgu o'i doethineb. Mae hon yn her gyfunol i bob un ohonom. Os oes gan y Ceidwadwyr atebion yn hytrach na dim ond galw arnom i gau’r maes awyr, rwy’n glustiau i gyd.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Weinidog, yr wythnos hon, adroddwyd bod colli peillwyr byd-eang yn achosi 500,000 o farwolaethau cynnar y flwyddyn oherwydd lleihad y cyflenwad o fwyd iach. Dywed gwyddonwyr y gellir priodoli oddeutu 1 y cant o’r holl farwolaethau bellach i golli peillwyr. Fel hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer y gardwenynen feinlais, un o’n gwenyn sy'n wynebu'r perygl mwyaf o ddiflannu, mae hyn yn peri pryder i mi. Dylai ddychryn pob un ohonom, gan fod iechyd ein peillwyr yn uniongyrchol gysylltiedig â’n hiechyd ein hunain a dyfodol ein planed. Mae Dr Samuel Myers o Harvard wedi dweud bod y cysylltiad hwn rhwng bioamrywiaeth ac iechyd dynol yn aml ar goll o'r trafodaethau hyn. Felly, a wnewch chi nodi, os gwelwch yn dda, yr hyn y bydd y Llywodraeth yn ei wneud i warchod ac ail-greu cynefinoedd sy'n gyfoethog o ran eu natur, yn enwedig y rheini a chanddynt ddigonedd o flodau? Mae angen i gynlluniau fel y cynlluniau rheoli tir er lles yr amgylchedd a chynllun ffermio cynaliadwy Cymru gael eu hariannu’n dda, wrth gwrs, i gymell ffermwyr. A all y Llywodraeth wneud mwy, os gwelwch yn dda, i fynd i’r afael â’r defnydd o blaladdwyr? Gwn fod yr UE wedi cynnig gostyngiad o 50 y cant yn y defnydd o blaladdwyr erbyn 2030. Dylem fod yn gwneud hynny fan lleiaf, byddwn yn gobeithio. A fydd cynllun yng Nghymru i helpu i bontio i ddewisiadau amgen cynaliadwy a’r defnydd o gnydau mwy gwydn, os gwelwch yn dda?
Ie, Delyth, rwy’n cytuno’n llwyr â chi. Yn amlwg, mae’n rhaid inni wneud rhywbeth dramatig iawn i helpu ein peillwyr, a’n holl rywogaethau bywyd gwyllt mewn gwirionedd. Dyna pam y cynhaliwyd yr archwiliad dwfn gennym i ddarganfod beth yn union y gallai'r gymuned wyddonol ein helpu gydag ef o ran y cynlluniau. Dyna pam ein wedi bod yn siarad ag awdurdodau lleol ledled Cymru am y coridorau bywyd gwyllt, No Mow May—byddwn yn dweud mis Mehefin a mis Gorffennaf hefyd—a’r holl fater ynghylch plannu rhywogaethau blodau gwyllt brodorol ar hyd ein llwybrau trafnidiaeth i greu'r coridorau sy’n angenrheidiol i'r peillwyr allu symud o gwmpas ac i sicrhau nad oes ganddynt gronfeydd genynnau sy'n lleihau mewn sectorau penodol—yr holl bethau sy’n effeithio arnynt.
Mae rhywbeth hynod bwysig y gallwn ei wneud ynglŷn â gerddi pobl hefyd yn ogystal ag amaethyddiaeth yn gyffredinol. Mae’r cynllun ffermio cynaliadwy yn ymwneud â sicrhau ein bod yn gallu ffermio yn y ffordd gynaliadwy honno gyda llai o ddefnydd o chwynladdwyr a phlaladdwyr, gan fod y ddau ohonynt yn cael effaith wirioneddol ddramatig ar ein gallu i gael y fioamrywiaeth sydd ei hangen ar bob un ohonom i oroesi—yn llythrennol, rydym ei hangen i oroesi. Felly, mae gennym ystod o fesurau ar waith. Un o'r pethau, serch hynny, y gwn y bydd gennych ddiddordeb ynddo yw y byddaf yn awyddus i weld, yn rhan o'r targedau 30x30, beth y gallwn ei ddweud ynglŷn â llai o ddefnydd o blaladdwyr a chwynladdwyr yn gyffredinol ar gyfer pethau cyffredin, os caf ei roi felly.
Mae gennym waith i'w wneud ar ailaddysgu yma hefyd. Bydd pob un ohonom yn derbyn cwynion gan etholwyr am chwyn ar y palmant, er enghraifft, ond mae chwyn ar y palmant yn angenrheidiol, mae'n angenrheidiol i bryfed guddio. Credaf fod yn rhaid inni ddysgu nad yw taclusrwydd yn rhywbeth da, mai ychydig o flerwch weithiau yw'r union beth sydd ei angen ar natur. Rhan fawr iawn o'r gwaith hwn yw ceisio cael pobl i ddeall nad yw palmentydd taclus heb unrhyw wyrddni o gwbl arnynt yn daclus mewn gwirionedd, ond yn farw. Felly, gweithio gyda’n hawdurdodau lleol i newid y drefn o gael gwared ar chwyn ac ati a’i newid yn rhywogaethau blodau gwyllt brodorol, a bod pobl yn cydnabod bod hynny'n un o’r pethau y mae gwir angen inni eu gwneud. Mae hyn oll yn ymwneud â'r agwedd a'r hyn a welwn gyda'n llygaid pan edrychwn ar natur.
Diolch. Mae’r pwynt ynglŷn â chynefinoedd trefol yn wirioneddol bwysig; rwy'n cytuno'n llwyr. Rwy’n mynd i siarad am rywbeth arall ym mhortffolio’r Dirprwy Weinidog nesaf, ond diolch yn fawr iawn am hynny, Weinidog.
Hoffwn sôn yn fy nghwestiwn olaf am ddiogelwch menywod ar drenau. Dangosodd arolwg diweddar gan Railwatch fod 60 y cant o fenywod wedi bod mewn sefyllfa lle cawsant eu gwneud i deimlo’n anghyfforddus wrth deithio ar drên yn y DU oherwydd eu rhywedd neu eu hymddangosiad corfforol. Roedd oddeutu 35 y cant wedi newid y ffordd roeddent yn edrych ar drên yn fwriadol, fel gorchuddio eu cyrff neu wisgo cot neu rywbeth felly. Roedd menywod LGBTQ 10 y cant i 20 y cant yn fwy tebygol o gael y profiadau hyn. Mae'n sefyllfa ofnadwy. Rwyf eisoes wedi codi sut y gall menywod deimlo'n anniogel wrth deithio i ac o drenau hefyd—nid oes ots gennyf pwy sy'n ateb. Mae angen i rywbeth newid. Y newyddion da yw bod 9 o bob 10 menyw yn yr arolwg wedi dweud y gallent deimlo'n fwy diogel pe bai newidiadau'n cael eu gwneud. Pe byddent yn gweld newidiadau, byddai 60 y cant yn teithio ar y trên yn amlach. Felly, os gwelwch yn dda, a wnewch chi ddweud wrthyf, Weinidog, beth y gellid ei wneud i fynd i'r afael â'r problemau hyn? A chan fod hyn yn effeithio ar hanner y boblogaeth, neu gan y gallai effeithio ar hanner y boblogaeth, a ellid cyflwyno datganiad penodol ar hyn yn y Senedd os gwelwch yn dda? Diolch.
Delyth, mae hynny'n rhywbeth sy'n agos iawn at fy nghalon, a hoffwn ddweud fy mod yn un ohonynt. Rwyf wedi gwneud hynny fy hun; rwyf wedi rhoi fy nghot o amgylch fy ngwallt, wedi gwisgo het, a cheisio gwneud fy hun mor anamlwg â phosibl, gan fy mod wedi bod yn teithio ar fy mhen fy hun yn y nos ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac nid yw wedi teimlo'n ddiogel. Mae sawl peth i’w ddweud am hynny. Yn gyntaf oll, cynhaliais ddigwyddiad Menywod mewn Trafnidiaeth ychydig cyn y Nadolig yn y Senedd, lle buom yn ceisio tynnu sylw at rôl menywod ym maes trafnidiaeth—gweithio yn y sector trafnidiaeth, ond defnyddwyr trafnidiaeth hefyd—am ba newidiadau rydym am eu gweld. Byddwn yn annog pawb yma i ymuno â’r hyb yno, a dechrau ceisio dylanwadu arno. Yr ail beth, wrth gwrs, yw sicrhau gyda’n hundebau fod gennym y lefel gywir o staff yn ein gorsafoedd ac ati, neu’r lefel gywir o olau, neu’r lefel gywir o ddarpariaeth frys. A'r trydydd peth yw sicrhau bod ein trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy poblog, oherwydd, a dweud y gwir, os ydych ar wasanaeth a ddefnyddir gan lawer o bobl, nid ydych yn teimlo felly; mae'n tueddu i ddigwydd pan fyddwch wedi'ch ynysu, ar eich pen eich hun, lle nad yw'n teimlo fel pe bai unrhyw un arall o'ch cwmpas.
Credaf fod amryw o bethau y gallwn eu gwneud ac rydym eisoes yn eu gwneud gyda Trafnidiaeth Cymru ynghylch y ffordd y mae ein gorsafoedd yn gweithio, y ffordd y mae ein gwasanaeth bysiau'n gweithio, y ffordd y mae gennym staff yn y gorsafoedd, ond byddwn yn sicr yn eich annog i fynd ati i ymwneud â'r hyb Menywod mewn Trafnidiaeth. Mae’n adnodd defnyddiol iawn, lle gallwn ddechrau edrych drwy'r lens rhywedd ar lawer o’r gwasanaethau a ddefnyddiwn. Rwy'n credu'n wirioneddol ei fod yn bwynt pwysig iawn ynglŷn â phrofiad gwahanol sectorau o gymdeithas o wahanol bethau. Mae gwir angen inni gael gwasanaeth cyhoeddus sy’n croesawu pawb, ac yn gwneud i bawb deimlo’n ddiogel. Gallem gael sgwrs debyg ynglŷn â phobl ag anableddau neu bethau eraill hefyd. Felly, mae cynllun ar waith, ond yn benodol, hoffwn argymell yr hyb Menywod mewn Trafnidiaeth yr oeddwn yn falch iawn o’i lansio yn y Senedd ychydig cyn y Nadolig.