– Senedd Cymru am 6:30 pm ar 11 Ionawr 2023.
Fe fyddwn ni nawr yn symud ymlaen at y ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan Peter Fox, ac fe gaiff e gychwyn pan fydd Aelodau wedi gadael y Siambr yn dawel, os ydych chi yn gadael. Felly'r ddadl fer gan Peter Fox.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Cyn dechrau, hoffwn nodi fy mod wedi cytuno i roi munud o fy amser i Russell George, Laura Anne Jones, Gareth Davies a Rhun ap Iorwerth, ac edrychaf ymlaen at glywed eich cyfraniadau yn nes ymlaen.
Lywydd, nid yw'n gyfrinach fod y sector iechyd a gofal cymdeithasol o dan bwysau sylweddol, yng Nghymru a thu hwnt. Mae rhestrau aros am driniaethau yn cynyddu drwy'r amser. Mae amseroedd aros am ambiwlans mewn sawl achos yn annerbyniol o hir. Rydym i gyd wedi cael gwaith achos gan etholwyr sy'n manylu ar brofiadau dirdynnol yn aml o weld anwyliaid yn aros yng nghoridorau ysbytai, neu brinder ambiwlansys, neu orfod cael eu gyrru i'r ysbyty gan rywun annwyl pan fyddant yn ddifrifol wael. Yn y cyfamser, ceir galw cynyddol am wasanaethau gofal cymdeithasol, gyda phroblemau sydd wedi cael tipyn o sylw eisoes gyda recriwtio a chadw staff yn rhoi pwysau ar wasanaethau.
Rwy'n gwbl ymwybodol nad yw'r materion hyn yn rhai penodol i Gymru; nid oes ond angen i chi wylio'r teledu i weld beth sy'n digwydd mewn mannau eraill yn y DU, ond mae'n deg dweud bod y problemau i'w gweld yn fwy difrifol yma yng Nghymru. Ac nid oes angen dweud nad bai'r staff iechyd a gofal cymdeithasol gwych yw'r problemau hyn, staff sy'n gweithio'n ddiflino ddydd a nos i helpu pobl gymaint â phosibl ac sy'n darparu gofal a chefnogaeth ragorol. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru, a Llywodraeth y DU yn wir, wedi rhoi mesurau amrywiol ar waith i geisio mynd i'r afael â rhai o'r problemau hyn. Ddoe ddiwethaf, clywsom gan y Gweinidog am bwysau'r gaeaf y mae GIG Cymru yn eu hwynebu, a'r camau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i geisio lleddfu peth ohono, megis sicrhau 500 o welyau cymunedol ychwanegol ar gyfer gofal cam-i-lawr, y gronfa integreiddio rhanbarthol a buddsoddi mewn canolfannau gofal sylfaenol brys, ac rwy'n croesawu'r cyfan ohonynt, fel pawb ar draws y Siambr, rwy'n siŵr.
Ond yr hyn rwyf am ei wneud yn y ddadl hon yw manteisio ar y cyfle i edrych ar y trawsnewid mwy hirdymor sydd ei angen i helpu ein system iechyd a gofal cymdeithasol i adeiladu nôl yn fwy gwydn. Oherwydd nid taflu mwy o arian at broblem yw'r ateb bob tro; mae angen inni wneud yn siŵr fod yr adnoddau'n cael eu defnyddio yn y ffordd gywir. Mae angen inni ddarparu system iechyd sy'n canolbwyntio ar ddarparu'r tri pheth cywir: darparu gofal iechyd rhagorol i'r claf cywir, yn y lle cywir, ac ar yr adeg gywir.
Ddirprwy Lywydd, rhaid imi ddiolch i'r rhanddeiliaid a'r clinigwyr, ac roedd llawer ohonynt, a wnaeth fy helpu i baratoi ar gyfer y ddadl hon. Rwyf wedi canolbwyntio fy syniadau ar sut y gallwn adeiladu nôl yn fwy gwydn ar bum pwynt allweddol, ac fe siaradaf am y rheini nawr, er nad yw'r rhain yn ateb i bob dim wrth gwrs ac mae'n rhaid iddynt fod yn rhan o raglen lawer mwy helaeth o ddiwygiadau a chydweithio â chlinigwyr, defnyddwyr gwasanaethau, holl haenau Llywodraeth a rhanddeiliaid eraill fel y gallwn ddarparu'r gwasanaethau y mae pobl eu hangen ac yn eu disgwyl.
Y pwynt cyntaf yw arfogi'r GIG â thechnoleg ddibynadwy ac effeithlon. Gall datblygiadau mewn technoleg helpu i drawsnewid gofal iechyd a chefnogi camau ataliol, yn ogystal â darparu mwy o lwybrau i gleifion gael mynediad at apwyntiadau a chael yr help sydd ei angen arnynt. Rydym eisoes wedi gweld cynnydd yn hyn o beth o ganlyniad i'r pandemig. Ond gellir gwneud mwy i ymgorffori technolegau newydd mewn ymarfer bob dydd i leihau'r pwysau ar glinigau cleifion allanol, ac i wella rhannu data er mwyn cynorthwyo gyda diagnosis a thriniaeth. Er enghraifft, mae Coleg Brenhinol y Meddygon wedi awgrymu edrych ar wella mynediad at dechnoleg y gellir ei gwisgo fel rhan o raglen atal ragweithiol mewn lleoliadau iechyd cymunedol. Yn y cyfamser, mae pobl fel Cymdeithas Feddygol Prydain wedi awgrymu y gellid uwchraddio seilwaith TG a thechnoleg y GIG i sicrhau bod amseroedd aros cywir a chlir a gwybodaeth am ddiagnosis ar gael i staff a chleifion. Wrth gwrs, gallai gorddibyniaeth ar dechnoleg olygu bod rhai pobl yn cael eu cau allan, ac felly dylid gwneud ymdrech gyfunol i wella'r modd y caiff gwybodaeth ei darparu fel bod cleifion a'u teuluoedd yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gefnogi eu gofal. Felly, mae'r Groes Goch Brydeinig wedi galw am roi arweiniad clir a hygyrch i gleifion ynglŷn â'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt gartref.
Yn ail, sicrhau gwasanaeth rhyddhau gofal cymdeithasol 24/7 sy'n cael ei arwain gan yr awdurdod lleol. Rydym hefyd yn gwybod bod problemau gyda rhyddhau cleifion o'r ysbyty a phrinder llefydd gofal cymdeithasol yn arwain at dagfeydd o fewn y system ehangach, gydag effaith ganlyniadol ar wasanaethau ambiwlans brys. Byddai sefydlu cynlluniau rhyddhau lleol 24/7 yn cyflymu asesiadau ac yn cynorthwyo cleifion i fynd adref yn gynt gyda'r pecyn cywir o ofal, neu i gyfleuster gofal cymdeithasol priodol. I gefnogi hyn, rhaid cael cydweithio, integreiddio a rhannu data llawer gwell rhwng pob elfen o'r system iechyd a gofal cymdeithasol; rhywbeth y mae rhanddeiliaid wedi nodi bod rhaid ei wella.
Rydym hefyd yn gwybod bod angen gwella mynediad at ofal cymunedol ledled y wlad, yn enwedig ar benwythnosau. Er enghraifft, mae Cymdeithas Clefyd Motor Niwron Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod trefniadau mynediad ac atgyfeirio at therapyddion galwedigaethol yn aml yn aneglur ac yn anghyson yng ngogledd Cymru. Ac felly mae angen inni ddatblygu system iechyd sy'n galluogi pobl i gael eu trin yn nes at adref, fel gwasanaeth 'ysbyty yn y cartref', fel y mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn galw amdano. Byddai hyn yn helpu i leihau'r nifer sy'n mynd i'r ysbyty ac yn rhoi mwy o ddewis i bobl ynglŷn â ble gellir eu trin.
Mae angen ailfeddwl mwy hirdymor hefyd ynglŷn â sut rydym yn darparu gofal cymdeithasol ar raddfa sy'n diwallu anghenion poblogaeth hŷn, gan gynnwys mwy o fuddsoddi mewn cyfleusterau i gynyddu capasiti. A cheir syniadau arloesol presennol y gellid eu datblygu ar raddfa fwy i helpu i greu sector gofal cymdeithasol mwy cynaliadwy, megis cymunedau gofal dan arweiniad awdurdodau lleol mewn cydweithrediad â darparwyr gofal cymdeithasol, gan ddatblygu platfformau TG lleol. Mae gennym botensial enfawr yn ein cymunedau i fanteisio ar y cyfalaf dynol presennol; gwelsom hynny drwy COVID, oni wnaethom—y gellir cynnull aelodau o'r gymuned i helpu i ddarparu gofal sylfaenol i gymdogion, gan ryddhau staff gofal cymdeithasol i ganolbwyntio ar dasgau mwy arbenigol.
Recriwtio a chadw: wrth gwrs, rydym wedi siarad yn helaeth yn y Senedd am faterion recriwtio a chadw staff o fewn y systemau iechyd a gofal cymdeithasol, ond mae'n fater hanfodol y mae angen mynd i'r afael ag ef. Yn syml iawn, ni allwn wneud yr hyn rydym am ei wneud heb wasanaeth iechyd wedi'i staffio a'i gyfarparu'n iawn. Felly, rwy'n cefnogi galwadau gan BMA Cymru ar i Lywodraeth Cymru gynyddu nifer y meddygon teulu dan hyfforddiant. Rhaid cael gwybodaeth fwy hygyrch hefyd am ddata swyddi gwag gan fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd er mwyn inni allu deall yn well beth yw'r anghenion a'r pwysau a wynebir gan staff, a mabwysiadu ffocws gwell ar hyfforddi a recriwtio. Rhaid i bolisi o'r fath ddod law yn llaw â chynllun gweithredu'r gweithlu cenedlaethol sydd wedi'i ariannu'n iawn ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a sicrhau synergeddau rhwng y cynllun hwn a'r fframwaith clinigol cenedlaethol. Fel y bydd pawb ohonom yn cytuno, rwy'n siŵr, rhaid cael cydraddoldeb rhwng y gweithluoedd iechyd a gofal cymdeithasol. Mae staff gofal cymdeithasol—mae'n ddrwg gennyf, rwy'n meddwl fy mod wedi colli'r—. Mae hynny'n anffodus. Iawn, felly rwyf newydd golli tudalen a oedd yn un eithaf pwysig, ac am ryw reswm, mae wedi diflannu. [Torri ar draws.] Diolch yn fawr iawn. Dyna ni; staff cymorth da. Felly, mae angen inni gydnabod bod angen cydraddoldeb rhwng y ddau faes hynny ac mae angen gwell tâl ac amodau ar gyfer y sector gofal cymdeithasol, a mwy o lwybrau hyfforddi i staff, megis drwy academi genedlaethol ar gyfer gofal.
Creu GIG mwy modern a thryloyw: mae hefyd yn bwysig fod gan bobl fwy o lais yn eu gofal, a chael mynediad at fwy o wybodaeth, fel eu bod yn gwybod pwy sy'n atebol iddynt, a sut. Rhaid i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd y GIG gydweithio'n rhanbarthol ar draws ffiniau cyfundrefnol i sefydlu dull mwy cydgysylltiedig o ddarparu gwasanaethau, a gellid ystyried deddfwriaeth i sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae angen ailwerthuso a symleiddio strwythurau'r GIG hefyd fel bod mwy o ffocws ar gyflawni ac ansawdd yn hytrach nag ar fiwrocratiaeth er mwyn cyflymu'r broses o gyflawni newid.
Ac yn olaf, mwy o ffocws ar atal. Yn y pen draw, y ffordd i sicrhau system iechyd a gofal cymdeithasol fwy gwydn a chynaliadwy yw drwy fuddsoddi a chanolbwyntio ar atal. Mae lleihau'r galw am wasanaethau a helpu pobl i gadw'n iachach am gyfnod hwy yn arbennig o bwysig wrth i bobl barhau, diolch byth, i fyw'n llawer hŷn. Mae Coleg Brenhinol y Meddygon wedi galw am well mynediad at raglenni atal sydd wedi'u lleoli mewn gofal sylfaenol a chymunedol, yn enwedig i'r rhai sy'n byw mewn tlodi, a mwy o fuddsoddiad mewn arloesedd, gan gynnwys rhaglenni sgrinio a brechu.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau a'r Gweinidog yn cymryd fy nghyfraniad yn y modd adeiladol y bwriadais iddo gael ei wneud. Wrth gwrs, nid yw'r holl atebion gennyf i, ac rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog a'i swyddogion yn gweithio'n galed i ymateb i rai o'r heriau a nodais heddiw, ond mae angen inni wybod gan y Llywodraeth pa gynnydd sy'n cael ei wneud a sut mae eu gweithredoedd yn trosi'n welliannau go iawn i wasanaethau y gall cleifion eu gweld a'u teimlo. Mae angen i'r cyhoedd wybod beth y gallant ddisgwyl ei weld yn gwella a phryd y byddant yn ei weld. Edrychaf ymlaen at glywed y cyfraniadau eraill gan yr Aelodau heddiw. Diolch yn fawr iawn.
A gaf fi ddiolch i Peter Fox am ddefnyddio ei amser dadl ar y mater pwysig hwn heddiw? Mae'r grŵp trawsbleidiol ar ymchwil feddygol yn gwneud gwaith ar hyn o bryd yn arwain ymchwiliad i fanteision ymchwil feddygol yng Nghymru. Ac efallai y dylwn ddatgan diddordeb fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol hwnnw. Mae ysbytai sy'n weithredol ym maes ymchwil wedi gwella canlyniadau i gleifion, ac mae llawer o glinigwyr hefyd yn ystyried ymchwil yn rhan bwysig o'u swydd. Rwy'n credu bod y cyfle i staff y GIG ymgymryd ag ymchwil feddygol yn ffordd wych o wneud gyrfa yn y system iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy deniadol. Ac yn sicr, gyda rhai o'r problemau y clywsom amdanynt ac a archwiliodd Peter yn ei gyfraniad heddiw, gyda'r problemau cadw a recriwtio staff y gwyddom amdanynt, mae'r elfen arbennig hon yn bwysig iawn. Rwy'n credu mai dim ond fel ateb tymor canolig i hirdymor i'r argyfwng staffio yn GIG Cymru y gall buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn ymchwil feddygol weithio, gan gynnig amgylchedd gwirioneddol ddeniadol i ddenu mwy o arbenigedd i swyddi hanfodol yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol.
Hoffwn innau hefyd ddiolch i fy nghyd-Aelod, Peter Fox, am roi munud o'i amser i mi ac am ddod â'r pwnc pwysig hwn i lawr y Senedd. Nid ydym yn bod yn or-ddramatig pan ddywedwn ein bod yn wynebu argyfwng mewn gofal cymdeithasol. Mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn fy rhanbarth i wedi dweud eu bod wedi cael tua 400 o gleifion y mis hwn a allai fod wedi cael eu rhyddhau ond na fu modd gwneud hynny. Roedd hyd yn oed adroddiad gan Gydffederasiwn GIG Cymru yn nodi bod y rhan fwyaf o arweinwyr y GIG yn dweud bod y system ofal wedi cael effaith ganlyniadol enfawr ar draws y system gofal iechyd, gyda'r pwysau ychwanegol yn gyrru'r cynnydd yn y galw am ofal brys. Roeddent hefyd yn cytuno bod diffyg capasiti gofal cymdeithasol yn cael effaith ar y gallu i fynd i'r afael â'r ôl-groniad mewn gofal effeithiol—rhywbeth sydd, fel y gwyddom, wedi cynyddu'n sylweddol oherwydd y cyfyngiadau symud COVID. Mae'n amlwg i mi fod angen integreiddio llawer gwell rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, fel y dywedwyd, gyda mwy o fuddsoddiad ariannol yn mynd tuag at ofal cymdeithasol, ac mae angen gweithio'n well mewn partneriaeth, fel y gwnaethoch chi nodi hefyd.
Mae'n hanfodol hefyd ein bod yn sicrhau bod gofal cymdeithasol yn yrfa ddeniadol—i raddau llawer mwy nag sy'n digwydd ar hyn o bryd—a bod gwell cyfleoedd i gamu ymlaen mewn gyrfa er mwyn gwella recriwtio a chadw staff, neu fel arall bydd yn gylch di-ddiwedd, yn anffodus. Gallwn barhau, pe bai amser yn caniatáu, ond fel y clywsom o'r cyfraniadau hyd yma a chan yr Aelod dros Fynwy, mae yna syniadau da iawn wedi eu cyflwyno a gobeithio y bydd y Gweinidog yn gwrando arnynt. Felly, diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i Peter Fox am godi'r mater pwysig hwn yn ei ddadl fer heddiw. Rwy'n cynnal rhaglen o ymweliadau â chartrefi gofal yn fy etholaeth ar hyn o bryd, gan fy mod eisiau gweld drosof fy hun beth yw rhai o'r problemau'n lleol yn fy rhan i o'r byd, a ledled Cymru yn wir. Y thema sy'n dod i'r amlwg yw bod llawer o gartrefi gofal yn methu cyrraedd eu capasiti oherwydd eu bod yn brin o staff. Efallai fod ganddynt gapasiti o 40 neu 50 o welyau, ond dim ond 25 neu 30 y gallant eu gweithredu oherwydd prinder staff. Rwy'n credu bod angen inni wneud gyrfa mewn gofal cymdeithasol yn fwy deniadol i ddarpar ymgeiswyr, a chynyddu cyfleoedd hyfforddi. Rwy'n falch o weld y codiad yn y cyflog byw go iawn, ond mae angen inni roi'r cyfleoedd hyfforddi cywir iddynt, ac atal gweithwyr gofal cymdeithasol rhag taro'r nenfwd gwydr os ydynt yn dyheu am gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd i fynd i'r afael â rhai o'r problemau hyn a rhoi'r gofal a'r driniaeth y maent yn ei haeddu i bobl. Diolch yn fawr iawn.
Dwi innau'n ddiolchgar i Aelod Mynwy am ddewis y testun yma. Mi oedd o'n gyfraniad gwirioneddol feddylgar, dwi'n credu. Dwi'n siŵr y byddai fo ei hun yn cyfaddef nad ydy'r rhain yn syniadau cwbl newydd mae o wedi'u crybwyll. Mae angen dod â'r syniadau o'r math yma at ei gilydd yn y ffordd yma i'r Senedd, achos mae angen arloesi yn y ffyrdd yma er mwyn datrys rhai o'r problemau sydd gennym ni yn y gwasanaeth iechyd, achos mae hi'n berffaith glir i bob un ohonom ni na allwn ni gario ymlaen fel yr ydym ni.
Dwi am sôn am un mater, y pwynt olaf a godwyd gan Peter, sef yr angen i ganolbwyntio gymaint mwy ar yr ataliol. Mae yna fentrau unigol ar yr ataliol, wrth gwrs, yn digwydd. Mi glywon ni rhai yn y ddadl ar glefyd yr iau yn gynharach heddiw. Ond sôn ydw i am newid diwylliant. Oes, mae angen newid diwylliant o fewn y boblogaeth—mi wnaeth y Gweinidog gyfeirio at hynny ddoe—ond mae'n rhaid i'r Llywodraeth arwain y newid diwylliant hwnnw ym mhopeth maen nhw'n ei wneud, ar draws bob rhan o waith y Llywodraeth, i'w wneud o'n brif uchelgais i'n gwneud ni'n genedl iachach, achos dydyn ni ddim yn ffit ac iach ar hyn o bryd.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Julie Morgan.
Diolch. Rydw i'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon.
Rwy'n falch iawn o fod yma heddiw, ac rwy'n croesawu'r ffordd adeiladol y mae Peter Fox wedi cyflwyno'r ddadl hon a'r cynigion y mae wedi'u gwneud. Rydym i gyd yn ymwybodol fod ein gwasanaethau iechyd a'n gwasanaethau cymdeithasol yn wynebu pwysau eithriadol y gaeaf hwn, ac fel y dywedodd Peter, dyma'r sefyllfa ar draws y DU gyfan.
Yn ogystal â pharhau i ymdrin â chleifion COVID-19, gyda mwy na 500 ohonynt mewn ysbytai ledled Cymru ar hyn o bryd, rydym yn gweld niferoedd sylweddol o feirysau anadlol eraill, a chynnydd yn nifer y bobl sydd â salwch difrifol yn dod i gael diagnosis a thriniaeth, ac rwy'n gwybod ein bod yn parhau i ofyn llawer gan ein staff iechyd a gofal. Maent wedi gweithio'n ddiflino drwy gydol y pandemig, ac mae'r pwysau presennol yn golygu nad ydynt bob amser yn gallu darparu'r lefel o ofal yr hoffent ei wneud. Mae ein gweithlu hefyd yn parhau i gael ei effeithio gan absenoldeb salwch sy'n gysylltiedig â COVID a gofynion hunanynysu.
Mae ein gwasanaethau ambiwlans ac 111 yn gweld lefelau digynsail o alw, ac rwy'n credu ei bod hi'n debygol eich bod chi wedi clywed yr enghreifftiau hyn o'r blaen, ond maent yn werth eu hailadrodd. Ar un diwrnod yn unig, 27 Rhagfyr, gwnaed 8,500 o alwadau i'r gwasanaeth ffôn 111—y nifer uchaf erioed o alwadau mewn diwrnod. Derbyniodd y gwasanaeth ambiwlans 210 o alwadau lle roedd bywyd yn yn y fantol. Cafodd dros 550 o bobl eu derbyn i'r ysbyty; roedd 551 o gleifion COVID mewn gwelyau ysbyty acíwt, sef dros 5 y cant o gyfanswm ein capasiti gwelyau, a chleifion ffliw oedd mewn dros 3 y cant o'r gwelyau; a phobl a oedd yn disgwyl cael eu rhyddhau oedd mewn 12 y cant o'r gwelyau.
Mae ein gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol yn profi lefelau tebyg o gynnydd yn y galw. Roedd cyfanswm y cysylltiadau â meddygon teulu yr wythnos diwethaf dros 12 y cant yn uwch na'r adeg hon y llynedd. Ac ynghyd â'r niferoedd cynyddol o gleifion sydd eisiau gofal meddygol, un o'n heriau mwyaf yw sicrhau bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty cyn gynted ag y mae'n ddiogel iddynt wneud hynny. Ac mae pwysau yn y system gofal cymdeithasol, fel sydd wedi'i ddarlunio'n barod, yn gwneud hyn yn anodd iawn ar hyn o bryd.
Mae cyni a'r pwysau dilynol ar gyllidebau wedi arwain at ostwng cyflogau'r gweithlu gofal cymdeithasol o'i gymharu â sectorau eraill, ac wedi gwaethygu heriau recriwtio. Rydym wedi cyhoeddi cyllid o £70 miliwn er mwyn i awdurdodau lleol a byrddau iechyd allu gweithredu'r codiad cyflog byw go iawn, ac rwy'n cydnabod bod Gareth Davies wedi croesawu'r cynnig hwn, ac rydym yn ymdrechu i wella telerau ac amodau cyflogaeth i'r sector, oherwydd nid y cyflog yn unig sydd dan sylw, ond y telerau a'r amodau hefyd, ac rydym yn sicr yn rhannu eich gweledigaeth chi, Peter, o gydraddoldeb rhwng staff iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae ein poblogaeth yn heneiddio, ac mae hyn yn dyst, wrth gwrs, i effeithiolrwydd ein GIG dros flynyddoedd lawer. Mae'n wych fod cymaint o bobl yn byw cymaint yn hŷn, ond yn amlwg mae'n creu heriau yn ei sgil. Cleifion 55 oed a hŷn yw dros 90 y cant o'n dyddiau gwely i gleifion mewnol brys. Mae dros hanner yr holl ddyddiau gwely ar gyfer cleifion 75 oed a hŷn, ac rydym yn gwybod, i'r garfan hon, fod cael eu rhyddhau cyn gynted ag y maent yn ffit yn feddygol yn allweddol i'w hadferiad. Maent yn llai tebygol o gael haint gan eraill. Byddant yn cysgu'n well yn eu gwelyau eu hunain ac yn cael y gorffwys sydd ei angen arnynt, a byddant yn fwy hyderus i symud o gwmpas yn eu hamgylchfyd eu hunain, felly byddant yn magu eu cryfder yn gynt nag yn yr ysbyty. Felly, mae'n gwbl allweddol ein bod yn cael pobl allan o'r ysbyty cyn gynted ag y gallwn.
I gefnogi byrddau iechyd yn ystod yr amser hynod brysur hwn, rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar ffurf fframwaith opsiynau lleol diwygiedig, sy'n rhoi hyblygrwydd a chymorth iddynt ymateb i'r risgiau lluosog a wynebir ar hyn o bryd. Rydym hefyd wedi ysgrifennu at arweinwyr clinigol i'w hannog i beidio â derbyn pobl i'r ysbyty oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol, ac i helpu cleifion sy'n ffit yn feddygol i ddychwelyd adref, neu i le diogel arall, cyn gynted ag y gallant. Bydd hyn yn creu capasiti mawr ei angen yn ein hysbytai a'r gwasanaeth ambiwlans, er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu gofal i bobl â salwch ac anafiadau difrifol.
Mae 'Cymru Iachach' yn nodi ein gweledigaeth o wasanaethau integredig, di-dor, gyda ffocws ar driniaeth yn y gymuned, a gwn fod Peter Fox wedi tynnu sylw at hynny yn ei gyfraniad. Ein nod bob amser yw sicrhau na fydd pobl yn mynd i'r ysbyty ac eithrio pan nad oes modd darparu triniaeth ddiogel mewn mannau eraill, a lleihau'r amser y mae pobl yn ei dreulio yn yr ysbyty pan fydd yn rhaid iddynt fynd. Ac mae'r weledigaeth yn fwy perthnasol heddiw nag erioed. Rydym wedi parhau i adeiladu ar sylfeini 'Cymru Iachach', gan greu amgylchedd lle mae ein partneriaid a'n gweithlu wedi cefnogi ac wedi mynd ati i drawsnewid gwasanaethau'n gyflym. Mae ein rhaglen strategol ar gyfer gofal sylfaenol, chwe nod ar gyfer gofal brys ac argyfwng, a'r gronfa integreiddio rhanbarthol oll yn gweithio tuag at y weledigaeth hon yng nghyd-destun y pwysau presennol.
Ym mis Rhagfyr, lansiodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y fframwaith ar gyfer gwella llif cleifion drwy ysbytai, sy'n gosod disgwyliad clir i fyrddau iechyd a byrddau partneriaeth rhanbarthol sicrhau mai cyhyd ag y bo angen iddynt fod yn unig y bydd pobl yn yr ysbyty.
Rydym wedi sicrhau dros 500 o welyau cymunedol ychwanegol ar gyfer gofal cam-i-lawr, a byddwn yn parhau i weithio i geisio cynyddu'r capasiti hwn. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn opsiynau amgen yn lle mynd i adrannau brys, gan gynnwys canolfannau gofal sylfaenol brys a gwasanaethau ar yr un diwrnod. Mae'r rhaglen barhaus o ddiwygio contractau sydd ar y gweill ar draws gofal sylfaenol yn parhau i ganolbwyntio ar drawsnewid gwasanaethau a chontractau i gefnogi gwell mynediad i gleifion a chynaliadwyedd gwasanaethau yn fwy hirdymor. Mae camau ar y gweill ar lefel leol a chenedlaethol i gyflymu gweithio mewn clwstwr, gan gynnwys ar draws y proffesiynau gofal sylfaenol a chymunedol, yn ogystal â gofal cymdeithasol a phartneriaid eraill. Mae'r trawsnewid, o'i ddarparu ar raddfa fwy, a'r dull cydweithredol o gynllunio a darparu gwasanaethau yn ganolog i'r model gofal sylfaenol ar gyfer Cymru a'n nod ar gyfer gwasanaeth iechyd a gofal integredig sy'n hyrwyddo iechyd a llesiant.
Mae cydweithredfeydd proffesiynol o feddygon teulu, fferyllwyr, optometryddion, deintyddion, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a nyrsys yn ymsefydlu ledled Cymru i wella'r modd y caiff gwasanaethau amlbroffesiynol eu darparu yn y gymuned. Mae cryfhau ansawdd y swyddi a galluogi gweithwyr proffesiynol i weithio ar frig eu trwydded yn ffocws ar gyfer y maes hwn, ac yn un y byddwn yn ei weld yn dod at ei gilydd fel rhan o'r gwaith o gynllunio'r gweithlu.
Darparwyd cronfeydd sylweddol drwy fyrddau partneriaethau rhanbarthol i gynorthwyo partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i weithio'n agosach gyda'i gilydd a datblygu modelau cenedlaethol o ofal integredig a fydd yn cynnig gwasanaethau ataliol, di-dor i bobl yn y gymuned. Nawr, mae'r adnoddau hyn yn cynnwys y gronfa integreiddio rhanbarthol bum mlynedd, sy'n darparu £144 miliwn y flwyddyn i gefnogi trawsnewid, a'r gronfa integreiddio ac ailgydbwyso cyfalaf gwerth £50 miliwn sydd newydd ei sefydlu, sy'n cefnogi'n uniongyrchol ein huchelgais i sefydlu 50 o hybiau iechyd a gofal integredig ledled Cymru. Ac mae tri o'r modelau sy'n cael eu datblygu drwy'r gronfa integreiddio rhanbarthol wedi'u hanelu'n benodol at greu capasiti cymunedol. Rydym wedi cyflwyno gwasanaethau newydd gartref o'r ysbyty, wedi ei gwneud hi'n bosibl darparu gofal cymhleth yn nes at adref, rydym wedi buddsoddi mewn presgripsiynu cymdeithasol, ac wedi gwneud cynnydd gyda gwasanaethau cymorth teleofal. Mae llawer o'r pethau y soniodd Peter Fox amdanynt yn ei gyflwyniad i'r ddadl yn bethau rydym yn eu gwneud ac rydym yn awyddus i wneud mwy ohonynt.
Mae clystyrau a byrddau partneriaeth rhanbarthol yn gyrru'r agenda hon yn ei blaen, ond gwyddom fod angen inni fynd ymhellach ac yn gyflymach gyda'r diwygiadau hyn. Yn 2023, rydym am wneud cynnydd tuag at wasanaeth gofal cymunedol integredig sydd ar gael i bawb ledled Cymru. Nid sefydliad newydd ydyw, ond yn hytrach agenda uchelgeisiol i lywio ac integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ddwfn a'u cyfeirio i adeiladu gwe leol gryfach o gefnogaeth. Yn ei gyfraniad, rwy'n credu bod Peter Fox wedi disgrifio'r math o gefnogaeth gymunedol y gellir ei hadeiladu ar lefel leol, ac mae hynny'n rhywbeth rydym yn dyheu am ei wneud.
Mae fframwaith cynllunio'r GIG ar gyfer 2023-24 yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau'r GIG ddatblygu perthynas agosach gyda llywodraeth leol i fynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal. Wrth wneud dyraniadau ariannol i'r byrddau iechyd lleol, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn glir ynghylch y gofyniad iddynt weithio'n llawer agosach gydag awdurdodau lleol i ddarparu ymateb gofal cymunedol integredig. Mae'n gwbl hanfodol fod y gwaith integredig hwn yn digwydd. Ac rydym yn gweld cyfleoedd go iawn yma. Mae gofal cymdeithasol yn gwybod wrth iddynt gael eu derbyn am 26 y cant o'r cleifion cymhleth a fydd yn aros i gael eu rhyddhau, felly rydym eisiau datblygu model o gymorth graddedig, gan gynnwys harneisio'r trydydd sector ac ymdrech wirfoddol—oherwydd credwn fod rôl glir i'r trydydd sector—i alluogi pobl i gynnal lefel o annibyniaeth ac ansawdd bywyd ac i gryfhau gwasanaethau lleol er mwyn osgoi gorfod derbyn pobl i'r ysbyty. Felly, rydym am wneud popeth sy'n bosibl i fuddsoddi yn y trydydd sector a gwirfoddolwyr er mwyn cadw pobl gartref a'u helpu gartref, a datblygu'r gwasanaethau ysbyty yn y cartref y ceir rhai enghreifftiau ohonynt yma yng Nghymru wrth gwrs.
Rydym hefyd eisiau cynyddu capasiti ailalluogi yn y gymuned am nad oes angen gofal hirdymor pellach ar 70 y cant o'r bobl sy'n cael eu hailalluogi pan fyddant yn gadael yr ysbyty, neu bydd galw am becyn gofal llawer llai na phe baent heb dderbyn gwasanaeth ailalluogi. Mae pobl yn nodi canlyniadau ansawdd bywyd gwell ar ôl ailalluogi ac yn byw'n annibynnol am gyfnod hirach yn eu cartrefi eu hunain.
Ac wrth gwrs, rydym angen pob cyfle i ddefnyddio technoleg ddigidol i gefnogi pobl a gweithwyr gofal, ac mae hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei yrru'n gryf iawn. Mae camau breision wedi'u gwneud drwy ddefnyddio teleofal, ac ochr yn ochr â cheisio darparu mwy o dâl a gyrfa ddeniadol i weithwyr gofal, mae'n fwy allweddol nag erioed mewn marchnad lafur dynn iawn ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y defnydd o dechnoleg yn y gymuned.
Byddwn yn parhau i weithio ar y cyfleoedd hyn a byddwn yn darparu diweddariadau pellach, ond rydym yn disgwyl y bydd gennym we gref o gefnogaeth ar gael yn lleol cyn y gaeaf nesaf, a dros y tymor canolig, byddwn yn gweld gwasanaeth gofal cymunedol integredig yn dod i'r amlwg yng Nghymru. Felly, hoffwn ddod i ben drwy ddiolch i Peter Fox am gyflwyno'r ddadl hon mewn ffordd mor adeiladol, ac rwy'n gwerthfawrogi'r holl awgrymiadau y mae wedi'u gwneud. Ac wrth gwrs, byddwn yn edrych yn ofalus arnynt—mae llawer ohonynt yn bethau sy'n agos iawn at ein calonnau ni ein hunain. Felly, diolch yn fawr iawn.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog a diolch, pawb. Daw hynny â busnes heddiw i ben.