– Senedd Cymru am 3:27 pm ar 17 Ionawr 2023.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y diweddariad ar gyfarfod ag undebau llafur y gwasanaeth iechyd, a'r Gweinidog, felly, i wneud ei datganiad—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn dilyn fy nghyfarfod ar 12 Ionawr gydag undebau llafur y GIG. Ysgrifennais at yr undebau ar 6 Ionawr cyn y cyfarfod, gan eu gwahodd i drafod pecyn o fesurau sydd â'r nod o ddod o hyd i ffordd o gynnig rhywfaint o dâl ychwanegol i'r gweithlu fel eu bod yn teimlo eu bod yn gallu dileu eu gweithredu diwydiannol. Awgrymais y gallai'r drafodaeth gynnwys pecyn posib gan gynnwys: ar gyflog, dyfarniad anghyfunol wedi'i ariannu drwy gyllideb Llywodraeth Cymru eleni; ffyrdd y gallwn ni symud ymlaen ar y materion a amlygwyd yn y prosiect lles staff a lleihau'r gwariant ar asiantaethau; a ffyrdd y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i adfer hyder ym mhroses y corff adolygu cyflogau.
Roedd angen dewisiadau anodd er mwyn dod o hyd i'r arian ar gyfer y taliad arian parod untro arfaethedig. Bydd yn rhaid i ni ddefnyddio ein cronfeydd wrth gefn ac aildrefnu gwariant o bob rhan o'r Llywodraeth os yw undebau llafur am fanteisio ar y cyfle hwn. Os byddwn yn defnyddio'r arian hwn nawr i gynyddu cyflogau, mae'n golygu na allwn ni ei ddefnyddio at ddibenion eraill, ond rydym yn hyderus mai dyma'r peth iawn i'w wneud a byddai'n rhoi mwy o arian ym mhocedi gweithwyr y GIG y gaeaf hwn, llawer ohonyn nhw'n ei chael hi'n anodd gyda'r argyfwng costau byw.
Roedd datganiad yr hydref yn gyfle a gollwyd i Lywodraeth y DU roi codiad cyflog yn 2022-23 i weithwyr y sector cyhoeddus sy'n gweithio'n galed, ac atal gweithredu diwydiannol aflonyddgar eang ledled y Deyrnas Unedig. Rhoddodd dyfarniad cyflog 'Agenda ar gyfer Newid' 2022-23, sydd wedi'i weithredu, godiad cyflog o 7.5 y cant ar gyfartaledd i'r staff sy'n derbyn y cyflogau isaf—y rhai hynny ar fandiau 1 i 4—sy'n ffurfio bron i hanner y gweithlu 'Agenda ar gyfer Newid'. I staff ar frig bandiau 6 a 7, roedd y dyfarniad yn cyfateb i godiad cyflog o 4 y cant. Yn anffodus, nid yw ein setliad ariannol yn ddigon ar gyfer yr hyn sydd ei angen i roi'r dyfarniadau cyflog cyfunol y mae'r undebau wedi bod yn ymgyrchu drostynt ar ran eu haelodau. Felly, nid ydym mewn sefyllfa i gynyddu'r dyfarniad cyflog cyfunol a roddwyd eisoes.
Daeth cynrychiolwyr o'r Coleg Nyrsio Brenhinol, GMB, Unite, Unison, Cymdeithas Therapyddion Galwedigaethol Prydain, Cymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion, Cymdeithas y Radiograffwyr, Coleg Brenhinol y Bydwragedd a'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig i'r cyfarfod yr wythnos diwethaf. Hoffwn ddiolch i'r rhai a ddaeth i'r cyfarfod. Roedd llawer o gydnabyddiaeth yn y cyfarfod hwnnw o'r sefyllfa yr ydym yn ein cael ein hunain ynddi yng Nghymru, a chydnabyddiaeth ein bod yn gwneud ymdrechion i ddod â'r anghydfod hwn i ben, yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr.
Roeddwn i'n realistig o ran fy nisgwyliadau ar gyfer y cyfarfod hwnnw, ac er bod yr undebau llafur yn credu nad oedd taliad untro anghyfunol yn ddigon i atal gweithredu diwydiannol, cytunodd yr undebau llafur i fynd i ffwrdd ac ystyried y camau nesaf ar y cyd. Er fy mod wedi clywed yn ôl gan gadeirydd yr undebau llafur iechyd y bore yma, fe gytunon ni, ar y cyd, i beidio â rhoi sylwebaeth gyson ar y trafodaethau, a byddaf yn parchu'r cytundeb hwnnw. Byddaf yn parhau i ymgysylltu ag undebau llafur.
Yn wahanol i Lywodraeth y DU, nid ydym yn ymateb i'r streiciau drwy gyflwyno deddfau newydd, llym a fyddai'n sathru ar y setliad datganoli ac yn cyfyngu ar hawliau gweithwyr ymhellach.
Ar hyn o bryd mae streiciau wedi'u cynllunio yn y GIG yng Nghymru. Mae'r RCN a GMB—gwasanaeth ambiwlans Cymru—eisoes wedi gweithredu'n ddiwydiannol, ac mae gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd a Chymdeithas Siartredig Ffisiotherapi fandad ar gyfer streic, ond dydyn nhw ddim wedi cyhoeddi dyddiadau eto. Bydd Unite—gwasanaeth ambiwlans Cymru—yn streicio yr wythnos hon a'r nesaf, ar 19 a 23 Ionawr. Mae'r RCN bellach hefyd wedi cyhoeddi dau ddiwrnod ychwanegol o streicio ar 6 a 7 Chwefror. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n hundebau llafur, gyda'r bwriad o roi diwedd ar y gweithredu diwydiannol hwn o fewn y dulliau sydd ar gael i ni.
Rydym yn cydnabod ac yn parchu cryfder y teimladau a ddangoswyd gan aelodau staff y GIG yn y pleidleisiau hyn, a thrwy'r camau diwydiannol a gymerwyd, ond rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ag undebau i ystyried ffordd o ddatrys yr anghydfod presennol dros gyflog. Atgoffais yr undebau yn y cyfarfod bod y cloc yn tician ar y mater hwn. Er mwyn cael yr arian i becynnau cyflog y GIG y flwyddyn ariannol hon, mae'n rhaid i ni ddod i gytundeb erbyn tua chanol i ddiwedd Chwefror. Diolch.
A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma? Rydych chi mewn sefyllfa anodd iawn; mae hynny'n rhywbeth y byddwn i'n ei dderbyn. Ac rwy'n sylweddoli pa mor anodd yw'r trafodaethau hyn i chi, Gweinidog; dydi hyn ddim yn hawdd o gwbl. Ac mae'n destun gofid, fel y byddwch chi'n cytuno hefyd—ac fel y bydd yr RCN yn cytuno—mae'n destun gofid ein bod ni wedi cael cyhoeddiad arall am streicio ym mis Chwefror.
Rydych chi'n sôn yn eich datganiad, Gweinidog, am ffyrdd y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i adfer hyder ym mhroses y corff adolygu cyflogau. Felly, a gaf i ofyn i chi am eich asesiad chi o hynny? Beth yw eich asesiad o broses y corff adolygu cyflogau, os gwelwch yn dda?
Fe wnaethoch chi hefyd sôn am daliadau—y taliadau untro—ac rwy'n gwerthfawrogi eich bod wedi dweud eich bod wedi gweithio ar draws y Llywodraeth i edrych ble y gallech chi ddod o hyd i'r cyllid ychwanegol hwnnw. Ond ni fydd hynny'n gwneud dim, byddwn i'n ei awgrymu, i sefydlogi'r gweithlu, na denu pobl i'r proffesiwn, sy'n rhan fawr o'r materion yr ydyn ni'n sôn amdanyn nhw. Neu ydych chi'n credu fy mod i'n anghywir wrth wneud yr asesiad hwnnw?
Fe ddywedoch chi yn eich datganiad, Gweinidog, y prynhawn yma,
'Yn wahanol i Lywodraeth y DU, nid ydym yn ymateb i'r streiciau drwy gyflwyno deddfau newydd, llym a fyddai'n sathru ar y setliad datganoli ac yn cyfyngu ar hawliau gweithwyr ymhellach.'
Nawr, yn eich datganiad llafar yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch chi fod yr effaith ar gapasiti o ganlyniad i weithredu diwydiannol diweddar wedi rhoi pwysau ychwanegol ar ein system. Felly, mae'n rhaid eich bod chi felly yn cytuno â'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol, y mae'r TUC yn tanysgrifio iddo, bod lefelau isafswm gwasanaeth yn ffordd gymesur o gydbwyso'r hawl i streicio â'r angen i gynnal gwasanaethau hanfodol, fel gwasanaethau iechyd.
Gweinidog, y mater arall, wrth gwrs, yw tynnu'r pwysau oddi ar GIG Cymru, ac rydyn ni wedi gweld pa mor llwyddiannus y mae hybiau llawfeddygol yn Lloegr. Lle maen nhw wedi cael eu cyflwyno, rydyn ni wedi gweld y rhestr aros dwy flynedd o hyd mwy neu lai yn cael ei dileu yn Lloegr, ond eto, yng Nghymru, mae gennym ddegau o filoedd o bobl yn dal i aros am dros ddwy flynedd am driniaeth. Nawr, rwy'n credu, yr wythnos diwethaf, y bu bron i chi golli eich tymer gyda mi, Gweinidog, gan ddweud, 'Edrychwch, rydych chi'n cadw sôn am hybiau llawfeddygol; wel, mae gynnon ni nhw, maen nhw'n bodoli.' Ond y rheswm rwy'n gofyn yw oherwydd dyna eich ymateb eich hun—rydych chi wedi bod yn dweud hynny ers rhai misoedd i mi—'Maen nhw'n bodoli, maen nhw'n bodoli.' Ond mewn ceisiadau rhyddid gwybodaeth, mewn ymateb ysgrifenedig i Andrew R.T. Davies ddiwedd mis Tachwedd, llai nag wyth wythnos yn ôl, fe wnaethoch chi ymateb iddo gan ddweud,
'Ar hyn o bryd, nid oes hybiau llawfeddygol pwrpasol ledled Cymru.'
Felly, dyma pam rwy'n cadw codi hyn gyda chi, Gweinidog, oherwydd rydyn ni'n cael atebion gwahanol ar y pwynt hwnnw.
A fy nghwestiwn olaf i chi, Gweinidog, yn syml iawn, yw: ydych chi'n credu y byddwch chi'n datrys yr anghydfod cyflog cyn bo hir?
Diolch yn fawr, Russell, a diolch am eich dealltwriaeth bod hon yn drafodaeth anodd iawn ac yn gyfnod anodd iawn i bawb sy'n gweithio yn y GIG.
Fe wnaethoch chi ofyn am yr hyder ym mhroses y corff adolygu cyflogau. Rwy'n credu bod yna bethau all newid. Rwy'n amlwg yn awyddus iawn i glywed beth mae undebau'r GIG yn ei feddwl o ran yr hyn y gellid ei wella, ond un peth sy'n amlwg iawn i mi yw, pan wnaeth y corff adolygu cyflogau gymryd mesuriad o chwyddiant, eu bod wedi gwneud hynny ar ddechrau'r flwyddyn. Ac roedd hynny ar adeg pan oedd chwyddiant tua 6 y cant, ac roedd ychydig ar ôl i'r rhyfel ddechrau yn Wcráin, felly doedden ni ddim wedi gweld yr effaith mor gynnar â hynny yn y flwyddyn. Felly, rwy'n credu bod achos da iawn i'w wneud dros sicrhau eich bod yn gallu rhywsut efallai cael rhyw fath o ddull lle os yw'n mynd uwchben peth penodol, gallwch ailedrych ar hynny. Felly, rwy'n credu bod lle i ni feddwl am rai materion ymarferol iawn fel yna.
O ran sefydlogi'r gweithlu, byddwch yn ymwybodol bod mwy o bobl yn gweithio yn y GIG heddiw nag sydd erioed wedi gweithio ynddo o'r blaen. Rydym yn dal i recriwtio ac, yfory, byddaf yn cyhoeddi datganiad o ran sut y bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn hyfforddi gweithlu'r dyfodol, o ran yr hyn sydd ganddyn nhw wedi'i gynllunio yn y blynyddoedd nesaf.
O ran y lefelau gwasanaeth lleiaf, rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn hollol glir beth rydyn ni'n sôn amdano fan hyn. Nid yw'r bobl sy'n mynd i mewn i'r GIG yn bobl anghyfrifol; maen nhw'n bobl sydd wedi ymrwymo i wasanaeth cyhoeddus, a nhw yw'r rhai sy'n helpu i benderfynu beth yw'r rhanddirymiadau. Felly, ni fyddwch yn gweld pobl, waeth beth sy'n digwydd yn y streiciau, yn cerdded allan o'r gwasanaeth uned therapi dwys, neu'r meysydd hynny sy'n gwbl hanfodol ar gyfer gofal. Felly, i bob pwrpas, y rhanddirymiadau hynny yw'r lefelau lleiaf o wasanaeth. Ond rwy'n credu ei bod hi'n gwbl iawn i sicrhau bod pobl yn deall bod yr hawl i streicio yn rhywbeth y brwydrwyd yn galed amdano, ac yn rhywbeth yr ydyn ni fel Plaid Lafur yn sicr yn ei gefnogi.
O ran hybiau llawfeddygol, rwy'n credu bod ychydig o ddryswch ynghylch hyn, oherwydd mae'r diffiniadau ychydig yn wahanol. Felly, gallech chi ddadlau, er enghraifft, fod Abergele, sy'n lle wedi'i glustnodi, lle na fydd yr hyn sy'n digwydd mewn perthynas ag adrannau damweiniau ac achosion brys yn effeithio arno, yn hyb llawfeddygol. Dydyn ni ddim wedi ei labelu felly, ond, i bob pwrpas, dyna beth yw e. Mae gennym ni nawr y ganolfan Vanguard yng Nghaerdydd, sy'n ganolfan newydd, ac yn bendant wedi'i chlustnodi ac ni effeithir arni gan adrannau damweiniau ac achosion brys. Felly, dyna fy niffiniad i o beth yw hyb llawfeddygol. Dydw i ddim yn hollol siŵr beth yw eich un chi, ond dyna yw fy un i—a effeithir arno gan bethau dim ond yn llifo drwy'r drysau, ac a fydd yn effeithio ar ofal a gynlluniwyd? Ac yn amlwg, mae cyfleuster newydd yn Llanelli, sy'n gwbl weithredol, a dim ond newydd agor. Felly, rydyn ni yn gwneud pethau, ac mae gennym, eto, gyfleuster wedi'i glustnodi na fydd gofal brys sy'n dod drwy'r drws yn effeithio arno.
Rwy'n credu bod yn rhaid i chi fod yn ofalus iawn yn y fan yma hefyd, er hynny, Russell, i ddeall ei bod hi'n gymaint haws os ydych chi'n byw mewn dinas fawr i fod â dau ysbyty, lle mae gan un adran damweiniau ac achosion brys ac yn yr un arall gallwch chi ei gael fel un ar wahân, yna nid yw'r hyn sy'n dod trwy'r drws ffrynt yn effeithio arno. Rydyn ni eisoes yn gwneud hynny. Yng Nghaerdydd, gallwn ni wneud hynny. Mae gennych chi Ysbyty Athrofaol Cymru, ond wedyn mae gennych chi Llandochau, lle maen nhw'n gallu bwrw ymlaen â phethau. Yn Abertawe, mae ganddyn nhw dri ysbyty i bob pwrpas a nawr maen nhw'n dechrau dweud, 'Edrychwch, fe ddyweda i wrthych chi beth, fe wnawn ni roi'r rhan fwyaf o'r gwaith orthopedig yng Nghastell-nedd, felly byddwn ni'n ei gadw draw.' Bydd achosion cymhleth bob amser lle bydd angen i chi—. Er enghraifft, os oes gennych chi rywun sydd angen llawdriniaeth ar ei glun, ond sydd hefyd â phroblem gyda'r galon, allwch chi ddim gwneud hynny mewn hyb wedi'i glustnodi oherwydd mae angen rhywun sy'n arbenigwr mewn calonnau yn eithaf agos. Felly, mae'r achosion cymhleth wastad yn mynd i orfod bod yn yr ysbytai mawr. Y broblem sydd gennym yng Nghymru yw bod gennym lawer—dydy hyn ddim yn broblem, mae'n beth da—mae gennym lawer iawn o ysbytai, ond oherwydd daearyddiaeth yr ardal allwch chi ddim bod â mwy nag un. Felly, os ydych chi eisiau mwy o ganolfannau gofal wedi'u cynllunio, byddai'n rhaid i ni ddileu rhai o'r adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae hynny'n anodd iawn pan ydych chi'n byw mewn ardal wasgaredig iawn. Yn Lloegr, oherwydd bod poblogaethau yn tueddu i fyw mewn dinasoedd mawr a chanolfannau trefol mawr, mae'n llawer haws iddyn nhw fynd yn gyflym drwy bethau gyda'r gwahaniadau hynny. Mae hynny'n llawer anoddach yng Nghymru.
Fe ddechreuaf i mewn ffordd adeiladol gyda'r meysydd hynny lle rwy'n cytuno â'r Gweinidog. O ran materion heblaw am dâl, rwy'n falch bod pwyslais difrifol ar les staff a bod lleihau costau asiantaeth yn rhan o'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei weld fel y ffordd ymlaen, er na allwn ddeall agwedd y Prif Weinidog yn llwyr heddiw, pan oedd yn ymddangos ei fod yn amddiffyn y strwythurau y mae gwaith asiantaeth yn digwydd drwyddyn nhw ar hyn o bryd. Yr hyn rydyn ni'n ei ddweud yw tynnu'r elw preifat allan ohono, er mwyn gallu bwydo'r arian yna yn ôl i'r gwasanaeth iechyd. Rydw i hefyd yn cytuno'n gryf â'r Gweinidog wrth gondemnio gweithredoedd Llywodraeth y DU ynglŷn â'r ddeddfwriaeth sydd wedi ei chyflwyno i gyfyngu ar yr hawl i streicio.
Ond, er cymaint yr ydw i'n cytuno hefyd â barn Llywodraeth Cymru am lefel gwariant cyhoeddus gan Lywodraeth y DU—mae angen i ni weld y cynnydd yn y lefel honno—ni all Llywodraeth Cymru guddio rhag ei chyfrifoldebau ei hun i ddatrys y broblem sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd, sef bod gennym filoedd ar filoedd ar filoedd o weithwyr cyhoeddus yn y sector iechyd, ac mewn mannau eraill hefyd nawr, sy'n gweithredu'n ddiwydiannol oherwydd eu bod yn teimlo nad oes ganddyn nhw opsiwn arall. Fe roddon nhw gyfleoedd i ddatrys hyn yn gynt.
O ran y cynnig o daliad anghyfunol untro, mae'n amlwg nad yw'n mynd i gael ei dderbyn gan yr undebau. Mae'r GMB yn ei gwneud hi'n glir na fyddai eu haelodau nhw'n derbyn taliad untro, mae'r RCN hefyd yn dweud nad yw'n ddigon da. Mewn termau real, mae toriadau wedi eu cyfuno, mae toriadau termau real mewn cyflogau wedi eu cyfuno a'u hatgyfnerthu ers degawd a mwy, ac mae'n rhaid i ni dorri'r cylch hwnnw. Wyddoch chi beth? Dydy hyn ddim yn digwydd ar amser da iawn. Mae cyllid y Llywodraeth yn brin. Ond y gwir amdani yw bod cyllid ein gweithwyr iechyd yn brin hefyd, ac maen nhw wedi bod yn mynd yn brinnach ac yn brinnach. Roedd cyfle yn y blynyddoedd diwethaf i dorri'r cylch hwnnw pan oedd ychydig mwy o hyblygrwydd yn y system.
Ychydig wythnosau yn ôl, cyn y Nadolig, cawsom wybod nad oedd yna hyblygrwydd o gwbl, dim arian wrth gefn, dim arian heb ei ddyrannu. Rydyn ni'n gwybod nad yw hynny'n wir, ac erbyn hyn mae gennym gyfaddefiad bod yna gynnig y gellir ei wneud. Ond mae'n rhaid cynyddu'r cynnig hwnnw. Dyna'r gwir amdani. Rydyn ni, fel plaid, wedi manylu ar sut rydyn ni'n credu y gellir ei gynyddu, a'i gynyddu i bwynt lle rydyn ni'n credu y gellir taro bargen, gobeithio. Mae yna deimlad yr wyf i'n ei gael yn glir iawn gan yr undebau nad yw'r Llywodraeth yn trafod yn ddigon difrifol. Dywedodd y Gweinidog heddiw:
'ein bod yn gwneud ymdrechion i ddod â'r anghydfod hwn i ben, yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr.'
Mi fuon ni yma am wythnosau ac wythnosau, yn gofyn i Lywodraeth Cymru drafod ac roedden nhw'n gwrthod trafod gyda'r undebau. Tra yn yr Alban, eto, mae gweithredu drwy streicio wedi ei oedi—cafodd ei oedi i ddechrau, ei roi yn ôl ar yr agenda, a nawr mae wedi ei oedi eto. Ac yma, roedd Llywodraeth Cymru yn gwrthod hyd yn oed trafod, tra oedd gweithwyr iechyd i'w gweld allan ar y llinellau piced. Rydyn ni wedi manylu ar sut rydyn ni'n credu y gellir ei wneud, ond y gwir amdani yw bod yn rhaid gwneud hyn, ac mae yna ffordd.
Diolch yn fawr. Yn gyntaf oll, ar fater gweithwyr asiantaeth, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n rhoi hyn mewn cyd-destun. Felly, mae 65 y cant o'r hyn rydyn ni'n ei wario yn y GIG yn cael ei wario'n uniongyrchol ar staffio, ac, o hynny, mae tua 6 y cant yn cael ei wario ar weithwyr asiantaeth. Mae hynny'n ormod, ac mae angen i ni ei ostwng. Ond beth oedd yn glir i mi—. Fe dreuliais i dipyn o amser yn ysbyty Llwynhelyg ar y penwythnos. Nos Wener, roeddwn i yn Llwynhelyg gyda nyrsys, yn edrych ar beth maen nhw'n ei wneud, ac roedd yn ddiddorol iawn, oherwydd roedd 50 y cant o'r nyrsys ar ddyletswydd yno—50 y cant—yn nyrsys asiantaeth. Felly, gallwn ni ddileu hynny, ond byddai'n rhaid i chi gau'r ysbyty; gadewch i ni fod yn hollol glir. Y peth diddorol i mi oedd bod y rhan fwyaf o'r gweithwyr asiantaeth hynny mewn gwirionedd wedi dod o'r tu allan i Gymru. Felly dydyn ni ddim yn sôn yn gyffredinol am bobl sy'n weithwyr y GIG yng Nghymru sy'n mynd i asiantaeth ddrud; roedd y rhain yn bobl a oedd yn dod i mewn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn deall nad yw hyn yn rhywbeth sy'n hawdd, achos dydw i ddim yn y busnes o gau ysbytai, ac os byddwn ni'n trio mynd ati yn rhy gyflym ar hyn, dyna fydd y canlyniad. Fedra i ddim gwneud hynny.
Mae hwn yn gyfnod lle mae gennym ni 7 y cant o weithwyr y GIG i ffwrdd yn sâl, felly mae'n rhaid i ni ôl-lenwi hynny. Nid pethau y gallwch chi eu cynllunio ymlaen llaw yw'r rhain. Doedden ni ddim yn gwybod ein bod ni'n mynd i gael ffliw a COVID a phopeth arall. Gallwn ni gynllunio i raddau, ond mewn gwirionedd does dim digon o bobl ar ôl yn y gronfa i lenwi'r swyddi gwag hynny. [Torri ar draws.] Mae gennym ni asiantaeth; yr enw arni yw'r gronfa. Dyna mae'n cael ei alw. Mae angen i chi fynd i ystyried sut mae'r system go iawn yn gweithio. Mae gennym ni gronfeydd. Felly rydyn ni'n defnyddio pobl o gronfeydd, ond does dim digon ohonyn nhw. A pheidiwch â siarad â fi am guddio o'n cyfrifoldebau. Rydyn ni'n gwybod bod gennym ni ddewisiadau, ac rydyn ni wedi gwneud dewisiadau.
Rydw i'n mynd i ofyn i chi ysgrifennu'r ffigurau hyn i lawr, oherwydd mae'n bwysig iawn eich bod chi'n deall pa mor anodd yw hi i gyrraedd y swm o arian y byddech chi eisiau ei roi ar y bwrdd i gael taliad cyfunol. Cofiwch, nid taliad untro yw hwn. Nid arian y gallwch chi ddod o hyd iddo eleni yw hwn—. Ond os ydych chi eisiau cynyddu cyflog gweithwyr y GIG 1 y cant, mae'n rhaid i chi ddod o hyd i £55 miliwn, iawn? Felly yng Nghymru, nifer y bobl sy'n talu'r gyfradd ychwanegol yw 9,000. Mae'n 9,000 o bobl. Os byddech chi'n cynyddu honno 1c, byddech chi'n gwneud £3 miliwn. Dyna faint fyddech chi'n ei gael. Felly, rydych chi filltiroedd i ffwrdd o'r £55 miliwn y byddai ei angen i gael cynnydd o 1 y cant. Felly, rydych chi'n edrych wedyn ar y bobl sy'n ennill rhwng £50,000—[Torri ar draws.] Peidiwch â chwyno; gwrandewch arnaf i. Os ydych chi'n edrych ar y bobl sy'n ennill rhwng £50,000 a £150,000, ac rydych chi'n rhoi eu treth incwm i fyny 1c, byddech yn cael £33 miliwn. Eto, filltiroedd i ffwrdd o'r £55 miliwn am 1 y cant. Felly yr unig le mae'n rhaid i chi fynd i gael unrhyw le yn agos—unrhyw le yn agos—i'r 1 y cant, heb sôn am yr 17 y cant y mae'r RCN yn gofyn amdano, yw'r trethdalwyr cyfradd sylfaenol. Os byddech chi'n ei godi 1c, byddech chi'n cael £237 miliwn, felly byddai hynny'n gynnydd o tua 4.5 y cant. Gofyn i'r aelodau tlotaf yng Nghymru, sydd mewn trafferthion ar hyn o bryd—. Dyna'ch dull chi o weithredu; dyna beth rydych chi eisiau ei wneud. Ac ydyn, rydyn ni yn gwneud rhai penderfyniadau gwleidyddol, oherwydd rydyn ni'n credu bod pobl yn cael trafferthion gyda'r argyfwng costau byw ar hyn o bryd. Felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn deall yn iawn pa mor anodd yw hyn, achos rydyn ni wedi gwneud penderfyniad gwleidyddol, a dydyn ni ddim yn mynd i godi treth incwm i bobl dlotaf Cymru ar hyn o bryd.
Mae'n bwysig iawn hefyd bod pobl yn deall—. Dydw i ddim yn mynd i roi sylwebaeth gyson ar y trafodaethau, ond fe fyddwch chi'n deall bod yr hyn rydyn ni'n ei gael yng Nghymru o ran cynnydd mewn iechyd yn union gymesur â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Yr hyn oedd yn ddiddorol iawn, yn 2008, ein bod wedi cyrraedd pwynt lle roedden ni wedi bodloni cyfartaledd yr UE o'r 14—. Felly, fe wnaethon ni gymharu ein hunain â'r 14 rhan gyfoethocaf o'r UE, ac roedden ni wedi bodloni cyfartaledd yr UE. Ond, rhwng 2010 a 2019, ym Mhrydain, gwelsom gynnydd o 15 y cant. Yn yr UE, cododd 21 y cant. Yn yr Almaen, roedd yn 39 y cant. Gwariodd y DU £40 biliwn yn llai ar ofal iechyd na'r cyfartaledd Ewropeaidd. Roedd hynny'n golygu na ddaeth arian atom ni, sy'n golygu nad oedden ni'n gallu cynyddu'r taliadau. A'r ateb yw bod cyni, mewn gwirionedd, yn bolisi bwriadol gan y Llywodraeth Dorïaidd dros 10 mlynedd, a dyna pam mae nyrsys mor rhwystredig. Ac rydyn ni'n deall hynny. Rydyn ni'n deall hynny. Oherwydd nid heddiw ydyw; mae'n groniad o 10 mlynedd o gyni, a'ch cyfrifoldeb chi yw hynny.
Siaradais i â nyrsys ar y llinell biced, oherwydd roeddwn i eisiau clywed eu barn nhw hefyd, ac fe wnaethon nhw ddweud wrthyf nad arian yn unig sy'n bwysig, ond mae hefyd yn ymwneud â phwysau bywyd-gwaith hefyd. Mae llawer yn gwneud shifftiau 12 awr. Ac mae diffyg hyblygrwydd hefyd, gyda gofal plant ac ati. Fe wnaethon nhw hefyd sôn am gostau asiantaeth, ac mae'n eu poeni nhw os ydyn nhw'n gwybod eu bod nhw'n gweithio gyda rhywun sy'n cael mwy o dâl. Does ganddyn nhw ddim y profiad ar y ward honno ychwaith, oherwydd does gennych chi ddim yr un bobl ar y ward ag sydd ganddyn nhw, felly mae'n rhaid iddyn nhw lenwi drostyn nhw hefyd.
Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn clywed am fod â chronfa sy'n eiddo cenedlaethol i ni, nid yn unig i nyrsys—rwy'n gwybod eich bod wedi sôn am hyn hefyd, mewn gwirionedd, Eluned, o'r blaen—ond i weithwyr gofal cymdeithasol ac i athrawon. Wyddoch chi, gyda chyni, yr holl streiciau hyn sy'n digwydd nawr, byddai'n ddiddorol iawn. Byddwn i wrth fy modd yn clywed mwy amdanoch chi'n mynd ar y shifft nos yn ysbyty Llwynhelyg, oherwydd rwy'n credu ei bod yn ddiddorol iawn clywed barn y nyrsys a chlywed am yr hyn a ddysgoch chi tra oeddech chi yno.
A'r taliad untro hwn—rwy'n gwybod nad dyna sydd ei angen, ond, oherwydd bod gennym ni yr argyfwng costau byw presennol hwn a llawer o nyrsys sydd newydd gymhwyso, byddai croeso gwirioneddol i'r taliad untro hwnnw. Wrth siarad â nyrsys, bydden nhw wir yn croesawu hynny, tan y gallwn ni gael rhywbeth wedi'i drefnu gyda Llywodraeth y DU, i sicrhau bod pawb, yr holl bobl yma sy'n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn cael eu talu'n iawn a bod yna ddiwedd ar gyni. Felly, hoffwn glywed eich barn ar hynny, os gwelwch yn dda. Diolch.
Diolch yn fawr, Carolyn. Yn sicr, rydyn ni'n ymwybodol iawn nad yw'n ymwneud â chyflog yn unig; mae llawer o faterion eraill yn ymwneud â hyn, a dyna pam roeddwn i'n falch iawn o fod wedi cael fy nghyflwyno â'r prosiect lles staff ddydd Llun, gan gynrychiolwyr y mudiad undebau llafur, dim ond yn nodi'r mathau o bethau yr hoffen nhw ein gweld ni'n ymdrin â nhw. Ac felly, yn amlwg, mi fydda i'n edrych ar hynny'n fanwl, dim ond i weld faint ymhellach allwn ni fynd gyda hynny.
O ran costau asiantaeth, rydyn ni'n benderfynol o roi pwysau ar yr asiantaethau drutaf yn sicr. Ac, fel y dywedwch chi, mae gan bob un o'r byrddau iechyd eu cronfeydd eu hunain. I ba raddau y gallen ni gael cronfa Cymru—. Hynny yw, dydw i ddim yn credu bod hynny'n anodd iawn; mae'n rhywbeth y gallem ni geisio symud tuag ato mae'n debyg.
O ran y shifft nos yn Llwynhelyg, alla i ddim dweud wrthych pa mor ddiddorol oedd hynny. Mae'n bwysig iawn nid yn unig i gael synnwyr o'r peth trwy ddarllen am beth yw'r sefyllfa a gwrando ar bobl. Pan fyddwch chi mewn gwirionedd yn gweld y pwysau ar lawr gwlad, pan fyddwch chi mewn gwirionedd yn gweld nifer y bobl hŷn yn benodol na ddylen nhw fod yn yr ysbyty mewn gwirionedd, oherwydd eu bod wedi cael eu triniaeth ac mae problemau gwirioneddol gyda throsglwyddiadau gofal gohiriedig, mae wir yn gwneud gwahaniaeth ac yn taro deuddeg. Roedd rhywfaint o'r wybodaeth honno o ran gweithwyr asiantaeth yn ddefnyddiol iawn i mi. Doedd gen i ddim syniad bod gennym ni gymaint o bobl yn dod i mewn yn eu niferoedd o Loegr, ond wrth gwrs mae'n fater go iawn o sut rydyn ni'n staffio, yn enwedig ysbytai sydd efallai yn bellach i ffwrdd o'r canolfannau mawr. Felly, mae'n her go iawn ac nid yw'n mynd i fod yn hawdd ei datrys.
Y peth arall yw, ar y taliad untro, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i bobl ddeall, yn gyntaf oll, mai arian yw hwn lle rydyn ni wedi gofyn o amgylch y Cabinet i gyd i bobl arafu eu gwariant eleni. Os gofynnwn iddyn nhw, os cawn ni gytundeb ar hyn, byddwn ni'n gofyn iddyn nhw arafu gwariant ac efallai ei wthio i'r flwyddyn nesaf. Felly, nid arian sy'n hawdd ei gael yw hwn, nid tanwariant yw hwn; mae hwn yn arian sydd eisoes wedi'i ddyrannu ac rydyn ni'n gofyn ffafr fawr gan weddill y Cabinet. Ac mae'n ymwneud â chronfeydd wrth gefn hefyd. Mae yna risg fawr gyda defnyddio cronfeydd wrth gefn. Dydyn ni ddim yn gwybod a ydyn ni am gael amrywiad COVID newydd sy'n mynd i osgoi ein brechlynnau y flwyddyn nesaf. Byddem yn cymryd risg gyda hyn. Felly, mae hyn yn wleidyddiaeth risg uchel iawn, ond mae'n rhywbeth rydyn ni'n barod i'w wneud oherwydd ein bod ni mewn gwirionedd eisiau cefnogi ein gweithwyr GIG. Felly, taliad untro fyddai hwn, ac nid yw'n mynd i fod ar y bwrdd yn hir iawn, oherwydd mae diwedd y flwyddyn ariannol yn dod yn gyflym iawn, iawn, ac os ydyn nhw eisiau hynny yn eu pecynnau cyflog, mae'n rhaid i ni ei gael i mewn ar ddechrau mis Mawrth, sy'n golygu bod yn rhaid gwneud cytundeb cyn hynny. Felly, mae'r cloc yn tician yn y fan yma. Ac, wrth gwrs, dydyn ni ddim wedi tynnu'r arian oddi ar neb eto. Yn amlwg, byddai pobl yn fwy na pharod i ddal eu gafael arno. Rydyn ni'n gofyn ffafr fawr iawn, iawn gan bobl, ac yn cymryd risg ar gronfeydd wrth gefn. Felly, byddai'n rhaid i ni gael rheswm da iawn dros wneud hynny, ac yn amlwg mae hon yn drafodaeth.
Diolch i'r Gweinidog.