– Senedd Cymru am 4:39 pm ar 17 Ionawr 2023.
Felly, symudwn ymlaen i eitem 7: datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar gymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Y llynedd, cyflwynwyd enw newydd ar gyfer ein rhaglen buddsoddi mewn seilwaith addysg flaenllaw, sef rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy, a thrwy hyn rydym ni'n gwneud datganiad clir am ein hymrwymiadau ar gyfer yr amgylchedd a chenedlaethau'r dyfodol. Hyd yn hyn, mae'r rhaglen wedi darparu dros £1.5 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf i gefnogi cyflwyno 255 o brosiectau ysgol a choleg.
Gan adeiladu ar hyn, mae ein rhaglen lywodraethu yn ymrwymo £1.5 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol ar gyfer y cam nesaf, i ddarparu ysgolion a cholegau newydd ledled Cymru. Mae llwyddiant y rhaglen yn adlewyrchu’r bartneriaeth gydweithredol gref sydd gennym gydag awdurdodau lleol, Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru, ColegauCymru ac awdurdodau esgobaethol. Mae wedi caniatáu inni wneud penderfyniadau strategol lleol ar flaenoriaethau buddsoddi mewn addysg ledled Cymru, gan roi llwyfan ar gyfer cyflwyno blaenoriaethau cenedlaethol ar yr un pryd, gan gynnwys y Cwricwlwm i Gymru newydd.
Mewn ymateb i anghenion ein partneriaid cyflenwi ar gyfer rhaglen fwy hyblyg, rwyf wedi penderfynu cyflwyno rhaglen dreigl ar gyfer cyflawni. Amlygodd y gwersi a ddysgwyd o fand A, a'r newid i fand B, pa mor gymhleth a hirfaith oedd darparu prosiectau drwy amserlen sefydlog y rhaglen flaenorol. I'r perwyl hwn, mae'r rhaglen dreigl yn cael ei rhoi ar waith i wella effeithlonrwydd ar gyfer partneriaid a Llywodraeth Cymru, gan gryfhau un o brif briodoleddau’r rhaglen, sef prosiectau sy'n symud ymlaen ar gyflymder ac ar sail blaenoriaethau ein partneriaid cyflenwi.
Mae trawsnewidiad yr ysgol yn parhau i fod yn ganlyniad hanfodol i'n buddsoddiad yn y rhaglen. Fel Llywodraeth, rydym yn glir nad brics a morter yn unig yw hyn. Mae adeiladau sydd wedi eu dylunio'n dda ac amgylchoedd dymunol yn chwarae rhan allweddol o ran cefnogi staff a dysgwyr, gan sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb.
Disgwylir i bartneriaid cyflenwi gyflwyno eu rhaglen amlinellol strategol newydd ar adeg sy'n cyd-fynd â'u cynnydd trwy eu rhaglen bresennol—fel arfer, uwch na 60 y cant o werth y rhaglen—a thrwy hynny, cychwyn eu rhaglen dreigl. Mae'r rhaglenni amlinellol strategol pum mlynedd presennol, felly, yn cael eu disodli gan raglenni amlinellol strategol naw mlynedd a fydd yn gwella'r cynllunio ar gyfer buddsoddiadau yn y dyfodol. Bydd rhaglenni treigl yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru eu hadolygu a'u hystyried ar gyfer darparu ymrwymiad cam wrth gam a chefnogaeth, gydag adolygiadau fesul tair blynedd o'r rhaglenni i addasu ac ychwanegu prosiectau pellach.
Dirprwy Lywydd, mae'r rhaglen yn wirioneddol drawsbynciol ac wedi rhoi llwyfan i ymgorffori'r Gymraeg yn ogystal â pholisïau eraill, er enghraifft teithio llesol, bioamrywiaeth, TGCh, cymuned a chwricwlwm, cyflawni a manteisio i'r eithaf ar werth o fuddsoddiadau ar draws ein hystad addysg ac, wrth wneud hynny, mae wedi darparu model cynaliadwyedd i eraill ei ddilyn.
Fel un o'r cenhedloedd cyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd a'r bwriad i fod yn genedl carbon isel, rwyf wedi mandadu y byddai'n ofynnol i bob prosiect newydd a gefnogir drwy'r rhaglen gyflawni carbon sero net wrth weithredu, ynghyd â gostyngiad o 20 y cant mewn carbon wedi'i ymgorffori. Ddeuddeg mis ers y mandad hwn, rwy'n falch o gadarnhau bod 16 prosiect wedi'u cymeradwyo ac yn symud ymlaen fel prosiectau carbon sero net. Hoffwn ganmol ein partneriaid cyflenwi ar ymgymryd â'r her a datblygu prosiectau sero net mewn ffordd mor gadarnhaol, a phob rhanbarth ledled Cymru yn mabwysiadu'r meddylfryd, o Ysgol y Graig ar Ynys Môn yn y gogledd, Ysgol Cedewain ym Mhowys, i Ysgol y Deri ym Mro Morgannwg yn y De.
Yn ogystal â chefnogi pob rhanbarth yng Nghymru, mae'r rhaglen yn cael effaith gadarnhaol ar draws pob sector o'r byd addysg. A'r ffaith mai Ysgol Gynradd South Point yw'r ysgol garbon sero net gyntaf yng Nghymru, rydym bellach yn gweld prosiectau ar gyfer ysgolion uwchradd, ysgolion pob oed, ac ysgolion arbennig yn ogystal â cholegau. Mae ysgolion arbennig yn cyflwyno her ychwanegol o ran cyflawni carbon sero net oherwydd offer arbenigol, a thrwy hynny, gynyddu'r galw am drydan. Fodd bynnag, gallaf gadarnhau bod tri phrosiect ysgol arbennig wedi'u cymeradwyo ar hyn o bryd i symud ymlaen tuag at gyflawni ein huchelgais carbon sero net, a bydd gwersi a ddysgwyd o'r prosiectau hyn yn bwydo i mewn i brosiectau llwybrau eraill ar ein taith i sero net.
Maes heriol arall, Dirprwy Lywydd, yw cyrraedd carbon sero net ar brosiectau adnewyddu, a gallaf gadarnhau mai ein prosiect adnewyddu sero net cyntaf fydd Ysgol Uwchradd Pen y Dre ym Merthyr Tudful. Bydd Pen y Dre yn ymgymryd â gwaith adnewyddu dwfn yn yr ysgol bresennol, gan dynnu'r ffabrig yn ôl i'r ffrâm strwythurol. Gall y carbon ymgorfforedig a arbedir drwy gadw'r sylfeini, y slabiau llawr a'r fframwaith strwythurol arbed cymaint â 48 y cant o garbon yn unig. Rydym yn disgwyl llawer i'w ddysgu o'r prosiect hwn a fydd yn cyfrannu at darged ailddefnyddio adeiladau'r rhaglen o 60 y cant.
Mae angen i ni sicrhau bod ymrwymiadau cynaliadwyedd a datgarboneiddio yn dod yn rhan annatod o'n bywyd bob dydd. Mae hyn yn arbennig o wir am aelodau iau ein cenedl. Mae angen i ni ddarparu ffyrdd effeithiol er mwyn iddynt ddeall yr amgylchedd sydd o'u cwmpas, gan gynnwys yr adeiladau y maen nhw'n dysgu ynddynt. Rwyf wedi siarad yn y Siambr, Dirprwy Lywydd, yn y gorffennol, am fy nisgwyliad i awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach a'u timau dylunio i weithio'n agos gyda'n plant, pobl ifanc a staff fel eu bod yn cael y cyfle i helpu i ddylunio eu hamgylchedd dysgu eu hunain. Mewn ymateb, fis Medi diwethaf, cyhoeddais yn ffurfiol lansiad her ysgolion cynaliadwy. Gan adeiladu ar fandad carbon sero net y rhaglen, gwahoddwyd ceisiadau gan awdurdodau lleol sy'n gallu dangos gwaith dylunio, datblygu, darparu a rheoli dwy ysgol newydd a allai wneud cyfraniad cadarnhaol i'r amgylchedd, y gymuned a'r dirwedd gyfagos. Mae'n bleser gennyf ddweud heddiw fod yr her hon wedi cael croeso brwd gan awdurdodau lleol, gydag 17 o geisiadau prosiect wedi'u derbyn. Mae swyddogion bellach yn cael eu cefnogi gan gynrychiolwyr y sector allanol wrth asesu'r cyflwyniadau, ac edrychaf ymlaen at gyhoeddi'r prosiectau llwyddiannus yn ystod yr wythnosau nesaf.
Hoffwn ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Mae rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol, fawr hirdymor gyda'r nod o greu cenhedlaeth o ysgolion cynaliadwy yn rhywbeth sy'n bwysig i blant ysgol ledled Cymru, ac yn bwysig iawn i fy mhlaid i. Mae cael amgylcheddau dysgu cynaliadwy yn un o'r pethau pwysicaf a all helpu plant i ddysgu a chyflawni eu nodau, ac rydym yn croesawu'r arian sydd wedi ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru hyd yma a'r arian wrth symud ymlaen. Rydym yn croesawu'r gefnogaeth a ddarperir i lywodraeth leol i adeiladu rhagor o ysgolion, gan gynnwys ysgolion Cymraeg, er mwyn helpu i wrthdroi'r gostyngiad yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg ledled y wlad. Ond, Gweinidog, hoffwn wybod sut fyddwch chi'n mesur llwyddiant y cyllid hwn a'r cynllun hwn er mwyn sicrhau ein bod yn adeiladu'r ysgolion Cymraeg hynny, gan wneud yn siŵr ein bod yn cael mwy o ddysgwyr Cymraeg, yn enwedig ar ôl canlyniadau'r cyfrifiad diweddar, a oedd yn peri pryder, yn enwedig o ran plant rhwng tair a 15 oed—y bobl hynny sy'n mynd tuag yn ôl gyda'r niferoedd sy'n siarad Cymraeg.
Roedd sôn yn eich datganiad ynghylch teithio llesol. Mae cludiant i'r ysgol yn chwarae rhan enfawr wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd ac allyriadau carbon ledled Cymru. Mae llawer o rieni ledled y wlad, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn wynebu problemau cludiant, a dydy hi ddim mor hawdd â dweud wrth bobl am gerdded neu i feicio i'r ysgol. Felly, sut ydych chi’n gweld cymunedau cynaliadwy sy'n gweithio i ddarparu cludiant effeithiol ac effeithlon i'r ysgol yn fwy diogel ar gyfer plant ysgol yng Nghymru fel rhan o gymuned gynaliadwy ar gyfer dysgu?
Mae yna bryderon hefyd, Gweinidog, fel y gwyddoch chi'n iawn, am y costau cynyddol y mae ysgolion yn eu hwynebu oherwydd pwysau chwyddiant a phopeth arall. Un enghraifft yw Ysgol y Deri ym Mro Morgannwg, sydd wedi mynd miliynau o bunnau dros y gyllideb. Mae cynghorau'n wynebu costau cynyddol. Felly, hoffwn wybod sut rydych am gefnogi'r ysgolion hyn wrth sicrhau eu bod yn cael eu hadeiladu yn y ffordd fwyaf effeithlon, a hefyd sut rydych yn cymell cynghorau lleol i wneud hyn er mwyn sicrhau bod prosiectau'n cael eu rheoli mewn ffordd briodol. Gweinidog, hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad heddiw ac, os gallech ateb y cwestiynau hynny rwyf wedi'u gofyn i chi, byddwn i'n hynod ddiolchgar. Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Mae'n iawn i nodi bod canlyniadau'r cyfrifiad yn siomedig, ond bydd hefyd yn cofio bod amrywiaeth o ddata yn y maes hwn sy'n dangos darlun ychydig yn fwy cymhleth na'r un ffynhonnell ddata honno efallai, er ei bod yn bwysig iawn. Felly, y dasg inni yw edrych ar y data yn eu cyfanrwydd, ond mae mwy o blant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg nag sydd wedi'u datgan. mae'n ymddangos, yn y cyfrifiad sy'n siarad Cymraeg mewn grŵp blwyddyn benodol—i'r pwynt yr oedd yn ei wneud ynghylch ehangu ysgolion Cymraeg. Rwy'n credu bod hynny'n arwydd bod angen i ni ymchwilio ychydig ymhellach am y cyd-destun ar gyfer y data hynny hefyd.
Bydd hefyd yn gwybod bod sicrhau bod rhagor o ysgolion Cymraeg ar gael yn rhan sylfaenol o allu cyrraedd ein targedau strategaeth 'Cymraeg 2050'. Mae gan y cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg 10 mlynedd, y mae pob un o'r 22 o awdurdodau wedi eu cyflwyno, ac yr wyf i wedi eu cymeradwyo, gynlluniau uchelgeisiol, nid yn unig i symud ysgolion ar hyd y continwwm ieithyddol tuag at fwy o ddefnydd a darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, ond hefyd adeiladu 23 o ysgolion cynradd newydd dros gyfnod y cynllun, sy'n fuddsoddiad sylweddol. Mae'n debyg y bydd hefyd yn ymwybodol, yn ogystal â'r gyfradd ymyrraeth sy'n berthnasol yn fras o dan y rhaglen band B, sydd, yn fras, rhwng 65 ac 85 y cant o'r gost, yn dibynnu ar natur yr ysgol, ar gyfer nifer cyfyngedig o brosiectau, rydym wedi gallu darparu cyfradd ymyrraeth uwch ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg, er mwyn gallu sicrhau bod hynny'n digwydd yn gyflym. Ond, rydw i wedi egluro i bartneriaid awdurdodau lleol, ac maen nhw wedi croesawu hyn, y bydd buddsoddiad yn y dyfodol o dan y rhaglen buddsoddi cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu yn golygu rhoi sylw i gynnydd wrth ddarparu'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg hefyd, ac rwy'n siŵr y bydd yn awyddus i'w glywed.
Mae e'n iawn i nodi pwysigrwydd teithio llesol fel rhan o unrhyw gynllun safle ar gyfer prosiectau yr ydym yn eu hariannu. Anogir storio beiciau a sgwteri fel rhan o'r teithio llesol wrth gynllunio ysgolion lle bo modd, ac mae tîm y rhaglen yn disgwyl i randdeiliaid a chontractwyr weithio gydag ysgolion i ddatblygu cynllun teithio a fydd yn cefnogi mesurau i gynyddu teithio llesol a theithio amgylcheddol gynaliadwy yn ehangach i'r ysgol.
Cododd bwynt pwysig iawn am yr effaith ar brosiectau penodol. Rwy'n siŵr o ddweud ar hyn o bryd bod nifer fawr o brosiectau sydd â phroffil cost gwahanol iawn i'r rhai hynny efallai yr oeddynt yn cychwyn arnynt pan gyflwynon nhw eu hachosion busnes i ni. Mae hynny'n broblem gyffredin ar draws y sector adeiladu, ac rwy'n gwybod ei fod yn gwerthfawrogi hynny, a gwnaethon ni gyffwrdd â hyn yn nhrafodaeth y pwyllgor yn ddiweddar pan graffwyd ar fy nghyllideb. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau yn bwrpasol mewn perthynas â phob rhaglen unigol i ddeall effaith chwyddiant ar y gost ar gyfer y prosiect hwnnw, a beth y gellir ei wneud i edrych ar y fanyleb, o bosibl, mewn rhai amgylchiadau. Mewn amgylchiadau eraill—ac mae llawer o enghreifftiau o hyn—lle cafwyd cost gynyddol, rydym wedi gallu cytuno ar delerau lle gallwn ni rannu rhai o'r costau hynny ag ysgolion. Byddwn am barhau i wneud defnydd da o'r cyllid sylweddol rydym wedi'i ddarparu, ac rwy'n credu, fel y gall weld o'r datganiad, bod angen i ni fod yn hyblyg yn y modd yr ydym yn cefnogi ein hawdurdodau lleol i gyflawni hynny gyda ni.
Diolch, Weinidog am y datganiad heddiw. Yn amlwg, mae yna nifer o bethau i'w croesawu fan hyn. Rydyn ni'n bendant yn cytuno o ran yr angen i uwchraddio nifer o ysgolion. Rydyn ni'n gwybod, o fynd ledled Cymru ac ymweld ag ysgolion, bod yna ysgolion sydd ddirfawr angen buddsoddiad. Mae hwn yn rhan bwysig o ran sicrhau yr amgylchedd ddysgu, sydd hefyd mor bwysig, fel rydych chi wedi amlinellu, o ran gallu dylanwadu ar bresenoldeb yn yr ysgol, ac ati, os oes yna adnoddau yna. Rydyn ni hefyd wedi trafod yn flaenorol y manteision o ran cymunedau pan fo yna adnoddau sy'n gallu cael defnydd cymunedol y tu hwnt i oriau ysgol.
Yn debyg iawn i James Evans, mi fyddwn i'n hoffi canolbwyntio jest yn benodol o ran addysg Gymraeg, os caf i ddychwelyd at hynny. Roeddwn i'n falch o glywed beth roeddech chi'n ei ddweud yn eich ymateb i James o ran cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, oherwydd, yn sicr, rydych chi wedi clywed, gan amryw ohonom ni yr ochr yma i'r Siambr, esiamplau yn ein rhanbarthau ni lle rydym ni wedi teimlo, ar adegau, bod y buddsoddiad wedi bod yn ormodol felly mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, a phan mae yna ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn aml bod y rheini'n cael eu hadeiladu mewn cymunedau gwahanol i'r rhai lle'r oedd yna ysgol Gymraeg, a bod yna ysgolion cyfrwng Saesneg newydd yn mynd yno, a bod yna beryg mawr. Rydyn ni wedi clywed gan rieni eu bod nhw'n gwneud y dewis hwnnw o ran gyrru disgyblion i ysgolion cyfrwng Saesneg, gan felly adael addysg Gymraeg. Felly, byddwn i yn hoffi gwybod mwy, os gwelwch yn dda, o ran sut bydd y buddsoddiad pellach hwn—. Sut byddwch chi'n sicrhau bod y Gymraeg yn flaenoriaeth i awdurdodau a'n bod ni'n edrych, lle mae yna draddodiad wedi bod, yn arbennig o ran addysg Gymraeg—sut ydym ni'n sicrhau bod hynny ddim yn cael ei golli os oes yna ysgol cyfrwng Saesneg newydd yn dod mewn ardal?
Yn debyg iawn hefyd, rydym ni wedi trafod amryw o weithiau o ran trafnidiaeth, o ran yr adnoddau, fel bod pawb yn gallu manteisio ar hynny. Dwi'n gwybod bod hynny'n rhywbeth i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ond yn amlwg mae hyn yn mynd i fod yn elfen bwysig. A gyda chostau trafnidiaeth yn cynyddu hefyd, dwi'n meddwl bod yna rywbeth ehangach i sicrhau hynny.
Un o'r pethau rydym ni'n ei wybod o ran prosiectau fel hyn yn aml ydy eu bod nhw'n gallu cymryd amser hir. Dwi'n falch o glywed sut rydych chi'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd o ran amserlen ac ati—mae hynny'n sicr i'w groesawu. Ond, ar gyfer yr ysgolion hynny sydd ddim, efallai, yn llwyddiannus y tro yma, a bydd hi’n cymryd, efallai, blynyddoedd iddyn nhw allu cael y buddsoddiad sydd ei angen, ydych chi hefyd yn edrych fel Llywodraeth o ran sut rydyn ni'n defnyddio adnoddau cymunedol sydd yn bodoli eisoes, megis llyfrgelloedd neu amgueddfeydd lleol, sydd efallai wedi derbyn buddsoddiad? Mae yna brosiectau wedi bod yn y gorffennol, megis yn Abertawe, lle mi oedd yna brosiect llwyddiannus iawn o ran cael ysgol mewn amgueddfa, yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, am dymor cyfan, a manteision felly o ran defnyddio asedau cymunedol. Yn amlwg, mae nifer o'r rhain o dan fygythiad rŵan, ond pan ydych chi'n sôn am nifer o ysgolion yn dal efo portakabins sydd efallai wedi gweld dyddiau gwell ac sydd yn mynd i fod yno am flynyddoedd, oes yna ffordd inni edrych hefyd o ran sut rydyn ni'n gallu defnyddio asedau cymunedol mae ysgolion yn gallu cerdded iddyn nhw, fel ein bod ni hefyd yn gallu rhoi dyfodol cynaliadwy i bethau fel amgueddfeydd a llyfrgelloedd lleol, a hefyd wrth gwrs, yn cyfoethogi o ran y cwricwlwm, y manteision sydd yna felly? Dim ond i ofyn a ydy hynny yn rhywbeth rydyn ni'n edrych arno fo, yn enwedig o weld y bydd hi'n ofnadwy o dynn ar awdurdodau lleol. Rydyn ni'n gwybod bod costau prosiectau fel hyn yn mynd i fod yn cynyddu oherwydd chwyddiant, felly oes yna bethau amgen rydyn ni'n gallu eu gwneud? Mi wnaf i ei gadael hi'n fanna am rŵan. Diolch, Weinidog.
Diolch am y cwestiynau hynny. O ran y buddsoddiad yn y sector cyfrwng Cymraeg, fe wnaeth yr Aelod glywed yr hyn gwnes i ddweud wrth James Evans. Ond un pwynt i ychwanegu yn sgil beth mae hi wedi'i ddweud yw rwy'n credu mai un o'r heriau, efallai, neu un o'r gwendidau sydd gennym ni yn y cynlluniau strategol yw bod y pwyslais ar niferoedd, sydd wrth gwrs yn gwbl greiddiol i lwyddiant o ran yr hyn rŷn ni eisiau gweld ar y cyd o ran nifer o siaradwyr, ond mae'r elfen ddaearol yn bwysig hefyd, fel rydw i wedi sôn mewn amryw o gyfraniadau yn y Siambr yma. Mae'r elfen ddaearyddol yn bwysig o ran dosbarthiad y Gymraeg a hyfywedd y Gymraeg mewn cymunedau penodol, felly mae honno yn un o'r elfennau, wrth gwrs, sydd yn bwysig yn y strategaeth yn ehangach.
O ran y blaenoriaethu a'r aros ar gyfer buddsoddiad, rŷn ni yn nwylo'r awdurdodau lleol yn hynny o beth, oherwydd nhw sydd yn cynnig yr hyn maen nhw'n dymuno inni gydariannu gyda nhw o ran trefn amseru a blaenoriaethu, o ran ansawdd yr adeiladau sydd yno yn bresennol. Mae hynny'n cael ei wneud ar sail sydd yn wrthrychol, wrth gwrs, fel bod pawb yn deall beth yw'r criteria, ond ar ddiwedd y dydd nhw sy'n cynnig y cynlluniau i ni ac rŷn ni'n cydweithio gyda nhw ar ariannu'r rheini. Ond y flaenoriaeth wastad yn y cynllun yma yw blaenoriaethu'r ysgolion hynny sydd angen y mwyaf o adnewyddu, neu sydd yn y cyflwr, efallai, lleiaf atyniadol. Felly, dyna'r feddylfryd sydd y tu cefn i hyn i gyd.
Mae'r hyn sydd wedi'i wneud o ran creu system fwy hyblyg yn caniatáu i awdurdodau wneud penderfyniadau cyflymach yn hynny o beth. Yn hytrach na datgan cynllun am bum mlynedd a bod hynny'n sefyll mwy neu lai yn yr unfan, mae cyfle nawr i edrych ar hyn yn fwy aml, felly mae cyfle i newid y flaenoriaeth pan fo hynny'n addas, pan fo amgylchiadau newydd. Felly, bydd cyfnod o dair blynedd lle rŷn ni'n cytuno ar y proffil ariannu sydd angen go iawn, cyfnod o chwe blynedd lle byddwn ni'n cytuno ar fuddsoddiad neu gefnogaeth mewn egwyddor, ac wedyn cyfnod o naw mlynedd lle mae gyda ni ddarlun tymor hir o'r hyn mae'r awdurdod yn debygol o ofyn amdano. Felly, mae'n caniatáu llawer mwy o hyblygrwydd o ran y blaenoriaethu mae'r Aelod yn sôn amdano.
Jest i ddweud ar y pwynt diwethaf, rwy'n credu bod cysylltiad—. Un o'r pethau sydd wrth wraidd y cynllun her ysgolion cynaliadwy gwnes i sôn amdano fe yw cyfuno yr adeilad a'r amgylchedd addysgu gyda chyfleoedd cwricwlwm. Yr hyn rwy eisiau gweld yw bod plant a staff ynghlwm yn sut mae'r adeilad newydd yn cael ei ddylunio a'i adeiladu. Gwnes i weld hyn ar ymweliad ysgol ym Mhen-y-bont ryw flwyddyn yn ôl, a dyna wnaeth yn rhannol fy ysgogi i ar gyfer y cynllun ehangach. Felly, mae'r awgrym mae'r Aelod yn ei wneud o ddefnyddio asedau cymunedol ar gyfer cyfleoedd cwricwlwm yn un byddwn i'n ei gefnogi hefyd.
Diolch yn fawr iawn am eich arweiniad ar hyn wrth sicrhau bod pob prosiect newydd yn mynd i orfod bod yn ddi-garbon. Hoffwn wybod yn benodol sut mae Ysgol Gynradd South Point ym Mro Morgannwg yn rhannu'r gwersi a ddysgwyd o'r prosiect hwn, neu yn hytrach Cyngor Bro Morgannwg neu eich swyddogion, er mwyn sicrhau ein bod yn deall cryfderau a gwendidau'r prosiect braenaru hwn, yn ogystal â dadansoddiad o faint o lafur lleol oedd yn rhan o'r prosiect, neu a oedd yn rhaid mewnforio'r arbenigedd o Loegr neu rywle arall, oherwydd mae'n ffordd hanfodol iawn o ddeall sut mae ein cynllun sgiliau sero net am gael ei ysbrydoli. Rwyf hefyd yn ei bod hi'n ddiddorol iawn bod ysgol ym Merthyr, Ysgol Uwchradd Pen y Dre, a fydd yn cael ei hadnewyddu'n llwyr gan ddefnyddio'r sylfeini gwreiddiol. Felly, mae'r ddau yma'n ddiddorol iawn, iawn.
Yn ail, hoffwn gyfeirio at yr hyn yr oedd James Evans yn ei ddweud am deithio llesol a pha ystyriaeth rydych chi wedi'i rhoi i ryw fath o gynllun benthyciadau beic, yn debyg i gyflogwyr sy'n cynnig cynlluniau benthyg ar gyfer teithio llesol i weithwyr, fel bod teuluoedd tlawd hefyd yn gallu fforddio cael beic, yn hytrach na rhoi eu holl arian i dalu £400 y tymor ar fws. Heb yr arian sefydlu hwnnw, dydw i ddim yn credu y bydd hynny'n digwydd.
Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiynau hynny. Tynnais sylw at Ysgol Gynradd South Point oherwydd dyma'r ysgol sero net gyntaf yng Nghymru, yn etholaeth fy nghyd-Aelod yn y Llywodraeth, Jane Hutt. Credaf ei bod yn deg dweud, yn ôl pob tebyg—ac rwy'n gobeithio na fyddai ots ganddi i mi ei eirio felly—mae'n rhaid ei bod ymhlith yr ysgolion yr ymwelir â hi amlaf, er mwyn edrych ar yr hyn a wnaed yno, a diolch iddyn nhw am eu haelioni a'r croeso a gewch. Rwy'n ofni bod llawer ohonom wedi profi'r croeso hwnnw'n aml iawn. Felly, mae nhw wedi bod yn rhagweithiol iawn, iawn am fod yn barod i rannu hynny, ac rwy'n gwybod bod y cyngor yn cefnogi hynny ac yn ymestyn hynny yn fawr hefyd.
Yn ehangach, credaf fod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig iawn, serch hynny, am sut rydym yn prysur gyffredinoli arferion gorau a dysgu yn yr hyn sy'n ardal sy'n datblygu mewn rhai ffyrdd, onid yw? Felly, mae grŵp gorchwyl a gorffen datgarboneiddio adeiladau sectoraidd, y mae Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yng Nghymru wedi'i ddatblygu ac mae hynny'n cyd-fynd â'n hymrwymiadau datgarboneiddio. Mae wedi creu pecyn cymorth sy'n gallu cefnogi datblygiad y prosiectau hyn, o ran bod yn garbon niwtral mewn termau gweithredol ond hefyd o ran y carbon ymgorfforedig. Felly, mae corff o arbenigedd bellach yn cael ei greu y gallwn ni sicrhau ei fod yn cael ei ddeall a'i rannu.
Mae'r pwynt y mae'n ei wneud ar nodi'r sgiliau a'r llafur lleol yn bwysig iawn. Un o'r egwyddorion yng nghronfa her ysgolion cynaliadwy oedd blaenoriaethu defnyddio sgiliau lleol a'r economi sylfaenol yn lleol i leoliad yr ysgol, am resymau y gwn ei bod yn rhannu fy ymrwymiad a'm hangerdd amdanynt. Ond, rydym yn gweithio ar hyn o bryd i nodi'r hyn sy'n amlwg yn rhyw lefel o fwlch sgiliau yn y maes hwn, a chlywsom Vaughan Gething yn siarad rhywfaint am hyn yn gynharach. Felly, mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda'r sector i nodi beth sydd angen digwydd yn y maes hwnnw.
O ran teithio llesol, tua blwyddyn neu ddwy yn ôl, gofynnon ni i gadeirydd y bwrdd teithio llesol edrych ar yr amodau yr ydym yn eu nodi ar gyfer y cyllid cymunedau dysgu cynaliadwy er mwyn sicrhau eu bod yn ymestyn. Ac felly, mae rhai datblygiadau wedi bod ers hynny. Ond, rydym hefyd yn edrych ar waith y pwyllgor roedd Huw Irranca-Davies yn rhan ohono, yn edrych ar deithio llesol yn ehangach, a dywedwyd rhai pethau heriol wrthym ynghylch i ba raddau y gallwn ni ac y dylem ni fynd ymhellach o ran buddsoddi mewn ysgolion newydd ynghylch theithio llesol. A'r pwynt mae'n ei wneud, rwy'n siŵr, yw un o'r pwyntiau y byddwn ni'n eu hystyried, felly diolch am godi hynny heddiw.
Hoffwn sôn am addysg cyfrwng Cymraeg—ac rwy'n siŵr na fydd hynny'n synnu'r Gweinidog—mae buddsoddi ynddi i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru yn mynd i fod yn hanfodol. Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn enghraifft wych. Do, clywsom yr wythnos ddiwethaf bod darpariaeth y Gymraeg yn cynyddu, yn ôl pob golwg, wrth adeiladu ysgol newydd ym Mhorthcawl ac ehangu Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ond, os edrychwch chi eto, byddwch yn gweld bod buddsoddiad sylweddol o hyd mewn ehangu addysg cyfrwng Saesneg. Bro Ogwr, sef fy hen ysgol gynradd i, ydy mae'n ehangu, mae'n symud i safle newydd, mae'n cynyddu'r niferoedd, ond ar ei safle presennol, mae ansicrwydd o hyd a fydd hi'n parhau'n ysgol cyfrwng Cymraeg ai peidio.
Felly, ydy'r Gweinidog yn hyderus bod Pen-y-bont yn symud yn ddigon cyflym i gyrraedd ei darged yn y WESP? Dwi'n gwybod bod y Gweinidog yn ymwybodol o'r sefyllfa ym Mhen-y-bont, a dwi'n gwybod ei fod e'n cael trafodaethau di-rif gyda'r cyngor, ond fel nifer yn y Siambr hon, dwi eisiau gweld y cyngor yn symud lot yn gyflymach.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae angen darparu ysgolion addysg cyfrwng Cymraeg ac ysgolion addysg cyfrwng Saesneg. Mae galw yn y ddau faes. Felly, yr her i ni a'r dymuniad sydd gennym ni fel Llywodraeth yw sicrhau bod un ddim yn digwydd ar draul y llall. A dyna'r pwynt roeddwn i'n ei wneud yn gynharach, wrth gysylltu buddsoddiadau yn y seilwaith ehangach gyda chynnydd addas a chyflym wrth ddelifro'r cynllun strategol. Mae hynny'n elfen bwysig o'r ffordd hyn o weithio. Rwyf wedi cael trafodaeth gyda'r awdurdod, gyda'r arweinydd, aelod cabinet dros addysg a'r cyfarwyddwr addysg i drafod y cynllun strategol fel rhan o'r trafodaethau dwi wedi bod yn eu cael gyda phob cyngor ar eu cynlluniau nhw. Rwy'n credu bod cynlluniau'r cyngor yn rhai uchelgeisiol, ac rôn i wedi trafod gyda nhw pa mor bwysig yw e i wneud cynnydd cyflym ar hynny, ac mae'r cyngor yn sicr yn derbyn hynny. Rwy'n credu bod y cyngor hefyd yn derbyn, yn y gorffennol efallai bod dim digon o gynnydd wedi bod a bod hynny'n gosod disgwyliadau pobl mewn lle gwahanol, ac rwy'n credu bod cael y sgwrs agored honno wedi bod yn beth cadarnhaol. Rwy wedi dweud wrth bob awdurdod yng Nghymru, rwy'n falch iawn o weld cynlluniau uchelgeisiol, ond yr hyn sydd angen gweld ar lawr gwlad yw delifro nhw a gweld datblygiadau'n digwydd, yn go iawn.
Gweinidog, roedd yn bleser ymuno â chi yn weddol ddiweddar yn yr ysgol gynradd newydd sbon yn fy etholaeth i, sef ysgol gynradd Hirwaun, a adeiladwyd o dan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, gyda £10.2 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Rhondda Cynon Taf. Rwy'n meddwl, yn ôl pob tebyg, mai hi oedd un o'r ysgolion olaf i gael ei adeiladu o dan y fersiwn hon o'r cynllun yr ydym yn ei drafod nawr. Ymysg manteision cynllun gweithredu gwerth cymdeithasol y prosiect hwnnw, rhoddwyd 90 y cant o wariant i fusnesau yng Nghymru, 21 o swyddi adeiladu i newydd-ddyfodiaid, a 10 prentisiaeth i newydd-ddyfodiaid. Felly, hoffwn ofyn sut mae buddion gwerth tebyg yn parhau i fod yn flaenoriaeth, wrth symud ymlaen.
Diddorol hefyd oedd clywed eich sylwadau ynghylch manteision symud tuag at raglen gyflawni dreigl. Mae'r rhain yn ffactorau gwthio pwerus er mwyn gwneud y newid, ac rwy'n eu deall yn llwyr. Fodd bynnag, byddwn i'n nodi, pan gytunir ar brosiect, fel yng Nglyn-coch yn fy etholaeth i, fod cryn frwdfrydedd yn naturiol gan y disgyblion, y rhieni a'r athrawon i'w weld yn symud ymlaen yn gyflym. Felly, tybed a ydych chi wedi nodi unrhyw broblemau y gallai'r rhaglen gyflawni dreigl newydd eu hachosi, neu a oes unrhyw rybuddion y gallai arwain at lithriad, ac os nodir y rhain, pa systemau fyddai'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau fel arall?
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny—cwestiynau pwysig iawn. Rwy'n credu ei bod yn rhy fuan i wybod a fydd y dull newydd yn dangos bod yna heriau. Credaf, mewn egwyddor, y dylai fod yn llawer mwy craff a dylai fod yn llai beichus, i'r awdurdodau ac i'r Llywodraeth, sy'n amlwg wedyn yn cynnig cyfleoedd i ymdrin â phethau mewn ffordd ychydig yn fwy hyblyg ac i roi'r cymysgedd cywir, yn fy marn i, o ganolbwyntio ar gyflawni'n uniongyrchol fel yr oedd yr Aelod yn ei ddweud, bod angen cynnal cyflymder y rhaglen, sy'n amlwg yn bwysig iawn, ond hefyd i roi'r gorwel tymor hirach hollbwysig hwnnw fel y gallwn gynllunio ar y cyd ar draws y system ar gyfer prosiectau yn y dyfodol hefyd, ac yn amlwg mae bod â rhaglen dreigl yn galluogi hynny i gael ei addasu mewn ffordd mwy craff a mwy ymatebol.
Felly, dyna'r meddylfryd y tu ôl i'r rhaglen. Yr hyn rwy'n awyddus i'w ystyried yw sut mae rhai o'r disgwyliadau uwch, os gallaf ei eirio felly, yr ydym wedi'u gosod drwy'r rhaglen her ysgolion cynaliadwy—. Bydd hynny'n arwain at adeiladu dwy ysgol newydd fel rhan o hynny, ond mewn gwirionedd, fel y clywodd yr Aelod, roedd 17 cais, ac rwy'n gwybod, ymysg y ceisiadau hynny, fod llawer o arloesi, a llawer o feddwl creadigol, felly mae'r ymarfer hwnnw ynddo'i hun, yn fy marn i, wedi cyflwyno nifer o wersi gwahanol y gallwn ni eu dysgu ar gyfer prosiectau, o ran cadwyni cyflenwi lleol, ond hefyd y defnydd ehangach o'r economi sylfaenol, yn ogystal ag, yn fy marn i, un o'r cyfleoedd go iawn yma, a gwn fod gan yr Aelod ac eraill ddiddordeb ynddo, sut y gallwn ni wneud yn siŵr bod bioamrywiaeth, cynhyrchu bwyd cynaliadwy a'r mathau hynny o ddatblygiadau hanfodol yn rhan annatod o fywyd yr ysgol, ond hefyd y safle a sut maent yn cael eu hadeiladu. Felly, yn fy marn i, mae amrywiaeth o feysydd newydd i ganolbwyntio arnyn nhw, o bosibl, yn y rhaglen lai honno, ac rwy'n gobeithio y gallwn ddysgu o lwyddiant hynny ar draws y rhaglen fuddsoddi ehangach.
Ac yn olaf, Sioned Williams.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rŷch chi'n sôn yn eich datganiad am sut mae'r rhaglen yn rhoi modd o weithredu ar flaenoriaethau cenedlaethol fel hybu'r Gymraeg. Weinidog, fe wyddoch bod achos busnes amlinellol gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i agor ysgol enfawr newydd cyfrwng Saesneg ym Mhontardawe dan gynllun ysgolion unfed ganrif ar hugain, fel ag yr oedd bryd hynny, wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, a bod yr ymgynghoriad a ddilynodd wedi arwain at adolygiad barnwrol llwyddiannus, a ddyfarnodd ei fod yn anghyfreithiol, am fod y cyngor ddim wedi asesu effaith hyn ar y Gymraeg. Ac mae'r adroddiad a gomisiynodd y Llywodraeth ei hun ar effaith y cynllun hwn ar y Gymraeg yn glir nad oes modd lluniaru'r effaith niweidiol ar yr iaith. Ond mae'r un cynllun mas unwaith eto ar gyfer ymgynghoriad, ond heb gymeradwyaeth cychwynnol y Llywodraeth, byddai hyn ddim yn gallu digwydd. Dwi'n gwybod na fedrwch chi roi sylw ar yr achos yma, ond hoffwn wybod a oes modd cael sicrwydd bod pob cynllun busnes sy'n cael ei gymeradwyo dan raglenni cyfalaf ym mhob achos y Llywodraeth yn ystyried yr effaith lawn ar y Gymraeg. Os felly, a fydd y Llywodraeth yn gwrthod bwrw ymlaen â chydgyllido unrhyw gynlluniau sydd eisoes wedi eu cymeradwyo yn amlinellol, ond sydd yn niweidiol i'r Gymraeg, lle nad yw'r gwaith adeiladu eisoes ar droed, wrth gwrs?
Allaf i ddim gwneud sylwadau o ran penderfyniadau o ran y cynllun penodol mae'r Aelod yn sôn amdano. Rwy'n gwybod y gwnaeth hi ymgyrchu a gwnaeth ymgeiswyr Plaid Cymru yn yr etholiad lleol ymgyrchu ar y sail na ddylai'r ysgol fynd yn ei blaen. Wrth gwrs, mae'r Blaid nawr yn cydreoli'r cyngor ond nid dyna'r penderfyniad mae'r cyngor eisoes wedi ei wneud, fel yr wyf i'n deall hynny.
Fel rhan o'r achos yn yr Uchel Lys, wrth gwrs, fel mae'r Aelod yn dweud, roedd trafodaeth bwysig iawn ynglŷn ag effaith y datblygiad ar y Gymraeg, a fel mae'r Aelod yn gwybod, roedd asesiad penodol wedi cael ei wneud gan y Llywodraeth o'r hyn fyddai angen ei wneud er mwyn gallu lliniaru hynny. Felly, mae cyfle i'r cyngor o dan arweinyddiaeth ar y cyd gan Blaid Cymru gymryd y camau hynny os ydyw'n agored iddyn nhw wneud hynny.
Mae angen sicrhau ar bob cam pan fo unrhyw gyngor yn edrych am fuddsoddiad wrth Lywodraeth Cymru fod anhengion eu cynllun strategol wedi cael eu cyrraedd a hefyd bod yr impact ar y Gymraeg wedi cael ei ystyried yn llawn. Felly, mae hynny eisoes yn rhan o'r trefniadau sydd gennym ni ar waith.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 8 yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans.
A fyddai ots gennych chi, Dirprwy Lywydd, pe baem ni'n gwneud y Bil banc mewnstrwythurol yn gyntaf, oherwydd roedd gennyf ar fy rhestr ar gyfer cyfarfod heddiw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022? Felly, fe wnawn ni geisio datrys hynny. Ymddiheuriadau.
O'r gorau. Fe ataliwn ni yr un yna ar hyn o bryd, byddaf yn gwirio beth yw'r rheoliadau a'r Rheolau Sefydlog, ond fe symudwn ni ymlaen i eitem 9 felly.
Diolch, Dirprwy Lywydd.