1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2023.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru? OQ59021
Yr wythnos diwethaf cafodd les gwely'r môr ei dyfarnu i'r prosiect Mona, ac mae hynny’n garreg filltir. Os bydd yr amodau'n iawn, bydd modd denu buddsoddiad mawr o’r sector preifat i greu dyfodol ynni adnewyddadwy i Gymru.
Mi ddywedodd y Brenin Siarl wythnos diwethaf ei fod yn awyddus i weld cyfran o elw Ystad y Goron yn cael ei ddefnyddio at les cyhoeddus ehangach. Byddai nifer ohonom ni'n dadlau y dylai holl arian Ystad y Goron gael ei ddefnyddio at les cyhoeddus ehangach. Mae'n bolisi bellach gan nifer ohonom ni i ddatganoli Ystad y Goron. Byddwn i'n falch iawn i glywed pa waith mae'r Llywodraeth yn ei wneud ar hyn o bryd i symud yr agenda yna yn ei flaen. Ond hefyd, ydych chi'n cytuno â fi na ddylai incwm sy'n cael ei greu gan Ystad y Goron fod yn sail i'r grant sofran sydd yn cynnal y teulu brenhinol?
Polisi'r Llywodraeth yw cael Ystad y Goron wedi ei ddatganoli i ni yma yng Nghymru. Rŷm ni wedi cael mwy nag un sgwrs gydag Ystad y Goron ac rŷm ni wedi rhoi yr un syniad i Lywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd. Fel dwi'n gwybod y bydd Llyr Gruffydd yn gwybod, gyda Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig, bydd dim cyfle, dwi ddim yn meddwl, i symud ymlaen gyda'r syniad yna. Ond ym marn y Llywodraeth, dyna yw'r ffordd orau i wneud pethau. Drwy ei gwneud hi fel yna, bydd yr arian o'r pethau naturiol yma yng Nghymru yn nwylo pobl yng Nghymru, a honno yw'r ffordd orau i symud ymlaen.
Cynlluniau datblygu, ac, yn wir, ein cynllun datblygu cenedlaethol, yw'r asgwrn cefn pan fyddwn ni'n edrych ar gynllunio yn y dyfodol ar dir. Rydym ni wedi gofyn, am sawl rheswm, pam nad oes yr un dull manwl allan ar y môr. Mae hwn yn bwynt rydym ni wedi siarad amdano ers sawl blwyddyn. Roeddwn i'n falch o weld mwyafrif yn y Senedd Cymru hon yn cefnogi ein cynnig deddfwriaethol i greu cynllun datblygu morol cenedlaethol i Gymru. Nid ydych chi wedi bwrw ymlaen â'r cynigion hyn eto, ac maen nhw wedi'u cefnogi gan RSPB Cymru, sefydliadau anllywodraethol eraill a llawer o gadwraethwyr. A fyddech chi'n cytuno â mi bod dull gofodol yn allweddol?
Gan droi at gyllideb 2023-24, fel y mae Cyswllt Amgylchedd Cymru wedi ei amlygu, mae'n peri gofid mawr gweld y gwrthgyferbyniad rhwng llinellau cyllideb tystiolaeth a chyllid polisi morol, sydd oddeutu £1.9 miliwn, ac ynni morol, sydd wedi'i osod ar £7 miliwn. Mae hwnnw'n gryn fwlch. A wnewch chi egluro'r bwlch o £5.1 miliwn? Gwn fod angen ynni adnewyddadwy arnom ni, Prif Weinidog, ond mae'n rhaid i chi gydbwyso hyn, ac rydyn ni wedi bod yn galw ar y Gweinidog i wneud hyn drwy gael y cynllun yma. Oni fyddech chi'n cytuno bod mwy o dystiolaeth yn bwysig nawr, os yw Llywodraeth Cymru yn parhau i gynllunio i gyflymu datblygiadau ynni adnewyddadwy ar y môr, fel nad yw'r rhain yn dod ar draul ein bioamrywiaeth naturiol a'n cadwraeth? Diolch.
Mae gennym ni gynllun morol. Cyhoeddwyd cynllun morol cyntaf Cymru ym mis Tachwedd 2019 a gosodwyd yr adolygiad tair blynedd gyntaf o'r cynllun hwnnw gerbron y Senedd ar 10 Tachwedd. Felly, nid wyf i'n hollol siŵr beth mae'r Aelod yn gofyn amdano pan fo'r cynllun hwnnw yn bodoli ac wedi cael ei adrodd yma i Aelodau'r Senedd. Ar fater penodol y gyllideb, mae'r Gweinidog gerbron y pwyllgor yfory ac rwy'n siŵr y bydd yn gallu ymateb i'r pwynt hwnnw. Fodd bynnag, Llywydd, mae'n anodd i mi wybod yn iawn sut i ymateb i'r negeseuon anghyson yr wyf i'n eu cael gan aelodau o'r Blaid Geidwadol. Rwy'n derbyn llythyrau gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn fy annog i fwrw ymlaen â datblygiad ac i beidio â chaniatáu i ystyriaethau amgylcheddol oedi gwaith angenrheidiol ynni adnewyddadwy, ac mae gen i'r Aelod yma o'r un blaid yn fy annog i beidio â rhuthro ymlaen â datblygiad ynni fel y gallwn ni ddiogelu'r amgylchedd.
Y gwir amdani yw bod yn rhaid i chi gydbwyso'r ddwy ystyriaeth hynny, ac maen nhw'n anodd eu cydbwyso. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf wrth ateb Sam Kurtz, rwyf i eisiau i Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn sefydliad sy'n galluogi. Rwyf i eisiau iddo allu rhoi hyder i ddatblygwyr ynni adnewyddadwy, gan gynnwys datblygiadau ynni morol. Rwyf i eisiau i'r datblygwyr hynny fod yn ffyddiog bod y system yn bodoli yng Nghymru i gael y cydsyniadau sydd eu hangen arnyn nhw. Ar yr un pryd, mae'n rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru gyflawni ei gyfrifoldebau fel rheoleiddiwr amgylcheddol. Yng Nghymru, ni wnawn ni aberthu amgylchedd gwerthfawr y môr mewn rhuthr byrdymor i weld datblygiadau nad oes modd cydsynio iddyn nhw. Ond mae cydbwyso'r ddau beth hynny yn beth anodd. Ac rydym ni'n ei drafod; gwn i'r Gweinidog ei drafod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru dim ond yr wythnos diwethaf.
Rwy'n croesawu datganiad y Prif Weinidog wrth ymateb i Llyr Gruffydd yn cefnogi datganoli Ystad y Goron. Rwy'n credu bod hwnnw'n gam pwysig iawn o ran darparu cyflenwadau ynni adnewyddadwy i Gymru, ac rwy'n edrych ymlaen at ddatganiad y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ddiweddarach y prynhawn yma ar y targedau hynny. Ond, Prif Weinidog, yn ogystal â sicrhau bod y gallu gennym ni i ddarparu'r datblygiadau graddfa fawr sydd eu hangen i gyrraedd targedau sero net, a yw hefyd yn bosibl cydbwyso hynny â mwy o bwyslais ar gynhyrchu adnewyddadwy lleol sy'n eiddo i'r gymuned? Oherwydd pan fyddaf yn siarad â'm hetholwyr, mae ganddyn nhw ofnau am rai o'r datblygiadau ar raddfa fwy a allai ddigwydd ar bennau'r cymoedd sydd o amgylch Blaenau Gwent, ond yr hyn y maen nhw ei eisiau yw ymrwymiad i sero net, ac maen nhw eisiau chwarae eu rhan i sicrhau sero net. Ac mae hynny'n golygu cynlluniau lleol, y gallwn ni deimlo'n gyfrifol amdanyn nhw ac yr ydym ni'n teimlo y gallwn ni fod yn rhan ohonyn nhw, i sicrhau bod gan bob rhan o'n cymuned fynediad at gynhyrchiad ynni adnewyddadwy am gost resymol.
Rwy'n sicr yn cytuno ynghylch pwysigrwydd ynni cymunedol lleol. Yn y datganiad y bydd y Gweinidog yn ei wneud yn ddiweddarach y prynhawn yma, rwy'n rhagweld y bydd ganddi rywbeth i'w ddweud am dargedau newydd a mwy uchelgeisiol yn y rhan honno o'r hyn rydyn ni'n ei wneud.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ein cefnogaeth i Ynni Cymunedol Cymru yn sylweddol. Ein cyn gyd-Aelod Leanne Wood sy'n cadeirio y dyddiau yma, ac roeddwn i'n ddiolchgar am drafodaethau diweddar gyda hi am rai datblygiadau ynni cymunedol posibl yn etholaeth Gorllewin Caerdydd. Felly, rwy'n credu, fel mae Alun Davies wedi dweud am ei etholwyr, ym mhob rhan o Gymru mae unigolion a sefydliadau sydd eisiau gweld, yn ogystal â'r ymrwymiad graddfa fawr hollol angenrheidiol i ynni adnewyddadwy, y gallu i wneud pethau yn yr ystyr leol honno. Rydyn ni wedi ymrwymo i gynhyrchu cyfran sylweddol iawn o ynni adnewyddadwy yng Nghymru drwy'r llwybr lleol hwnnw, ac mae cefnogaeth cymunedau ledled Cymru iddo yn rhan o'r cryfder y mae Cymru yn ei gynnig i'r agenda hon.